Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
PETHAU MASNACHOL.
PETHAU MASNACHOL. Achosion marweidd-dra masnach.- Dywed y Commercial World mai achos ion marweidd-dra masnach ydynt, (1), Llygredigaeth foesol, neu anonestrwydd gweithrediadau masnachwyr. (2), Cy- Byrchant nwyddau i raddauhelaethach na r angen. (3), Strikes a diddaibodrwydd y dosbarth gwei thiol. (4), ByddinoeJd mawrion sefydlog o filwyr a defnyddiau at Ryfel. Y mae y petbau hyn yn wahanol iawn i'w gilydd yn eu natur, ond fel gwa- hanol ffrydiau, cyfranant eu rhan i chwyddo dylif y trueni naasoachol. A gallasai y papyr nchod roddi pumed achos, sef Gwe:nyddiaeth Doriaidd y Nofelwr BeacoDsfield a'i holl dryblith o gynlluniau a'i gweithrediadau niweidiol.
YM.FUDIAETH. , ...N
YM.FUDIAETH. .N CGAN MABON. Dichon cad yw yn hollol wybyddus fod cymdeithas yn dwyn yr p^deifchas Ymfudol Cydgyfranegol (The Mutual Emi- gration Society) yn cael ei ffurfio yn bresenol yn Llundain, yr hon a ledaena dros y Deymas Gyfunol. Y mae ger ein b?on gopi o r am- canion a'r rheolau, oddiwrth y rhai y deall- wn ei bod yn cael ei chydgorphori fel Cwmni Rhwymedigaeth Terfynol, gyda chyfranu X5, ar ba rai y mae budd o 7 y cant yn cael ei sicrhau gyda'r cyfryw ddiyidmd ag y bydd v cyfarwyddwyr yn alluog i wneud o bryd l bryd, a gwahoddir yr elusengar a r gwladgarol dffwy yr holl wlad i gymeryd rhan. Pnf amean y cwmni fydd gwahodd dosbarthiadau gweithiol y wlad i gyfranu tâl misol o 2s. 6c. y mia, ac mor fuan ag y bydd i'r symiau rynyddu yn dcysorfa ddigonol i anfon allan chwech neu wyth o deuluoedd, bydd tyniad yn cael ei wneud. Y maes a ddewisir i'r drefedigaeth ydyw Texas, un o Daleithiau Deheuol America, a thelir trwydded ymfudol y neb a dynit o le ei breawylfod i'r tir, a bydd i bob un gael ei gynysgaethu & r medd- ianau canlynol80 erw o dii bras da, free- hold title, argae da oddiamgylch if unrhyw, ty planciau newydd, 25 wrth 28 o droedfeddi" ac yn cynwys pedair o ystafelloedd, pâr o vchain, gyda iau a chadwynau, dwy fuwch laethoga dau lo, set o offer fferm, 'aradr, eeibiau, bwyllau, gwerth £10 o ymborth, ttove goginio Americanaidd digon mawr at wasanaeth wyth o deulu, yn nghyd & set lawn o offer coginio, ffynon o ddwfr yn agos i'r tf dwsin o ffdwia, (Ml fochirn, coecM ffrwythau, a blodau. Ystyrii fod y medd- ianau hyn yn angentheidiol er gosod yr ym- fudwr ar ei draed, a byddant yn cael eu Aoddi am y gwerth-bris, y rhai, ar hyn o bryd, ac am gryn amser eto, y sicrheir ni na fydd eu gwerth dros £ 200. Y mae rhwng tri a phedwar ugain mil o erwau o dir eisioes wedi eu sicrhau ar hyd Kheilffordd Galres- ton, Harrisburg, a San Antonio, a hyny am 12s. yr erw. Bydd i bob ymfudwr gael ei oeod ar y tir gan un o ymddiriedolwyr y wwmni, a rhoddir pum' mlynedd o amser i ad-dalu, heb undyogelwch i'w roddiychwaneg na byw ar y meddiant, gyda budd o saith y cant yn flynyddol. Credwn na fydd un anhawsder i bob ymfudwr i dalu y ddyled mewn tair blynedd. Rhydd papyrau Texas hanes baongenyn; 15 mlwydd oed, yr hwn a wnaeth y flwyddyn ddiweddaf bum' sachbwn (bale) o gotwm, a 200 o fwsieli o yd, gwerth ar y tir 270 mewn arian. Os gall bachganyn wneud hyn, dylai teulu cyfan dalu y ddyled i ffwrdi mewn blwyddyn neu ddwy. Ystyria ein ham- aethwyr cartrefol eu bod hwy yn gwneud yn rhagorol os y cant dir da am £ 2 yr erw y flwyddyn, heb gael dim anifaihaid arno; ond yn yr achos hwn ni fydd'y £ 200 i'w talu, ond £ 40 y flwyddya, neu 10s. yr erw, ac yn mhen y pum' mlynedd bydd y fferm a'r anifeiliaid otfyA'eiddo i'r ymfudwr a'i had am byth. Ymap, cynyrch amaethyddol erw o dir yn Texas yn werth mwy nag a geir oddiwrth erwyn Mhrydain, canys gallant godi cnwd-o natur mwy gwerthfawr, megys cotwm,.piwgr, Haygiys, had llin, &c. Yn ol deddfau naturiol cynyddiant, bydd y ddwy fuwch a'r ddau 10 yn mhen y pum'- mlynedd wedi dyfod yn bedwar pen ar ugaiu, a'r fferm, heblaw ei bod wedi ei gynys- gaethu ef a'i deulu » chartref a bywioliaeth, wedi gwella i'r fath raddau drwy y llafur rhoddedig arni, a'r perllanau fydd wedi eu planu, yn nghyd a'r gwerth ychwanegol yn rhinwedd y sefydliadau amgylchynol, fel y gallai yn rhwydd hawlio £600 pe ewyllysiai werthu. Yn ol cyfreithiau Texas, unwaith y byddis wedi meddianu cartrefle, ni ellir ei gymeryd oddiar y teulu am unrhyw ddyled. Ni wneir hyny hyd yn nod pe byddai gwystl wedi ei llawnodi gan y gwr a'r wraig. Ond nid ystyrir un meddiant yn gartrefle hyd nes y byddis wedi talu am dano. Ar y cyfan, mae y rhagolygon o'r mwyaf addawol a gwneuthuradwy. Oddiwrth hys- bvsiadau a dderbynir o wahanol ranau e'r wlad, credir y ceir yn agos i gan' mil o dan-1 ysgrifwyr mewn ychydig fisoedd; ac os felly, bydd y cwmni yn alluog i