Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

TAITH 0 ABERDAR I SILVER CLIFF,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TAITH 0 ABERDAR I SILVER CLIFF, AC ODDIYNO I ST. ELMO, COLORADO. Mai 7fed.—Ar y bwrdd yn fcreu iawn heddyw. Y mae yr awel vn oer, ae yn gwlawio ychydig eirlaw yn y boreo, ondyn clirio tua haner dydd, a'r haul a'i belydrau yn ein lloni. Ynys Anticosti yn dyfod i'r golwg ar y tu Gogleddol, ac eira yn gor- ohuddio y cyfan. Yr oedd tywyniad yr haul arno yn hardd anghyffredin. Ynys dywodlyd yw hon yn ngwddf afon St. Law- Sance, yn nghylch 80 milldir o hyd, a 20 milldir o led yny canol. Eihunigbreawylwyr dynol ydyw dan neH dri o deuluoedd ag sydd yn gofalu am y goleudai. Cyn nos yn canfod ar y tu Dehau ddarn mawr o graig yn eyfodi o 15 i 20 Ilath uwchlaw gwyneb y m6r, a tbri o f&n ddarnau yn agos ato, ac yr oedd goleudy ar y mwyaf. Gallasem feddwl ei fod yn ysgwar, ac yn syth i fyny. Yr 8fed.—Yn codi cyn dydd er gweled a oedd hanes am dir yr America. Tua phump o'r gloch y boreu, daeth y pegwn Dwyrain ogleddol o honi i'n golwg, ac yr oedd wedi ei orchuddio gan eira. Y mae y rhan hon o dan lywodraeth Canada. Y mae yn wlad uchel, ond nis gellir ei galw yn fryniog nac ynfynyddig. Y mae llawer iawn o dai coed ar hyd y lan, ac amrai o bentrefi yma a thraw, a rhai daruau o honi yn cael eu llafurio, ond y rhan fwyaf dan goed am ugeiniau o filldiroedd. Y Ffrancod sydd yn preswylio yn y parth hwn, ac yn enill ei bywioliaeth wrth helwriaeth a physgota, yn nghyda thori coed yn yr haf. Aeth dwy agerlong heibio i ni heddyw, un yn perthyn i'r Allan Line, a'r llall i'r Dominion Line. Dywedwyd wrthym fod yr olaf wedi rhewi i fyny y gauaf diweddaf. Cynaliwyd gwasanaeth ar y bwrdd heddyw mewn rhyw ffordd ddirgelaidd iawn, fel n ad oedd ond ychydig yn y cyfarfod Yr oeddwn wedi myned i lawr oddiar y bwrdd er darllen rhanau o'r Ysgrythyr, ac erbyn i mi fyned yn ol, yr oedd y cyfan bron a bod drosodd. Yn y prydnawn yr oedd dysgwyliad am y pilot i'r bwrdd. Tua chwech o'r gloch, wele ef yn croesi atom mewn b&d bychan. Ni welwyd pawb ar y bwrdd o'r blaen gyda'u gilydd er pan y darfu i ni ymadael o L'er. pwl. Rhyfedd y lath gyffro achosedd ei dderbyniad, yr oedd mwy o sylw lawer iawn yn cael ei dalu iddo nag i'r gwr a fu yn tawelu yr ysterm ar for Galilea. Erbyn I bob peth ddyfod i'w Ie, yr oedd yr haul wedi machlud. Heno yw y noswaith olaf i fod yma, oedd testyn siarad rhwng pob dau o'r teithwyr. Awd i oJPphwys mewn gobaith am gyrhaeddyd y lan boreu dra- noeth. Y 9fed.—O J y fath gynwrf oedd yn mhell cyn dydd. Yr oedd y rhan fwyaf wedi codi cyn pedwar o'r glocb, a llawer iawn o honom ar y bwrdd mor foreu a hyny. Y mae tir i'w weled ar bob llaw heddyw. I'r Gogledd, golwg cribog, fyn- yddig, yn cyfodi yn serth i fyny, ond i'r Dehau, y mae y ddaear yn edrych lawer gwell na ddoe—yn oyfodi yn naturiol o Ian yr afon am bellder mawr o ffordd, ac yn edrych yn dir amaethyddol rhagorol. Methais a chael gweled yr oil i fyny i Quebec, gan y gorfu i ni fyned i lawr er gosod ein hunain yn barod i ddyfod allan. Erbyn wyth o'r gloch yr oeddem wedi angori wnh borthladd Pointleoi, ar gyfer Quebec. Ar ol cael boreufwyd, awd allan rhwng naw a deg o'r gloeh. Wedi