Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
--..__._.---.----,--. DIRWEST—LJJTH…
DIRWEST—LJJTH VI. Y mae y cymedrolwyr, fel yr Iuddewon, yn ddosbarth neilldnedig yn y byd; hwy oeddent yr unig bobl oedd yn teimlo yn aclios y meduwyn; ac fel y nodasom o'r blaen, diamheu eu bod wedi gweddio llawer ar Dduw gyda eliywirdeb calon am iddo fe^dxLliio rbywfoddion er achubymeddwon. O.edwn eu bod yn gobeithio y byddaihyny yr i gysur personol iddynt hwythau, gan y t JyddJ.i sobrwydd a rliinwedd yn cael eu dyrchafu, a meddwdod yn caei ei symud fel bwystfll reibus o'r tir. Er y cwbl, y mae lie i gasglu eu bod hwy, fel yrluddew- on, yn coledda rhyw syniadau aughywir am yr hyn ooddent yn ei ddymuno, gan nad oeddent oil yn argyhoeddedig y byddai yn rhaid iddynt ei adael hyd yn nod er lies eu hunain er mwyn cyrhaedd yr amcan gogoneddus hwn. Y mae yn amlwg mai yr un yw dirwest o ran ei phrif egwyddor a'r efengyl ei hun, gan fod y naill a'r Hall yn dysgu eu deiliaid i beidio edrycli ar eu ilea eu hunain, ond llss Uu weroodd. Pan y mae y crefyddol a'r dosbartii cymedrol yn gwrthod ac yn anghymeradwyo yr egwyddor o lwyrym- wrthodiad, ac ar yr un pryd yn addef mai hon ydyw y ffordd sicraf er dyogelwcli cymeriad, y maent drwy hyn yn dangos fod ou gwrthnysigrwydd yn gymaint, os nadyn fwy, nag eiddo yr Iuddewon aughrediniol. Pan y darilenwn am Grist yn cyfarch yr luddewon, ui a,'i cawn yn dweyd wrthynt, Gliwri a'm ceisiwch ond ni'm cewch." Geirian rhyfedd oedd y rhai hyn a ddifer- odd dros wefusau yr hwn a roddodd gy- maint o anogaethau i'w geisio, ac wedi proii ei huu Yl1 barod, ac yn haelionus i bawb oucld wedi ceisio gauddo. Er fod y geiriau yn ymddangos yn wrthun i'r ar- wynebol, eto y mae yrna wirionedd pwysig yn cael ei lefaru, oblegyd y mae yr Iuddew- on wedi, ac yn ei geisio yn barhaus o'r pryd hwnw hyd y dydd heddyw. ac heb ei gael. Ceisio Crist o'r dyfodol y mae yr Iuddewon, ond nid oes gobaith iddynt i'w gael byth. am y rheswm ei fed wedi dyfod. Y mae ymddygiad yr luddew tra yn par- hau i geisio neu i ddysgwyl Crist i ddyfod, yn profi yn eglur nad ydyw yn credu yn yr hwn a ddaeth yn nghyflawnder yramser, onide efe a roddai i iyny ei ddysgwyliad. Ond, atolwg, pa fodd y mae y I cymedrol- wyr ? a ydynt hwy yn parhau i ofyn i Dduw am fendithio rliyw foddion er mwyri difodi meddwdod ? Meddyliwn y gellir ateb yn gadarnhaol, nac ydynt; y mae yn am- lwg fod y cais hwn wedi eigolli o'r eglwysi i fest; r helaeth. inis gwuawJl bellderfynu pa nifer o resymau a ellir eu dwyn dros y gosodiad uchod. Credwn y gellir dwyn llawer, eto, nis gwnawn enwi ond un yn bresenol, sef, bod y rhai sydd yn credu mown cymedroldeb yn methu ceisio gan Dduw yr hyn y mae eu cydwvbodau yn tystio eu bod wedi ei gael. Y mae y rhai sydd yn cofleidio yr egwyddor ddirwostol oddiar euhadnabydd- iaeth o'i c I> yf addasrwydd, yn barnu yn gydwybodoi nad oes eisieu ei gwell. Y mae llwyrymwrthodiad oddiwrtli y diod- ydd nieddwol yn feddyginiaeth dcugon eifeithiol i iachau yr holl fyd oddiwrth effeithiau meddwdod ond yn nnig ei arferyd. Tybed nad yw y byd bellach wedi cael prawf o aneffeitliiol'deb pob peth arall? Onid yw rheswm yn ein taer gymell i gredu hyn? ac. onid yw yr Ysgrythyr hefyd yu egiur ddweyd hyn, gan ei bod yn rhoddi hanes rhai o'r teuluoedd mwyaf eysegredig wedi syrthio i'r pecbod o feddwdod wrth hirymarfer a'r diodydd sydd yn me lawi. Ni welodd yr Arglwydd ei lxun yu dda i ddangos gwell meddygin- iaeth at hyn na llwyrymwrthodiad Ni welwn hyn yn amIwg oddiwrth hanes Nadab ac Abihn, meibion Aaron, yr Arch- offeiriad. Y mae yn amlwg fod y ddau fachgen hyn wedi cael dygiad da i fyny, ac yn wyhyddus o'r gwasanaeth cysegredig ag oedd en ta; yn ei ddwyn yn miaen eto, cawn i'r rhai hyn syrthio i'r pechod o feddwdod, a cha^vsant ea taro gan farn an- adfcraf.wy Daw tra yr oeddent yn y sefyll- fa bono. Fel gocheliad i'r gweddill o'r tenlu, ni gawnyr Arglwydd yn gorcliymyn i Aaron yn gysial a'i feiblon, bellach yn y geirian canlynol:—"Gwin a diod gadarn nac ft di, na'ch feibion gyda thi, pan ddeloch i bahd; y cyfarfod, fel na byddoch farw. Dei. ;t (ir-igywyddol trwy eich gen- edlaothau fydd hyn. Gan mor bwysig y gwahardaiad, gwnaeth yr Arglwydd ei hunhysbysu Aaron am dano, gan ddwyn ei resymau dros yr hyn a geisiai, A hyny er gwahauu rhwng cysegredig a digysegr- edig, a rhwng aflan a glan. Gorchwyl annymunol ydyw adgoffa am wendidau teuiuoedd o'r cyfryw nodweddion ag oedd teulu Aaron a'i gyffelyb; eto y mae dwyfol ysbrydoliaeth wedi nodi eu hanes, ac wedi eu dwyn ger bron ein sylw ni. Diamlieu hefyd fod ein lies mewn golwg drwy hyn, Gan mae er addysg i ni yr ysgrifenwyd hwynt." Credwn mai yr addysg sydd i ni yn yr hauesion hyn ydyw gocheliad taer arnom i beidio teithio yr un Uwybrau, gan i hyny fod yn ddinystr i'r rhai y rhoddir eu hanes. Blin oedd genym wrando yn ddiweddar ar gyfaill yn adgoffa am fadd. wdod Noah I mewn ffordd o amddiffyniad i gyfaill arall ag oedd yn cael ei ddysgyblu am gyflawni y cyffelyb drosedd. Nis gallwn lai na theimlo yn dosturiol wrth ryw fath o bobl yn ngwyneh ei plentyneiddiwch tra yn ceisio llochesu am ddyogelwch pan yn enog, trwy gyfeirio fod ereill heblaw hwy wedi cyflawui yr unrhyw droseddau.