anfon Lallan yn finnl yn agos i haner cant o deuluoedd, heb- law yr hyn a ellir ei wneud a'r arian a delir yn gyfranau; ac mor fuan ag y dechreua y sefydlwyr cyntaf a thalu eu budd a'a cyfran- iadau (y rhai gyda Haw ni hawlir y flwyddyn gyntaf), fe gynydda y drysorfa mor gyflym fel y gellir anfon teuluoedd yn llawer cyf- lymach, a pharha hyn i gynyddu y naill flwyddyn ar ol y 11a 11, fel mewn llai na phum' mlynedd credir y gellir anfon cynifer a mil y mis. Y tanysgrifwyr misol fydd yr unig rai cyfreithlawn i dynu i fyned, a cha pawb a fyddont wedi talu hyd at £ 5, gyfran gyflawn wedi eu roddi ar eu henwau, ac os yn par- hvu i ddymuno myned, gallant ddechreu "tsnysgrifier fm :fran arstl. Pan y byddo wedi syrthio i r.i aelod i fyned cyn y I-,vdlo wedi talu ei X5, bydd ef i adael yr hyn fydd wedi ei dalu yn eiddo i'r cwmni; ac o'r ffynonell hon y golygir y bydd y cwmni yn ailuog i dalu eu treuliau mynedol, ac y mae yn anmhosibl dyfeisio gwell ffordd. Gwelir fod y cyfryw a fyddo yn syrthio i'w ran i fyned a pharotoadau da ar ei gyfe^, a gall fod yn foddlon i golli yr ychydig sylltau neu bunoodd a fydd wedi eu talu. Hebl -.w hyn, pe byddai yn prynu oddiwrth gwmni cyff- redin a fyddent yn prynu tir am un pris a'i werthu am uu arall, byddai ei golled yn fwy o bedair i bum' waith ac yn ychwanego), oni buasai am gwmni o'r fath, y tebygol- rwyd i yw na fyddai yn alluog i fyned fyth. Ffarlir y cwmni mewn cysylltiad it gor- uchwylwyr y rheilffordd a nodasom, y rhai sydd yn berchenogion ar filoedd o erwau o dir da, ac yn dymuno gosod sefydlwyr arno e? mwyn cael y drafnidaeth, ac am y rheswm hwn yn foddlon ei werthu ar delerau isal, ar y dealldwriaeth fod y sefydlwyr yn gwneud eu hunain yn gynyrchwyr. Bydd cwmni y rheilffordd hyn yn parotoi y tir, ond bydd i bob fferm grel ei barolygu gan un o ymddir- iedolwyr y cwmni, a phob ty yn cael ei adeiladu, ac anifeiliaid pob tyddyn i gael eu prynu o dan yr un arolygiaeth, yr hwn a fydd yn byw yn y sefydliad er derbyn a rhoddi calondid i'r sefydlwyr. Deallwn hefyd oddiwrth Dr. Kinsbury, y goruchwyl- iwr, ond gofalu yn brydlon, y gellir cael y tir wedi ei ranu, fel y gallo gwahanol genedl- oedd dsigfanu ar wahan. MABON.
PERFFOEMIAD 0 "JOSEPH" YN…
PERFFOEMIAD 0 "JOSEPH" YN ABERDAR. [ODDIWRTH EIN GOHE^YDD CERDDOROL]; Yr oeddwn wedi llawn fwriadu anfon i chwi lith hirfaith a manwl ar yr uchod, a hyny dipyn yn gynt; ond oblegyd prysur- deb gyda rhyw befchui, methais gyflawni fy mwriad hyd yn awr; ac oblegyd ei bod wedi myned mor ddiweddar, yn nghyda rheswm neu^ddau arall, ni flinaf ddarllenwyr y DAR- IAN a rhyw beth elaborate iawn. Y mae Undeb Corawl Aberdar, dan ar- weiniad Mr. Rees Evans, yn hawlio parch ac edmygedd pob cerddor am yr hyn wnaeth- ant cyn eleni dros gerddoriaeth glasurol; ao ni fuasai llwyddiant mawr yn y gwaith eleni yn ychwanegu rhyw lawer at eu clod ae yr ydwyf yn dilys gredu na tbyn y rhai pethau anffortunua ddygwyddasant, gymaint oddiwrth eu hanrhydedd ag y gellid meddwl ar yr ystyriaeth gyntaf. Y mae purdeb am- can mewn gwaith o'r fath hyn yn tad a »hyw chirm dros y cyfan, nes y mae pob gwir gerddor yn edrych ar ffaeleddau mewn dat- ganiad a Uygad CSliad-a ehariad guddia luaws o bechodau." Bu pobl Aberdar yn ym- godymu a gweithiau dyms o flaen Joseph," megys y Twelfth Mass," Samson," ac yia neillduol Elijah;" ond nid oedd yy un o honynt i'w cydmara mewn anhawsder a Joseph." Nid am nad yw Mendelssohn yn Elijah a St. Paul" wedi ysgrifenu cyf- ryngau (intervals) llawn mo* anhawdd, a thrawsgyweiriadau moif bell a dyeithr; ond y mae rhyw bath yn fwy aanaturiol (os iawn j yw y gair)—&narferol hwyrach fuasai oreu—i Si llawer o'r seiniau yn ngwaith presenol r. Macfarren, a rhyw beth mwy estronol ac annysgwyliadwy yn y tFawsgyweiriadau, a hyny o dipyn nag yn, yr un o weithiau v *!S#«|i^endeTsBonn. T)ylesid cyfrif ar hyn, a chymeryd rhagor o amser i barotoi nag at Oratorio yn gyffredin. Yr wyf yn gwybod yn eithaf da mai peth anhawdd yw rhoddi rhyw idea i aelodau corau am faint y gwaith fyddo o'u blaenau mewn dysga cyfanwaith mawr, a gwn mai peth anhawdd dros ben yw eu perawadio i ymarfer hunanymwadiad ac amynedd, ao eswcieo dyfalbarhad uwah- ben cydganau (Oratorios) am bump neu chwech mis. Ond yr wyf yn sicr fod hyny yn angenrheidiol gyda ein sefydliadau cor- awl yn Nghymru eyn y gallwn wneud dim tebyg i gyfiawnder a'n hunain, ao a'r gwaith- iau mewn llaw. Oddiwrth yr hyn glywais, diffyg digon o amser i barotoi oedd yr achos na fuasai y eydganu yn Joseph yn myned yn well. Y mae Joseph" yn Oratorio gywrain a meistrolgar anghyflredSi^—gallwn fod 3m sicr o hyn-i-a bod ^oddi wreiddioldeb mawr hefyd. Faint o wir felodedd sydd yn