Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
23 erthygl ar y dudalen hon
.. \ R WYTHNOS.
R WYTHNOS. DYDD Sadwrn diweddaf, daeth labrwr r enw Charles Benfield, 50 oed, i'w iliwedd trwy gael ei scaldio tra wrth ei t -chwyl yn ngweithiau haiarn Rymni. CYMEBODD ffrwydriad torpedo LE YN Constantinople dydd M^her diweddaf yr hyn y lladdwyd dau ddyn yn y ;'S ac yniweidiwyd haner cant ereUl. Nos lau diweddaf, taflodd labrwr o'r raw Carter ei hun allan trwy ffenestr ystafell wely yn Oldham, am nad wiS t-anddo arian i data ei lety. Bn hrw mewn ychydig fynydau wedi hyny. PEALLWN fod yr archwilwyr wrth y 4>i,rchwyl o archwilio llyfrau y Mri l> a vie s, glofe y dd Ferndale, &c., yr wyth- r '8 hon, ac y mae gobaith cryf am god- ill yn y cyflogau mewn canlyniad. DYDD Gwener diweddaf, cafodd bach- gf ayn o'r enw Thomas Morgan, 12 oed, ei ladd yn mhwll Haynes, Dinas, trwy i syrthio arno tra wrth ei orchwyl r la dyn o'r enw Nathan James. Bu I- v am ychydig. oriau wedi ei niweidio. YR ydym yn cael fod gwaith alcan newydd i gael ei adiiiladu yn Cross Inn, Bb- Gaerfyrddin. Y lie dewisedig ydyw ttanerch yn vrnyl gorsaf y lie, ac adna- feyddir y cwmm wrth yr enw Cwmm H- .iarn ac Alcan Caregaman. MEWN canlyniad i doriad allan y /'J.: irlatina yn nghymydogaeth Ferndale, v mae pob cynul'liad cyhoeddua- wedi ei 1,1 trwy orchymyn y meddyg, a chospir uvrhyw berson a fynycha dy y mae y ilefyd ynddo. l ,« y Andrew Jardiue, o SWvdd n-wdd Perth, a Come, swyaa B^phriei, wedi ei brofi i fod yn werth 1 871 OOOp. Yr oedd efe yn un o gwmni lardine, Matheson, a Chyf., masnach- ftvr china, Xilundain. "YN nghylch y llithriadau tirol sydd Wtdi cymeryd lie yn Switzerland, bernir me.i yr achos o honynt ydyw y mynych do 1.6 argr y nf e y dd sydd wedi cymeryd lie V;i0 21 a ba rai, sydd wedi cael eu l&qrfo mewn gwahanoj ranau o r wlad tr dechreu Rhagfyr diweddaf. 30REU dydd Sul diweddaf, deuwyd o r-, 1 ioffeiriad o'r enw G. T. Pearson, -,4di boddi yn Piersbridge, rhyw bedair willdir o Darlington. Gwelwyd ef -nvdic cyn hyny yn cerdded ar lan yr afon, a ehafwyd ei bet »'i got yn ymyl y dvfr ychydig o'r lie y boddodd. IN Ilys heddynadol y Pentre, ddydd Llun diweddaf, dirwywyd George Gay, perthynol i lofa y Dinas Isaf, am adael yr- adored ddrws tauddaearol, a dirwy- w\d°James Lewis, Dinas, i'r un swm «-.? gario allwedd lamp gydag ef i'r lith. Z CYFANSWM a werir yn flynyddol yn v Deyrnas Ggfunol am fara yw, 70,000, 0 üOOp.; caws ac ymenyn, 35,000,000p.; U&fith, 30,000,OOOp.; siwgr, 25,000, OOOp.; te, coffi, &c., 20,000,000p.; rhent, ¡O,OOO,ooOp. dillad o wneuthuriad pwlan,' 46,000,000p.; cotwm, 14,000, OOOp.; diodydd meddwol, 136,000,OOOp. Dydd lau diweddaf bu farw y Parch Griffith Rees, gweinidog yr Annibynwyr "n. Penuel, Nelson. Ordeiniwyd ef ryw ,1-yy flynedd yn ol, ar ei ymadawiad a v holeg yr Annibynwyr yn Aberhonddu, ae nid oedd yn awr ond 28 oed. Y mae fce^nladau dwysion ar ei ol, gan ei fod yn ddyn ieuanc a gerid yn fawr ya y eyb h. f av, y llong Lizzie Burrell, perthynol j Yarmouth, o Haniburg i America, wedi cvihaedd Yarmouth ddydd Sadwrn wt'li ei niweidio yn fawr, wedi bod in wn gwrthdarawiad ag agerlong yn y M.r Gogleddol, boreu dydd lau. Ni jrv Idis enw yr agerlong, ond bermr e bo i wedi suddo. Ni wyddis dim am d'vu. DYDD Sadwrn diweddaf, darfu i ddyn o i enw John Howarth gicio y fenyw yr iedd yn cydfyw & hi yn Burnley, fel bu farw. Yr oeddynt wedi bod yn by Ifyw a'u gilydd er y Nadolig. Dydd f'k lwrn yr ofeddJHowarth wedi meddwi, liciodd y fenyw yn y fath fadd, fel y r arw yn mreichiau yr