Y BYD LLENYDDOL.
Y BYD LLENYDDOL. Cly wed fod Cocosfardd o lan y Twrch yn y pot a'r saim oddiar eisteddfod Gwauu- caegurwen y Nadolig. Peth rhyfedd na buasai yno yn gynt. Gwelwch, fechgyn, y gollir llwyddo yn hir yn y byd llenyddol trwy ladrata, ond y mae y diwedd yn sicr o dd'od. Beth wneir a'r cocosyn hwn yn awr, wys ? Fy marn i yw y dylid ei ysgy- muno bellach o'r cyfundeb llenyddol, a'i hongian gerfydd ei glustiau am un dydd a blwyddyn er rhybudd i ereill o'r un anian. Sibrydir mai rhyw Jonah mab Simon oedd y dyhiryn arall ddaliwyd yn yr un pot. Syned y Daren Wyddon! pwy fyth fuasai mor ffol a chredu fod y blockhead hwuw 'ya medru ysgrifenu traethawd pe .1 z, buasai yn cael y wobr ? Aeth ei Chwerth- in yn brysurdeb ddydd yr eistoddfod. Gwell gen i gwell gan awen Frathiad neidr, na lleidr lien." Gweled fod Onllwyn Brace wedi gwneud cynauaf go dda ar faes y man wobrwyon tua'r Nadolig yna. Pa wahaniaeth am fyw ar lenyddiaeth mwy na rhywbeth arall ond gwneud hyny yn onest. Ond er cy- maint gwr yw Brace, clywais iddo gael ei droi heibio mewn un man, a hyny gan lane o fardd. Beth sydd wedi dyfod o Athrofa'r Beirdd," meddweh chwi, wedi yr holl bastynu a'r ffraeo fu yn ei chylch ? Dysg- wylir ei gweled allan yn fuan, oblegyd y mae ei students bob un yn fechgyn sydd wedi graddio yn uchel yn myd barddon- iaeth. Cadifor a'i Oriel yn N<jhyfaill yr Ael- wytl ydyw y caffaoliad mwyaf i lenyddiaeth yr oes hon. Pwy ddywedodd wrth y brawd hwn ei fod yn baentiwr ? Nid yw ei dibyn- acli llithiau yn ddim ond cawl ail dwym o Oriel Hugh Morris er ys llawer dydd. DarHener ei benod olaf ond un er enghrafffc, lie y mae yn treio gosod Gurnos Jones allan. Mor lledchwith y mae yn trafod ei frwsh, onide ? Pe buaswn i yn safle y gwr mawr Gurnos, buaswn yn ei theimlo yn ddisgraee fod y fath wrachen o lecor yn beiddio cyffwrdd a mi Er crerljd iddo ei hun a llenyddiaeth, tafled Cadifor ei offer paentio i'r domen, neu treied ei law ar ryw gocosddynion fel efe ei hun, a miuau, i ddechreu. Pa le mae y bardd-deithiwr, Gwilym Wyn er ys llawer dydd ? Ai tybed iddo wastraffu y diferyn olaf o ddyfroedd Heli- con wrth gyfansoddi ei "Wanwyn?" reu, ynte gredu y mae ei fod wedi cyrhaedd clogwyn uwchaf Parnassus, ac yno yn pen- derfynu treulio nawnddydd ei oes mewn tawelwch yn ngliwmni ei gyfaill awenydd 01 Gwilym Meudwy. Llytliyr ofcadwy ydoedd hwnao eiddo Junius Justusia ar lielynty Gantata. Well done, y machen i, gan nad pwy wyt ti. Am- bell i ysgydwad fel yua fyddai yn iechyd hyd yn nod i'n doctoriaid. Rhagor eto o'u camwri melldigedig gaffo ei ddinoetlii. Clywed i'r hen dad awenyddol, Mabon- wyson, ymadael a'r fuchedd hon heb wneud ei ewyllys, a bod ymrafael enbyd yn mhlith elie y Bont yn nghylch pa un o honynt sydd i gael ei het. Tebyg y pen. derfynir y mater yn fuan, ac y bydd un o honynt yn ei gwisgo yn yr eisteddfod nesaf gynelir yno. ,Lms Os nad wyf fi yn camsynied, y mae eis- teddfod fawreddog i fod yn Nhreorci ryw- bryd yn y dyfodol, a Dr Parry yn beirn- iadu. Ie, dyna hi, digon liawdd yw gweied trwy y lien yna eto, dim ond cotio Eis- teddfod Merthyr, a phwy gafodd y wobr. Ffordd genteel i dalu y compliment, fechgyn. Gurnos, poor fellow, ydyw pechadur mawr y byd lleuyddol y dyddiau yma. Rhyfedd, ar ol cael cawr i lawr, y mae pob dwarf yn rhedeg i'w daro. Pwy oedd y gwr call hwnw dreiai osod Gurnos yn llenleidr trwy ddyfynu rhes o'i linellau cynghaneddol ? Ni wyddai efe, mae'n debyg, ei bod yn bosibl i feirdd wrth gyfansoddi cymaint daro ar yr unrhyw linellau. Hefyd, yr I oedd mor gibddall a dyfynu rhai llinellau nad oedd tebygolrwydd rliyngddynt o gwbl. Cyfod, Gurnos, a rho anadliad nes clirio'r awyr o'r cler afiach sydd oddiam- gylch i ti. Yr eiddocli, JOHN DDWYWAITH.