cael ein baggage i'r orsaf, a'u gosod yn ddyogel, aethom i chwilio am y ferry boat er croesi yr afon i Quebec. Buom yn ffodus i gyfar. fod a boneddwr caredig, yr hwn addangos- odd i ni y parch mwyaf-tu hwnt i'n dys. gwyliad—gan un nad oeddem erioed wedi ei weled o'r blaen. Daeth gyda ni i'r swyddfa, ac wedi hyny aeth a ni i le hollol gysurus er ein lletya cyhyd ag y byddem yn aros yma. Dyma yr adeg y darfu i ni deimlo nerth a gwirioneddolrwydd yr ym. adrodd hwnw- o eiddo Solomon,—" Gwell i'w cymydog yn agos na brawd yn mhell." Y mae y mwyafrif yn arfer credu mai yr hwn sydd yn byw agoaaf atom ydyw ein cymydog, ond yr ydym wedi ein dysgu bellach mai yr hwn sydd yn gwneud cymwynas i ni ydyw ein gwir gymydog. Y mae y boneddwr hwn yn dyfod i roddi tro am danom bob dydd er gweled a ydym yn gysurns. Wel, gan ei bod yn rhy wlyb i fyned allan, nid anmhriodol o bosibl fyddai dweyd gair am afon St Lawrance, yr hon a ffurfia y ffin rhwng Canada a'r Unol Dal- aethiau. Hon ydyw yr afon fwyaf yn Ngogledd America. Y mae o'i chychwyn iad yn rhedeg drwy lynoedd Superior, Huson, Erie, ao Ontario. Ar ei thaith rhwng llyn Erie ac Ontario, y mae cwymp y Niagra, yr hwn a ystyrir y mwyaf a'r rhyfeddaf. Y mae ei boll ddyfroedd yn ymarllwys mewn cwymp unionsyth, yn gant a haner o droedfeddi. Y mae yn rhedeg i'r Gogledd-ddwyrain, heibio i Montreal a Quebec, nes yr ymgolla ei hunaniaeth yn y caincfdr o'r un enw, set Gulph St Lawrance. Y mae yn fordwyol hyd lyn Ontario, ao o'i dechreuad hyd ei arllwysiad y mae dros 2,400 o filldfcoodd o hyd. Y lOfed.—Yr oedd yn fwy anhawdd dyfod o'r gwely heddyw nag arfer, gan fod yr orweddfa lawer mwy dymunol neitbiwr nag oedd y nosweitbiau blaenorol. Wedi bod am un noswaith ar ddeg megys mewn cawell, yr oedd yn hyfryd i gael gwely clud i orphwys arno er bwrw ein lludded. Y mae cawell yn ateb i'r dim i blant, ond nid felly i rai mewn oed. Darfu i David John gysgu fel craig bob nos, heb i ddim ei aflonyddu. Y mae cael diwrnod fel heddyw yn rhodd ragorol—yr haul yn gwresogi nes adfywio ein natur; ac yr oedd yn fanteisiol i fyned allan er gweled y drefi X cyfeiriad gymerwyd genym oedd i fyny i'r barracks, yr hwn sydd ar gopa bryn 'uchel, a chraigserthodditano yr ochr at yr afon, yn 317 o droedfeddi o uchder, o ben yr hwn y Kellir gweled am _ge_ ir g filldiroedd. Buom yn anffodus am arwein- ydd. Ffrancwr oedd, w^cR'dysgu ychydig Seisnig. Yr oedd yn anhawdd iawn ei ddeall. Y mae yma amddiffynfeydd o'r radd flaenaf, a phob math o arfau ryfel wrth law pan y byddai galwad am hyny. Y mae yma 150 o filwyr ac ugain o swydd- ogion. Y mae muriau cedyrn o amgylch y lie, a magnej^u mawrion wedi eu gosod ar olwynion yn y modd mwyaf hawdd i'w gosod mewn gweithrediad, a'u cyfeiriad ar yr afon, a charneddau o fwledau wedi eu pentyru ar eu gilydd o bob maintioli, fel nad oes dim traul arianol wedi bod yn ol mewn un cyfeiriad. (I'w barhau).

DYDDIAU MARI WAEDLYD.

EISTEDDFOD LLWYNYPIA—AT IAGO…

PELL AC AGOS. '

AMRYWION.

AT 44 UN 0 NHW," 0 FERNDALE.

EISTEDDFOD GLYN-NEDD.

CYFARFOD HANER AWR WEDI DAU.

BRYNSEION, TRECYNON.

-------I EISTEDDFOD GYFEILLON.

CYFARFOD Y BOREU. 1^*

CYFARFOD Y PRYDNAWN.

0 NEWYDDIADURON CYMREIG AMERICANAIDD.

PELL AC AGOS. '