heddgeidwad at, r heol, wedi iddi redeg o'r ty. vN y Farteg, dydd Gwener diweddaf, r.yv.ierodd damwain ofidus le i fachgen o'r enw George Jones. Y mae yn ym- dds ngos i'r bachgen ddyfod o hyd i dioiamite cap, yr hwn a gymerodd efe i r ylgol, a thatlodd ef i'r tan heb wybod heih oedd. Ffrwydroddarunwaithgan gynieryd ymaith fysedd a bawd ei law asv y. Niweidiwyd dau ueu dri o fech- J:Y"" ereill hefyd. i >YDD Mawrth yr wythnos ddiweddaf cirfyddodd John Griffith, alias "Hen Lv'r," 84 oed, a'i farwolaeth mewn dull ir ? enus. Tra yr oedd dau druced o lo 3-n, cael eu cymeryd i lawr y siding ne- Wydd oddiwrth lofa y Bishwell, yr hwn <• &v%;d yn croesi y ffordd yn ymyl glof a ■ s,wydd, tarawyd y trancedig i lawr, a ?: lliwyd ei gorff i'r faith raddau fel y a >• t'uwyd cario ei weddillion tua throf | Lao -Nn sach. f )YDI? Llun diweddaf, yn Ilys hedd- p Iwaid Marylebone, cyhuddid un Wil- li, >.m Jenner o ladrata box dillad ei gariad- fe ;h. Yr oeddynt wedi dyfod i adna- diaeth a'u gilydd yn ddiweddar, a'r ••i rh druan wedi cydsynio i'w briodi. € loithwyodd y dyn ieuanc hi i gymeryd ■- ox i orsaf y rheifffordd, er myned tua • 3f i barotoi ar gyfer priodi, ond yno, odd y ferch druan y box a'i chariad. Hwn yw y pedwerydd trosedd iddo gyflawni. 0 YB ydym yn cael o New Orleans fod yr agerlong .Oxenholme, ° Liverpool, wedi cyrhaedd yno wedi ei niweidio yn fawr gan dan, a hwnw wedi ei achosi trwy ffrwydriad infernal TYicicfiiiiQ oedd wedi ei guddio yn y llwyth. Dywed O'Donovan Rossa nad yw efe yn rhy- feddu dim at y newydd, am fod Gwydd- elod Lloegr a'r Iwerddon wedi pender- fynu chwythu i fyny bob peth perthynol i Loegr ar bob achlysur a fyddo yn eu gallu. Dywed nad oes ganddo un amheuaeth na roddwyd y machine ar y bwrdd yn Liverpool gyda'r amcan o'i chwythu i fyny. Y MAE Mr. D. E. Williams, Hirwain, am i ni hysbysu y.bydd ganddo lythyr yn y DARIAli nesaf ar y bwriad sydd gan ein Bwrdd Iechyd i wario ryw saith mil o bunau ar lieol i'r Maerdy, pan y mae dyled bresenol plwyf Aberdar dros gant a haner o filoedd o bunau. DECHREU yr wythnos ddiweddaf, bu farw yn Llundain, Mr Joseph Edwards, y cerfluniwr enwog Cymreig. Yr oedd Mr Edwards yn frodor o Merthyr, ac wedi myned i Lundain oddeutu 45 mlyn- edd yn ol.
RHYDDHAD JOHNSON A CLOWES…
RHYDDHAD JOHNSON A CLOWES —Y DDAU GARCHAROR PENYDIOL. Yn ein rhifyn diweddaf rhoddasom hanes cyflawn o gyfaddefiad y dyn Isaac Brooks, ei fod wedi alltudio y ddau garohsuror a hwythau yn ddieuog. Erbyn hyn y mae genym y newydd fod y ddau garcharor wedi eu rhyddhau, ac wedi cyrhaedd gartref er boreu dydd Sadwrn diweddaf, ac yn awr yn dechreu mwynhau eu rhyddid fel cynt ar fryniau swydd Stafford. Wedi i'r amgylchiad ddyfod yn hysbys i'r Ysgrifenydd Car- trefol, ni chollodd efe amser cyn anfon dirprwyaeth i ymholi i'r amgylchiadau, a chafodd y cyfryw ddirprwyaeth y fath argyhoeddiad yn y tystiolaethau, fel na fu y petrusder lleiaf am foment o ddi- euogrwydd y carcharorion, ac ni choll- wyd diwrnod o amser cyn rhyddhau y dynion diniwed. Dywed Clowes na theimlodd efe yn gas at Brooks erioed, cyn ei alltudiaeth nac wedi hypy, er ei fod wedi bod yn achos i'w alltudio, a hyny heb y sail lleiaf. Ei fod wedi dyoddef poenau meddyliol mawrion, tra na fu ei boenau corfforol yn llawer llai. Yn nghylch y gospedigaeth, dy- wedai, nad oedd yn ormod i ddyn oedd yn euog, ond ei fod yn ofnadwy o boenus i deimladau dyn oedd yn ddieuog o ddim o'r fath. Am yr ymborth hefyd, nad oedd dim i'w ddweyd yn ei erbyn, ond fod rhy fach o hono, fod dyn bob amser yn newynog, .yn enwedig y nos.