EISTEDDFOD GADEIRIOL SEION,…
EISTEDDFOD GADEIRIOL SEION, YSTALYFERA. Adeg arferol cynaliad ein heisteddfod yw dydd Nadolig, ond gan fod yr wyl hono eleni ar y Sabboth, cynaliasom ein pumed eisteddfod Sadwrn, Rhagfyr Blain, 1881. Llywyddwyd yn ddeheuig a theilwng gan y Parch R. Trefor Jones. Pateg. Arweinydd, y Parch H. Elwyn Thomas, yr hwn hefyd oedd feirniad y farddoniaeth a'r rliydd- iaeth. Clorianwyd y canwyr a'r cerddor- ion gau Gerddor y Dyffryn, a beirniadwyd yr hosanau, y torchau llewys, &c., gan Mrs Evans, Golden Key, (cynorthwyddes arian- ol deilwng i'r pwyllgor). Mr Samuel Isaac, Prospect Place, oedd yr ysgrifenydd, a cbymerwyd gofal teilwng o gwd y trysor- ydd gan Mr T. Howells. Wesley Terrace. Agorwyd gwaith y dydd mewn araeth alluog gan y llywydd. Djlynwyd ef gan y beirdd yn e'l hanerchiadau. Yna de- chreuwyd cystadlu o ddifrif. Cymerem ormod o'ch gofod, Mn Gol., i gofnodi i fanylwch holl weitlirediadau y dydd, ac i enwi yr holl gystadleuwyr buddugol, ymfoddlonwn ar gofnodi y pwysicaf. Dewi Glan Twrch oedd yn fuddugol, allan o wyth o gystadleuwyr, ar y farddoniaeth i Garfield.' Y canwr gwobrwyedig ar Hen Wlad y Menyg Gwynion,' oedd Mr J. Owen, Cwmtwrch a Mr George Thomas, Ystalyfera, oedd y teilyngaf ganwr ar Gwlad yr hen Geninen Werdd.' Enillwyd y wobr am y datgan. iad goreu o I Moriah,' (Llyfr Stephens a Jones), gan Mr Thomas Hutchins, Ystal- yfera. Y dadleuwyr gaHuog a hyawdl gafodd eu gwobrwyo am benderfynu Pa un ai mantais neu anfantais foesol oedd ymweliad. Tywysog Cymru ag Abertawe,' oeddent Hen Was Cwmlliw, a Twm Bach Godre'r Graig. Bu yr un cwpwl yn liwydd- ianus i gipio y wobr flaenaf am y ddadi ddifyfyr, tra y dyfarnwyd yr ail i Mr W. Jones, Graig, a'i gyfaill. Enillodc1 Mr Tho- m3;S Lewis gopi hardd o Ardderchog iu j Merthyron,' (rhoddedig gan Mr E. Rees, argraffyddj, am yr araeth oreu ar Y priod- oldeb i Gymry ymfudo i Batagonia.' Y buddugol ar yr adroddiad goren o Gogon- iant y Nefoedd,' (Llyfr Hymnau y Wesley- aid Cymreig), oedd Mr T. Thomas, Gurnos. Ni welwyd gwell na thlysach par o hosanau mewn eisteddfod erioed na'r par a enillodll y wobr yn yr eisteddfod hon, gwaith Mrs Jane Davies, Paudy. Guffs campus liefyd oedd y par buddugol a arddelwyd gan Mrs M. Davies, Graig. Pur anami y elywir gwell araeth ddifyfyr na'r hon a gafwyd gan Twm Bach Godre'r Graig, ar Geniig- en,' cyn canu y prif ddarn corawl nos Sad- wrn cafodd y wobr o lawer o gystadleu wyr. Cor Caersalem, dan arweiniad Mr Daniel Jones, oedd y buddugol ar y dat- ganiad o Mi a godaf ac a af at fy nhad prif gystadleuaeth y dydd. Tra y rhodd- wyd canmoliaeth uchel, a gwobr a chadair i'r cor hwn, cafodd cor Seion hefyd, a'i ar weinydd ieuauc, Mr E. Griffiths, uchel gy- meradwyaeth gan y beirniad. Terfynodd y gystadleuaeth hon waith yr eisteddfod yn heddychlon, yn anrhydeddus, a hyuod lwyddianus yn mhob ystyr. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngerdd uwch- raddol yn Soar, capel y Bedyddwyr, (yr hwn yn garedig a roddwyd at wasanaetli y frawdoliaeth Wesleyaidd), dan lywyddiaeth y Parch C. Williams, gweinidog y lie. Cyf- eilliwyd gan Mr D. J. Davies. Cymerwyd rlian yn y canu gan Llinos Morganwg, yr hon ni raid iddi wrth ganmoliaetb gartref nac oddicartref; Eos Dyfed, R-A^M., yr hwn a dderbyniw3rd gyda tliaranau o gy- meradwyaeth gan ei gyfeiliiou a'i gyfoed- ion. Cawsom befyd wasanaeth yr ieuanc, y galluog, a'r dysglaer-obeithiol, Mr Dan Protheroe, a'r eang-adnabyddus, Asaph Glan Dyfi, yn nghyda rhai o brif ganwyr yr ardal. Gan ei bod yn hwyr y dydd pan ddygwyd gwaith yr eisteddfod i ben, gohir- iwyd y seremoni o gadeirio yr arwemydd buddugol i'r gyngerdd. Cymerwyd rhan yn y gwaith gan Asaph Glan Dyfi ac Eos Dyfed, a darllcnwyd englynion i'r arwr gan Ivor ap Tomos, yr hwn hefyd a ddar- llenodd benillion yn cynwys datgauia.d o barcli yr ardal, a'i hedmygedd o Eos Dyfed. Awd trwy benod y diolchiadau gan Eiwyn, yn nghynwys yr hon y deuai Mr W. Davies, overman, yn mlaen am gyfran helaath fel rhoddwr y gadair, Mr G. Thomas am fenthyg y berdoneg, a chyfeillion Soar am fenthyg y capel, &c. Canmolai y trysor- ydd ar y diwedd fod y cynyrch arianol yn liynod foddhaol. Ap USTWEL. PANTEG, YSTALYFERA.—Oynaliwyd C3"ng- erdd ardderchog yn y capel uchod nos Sadwrn, Rhagfyr 17eg, 1881. Llywydd- wyd yn ddeheuig, fel arferol, gan y Parch R. Trefor Jones, gweinidog y lis, Canwyd gan y gantores swynol a dysgybledig, Miss Davies (Llinos Morganwg), y tenor rhagor- ol, Mr Lewis (Eos Dyfed), R.A.M., b yn nghyda'r artixt.es lleol. Yr oedd yr elw yn myned i gynorthwyo James Kenrick, yr hwn sydd wedi ei analluogi i ddilyn ei alwedigaeth. Deallwu fod y gyngerdd yn llwyddiaht mewn ystyr arianol. IOAN. -==-
