Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
21 erthygl ar y dudalen hon
"1',,,;. ,-YR WYTHNOS.
"1' YR WYTHNOS. BOREU dydd Sadwrn diweddaf, yn Stockport, torodd tfin allan mewn ty bychan lie y preswyliai amryw bersonau. Yr oedd y tan wedi cydio yn yr adeilad fel nad allai y rhai oeddynt yn y gwely- • au ddyfod i lawr y steiriau. Tafloddun wraig ieuanc ei maban pedwar mis oed tlrwy y ffenestr, yr hwn a dderbymwyd can bersonau oddiallan. Neidioddhithau wedi hyny, a thorodd ei choes wrth ddisgyn. Achubwyd y lleill trwy y ffenastri. Yr oedd yr olygfa yn un ddy- chrynllyd. Y MAB Madame Patti a'i chwmni wedi dychwelyd adref i Graig y Nos wedi ei thaith hirfaith yn America. MAE bachgen 15 oed, o'r enw John Prircher, wedi ei drosglwyddo i sefyll ei brawf gan ynadon Sedgeley, am don ffenestr swyddfa glo-berchenog, ac ysbeilio 20p. mewn arian. Y DYDD o'r blaen cyhuddwyd merch ieuanc o'r enw Alice Mill, 26 oed, yr hon a ddywedai nad oedd ganddi gartref, gan ynadon Clerkenwell o ladrata bach- genyn pedair oed, o'r enw Thomas Bates. Cymerwyd y ferch 1 fyny gan heddgeidwad, o herwydd iddo ei gweled yn cadw y plentyn allan yn hwyr iawn, a daeth y tad ac a'i perchenogodd. Mewn atebiad, dywedodd y garcharores y gallent roddi iddi ugain mlynedd os carent, gan nad oedd yn waeth ganddi pa hyd. DEALLWN fod eiddo gan reil- ffordd y Great Western wedi ei hagor yn Nghwmaman, Aberdar, yr hyn fydd yn gaffaeliad mawr i faanachwyr, ac o ganlyniad, i bawb yn gyffredinol. YR ydym yn cael mewn bryshysbys- iad o Now York;. fod y Hong Novara, o Lundain a Newcastle am San Francisco, wedi ei llwyr ddinystrio gan dan ar y 15fed cynfiaol. Y mae y oadben, a dau swyddog arall, a 17 o ddwylaw, ar goll. Yn Mwrdd Gwarcheidwaid Caerdydd dydd Sadwrn diweddaf, buont yn ym- gynghori yn ddirgel yn nghylch hysbys- lad a wnawd gan ferch ieuanc o barth tad ei phlentyn, yr hon sydd yn aw* yn nhlotdy Caerdydd. Dywed^ hi mw gweinidog anghydffurfiol yn Caerdydd yw y tad. Penderfynodd y gwarcheid- waid roddi y mater i gyfreithiwr. Y MAE yn dda. genym gael ar ddeall, ar dystiolaeth safadwy, fod pob lie i gredu fod gweithiau haiarn Cyfarthfa yn debyg o gael eu hail gychwyn yn fuan nifer o ddynion eisioes wedi eu cy- meryd i mewn. DYDD Mawrth yr wythnos ddiweddaf ail-agorwyd hen Eglwys St. Idloes, yr hon a adeiladwyd yn gynar yn y 6ed ganrif. Y mae yn awr wedi ei hail-ad- eiladu, ac, o gwrs, wedi colli ei dyddor- deb hynanaethol. CAFODD dyn ieuanc o'r enw Watkin Rogers ei ladd yn nglofa y Cymer dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, tra wrth ei waith trwy i gwymp trwm syrthio arno.
