Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL YR WYTHNOS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL YR WYTHNOS. Dydd Ian diweddaf cymerodd ffrwydriad dyehrynllyd berwedydd le yn ngweithiau Mri. Balme a Prichard, Halifax, a dy- wedir fod chwech o bersonau wedi eu lladd yn y man, ac amryw ereill wedi eu niweidio yn fawr. Dinystriwyd yr holl weithfa. Yn Paris y dydd o'r blaen, torodd cer- byd mawr a dynid gan dri o gyffylau, ac ynllawn o deithwyr, yn gymwys yn ei ganol, ac aeth y rhan gyntaf ymiith gyda'r gyrwr heb wybod dim am y rhan oedd yn ol. Ni ddygwjddodd unrhyw niwed i deithwyr y rhan olaf, namyn gadael i hen foneddiges a eisteddai yn gyirwys ar yr hollt ddisgyn i'r llawr. Dydd Mercher diweddaf, cychwynodd yr agerlong Dominion o'r wlad Jaon am Texas, ac ar ei bwrdd 260 o amaethwyr a'u teulaoedd. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn bwriadu prynu tir i'w amaethu. Y mae y Rhyddfrydwyr yn Swydd Fynwy wedi bod yn enillwyr mawr yn yr ymchwiliad a wnaethpwyd yn ddiweddar i nifer y pleidleiswyr. Dywedir fod y Rhyddfrydwyr wedi enill trwy y Sir gy- maint a 1,100 o bleidleisian, yr hyn sydd wedi effeithio yn fawr ar ysbryd y Tori- aid. Yn yr archwiliad diweddar i restr ethol- wyr Llarelli, enillodd yRhyadtrydwyr 39 o bleidleisiaa. Yn nosbarth undeb Llan- elli, enillodd y Rhyddfrydwyr 52. Recorder Birmingham ddydd Iau di- weddaf a ddedfrydodd gyfreithiwr o'r enw Percy Williams, 35 oed, i'r carchar, am godi arian trwy gau dystiolaeth. Dy- wedid yn yr amddiftyniad fod y oyfreith- iwr druan mewn angen am fara pan y cyflawnodd y waithred. Y mae dyn o'r enw Palmer wedi marw yn Shefield o gynddeiriogrwydd, wedi cael ei gnoi rhyw fi* yn ol gan gi oedd ganddo. Y mae corff plentyn wedi ei gael gan blant oedd yn chwarea mewn maes yn agos i Roath, Caerdydd, wedi ei vnoud i fyny yn fwndel. Dydd Sal diweddaf, mewn llyn yn agos i Industrial School, Aberdar, cafwyd oorff marw bachgen o'r enw Edwerd Donoghue, yr hwn oedd wedi ei golli ddiwrnod yn tlaenorol o'r sefydliad. Caed allan yn ddiweddar yn Rwsia fod gadben un o'r maes-gyflegran wedi anfon 50,000 roubles adref o Twrci, ac amheuwyd iddo ddyfod yn feddianol arnynt yn anonest. Wedi chwilio i'r pwnc, profwyd ei fod yn lladd y ceffylau flan ei ofal, ac yn oadw yr arianaddy- lasai ddefhyddio i brynn bwyd iddynt. Taflwyd ef i'r oarchar i aros ei dynged haeddianol.

MARWOLAETHAU OYMRY YN AMERICA.

DAMWAIN DDYOHRYKLLYD AR REILFFORDD…

. Y Gwrthryfel yn Afghanistan-41

CODIAD YN MHRIS YR ALCAN.

. TEXAS.

CYFARFOD MISOL GLOWYR DOS…

YR ALCANW YR.

[No title]

! DAMWAIN ANGEUOL.

.< DAU GYMRO LLW YD DIANUS.

CODIAD YN MHRIS YR HA.IARN.

MR. FOTHERGIIib YN ABERDAR.

[No title]

» MERTHYR-NEWYDDION DA I'R…

-'♦ IGLOFA FFORGHAMAN, CWMAMAN.

Advertising