GWEITHIO'R NOS YN EIN GLO-…
GWEITHIO'R NOS YN EIN GLO- FEYDD—Y SPWNGERS. Clywais i shwdbetherio'd, meddai'r m-an- ager. Dear cato'n pawb, dear cato'n pawb. galw'ch cyd-ddynion yn spwngers I. Clowch, awyr o Botli y'cli ch'I:'n feddwl wrth alw y fath enw ar eich cydweithwyr ? A ydych ch'i yn jTstyried y consequence o'r peth, y di- raddiad ydych yn ddwyn ar eich cyd-ddyn- ion wrth alw sbwd enw arnynt ? "Wyddoch ch'i mai dynion ydyw y spwngers, ac nad ydynt yu cynyg byw fel dynion ereili nad oes ganddynt un amcan am fyw, ond fel y gwnant hyny ar gefnau dynion ereili? Mewn gwirionedd, pnnder ereill yrw eu llawnder hwy, newyn ereill yw eu hymborth, a tbu. cofn i ereiil y maent hwy yn symud ac yn bod. O ddefaid dynion ereill y gwnant liwy eu cawl. 0 does dynion ereill y gwnant hwy eu bara. Yfaut y cawl, a bwytant y cig, a rhoddant yr esgyrn yn sychion i wir berclieno<i in yr anifail. (Clywch. clywch). Diod aughyfiawnder ydyw eu diod, a gwin lladrad ydyw eu gwirod. Trallod ereill yw eu llawenydd, a blinfyd ereili yw eu gwyn- fyd. 0 le i le y crwydrant y nos, ac 0 ddram i ddram yr ysbeiliant y gwaith. Nid yw waeth ganddynt ysbeilio eu gdydd yn fwy nag eruii. Gyda hyn wele y dorf yn tori allan yn un fanllef o gymeradwvaeth, ac ynteu ya gofyn beth oedd arcom, os nad oedd arnom gywilydd o honom ein hunain yn galw enw ar ein cydweithwyr ag oedd mor orlawn a boichiog o awgrymmdau dryg- ionus. Wtl, yn wir, meddwn ninau, nis gallem lai na chwerthin wrth ganfod ticli bod chwi yu gwybod eu hanes mor dda, oblegyd dyna oeitdem ni bob ainserynei, gredu am danynt. Bellach, gan eich bod chwi a ninau yn cydolygu mor dda am rin- wedd eu gweithredoedd, ein cais ninau yw ar i chwi roddi tertyn ar eu hoedl anniben, ysbeilgar, neu ni fydd genym mwyach oud gosod y crier ar waith, a galw mass meetiny ar eu hachos, a'ch galw chwi, syr, yno i roddi tystiolaeth yn eu herbyn. Wel, na, ynhytrach na'ch bod chwi yn gwnond hyny, mi ddweda beth a wnaf a chwi, dim ond i chwi addaw peidioa gadael drams gweigion yn y talconon dros y nos, fel y gallo i gael glo i ddechreu mewn pryd, fe'u stopa i nhw bob un. Folly y bu, fe'n hataiiwyd hwy oil, ac am ycliydig amser, cymaint oedd y cyfnewid- iad, fel mai prin y gellir credu mai yn yr un gwaitli y gweithir—pob un yn gallu mentro tr n ei lo yn y modd mwyaf ffafriol i'w weithiad, heb ofni y deuai neb yn y nos i'w ysbeilio o werth ei lafur. Buan Y daeth gwyncb yr heading fel gwyneb y rhos, Na neb mown petrusderparth Hadron y nos.' Tra fel hyn yn gwir fwynhau ywaredigaeth oddiwrth y iileiuiaid ysbeilgar, blin ydyw adrodd na fu ond by1 ei barhad. Fe atalwyd y manager, neu yn L ytrach fe'i gosodwyd yn y PwlJ Bach, ac fe-ddaetb yn ei le ddyn a chryn dipyn mwy o gnawd am dano, os nad mwy o ryw stwff arall ynddo. Ond fel na chamsyno neb, nid y dyn sydd yn edrych am danoch fel petaech yr ochr arall i'r heolmo hono, ac nid y llall sydd a'i well uchaf fel gen mochyn mo hono chwaitli. Modd bynag, wedi i hwn ddyfod declireu- odd petliau syrtbio yn ol i'r hen gyfeiriadau. Pe buasai yn dyfod wrth eihunan, ni fuasai genyrn gymaint o le i rwgnach ond yn lie hyny, daeth llu o'r un cyfeiriad ag yntau i'wjganlyn. Ac yn gymaint ag nad oedd lie i'r rhai hyn y dydd, bid sicr rhaid oedd cael lie iddynt yn y nos; ac mor wir a'm geni, ni fuasai neb yn meddwl am foment mai nid spwngers oeddynt y rhai hyn yn ened. igol, gan mor naturiol v cymerasant at y gwaith. Ond wedi eu canfod wrth y gwaith am ychydig o nosweithiau, cawsom ni, wyr y dydd, ddeall mai nid o genedl y spwngers oeddynt; eubod o genedl fwy cyrliaeddbell a chyfrwysgall na'r spwngers, ac o bosibl yn dduach a thewach en crwyn na'r spwn gers hefyd. Buwyd mewn cryn helbul am beth amser yn herwydd methu gwybod o ba genedl yr oedd y newydd-ddyfodiaid an- waraidd ond wedi eu gwylied, a chael allan rai o'u hysgogiadau, ac yn neillduol wedi canfod mai King Coal oedd yn y Kraal, deallwyd mai Zulus oeddynt.