DAMWAIN AR Y RHEILFFORDD GER…
DAMWAIN AR Y RHEILFFORDD GER NEW YORK. Cymerodd damwain le ar reilffordd Afon Hudson nos Wener diweddaf. Rhedwyd i'r gerbydres oedd yn oario aelodau y Ddeddfwrfa Dalaethiol o Albany i New York, ychydig y tu allan i ddinas New York. Lladdwyd rhwng wyth a 12 o bersonau, ae yn eu plith Mr Wayner, aelod o Senate y dalaeth.
Y DIWEDDARAF AM EISTEDDFOD…
Y DIWEDDARAF AM EISTEDDFOD MERTHYR. Yr oeddem yn meddwl ein bod wedi cael diwedd ar helynt elw yr eisteddfod uchod, ond y mae y pwnc mor fyw ag erioed, heb un tebygolrwydd yn awr y daw i derfyniad buan. Y mae yn fwy na thebyg hefyd y gwerir yr ychydig arian hyn mewn rhyw ddull heblaw eu rhoddi at unrhyw ysgoloriaeth. Pen- derfynodd y pwyllgor eu bod i'w trosgl- wyddo i drysorfa Ysgoloriaeth Mr John Thomas, ond y mae Mr Rosser, Ponty- pridd, fel cadeirydd y pwyllgor, yn gomedd cydsynio a hyny, a'r arian yn cael eu cadw mewn canlyniad gan y trysorydd.
--.--,.-.----HIRHOEDLEDD.
HIRHOEDLEDD. Mae ffeithiau hynod o hirhoedledd wedi eu cyhoeddi yr wythnos ddiweddaf ya y Times. Enwir yno naw o bersonau, yn cyrhaedd yr oedran rhyngddynt o 774, sef cyfartaledd o 85 i bob un. Yr henaf oedd boneddiges a gyrhaeddodd yr oedran o 96, a'r ieuangaf yn fenyw 81. O'r gwyr yr henaf oedd 94, a'r ieu- angaf yn 82.
t ITRYSORFA GYNORTHWYOL BARHAOL…
t TRYSORFA GYNORTHWYOL BAR- HAOL Y GLOWYR. Yr ydym wedi clywed fod Mr D. Morgan, Mountain Ash, wedi ysgrifenu llythyr neu lythyrau ar y pwnc hwn yn ddiweddar; ond nid ydym wedi gweled llinell o'r cyfryw yn y DARIAN. Cofied efe, ac ereill, mai y DARIAN yw yr unig newyddiadur a ddosbarthir yn Nghwm- aman, Aberdar, ac os myn efe wneud lles i'w ddosbarth ei hun—y dosbarth y mae efe yn oruchwyliwr. iddynt—ein bod yn dysgwyl iddo roddi cynyrch ei ysgrifbin yn y DARIAN. Yr eiddoch, &c., J. EVANS.
AT LOWYR DOSBARTHIADAU CASTELLNEDD…
AT LOWYR DOSBARTHIADAU CASTELLNEDD AC ABERTAWE. Dymunwyf gywiro gwall sydd wedi cymeryd lie mewn cysylltiad a dyddiad y cyfarfod misol nesaf, yn y DARIAN. Cynelir y cyfarfod yn Landore Inn, Glandwr, dydd Sadwrn nesaf, yr 21ain, ac nid yr 28ain, fel yr hysbyswyd yn y DARIAN o'r blaen, pryd y dysgwylir cy- nryohiolwyr o'r holl lofeydd i fod yn bresenol. Hefyd, trwy fod cynifer o'r glofeydd heb dalu y galwad a wnawd y mis diweddaf tuag at dreuliau y cyfarfod misol, y mae genym i apelio atoch y mis hwn am ddimai y pen a gynrychiolir. Y cyfarfod i ddechreu am 4 yn y prydnawn. Yr eiddoch, fel arfer, ISAAC EVANS.
