Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
HYDE PARK, AMERICA.
HYDE PARK, AMERICA. MRI. GOL.Yr wyf yn teimlo awydd arnaf i roddi ar ddeall i ddarllenwyr y DAR- IAN ychydig o helynt eu cydgenedl yn y lie uchod, yn nghyda rhai o enwogion a ymwel- ant a ni o bryd i bryd. Ychydig ddyddiau yn ol ymwelwyd a ni gan y telynor byd-enwog, Ap Thomas, ac yr oedd cynulleidfa fawr yn ei wran daw, a phawb yn teimlo yn wir ddiolchgar am y cyfleusdra o'i wrando yn tynu y tanau. Dydd Nadolig yr oedd yma eisteddfod fel arfer. Er nad oedd hon mor boblogaidd a'r rhai blaenorol, eto cawsom gyfarfodydd da. Yr oedd yma gystadleuaeth luosog ar bob peth ond y canu. Yr oedd yma rai dyeithr- iaid, ac yn eu plith Proff. W. R. Williams, o Newark, New Jersey, yr hwn sydd wedi ym- drechu llawer i gyrhaeddy safley mae ynddi yn bresenol. Y mae llawer wedi cael gwell manteision na Mr. Williams, ond eto y mae wedi gorchfygu pob rhwystrau. Daeth i'r wlad hon oddeutu wyth mlynedd yn ol o Aberdar, a bu am rai blynyddau yn gweithio yn y glo, ond heddyw yn Professor of Music, ac yn cael ei gyflogi i ganu gan y Bedyddwyr yn y lie uchod. Canodd ddwy gâu yn yr eisteddfod, a cmfodd gymeradwyaeth uchel iawn. Ar y 27ain cynfisol, cawsom y gorahwyl torcalonus o osod un o weinidogion y lie hwn yn nhy ei hir gartref, sef y Parch. MoatS Wright, yr hwn oedd a gofal yr eglwys Fed- yddiedig yn Hyde Park. Parhaodd ei gys- tudd am ehwe' wythnos. Gadawodd briod a phedwar o blant anwyl i alaru ar ei ol. J. D. G.
GLOFA NAVIGATION, MOUNTAIN…
GLOFA NAVIGATION, MOUNTAIN ASH. Dymunem hysbysu pawb y perthyn iddynt wybod ein bod ni sydd a'n henwau isod wedi cael ein hethol gan ein cydweithwyr i ar- chwilio y lofa uchod, er cael allan a ydyw yn ddyogel oddiwtth losgnwy tanddaearol. Dechrenasom ein hymchwiliad Rhagfyr 31ain, 1878t ac aethom i waered trwy y re- turn i'r Prince of Wales, dosbarth Phillip Jones. Chwiliasom yr oil o'r hen waith a'r gweithleoedd newyddion, ac ni a'u cawsom oil yn hollol Iân oddiwrth nwy, a daethom yn ol dros yr engine plans at y pwlL Yna i ran orllewmol y lofa, dosbarth John James, ac aethom i mewn i'r return ar waelod head- ing 15, ac i waered trwy y return, gan chwilio y tair deep, lie cawsom y blowers canlynol: -un yn heading Eli Lewis yn y glodeo, ac un arsal yn nhalcen John Brown; ond nid oedd nwy crynhoawl yn un o'r ddau le hwn. Cawsom un blower bychan yn hen dalcen Daaiel Harris yn heading 19, ond dim crynofa o nwy. Dychwelasom yn ol trwy y return gan ganlyn un arall yn mlaen i ran ddwy- reiniol y lofa, sef dosbarth David Morgan. Chwiliasom yr oil o'r hen waith a'r newydd, ac ni a'u cawsom yn hoUollân oddiwrth nwy. Dychwelasom yn ol dros yr engine plane at y pwll. Ionawr laf, 1879, aethom i waered trwy y return i'r branch line, dosbarth E. Morgan, ac oddiyno i lefel y back. Chwiliasom yr oil o'r hen waith a'r newydd, ac ni a'u cawsom yn hollol lstn eddiwrth nwy. Oddiyno i'r adran isaf yn y deep, sef dosbarth J. J ones, ac ni a'i cawsom yn hollol l&u oddiwrth nwy. Daethom i fyny drwy y retwn i lefel Roach, ac ni gawsom yr holl waith no yn hollol lan. Daethom i fyny drwy y return yr ochr ddwyreiniol i'r deep ac at y pwlL Cawsom y lofa wedi ei gwyntyllu yn fodd- haol yn mhob adran o honi, a'r returns mewn sefyllfa dda, a manholes wedi eu gwneud yn rheolaidd yn unol a Chyfraith Glofeydd. Y mae clod mawr yn ddyledus i Mr. Bevan manager, a'r swyddogion ereill, am eu gofal a'u deheurwydd yn awyru ac yn eario yn mlaen lofa mor helaeth, er dyogelwch y oan- oedd gweithwyr sydd yn gweithio danynt. THGS. HARRIS. DAVID DAVIES. I"&y.?.. r, 8 ""T"T
UWJW.J5AUJtl,
UWJW.J5AUJtl, Nos Sadwrn diweddaf cynaliwyd cyfarfod adroddiadol a chanu, gan ddeiliaia Ysgol Sabbothol Carmelz perthynol i eglwys An- nibynol Bryn Seion. Dechreuwyd trwy ganu a gweddio gan E. Baffton. Llywydd- wyd gan Mr. F. Phillips. Wedi cael aner«h- iad ganddo, awd yn mlaen a gwaith y cyfar- fod. Adrodd Peidiwch a dadleu' gan E. Lewis. Cann 'Daniel's Band' gan Mr. F. Phillips a'i blant. Adrodd Mae Richard bach yn hardd' gan Mr. Mofgao. Canu Y Golomen Wen' gan D. Harris. Adrodd' Yr Iesu a wylodd' gan D. J. Jones. Canu1 Oii y colledigion'jgan J. Smith. Adrodd Crist yn derbyn pechaduriaid' gan S. Pieroe. Canu Jericho'.Fawr' gan J. Davies. Adrodd Yn y dyfroedd mawr a'r tonau' gan Mary Davies. Canu Yn wynach na'r ôd I gaD gor y lie. Adrodd Mae genyf wraig fy hun' gan W. Phillips. Canu 'Call my brother back' gan J. Davies a L. Edmunds. Adrodd 'Ymgnawdoliaeth Crist' gan D. Buffton. Canu Y bwthyn ar y traeth' gan J. Llewelyn. Adrodd 4 Gweddi plentyn' gan T. Pierce. Canu Dring dring i fyny' gan D. Davies a D. Evans. Adrodd Yn ngenau y sach mae cynilo y blawd' gan M. A. Phillips. Aeth pawb trwy eu gv^aith yn ganmoladwy. Cafwyd cyfarfod dyddorol iawn, a phawb yn ymddangos wrth eu bodd. Terfynwyd drwy ganu Cawn fyn'dadref fory. JCHH JONES.