----------..--. MEDDYGINIAETHAU…
MEDDYGINIAETHAU DIGYFFELYB. Dylai pob dyn sydd wedi cyrhaedd haner cant oed fod yn ddigon o feddyg i wella ei hun, yn enwedig os y bydd wedi cael ei flino yn ami gan wahanol glefyTdau yn ystod ei oes, a diamheu fod canoedd wedi myned i'r bedd yn anamserol o berwydd diffyg bod yn wyliadwrus am ansawdd y cyfansoddiad, yn nghyd ag esgeuluso chwilio allan am foddion syml a rhad mewn pryd. Fel y crybwyllais yn flaenorol rywbryd, yr wyf wedi bod am dymhor boreuaf fy oes yn dyoddef dan wahanol glefydau, ond yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf yr wyf wedi myfyrio a darllen gwahanol lyfrau, yn nghyd a gwnaud prawf o'r moddion hyn a'r moddion ereill, nes o'r diwedd daethum o hyd i feddyginiaeth at bob clefyd ag oedd yn fy mlino, a'r oil yn gyrhaeddadwy i bob gweithiwr trwy y wlad. Mae y quinsy yn ddolur poenus a pher- yglus iawn, ac y mae miloedd yn gorfod dyoddef poenau echryslawn yn ei herwydd os y bydd wedi ymatlyd yn ddwfn yn y gwddf. Wei, dyma feddyginiaeth a fydd yn sicr o'i wellhau cyn pen pedair awr ar hugain, ond gofalu mewn pryd, a hyny yw, gosod mwstard wedi ei wlychu ar liain teneu, gan osod un rlian o'r lliain rhwng y mwstard a'r croen, a'i osod ar y man a fydd yn boenus, a hyny pan yn myned i'r gwely, a chymeryd dau o belenau No. 1 George's Pills yr un amser er mwyn cadw y cyfan- soddiad mewn tymher briodol, ac os gwneir hyn, bydd y iJuinsywedi eilwyrwelihaucyn pen pedair awr ar hugain. Meddyginiaeth arall a allaf enwi yw y Tuikish Bath. Osbydd i ddyn gael anwyrd anarferol, fel y byddo effaith hwnw wedi aros yn y fynwes nes peri peswch poenus a pha-rhaus, yna y mae perygi y bydd i hwnw droi yn Jdarfode'lig::teth yn y cyfansoddiad, fel y mae wedi bod i filoecid yn ein gwlad, ac nid oes dim all fod yn well not myued i'r Turkish Bath yn ddioedi, a bydd yn siCT o dderbyn gwellhad uniongyrchol. Os blinir dyn gan boen yn y cefn, y palfaesau, yr ochrau,>y ddwyiron, neu oddiwrth ypiles a'r gravel-, y mae pelenan Mr George, fferyllydd, Hirwaun, y petliau goreu a ellir gael at bob un o'r clefydau hyn. Gallaf ddweyd trwy brofiad am yr oil o honynt, a gallaf brofi fod pelenau Mr George wedi bod yn feddyg- iniaethol i mi ar bob achlysur, a hyny mewn byr amser ar bob amgylchiad. Gallaf enwi ugeiniau sydd wedi cael yr un fraint a minau pe Kife amsor a gofod yn caniatau. Enwaf un o'r cyfryw gau ei fod mor ad- nabyddus yn A ben: ar, ac hefyd yn fonedd- wr y gellir ymddibynu a.r ei dystiolaeth, sef Mr John Williams, tad Mrs Williams, Castle Inn, a Mrs Parker, Globe Inn, o'r dref hon. Ei dystiolaothef am belenau Mr George yw eu bod wedi bod yn foddion uniongyrcliol i achub ei fywyd ef pan wedi rhoddi ei hun i fyny i farw gan fel yr oedd y piles wedi gafaelyd yn ei gyfansoddict.d, ac wedi iddo gymeryd y pelenau hyn yn ddi-ildio am dymhor fe ddaeth yn hoilol iach, ac nid ydyw wedi cael ei Hino ganddynt hyd y dydd heddyw. Y mae oddiar hyny lawer o flynyddoedd, ac y mae yn dymuno liys- bysu pawb am y lies a gafodd oddiwrth belenau Mr George, fferyllydd, Hirwaun. Aberdar. ISAAC THOMAS.
EISTEDDFOD GADEIRIOL ABERTAWE,…
EISTEDDFOD GADEIRIOL ABER- TAWE, 1880. BEIRNIADAETH GURNOS AR AWDLAU SYR ROWLAND HILL."—TESTYN Y GADAIR. Yr ydym yn hollol gydolygu a Crom- well," yn ei lith yr wythnos ddiweddaf, o barthed i feirniadaeth Gurnos, ar awdlau Syr Rowland Hill," testyn Cadair yr Eis. teddfod uchod. Nid oeddem yn meddwl o'r blaen fod Gurnos mor benbwi. Yr oedd y llinellau, pa rai yr oedd Gurnos yn methu a'u deall, mor syml, fel y gallasai plentyn deg mlwydd oed, yn hawdd ddigon, ddeal eu hystyrion, a gweled eu bod yn llawn synwyr. Erfod yr enwog Gurnos yu athraw lied alluog i ddysgu bardd ieuano (pa un a driniwyd mor galed gan Gurnos, er's ychydig wythnosau yn ol), yn ddigon mawr a chryf i ymgodymu a Gurnos ar faes barddoniaeth, any day. Edrychwch! Gurnos! a gwelwch! y bardd ieuanc wedi enill y fraint o eistedd yn N ghadair Farddol Eisteddfod Genedl- aethol Cymru am 1881. Drachefn, gwel- wch feirniadaeth y Prif-fardd Essyllt, a'i gydfeirniaid, ar ei awdl fuddugol. Gurnos dyna batrwn awdl i chwi o hyn i ma's ac hefyd i holl Gymru. Awdl, yn yr hon nad oes ond un gwall cynghaneddol,—dyna orcliestgamp, onide, ddarlleuydd i Yr ydym yn ystyried y bardd ieuane cryhwyUedig, yn bum' waith yn well bardd ua Gurnos. Doder awdlau Greddf a'r Beibl," y ddwy gan Guanos, yn ochr a.wdl benigamp "Cariad" gan y "bardd ieuanc." Beth ydyw dy feirniadaeth di, ddarllenydd, tybeb. Diau mai dwy bytateu hollol bwdwr," yn ochr Un Early Rose hollol addfed." Yr eiddoch yn fyr y tro hwn, J. MANYLGRAFF HUUHES.