LLOFRUDDIAETH A CHYFADDEFIAD…
LLOFRUDDIAETH A CHYFADDEFIAD HYNOD. Un flynedd ar bymtheg yn ol cafodd Ladislaus Gzertyauffy, tirfeddianwr cy- foethog yn Hungary, yn nghyda'i wraig a phump o blant, eu llofruddio tra yn myned tua gorsaf y reilffordd. Yr oedd y boneddwr wedi dweyd wrth ei gerbyd- wr am yru yn gyflym trwy y goedwig oedd ar eu ffordd, am fod ganddo gryn swm o arian, a llawer o son am ysbeil- wyr yn y gymydogaeth ar y pryd. Pan yn nghanol y goedwig, ataliodd y cer- bydwr y ceffylau, a chan dynu o'i logell lawddryll, efe a saethodd ei feistr a'i wraig, ac wedi hyny efe a laddodd bump o'r plant. Yn y cyfamser diangodd un byehan, a methodd y llofrudd a dyfod o hyd iddo. Modd bynag, cafwyd gafael ynddo gan amaethwr cyfagos, yr hwn &'i magodd i fyny iddo ei hun, ac er fod y plentyn yn gallu adrodd yr hanes, cadwodd yr amaethwr yr oil yn ddystaw er cael cadw y plentyn. Aeth y llofrudd yn ol, gan ddweyd fod ysbeilwyr wedi llofruddio yr oil, ac mai efe yn unig a ddiangodd i ddweyd yr hanes, gan dyb- ied yn sicr fod y plentyn a ddiangodd wedi cael ei ladd gan fleiddiaid. Ychydig wythnosau yn ol cymerwyd Hodas, yr amaethwr a fagodd i fyny y plentyn iiangol, yn glaf, ac anfonodd am y bachgen o Pesth, gan ddweyd wrtho y gwir, mai nid efe oedd ei dad, a'i adgoffa hefyd o'r hyn a ddywedodd efe wrthynt pan yn blentyn yn nghylch llofruddiaeth ei dad a'i fam. Er fod y dyn ieuanc wedi tyfu i fyny, ac wedi anghofio yr oil, pan yr adroddwyd iddo yr amgylchiad, daeth yr oil i'w gof. Y inae y cerbydwr yn-awr wedi ei gymeryd i fyny, ac wedi gwneud cyfaddefiad cyflawn o'r oil.
AT LOWYR UNDEBOL CYMDEITHAS…
AT LOWYR UNDEBOL CYM- DEITHAS GLANDWR. Hyn sydd i'ch hysbysu y cynelir cyf- arfod cyffredinol o'r gymdeithas yn y Landore Inn, nos Sadwrn, Ebnll yr 22ain, pan y bydd eich presenoldeb yn angenrheidiol er ymdrin ag achosion pwysig; y cyfarfod i ddee-hreu am bump o'r gloch. Dros y gymdeithas, Y SGRIFENYDD.
Advertising
Yn awr yn y Wasg, ac i'w gyhoeddi mewn toythncs neu ddwy, Hwdl Fuddugol Eisteddfod 11 Abertawe. AWDWR :—DEV>vT WYN 0 ESSYLLT. TBSTYN :—SYR ROWLAND HILL. Pob Archebion i'w hanfon at y Cy- hoeddwyr, MILLfô Å UrNCH, Aberdar. AT LOWYR CWM ABERDAR. Bydded wybyddusy cynelir y oyfar- fod misol nesaf yn y Bute Arms, Aber- dar, dydd Sadwrn nesaf, am 11 o'r gloch y boreu. Y rheswm fod y cyfarfod uobod ddydd Sadwrn yw am fod cyfarfod cyff- redinol yn cael ei gynal ddydd Linn yn y Bute Arms.-YSG.
- Y WLADYCHFA BATAGONAIDD.