---YSTRADGYNL-XIS.
YSTRADGYNL-XIS. ODYDDIAETII.-I).i-d,J Sadwrn diweddaf, cynaliodd dosbarth Ystradgynlais o Odydd- ion, Undeb M^nceinion, ei gyfafod blyn- yddol yn yr Old Swan, Guraos. Yr oedd ym 18 o gynrychiolwyr yu bresenol dros y gwahanol gyfri ,f; fdd. Mr.E.Jons8, P.G.M., yn y gadair; Mr. W. Hopkin, D.P.G.M.,yn yr is-gadair. Yr oe.d hefyd yn bresenol y Parch. B. Thomas. C.S.; Mr. N. Jones, trysorydd; Mr. H. Philips, P.P.G.M. Mr Thomas Williart-P, P.P.G.M.; a Mr Robert H. Bulman, cilweddar ysgrifenydd gohebol dosbarth Middlesb; ro'-on-Tees. Talwyd £48 o iro !ioii sngLddol, ac ethol- wyd Mr. W. Hockii, D.P.G.M., yn P.G.M.; Mr. David A. W liiams yn P.D.G.M.; a. Mr. Henry Phillips yn drys rydd am y flwyddy n. P isiwyd pencerfyniad nad oes neb brcdyr i tael elufcen • dosbarth mwy- ach. Felly mae y cyi iycl iolwyr hyn, heb ganiatad ein cyfrinfaotdj, ao er gofid i bob gwir Odydd, wedigaUu bv, rw ymaith un o golofnau Odyddiac-th, a hyuy er mwyn rhai cyfrinfacedd cybyddlyd eydd yn gallu cyfrif eu cyhhd yn agos i £ 2,000. Felly gwelirfod y cosbarth h wn yn bresenol yn sefyll ar ddwy golofn, a gobeithiaf y bydd iddo ddal i fyny hyd nes y b; dd i'r cyfrin- faoedd gael penderfynu adon cyr rychiolwyr i'n cyfarfod rJyfodol a t dsefydlant y golofn o elusengatwch dan Odyddiaeth Dyffryn Tawe eto; eblegyd y mae egwyddor Odydd- iaeth yn fy nysgu i (03 wyf fi yn eu hiawn ddeali) i estyn allan law o gymhorth i frawd mewn cyfyngder, ac y gallwn, trwy un weith- red felly o elusen, roddi boddlourwydd, heddwcb, i dedwyddwch i d( uluoedd cyfain, a'u gwaredu rhag cael eu dirwasgu i lynclyn anobaith, gan ystyried mai "gwell ydyw rhoddi na do.-byn.GLANLLECHAU.
TYSTEB I LEWYS AFAN.
TYSTEB I LEWYS AFAN. Y mae ymdrecbion diflino Lewys Afan o blaid ei gydweithwyr yr alcanwyr, wedi esgor ar deimladau parctus tuag ato yn mhlith y dosbarth hwn ac y maent bellaclt. wedi dyfod i'r penderfyniad i wneyd rhyw- beth iddo mewn ffordd o dysteb, fel arwydd o'u parch a'u diolchg rwch iddo. Y mae llawer o honom wedi bod yn ceisio dyfala pa lwybr fyddai y mwyaf effeithiol i wneud y peth yn llwyddiant, ac yr ydym wedi dyfod i'r penderfyniad mai rhywbeth yn ffurf art union fydd yn fwyaf tebygol o lwyddo. Ein dyben wrth ysgrifenu y llin- ellau hyo, ydyw galw ar ein cydweithwyr i ddyfod allan fel un gwr o blaid y mudiad hwn. Y mae Lewys yn gwir deilyngu ein cefnogaeth. Yn mhob brwydr sydd wlCD wedi bod rhyngom i'a gorthrymwyr, y ef wedi bod fel maesly wjdd ffyddlon yn ein harwain, a byddai bob amser yn nghanol y tan yn erbyn y gelyn. Sefyll wnai Lewys Afan Yn y twrf o flaen y tin. Er nad ydym yn honi ei fod bob amseryn gweithredu yn unol an barn ni, eto credwn ei fod yn berffaith gydwybodol yn ei hell weithrediadau; a pha beth bynag a ddy- wedir am dano, rhaid ei fed yn wladgarwr gwirioneddol o blaid yr aloanwyr. Hyn oedd y rheswm iddo gael ei daflu allan o'i waith i wynebu ar y byd yn ddiamddiffyn a cliymgeledd. A allwn ni fod mor galongaled a gad&el iddo ef a'i deulu lluosog i ymdartt drostynt eu hunain heb ein cefnogaeth, ac yntau wedi ei adael heb un lie i droi &m gynaliaeth, ac wedi ymladd cymaint droaom ? Pell fyddo y fath syniad. Os ydym fel alcanwyr yn teimlo awydd i wneud rhyw- beth drostf), yn awr ydyw yr adeg. Mae y cyfwng presenol ar fasnach yn gwneud y peth yn wir angenrheidiol; ac os y deuwn allan gyda'n gilydd, gallwn lwyddo i wneud ein hen gadfridog yn ddyn hapus. Yn awr, ynte. frodyr, "A long poll, a strong pull, pnd a pull altogether" am un waith. Neillaned pob gwaith dri dyn cymhwys-un o'r forge, un o'r felin, ac un o'r tinkme-i ohebu Lewys, a threfnu pethau mewn cysylltiad a'r Art Union yn ddioedi. CADIFOR.