TANCHWA ETO YN RISCA-COLLIAD…
TANCHWA ETO YN RISCA- COLLIAD PEDWAR 0 FYWYDAU. Cymerodd tanchwa le yn nglofa Risca am oddeutu chwech o'r gloch boreu dydd Sul diweddaf. Yn gadus, nid oedd ond pedwar o ddynion yn y lofa ar y pryd, trwy fod y dynion perthynol i'r twrn nosol wedi dyfod i'r Ian. Y pedwar oedd i lawr a.r y pryd oeddynt, yr overman, Charles Dixon; dau danwr, o'r enwau Francis Evans a William Grif- fiths; a raparwr arall o'r enw Evan Morgan. Yr oedd o dan y ddaear hefyd 59 o geffylau gwerthfawr, tra nad oedd gobaith am na dynion na cheffylau eu bod ya fyw wedi y danchwa hon. Bernir i'r danchwa gymeryd lie mewn canlyniad i danio ergyd, trwy yr hwn y bernir i gyfanswm o nwy gael ei rydd- hau. Pa fodd y caniodd sydd ddirgel- wch, trwy fod y gofal mwyaf yn cael ei gymeryd gan y personau oeddynt wrth y gorchwyl ar y pryd, tra yr oedd y lampau dyogelwch goreu yn cael eu defnyddio. Llwyddodd Mr Wilkinson, y goruchwyliwr, a rhai swyddogion a gweithwyr ereill, i fyned i lawr erbyn oddeutu 10 o'r gloch, ond daethant ar draws cwymp trwm, oddeutu 30 llath oddiwrth waelod y downcast, yr hwn a'u hataliasant yn hollol. Y mae pob go- baith, modd bynag, y gellir ei symud yn fuan, fel y gallant fyned rhagddynt i'r gwaith, er gweled eangder gweith. ed- iadau y tan, a dyfod o hyd i weddillion y dynion anffodos. Y mae y niweitliau a wnawd yn y ddau bwll yn fwy dinystriol y tro hwn, na'r rhai a gymerasant le ar adeg y danchwa ddeunaw mis yn ol. Yr oedd tri o'r pedwar a laddwyd yn briod. Charles Dixon, yr overman, yn gadael gwraig a deg o blant; Evan Morgan, (Beagle) yn ddyn sengl; Frank Evans, tanwr, gwraig a phedwar o blant; a William Griffiths, gwraig a chwech o blant. Yr oedd y pedvar yn aelodau o Drysorfa Gynorthwyol Barhaol Deheu- dir Cymru.
——'.--=-CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR…
——' --=- CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR GLOWYR MYNWY A DEHEUDIR CYMRU. Cynaliwyd y cyfarfod hwn ddydd Llun diweddaf, yn y Bute Arms, Aber- dar. Llywydd, Thomas James, Aber- dar; islywydd, W. Darby; ysgrifenydd, W. Morgan. Yn nghyfarfod y boreu, cymerwyd rhif y personou a gynrychiolid, pryd y cafwyd eu bod yn 26,000, yn cael eu cynrychioli gan ryw 45 o gynrychiol- wyr o wahanol ranau o swydd Fynwy a Deheudir Cymru. Prif bwne y cyfarfod oedd, pa un a roddid yr ymddiriedaeth o wneud scale newydd yn nwylaw y cy- nrychiolwyr presenol ai peidio. Wedi dadleu y pwnc, penderfynwyd fod y mater yn cael ei osod yn nwylaw y cy- nrychiolwyr, gyda 11 awn ymddiriedaeth y bydd iddynt wneud eu goreu ar ran y rhai a gynrychiolir ganddynt. Yn nghyfarfod y prydnawn buwyd yn dadleu y gwelliantau angenrheidiol yn y scale newydd, a chymerwyd hwynt i fyny o un i un, ac ar y diwedd pender- fynwyd cymeradwyo awgrymiadau 'Y cynrychiolwyr, gan obeithio y bydd idd- ynt lwyddo ynddynt, oddigerth y pwnc o gael cyfrif-ymchwilwyr penodol a neill- duol ar ran y gweithwyr eu hunain. Safai y cyfarfod i hwn fod yn un o bync- iau hanfodol y cytundeb. Hefyd, mae yn ddealladwy nad oes yr un gwaith i gael ei gynrychioli gan aelodau y Bwrdd heb fod y cyfryw yn talu tuag at y treuliau. Penderfynwyd hefyd ar fod i bob glofa ymegnio cael list o'r prisoeed a delir ynddi wedi ei hargraffu. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a r brawd Edward Francis, Dowlais, yn ei alar ar ol ei briod, yr hon a ymadawodd a'r fuchedd hon prydnawn dydd Llun, yr 8fed cyfisol.
COLEG Y DEHEUDIR.
COLEG Y DEHEUDIR. Y mae y pwyllgor sydd wrth y gwaith o geisio cael Coleg Deheudir Cymru i Gaerdydd, yn bwriadu codi 50,000p. cyn gofyn i'r Llywodraeth am nodi Caerdydd fel y lie i'w sefydlu. Y mae oddeutu 8,000p. eisioes wedieu haddaw.
- DERI.
DERI. Dydd Mercher, yr lleg cyfisol, cynal- iwyd cyfarfod gan lowyr y gymydogaeth hen yn y Barley Arms, yr hwn oedd yn gyfarfod lluosog a dylanwadol. Cymer- wyd y gadair gan Mr Martin, yr hwn a ddywedodd mai amcan y cyfarfod oedd gwrando anerchiad gan Mr. Isaac Evans, Castellnedd, ar y Sliding Scale. Der- byniwyd Mr Evans yn wresog, ac anerch- odd hwynt yn feistrolgar ar y Slidiug Scale a'i heffeithiau ar gyflogwyr. Bu- asai yn dda genym roddi crynhoad o'r anercliiad pe buasai amser a gofod yn caniatau.
COMET I YMDDANGOS YN ABERDAR.