y gwaith mae yn anhawdd iawn genyf fi, beth bynag, ateb, oblegyd y mae cymaint o ryw fath o transition yn cjmeryd lie mewn safon cerddoriaeth y dyddiau hyn. Y mae yn eithaf posibl, fe ddichon, gael gafael mewn melodedd yn nghyfrinion natur, heb fod ar yr un model a'r hen feistri; ac yn enwedig Handel. Yn wir, prin ymae yr un cyfansoddwr mawr yn awr yn cymeryd Handel fel patrwn. A dichon, os-nad oedd Joseph yn swnio yn rhyw felus iawn i'r glust yn Aberdar, mai oblegyd anghynefin- dra y clustiau hyny a cherddoriaeth o'r ar- ddull hyny oedd y gwir achos. Cywrain iawn yn y gwaith yw y Dialogues. Y mae y rhai hyn yn cysylltu y gwahanol ranau a'u gilydd mewn modd dyddorol, dramatio, ac effeithiol. Cynrychiolid y Soprano (Benjamin) gan Madame Frances JIodson. Yr oedd,tremolo parhaus ei lleisiadaeth yn ei gwneud yn feichus i'w gwrando. Rhjrw mannerism di- chwaeth, a diangenrhaid yw y tremolo yma. Trueni os cymer Iounrhyw ferch ieuanc o Soprano ag oedd yn gwrando yn ei phen i efelyohu Madame Hodson yn hyn. Y mae pob cerddor o chwaeth dda yn ei drwyadl gashau erbyn hyn. Nid oedd y foneddiges uchod yn canu mewn tune ond meithian hefyd, yn enwedig yn ei solos cyntaf yn y gwaith. Yn wir, y mae yn amheus a ganodd hi unrhyw glose o gwbl yn beiffaith mewn ton. Yr oedd Miss Harris yn Oontralto da. Canodd yn hyfryd iawn, syml, pur, ac un- affected. Aed yn ei blaen. Daeth Mr. J. Sauvage allan fel Baritone y tro hwn. Gwnaeth yn ei Ie. Y mae yn fwy o baritone nag o denor. Canodd yn dda ac effeithiol iawn droion. Mr. D. Howells (Gwynalaw), oedd y Tenor. Darllenodd ei ranau an- hawdd a dyrus yn rhagorol, a chanai mewn manau gyda thrilling effect. Trueni na allai y bachgen athrylithgar hwn eirio. Yr oedd Mr. J. George yn Basso rhagorol. Canodd ei fiwsig heb un meth o'r dechreu i'rdiwedd. Gwnaeth y lleieinu gwrywaidd gynrychioli brodyr Joseph gyda medrusrwydd mawr. Nid oedd y cydganau i fyny aIr marey tlO hwn, yn enwedig y Sopranos. Dylasai y Band wybod eu gwaith^yn well hefyd; ond chwareu&sant yn dda ar y cyfan. Y mae y sylwadau uchod yn cyfeirio at y datganiad gymerodd le dranoeth ir Nadolif. Fe al'ai y cawn "Joseph eto ryw dro gan bobl Aberdar pan f vddsnt wedi parotoi yn dda ar ei gyfer, ac yn dyfod ag ef yn mlaen yr ail waith gyda phenderfyniad i fyned drwyddo yn hwylus er mor anhawdd ydyw. Yr wyf fi yn dymuno llwydd mawr i'r mud- iad Oratoriaidd yma.
Y WLADFA GYMREIG.
Y WLADFA GYMREIG. Frongoch, Patagonia, Tacb. 1878. ANWYL DAD A PHERTHYNASAU HOFF,— Dyma fi, ar ol bod yn dysgwyl am fisoedd am atebkd i'r llythyr anfonais &dref o'r blaen (ond yn ofer), yn rymG?yd ychydig o hamdden i ysgrifeau unwaith eta oddiar dir pell y Wladfa Gymreig. Sut bynag yr y'ch chwi yn treulio eieh diwrnodau, wythnosau, a'ch misoedd rhwcg brjniau Morganwg, mewn iechyd a nerth—sut^yr ydych mewa defnyddiau i gadw y CQiff'-aV ecaid mewn undeb gilydd, nis gwn; ms gallaf lai na meddwl am danoch, fy anwyl ffryndiau, pan yn darllen yn y papjrau am y caledi a'r dy- oddefaint y mae Deheuwyr Cymru wedi myned trwyddo yn ystud y flwyddyn ddi- wtddaf. Gallaf ddweyd am danaf fy hun, fy mod mewn iechyd rhagorol (lie bendig- edig yw y Wiadfa am iechyd); gallif ddweyd fy mod yn mwynhau digonedd o'r i-ngeurheidiau sydd i'w cael er cynaliaeth dyn fel y mae yn y Wlauf i. Mae yma ddi- gonedd o fara gwenith iachus, cig, cawp, ymenyn, a llaeth. Nid ydyw y Wladfa wedi dyfod i sefyllfa fel y gall gynyrchu ffrwythau a llysiau, nid am na fedr Dyffryn y Gamwy eu cypyrchu, ac nid am nad oes gyflawn- der -o soil neu wrtaith yn y tir 0, na, yr hyn syddiyn eiri poeai.yn barhaus fel gwlad- fawyr'-ydyw, sut y mae cael dwfr. Credwyf mai dim ond i'r Hwn, sydd a'r belen ddaearol yn ei law weled yn dda roddi llwyddiant i ni atii ddau neu dri thymor, fel y tymhor diweddaf, gallwn anfon i Buenos Ayres am sugnedyddion i'w gosod ar lanan y Gamwy, ac yna tebyg. iawn y cawn fwynhau ein hunain uwchben platied o datws, &c.; a pha wlad dan haul fydd yn debyg iddi?—dim rhenti na threthi, gellwch gadw pob peth fydd ganddoch heb neb i edrych arnoch, gellwch gadw cymaint o gftn hela ag a fynoch, a gellwch fyn'd a hwy i'r camp, neu y gwastadedd sydd o bob tu i'r dyffryn, a pherffaith ryddid i chwi ddal gymaint a fynoch o ysgyfarnogod, estrysod, a guanacod, -pawb yn wyr mawr" pan fyddont yn dewis. Cewch dipyn o banes y cynanaf y llynedd gan Dafydd; ac eleni eto, mae yma ganoedd o erwau o dan wenith, yr afon hefyd yn hynod ffaftiol, a'r ddaear hefyd yn bwrw ei glaswellt yn drwch er digoni angen yr anifeiliaid. Gan hyny, chwi welwch nad yw pethau yn edrych yn wael arnaf finau, diolch i'r Arglwydd yr ydwyf yn teimlo yn dra boddlon am ei adaioni a'i dynerwch