Family Notices
MARWOLAETHAU. Ionawr 6ed, yn saith mis oed, David John, cyntafanedig y masnachwr parchus Mr. W. Davies, Ironmonger, Tonypaady, &'i hoffus b'iod. Claddwyd ef y dydd lau can- lynol yn mynweat ,Zoar, Ffrwdamws, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. H. W Hughes (Arwystl), a J. R. Jones, Llwynypia: Hiraeth gyfyd wrth gofio I ddu fedd ei guddio fo.' Ionawr 13eg, yn 49 mlwydd oed, o'r h on. ehiiis, Mr. Joseph Meredith, Insurance Agent, Oak-street, Aberdar. Cleddir at dydd Iau, yr angladd i godi o'r ty am dri o'r gloch. Boreu dydd Mawrth diweddaf, Ionawt 7fed, yn nhy ei frawd-yn-ngbyfraitb, VB Ninbych, Mr. Huw Roberts, cyngysoayad yn swyddfa y DARIAN. Yr oedd Rober. yn dra adnabyddus yn y Deheudir fel [dat- ganwr eyhoeidus. Yr oedd yr hen elyn—y darfodedigaeth—wedi ymaflyd ynddo er ys tro, ac yr oedd yn amlwg ei fod yn cyflytau ,116 thy ei hir gartref. Huw Roberts, er ei arabedd,—a'i g&n Ogonus,—mewn culfedd Heddyw o'i ol mai Uu'n ddihedd Yn nhy y g&n yn Ne a Gwyuedd. Dydd Iau, Ionawr 2, ar ol cystudd trwm am amryw flynyddau, Mr. D. E. Jones, High-st, Tynewydd, Cwmogwy. Yr oedd yn fab i'r diwedd- ar Barch. Mr. Jones, Libanus, Coed-duon, Swydd Fynwy, a brawd i'r Parch. H. Jones, Pencoed. Claddwyd y dydd Llun canlynol yn Nghladdla Paran, Melin-Ivan-Ddu. Ionawr 3, yn 69 mlwydd oed ar ol hir gystudd, Mrs. Catherine Jones, priod Mr. William Jones, Penllwynteg, Mynydd y Gareg, Kidwelly. Dydd Llun canlynol, hebryngwyd ei gweddillion marwol gan dyrfa lnosog i Fynwent Eglwys KidweUy. Ionawr 4, yn 5 mis oed, William, baban Mr. J. Mansel Bwlch y Mynydd, Mynydd y Gareg a Kidwelly. Claddwyd ef dydd Mawrth canlynot yn Mynwent Capel Sid, Kidwelly.
[No title]
Cawn fod y bidog a'r hon y trywanwyd" Donold Black, yr Highlander, a hyny £ farwolaeth, yn adeg y terfysg yn Mertnyr gynt, wedi ood yn meddiant y diweddaf John MiUwaid, yr hwn oedd yn gwnstabl aI": yr adeg. Efe oedd y person a gymerodd Die Penderyn i'r ddalfa,!yr hwn a ddienyddiwydi am y llofruddiaeth. Cafwyd y bidog p- simnai un o ystafelloedd y Wheat Shear*. Merthyr, a pharhaodd yn meddiant Mill-- ward hyd ei farwolaeth, 21 o flynyddoeddi yn ol, ac y mae In awr yn meddiant un d teulu.