Y WLADYCHFA BATAGONAIDD. Fe wyr ein darllenwy* lod y Parchn. M. D. Jones, Bala, a D. Bees, Capel Mawr, wedi myned tua Buenos Ayres er dechreu y flwyddyn, a hyny mewn cydymffurfiad a gwahoddiad oddiwrth y Llywodraeth Argentaidd, or ystyried pethau mewn cysylltiad ag ymfudiaeth i Batagonia. Y mae newyddiaduron Buenos Ayres yn rheddi hanes yr ym- gynghoriad a'r Cadfridog Roca, Arlyw- ydd y Weriniaeth. Dywedodd yr Ar- lywydd fod y Cymry wedi troi allan mor rhagorol, fel yr oedd efe yn awyddms i ffurfio ail dalaeth Gymreig ar y Rio Negro, afon 200 yn ogleddol i'r Chubut, afon o hyd mawr, ac ar ei glanau ddy- ffryn ffrwythlon—-dyffryn y Manquer, yn ddigon cynyrehiol i roddi bywioliaeth i bum gwaith niier trigolion ptesenol Cymru. Rhoddwyd agerlong at waaan- aeth y ddau Gymro, a chynwynodd yr Arlywydd iddynt gopi o waith y Cad- fridog Olascoaga ar gonewait ialaelh y Rio Negro. Penderfynodd y Gweinid- ogion i anfoa goruohwyliwr perthynol i'r llywodraeth i'r Chubut, or rhoddi au tiroedd i'r rhai byny e'r gwladlawy* nad oeddynt wedi eu oael. Amogwyd y Myw- odraeth hefyd i anion person oyfarwydd a'r wlad iBioHegro gyda y ddtxa Gymro, ac iddynt hwythau ar eu dychweliad i wneud eu cynygion i'r llywodraeth. Bydd i diroedd gael eu rhoddi am diim i sefydlwyr ar y Negre, a AS y pan tuag at y daith os gellir cael 10,000 o ymfud- wyr amaethyddol mown amser penodol.
CYFLOGAU SBGUBWYB.
CYFLOGAU SBGUBWYB. Mae taflu golwg ar helyntion a threfn- iadau arianol y trethoedd a delir genym yn ddigon i beri i bob dyn sydd yn meddu yr un gradd o deimlad eyniliol i y synu a brawyohu. Collodd yr Arlywydd oedd ar yr Unol Daleithiai. ei fywyd yn ngwasanaeth ei wlad, a rhoddodd sen- eddwyr y Taleithiau eu cydsymad ar fod i'w weddw — Mrs Garfield gael mil o bunau y flwyddyn dros ei hoes; ond gyda ni, yn y wlad hon, nid oedd genym ond rhyw gymaint ag un a deu- gain o'n seneddwyr dros gynildeb, a barnai y lleill oil i roddi 25,000 o bunau y flwyddyn i lane ieuano na wnaeth hyd yn hyn yr un gwasanaeth i'w wlad, ac nad oes genym yrsun gobaith y gwna byth ychwaith, a phan y byddo farw, os bydd yr hon a fwriada gymeryd yn gydwedd bywyd yn fyw ar ei ol, yr ydym i roddi iddi 6,000 o -bunau y flwyddyn. Rhoddwn yma restr o flwydd-daliadau y mae Shon Ben Tarw yn roddi i ferched nad ydym yn gwybod am beth, ac nas gwyr yntau chwaith:- A Y Dywysoges Frenbinol 3,000 Tywysoges Cymru 10,000 Y Dywysoges Helena 6,000 Y Dywysoges Louise. 6,000 Y Dywysoges Mary 5,000 Y Dywysoges Augusta 3,000 Duges Caergrawnt 8,000 Lady Rodney 1,000 Lady Raglan 1,000 Lady Nelson •« ••• 1,000 Sarah Hamilton. 625 Cyfanswm 39,625
MASNACH LO Y DEHEUDIR A CHYFLENWAD…
