Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
27 erthygl ar y dudalen hon
ME PARNELL, A.S.," YN RHYDD.
ME PARNELL, A.S. YN RHYDD. Mae rhyddhad Mr Parnell, A.S., o Kilmainham, a hyny mor ddisymwth, wedi achosi cryn siarad. Mcdd bynag, erbyn deall yr helynt, nid yw wedi cael ond caniatad i fod yn rliydd am ddeg diwrnod, a hyny er ei alluogi i fod yn bresenol yn angladd mab henaf ei chwaer, yr hwn a fu farw yn Paris ddydd Sadwrn diweddaf. Wedi dcrbyn y n&wydd, gofynodd am ganiatad i fyned i'r angladd, yr hyn a ganiatawyd iddo ar yr amod nad oedd i wneud na chefn- Ogi unrhyw arddangosiad politicaidd.
RHUTHBWYNT YN AMERICA.
RHUTHBWYNT YN AMERICA. Dywed bryshysbysiad o New York, dyddiedig y 7fed cyfisol, fod rhuthrwynt dinystriol wedi ymweled a Kansas, a bron wedi dinystrio un iref fechan. Lladdwyd yno hefyd bedwar o bersonau, a niweidiwyd lluaw8 ereill. Cymerodd rhuthrwynt arall Ie yn Michigan, lie y dinystriwyd meddianau, ac y lladdwyd llawer o bersonau.
:AT WEITHWYB GLO AGER t SWYDD…
AT WEITHWYB GLO AGER SWYDD FYNWY A DEHEUDIR CfMRU. GYDWEITHWYR,—Cynelir cyfarfod cy- ffredinol o gynrychiolwyr yn y Bute Arms, Aberdar, dydd Llun, Ebrill y 24ain, 1882, er rhoddi adroddiad y cyfrif- olygwyr am y pedwar mis diweddaf; hefyd, er ail ystyried rhyw bynciau neillduol yn ein gwelliantau diweddaf, y rhai sydd o'r pwys mwyaf i ni yn bre- senol* Mae gyda ni hefyd amryw faterion pwysig i'w gosod o'ch blaenau. Gan obeithio y bydd i bob glofa gyd- synio A'r cais hwn, ac anfon yno gy- nrychiolwyr gyda llawn awdurdod i weithredu ar y materion a osodir o'u blaenau, y gorphwyswn, eich ufydd was- amaethwyr, W. ABRAHAM. D. MORGAN. P. JONES. E. FRANCIS. D. MORGAN, Ysgrifenydd.
AT LOWYR DOSBARTH CASTELLNEDD…
AT LOWYR DOSBARTH CASTELL- NEDD AC ABERTAWE. GYDWEITHWYR,- Y mae genyf i erfyn arnoch y tro hwn fel glowyr y dosbarth uchod i fod yn bresenol yn y cyfarfod misol nesaf, yr hwn a gynelir yn y Landore Inn, Glandwr, ddydd Sadwrn nesaf, Ebrill y 15fed; y cyfarfod i dde- chreu am 4 o'r gloch yn y prydnawn, pryd y bydd rhai pynciau hynod o bwysig yn cael eu dwyn yn mlaen mewn cysylltiad a'r Sliding Scale, trwy fod pob peth mewn cysylltiad a hyny yn bresenol yn aros yn yr unman, a phethau yn edrych yn dywyll am gael Scale o gwbl am y dyfodol er ein llyw- odraethu. Cynelir cyfarfod cyffredinol o gy- nrychiolwyr glo tai swydd Fynwy a Deheudir Cymru, yn y Nelson Inn, Nelson, ddydd Sadwrn, Ebrill yr 22ain, 1882, er ystyried beth a ellir ei wneud yn fwy nag sydd wedi ei wneud, gan nad ydym ni fel cynrychiolwyr yn barod i symud dim yn mhellach heb gydsyniad ein cydweithwyr yn gyffredinol. Yn y cyfamser, anfonir cylchlythyrau i holl lofeydd glo tai swydd Fynwy a Deheudir Cymru, gydag hysbysrwydd llawn yn nghylch y cyfarfod. Mae genym hefyd i alw- levy o 4c y person tuag at dreuliau y Sliding Scale, a bech- gyn ar raddfa gyfartal. Yr eiddoch, ISAAC EVANS.
Y BWRDD CYMODOL.
Y BWRDD CYMODOL. Dymunaf gydnabod derbyniad y sym- iau canlynol tuag at y Bwrdd Cy- modol:—Oakwood Colliery, lp 13s; Meadow Pit, 10s 3c; Fforchaman, 5p 3s 6c; Cymer, 6p; Maerdy, 5p 10s 2c; Gelli, 8p; Maesteg, 5p Llettysiencyn, lp 2s; Tylor's Pit, 7p. Dymunaf ar William Harris, Pontrhydyfen, i anfon ei gyfeiriad yn llawn i mi, fel y gallaf anfon y receipts iddo trwy y llythyrdy. Ydwyf, yr eiddoch, D. MORGAN, Ysg.