Advertising
TO PERSONS GOING ABROAD. General Passengers and Steam Sail? Ship Agent* JAMES BEES, 19, Union Street, Liverpool. (Late with Cymro Gwyllt.) ALL Information given, and Prices of Paeeageb at Lowest Rate, CABIW and STBERAGE, per Steamers going to New YOlk, BostoD, Philadelphia, Montreal, Portland, Quebeck, Baltimore, Halifax, Benroo Ayres, Chili, C&pe of Good Hope Australia, and all parts of the World. Passengers booked to all parts of America, Cali- fornia, &c. Assisted Passaes to Canada at £4 15s. Passes from America exchanged, and Steamers Ticket returned with all PatticularB. All persons met on arrival, and seen to on board the Steamers. Tickets to get friends home at lowest prices. Cofier y Cyfeiriad- JAMES REES, 16, Union St., Liverpool. D.S.—Gellir Tmholi yn Nghwm Rbondda a Ma. PHIIILIPS, Griffin Inn, Pentre. CASTELLNEDD. BWEIEDIR CYNAL EISTEDDFOD GERDDOROL,'&c., yn y dref uchod, dydd Gwener y Groglith, Ebrill lleg, 1879. PRIF DDARNAU. "Datod mae Rhwymau Caeth- iwed" (J. Thomas), i Gor o 60 ac uchod, gwobr 10 0 0 A Chadair i'r arweinydd. "Wells," Rhif 138, Llyfr Tonau Stephens a Jones, gwobr 2 0 0 ri Fife Band a chwareuo oreu "Merch Megan" a "Gwyr Harlech," gwobr 1 0 0 Am y gweddill o'r testynau, yi amodau, &c., anfoner am y rhaglen at yr Ysgrifenydd, a cheir hi am ig.; trwy y Post, lie. EDWARD MORGANS, Ysg., Tramway Office, Neath. RHYDYFRO ART UNION. BYDDED hysbys fod yr Art Union uchod wedi cael ei gohirio hyd ddydd Sadwrn, Chwefror 8fed. Taer erfynir ar bawb sydd wedi derbyn tocynau i'w dosbarthu i anfon y Duplicates yn ol erbyn Chwefror laf, fel y gellir eu dwyn i derfyniad ar y dydd uchod. WILILAM THOMAS. RHYBUDD! RHYBUDD!! | piTMUNA JAS. PEBEGEINE, Llyfr- vvvi-thyed, UenfcJi; L;/s- bvan si gyfaiH:or. a'r cyhoedd yv gy.0 rodiriol, ion 34? -i ix, mm.M srplF-r, i (Y Shop lie bu Mr. Gough, Auctioneer, yn r ddiweddar), lie y parha i gadw pob math o I Lyfrau a Newyddiadnrqn Cymreig; hefyd, Stationery o bob math. j Dymuna ar bawb sydd wedi bod mor gar- j edig a'i gynorthwyo yn yr amser a aeth ji heibio i barhau i wneud hyny yn ei siop f newydd. r To the Relatives or-persona buried in th Aberdare Cemetery." i FTIHE ABERDARE BURIAL BOARD | beg to call the attention of the relatives I of persons buried in the Aberdaie Cemetery 1 to the fact that the grave-spaces are being f rapidly appropriated, and that it will be i the duty of the Board to re-open for the | interment of strangers, all such grave-spaces ? as have not already been purchased. All persons, therefore, who are disirous of j securing the exclusive right of interment in 1; spaces in which their relatives are buried, | should make application to the Boatd and I purchase that right before it is too late. f By order of the Board, ) H. P. LINTON, Cleik. Aberdare, January 1st, 1879. t Capel Seion, Waunarlwydd, | pYNELIR EISTEDDFOD Flynyddol y Capel uchod, dydd Gwener y Groglith, Ebrill lleg, 1879, pryd y gwobrwyir yr ym- î geiswyr Ilwyddianus. t Beirniad,-PROFF. DAVIES, Llangollen. I PRIF DESTYNATT. 1 I'r Cor a gano yn oreu "Datod f mae Rhwymau Caethiwed (John Thomas, gwobr. 8 0 0 rr Cor a gano yn oreu "Y mae Gorphwysfa ete'n ol" (Pencerdd 1 Gwynedd), gwobr 2 0 0 "I mae y programs i'w cael am y pris ar- i ferol, gan MR. THOMAS JOHN, New Road, Waunarlwydd, Swansea. j6 LLINELL TR ALLAN. AgerlongaH Blythyrgodol Breiaiol. YMAE y lisell bon yn cynyg manteision nefll- duol, a dylai ymfudwyr i uarhyw ran o Ganada Ben yr Unol Palaethav, os ydynt ya awyddus sbq schub arian ao amser, ymofyn a t. L. JOKES, Swyadf&'r Aberdare Times, Aberdar J. W. JONES, Dilledydd, ke., 67, Oxford Street, Mountain Ash; OWEN MORGAN, Siberia Villa, Llanwyno Bead Pontypridd neu a ALLAWBKOTHERS AND 00., James Street, Liverpool. 