EISTEDDFOD Y PORTH AC "ENGLYN…
EISTEDDFOD Y PORTH AC "ENGLYN Y GWEITHIWR." MRI. GOL.Parthed yr englyn a farnwyd yn oreu ar y testyn uchod yn Eisteddfod y Porth, Nadolig, a'r hwn a gafwyd allan mai r, llenladrad oedd, deallwyf fod y cyfaill Dewi Heulwen yn cael ei gyhuddo o fod wedi anfou yr englyn uchod i'r gystadleu-a,etli. Ond dymunaf yma hysbysu y pwyllgor, a phob car a berthyn iddynt wybod, mai myfi anfonedd yr englyn i'r beirniad, dan yr am. gylcliiadau a ganlyn. Yr oeddwn yn dy- gwydd bodyn bresenol mewn cyfarfod llen- yddol a gynaliwyd yn Pendref, Caernarfon, Gogledd Cymru, y Groglifh diweddaf, He barnwyd yr englyn mewn dadl yn fuddugol, yr hwn sydd fel y caalyn :— "Ein hiesin gym wynaswr-foria 'i fyd 11 Dan fawr faich, yw'r Gweithiwr; Eto efe-dlotaf wr— Fu yn Adda 'n foneddwr." A chan fy mod yn dra adnabyddus a'1 awdwr, sef y bardd diledryw Eilir Aled, Gwrecsam, cymerais yr hyfdra o'i anfon i'r gystadleuaeth yn y Portli, gan yru yr un adeg at Dewi Heulwen, Porth i fod cystal a chynrychioli Ap Gweithiwr ar yr englyn yn yr eisteddfod. Ond, er hyny, nid oeddwn wedi bwriadu i Dewi ei dadogi i'w eiddo ef, ac yma yn unig yr wyf yn beio Dewi Heulwen. Diau ei fod ef wedi meddwl cael y clod o dderbyn y wobr; ond erbyn llyn y mae wedi cael allan mai wermod o glod a ddeillia iddo o ddadogi yr englyn iddo ei hun. Felly dymunaf ddweyd nad oedd dim a fynai efe ag anfon yr englyn i'r gystatll. euaeth. Ysgrifenaf hyn er argyhoedii Dewi nad gelyn iddo a wnaeth hyn, oblegyd bwr- iadwn i'r awdwr gwreiddiol gael y wobr os byddai. fuddugol.- Y r eiddoch, &c., Dinas. J. T.
[HYSBYSIAD.]
[HYSBYSIAD.] LLITH FLYNYDDOL ISAAC THOMAS, UNDERTAKER, ABERDAR. MRI. GOL.Gan y gwn fod eich gofod yn brin yr adeg hon o'r flwyddyn, o ganlyniad ni wnaf eich blino a meithder y tro hwn. Gwyr y rhan fwyaf o'r miloedd darllenwyr fy mod yn arferol o anfon yehydig linellau i'r wasg yn flynyddol, er rhoddi cyfrif o'm gorucliwyliaeth am y flwyddyn sydd wedi myned heibio fel undertaker. Wel, ddarlleuwyr anwyl, y mae canoedd lawer o bryd i bryd yn ystod y flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn fy holi a oeddwn yn cario fy musnes yn y blaen fel undertaker fd arferol. Y rheswm en bod yn gofyn hyn yn benaf ydoedd, am nas gwelant fy hys- bysiad yn y DAMAN a newyddiaduron ereill fel cynt. Dymunaf ateb y cyfryw sydd yn ymholi fel hyn, yn nghyd a miloedd trigol- ion Aberdar a'r cylchoedd, fy mod yn cario yr un fusnes yn mlaen fel arferol; a bod yn fy meddiant fwy o stcc, a gwell nwyddau, nag a fu yn fy meddiant erioed o'r blaen, oddiar pan y cychwynais yn Aberdar. Er mwyn i'r darllenydd i gael rhyw fras olwg ar fy sefyllfa fel undertaker, yr wyf yn gallu dweyd yn onest fod genyf yn fy meddiant heddyw dros werth 800p. yn goed ac yn feteloedd, &c., goreu a ellir gael mewn uu man yn y deyrnas; ac y mae pawb sydd yn gyfarwydd &'m sefydliad yn gwybod iy mod yn dweyd yn iawn. Yn nglyn a hyn y mae pawb trwy y lie yu barod i gydnabod fy mod wedi gwneud trwy fy ngostyngiad rhyfeddol yn mhrisoedd y cofliniau yn ystod yr ugain mlynedd a basiodd, ddaioni an nhraethol i'r dosbarth gweithiol trwy y cymydogaethau o'r bron. Gallaf ddweyd yp mliellach fy mod wedi bod yn foddion uuiongyrchoi i arbed deunaw mil o bunau i'r dosbarth gweithioi yn benaf. Nid yw yn gweddu i mi i ganmol fy hun foi hyr* ? flaen y cylioedd, ond gan mai hysbysiad yw fy llythyr presenol, y mae yn rhesymol, yn unol a threfn masnach yr oes hon, i mi wneud hyn, gan gredu y bydd y darllenydd yn ei gymeryd fel y cyfryw. Gallaf ddweyd yn mhellach eto, fel cy- mlielliad i gael yr un gefnogeeth yn y dyfod- ol, nas gall neb sydd yn codi i fyny yma a tliraw trwy y gymydogaeth gystadlu a mi yn fy masnach, a gwneud cyfiawnder a'r cy hoedd. Heriaf unrhyw ddyn trwy y wlad o'r bron i wneud hyny. Y mae yn fy medd- iant bedwar o elorgerbydau a thri o alar gerbydau o'r goreu on yn Nghymru, ac yn cael eu hirio allan am brisoedd rhesyraol, fel y gall pob dosbarth eu cyrhaedd. Yr eiddoch yn onest a chywir fel arfer, ISAAC THOMAS, Undertaker. OTY.—Cofied pawb mai fy unig fasnachdy yw 24 a 25, Seymour-btreet. Aberdar.