AMAETHWR YN CAEL EI SAETHU…
AMAETHWR YN CAEL EI SAETHU GER ABERYSTWYTH. Boreu dydd Sul diweddaf, o herwydd cyfarthiad y cwn, cododd amaethwr o'r enw Thomas Edwards, yn byw yn Pen- glaise Fach, gan fyned i lawr, yn ofni fod llwynog yn aflonyddu ar y creadur- iaid. Wedi myned allan canfu ryw wrthddrych yn y tywyllwch, a phan yn dynesu tuag ato, ac yn gwaeddu er ei gyffroi ymaith, clywodd ergyd neu ddau o ddryll yn cael eu gollwng, ac yn ei archolli, pryd yr enciliodd efe i'r ty, yn gwaedu gan y shots oedd wedi myned i'w gorff. Mae yn fwy na thebyg mai lleidr neu ladron oedd yn y lie, y rhai a ataliwyd i gyflawni eu hamcan gan gyf- arthiad y own. Nid oes dim wedi ei gael allan hyd yn hyn sydd yn debyg o arwain i ddaliad yr ysbeilwyr llofrudd- iog. Nid yw yr archollion mewn modd yn y byd yn beryglus i fywyd Mr Edwards. -+-
; BETHANIA, ABERDAR. |
BETHANIA, ABERDAR. | Nos Iau, dydd Gwener y Groglith, a Sul y Pasc, cynaliodd yr eglwys uchod ei chyf- arfod pregethu blynyddol, pryd y pregeth- wyd gau y Parchn T. C. Edwards, M.A., Prif Athraw Prif Ysgol Aberystwyth; Wm. Prydderch, Goppa; a J. M. Jones, Caer- dydd. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol a phregethau grymus, ac hyderwn fod yr had da a hauwyd wedi syrtbio mewn dyfnder daear,
.YMFUDIAETH.
YMFUDIAETH. Y mae ymfudo i'r Amerig yn destyn ym- ddiddan ar bob aelwyd ynNghymru brony dyddiau preseooi. Y mae tystiolaethau teithwyr a'r rbai sydd yn preswylio ynddi yn profi y tabwst i amheuaetk ei bod y wlad oreu dan haul i'r gweithiwr caled, ond dywed ereill yn hollol i'r gwrthwyneb, i'r rhai yr wyf yn cynyg vote of censure. Gor- chwyl digon amnawdd yw i ddyn enill ei fara yn feunyddiol. Trwy chwys ei wyneb yn barbaos y mae yn ei enill, ond pan y mae ereifl yn ei gymeryd o'i enau ar ol ei enill, y mae yn galed y pryd hwnw arno Dyna fel y vaae fyaychaf lie y mae Pen- aduriaetb,ODdy maeOweriniaetb yn gadael dyn i twytm ei damaid ar ol iddo ei enill, Y mae canwmw, gywry yn flynyddol yn gadael gwlad y breintiau am wlad y l'hagor. freintiau. Yn mhlith lleoedd ereill, nid Llanelli yw y lleiaf mewn dyoddef oddiwrth y fasnaeh ymfudol. Yr ydym yma yn cof- nodi ymadawiad chwech ar foreu dydd Mawrth, y 4ydd o'r mis hwn, sef Henry Richards a'i wraig, Caemain Daniel Ste. phens, Hengoed Fach, ger Felinfoel; Ben- jamin Garnold, Ann-street; John Evans (loan Ystwyth), Robinson. street; a John Skym, Columbia Row. Yr oedd lluaw8 o'u cydweithwyr, eu cyfeillion, a'u perthynasau wedi ymgynull i orsaf Llanelli er ffarwelio a hwynt. Y mae Mr Skym yn adnabyddus i boblydref hon yn gyffredinol am eiweith- garwcli crefyddol, ei sal dros y gwir bob amser ao ar bob amgylchiad, a'r gwasan- aeth mawr a fu i bob mudiad daionus yn y lie. Gweithiodd yn galed o blaid dirwest am flynyddau, a bu o wasanaeth mawr yn mhob ystyr i'r mudiad daionus yma yn y lie, yn ogystal ag yn y cyfarfodydd ar hyd yr wythnos a'r Ysgol Sul. Nos Sul cyn ei ymadawiad cafodd ei anrhegu gan bobl ionaino ao Ysgol Sul Moriab a'r Oraclau BywioI," Cysondeb y Pedair Efengyl, The Apostle Paul's Meat Argument.' Wrth eu derbyn talodd ddiolchgarwch mawr am danynt, ac am y parch a ddangosent tuag ato.—J. D.
EISTEDDFOD ABERAFON.