1 81 days' Sale of Drapery Goods 3s. in every £ discount, commencing this day at H. Lewis, 11, Commercial-Place, Aberdare, About 2,000 yards of Black & Coloured Silks, 3s. in the £ discount. (Ladies at a distance should send for patterns). About 10,000 yards of Dress Material, 3s. in the £ discount. Jackets, UJsters, Skirts, and Umbrellas, 3s. in the £ discount. > Gloves, Laces, Hosiery, Ribbons, &c., 3s. in the zC discount. Carpets, Blankets, Dimites, Cretonnes, Table Linen, 3s. in the £ discoun A very large stock of Black French Merinos, Cashmeres, Persian Oords, Lustres, Crapes, &c., 3s. in the £ discount. All Goods marked in Plain Figures, One Price, Ready Money, and 3s. in the S, discount. All Parcels sent to any Station, Carriage^Paid^ No Circulars. Darganfydd,iad Newydd!! WILLIAMS'S Compound Castor Oil Pills. YR unig ffordd i iechyd naturiol yw trwy gymeryd 'Williams' Castor Oil Pills.' Y maent yn cael eu gwneud o'r llyseuyn Castor, yn gynwysedig o'r prif lysiau a gydnabyddir y feddyginiaeth oreu i buro y gwaed; felly mae y Peleni hyn yn tra rhagori ar ddim a geir o'r llysieuyn Castor ei hunan. Y maent y feddyginiaeth oreu allan, nid yn unig i buro y gwaed, ond hefyd er dadwreiddio pob math o gornwydion, clwyfau, ac ysfa yn y enawd. Y maent yn feddyginiaeth ragorol hefyd i leddfu anhwylderau yr afu, llosgfa yn y cylla, (billiomness), cur yn y pen, ac i symud ymaith wynt, chwyddiadau, curiad y galon, y piles a'r gravel, y dropsy, poen yn y cefn, dwfr-ataliad, bias annymunol yn y genau, a theimlad o orlawnder ar ol bwyta. Y maent JTX feddyginiaeth anmhrisiadwy i fenywod, gan eu bod yr un yn eu heffeithiau a Chastor Oil, ond yn tra rhagori arno, ac yn llawer ,hawddach i'w cymeryd. Y maent yn gweith- redu mor esmwyth a diboen, fel y gellir eu cymeryd gyda dyogelwch gan bawb. Drwy hyny, gellir eu hystyried, nid yn unig y fedd- yginiaeth oreu at yr anhwylderau uchod, ond yn gaffaeliad anmhrisiadwy i'r cyhoedd. Gan fod rhai yn teimlo cryn anhawsdra i lyncu Peleni, y mae Williams wedi darganfod ffordd i'w gorchuddio a gwisg, yr hyn a'u gwnant yn hollol rwydd i'w cymeryd gan y mwyaf tyner eu harchwaeth. TYSTIOLAETH PWYSIG GDDIWRTH FEDDYG. Hynsydd i ardystio fy mod wedi archwilio Peleni 'Compound Castor Oil'- Williams, ac yn cael'eu bod yn cynwys y prif lysieuau at y doluriau hyny y maent wedi eu hamcanu. Dylasent gael .cefnogaeth gan beb teulu yn gyffredinol. DR. BLAKE. Army and Naxy Hospital, Scutari. ETO O'R AMERICAJ Dyoddefais yn fawr oddiwrth y dropsy, piles, a'r gravel am fis.edd. Aethum o'r diwedd yn analluog i ddyfod o'r gwely gan maint y ehwydd a'r poen. Gallaf sicrhan fod yr holl anhwylderau uchod wedi fy llwyr adael, ac oddiar amryw yn yr ardal hon, trwy gymeryd eich Compound Castar Oil Pills. Yr eiddoch yn dra diolchgar, MARY JANE DAVIES. Youngetown, Ohio. SYNIAD BARDD. Chwi gleifion gwyweaig, yn fychain a mawr Mae iechyd yn agos os mynweh yn awi; Os ydyw y treuliad a'r 'stumog yn wan, Yr afu a'r galon yn methu eu rhan, Gwnewch roddi'r clefydau i gyd yn y drills, Drwy gymeryd i'ch gwella y Castoir Oil Pills. Statfysgol Glasgow. RHUBBWAWR. GWELLHAD ODDIWBTH Y PILEs A'R GRAVEL Drwy gymeryd eich Compound Castor Oil Pills cefais wellhad buan. Tr oeddwn yn methu cerdded cam biaidd, ac yn methu eis- tedd o herwydd y Piles, a phoen yn rhan iselaf y cefn, cur yn y pen, a'r cluniau yn wan. Hefyd trwy gymeryd yr un Pills cef- ais lwyr wellhad oddiwrth y Gravel, yr hwn oedd yn fy mlino yn barhaus. Dylai pawb wybod am y feddyginiaeth hon. Trecynon. MBs. THOMAS. GWBLLHAD RHYFEDDOL ? GLEFYD YR AFU A DunG TREULIAD. Svr,—Mae yn llawen genyf hysbysu y gwellhad rhyfedd a gefais drwv gymeryd eich Conpouad Castor Oil Pills nodedig. Yr oeddwn wedi gwneud prawf o bob math o gvffeiriau, ond y cyfan yn ddieffaitb. Dy- oddefais am flyayddau meithion oddiwrth glefyd yr afu a diffyg treuliad, gwrthwyneb- lad at fwyd, yr'hyn a'm hanalluogodd i ddilyn fyngalwedigaeth. Arolcymeryddauflychaid o'ch peleni f'm hadferwyd i gyflawn iechyd. Maent hefyd yn rhagorol mewn achoaien o piles a gravel.—Yr eiddoch, Ll&ntili. CAWAIN JOHN PATTISON. MODDION DOOTOR YN METHU, A PHILLS WILLIAMS YN IACBAU. Yn ddiolchgar yr hysbysaf chwi o'r gwell had gwyrthiol a gefais drwy gymeryd eich Compound Castor Oil Pills' Bum mewn blinder mawr gan boop ya fy arenau, y stumog yn methu ei ran, poen yn fy nghefn, a gwaoffiaf oil, methu cysgu y nos ac er cy- meryd llawer o foddion doctor am amser maith, eto dim lies nell oael eich Pills chwi, y rhai yn bur fuan a'm gwdlasant. Yn awr yr wyf yn holl iach. Y mae fy nghwellhad wedi peri syadod mawr yn y gymydogaeth hon. Yr wyf yn anfon hyn er Dudd i'r cy- hoedd.