Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL YR WYTHNOS. Ffrwydrodd berwedydd yn nhy Mr. Kendal, yn Winto, Patricroft, Manches- ter, ddydd Sadwrn ddiweddaf, gan anafu Mrs., Kendal a'i phedair merch, yr ieuang- af yn dra pheryglus: yr oedd y pedair ar y pryd yn dilyn eu gorchwylion yn y gegin. Deallwn fod y glowyr a weithient yn nglofa Pwllsaint, Fforest Fach, i'r nifer o 200, y rhai oeddynt wedi rhoddi fyny gweithio mewn canlyniad i'r cynygiad am 10 y cant o ostyngiad, wedi ail ymaflyd yn eu gwaith ar delerau y meistri. Y mae pethau yn ymddangos yn dyfod yn fwy difrifol bob dydd yn Mlaenafon. Y mae y glowyr yn eu cyfarfodydd yn ys- tafell y White Horse, yn dal yn ddiysgog i wrthod cynygion y meistri. Gofynir iddynt gymeryd gostyngiad o 10 y cant, neu gyflog diwrnod unwaith y mis, hyd nes daw masnach yn well. Ystyria y dynion hyn yn eithafol, ac y maent, mewn :.a.'lli "f J iinZiiiQtiy'lL'.i ::3: costied g'íj. Bott; odydd .o rY-v M S. lygwydd- <•?*■ flnr- • Iran new- ydd o Reilffordd y Great Western, yn Nghastellnedd, yr hyn a derfyoodd yn angeuol i Mr. W. Paul, tin o swyddogion fythyrdy. Ymddengys fod y trancedig & cyfarfod a'i angau drwy groesi y ell pan oedd csrbydres y bore yn troi i Jffiell Glyn-nedd. Tarawyd ef i lawr gan J peiriant, a llusgwyd ei gorff ar hyd y v: Hindi, gan ei chwilfriwio yn ddarnau. Y mae Macmillan yn myned i gyhoeddi gwaith Mr. Blackiston, un o Inspectors yr ysgolion o dan y Llywodraeth, yn cyn- i /wys awgrymiadau ymarferol yn nghylch addysg plant, o dan yr enw The Teacher. r Yr oedd y eyfanswm o gig a ddygwyd, i'r wlad hon yr wythttos ddiweddaf o'r Unol Dalaethan a Chanada, yn fwy nac mewn unrhyw wythnos yn ystod y tymhor hwn. Y mae amaethwr o'r enw Richard Jenkins, Maesgelwys, ger Ystradgynlais, i sefyll ei brawf yn y sesiwn nesaf ar y cyhuddiad o ladrata pymtheg o ddefaid oddiar W. Rees, Gellimarch. Y mae Mr. David Jones, Tonvpandy, wedi ei ethol yn relieving officer" plwyf Ystradyfodwg, aUan o'r 48 ym- geiswyr. Cafodd dyn o'r enw John Tarrington ei saethu yn farw yn Grangetown, Caer- dydd, dydd Iau diweddaf. Yx oedd ei gyfaill wedi saethu at aderyn, ac wedi methu, a phan ar ollwng yr ail ergyd aeth Tarrington o flaen yr ergyd, ac a'i der- byniodd yn ei wegyl. Y mae yn dda genym ddeall fod Mri, Thomas a Griffiths, Gelli a Ty'nybedw, wedi dyfod o hyd i wythien naw troedfedd Aberdar, yn ei glofeydd ar ystad y Gelli. Mag-clinad Gwaith.-Dywed y -Labour News fod y farchnad waith yn isel. Nis gellir dweyd fod bywhad pwysig wedi cy- meryd lie yn marchnad glo, haiarn, na chotwm. Y mae eyflogau wedi dyfod i lawr yn mhob cangen o waith. A thuag i lawr y mae pob peth yn myned. Ond diau y daw pob peth yn well cyn bo hir. Felly y dysgwylia General Grant, America. r

ABERCARN.

TANCHWA ARSWYDUSH

PUMP 0 BERSONAU WEDI EU LLADD…

♦_ MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.

A'PTPr'ITA'M'IQT ». ¥• GHANIST-,…

CWYMP CANDAHAR.

BRWYDR GERLLAW CAN^W#

RHEWII FARWOLAETH.

MARWOLAETH ETO AR FYNYDD TREHERBERT.

. SCIWEN-BODDIAD.

TONMAWR.

ABERCENFFIG. *

GLAIS.'.'

CYFARFOD CYSTADLEUOL BUTCHERS'

GLOFA TY'NYBEDW.

Advertising

CWMNEDD.

DEWRDER CANMOLiDWY.