EISTEDDFOD ABERAFON. I. Cynaliwyd eisteddfod yn y Public .Hall, dydd Gwener y Groglith. Beirniad y gan- iadaeth ydoedd Perdonydd y Dyffryn, tra y gwasanaethodd Mr M. B. Davies fel ar. wemydd a beirniad yr adroddiadau. Cy- merwyd y gadair gan Mr Llewelyn Howell. Cafwyd anerchiad pwrpasol iawn gan y llywydd Wedi hyny cafwyd anerchiad barddonol gan Mr T. Rees. Yna canwyd Rbo'woh i miFwth' yn swyngar iawn gan Mr Isaac Jenkins. Adroddiad, I Nodwedd y Cristiongoreu, Morgan Hughes, Maes- teg. Gwwi 1 Jack's Yarn;' goreu, S. Hughes. Y woDr juatrarsgrifenu yn oreu y gerddor. iaetlr a gaaiagan y beirniad a enillwyd gan John Morgan, Aberafonj 15 oed, Un parti yn unig, sef parti o Maesteg, a gystadleuodd ar ganu Yr Ynys Wen,' a chawsant y wobr. Adrodd4 CAn y Crythwyr rhanwyd y wobr rhwng Henry Jones, Aberafon, a Morgan Hughes, Maesteg. W. Williams (Gwilym Taf), Maesteg, a enillodd y wobr am ganu Fy Mlodwen.' Cystadleuodd pedwar parti ar y pedwarawd Ti wyddost beth ddywed fy Nghalon,' ond nid oedd neb o honyut yn deilwng o'r wobr. Y wobr am yr araeth ddifyfyfyr a enillwyd gan John Thomas. Y wobr am ganu 1 Dafydd y Gareg Wen' a ranwyd rhwng Mrs Morgan, Aberafon, a merch ieuanc o Maesteg. Mr Leyshon Edwards a chyfeillion oedd y buddugwyr ar ganu darn o gerddoriaeth ar y pryd. Y wobr am ganu y deuawd "Y Teiliwr a'r Crydd," a ranwyd rhwng Thos. Morgan a'i gyfaill, a W. Williams a'i gyfaill. Cystadl- euodd tri ch6r ar y prif ddarn corawl, Ar don o flaen Gwyntoedd,' sef Maesteg, dan arweiniad Mr Phillip Morgan; Tabernacl, Aberafon, dan arweiniad Mr Morgan Mor- gan, a'r Wern, Aberafon, dan arweiniad Mr John Phillips. Rhanwyd y wobr rhwng y ddau gdr cyntaf. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd, yn yr hon y cymerodd amryw enwogion ran. Trodd yr oil allan yn llwyddiant yn mhob ystyr.
AT LOWYR ABERDAR.
AT LOWYR ABERDAR. Fy N GHYDWEITHWYR,-Dia.u eich bod wedi gweled a chlywed am y penderfyniad a basiwyd yn ein cyfarfod misol diweddaf, yn gosod allan fod y cyfarfod hwnw yn rhoddi i fewn i'n dymuniad ar i'r cynrych- iolwyr i'r cwrdd misol gael eu neillduo am chwech mis heb eu newid Gobeithio y bydd i chwi gymeryd y mater hwn i'ch hys- tyrlaeth yn yr un ysbryd ag y rhoddwyd ef ger broil y cyfarfod hwnw. Cofier nad oedd y cy.ariod yn hollol foddlon i basio y penderfyniad, rhag ofn y buasech chwi y werin yn credu eu bod hwy yn gwneud felly er mwyn budd eu hunain; ond addewais anfon y llythyr hwn er egluro y mater. Gobeithio hefyd nad ydych yn credu fy mod inau wedi gwneud hyn oddiar un ys- bryd penarglwyddiaethol; eithr y mae yr oil yn cael ei wneud oddiar ddymuniad i wneuthur daioni. Ein rheswm dres hyn yw, ein bod yn credu y bydd y cynrychiol- wyr yn cymeryd mwy o ddyddordeb yn y gwaith. Rheswm arall yw, ein bod yn gwybod fod yn ofynol dysgu rhywbeth YN y gwaith hwn, fel mewn pob peth arall; ac ar ol i'r cynrychiolwyr ddyfod yn gyfarwydd a'r trefniadau (yn o'i yr hen ddull y maent yn cael eu newid, bydd y gwaith o hyfforddi yn gyson. Ond cofier mai yn eich Haw chwi y glofeydd y mae pender- fynu y mater, pa un a gaiff y cynrychiolwyr eu newid bob tris neu beidio, ac nad yw y cyfarfod misol wedi penderfynu mai felly y mae i fod. Mountain Ash. D. MORGAN.
EU GWEITHREDIAD.