MASNACH LO Y DEHEUDIR A CHYFLENWAD LLAFUR. LLITH I. Y mae bellach tuhwnt i amheuaeth mai masnach lo y Deheudir yw y prif, a masnach arweiniol y rhanbarth. Mae y fasnach hon yma yn wahanol ei hag- weddau a'i thelerau i faes lofeydd ereill y Deyrnas Gyfunol. Nid yw ei sefyllfa unigol yn mhell oddiwrth ganolbarthau lle y cyflogir lluaws pobloedd mewn gor- uchwyliaethau ereill sydd yn feddianol ar atdyniadau yn gorbwyso yr eiddo ei hun, heb gael eflaith neillduol arni. I ledaeniad y fasnach y mae hyn yn fan- teisiol, ond i enillion presenol y gweith- wyr nid yw yn ffafriol, am nad oes effeithiau digonol i atdynu y boblogaeth lofaol i ddilyn galwedigaethau ereill. Mewn canolbarthau llafuriol ereill, nid yw y fasnach lo ond un o amryw fas- nachoedd, llwyddiant y rhai a adle- wyrchant yn ei llwyddiant hi, ac ar y rhai yr ymddibyna hithau am ei llwydd- iant ei hunan; canys nid yn unig y mae y rhai hyny yn achosi galwad am lo, ac felly yn cynyddu gwaith i'r glowyr, ond byddant ar brydiau yn cynyg manteision neillduol i weithwyr a fyddont yn ddigon cryf i atdynu iddynt eu hunain luaws o lowyr, ac felly yn effeithio i gwtogi cyflenwad llafurwyr glofaol, ac achosi codiad yn ngwerth eu llafur. Felly, y mae absenoldeb yr agweddau cyffredin hyn yma yn achos o roddi i'r fasnach raddau o sefydlog- C) rwydd na cheir mewn rhanbarthau cy- foethog o alwedigaethau gwahanol; tra y mae agosrwydd y glofaes i ranau tirol Myrddin, Penfro, a'r Teifi-o'r eyfeiriad y daw adnoddau eynyrchiol bron di- nysbydd—yn bygwth cyfrann i'r fasnach wrthneidiolrwydd (elasticity) cyflenwad anghydmarol mewn unrhyw lofaes arall o'r un maintioli. Nifer y personau a gyflogir yn nghy- nyrchiant glo yn y rhanbarth (yn anni- bynol ar Fynwy) mewn ffigyrau penodol ydynt 60,000, a chyfanswm poblogaeth y pedair sir o fewn y rhai y mae y glo- feydd ydynt 800,000. Ond y mae yn wybyddus fod toraeth y gwaith yn cael ei gyflawni mewn un sir-Morganwg- i'r hon y mae poblogaeth o 511,700, ac o hyny boblogaeth lofaol o 47,200, fel y gwelir fod un o bob un-ar-ddeg o'r holl boblogaeth—gwyr, gwragedd, a phlant -yn lowyr mewn rhyw gysylltiad. Y mae yn amlwg felly nad yw masnach lo y Deheudir mwyaoh yn ailraddol, ond yn arweiniel i'r holl ranbarth, ao y mae yn sicr nad oes yr un air arall yn yr holl wlad yn dibynu cymaint ar ei masnach lo. Felly, y mae o'r pwys mwyaf i'r trigolion beth fydd sefyllfa y fasnach hon, a pha effaith a ga nifen cynyddol "Y bechgyn bochgoch" ar gynydd ei chyflenwad cynyrchiol. 0 hyn allan, yn ol owrs naturiol pethau, fe gynydda y fasnach hon yn ei phwysigrwydd yn flynyddol. Yn wir, nid yw y cwestiwn o gyflenwad y llafurwyr tanddaearol heb fod iddo bwys eenedlaethol, pan ystyrir ef mewn oyswllt a'r ffaith ei fod yn cael ei gredu yn o gyfEredinol heddyw, fod glofaes y Deheudir yn cynwys un rhan o dair o holl lo y Deyrnas Gyfunol. Mor belled, aid yw y eynyrch wedi bod ond cyfran fechan iawn o'i gydmaru a'r hyn ellir ddysgwyl iddo fod yn nghwrs yr ugain mlynedd nesaf, os gellir cael nifer digonol o ddwylaw i gyflenwi angen- rheidiau y galluoedd enfawr sydd yn debyg o gael eu gosod ar waith yn yr adeg hono. Os edrychwn ar hanes y ddwy flynedd ddiweddaf yn unig, nid oes un anhawsder i hyny yn ymddangos, oblegyd fe gynyddodd