COMET I YMDDANGOS YN ABERDAR. Y mae llawer yn gwybod eisioes am ym- ddangosiad y comet fawr sydd i ymddangos nos lau nesaf yn awyrgylch Aberdar. Bydd yn sefyll yn nghymydogaeth y Gadlys, a chaiff pawb a ddaw i'r capel y noson nchod olwg glir ac ardderchog arni. DysgwyJir y bydd y dosbarth gweithiol yno yn lluosog, gan y óiflr yno ddarlith eglurhaol ar y nwyau tanddaearol, gan y comet ddarlith- iadol sydd i ymddangos yn mherson y Parch T. T. Jones, F.C.S., Rymni. Y mae Mr Jones wedi gwneud ei ymddangosiad o'r blaen yn y lie hwn, ac wedi tynu y canoedd a'r miloadd ar ei ol. Y mae ar ol hyny wedi gwjaeud darganfyddiadati newyddion yn myd tnawr a dirgeledig y nwyon tan- ddaearol, y rhai a eglurir ganddo i foddlon- rwydd y Un a ddysgwylir yma i'w wrando. Y mae y darlithiwr enwog hwn wedi bod yn ami yn rhoddi ffrwyth ei lafur diflino i weithwyr y Rhondda, ac hyderwn na phrofir, nos Iau nesaf, fod ein chwaeth fel glowyr yn is yn y cwm poblogaidd hwn. Heblaw fod y darlithiwr yn enwog, mae y pwno yn dalperthynasagos a neillduol iawn & ni fel gweithwyr, oblegyd Is Wrth oleu gwelw'r llnsern fach Y ehwilia'r glowr am y glo, A ohraig yn neniwd uwch ei ben Yn ei ramantas fro; Ar fwrdd o gareg arw bydd Yn bwyta 'i damaid sych, Yn estron i ddanteithion byd, Ac arlwyadan'r gwych." Y mae yr a:ncan hefyd yn glodadwy a tbeilwng. sef oynorthwyo un o blanfc llafur yn ei gyfyngder a'i drallod blin. Bydd y mynediad i mewn trwy docynau Is. a 6c. yr un, i'w cael wrth y drysau. yn llu i'r Gadiys gn I wrando'r enwog gawr o Rymni. GWEITHIWB CALED.
h GRttFFYDb LLWYD AC OGOF…
h GRttFFYDb LLWYD AC OGOF Y DAREN GOCH." Dymunaf erfyn ar y canoedd sydd yn danfon am y llyfr uchod am iddynt fod yn amyneddgar am wythnos neu ddwy. Nid yw y llyfr wedi dyfod allan o'r wasg eto, ond y mynyd y cyrhaedda yma, caiff ddechreu teithio atoch chwi.—Yr eiddoch gyda pharch calon, ADOLPHUS.
NODION 0 LANAU'R RHONDDA.
NODION 0 LANAU'R RHONDDA. MASNACH y GLO.—Araf iawn y mae olwyn- ion masnach glofeydd y cylch yma yn troi oddiar y Nadolig diweddaf. Nid ydym yn gwybod am un pwll trwy y ewm a fu mewn 11awn waith yr wythnos ddiweddaf. Hwyr ach nad ydyw lawer iawn yn well mewn cylchoedd ereill, o herwydd fod gwyliau y Nadolig yn effeithio ar sofyllfa masnach am wythnosau wedi i'r adeg fyned heibio, 11 megys liongan yn aros yn y porthladdoedd, er yn barod i hwylio, <fcc. Ond er hyn, na ddigaloned ein glowyr. Y mae ffurfafen masnach, y mae yn wir, wedi bod am hir amser bellach cyu ddued a'r fagddu, ac er nad ydym yu proffesu bod yn broffwyd, nac yn fab i un ychwaith, yr ydym yn beiddio darogan y gwel ein gweithwyr tanddaearol well cyflogau a mwy o waith yn ystod y flwyddyn hon nag y maent wedi weled er ys llawer blwyddyn. Da^llenasom erthygl- au arweiniol ar ddiwedd y flwyddyn ddi- weddaf ac ar ddechreu hon yn newyddiad- uron Seisneg lleol, yn ogystal a rhai Llun- dain, ac yr oedd yr oil a ddarllenasom yn darogan y try y flwyddyn hon allan yn un lwyddianus ar fasnach yn gyffredinol. Y dydd o'r blaen, cawsom ein sicrhau gan un sydd mewn eysylltiad pwysig a'r glowyr a'u hachosion y ceir codiad lied foddhaol eto yn mhen ychydig bach o wythnosau. Dywedwyd genym yn y DARIAN yehydig wythnosau cyn i'r codiad diweddaf gymer- yd lie y gallasai y gweithwyr edrych am dano, a gobeithiwn y try yr hyn a ysgrifen- wyd genym y tro hwn allan yn ffaith. Y DRYSWYR.—Yn ol yr hyn a ysgrifenodd ein cyfaill Mabon i'r South Wales Daily News dydd Sadwrn diweddaf, ymddengys fod y dryswyr yn rhai o lofeydd y ewm yn cael llav-er iawn o gam a chamdriniaeth oddiwrth y rhai hyny a ddylasai, yn lie eu cam a'u garw drin, &c., gymeryd pob gofal, a phob tynerwch tuag atynt. Dywed Mab- ou ei bodyn galonrwygoliglywed yr ystori- au am y driniaeth ag y maent yn gael gan rai o'r gyrwyr. Ymddengys fod dyddor- deb neillduol yn cael ei deimlo yn yr achos yn bresenol, ac y mae hYDY. mae'n debygol, wedi codi oddiar y ffaith i ddtyswr bychan -13 mlwydd oed—gyfarfod a'i angeu yn nglofa y Maendy ychydig ddyddiau yn ol, trwy i'r gyrwr adael y celfyi a gwageni o lo yn ei ofal. Cyfarfyddodd dryswr arall a damwain alaethus yn yr un lofa, ond nid yn yr un modd, ac y mae ei adferiad yn anobeithiol. A gawn ni trwy gyfrwng T ARIAN Y GWEITHIWR apelio at y r, gyrwyr yn ein glofeydd ifoJ ynclyner, a chymeryd pob gofal ag afedrant o'r dryswyr bychain hyny sydd yn dygwydd bod gyda hwynt tra wrth eu goruchwylion peryglus? Gwyddom am danynt trwy brofiad. Sicr ydyw, ei fod yn ddigon o gosp arnynt i orfod myned i'r lofa pan ond prin wedi cyrhaedd y deuddeg oed, ac heb gael ond ychydig neu ddim o addysg elfenol, &c.