EU GWEITHREDIAD. Y maent yn cynorthwyo traial yr yma; borth, yn gwellhau ^hwylusu y cylch; rediad, yn cryfhau y giau a'r cyhyraa, ac yn puro a ffrwythloni y gwaea. 'I mae y cymysglyn hwn yn gryfboir cyff- redinol, ac yn lanhaydd effeithiol. Nertha y rhanau eiddil yn y cyfansodd- iad, ac o herwydd hyny y rhai mwyaf agored i anwydon a'u canlyniadau. Y maent yn adnerthu ac yn adiywiochan y cyfansoddiad a'r tymherau, ac ar gyfnl hyny y maent wedi enill iddynt eu nun- ain y gymeradwyaeth uchelaf ar gyfei pob math o wendidau, a sefyllfa Met, nychlyd, a marwaidd y corff. Pan yn galw sylw at y tystiolaethau canlynol, dymnnem adgofio y darllenydd eu bod oil yn dyfod oddiwrth bers<maQ cyfrifol yn ngwahanol gylchoedd cym. deithas, yn dyfod trwy fferylhwyt (chemists), adnabyddus y rhan Q honynt, o bob rhan o'r wlad, yn cynwyi eyfeiriadau ac enwau y personau aa preswylfod, ac yn tystioiaethu y gellir yn hawdd brofi eu teilyngdod drwy anfon at y personau eu hunain. Nifl gellir dweyd fel hyn am lawer o dyst- tiolaethau ereill. Nid oes nemawr I ddiwrnod yn myned heibio heb fod per. chenog y Bitters byn yn derbyn cyraer- adwyaethau i'w heffeithiolrwydd. Rose Cottage, Aberdar, Tachwedd lQfed, 1880. GARKDIO SYR,—Yr wyf yn awr wedi cael oyfleu i wneud prawf teg a gonest o'r Qui. nme Bitters cyfansoddedig genych chwi, ao yr wyf yn gallu tystio oddi-ar brofiad per- sonol a thystiolaethau amryw bersonau i ba rai yr wyf wedi cymeradwyo y Bitters, ea bod yn meddu yr elfenau, y nodweddau, at. rhinweddau a hawliech iddynt. Yn y flwyddyn 1876, cefais gystudd trwm 8DI wyth mis, ac y mae rhai o effeithiau y em tudd hwnw wedi aros gyda mi hyd heddyw, Bu yn achos o ddychryn i mi ddyfod o'» llofft ar hyd y grisiau i'r llawr rhag cwympo, Bu y cof, y cylla, a'r aelodau yn peWiD gwneud eu gwaith; ond mae y Bitters wedi gwneud llawer iawn er symud hyn oil Mae y cof yn llawer gwell, mae yr aelodau yn iach a chryfion, tra mae y Bitters yn creQ awydd am fwyd, ac yn help mawr i dreulio yr hyp a dderbynir i'r cylla. Be amaer pM) ag oedd dal yr ysgrifbin yn faich i mi, ond yn awr gallaf ysgrifenu yn ddigryn fel va y dyddiau gynt, fel y gwelwch wrth y llytl^i hwn. Nid oes genyf yn awr ond dymuno o galon llwyddiant i chwi i wasanaethu eich gwlad a'ch cenedl am flynyddau lawer? dd'od. Yr eiddoch, garedig Syr, yn wir serchog THOMAS PRICE, Baptist Minister, Llwynpia, Hydref 21, 1880. ANWYL SYR,—Wedi clywed llawer am eich Quinine Bitters, penderfynais roddi prawf arnynt. Bum am rai misoedd yn cael fy mhoeni gan anhwylder cyffredinol, diffyg chwaeth at ddim, iselder ysbryd, ao u brydiau poen angerddol rhwng fy vsgwydd- au, yn codi, yn ddiau, oddiar afiechyd y Liver. Ond da genyf eich hysbysu fy mod we<& cael llwyr iachad; teimlaf yn awr moi iach fy ngorff a bywiog fy ysbryd ag ,y teimlais nemawr erioed, wedi derbyiE o honwyf y budd hwn trwy gymeryd rffth darpariaeth fyd-enwog. Mae dyledswydd yn fy ngorfodi i anfon y llinellau hyn, gas eich gosod at eich rhyddid i wneuthur y defnydd o fynoch o honynt. Dymunaf i ohwi bob llwydd i wasanaethu eich cenedl. Yr eiddoch yn gywir, J. R. JONES, Baptist Minister Mynydd CynfSg, SYR,—Bum yn dyoddef llawer oddiwrth ddolur yn fy mhen, iselder ysbryd, diffyg archwaeth at fwyd, ac ar ol ei fwyta, blia. der mawr. Prynais botelaid 48. 60. wrth Mr. Richard Jenkins, Kenffig Hill, M ar ol i mi ei chymeryd, teimlais fy hun wedi fy adferu i'm iechyd arferol, ac yn alloog i ddilyn fy ngalwedigaeth. Yr ydwyf wadi eu cymeradwyo i eraill, a thystiolaeth y rhai hyny yw eu bod wedi derbyn lies anrhaethol trwyddynt, a byddaf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf eu cadw bob amoer fel trysor penaf y teulu. JOHN LLWYD (loan Cynffig),
l,..,.h""V:.-,.-.,,,,,","R…
l .h ""V: "R WYTHNOS. Y MAE y Tywysog Gortschakoff wedi rhoddi i fyny y swydd o Weinidog Tra- mor Rwsia, o herwydd gwaelder el -iechyd a'i henaint. Nos Wener diweddaf, yn Treherbert, bu farw yn dra disymwth ddyn o r enw Thos. Hoskins, hwper. Aeth i'w wely fel arfer, ond oddeutu canol nos, rhodd- odd ochenaid drom, gan droi ar ei ochr, a marw. Tybir iddo orwneud ei hun y diwrnod blaenorol, pan yn gweithio yn yr ardd. Gadawodd wraig a theulu trwmareiol. „ ODDIWRTH adroddiad a wnawd ya nghymanfa Talgarth, perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd, dangoswyd fod dyled y corff yn 2p 5s yr aelod. Yn y Gogledd yr oedd y ddyled oddeutu 68,000p—9c yr aelo&, ond fod y ddyled yn y Deheudir yn 131,000p—2p 18s yr aelod aeo'r holl siroedd, Mor- ganwg a Mynwy sydd ddyfnaf mewn dyled, se! 4p 16s yr aelod yn Morganwg, & 5p 17a yr aelod yn Mynwy. BP ,T DYDD o'r blaen, yn Derby, bu farw Jitfn wraig o'r enw Esther Foster mewn "d]ill truenus. Pan yn bwyta ei chiniaw, ssosodd darn o gig yn ei gwddf. Cy- merodd ddos o rywbeth at ei yru i lawr, Qridni wnaeth hwnw unrbyw les iddi. Yiia cymerodd ddarn o cane, gan ei yru i lawr ei gw-tdf, ond ni wnaeth hyny un- thyw les. Taiiodd yr hen wraig waed i fyny, a bu farw mewn 24 o onau. DYWED bryshysbysiad o Longhrea fod ymgais mileinig wedi ei wneud at chwyfch-u i fyny ysgoldy segur oedd yn cael ei barotoi at fod yn filwrdý, yn Nellyeooney, Iwerddon, yr hyn a igiohlysurodd gyffro mawr yn y gymyd- ,^YR ydym yn cael fod Mr John Francis, boneddwr llenyddol, 71 oed, wedi ^nadlu ei olaf, wedi bod am 38 o flynyddoedd mewn cysylltiad a newyddiaduron. In Hydref diweddaf cyflawnodd ei haner can'-mlwydd fel gohebydd yr Athenaeum.