ADOLYGIADAU Y WASG.
ADOLYGIADAU Y WASG. CANIADAU NATHAN WYN. Treherbert: Ar- graffwyd gau 1. Jones. Pris Swllt. 11 Y mae Nathan Wyn yn gymeriad perffaith adnabyddus 37n mhlith beirdd y Deheudir. Ystyriai Caledfryn ef yn oracl yn mhlith ei gyfoedion tua deuddeg mlynedd yn ol. Y mae ei enw ef yn air teuluol yn mhlith darllenwyr newyddiaduron y De er's llawer o flynyddau bellach. Yr oeddem yn deheu er's llawer dydd am weled ein cyfaill Nathan yn cyhoeddi casgliad o'i weithiau barddonol, a dym a ni o'r diwedd wedi cael ein dymuniad. Mae y Caniadau hyn fel efe ei hun yn union, yn fyrion, dirodres, ac i bwrpas. Nid yw awen Nathan yn ehedeg mor uchel ag eiddo ei frawd Dyfed, ond am loewder, cywrein- rwydd, eglurder, a gorphenedd, nid yw ar ol iddo mewn un modd. Nid oes haner digon o uchelgais yn Nathan. Nid yw byth yn yspardyno ei awen, ond gadael iddi ddringo llethrau Parnasus fel y gwelohiyn dda-weithiau ar gam, weithiau argarlam, ac weithiau yn sefyll. Ond gofala bob amser am ei chadw o dan ddysgybiaeth. Y mae y Caniadau hyn yn cynwys amryw- iaeth belaeth o destynau, a'r tcstynau hyny gan mwyaf yn newyddion a chwaethus. Cynwysa awdlau, cywyddau, toddeidiau, englynion o bob math, pryddestau, a cherddi. Y mae yr awdlau yn meddu cywreinrwydd neillduol; y cywyddau yn Ilithrig, y todd- eidiau yn gynwysfawr, a'r englynion i'r pwynt, fel y dywedir. Feallai mai y brydd- est ar yr Angel yw y darn mwyafbardd- onol sydd yn y llyfr. Y mae caneuon hefyd yn cynwys digon o elfenau a "myn'd" ynddynt. Y mae y testynau yn swynol a syml, a'r farddoniaeth yn gyfateb. Y mae Z, y caneuon digrif hefyd yn cynwys fifraeth- ineb o'r fath loewaf. Y mae y caniadau hyn yn meddu neill duolion sydd yn eu cymeradwyo i bob bardd ieuainc. Ni welsom lyfr barddonol er's llawer blwyddyn bellach yn meddu cymaint o ddarnau ar hen fesurau Cerdd Dafod." Ac nid cyfansoddi ar y mesuran hyn ar antur y mae. Ond y mae y gwa- hanol fesurau yn cael eu hanrhydeddn gyda'r cywirdeb mwyaf. Pryned ein cyf- eillion y llyfr hwn ar bob cyfrif. Yr ydym yn sicr na fydd i neb edifarhau am roi sw am dano. Dwy gan gall J. T. Rees, Broncaira Street, Aberystwyth. I. "lien S Crwn fy Nhad," i baritone neu alto geiriau gan loan Ddcrwen, o Fon. Can fechan. syml ydyw hon, yn o llun y balad, cylch o B i lawr r < erwydd i fyny i E. Dichon, efailai byddai yn swnio yn well i alto na barii am fod yr awdwr yn bur fond o ddefnyt." anghydseiniaid clashing yn y cyleiiiii Beth bynag am hyny, y mae hon yu t fechan, dlos iawn, a braidd nad ydyw anmhosibl peidio canu wrth ddlrilen peniilion gan mor naturiol y maellt, enwedig i rywun sydd wedi ei godi mev teulu cyffelyb. Wele enghralfit o'r a benill:— Bu r Hen Fwrdd Crwn yn ochain Gan bwysau ar ei fron, Tra byddem, chwech mown uifer, Yn gwledda wrtho'n lion 0 1 deuiu dedwydd oeddem— Dedwyddaf yn y wlad, Pan yn cydgwrdd i fwylia O amgyicli bwrdd f37 nhad." 2. Y Cardotyn." Can i denor, ar eiriau o waith Ehedydd Ceulan. Cylch o E j G uwchben yr erwydd. Y mae hon yn arddangos mwy o allu up cyntaf. Dechreua yn G leiaf gorpb yn G fwyaf, ar ol bod yn F a B fat t-s Amrywiaeth hapus ydyw cerddoiaeth wahanoi i'r penill diweddaf, yr hwi sydd yn gweithio claimax da i'r gan yn ( frfyaf. Y mae cyfeilliant y ddwy gin ya J°wn ac yn Jiomng iawn, yr hyn syddyn cacgosfod yr awdwr wedi astudio llawer ar y dull o ysgrifenu arpeggio style yn y short score. Ein gobaith ydyw y caiff yr awdwr ei ddi- golledu yn yr anturiaeth, ac y caiff gefnog- aeth i fyned yn mlaen. Maent i'w cael gan yr awdwr yn y cyfeiriad uchovl.
MAESYRHAF, OASTELLNJC-. "
MAESYRHAF, OASTELLNJC-. Cynaliwyd cyfarfodydd Calan yr e uchod nos Fercher a dydd lau. y 4t oed o'r mis hwn. Gwasanaeubwyd Parchn L. Jones, Ty'nycoed; I5. B.A., Abertawe; J. Fouike, Aberafc Silyn Evans, Aberdar; J. Davies, R. Thomas, Glandwr'; F. Samuel a D, Abertawe. Dechreuwyd y cyfar gan y Parch E. Evans, Sciwen, a-r D. Evans, Briton Ferry, ac creill o'rg idogion a enwyd. Cafwyd pregethu ;;ynulleidfaoeda mawrion, a chasgli; da, a thon y weiuidogaeth ysbrydol gyffroadol iawn. Dyma angtn egh Cymru, yw ymddeffroi o'u cysgadrwyuu NEDDF/I.