GWEITHIAU TIN.
GWEITHIAU TIN. Wrth ddarllen y DARIAN glodwiw, mi welaf fod y gweithwyr tin yn nifer luosog o'i derbynwyr, a fy amean wrth ysgrifenu yw deffroi pob alcanwr, o Gaerfyrddin hyd eithafoedd y byd, i gydymdrechu dal breicbiau Lewys Afan i'r lan. Darllenais yn ddiweddar fod y ddyled eto yn drom. Beth yw cymaint a hyny ond i ni fod yn ffyddlon. Y mae Pontardulais wedi de- chreu, ac yn penderfynu gweithio yn egni- ol, a chlywsom fod Llanelli yn penderfynu gwneuthur marc. Ni fydd cynaliaeth Lewys ond y peth nesaf i ddim ar ol symud dyled yr argraffwyr. Wei, peidiwn, gyfeillion, a gadael i beth mor fychan ein digaloni. Y mae canoedd, oes, miloedd, yn foddlon cyfrann at Lewys nad ydynt yn Undebwyr, ac yn danfon o byd, mae yn debyg. One pull altogether, boys." UNDEBWR 0 GALON.
YR ALCANWYR.
YR ALCANWYR. Y mae clywed hanes gweithrediadan rhai o'm cydweithwyr yn fy nhroi yn sal, a hyny am fy mod yn gwybod i ba le yr arweinir ni drwy eu difaterweh. Pan y mae dialydd y gwaed yn ein herlid, gan geisio lleihau ein cyflogau, byddwn yn foddlon i bob teler- au rhesymol neu afresymol, ac wedi i'r drychin fyned heibio, mor barod ydym i anghofio. Mae y oymylau duon yn ym. gasglu eto, a gwelwn y fiurfafen mor dywyll ag erioed. Dysga rhai o honom ddynion o bob crefft arall i weitbio yn mhob rhan o'r gwaith. Mae y, South: Wales yn Llanelli yn parhau i wneuthnr eu 32, yn ol cynghor Cadben P. Os ydynt hwy yn parhau, nid yw hyny yn ddigon o reswm i ni sydd a thipyn llai o draohwant a mwy o ddynol- iaeth i wneuthur hyny. Hyderwn y cy- northwyir jAderyn y To a Lewys Afan i oresgyn y oewri alcanaidd. (Jredwn fod pawb yn teimlo yn hynod ddigofns tuag at y forgemen am en trio A'r llywydd. Os y gwnawn ni ein rhan i gyd, gallwn fod yn ddiangol eto. Lleihewch, wyr y deuddeg a'r ugain. LL. T.
HAULIERS MOUNTAIN ASH A'R…
HAULIERS MOUNTAIN ASH A'R COFFEE TAVERN. Y mae yn ymddangos fod Mr Prichard, manager gweithian Mr Nixon yn Mountain Ash, yn arferol o roddi rhyw gydnabydd- iaeth i'r hauliers ar ddechreu bob blwyddyn, a chaent eu dewis naill ai chwe' chein- iog neu chwart o ddiod, ond eleni dywed- odd wrthynt y eawsent eu dewis o gael chwart o gwrw neu swper yn y Coffee Ta. vern, a dydd Sadwrn diweddaf gosododd hwynt oil o flaen ei swyddfa er mwyn i bob un gael cyfle i ddangos ei ochr, a'r canJjcn- iad fu i nifer luosog o honynt droi at y Coffee Tavern. Dywedir iddynt fwynhan eu hunain yn rhagorol, a chael digonedd o ymborth blasus. Ond yr hyn a goronodd yr oil iddynt-ddyfod & chor yn cynwys dim ond hauliers i'r cyfarfod adloniadol, dan.ar- weiniad Mr David Evanp, yr hwn a gynal- iwyd yn yr un lie nos Sadwrn, a chanasant amryw ddarnau yn dda iawn. Gobeithio mai dechreu yw peth fel byn. Boddlonwyd fi a'r gwyddfodolion yn fawr trwy wrando ar Miss Mary Jane Price yu canu Y Fam a'r Baban,' yr hon sydd yn teilyngu sylw neillduol, ac y mae yn sicr o ddyfod yn gantores ragorol os y caiff gefnogaeth.-G.