....::. DAMWEINIAU.
DAMWEINIAU. CYMERODD ffrwydriad berwedydd le yr 8fed cyfisol ar yr agerfad Bella Mae, ger La Crosse, Wisconsin, America, trwy yr hwn y lladdwyd chwech o ber- "sonau yn y man, ac y niweidiwyd un-ar- ddeg ereill. FEL yr oedd yr agerfad fechan Noah •yn arwain y Uestr Victona allan • Amlwch boreu dydd Gwener ^eddaf; ffrwydrodd ei berwedydd, a lladdwyd tri o'r dwylaw yn y man, sef Owen Pri -chard, Nicholas Peters, a diver na wyddus ei enw. PKYDNAWN dydd Mercher diweddaf bu iarw glowr o'r enw Thomas Bees, 27 oed, yn Maesteg, mewn canlyniad i niweidiau a dderbyniodd trwy gwymp yn nglofa Caer Defaid. Yr oedd yn hriodac un plentyn. P, DYDD Iau yr wythnos ddiweadai, cynaliwyd trengholiad yn Dowlais, ar eorff un Griffith Thomas, 30 oed, yr hwna laddwyd ar y õed cyfisol. Yr oedd y trancedig yn cymeryd gofal o cupola, yr hwn a ddaeth i lawr arno gan ei ladd. DYDD Iao, y 6fed cyfisol, yn Dyffryn Bow Merthyr, bu farw halier o'r enw Samuel Godfrey, 29 oed, mewn canlyn- iad i niweidiau a dderbyniodd y dydd blaenorol tra wrth ei orchwyl yn un o lofeydd Plymouth. Mewn canlyniad i'w droed fyned yn erbyn sleeper, syrth- iodd ac aeth y trams drosto. DYDD Mercher diweddaf cyfarfyddodd dyn o'r enw John Evans a damwain arswydus yn nglofa y Mardy, Rymni. Syrthiodd careg fawr arno, trwy yr hyn y torwyd un o'i goesau mewn dau fan, ac un o'i freichiau, ac y niweidiwyd ef hefyd ar ochr ei ben. Y mae yn ym- ddangos ei fod wedi bod o dan y cwymp am yn agos i bedair awr. Y mae yn awr mewn sefyllfa beryglus. DYDD Gwener diweddaf bu farw bach- gen o'r enw William Morgan, 15 oed, yn nghlafdy Dowlais, o niweidiau a dderbyniodd tra wrth ei waith ar y 5ed cyfisol. Yr oedd wrth y gorchwyl o shuntio yn y gwaith uchaf, pryd y syrthiodd ac y cafodd ei goesau wedi eu tori. BODDWYD pump o efrydwyr perth- ynol i Brif Ysgol Geneva, ddydd Sul di- weddaf, trwy i ddau gwch bychan yr oeddynt ynddynt droi wyneb i waered. Yr oedd dau o'r rhai a foddwyd yn frodyr.
BWRDD Y SLIDING SCALE.
BWRDD Y SLIDING SCALE. Mae dau gyfarfod perthynol i'r bwrdd hwn wedi eu cynal yn yr wyth- nos a aeth heibio, ond ni ddeuwyd i ddealldwriaeth yn nghylch safon y Bwrdd dyfodol, et6 y mae gobaith y deuir pan yr ymgyfarfydda y pleidiau nesaf.
MABWOLAETH DISYMWTH . BACSGENYN.'
MABWOLAETH DISYMWTH BACSGENYN. Prydnawn dydd IatT diweddaf, yn Sheffield, bu farw baehgen o'r enw Higginbotham, saith mlwydd oed, tra ar ei ffordd i'r ysgol. Y mae yn ym- ddangos ei fod wedi ceisio cael aros gartref, ond yr oedd ei fam yn bender- fynol o'i yru i'r ysgol. Yr oedd ei fam wedi ei ganlyn am beth ffordd, pryd y taflodd efe ei hun ar y llawr, fel yr arferai wneud pan mewn tymer ddrwg. Cododd ei fam ef i fyny, ond er ei chyffro cafodd ei fod wedi marw. 8
HUNANLADDIAD TYBIEDIG.