yn ei Ragluniaeth tuag ataf. IJawen genyf allu dweyd hefyd fod Jenkin a David Williams mewn iechyd fel finau, a'r olwg arnynt yn iacb, cryf, a braf, ac yn dra bodd- Ion ar eu hamgylchiadau. Y maent hefyd Si parhau yri filwyr dewr yn myddin y renin Iesu; y maent yn fechgyn defnydd- iol a gweithgar yn ngwinllan eu Gwaredwr. Tra marwaidd ydyw yn bresenol yn ein mysg, eto i gyd nia gallaf ddweyd fod Duw yn ymguddio oddiwrthym, ac nis gallaf ddweyd ch^aith fod ei fraich achubol wedi ei byrhau, o herwydd un o'r Sullau. a aeth heibio arosodd dyn at ol yn ein plfth, gan ofyn am enw a lie yn mhlith plant a phobl yr Arglwydd. Yr ydym wedi cael colled ddirfawr ar ol y brawd J. Lewis, Caer- fyrddia; gobeithio y caf ei weled ar dir y Gamwy eto, a rhai bechgyn da gydag ef. Anwyl Dad, fel y mae amser yn ein cario yn mlaen, yr ydym yn agor ein llygaid ar y byd, nes y mae yn peri i ni weled a theimlo a dyfod 1 gyffyrddiad a phethan sydd naill ai er gwell neu er gwaeth i ni yn barhaus, ac felly y mae wedi dygwydd d'od i gyfarfod & minau. DaethumrrWIadfa yn ieuanc, ac yr wyf, fel un ieuanc, wedi ymdrechu fy ngoreu i fyw dipyn yn galed, nes cael fyinin uwchben fy nhraed. Yr ydwyf yn wr priod; enw fy ngwraig yw Harriet Thomas, merch i'r hen ddiaoon parchus David Thomas, gynt o Heelyfelin, AberdSr. Yr ydym hyd yn hynyn byw gyda'r hen bob), a thebyg mai yma y byddwn hyd nes caf amser i adeiladu ar ein fferm. Nid oes genyf ddim yn ychwaneg i ddweyd wrthych y tro yma, ond y carwn elch gweled yu rhoddi eich troed i lawr ar dir y Wladfa fel teulu. Cofiwchfl at bawb o'm ceraint yn mhell ac yn agos.—Ydwyf, eich cywir fab, T. MOEGAW.
- Gaiman, Chupat, Hydref 19eg,…
Gaiman, Chupat, Hydref 19eg, 1878. Fy ANWYL FAM A'R TEULU OLL,- Wele fi yn anfon yr ychydig linellau hyn atoch, gan obeithio eich bod yn mwynhau eich cynefinol iechyd oil, fel yr ydym ninau fel teulu bychan ar hyn o bryd, trwy drugaredd Rhoddwr pob daioni tuag atom. Derbyn- iais eichllythyr caredig, ac yr oeddwn yn. 191 falch iawn ei gael a chlywed gair oddiwrth fy rhieni anwyl (drwg iawn genyf na allem glywed oddiwrth ein gilydd yn amlach), ond erbyn i mi ei agor, fe drodd fy Uawenydd yn alar i mi-clywed fod fy anwyl dad wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Yr oedd hyn yn ergyd trwm iawn i mi, heb feddwl dim am dano ond peidiwn a digaloni, yn hytrach ymddiriedwn yn y Gwr sydd wedi addaw bod yn Briod i'r weddw, ac yn Dad i'r amddifaid, a gwneud ein goreu i barotoi erbyn gwynebu yr un amgylchiad, oblegyd nid oes dim sydd sicrach i'n cwrdd ninau na malw. Yn awr ni adawn y ddalen ddu. Fy anwyl fam, yr ydych yn gofyn am dd'od yn ol. Dyma i chwi dipyn o'n hanes ni. Yr ydym yma er's tair blynedd bellach; ni gawsom y ddwy flynedd gyntaf agos trwyddynt yn ffaeledd, a phawb bron yn ddigysur yma, ond erbyn heddjrw mae pob peth wedi d'od i drefn. Fe gaed cynauaf da iawn y llynedd, ac y mae gobaith da iawn am gynauaf da eleni eto. Yr wyf yn awr yn adeiladu ar fy fferm fy hun, ac wedi hau 11 erw, ac erbyn hyn y mae yn glasu y ddaear, ac yr wyf ar fy nhraed eto yn y Wladfa, ac yn byw yn gysurus yma. Yr wyf yn sicr ei bod lawer iawn gwell yma nag yn yr hen wlad, ac felly chwi welwch na ddeuaf fi byth yn ol i fyw i Gymru eto. Felly, fy anwyl fam, mi garwn yn fawr eich gweled chwi a'r bechgyn yma hefyd chwi gaech fferm yma 250 erw, pe byddech yn d'od yma. Hefyd, mae genyf fi ddigon.o dir fel y gellwch gael llafurio faint a fynoch, ac mi roddaf bob cynorthwy ag a allaf i chwi. Yr wyf bellach wedi dysgu pa fodd i drin tir a chodi gwenith yma. An- fonais yr un peth at Martha hefyd, am fy mod yn gwybod ei bod yn llawer gwell yma nag ynp. Mae'n hyfryd i fod yn feistr arnaf fy hun, ac mewn awyr iach bob dydd, yn lie llwch a sulpher yr heo bwll glo bYlh ac yn dragywydd. Mae genyf erbyn hyn felin, a phob peth angaurheidiol arali; yr wyf newydd brynu caseg gan yr ie, feiliai fod arnoch ofn yr Indiaid, ond y maent hwy yn ddigon diniwed yr ydym ni yn meddwl yn wa- th am danynt hwy, nag ydynt h-n'y amdanomni. Mas JohnH;chard wedi ein gadael yma mae wedi bod ar y tramp yn nghwmni dau arall-aeth tua Buencs Ayrts, ac oddiyno ymdeithio >d tua Chili, ac nis gwn b'le i gyd ond hyn a wn ei fed wedi colledu ei hun yn fawr erbyn hyn pe buasai yn cymsryd amynedd ac yn arcs yma, buasai yn well arno. Ys^rifenais ato, a deallwyf ei fod wedi dyfod adref yna. Cofiwch ni yn fawr at ein tylwyth i gyd heb eu henwi un ac un. Cofi weh hsfyd, os bydd thai o honoch yn meddwl d'od yma, am anfon yn ol ataf, fel y gallwyf anfon ilythyr atoch i ddweyd beth yw y pethau mwyaf angenrheidiol i chwi dd'od gyda chwi. Hyn yn fyr oddiwrth eich anwyl blant, EVAN A MARY LEWIS.