cynyrchiant y rhanbarth hwn, yn mhob un o'r ddwy flynedd ddiweddaf, fwy nag a wnaeth yn ystod y deuddeg mlynedd cyn hyny, ac eto yr oedd y gallu cyflenwawl yn fwy o gryn dipyn na'r galwad. Fe gyfrifir hefyd pe byddai y cynyrch blynyddol presenol yn cael ei ddyblu, fod yma, er hyny, ddigon o lo i barhau am fil o flynyddoedd. Felly, y mae swm y cy- nyrchiant, yn gystal a'r tal am gynyrchu, yn sicr o ddibynu ar gyfartaliad nifer y llafurwyr glofaol a'r galwad am lo, oddi- gerth fod gan swm y gwaith a gynyrchir ar wahanol adegau, rywbeth i'w wneud ag ef heiyd. Nid yw heb fod yn fater o gryn syn- dod fod cyflenwad llafurwyr tanddaearol yn parhau mor ddidor mewn rhanbarth lie y mae yr alwedigaeth yn cael ei hamgylchynu a. chynifer o beryglon. Gellid dysgwyl y buasai tanchwaoedd dinystriol y blynyddau diweddaf yn atalfa effeithiol ar y cyflenwad hwn, ond mor belled ag y mae ein profiad yn ein dysgu, ni wnaed dim o'r fath beth. Ar y cyfan, nid oes rhanbarth arall lie y mae y cyflenwad hwn cystal, nac un, fel y mae sefyllfa pethau yn bresenol, yn dangos arwyddion amlycach o barhad yn yr un cyfeiriad, gydag un eithriad, sef y bechgyn dan un-ar-bymtheg oed. Yn wir, daeth y glofaes hwn i derfyn y dirwasgiad diweddaf gyda'r un nifer o ddwylaw yr oedd yn gyflogi yn yr adeg fwyaf lewyrchus arno yn 1873, er iddo o 1874 i 1878 golli chwe' mil a haner o bobl, ond erbyn diwedd y flwyddyn 1880 yr oedd pum' mil a haner o honynt wedi eu hadgyflenwi. Ex i'r gwir drigolion, gan dlodi, luaws o honynt, ac ereill gan gernodion gormesol llywodraethwyr di- gydwybod, a fedrent ddefnyddio tlodi yr amserau i ddybenion maleisus, i ymad- aw a'r glofeydd, ac a'r wlad, eto, llan- wyd eu lleoedd ag estroniaid, y rhai oeddent wedi arfer byw ar foddion cyn- aliaeth annigonol ac anghymwys i fywyd glofaol. Felly, gan fod yn bresenol i allanolion fynedfa mor ddirwystr i'n glofeydd, ym- drechwn unwaith eto i argylioeddi gwir drigolion y tanddaearolion leocod, fod sefyllfa y dyfodol diatreg agos parthed gwerth llafur yn dibynu ar y cyflenwad o ddwylaw newyddion, a bod dysgu neu beidio a dysgu y rhai hyny—gosod gwerth neu ddiwerth arnYllt-yn dibynu arnynt eu hunain, ac felly, fod gallu yn eu dwylaw, er drwg neu er da, mwy nag a fedd yr holl wlad y tuallan iddynt. Wrth y newydd-ddyfodiaid eu hunain carem ddweyd, "Boddlonwch bellach ar yr hyn ydych. Os ydych am wneud rhyw ychydig o ddaioni i chwi eich hunain, ac i bawb o'ch amgylch, tyng- edweh am ilwyddyn, o leiaf, na fydd i fab gwraig o honoch ddychwelyd i ym- ofyn un berthynas o'r nawfed ach, bydded o'r lie y byddo—drwy y berth neu allan o honi." I
CODIAD CYFLOGAU GLOWYR YR…
CODIAD CYFLOGAU GLOWYR YR OCEAN A FERNDALE. Mae yn dda genym ddeall fod y cyf- rifolygwyr fa yn archwilio llyfrau y cwmniaa uchod am y tri mis yn di- weddu Mawrth, wedi dyfod i'r pender- fyniad fod codiad o 5 y cant yn ddyledus i weithwyr yr Ocean a Ferndale, a'u bod yn awr yn gweithio ar y cyfryw godiad.