HUNANLADDIAD TYBIEDIG. Yr ydym yn cael o Aberhonddu fod masnachwr eang mewn gwirodydd, o'r enw Mr Charles Gibson, wedi cyflawni hunanladdiad prydnawn dydd Sadwrn diweddaf. Oddentu pump o'r gloch y prydnawn, pan yr oedd y teulu yn myned i eistedd i gymeryd tê, gadawodd Mr Gibson yr ystafell, a deallodd pawb ei fod yn myned i gyflawni rhyw angen corfforol. in lie myned i'r man arferol, aeth i le a ddefnyddid gan y gwasan- aethwyr, lie hefyd yr oedd jar o carbolic acid. Cyn y gellid ei rwystro, yr oedd wedi yfed cyfanswm mawr o'r gwlybwr gwenwynig hwn. Er i gynorthwy meddygol ddyfod i mewn mewn ychydig fynydau, methwyd A'i achub, a bu farw mewn oddeutu dwy awr.
«—j CYFARFOD CANOL-NOSOL YN■…
«— CYFARFOD CANOL-NOSOL YN LLUNDAIN. Yn foreu dydd Gwener diweddaf, cy- naliwyd eyfarfod yn yr ysgoldy sydd mewn cysylltiad S chapel Orange Street, yn Leicester Square, mewn cysylltiad a'r mudiad i geisio adf«ru menywod drwg y brif dainas. Rhywbryd cyn canol nos, nos Iau, gwelid nifer o fon- eddigesau cefnogol i'r mudiad yn rhanu tocynau gwahoddiadol i'r oyfarfod, lie yr oedd te a phethau ereill wedi eu parotoi. Derbyniwyd nifer mawr o'r tocynau, a ffurfiwyd gorymdaith gan nifer o'r rhai a dderbyniasant y cyfryw, er myned tua'r ysgoldy, gan ganu hen rigymau anfoesol. Er iddynt gyrhaedd felly, derbyniwyd hwynt yn groesawgar i'r neuadd. Eisteddasant i lawr oil i de ac ymborth arall, ond arddangosai y- rhan fwyaf o honynt eu bod wedi colli pob gradd o foesoldeb cymdeithasol a diolchgarwch. Yn ystod y te, taflent deisen a llwyau at eu gilydd, gan ddefn- yddio yr iaith warthusaf. Wrth weled y fath ymddygiad, rhoddodd yr ysgrif- enydd ychydig eiriau ceryddol iddynt; ond ni chafodd hyny un effaith lesiol, canys pan y ceisiwyd canu a gweddio, methwyd gan yr anfoesoldeb, wedi yr hyn y clywyd llef o'u plith yn dweyd,- "Arwain y ffordd, Jumbo, a gad i ni fyned ymaith." Ar hyn neidiodd un o'r menywod mwyaf i fyny, gan ateb i'r enw, ac arwain y ffordd allan, a chan- lynwyd hi gan y nifer luosocaf. Cafwyd myned trwy y gwasanaeth wedi hyny yn hamddenol.
TAITH JUMBO I NEW YORK.
TAITH JUMBO I NEW YORK. Yr ydym yn cael fod Jumbo wedi cyr- haedd yn ddyogel i New York. Gorfu i Mr Barnum dalu 40,000 o ddoleri o ardreth i'r Llywodraeth am ei lanio. Y cyntaf ar fwrdd y Hong oedd Mr Burnum, yr hwn a aeth yn unionsyth at Jumbo. Dywedir i'r creadur ym- ddwyn yn rhagorol ar y daith. Am y tri diwrnod cyntaf yr oedd yn ddigalon, ac yn pallu bwyta ond ychydig. Nid oedd yn caru bod wrtho ei hun y nos, a'r goleuadau o'i gwmpas, a phan yr aeth ei geidwad oddiwrtho, y creadur a chwibanau arno yn ol, a gorfu arno aros gydag ef trwy yr holl daith. Cyffro- wyd Jumbo yn fawr un noson gan gy- farthiad ci, a chwibanodd yn uchel am y ceidwad. Un diwrnod tra ar y daith yr oedd morwr yn golchi ei ddillad yn ymyl arosfa Jumbo, a tharawod ef ar ei drwnc. Yn atdaliad cydiodd Jumbo yn nghrys y morwr, gan sych y llawr aflan ag ef, ac yna ei daflu yn ol i'w berchen. Ei ymborth dyddiol oedd 200 pwys o wair, dau fwsiel o geirch, un bwsiel o biscutis, deuddeg neu bymtheg torth o fara, ugain bwcedaid o ddwfr, a diod gadarn a gwirodydd. Ceisiwyd ganddo un diwrnod i gymeryd rum, ond nid oedd yn ei archwaethu, a thaflodd ymaith y bwyd oedd wedi ei gymysgu ag ef. d
IEISTEDDFOD BETHEL, NANTY-MOEL.