EISTEDDFODAU Y NADOLIG A CHADIFOR.
EISTEDDFODAU Y NADOLIG A CHADIFOR. Y mae yn llawn bryd bellach i mi ddyfod allan i amddiffyn fy hunan mewn cysylltiad a'r ysgrjf a, ymddangosodd yn y DARIAN cyn y ^diweddaf, dan y penawd uchod. Yn y DARIAN ddiweddaf, daeth rbywun yn dwyn y. Henenw Gwrtydd allan i saethu bwledi papyr ataf. Dechreua trwy ddweyd fod gwyliau y Nadolig wedi fy ngwisgo mewn gwisg newydd, sef grwgnachwr. Ymddengys 1 minau ei fod ef yn anwybodus iawn o'm cymeriad, onide buasai yn gwybod fod y wisg hon mor hyned a mi fy hun. Dywed y menywod sydd yn cofio dydd fy ngenedig- aeth, mai y peth cyntaf a wnaethum wedi tirio ar draethell y byd hwn oedd wylo, ac y maent hwy, debygwn, cystal awdurdodau d'r D.D.'s ar bynciau pwysig fel hwn. Yna & yn mlaen i ddyfynu rhanau o'r ysgrif y cyf- eiria ati, gan ddweyd, "Gellid dysgwyl mwy o foesgarwch na'r brawddegau uchod gan ysgrifbin un yn dal pertbynas mor agos a'r Ford Gron." Dywedaf finau yr un peth o galon. Buasai cywilydd arnaf ddyweyd y fath frawddegau; ac y mae y neb a'u hysgrif- enodd yn haeddu cael ei ystyried yn saiach nag islaw sylw, pwy bynagoedd, nid yn unig am drin cymeriadau dysgleiriach nag ef ei hun, ond hefyd am wneud hyny yn fy enw i. Nid oedd genyf yr un Haw o gwbl yn yr ysgrif, ac felly fe wel Gwrtydd" ei fod wedi camsynied yn ei nod. Pwy bynag a'i hysgrifenodd, y mae wedi chwareu rhan y mwnci yn y chwedl, sef defnyddio troed y gath i dynu'r cnau allan o'r tan, trwy ddefn- yddio enw un arall i daflu ei lysnafedd brwnt at ei well. Yr wyf yr un farn a Gwrtydd" parthed hawl pwyllgorau i ddewis eu beimiaid, ac nid ydwyf wedi yngan gair yn erbyn beimiaid na De na Gogledd erioed. Pe dygwyddai i unrbyw hwyilgor eisteddfodol ddewis beirnaid heb fod yn fy moddloni, buaswn yn ddigon doeth i beidio a chystadlu, gan fy mod at fy rhyddid i wneud fel y mynwyf mewn mater- ion o'r fath. Nid ydwyf.yn beio "Gwrtydd" am ei ysgrif, oblegyd yr oedd yn ddigpn naturiol iddo dybied mai myfi oedd y troseddw*j gaD fod ^henw yn gysylltiedig &'r ftiloreg yn hytmch yr wyf yn ei gymeradwyo, ac yn yst^aed ei ymddygiad yn "ganmoladwy. Yagttlenais nodyn i'r DARIAN am yr wyth- nos ddiweddaf yn datgan fy ainiweidrwydd, gan ofyn i'r Golygwyr am fy rhyddhau; ond rywfodd nid ymddangosodd. Gofynaf yr un cais genych eto, Mri. Gol., os gwelwch yn dda. Cwmbwrla. E. SAMUEL (Cadifor). [Gallwn sicrhau fod y cyhuddiad yn erbyn Cadifor, Cwmbwrla, yn hollol ddisail. GOL]. •
CHWAREU TEG I MR. GLADSTONE.