CYNLLWYN AT FRADLOFRUDDIO…
CYNLLWYN AT FRADLOFRUDDIO Y CZAR. Dywed rhai newyddiaduron fod 80 o bersonau a weithient ar Brif Eglwys Uspanski wedi eu cymeryd i fyny dydd Sadwrn y Groglith, mewn canlyniad i ddarganfyddiad geuffoa o dan yr adeilad, yr hwn adeilad oedd wedi ei benodi fel lie coroniad y Czar. Ni chynaliwyd yr un gwasanaeth yno yn ystod adeg y Pasg.
AT LOWYB MYNWY A DEHEUDIR…
AT LOWYB MYNWY A DEHEUDIR CYMRU. ACHOS Y BACHGBN WALL A CHYPBAITH CYPBIPOLDBB Y MEISTBI. Gan fod yr amgylchiadau o dan y rhai y collodd y bachgen hwn ei fraich tra yn gweithio yn Abergorci, Cwm Rhon- dda, a'r modd y dyfarnodd y Barnwr B. T. Williams, Ysw., y swm o 109p 4s iddo, ac y gwrthododd hefyd ailwran- dawiad o'r un achos, eisioes yn hysbys i ddarllenwyr y DABIAW, nid oes angen am ailadroddiad o honynt. Ein hamcan yn ysgrifenn hyn o linell&U ydyw galw eich sylw at y ffaith fod y owmni, AIWJ Mr Simons, y eyfreithiwr, wedi apelio at Mr Justice Hey, The Judge in Cham- bers, am estyniad amser yr apel am dreial arall ar yr achos yn un o lysoedd uchaf y deyrnas. Cawn ei fod wedi cael caniatad o ddeng niwrnod i wneud ei apel. Nid yw hyn, cofier, yn sicrhau y ca dreial newydd, ac nil oes sicrwydd na cha un ychwaith. Ond y mae yn sicrhau i ni fod yr erlyniad eithafol hwn o'r mater yn golygu ac yn amcanu gwasgu allan o weithwyr bob gronyn o deimlad ac awydd i amddiffyn ein hawl- iau (sef a estynir i ni gan y gyfraith newydd), drwy ein gorlwytho & threul- iau; & baich y rhai y gobeithir ein gwasgu i'r llawr, fel na feiddia neb godi ei ben yn ol hyn. Pe byddai yr ym- ddygiad hwn yn ganlyniad rhyw weith- red orphwyllog o'n heiddp, ac wedi dwyn rhyw gwmni i brawf disail, ni theimlem gymaint yn ei herwydd. Ond y mae hanes y prawf hwn wedi amlygu i'r byd esgeuluaded anferth o amadiffyniad priodol i aelodau a bywydau dynol cyn iddo allu cymeryd lie, ac o barch i wir- ionedd yn ei achoswyr, fel nas gall amcan arall fod yma, ond amddiffyn arbedrwydd cybyddlyd, difaterwch, ac esgeulusdod, lie y ceir perchenogion mor ddibrofiad ac ynfyd a chaniatau i'r cyfryw bolicy llywodraethol camsyniol gymeryd lie ar eu heiddo! Felly, gan y cynelir cyfarfod o gy- nrychiolwyr cyffredinol yn Aberdar ar y 24ain cyfisol, cymeraf yr hyfdra i gy- hoeddi y bydd amddiffyniad yr achos hwn yn cael sylw neillduol, pryd yr amcenir gofyn am eich cydymdeimlad a'ch cynorthwy i ddilyn y mater i'r man pellaf y gall trefniadau cyfreithiol y wlad ganiatau iddo fyned; ac os bydd i'r ymdriniaeth ag ef ailenyn yr erlyn- iaeth, a'r erlyniaeth hir-ofnedig parthed i'r gyfraith hon, boed y canlyniadau ar ben neu benau terfysgwr neu derfysg- wyr ein heddweh. Ydwyf, yr eiddoch, W. ABRAHAM (Mabon). Prentre, Ystrad, Ebrill y 15fed, 1882.