—Yr eiddoch, ANN Ev ANi, Maerdy, Ferndalo. Er Dyogelwch, cofiwch ofyn yu eglur am Beleni Compound Castor Oil Williams, a gofalwch fod stamp y Llywodraeth ar beb blychaid o honynt; heb hyn nid oes un yn gywir. SYLWCH.—Cofier fod arbediad wrth brynu y blychau mwyaf, sef 2s. 9c. Y maent yn cynwys tri o'r rhai Is. l}c. Ar werth mewn blychau Is. lie. a 2s. 9c. yr un, gan bob Fferyllydd, neu trwy'r Post oddiwrth y perchenog, am 15 neu 34 o stamps. Perchenog—D. WILLIAMS, Dispensing Chemist, Gadlys, Aberdare, Glam. C. SCHWER, Watchmaker, Jeweller, Silversmitk, Optician, &c., AOiy 18, Commercial Street, Aberdare. SGHWERER'S "Watches to suit all olasses of purchasers. SCHWKRBR'S Watches of the beet English and Foreign make. SCHWERER'S Gold Patect Livers from .10 It1,. CHVVEREWS Silver Patent Livera at æ4 4a. If) 6s up to &7 7s. SCHWERER'S aold Geneves æ4 4a, æ6 6s., up to ælo Fs SCHWERER'S Watches are always ready for use, being skilfully timed and adjusted. Purchasers cannot do better than send to me for a Watoh, which will be supplied or forwarded to any address on receipt of P.O.O. SOH WERER' S Eight-Day Clocks, Ordinary Clocks, Timepieces, &o cf the best and newest designs. SCHWERER'S Silver Goods in great variety. SCHWERER'S Electro-Plate of the newest and best description. SCHWERMR8 great stock of Speotaoles, oom- frises all kinds on Gold Steel, and Shell raises. SCHVKEREIl repairs all kinds of Watches, Clocks Jewellery, Plate, to., In the beet style. 80HWERER bega respeotfully to thank the Fablio for their past patronage, trusting a continuance of the same. Os ydych am Oriadur o'r fath ereu, ewch at C. SCHWERER, Ocnvmrmal Stmt, Aberdare DAYIES' Dining and Refreshment Rooms, 17, CANON ST, ABERDARE. Yn awr yn barod, pris 4c., drwy'r post 41c., CANIEDYDD Y PLANT, YN CYNWYS TONAU NEWYDDION YN Y TONIC SOL-FFA, At wasanaeth yr Ysgol Sabbothol a Chorau Plant, GAN J. PETERS (AFAN ALAW). Peb archebion i'w hanfon at y cyhoeddwi -D. L. JONES (Cynalaw), Briton Ferry, Glam. Mor o Can yw Cymru gyd." TABERNACL, PONTARDULAIS. CYNELIR EISTEDDFOD FLYNYDDOL y Capel uchod. dydd Gwener y Groglith, Ebrill lleg, 1879, pryd y gwobrwyir yr ynigeiswyr llwyddianus mewn Caniadaeth, Adroddiadau, &c. PRIF DDARN CORAWL. £ s. c. Mae Gorphwysfa eto'n ol," i gorau heb fod o dan 60 o rif, gwobr 9 0 0 A Xi i'r Arweinydd. Beirniad y Ganiadaeth,—Mr. R. C. Jenkins, Llanelli. Arweinydd y dydd,—Parch. J. James (Iago Ddu). Programs i'w cael gan yr Ysgrifenydd am y pris arferol.. JOHN LEWIS, Hendy, Pontardulais, R.S.O.
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. CADIFOR A'R EISTEDDFODAU.-Fel hyn y dywed y cyfaill Watcyn Wyn :—" Gan fod Cadifor yn y DARIAN ddiweddaf yn gofyn I Beth am y policy, fechgyn l' dymunaf yn garedig ei ateb, Honesty is the best policy. EISTEDDFOD MORIAH, CASLIWCHWR.—Eiddo Mab ei Fam, a Hob y Deri Dando, wedi eu derbyn, a'r ddau yn rhoddi i ni hanes yr ysgrif dwyll- odms a dderbyniwyd genym yr ivythnos ddi- weddaf. Yr ydym hefyd wedi derbyn ail lythyr oddiwrth Gomerydd. Credwn mai goreu pa leiaf a drafodir ar y fusnes. Carem gael y gwir o dan law un o'n dosbarthwyr yn y He, ac os twyllwr ydyw Gomerydd, boddlonwn anfon ei ysgrifau a'r oil yn ein meddiant er dyfod o hyd idao. Adolygiad ar Berfformiad Joseph" yn Aberdar, oddiwrth ein Gohebydd Cerddorol, wedi ei dder- byn, ond yn rhy ddiweddar am y rhifyn hwn Gall ein cyfeillion cerddorol ei ddysgwyl yn ein nesaf. Hen Was Talyclyn wedi ei dderbyn, ac i ym- [ ddangos. Wedi eu derbyn hefyd Llygad-dyst y Capel, Crwydryn, Alcanwr. Y MFUDIAETH,—Gan D. P. Davies yn ein nesaf. YSGRIFENYDD EISTEDDFOD TREHERBERT.-Y mae Alfred am gael gwybod gan Ysgrifenydd yr Eisteddfod uchod, pwy oedd yr ail oreu ar y traethawd 'Ysgrifenu dan Ffugenwau.' Dywed fod ganddo reswm digonol dros ofyn y ffafr hon Y LLWYNOO.—Wedi ei dderbyn, ac yn sicr o ym- ddangos yn ein nesaf.
RIIAGOLYGON TORIAETH.