CHWAREU TEG I MR. GLADSTONE. ERTHYGL VII. 'c'l ^ichon fod rhai yn rhyfeddu nad ydym yn daSuen cynyrchion Dafydd Morganwg. Y mae genym resymau cryfion i beidio gwneud hyny. 1. Wedi i ni ddeall nad oedd Dafydd am dderbyn y gwirionedd, wedi iddo gael ei eglufo a'i brofi, ofer fyddai dilyn eu haeriad- au perffaith disail. 2. Nid oedd eisiau iddo anfon ei gynyrch- ioh i un cyhoeddiad ond y DARIAN, pe buas- ai efe yn caru y gwirionedd ar y mater mewn dadl. TGwrthwynebaaom ni DORIAETH Mr. Gladstone, a digiodd Dafydd wrthym am wraxwynebu y TORIAETH hwnw yn y Mesur AdTSyeg, Ac eto aeth i hwyliau drwg o her- wydd >i in. wrthod ei haeriad ynfyd ef, ein bod ^i yn DORIAID am i ni gondemnio TORI- AET<Mr. Gladstone Rhaid fod dyn a suddfl^mor ddwfn mewn ty wyllwch, o dan ddylanwadau annaturiol iawn. 2.Byd nes y gwnelo efe apology bonedd- ig^i^d am yr anwiredd yn ei lythyr olaf i'r DABlAN, set nad Mesur Addysg 1870 fu yr ae|ij» i "Gladstone golli ei boblogrwydd, yn. enwedig yn mhlith YmJneiLldwyr," yn ng^neb y profion didroi yn ol a roddwn, ei foctIW4vvedi gwneud camsyniad mor fawr a phe dywedasai na chododd haul erioed—ni edjycnwn ar ddim arall a ysgrifena efe i genao dal i fyny yr anwiredd uchod. Arfer dyrflon a wnant haeriadau disail yw ceisio eu ifel i fyny a haeriadiau disail ereill. Bywedodd rhyw un wrthym ei fod yn haeru yn erbyn ein profion ni, am mai dyn- ionwu lhoddasant! Ai profion oddiwrth epaod a ddysgwyliai efe ? A ydyw y prof- ion arydd dynicn sydd yn Ymneillduwyr yn nghylch yr hyn a wnaethant hwy eu hunain, ddim i'w credu o flaen tystiolaeth dyn sydd yn<dweyd pethau cwbl dramor i'r ffeithiau 1 nLyr ydyin yn ymgynghori a'r profion o wiribnedd ein golygiadau ar Mr. Gladstone, y mae ein syndod yn cynyddu i raddau aruthrol fod un dyn tu yma i Japan, na wel- odd-bapyr newydd ddim ond unwaith mewn wytwmlynedu, mor wyrgam ei fam ag am- eu am foment ein golygiadau ni ar Doriaeth Mr. Gladstone, ac effaith niweidiol ei Dori- aet^ ef mewn cysylltiad a'r pwnc o addysg $r y blaid Ryddfrydol. Ac yr ydym yn sicr y gwnelai unrhyw ddyn a barchai yr hen adiareb y Gwir yn erbyn y byd apology boneddigaidd, yn ngwyneb y profion cyntaf a roisom ei fod wedi mentro croesi ein gol- ygiadau i'r graddau lleiaf. Rhagrith yw rhoddi yr hen ddiareb y Gwir yn erbyn y byd," fel arwyddair, uwch ben programiau Ueuyddol, os bydd y llenorion mewn cy- syUtiada'r fath bsogramau, yn ddibris o ystyr y ddiareb. Nid ydym yn meddwl y gwnae I J. un lienor Cymreig goleuedig, ymladd o blaid anwireid gyda ffyrnigrwydd dis'gar, r ni bai fod rhyw raib dj^eithrol wedi meddianu ei dymherah ef. A hyderwn yr ymlidir y fath raib ymaith, lie bynag y gall fod, ac y gwel- ir y gwrthddrych fu dan ei lywodraeth, eto yn eistedd yn ddysgybl hynaws edifeiriol wrch draed GWIRIONEDD. Yn Monthly Paper League Birmingham, mewn cysylltiad ag addysg, yn y rbifyn am Gorphen&f 1873, y mae y sylwadau Cinlynol, yn i-ghylch yr hyn a gymercdd ie yn Bath, fiioedd cyn yr etholisd cyffrediaol. Rhodd- wn gyfieithad o'r golyg adiu er mwyn i'r Cymro unla:th gael gweled eu nerth fel profion o gywirdeb ein golygiadau. Medd golygydd y papyr uchod:— Y mae cwrs addysgiadol y Llywodraeth, (sef un Mr. Gladstone), yn cynyrchu ei ffrwyth anocheladwy. JSid yw gwrthryfel' yr Y mnelllduwyr mwy m ewn enw ac yn fygyth- iad. Y mae y ct/lymau a'u rhtoymodd lorth y Llywodraeth Byddfri/dig wedi cael eu tori, ac am amser o leiaf, y mae yn sicr y cymerant feddiant 0 esgynlawr bcliticaidd ysgaredig. Y mae y ffaith' fod dyeithrwch am dymor yn bod rhyngddynt hwy a'r blaid & pha un yr ceddynt mewn cyngrair, aco ba un y cyfmsodderit yr adran fwyaf gweithgar a nerthol, yn achos o drallod dwfn i bob Rhyddfrydwr brwdfrydig. Pe buasai y gwahaniaeth rhyngddynt yn perthyn yn unig i faterion amgylchiadol neu beirianwaith, ni buasai y rhwyg presenol wedi cael ei wneud. Ond, er pob deisebau a thaergeisiadau, y mae y Llywodraeth yn dal at ei chwrs i droseddu yn erbyn golygiadau anwyld Ym- neillduwyr, cwrs sydd yn taro yn erbyn pob egwyddor ar ba un y mae eu ffyddlondeb wedi cael ei seilio. Am lawer blwyddyn y mae Ymneillduwyr, nid yn unig wedi bod yn rhestrau blaenaf Rhyddfrydiaeth, ond hefyd y maent wedi bod y dor. barth mwyaf ymroddgar yn y blaid Ryddfrydol. Ac yr oedd ganddynt hawl i ystyriaeth arbenig 31 law y Llywodraeth. Ond pan yr oedd y Mesur Addysg o dan ystyriaeth yn y Senedd, hysbysodd yr Ymneillduwyr y Llywodraeth yn nghylch eu gwrthwynebiadau diamodol i ranau o'r Mesur. Aeth dirprwywyr oddi- wrth brif eglwysi yr Ymneillduwyr at Mr. Gladstone a Mr. Forster. Anfonwyd deiseb- au a phrotestiadau dirif i'r Senedd. Cyfarfu undebau a chymdeithasau o wahanol enwad- au Ymneillduol, a chondemniasant y Mesur yn yr iaith fwyaf grymus. Cynhaliwyd can- oedd o gyfarfodydd cyhoeddus trwy y wlad, yn y rhai y mabwysiadwyd deisebau yn erbyn y Mesur. Gwnawd pob ymdrech i oleuo y Llywodraeth yn nghylch tymher a theimlad Ymneillduwyr ar y mater. Gwyr pawb beth fu y canlyniad. Pasiwyd y Mesur yn erbyn golygiadau mwyafrif y blaid Ryddfrydol trwy gymhorth y Toriaid." Yn awr rhoddwn y gweddiH o'r sylwadau yn Saesonaeg, er mwyn i bawb gael gweled pa mor nerthol yw yr iaith. a ddefnyddiwyd gan Ymneillduwyr y pryd hwnw. From the hour when the Act received the Royal Assent, hostility to it has deepened and strengthened. Educational work has been, to a large extent, lost sight of in the conflict caused by those provisiona which refer to religious teaching. Large and re- presentative meetings of Nonconformists and Liberals have urged that the conflict should be continued in the constituencies, a»d that-tbe Education Questio#*hould be made the test in all elections. It was im-, possible that the Government (of Mr. Glad- stone) should be blind to these demonstrate tions of public opinion. The Nonconform- ibts prostrated themselves