Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

EISEDDFOD LLWYNYPIA Y NADOLIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISEDDFOD LLWYNYPIA Y NADOLIG. Un o ddysgyblion Mr. D. Buallt Jones oedd yn fuddugol ar chwareu ar y Pianoforte. Enillwyd y wobr o i3 am y chwareu goreu o unrhyw dair Alaw Gymreig, gan y Llan- trisant Drum and Fife Band. Cystadleuodd 3 chor ar y prif ddarn corawJ, 'Anthem Fuddugol Manchester,' sef Cor Undebol Trealaw, o dan arweiniad Mr. E. Evans; Cor Nebo, Ystradyfodwg, o dan arweiniad Mr. R. Howells (Alaw Cynon); a Chymdeithas Gorawl Llwynypia, o dan arweiniad Mr. J. Jones (Alaw Gwendraith). Rhanwyd y wobr o S15 a Baton rhwcg y ddau gor olaf. Enillwyd y Recit a'r Solo gan Mr. D. Evans, Bodringallt, yr hwn a gafodd uchel gan- moliaetn gan y beirniad; efe hefyd cedd y buddugol ar y Solo Tenor 'The enemy said,' un o ddarnau yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf, gwobr 21s. Ar ddiwedd y gys- tadleuaeth gorawl, canodd Eos Dar Gweno Fwyn, nes gwefreiddio y pedwar cant a'r ddeg oedd yn bresenol, a rhoddwyd iddo encore byddarol. Yn yr hwyr cynaliwyd Cyngherdd o dan lywyddiaeth Mr. W. Davies, Cwrt Villa, pryd y cymerwyd rhan gan Mrs. Jenkins (Eos Llwynypia), Miss Morgan, diweddar o Llanelli, Eos Dar, Mr. R. C. Jenkins, a Llew Caerau, Maesteg. Gwaaanaethwyd ar y Piano gan Miss Gertrude Williams, Teacher of Music, Pentre, yn hynod giomoladwy. Gyred 'C'adifer' ei gyfeiriad i Ysgrifenydd yr Eisteddfod. GOHEBYDD.

EISTEDDFOD GADEIRIOL DEHEUDIR…

EISTEDDFOD NADOLIG PHILA-…

YSTRADGYNLAIS. !

EISTEDDFOD GWAUNCAEGURWEN.

CAIS AT MR. JAMES REYNOLDS,…

EISTEDDFOD TREFORIS.

YR ALCANWYR.

STRIKE Y OYMER-MABON A MR.…

YSTRAD-RHONDDA.

Advertising

BETHLEHEM, A BERCRA VE.