RIIAGOLYGON TORIAETH. Y mae lleni y nos yn amgau oddeutu Beaconsfield a'i blaid. Y mae y frwydr yn myned yn mlaen yn en herbyn yn y wlad gyda nerth mawr, beth bynag yw nifer eu mwyafrif hwy yn y Senedd. Y mae Rhyddfrydwyr y deyrnas yn ym- ddangos fel pe byddent wedi cyfodi o'u beddau yn llu mawr ymosodol. Dywedir eu bod yn gwneud parotoadau i ddyfod i awdnrdod, i lywio busnes y deyrnas. Y maent yn deall arwyddion yr amserau. Gwelant fod y tide wedi troi yn ol yn ffafriol iddynt hwy. Tybir fod Iarll Granville aeMr. Gladstone wedi bod yn flurfio cynllnn o weithredn tnag at gymer- yd awenau y llywodraeth i'w dwylaw, pan y bjddo yr amgylchiadau wedi addfedu i wneud hyny yn bosibl. Y mae rhif-res o enwau y personau sydd i gyfansoddi y Weinyddiaeth Ryddfrydig, eisioea mewn cylchrediad. Meddylir gan rai mai Glad- stone fydd y Prif Weinidog. Byddai yn anhawdd meddwl y dewisid neb arall. Er hyny barna rhai mai Iarll Granville gaiff y awydd heno. Prin y meddyliai neb i osod Arglwydd Hartington ynddi. Gos- odir Mr. Forster yn Weinidog y Trefedig- aethan. Ond byddai ei gysylltiad ef a'r Cabinet yn sicr o niweidio y llywodraeth, o herwydd pleidleisiau y Toriaid a'i gos- ododd ef yn y Senedd, am fod y Toriaid ym ddiolchgar iddo am y Mesor Addyag, a basiodd efe, trwy eu help hwy, i fod yn gyfraith y wlad. Enwir Mr. Childers i fod yn Ganghellydd y Trysorlys, a Due Argyll i fod yn Weinidog Tramor. Er y gellid meddwl fod cynllunio Cabinet Rhyddfrydol yn awr yn waith a gyflawnir lawer yn rhy gynar, am nad oes tebygol- rwydd y bydd etholiad cyffredinol yn fuan, eto y mae amryw resymau yn profi nad yw yn beth rhyfedd fod y fath gynllnnio yn bod. Fel un petb, y mae yn eithaf amlwg fod y wlad wedi dechren syrffedu ar Beacons- field a'i blaid. Y mae masnach wedi myned yn isel iawn; ac y mae tybiaeth go gref trwy y wlad, y byddai llywodraeth Gladstone yn debyg o osod bywyd mewn masnach cyn pea ychydig amser. Yn mhellach, y mae Beaconsfield yn cadw ei gynlluniau mor gel, ac yn ymhyfrydn yn y dull o gyffroi syndod y wlad i rhyw gynygiad disymwth, fel na wyddis ar y ddaear pa mor gynted y bydd efe yn cy- hoeddi y bydd etholiad cyffredinol. Ac yn rgwyneb y tebygQlrwydd y bydd yr etholiad hwnw yn ei osod ef a'i blaid yn y lleiafrif, y mae yn iawn i'r Rhyddfryd- wyr fod yn barod âln oynlluniau i gymer- yd meddiant o'r llywodraeth. Y mae ystyriaeth arall hetyd mewn cysylltiad a'r mater hwn. Os bydd llawer o'r Rhydd- frydwyr yn gwybod yn mlaen Ilaw pa swyddan a allant ddysgwyl yn y Weinydd iaeth Ryddfrydig, rhydd hyny awch yn eu sel i gario y dydd yn mrwydr fawr yr etholiad. Bydd Rhyddfrydwyr felly yn myned allan i'r rhyfel fel un gwr. Ond os yw Beaconsfield, fel dyn Asiat- aidd, cyfrwys, yn gweled fod y wlad wedi myned yn erbyn ei Weinyddiaeth ef, y mae yn eithaf sior y gohiiia efe yr etholiad gymaint ag a medra. Ceidw yr awenau yn ei law cyhyd ag a allo efe. Eto, os gwna hyny, profa, fel Asiatiaid cyfrwys ereill, mai nid doethineb hunanlesiol yw cyfrwysdra yn y pen draw. Y mae wedi dwyn trigolion Asia i ddinystr yn yatod ugeiniau o ganrifoedd. Pa hwyaf y ceidw Beaconsfield y Llywodraeth Doriaidd mewn bod yn erbyn barn a theimlad y wlad, gwaethaf i gyd y bydd hi ar ei blaid ef pan y gorfyddir ef i gyhoeddi yr etholiad. Os na ddaw rhyw wawr ar fasnach yn foan, gwaethygu wnaiff ei ragolygon ef. Ni wnaeth y fuddngoliaeth dybiol a gafodd efe yn Berlin, fawr o les i'w blaid ef; ac y mae ystyfnigrwydd y Twrc i gario allan ddiwygiadau, yn gwneud pethau yn waeth i Beaconsfield. Nid yw y rhagolygon yn Affghanistan chwaith ddim yn hynod o lewyrchos at ei bwrpas ef. Y mae yn myned o'r naill benbleth i'r llall yn nghanol llwythau barbaraidd mynyddoedd a dyffrynoedd y wlad hono. Os yw efe yn gyfrwys fel Asiatiad, y mae wedi cyfarfod a miloedd o Asiatiaid mor gyfrwys ag yntau yn Affghanistan ac y maent yn gallu celu eu bamcanion, nes y delo yr awr i'w gosod mewn gweithrediad, gystal ag yntau. Gall efe siarad yn fawr- eddog am derfyn gwyddianol (scientific frontier) i India yn Affghanistan; a pbe byddai ganddo ddim ond tiriogaeth i ddelio ag ef ni byddai y gorchwyl o wnend terfyn mor anhawdd. Ond y mae yno filiwnau o farbariaid sydd wedi medd- iann y wlad, hwy a'u tadau, er amser Alexander Fawr a chyn hyny, y rhai na ymostyngent