before the Minis- try, and begged of them to pursue a more just and more generous policy. They have reminded the Government (of Mr. Glad- stone) of their long and faithful allegiance to the Liberal party, and have entreated them to render continued loyalty possible by retracing the retrograde polity of. 187.0;, and they have warned them that if their remo»-v strances were disregarded, the Liberal pttriy would be brohen into fragment*. What has taken place 1 The Bill for the Amendment of the Education Act makes no pretence of satisfying the objections of Dissenters." Ttif law which has provoked so much bitterness and resistance during the last three yeara, is re-enacted in a more striBgent form. Fajr from being relieved, the yoke is made madt binding. Under these circumstanoeiL wBbfc are the friends of education and of jpligious liberty to do do ? They have declaie& gMt the cause of religious freedom is of mere fm- portance that an y ties of party. Stace the great Conference in Machester, NoncoaJtem- ists have been extending andperfoctin&tkmr organisation. Committees have been foamed in all the large towns and in many Ctftanty constituencies. Nearly every borough in the Kingdom has been visited with the view of ascertaining their electoral strength. What has been the meaning of all this preparation, estimation of strength, and organnalfeoii of fozces ? Was the object of it a mere attempt to frighten the Government (of MT. Glad- stone) into making concessions ? Have we been engaging in a sham fight oaly Were the Manchester declarations mere iflftnd and pretence of determination 1 Let the Bath election answer these questions. At the time that Mr. Cox's address was-issued at Bath, the Noncomformists ComcAbtees of London, Liverpool, Manchester and Bir- mingham met at Crewe, and d$l £ «tfed that there could be no further truite^mth the Government, and advised that simitar action should be taken in other constituencies. Hr. R. W. Dale, has since said that it Would have to recur again and again, in constituen- cey after constituency, until the liberal Party had learnt to apprehend more dis- tinctly and intelligently what those princip- les were which alone would secure, for it the confidence of the great mass of the Noaoon- formists of the country.' We shall be ac- cused of breaking up the Liberal party. The Laily News has said 'We grant that the Dissentients are not to be condemned out of hand for weighing the advantages of such a course, o'r for believing that a crisis may f¡r:se when the ultimate establishment of a principle is property to be held of greater importance than the present organisation of a party.' We are convinced that such a crisis has now arisen. -The Birmin-gham Da-Zy Post says: 'obedience is due in the first instance to great principles, and not to a mere organisation.' Mr. Cobden said in a memorable speech 'When a party violates its professed principles, then I think that party should be called an imposture.' We maintain that the Government (of Mr. Glad- atone) has violated the pledges upon which, it was returned to power-that it wotdd^ uphold a:,J « d0 • • • ;vV?iou* equality, n 7.7 /.• L,oL>&-n- 7,r«nt} i-ey havedeeerted us, and been false to their professed principles. In defence of those principles upon which our allegiance was based, we have been driven to resort to the most powerful weapon of agitation—to appeal directly to the constituencies, and to give to the electors, be there few or many, an opportunity of testifying by their votes their approval of our course. This was the g-eat means by which the Corn Law League accomplished its purposes..It is the one means by which the Government of this country may yet be convinced that we are in earnest in defence of cur principles. The members of the League w-,11 share the opinion expressed in Parliament by Mr. Dixon and Mr. H. Richard, that the Governme. t Bill to amend the Education Act, must be received with pait6 arid disappointment, by eve; y friend of national education and every advocate of religious liberty. Mr. Dale hos sflir1, 'The old union between the Leaders of the Liberal parly and the Nonconformists is now dissolved. He felt that it was their duty to en; ourage their friends in every constituency in the Kingdom, whenever a Ministerialist (or a Gladstonian) invited their suffrages to run anoth r man, who whether h." won or lott, should stand on the principles of religion equality." Dyna sachea o brofion o un rhityn o'r cyhoeddiad a anfonodd y Leagueii bob partk o'r deyrnas, oddeutu chwe mis cyn yr ethol- iad cyffredinol. Dengys y dyfyniadau uchod, 1. Fod gwrthryfel" Ymneillduwyr yn erbyn Gladstone yn ffaith ymarferol gweith- redol. 2. Eu bod yn gwahaniaethu oddiwrth Glad-» stone mewn egwyddor, ac yn ystyried hono yn anfeidrol fwy pwysig na chadw y blaid.5 Ryddfrydig gyda'i gilydd. 3. Fod gwrthwynebiad yn mhlith Ymneill- duwyr i Weinyddiaeth Mr. Gladstone ym gyffredinol trwy y deyrnas, a hyny mewn ffordd gyhoeddus a gweithgar gyda golwgac yr etholiadau, er mwyn rhwystro Mr. Glad- i gael y mwyafrif. 4. Fod pwyllgorau Ymneillduol yn y tref- ydd mwyaf yn Lloegr yn gwneud eu goreu i sicrhau concwest ar Mr. Gladstone. -Lie bynag y byddai ei Ymgeisydd af fod Ymgeis- ydd 1 mneillduol i gael ei oaod i fyny yn ei erbyn ef. Gwel y darUenydd lawer o bethau ereill yn y dyfyniadau uchod, y rhai a brofant winonedd ein golygiadau, ac a ddangop-• ant pa mor ynfyd a gwallgofus raid fect-'y dyn a allai amheu yr hyn a ysgrifei asom aM • foment. Drwg iawa genym orfod defnyddlt- geiriau cryfion tusg at neb a arferem btiretoi., Ond y mae ysbryd gwrthryfelgar yn erbyn y gwirionedd fath fel y caiff y gwr a wedda ei hun felly y maes cecrus, enllibiw, anwireddus, ac isel iddo ei hun. Yr Argl- wydd a roddo edifeirwch a maddeuant id^.