EISTEDDFOD BETHEL, NANTY- MOEL. Cymerodd yr eisteddfod hon le ddydd Gwener y Groglith. Llywydd a beirniad y rhyddiaeth a'r adroddiadau, Dafydd o Went; beirniad y gerddoriaeth, Mr D. W. Lewis, A.C., Brynaman. Nid wyf yn alluog i roddi i chwi y many lion, ond yn unig mai cor Maesteg a enillodd y brif wobr a'r gadair. Cafwyd cystadl- euaeth ragorol, a rhoddodd y ddau feirniad, fel arfer, foddlonrwydd mawr 11 r cystadleuwyr. Cynaliwyd cyngherdd yn yr hwyr, yr hon hefyd a fu yn llwyddianus.
[No title]
Dywedir fod 28 milldir o heolyddnewydd- ion yn Llundain ar gyfartaledd, a 9,000 o dai newyddion yn cael eu hadeiladu bob blwyddyn.
---AT Y4BEIRNIAD SAMLET WILLIAMS,…
AT Y4BEIRNIAD SAMLET WILLIAMS, GOWER ROAD. STB,-A fyddwch mor garedig a danfon eich beirniadaeth ar y traethawd ar "Joseph," i rai dan ugain oed, yr hwn fu yn destyn systadleaol yn eisteddfod Pen- clawdd, Ionawr 14eg, 1882? Gan eich bod wedi danfon y feirniadaeth ar y Ueill o'r testynau fu dan eich gofal, earai llawer ddarllen eich beirniadaeth deg ar draeth- odau yr ymgeiswyr ienainc hyn, heblaw SAMI BACH. [Y mae y feirniadaeth uchod wedi dyfod i law, a chaiff ymddangos yn fnan.—GOL.]
- |Y STALYFERA. r
|Y STALYFERA. r Dydd Sul, Ebrill 9led, talodd YsgoI Sab- bothol Godre'r Graig, ymweliad a'i chwaer ysgol yn y Tabernacl, Pontardawo. Awd yn mlaen dan lywyddiaeth y Parch R. T. Jones, Panteg. Wedi eael adroddiad o'r 23ain benod o'r Actau, anerchwyd gorsedd gras gan un o ddiaooniaid y Tabernacl, set Wm. Williams. Adroddwyd dwy benod o Rodd Mam gan y plant yn effeithiol iawn. Y mae clod mawr yn ddyledus i'r brawd Wm. Harries, grooer, am ei lafur diflino gyda'r plant. Aeth yr adroddiadau a'r canu yn mlaen yn hwylus hyd y diwedd. Ajweinydd y oann oedd y eerdd- or ieuano gobeithiol, Mr William Thomas, Graig. Cafwyd cynulliad da, a ph awb yn gwrandaw yn astud, a thywydd ffafnol dros ben. Tox BAOH.
LLANSAMLET.
LLANSAMLET. Nos Sadwrn, Mawrth y 25ain, cynaliwyd cyfarfod lluosog a brwdfrydig gan weith- wyr y lie uchod yn y Collier's Arms. Daeth llawer yn nghyd o'r gwahanol lofeydd cyf agos, fel ag 1 lanw ystafell fawr ae eang. ao yr oedd arwydcBon amlwg i'w canfod fod pawb yn mwynhau'r cyfarfod o'i ddeoh. reu i'w ddiwedd. Dygwyd pob peth yn mlaen gyda'r gweddeiad-dra mwyaf. Yr oedd y siarad hefyd yn ddyddorol a phwr- pasol iawn ar amryw faterion, ag sydd yn dal perthynas a ni fel glowyr. Anerchwyd y cyfarfod gan Mr Isaac Evans, Sciwen, a dangosodd mewn modd eglur a chynwys. fawr, y daioni mae Undeb y Gweithwyr wedi wneud yn y lleoedd hyny ag sydd wedi glynu wrthi am lawer o ftynyddoedd. Y mae yn dda genym hysbysu i lawer ymuno o'r newydd yn y cyfarfod hwn, a gobeitbiwn y daw ereill eto i weled y priodoldeb o fod yn un a chytun yn eu hamcan i leshau ac amddiffyn eu gilydd. GLOWR.
j " BLODWEN " YN NOWLAIS.