AT LOWYR Y GLO CAREG.
AT LOWYR Y GLO CAREG. GVFEILLION,-Bydded hysbys i chwi y cynelir ein cyfarfod misol dydd Sad- wrn nesaf, yr 22ain cyfisol, yn herwydd fod aingylchiadau yn lluddias i Mr Abraham fod yn bresenol ar y 29ain. Cynelir y cyfarfod yn y lie ac ar yr awr arferol yn Mrynaman. Deuwch iddo mor gryno ag y gallwch. Bydd yn ofynol i ni i anfon rhyw un i'n cynrych- ioli i Aberdar y dydd Llun canlynol. E. REES, Ysg.
EISTEDDFOD DDIWEDDAF MERTHYR.
EISTEDDFOD DDIWEDDAF MERTHYR. Nid ydym wedi cael y diwedd ar asgwrn cynen pwyllgor eisteddfod ddi- n weddaf Merthyr. Y mae yr ychydig elw a wnawd heb ei roddi at unrhyw achos, ac nid yw yn debyg y rhoddir ef yn fuan. Onid yw yn drueni fod arian fel hyn yn cael eu cadw yn segur pan y gellid gwneud defnydd o honynt. Gwell irpwyllgorailystyriedymater a'u rhanu l'liwng ychydig a fu yn ffyddlon mewn cysylltiad a dwyn yr eisteddfod yn mlaen. Ni clieir un gwrthwynebiad i hyny, a dyna ddiwedd ar yr helynt. Y mae mwy o dwyll ac hymbygiaebh wedi ei ddwyn yn mlaen y blynyddoedd di- weddaf mewn cysylltiad a'r eisteddfod yn Neheudir Cymru na dim ar a wyddom am dano, egwyddor llywodraethol pa un oedd II CAn di benill bach i'th nain, fe gan dy nain i tithau." Byddwn yn fuan yn eyhoeddi erthyglau ar y twyll eisteddfodol sydd wedi ei ddwyn yn mlaen.
TREDEGAR.
TREDEGAR. Y PASC.—Nos Wener y Groglith perfformiwyd yr opera "Blodwen," yn y Neuadd Ddirwestol, mewn character, gan amryw o brif gantorion Aberdar a'r Rhondda, Cawsant gefnogaeth ar- dderchog.-Dydd Llun aeth lluaws gyda'r trSn tua Chasnewydd i weled arddangosfa y gwirfoddolwyr; ereill tuag Abergafsnni, i weled rhyw grand fete yno.—Yn yr hwyr cynaliwyd cy- ngherdd yn y Neuadd Ddirweetol, er budd person cystuddiedig. Y TAPABN COFPI N«WTDD.—Dydd Iau DIWEDDAF agorwyd y tafarn coffi hwn gyda chryn rwysg.
PELmfI I'B PRUDDGLWYFUS.
PELmfI I'B PRUDDGLWYFUS. Yr wyi yn cashau olywed dyn yn siarad yn nghefn dyn," dywedai pick- siarad yn nghefn dyn," dywedai pick- pocket, pan yr oedd yr heddgeidwad yn gwaeddi, 11 Daliwch y llaidr." Dywedodd dyn y dydd o'r blaen ei fod mor hoff o'i gariad, fel yr oedd wedi rhwbio y croen oddiar ei drwyn wrth gusanu ei chysgod ar y wal. Nis gellir bod yn rhy ofalns o'r iechyd y dyddiau hyn. Darfu i ddyn ifanc, smart, y dyda o'r blaen, aewiaffon fach ysgafn am un llawer trymach, ac mewn canlyniad, cafodd anwyd, a bn'n wael yn y gwely am wythnoe. John/ meddea an oedd yn arfe^bod dipynjyn gellweirus, 1 beth ydi y rheswm na fase ti yn tori dipyn ar dy glustiau, maent yn ormod o lawei i fod yn glustiau i DDYN?* 'P'am na wnaet tithau,' meddai John yn ol, estyn dipyn ar dy glustiau, maent yn llaw8r rky fach i fod yn glustiau i asyn ?' Dywfdir fod un grocer yn yr hwn sydd mor gybyddlyd ofalus, fel y darfu iddo y dydd o'r blaen ddal chwanen ar y cownter, cydiodd ynddi gan ei dal gerfydd ei choesau ol, ac a edrychodd i graciau ei choesau i weled a pedd hi wedi lladrata siwgr.