EISTEDDFOD PUBLIC HALL ABERAFON.
EISTEDDFOD PUBLIC HALL ABERAFON. Caniatewch i mi hysbysu y cystadlenwyr ary eyfansoddiadau yn yr eisteddfod uchod, yr hon a gynaliwyd Rhag. 29ain, 1881, paai y buddugol ar y Beddargraff i'r diweddar Mrs Ann Howells oedd y Parch J. Morgan (Thalamus), Pontardawe. Y goreu ar y gan i gapel newydd y Bedyddwyr oedd Mr D. Price (Ap Ionawr), Port Talbot. Y llythyr earn, Mr Evan Ehedydd Thomas, Nantgaredig, Caerfyrddin.—Yn ddidwyll, YSG.
EISTEDDFOD ABERDULAIS.
EISTEDDFOD ABERDULAIS. Dymunwn wneud yn hysbys ein bod wedi derbyn cyfansoddiadau yn dwyn y ffug. enwancanlynolerbynyr eisteddfod uchod Marwnad Mrs Griffiths.-Acen Leddf, Pruddglwyfus, Gwyl Eryr o gol hiraeth Dolef Dulais, Bardd Adfyd, Eifion Ieuangc, a Deigryn Hiraeth-7. Y Cyfieithiad.-Fairplay a Rhiwabon- iwr-2. Rhaiadr Dulais.—Plentyn Anian, Morgan Hen, a Meudwy y Glyn-3. Y Llythyr Caru.—Llewelyn, Beynon, Ednyfed Wyn, Meilir Mon, Llew ap Cyn- lais, John Bright, Syr Hywel Ddu, Olwen Eilir, Doamas, Enid Wyn, a Llanc—11. DEWI AFAN.
Family Notices
MARWOLAETHAU. Ionawr y 12fed, yn 74 mlwydd oed, Mrs Ann Thomas, gweddw y diweddar Barch J. Thomas, Salem, Aberdar. Derbyuiwyd hi yn aelod o'r eglwys Gristionogol yn Bethania, Dowlais yn dra ieuanc, ac yn y cylch pwysig y bu yn troi ynddo fel cydmar bywyd i weinidog yr efengyl. Llanwodd hwnw yn ddifwlch. Treuliodd y chwe' mlynedd diweddaf o'i hoes ar wely cystudd, ond yn gwbl dawel achymroddedig i ewyllys Duw, a bu farwyn dawel a'iphwysar haedd- ianteiPhrynwra lHlachawdwr. DyddMer- cher canlynol, hebryngwyd yr hyn oedd farwol o honi i feddrod y teulu, ynLibanus, Mynwent y Crynwyr. Ionawr y 7fed, ar ol ychydig ddiwrnodau o gystudd trwm, yn 41 mlwydd oed, y boa- eddwr parchus Mr H. LL. Morris, rhan berchenog Gwaith Alcan, Penclawdd, a- mab W. Morris, Ysw., Pontaman. Y dydd Llun canlynol, cludwyd yr hyn oedd farwol mewn elorgerbyd i eglwys Penlawdd, lie y cyfarfyddwyd ef gan ganoedd o bobl o bob gradd, yn foneddigion, masnach wyr, a gweithwyr Penclawdd. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan offeiriad y lie.
EU GWEITHREDIAD.
EU GWEITHREDIAD. Y maent yn cynorthwyo traul yi borth, yn gwellhau a hwylusu y c rediad, yn cryfhau y giau a'r cyb: ac yn puro a ffrwythloni y gwae( mae y eymysglyn hwn yn gryfboir redinol, ac yn lanhaydd effei' Nertha y rhanau eiddil yn y cyfai = i » iad, ac o herwydd hyny y rhai r J agored i anwydon a'u canlyniada maent yn adnerthu ac yn adfywioc", .u cyfansoddiad a'r tymherau, ac ar ? virM hyny y maent wedi enill iddynt ei. •: n- ain y gymeradwyaeth uchelaf ar pob math o wendidau, a sefyllfl nychlyd, a marwaidd y corff. Pan yngalw sylw at y tystioh •: ur canlynol, dymnnem adgofio y darll -1 tja bod oil yn dyfod oddiwrth be] cyfrifol yn ngwahanol gylchoedd deithas, yn dyfod trwy ffer (chemists), adnabyddus y rhan a; honynt, o bob rhan o'r wlad, yn c cyfeiriadau ac enwau y person* <. preswylfod, ac yn tystioiaethu y yn hawdd brofi eu teilyngdod L • anfon at y personau eu hunain t.19 gellir dweyd fel hyn am lawer c dvai tiolaethau ereill. Nid oes nen «? ddiwrnod yn myned heibio heb fc i pet chenog y Bitters hyn yn derbyn yv-.a?