ENGLYNION
ENGLYNION Ar briodas Mr John Harue L Abernan Miss Catherine Powell. Tai r i Aberdar, Rhagfyr y 12ied, 1861, Da iawn, frawd, daw hyn a'i fri-y Mciusderol iti; Daw pob dawn yn llawn fel Hi' Yr adeg dy briodi. Nod bert ydyw newid byd, g waeth," Ond er gwell," mor hyfr Yw mynu bod am enyd Yn d.wall—yn gall i gyd. Un wrol, lo. darris,—ddi.gjTth. Yw'th dd^ Gatbr.i'jt glodn.s; Daw hyny'n .fyd ds;on is, Yn v,7erth aur —yi1 !yrr a thus. Na Iwirhewch, ond e>\eh eidi dau-r, Gan ddal oes ddifry^han; fd. id 0 flaen eich hil na flinweh hau—ha- 0 riniau addasdyf yn rlimwe^ldau. [bras MOSFAB.
--------ALLTWEN—MARWOLAETH…
ALLTWEN—MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y PARCH. P. GRIFFITHS. Gan y dysgwyliwn gael cofiant teilwL i'r clodfawr hybarch Mr Griffiths heb fC,ll yn hir, ni wnawn yn bresenol ond nod; byr. Bu farw prydnawn dydd LIUE. It :0- awr 2il, 1882, yn 89 mlwydd oed. ac wed bod yn weinidog ffyddlawn, rarchus, a d' wyd am 60 mlyntdd. Y dydd Gwener ce lynol ymgasglodd tyrfa t".v. r at ei dy erb 2 o'r gloch i dalu y gy rn »vynaolaf i ur hen dadan mwyaf gwresog, dcuiol, a ffiv bert a wnaeth ei ymddangdsiad ar e lawr pregethwrol ein gwlad erioed, o'r eymeriadau dysgleh; r weinidogaeth Gymreig. Trefnid yr gan Mr Rees ei ganlyuiedydd yn y ogaeth. Cyn evehwyn o'r ty darli, gweddio :;d y Parch. J. Morgan, C1 Codwyd ef o'r ty gan bedwar o'r di Awd yn orymdaith dan ganu hyd y boneddigion yn flaenaf, wedi gweinidogion, ac ar ol hyny swyd eglwys a'r diaconiaid yn gyffredii hynv y cor ac aelodau yr Ysgol £ Ar ol hyny corff y bobl, yr elor, y iaid, ac yn ddiweddaf oil y mf plant. Dechreuwyd y moddion drwy ddarllen gan y Parch.. Oastejjnedd. Anercbwydgorse y Parch. E. Owens, Clydach, a p yn bwrpasol yn Seisneg a Chym Rees, Abertawe. Terfynwyd gan y Parch. B. Williams, Can y bedd cafwyd pnercliiadai effeithiol gan y Parchn. Sa-mue Davies, Treforris; ac Evar Terfy .\v}d trwy weddi gan Thomas, Gurnos. Yr oed(i) alarwisgo yn weddus i'r amg aidd. y masnachdai wedi c ehuddion dros ffenestri he ehuddion dros ffenestri be gymydogaeth. Fel yna y f riarch y mynai y bobl ei rhydeddu. Bu fyw fel tyv wyd ef yn dywysogaidd. ddiamheuol oedd un o'r pharchusaf a fu yn yr a T Dangosodd yr eglwys y hen fugail enwog, ac yr < eglur ddangos ei fod yn jWidc ddynt. A pha ryfedd ? weinidog ag oedd pawb lle. Yr oedd wedi bed- i!ad--E. heuJaw cymdelthas yn [ Priodol iawn y gellir ut;H.}(td, testyn Dr. Rees yn ei tes br'.«a y ganwyll \n llosgi ac ai. glowr,. eglwys dr.)'-< amser IT yn gorfe'eddu yn ei ol Arglwydd ci anwylia ei ol.. Cysged yr by
----------------BEIRNIADAETH…
mwy o amrywiaeth. Y mae y swydd yn cael ei henivi yn hwn eto. Diwedda yn tlws iawn Na, cywir afaol yn Nghyfoeth crefydd, 1:1 Yn Nhy Dduw gorona'i ddydd,—a thrysor Wnai'i fri yn ddidor a'i farw'n ddedwydd." Toddaid tlws iawn yw eiddo Thomas Moore. Ond nid ydym yn hoffi y termau "aelwyd y nwy" a llgwir- ionedd digrino." Diwedda yn daraw- iadol iawn :— I'r da flaenor diflino-rhocldwyd ffydd Haeddodd adenydd ei Dduw o dano." Ond feallai y condemnia rhai y syniad sydd yn y llinell olaf, ond ni waeth am hyny. Beddargraff Photographer yw y gorcu o ddigon. Y mae y nodweddion yn gyflawn, y farddoniaeth yn dda, a'r gel- fyddyd yn bobpeth y gellid ei ddymuno. Ond feallai y beia rhai am fod yr awdwr wedi defnyddio wyth llinell yn ei dodd- aid. Yr ydym ninau yn barod i feio hefyd. Goddefiad, ate nid rheol yw gosod wyth llinell mewn hir-a-thoddaid Ond am y toddaid hwn, mae mwy o'r peth oedd yn eisiciu mewn chwecli llinell o hono, nag sydd yn un o'r lleill; a gresyn fuasai amddifadu. cof-golofn y diweddar John Thomas o hono, amei fod yn wyth llinell. Y mae y goddefiad hwn bron wedi dyfod yn rheol gan rai o'n beirdd ond bydded hysbys mai dyma y toddaid wyth llinell cyntaf a'r diweddaf, y bydd i ni ddyfa; au gwobr am dano. Ar air a chydwybod, BRYNFAB.