Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

A.CHOS E. G. WALL, TREORCI,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A.CHOS E. G. WALL, TREORCI, A CHYFRAITH CYFRIFOLDEB Y MEIS. TRI. Diau ein bod wediclywed y diweddaf am yr achos hwn bellach, gan fod y barnwr, B. T. Williams, Ysw., wedi gwtthod gwrandaw yr achos yr ail waith. Gan fod hwn yr achos cyntaf yn y rhanbarth hon o'r wlad i gael ei ddwyn ger bron y barnwr o dan y gyfraith newydd, a'i fod wedi dal y prawf, ac wedi dwyn barn i fuddugoliaeth drwy goabi y droseddwr a dwyn iawn i'r dyodd. ifydd, nid anmhriodol fyddai ailadrodd yehydig o'r ffeithiau yn nglyn ag ef. Cawn fod y bachgen Wall yn drwao ar drift y obwech yn nglofa Abercoroi. Yr oedd puddol gyda'r gorchwyl o agor a thaoao y dmth hefyd i own an b&r o boints, y rhai a orweddent ryw 30 o latbeni yr ochr isaf i'r drws. Myntumiai ef a'i gyd dystion fod y drws wedi ei sefydlu mewn pant, a bod y rhaff, drwy offerynol- l iaeth yr hon y tynai yr engine ar ben y pwll y trams i fyny drwy y drift, wedi gweithio ei He yn ngwaelod y drws mewn amryw fanau, a phan ddygwyddai i'r rhaff fyned i un o'r agenau hyn, fod braidd yu anmhosibl i neb allu ei agor. Ar y 4ydd o Fai, 1881, tua haner dydd, eawn i'r bach- gen, wedi i'r swrneu drams fyned heibio tuag i waered, gau y drws, a rhedeg i lawr ar eu holau i edryoh y points. Tra fu efe yn gwneud hyny, yr oedd y swrneu lawn wedi cychwyn tuag i fyny. Darfu iddo yntau frysio yn ei flaen, a gwthio y drws yn gul agored, a myned i'r tu arall iddo ond er ei ofid, cafodd fod y rhaff wedi myned i un o'r agenau yn ei waelod. Wedi gwaeddi ar y rider, a gofyn iddo neidio i lawr ac arwyddo am atal y swrneu, neid- iodd yn ei ol mor bell ag y caniat&ai ochr yn llawn o rubbish iddo wneud, oblegyd gwelai fod y swrneu yn parhau i ddyfod tuag i fyny, ond yn mron cyn iddo gael amser i droi, taflodd y rhaff y drws oddiar ei echlau, yr hwn a darawodd y bachgen ar ei ben, nes y syrthiodd yntau i'r llawr, ac o dan y wageni. Yn wyrthiol megys, er fod ei fraich ddehau wedi agos ei thori yn rhydd oddiwrth ei gorff, bachodd a'r Hall am yr hook. oedd rhwng y ddwy ddram flaenaf yn y swrneu, a llusgwyd ef i fyny o dan y drams am tua deugain llath. Dy. wedai ef, ac ereill a. fuont wrth y drws o'i flaen ef, fod y rhaff wedi taflu y drws oddi- ar ei echlau droion cyn hyny, a bod hyny yn hysbys i'r gwxLhanol swyddogiou. Felly, dyma ydoedd dwy ran y charge yn erbyu y swyddogiou, set fod y drws wedi ei hongian mewn lie a dull anmhriodol, a bod hyny yn hysbys i'r swyddogion, gwaith y rhai ydoedd gweled fod y cyfnewidiad angen- rheidiol yn cael ei wneud. Cymerodd dosbarth Undebol glowyr y Rhoudda yr achos i fyny, a rhoudasant i dad y bachgen y cynorthwy arianol angen- rheidiol i'w gychwyn yn gyfreithiol. Caf wyd hefyd gynorthwy sylweddol mewn arian at heimlad gan weithwyr yr Ocean. Rhodd- wyd y mater i ofal Mr Wm. Abraham (Mabon) i'w weithio i fyny, a chyflogwyd Mr W. H. Morgan, cyfreithiwr, Pontypridd, i ddwyn yr achos i'r Uys, a gofalu am dano yno. Treuliwyd cryn amser cyn ei gael yn barod i'r llys, ac wedi ei gael, treuliwyd dau ddiwrnod llawn yn y gwrandawiad o hopo. Modd bynag, enillwyd ef, a dyfarn. odd y barnwr fod 109p. 4s., o iawn yn ddy- ledus i'r bachgen, a'r treuliau i'w talu hefyd. Wedi hyny, gorfu i Mr Simmons, o Ferthyr, cyfreithiwr y cwmni, ofyn am gael ail wrandawiad ar yr achos, ar y plea fod y swyddogion wedi darganfad rhan isaf y drws, ac nad oedd yn ngwaelod hwnw un olion fod y rhaff erioed wedi rhwbio ynddo. Hwn, cofier, ydoedd rhan o'r un drws ag y dywedid ar y treial cyntaf fod y drams wedi fhedeg ar wyllt i lawr i'r drift, ao wedi ei ddryllio yn yfllon; ond er mwyn cael perffaith foddlonrwydd ar y mater, gofynodd y barnwr am gael gweled y darn drws darganfyddedig, a chytunodd vtr Simmons fyned ag ef i Bontypridd. Felly y bu, aethpwyd a darno ddrws, wedi ei osod yn ofalus mewn case. Cariwyd ef ar ysgwyddau pedwar o ddynion-dau lowr o Dreorci—un o borters y station, a bwm. Wedi ei gael i ystafell y barnwr, ni fuwyd yn hir cyn penderfynu pa un ai darn o'r drws gwreiddiol ai ynte darn o ryw ddrws arall ydoedd. Wedi i'r gwylwyr ddangos y twyll, a myned o'r gorymdeith- wyr i'r Ilys, ac i'r barnwr gymery d ei sedd, dywedodd nad oedd y peth humw a ddygasid yno yn cyfateb i ddesgrifiad un o'r ddwy blaid o'r drws a achosodd y ddamwain. Dydd Mawrth, y 4ydd cyfisol, cyhoedd odd ei farn ar yr achos yr ail waith. Gwrthododd dreial newydd, a dyfarnodd fod y cwmni i dalu y costau yn nglyn a'r apel, yn ychwacegol at y costau cyntaf. Y mae yr achos hwn wedi costio llawer o arian, yn ddiau, hyd yn nod i'r enillwyr. Ond gellir yn ddibetrus ddwoyd fod yr enill yn llawer mwy na'r golled. Y mae enill dyogelwch, gofal, yn lie annyogelwch ac esgeulusdra mewn gwaitb, yn fwy nag y gellir gosod gwerth arianol aino. Y mae yr achos hwn hefyd wedi taflu goleuni ar rai manau tywyll yn y gyfraith newydd, ac wedi profi ei bod yn fwy o werth nag y meddyliodd llawer ei bod ar y dechreu.

EISTEDDFOD BETHLEHEM, TRE-ALAW.

AT Y PARCH. B. EVANS, GADLYS.

I EISTEDDFOD SARDIS, WAUNAR…

AT GERDDORION ABERAMAN A'R…

HYN A'R LLALL A'R TRYDYDD.

MARWOLAETH LONGFELLOW.

2 AFON DANDDAEAROL.

[No title]

-,Y WASG.

YR ORYMDAITH.

3. GWENWYNIAD SOCRATES.

Advertising