Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU SIMON PUW.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU SIMON PUW. Mae gan Simon i ddiolchi'w gyfaill Dewi Wyn am wneud y fath ddefnydd o'i enwyn ei lythyr diweddaf. Mae efe yn sier fy mod wedi cyfeirio "ensyniadau" ato ef! Aie? "A gwyr pob bardd trwy y De- heudir hyny yn dda." Wel, hoffai yr hen wr gael enwau eymaint a haner dwsin o honynt i ddechreu; a chael gwybod, gyda llaw, yn mha frawddeg o'i lythyr y maent wedi cael cymaint a chvsgod o sail i hyny. Pe buasai Simon wedi "ymosod" ar Hot ten'.ot, a dweyd fod hwnw yn gwisgo rhyw- beth amgen na Jim Grow, tebyg y bnasai ein hen gyfaill yn dyfod allan yn union. gyrehol i gwyno mai arno ef yr oeddis yn ymosod t Cofied Dewi Wyn nad oedd Simon yn bwriadu i'w lythyr diweddaf fod yn "ym- ddiheurad" iddo ef na neb arall. Nid yw Simon wedi gwneud hyny i neb eto, ac nid yw yn bwriadu gwneud hyny chwaith hyd nes y gwmelo achos yn galw am hyny. Mae cymeriadau Gurnos ac yntau mewn perygl oddiwrth lythyr cyntaf Simon, meddai ef. Poed hysbys iddo ef nad oedd cadeiriau Caerdydd nac Abertawe yn meddwl Simon pan yif ysgrifenu ei lith. Ni wyddai yr hen wr gymaint a sill o helynt cadair Abertawe cyn toriad allan y rliyfel diweddar. Gwyddai am awdl Caerdydd mai un wael dros ben ydyw; ac os yw yr hyn sydd wedi ei ddifynu o awdl Abertawe yn enghraifft o'r gweddill, ni phetrusa ddweyd fod hono cyn waeled a hithau. Tybed mai dim ond Dewi Wyn a Gurnos sydd wedi bod ar y fainc feirniadol am yr ugain mlynedd diweddaf I Gallai pawb feddwl hyny wrth y pwys a ddyry Dewi ar y geiriau Italaidd, "Gurnos a minau." Pa fodd y mae urddas y ddau feirniaid hyn [ mewn mwy o berygl na'r Ueill oedd yn cydfeirniadu & hwy yn Ngliaerdydd ac Abertawe? Bydded Dewi Wyn yn fwy gofalus beth y mae yn ei gyhoeddi. Byddai yn chwith gan Simon ei weled yn cyfaddef pechodau na chyhuddwyd ef o honynt. Y mae wedi myned yn mhell yn y cyfeiriad hwnw yn ei lythyr diweddaf. Yn sicr, y mae ef ei hun wedi rboi mwy o le i amheu- ;aeth na dim a wnaeth Simon. Mae efe hefyd yn ceisio ymysgwyd oddi- wrth y teitl o ymosodydd, ac ymwisgo yn y cy. meriad o amddiffynyddl Dyna yn wastad yw byrdwn plant drygionus :— Wil y mwrws i, A finau fwrws wedyn." Hoffai Simon weled enwau haner dwsin wyr da eu gair" yn endorsio ei eiriau. Parthed awdl Unigedd," hoffai Simon wybod beth oedd a fynai Clwydfardd a'r feirniadaeth. Onid Hwfa Mon ac Ellis Wyn oedd y beirniaid ? Onid Hwfa Mon oedd yn barnu awdl Elias" yn oreu, ac Ellis Wyn yn barnu eiddo "Mabon" yn oreu ? Felly, dewiswyd Cynfaen yn ganolwr a dyfarnodd ef o blaid Mabon." Beth oedd decach na hyny ? Ond mynodd Dewi gael ffrwgwd yn nghylch y dyfarniad. Ond nid oes fater am hyny eto. Nid yw Simon yn beio Dewi Wyn a phob Dewi arall am godi row os bydd galw, ond dylai yntau toi yr un rhyddid i ereill. Dyna ddigon ar y testyn gwlithog yna. A oes rhywun yn gwybod a oes sicrwydd y bydd Eisteddfod yn Dinbych eleni. Mae y testynau wedi eu cyhoeddi er's llawer dydd. Ond nid ydys wedi hysbysu enwau y beirniaid eto. Nid llawer a gyfansodda ar ddim cyn cael gwybod pwy yw y beirn. iaid. Mae yr Americaniaid yn cadw stwr yn aghylch cadair Hyde Park. Rhai yn haeru mai Gurnos yw awdwr y cyfansoddiad buddugol, am mai ei frawd Dewi Ogle a wnaeth ei ymddangosiad pan alwyd enw y buddugol. Dichon nad oedd ein cefndryd yn gwybod fod Dafydd Jones yn llawn oystal bardd a'i frawd, ac yn well englynwr nag ef, un dydd o'r wythnos- Awdwr newydd wedi gwneud ei ymddang. osiad yn y Deheudir, yn mherson Gwilym Moudwy, B.B.D. Enw ei gyfrol yw Yr Hysbysydd." Mae yr hen wr wedi ei meddlanu, ond nid yw wedi ei darllen eto. Maeyn sicr o fod y peth goreu sydd wedi I ymdaangos yn ystod y ganrif. O leiaf, dyna dystiolaeth circular a ledaenir gyda hi, ao yn arwyddedig gan dri o brif feirdd y Deheudir. Clywed fod un o bregethwyr mwyaf doniol y Bedyddwyr wedi cyfansoddi pre- geth ar y teatyn :— Yn nghanol ein bywyd, y* ydym yn angeu" Wedi ei gorphen, aeth i ehwilio yn mha le yr oedd yr aanod. Wedi ohwilio a ehwilio, rhoddoad y gor- Ohwyl i fyny, A phan hysbysodd cytaill iido mai yn y Common Prayer yr oedd y JMwddog, Uotgodd y bre^eth ar unwaith. 8omm FUW.

YR ALCANWYR.

. AT JLEWYS AFAN.

------------------.--BWRDD…

. TRETHOEDD LLEOL.

Advertising

ILIVERPOOL.

Y CODIADAU DIWEDDAR YN EU…