BLODWEN YN NOWLAIS. Nos Sadwrn diweddaf, rhoddodd y Rhondda Opera Society eu perff or naiad o'r opera Gymreig hon (mewn cha ratter) yn yr Oddfellows Hall, Dowlais, dan arweiniad Mr T. Stephens (Telorydd). Yr artistes oeddynt Llinos y De, Llinos Dar, Mri. T. Evans, W. Davies, T. Davies, O. Morgan, Rhys T. Jones, D. Phillips, E. Jones, Llew Glandar, a J. Broad. Perdonyddion-Mrl R. Howells, Maesgwyn, Aberdar, a D. Rhondda Davies. Telynor—Mr W. Pearce. Yr oedd y perfformiad yn gredid i'r enwog- ion uchod oil, ac yn adlewyrchu clod mawr i'r arweinydd galluog. Blin genym i'r cyf eillion wneud camsynied wrth ddewis y noswaith hon. Yr oedd yn dygwydd bod yn nos Sadwrn pay mawr Dowlais, ac yr oedd hyny yn anfantais annhraethol, gan fod pobl yma yn llawn busnes ar y nos- waith bwysig hon, ac yn methu dyfod i gyngerddau. Ond er y cwbl, da genym i'r cynulliad fod yn ddigon lluosog i dalu y treuliau. Yr ydym yn teimlo yn awyddus am i'r cyfeillion ddyfod yma i roadi un perfformiad arall, ac iddynt ddewis nos Iau y tro nesai, ac yr ydym yn sicr y gall. wn ateb dros bobl Dowlais, y bydd i'r can. torion ardderchog hyn gael derbyniad mwy gwresog y tro nesaf. BUDD GYNGBRDD Eos LLYWEL.—Nos Bad, wrn nesaf, y 15fed, y cynelir cyngerdd fawr eddeg yn yr Oddfellows Hall, ertbudd Mr John Williams (Eos Llywel), Dowlais. Y mao yr hen arweinydd profedig hwn yn sicr o fod yn un o'r gwrthddrychau mwyaf teilwng i gael cefnogaeth pobl Dowlais o bawb. Nid oes neb erioed wedi gweithio gyda mwy o aiddgarweh ac egni dros gan- iadaeth y cysegr nag ef. Y mae wedi bod yn arwain y canu er ys blynyddau lawer yn Mhenywern, ac wedi gadael argraff annile. adwy ar ei g6r. Profodd ei han hefyd yn barod bob amser i gefnogi a chydweithio gyda phob achos da yn y lie. Y mae bellach er ys llawer dydd wedi ei analluogi i ddilyn ei alwedigaeth, ac fel arwydd fechan o'r parch mawr sydd yn ddyledus iddo y cynelir y gyngerdd hon. Yr ydym yn dymuno o galon y bydd y cynulliad yn glod i garedigrwydd gwyr Dowlais; ac yn rhywbeth sylweddol i logell ein cyfaill anwyl yn ei gystudd. Yr ydym yn sicr y caiff pawb eu llwyr fodd- loni yn y gyngerdd, oblegyd y mae yr artistes yn gantorion rhagorol i gyd. Yn awr, Ddowlaiswyr, dangoswch eich hunain yn deilwng o'r amgylchiad teilwng hwn. GOB.
BRYNAMAN.
BRYNAMAN. CynaJiodd y Methodistiaid perthynol i gapel Moriah eu cyforfedydd blynyddol Sul a Llun, Ebrill yr 2il a'r 3ydd, pryd y gwas- anaethwyd gan y Parchn. W. O. Williams, F.R.A.S., L'erpwl; David Saunders. Aber- tawe; a William Jones, Treforris. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol yn mhob ystyr, y pregethau yn ddylanwadol a nerthol, a'r casgliadau yn deilwng, fel arfer. Nos Sadwrn, y laf cyfisol, traddodwyd darlith yn y capel uchod, ar Gyfeiriadau y Beibl at Seryddiaeth,' gan y Parch W. 0. Williams, F.R.A.S., L'erpwl. Cymerwyd y gadair gan y Parch J. Jones, Rhydyfro Y mae yn werth i ddyn hebgor amser i wrando ar y dyn enwoghwn yn darlithio a phregethu.—UN OEDD YNO.
--Quinine Bitters
Quinine Bitters GWILYM EVANS. Y MAB hwn yn gymysg celfyddydgai a ffodus dros ben. Cynwysa Quinme Sarsaprilla, Seffron, Lauender, Dande- lion. Gentian, a Burdock, sef yr oU 0.. darpariadau a nodasom, yn y fath ø- modedd fel ag i sicrhau cydweithrediiki llwyddianus ar yr oil o elfenau gweitb* gar y cyffeiriau, er cyrhaedd a dyogela y dybenion daionus mewn golwg wrth ei gyfansoddi. Cyfaddefir gan brif fedd- ygon y dydd fod Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans y cydgymysgiad mwyal hapus ag sydd hyd yma wedi ei wneud o'r cyffeiriau uchod.
GOFALED PAWB AM HYN.
GOFALED PAWB AM HYN. Gan fod amrywiol o ddarpariadau 0 Quinine i'w cael, megys Tincture 01 Quinine, Quinine Wine, Quinine Mix- ture, &c., y mae rhai ymofynwyr aija Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans yn cael eu twyllo a'r pethau hyn yn y modd mwyaf dideimlad a digywilydd Wrth geisio hwn gan yr Apothecari, aid digon yw gofyn fel hyn, "Potelaid o Bitters," "Potelaid o Quinine Bitters," nac ychwaith "Y Quinine yna," ond gofaler gofyn am "Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans," ac os na fydd yr enw Gwilym Evans, F.C.S.,M.P.S., wedi ei ysgrifenu ar Stamp y Llywodraeth ar bob potel, twyll a ffugiad ydynt. Prig y Potelau yw 2s. 9c. i 48. 6c.; mewn blyckau. 12s. 6c. yr un. Cynwysa'Poteli 4s. 6c. ddau cymaint a rhai 2s. 9c., ac felly gall y prynwi arbed Is. wrth gymeryd y rhai rawvafg v