- adwyaethau i'w heffeithiolrwydd Rose Cottage, Aberdar Tachwedd lOfed, ->3. GAREDIG SYR,—Yr wyf yn awr wt cyfleu i wneud prawf teg a gonest o' Qo! nine Bitters cyfansoddedig genych r te yr wyf yn gallu tystio oddiar brofi sonol a -thy-stiolaethau amryw berso: as- rai yr wyf wedi cymeradwyo y Bit r rrj bod yn meddu yr elfenau, y nodweJ r- i ;• rliinweddau a hawliech iddynt. ¥ri f flwyddyn 1876, cefais gystudd tr^i a1;* wyth mis, ac y mae rhai o effeitliia' tudd hwnw wedi aros gyda mi hyd 1 -1: Bu yn achos o ddychryn i mi dd'Cl, SV llofft ar hyd y grisiau i'r llawr rhag cwyiapS. Bu y cof, y cylla, a'r aelodau yn pelSia gwneud eu gwaith; ond mae y Bitfct j a "• gwneud llawer iawn or symud hyn or > • y cof yn llawer gwell, mae yr aelc iach a chryfion, tra mae y Bitters awydd am fwyd, ac yn help mawr i L yr hyn a dderbynir i'r cylla. Buan .< ag oedd dal yr ysgrifbin yn faich i uvr. ad yu awr gallaf ysgrifenu yn ddigryn fe; u y dyddiau gynt, fel y gwelwch wrth y hwn. Nid oes genyf yn awr end dy • "> galore lStr*yddiant i chwi i wasanaet gwlad a'ch opened! am flvnyddau ii, v dd'od. Yr eidda^hvgsuredig Syr, yn wir setohog PRICE, Baptist Mir M ■ I J1 Hydref 21, || ANWTnLSYB.—Wedidywedllawer W Quinine Bitters, penderfynais rode; 1" yf ■ arnynt. Bum am rai misoedd yn ? I mhoeni gan anhwylder cyffredinoi | chwaeth at ddim, iselder ysbryd. ac- ag brydian poen angerddol rhwng fyyf-gwydd- el fy au, yn codi, yn ddiau, oddiar afi( ;Lyd 7 Liver. Ond da genyf eich hysbysu wedi cael llwyr iachad; teimlaf yn i n: iach fy ngorff a bywiog fy ysbrj ? teimlais nemawr erioed, wedi de hon wyf y budd hwn trwy gymer • ojVb honwyf y budd hwn trwy gymer • ojVb darpariaeth fyd-enwog. Mae dyk yn fy ngorfodi i anfon y llinellau b eich gosod at eich rhyddid i wne defnyddofynochohonynt. Dymun bob llwydd i wasanaethu eich cenec Yr eiddoch yn gywir, J. R. JONES, Baptist I Mynydd Cynf. • SYR,—Bum yn dyoddef llawer c vr. ddolur yn fy mhen, iselder ysbry<' archwaeth at fwyd, ac ar ol ei fwy der mawr. Prynais botelaid 4s. t i wrth Mr. Richard Jenkins, Kenffig liil, a<s ar ol i mi ei chymeryd, teimlais fy I n w fy adferu i'm iechyd arferol, ac y > i ddilyn fy ngalwedigaeth. Yr yd, eu cymeradwyo i eraill, a thystir rhai hyny yw eu bod wedi der anrhaethol trwyddynt, a byddaf y: yn ddyledswydd arnaf eu cadw bo. fel trysor penaf y teulu. JOHN LLWYD (loan CK
-. GOFALED PAWB AM HYN.
GOFALED PAWB AM HYN. Gan fod amrywiol o ddarpai -J c Quinine i'w cael, megys Tine* -J. Quinine, Quinine Wine, Quini: v ture, &c., y mae rhai ymofyn.Y Quinine Bitters Mr. Gwilym E cael eu twyllo a'r pethau hyn YI • ;c mwyaf dideimlad a digy wilyda Wrth geisio hwn gan yr Ap nid digon yw gofyn fel hyn, "P s j a Bitters," "Potelaid o Quinine f > nac ychwaith "Y Quinine yi I gofaler gofyn am It Quinine Bit ? Gwilym Evans," ac os na fydd ? Gwilym Evans, ysgrifenu ar Stamp y Llywoèh bob potel, twyll a ffngiad ydyi ••• y Potelau yw 2s. 9c. i 4s. 6e. blychau, 12s. 6c. yr un. Cynwysa Poteli 4s. 6c. ddau J a rhai 2s. 9c., ac felly gall y v ? arbed Is. wrth gymeryd y rhai
Quinine Elitte: «
Quinine Elitte: « GWILYM EVANS. Y MAE hwn yn gymysg celfyddyogw a ffodus dros ben. Cynwysa Qulo.ir.^ Sarsaprilla, Srffron, Lauender, Da • lion. Gentian, a Burdock, sef yr ol darpariadau a nodasom, yn y fath modedd fel ag i sicrhau cydweithredi&cf llwyddianus ar yr oil o elfenau gw ".Lb- gar y cyffeiriau, er cyrhaedd a dyo; Is y dybenion daionus mewn golwg \v i h ei gyfansoddi. Cyfaddefir gan brif :ecd- ygon y dydd fod Quinine Bitters Mr, Gwilym Evans y cydgymysgiad m hapus ag sydd hyd yma wedi ei W->-u o'r cyffeiriau uchod.