i gynlluniau chwyddedig Beaconsfield, pa mor rwysgfawr bynag y siarada efe am danynt yn ngwledd Lord Mayor Llundain. Nid ydynt hwy yn cydnabod science gwleidiadwyr uchel- geisiol fel Beaconsfield. En hamcan hwy yw cadw en mynyddoedd a'n dyffrynoedd iddynt eu hunain, pwy bynag fyddo yn cymeryd arnynt freniniaethu arnynt. Ymddengys nad yw science gwleidiadol Shere All wedi effeithio dim arnynt hwy. Gwrthodasant ei bleidio ef; a diau na bydd enw Beaconsfield yn fwy swynol iddynt hwy nag enw Shere Ali. Gall y wlad fod o'i lie i feddwl mai aohos y tywyllwch dudew sydd yn gorphwys ar fasnach, yw, fod y Toriaid yn rheoli y deyrnas. Dichon fod Gladstone wedi bod yn ffortnnns, a Beaconsfield ynanffortunus. Ond diau y gweithreda y wlad, fel yr arfer- ai Napoleon I. wneud, set dewis dynion ffortnnns i wneud gwaith pwysig. Os bydd Manager gwaith wedi gyru am- gylohiadan y cwmni a feddant y gwaith, i ddyryswch a cholled, ar ol pum' mlyn- edd o brawf arno, nid hir y bydd y owmai heb roddi rhybudd iddo i ymadael i wnend lie i'w well. Nid yw gwaith swyddogion Gweinydd- iaeth Beaconsfield, yn ceisid gosod allan nad yw y dosbarth gweithiol yn dyoddef cymaint ag y dywed rhai en bod, o herwydd aflwyddiant masnach, yn gwneud dim lies i Doriaeth. Y mae y Toriaid, yn hyn fel ar hanes y galanasau a gyflawnodd eu ffryndiau y Tyrciaid yn Bulgaria, yn dangos eu diffyg o gydymdeimlad a dyn- ion mewn caledi a thrallod. Dywedodd Mundella, A.8., yn Sheffield, yr wythnos ddiweddaf, fod y Toriaid yn siarad yn anwireddus wrth geisio dangoa fod elf- yngdra y dosbarth gweithiol yn Uai nag y gosodir ef ger bron y wlad gan y Daily News a phapyrau ereill. Meddai Mun- della,— Y mae y cyfyngdra nid yn unig wedi myned i gartrafau gweithwyr, oud y mae wedi effeithio ar fasnachwyr, meistri gweithfeydd, meddianwyr mwn, a chwm- niau banciau, yn nghyda dynion o bob gradd. Ni welais i erioed y fath galedi a chyfyngdra cyffredinol, a phryder, ag sydd yn awr. Nid ydwyf fi yn priodoli y cwbl o hono i Arglwydd Beaconsfield, ond y mae rhan fawr o'r achos wrth ei ddrws ef, trwy gadw Ewrep mewn sefyllfa anesmwyth." Y mae cynllaniau Beaconsfield wedi cadw holl Ewrop mewa sefyllfa o acsicr- wydd. Y mae Beaconsfield fel pe byddai yn amcanu gwneud yr un fath ag yr ar- ferai Napoleon III. wneud pan yr oedd holl Ewrop yn dysgwyl am ei sraeth ar faterion Ewropeaidd y dydd cyntaf o'r flwyddyn. Ar y 9fed o Dachwedd, yn ngwledd y Lord Mayor, y mae Beaconsfield yn traddodi ei araeth ymherodrol ar faterion Ewropeaidd. Ugain mlynedd yn ol yr oedd y Sphinx yn y Tuileries, yn Pans. Y mae hi yn awr yn Downing Street, neu yn Hoghenden Manor, palas Beaconsfield. Y mae yr holl anesmwythder tramor o herwydd cynlluniau dirgelaidd, uchelgeis- iol Beaconsfield, wedi parlysu masnach. Dywedodd Mundella fod Ffrainc yn llwyddianus am ei bod wedi rhoddi fyny ymyraeth a materion gwledydd ereill. Da genym feddwl, wedi'r cwbl, fod gan Lywodraethwr mawr y byd amcan da yn ei waith yn goddef i Doiiaeth orthrymus deyrnasu. Nis gallwn ni, mwy na'r hen batriarch Jacob, weled pa fodd y mae Dnw yn gwneud i gynddaredd dyn i'w folianu," ond am y ffaith ei lod yn gwneud hyny, y mae mor amlwg a bod cenfigen brodyr Joseph yn peri iddynt anfon Joseph i'r Aifft trwy ei werthu i'r Ishmaeliaid, wedi cael ei oruwehlywodraethu gan Dduw i" gadw yn fyw bobl lawer." Ond er i'r amcan hwnw gael ei gyflawni, nid oedd pechod brodyr Joseph tuag ato ddim yn llai, fel y tystiodd eu cydwybodau hwy en hunain. "Byddai credu nad oes dim a fyno Duw a pholitics gwledyddoran eu gwneud i ateb ei bwrpas Ef, yn atheistiaeth per- ffaith. Rhagrith fyddai gofyn iddo am fara beunyddiol" os nad yw Efe yn llyw- odraethu pawb a phob path i'r mnyldra mwyaf.
. GLOFA Y CYMER.
GLOFA Y CYMER. MRI. GOL. Y mae yn dda genym fod rhai o'n cydweithwyr wedi cofi) am danom yr wythnos hon eto. Y mae y symiau can- lynol wedi dyfod i law er ein cynorthwyo ni oedd ar Strike yn y lofa uchod. Bwllfa (Ystrad), XI 6s. 6c.; Hafod, ^3 3s. 7c.; Ty'nybedw, £1; Ynyshir (Glo Ager), £3 17s.; Great Western, £2 10s. lie.; Bryn- dewi (Sciwen), 73. Hefyd, dygwyddodd ychydig gamsyniad yr wythnos o'r blaen, sef fod caegliad Gioia Cileli yn £3 2s. 3c., yn lie £2 3s. 2c. Yr ydym yn dra diolchgar in holl gyfeillion am gofio am danom. JOHN THOMAS.