YMFUDIAETH, &c.,
YMFUDIAETH, &c. MM. GoL. Fel un sydd yn teimlo cfa- ddordeb yn y pWnc nchod, yt wyf yn hon yn fawr ddarllen y llythyron a'r ymofjrti. iadau ydynt wedi ymddangos yn y DARIAJJ, y naill dro at ol y llaUJ yn fwy neillduol • ardal y Bheadda. Nid oes amheuð nad r&yw f-pyvuc o ymfudiaeth yn mhlith y dqs- barogw$Muol ya an ag a ddylai gael syhr maw, genym, ao y mae y llawnder presend .0 weit £ wyr a'r prindev mawr o waith, ya aehotr sg 0jdd yn tynu sylw mawrion ein *wlad».. Dywedal larll Derby, tra yn anerck -gweithwyT Rochdale, Ionawr 2i1, 1879, fel y camlyn;—" Ond er nad wyf yn cael fod yma fawr o agoriad i weithwyr ar y tir gartref, ni ddywedaf hyny am fanau ereill. Credaf ei fod yn gwestiwn teg yn ein ynys fach hoa, ai aid ydym yn eael ein pacio ynrhydya ? Ai nid ydyM wodi dyodlef yn herwydd at^l- iad ymfudiaeth y blynyddau dxweddaf? I mae ymfudiaeth i bob fel yr eiddom ni, yw ollyngfa allan naturiol ae hefyd angenrheid- ioL Gellwch basio y cyfreithiau a fynoch; gellwch ysgafnhau y baich trethol hyd net y- byddo y gweithiwr yn ymarferol rydd oddi- wrthynt. ond cyhyd ag y bydd mwy o honyat nag a ail gael gwaith—cyhyd ag y bjda- dau weithiwi yn edrych ar ol UB rhoddwr gwaithi nia gall na phleidleisiau, rhyddid oddiwrtk drethoedd, nac unthyw beth ag a all gwleidyddwyrgwneud, nac eto unrhyw ddyfaia o'u heiddo eu hunain er cynyrchu ptinder llafur mewn galwedigaethau neillda- oi, yn y pen draw, eu rhwystro rhag bod ya isel eu hamgylchiadu. Nid wyf, wrth gwta, yn dadleu y dylai neb o honoch fyned iJr wlad newydd heb yn gyntaf wneud archwil- iad i'r manteision ar ol myned yno. T. breseaol y mae gan yr Americaniaid 811 trallodion fel ainau, ond yn meddu eu tii anorphenol, y maent yn fuan yn crynhoi cylalaf; ac aru gallu eithriadol, byddant ya Bier o ymwroli cyn bo hir, ac yn wir yr wyf yneredtfodyrymwroliadwedidechrpu. Y mae plant yn fyw, pa rai, yn debygol a wel- ant yr Unol Dalaethau yn rhifo dau can1 miliwn o drigolijn»^c aid wyf yn credu fod unrhyw bwne ag y gall arweinwyr y gweith* wyr dalu sylw mwy defnyddiol iddo, na roddi ilir thai a'u ceisiant hysbysrwydd cywir a gonest o berthynas idd en manteision y ta draw i'r Werydd, t&aill a'i i'r gogledd neu i'r de o linell derfynol Canada. Fe fydd genym ▼a wastadol ddigoaedd o ddynion gartref; a hyd yn nod pe ba'i i ymfudiaeth fyned xzner belled ag atal y cynydd yn y wlad hon, tar nad yw yn debyg y gwna hyny, ODD pe ball, ai nid yw yri well cael 35,000,000 o fodau dynol yn arwain bywyd defoyddibi a deall- gar, na 4°1000 000 yn yrndtechf tyn boenus am o'r braiddjfywiofiaetii? Y mae personau mi wn, a wrthwynebant ar y tir, er fod ym- fudiaeth yn dda i'r person, ei f od yn gwanhau y Dalaeth.l Nis gallaf gymeryd yr olwg yna. Y mae pobl foddloEgar yn myned yn mhell er gwnend y Dalaeth yn nertbol, ac yr wyf bob amser yn argyhoeddedig fod cryn lawer o ryddid rhag trallodion mewnol yn y wlad hon, pa un ar rai prydiau a briocUlir' i gymeriad cenedlaethol, a phrydiau ereill i'n cyfansoddiad gwleidyddol, yn ddyledus i'r gwahanol adwyau ydym wedi greu yn y gorphenol a'r presenol y tu draw i'r moroedd. Y rhai hyny ydynt ein safety valves, ac os y bydd iddynt unrbyw amser gael eu tagu, yr wyf yn dysgwyl y bydd y canlyniadau yaj. anghysurus."
LLINELL TTR INMAN.
LLINELL TTR INMAN. Cychwynwyd y cwmni hwn yn y flwyddvisr. 1850, a hwn oedd y cwmni cyntaf i gludcs; y rhai a elwir yn steerage passengers am, wedi parhau i fod ar y blaen yn hyny, ac wedi cario y rhifedi mwyaf o unrhyw liLoW
PETHAU YSTADEGOL.
bWTiwi1 liroVbycl. Y mae mwjTo BatP ydd&n jno iisg sjdci yn Rhufain ei bun, mwy Q Inddewon nag yn Palestine, mwy o Wyadelod nag jn Belfast, mwy o Scotch- men, nag yn Aberdeen, a mwy o Gymry nag yn Caerdydd. Pe gosodid y tafarndai a'r palasau gin sydd yn Llundain ochr yn oehr, cyrhaeddetit 62 o filldiroedd, gym- aint bron ag o Ferthyr i Aberystwytb. Cyrhaeddai holl cai Llnndain ochr yn oehr o Gaerdydd hyd yn agosdriugain milldir tu hwnt i Liverpool. Y mae digon o dlodion yn Llnndain i lanw un rhan o bedwar o holl dai sir Forganwg. Y mae siopau yn agored ar y Sabboth yno a gyrhaedd- ant ochr yn ochr o Gaerdydd i Gaerfyi- ddin.