GWEITHRED GWERTH EI CHOF.…
GWEITHRED GWERTH EI CHOF. NODI. Fel yr oedd myfyriwrperthynol i'r Bed- or d yddwyr, o Athrofa ftwlflordd, ar ei daith bregethWrol yn Llwydcoed y lOfed cyfisol, hysbysodd fod angen tipyn o aur arne i dalu am ei addysg athrofaol. Ymwelodd a. theniu "boneddig ao haelfrydig Ysgtibor- wen, a da genym hysbysu i Mrs. Thomas zoddi iddo i>10 er mwyn iddo gael addysg cymhwys i'r weinidogaeth. Dyna esiampl i'n boneddigion, ouite ?—ABNEB.
ABERDAR-FESTRI.
ABERDAR-FESTRI. Oddiwrth hysbysleni sydd ar hydmuriau ein tref, fe welir fod yr Eglwyswyr yn galw Festri ddydd Iau, yn yr Hen Eglwys; y cyfarfod i ddechreu am 11 o'r gloch, er cy- meryd i ystyriaeth sefyllfa mynwent yr Eglwys hono, ac i ystyried y moddion goreu o gael trysorfa er rhoddi mur y fynwent mewn repair. Credwn y dylai fod Ymneill- duwyr y dref d'u Uygaid yn agored rhag i ddim gael ei wneud yn y Festri hon a fyddo yn groes i egwyddorion rhyddid a chyftawnderplwyfolion Ymneillduol. Bydd- ed i luaws o'n blarnoriaid Ymneillduol ac ereill fod yno er gweled na roddir ar ein gwarau ddim ag a fyddo yn groes i'n teim- ladau.
--EISTEDDFOD UNDEEOL MOUNTAIN…
EISTEDDFOD UNDEEOL MOUNTAIN ASH, MAI IAF. AT Y CYSTADLEUWYB. Mewn atebiad i amryw o ofyuiadau, dy. munem hysbysu na fydd yrun gwrthwyneb. iad i ganu y Glee I The Mighty Conqueror," yn ol y Sol-fa Edition o dewisant. Yr eiddoch,— D. E. COLEMAN, ) VA_, T. SAMUEL, ) XSGD'
MOUNTAIN ASH.
MOUNTAIN ASH. Y mae cyfanswm mawr o hadau gerddi &c., a'r rhai hyny o r mathau goreu a mwyaf newydd wedi eu derbyn gan G. H. White, Chemist, &c., Mountain Ash. Gellir cael llyfryn, yn cynwys rhestr o'r hadau, &c., am ddim, ona galw am dano.
90PALED PAWB AM HYN, *
90PALED PAWB AM HYN, Gan fod amrywiol o ddarpariadau o Quinine i'w cael, megys Tincture 01 Quinine, Quinine Wine, Quinine Mix-1, ture, &c., y mae rhai ymofynwyr am Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans yn cael eu twyllo a'r pethafi hyn yn y modd mwyaf dideimlad a digywilydd Wrth geisio hwn gan yr Apothecari, nid digon yw gofyn fel hyn, "Potelaid 0 Bitters," "Potelaid o Quinine Bitters," 'C nac ychwaith "Y Quinine yna," ond gofaler gofyn am "Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans," ac os na fydd yr enw Gwilym Evans, F.C.S.,M.P.S., wedi ei ysgrifenu ar Stamp y Llywodraeth ag bob potel, twyll a ffugiad ydynt. PriB y Potelau yw 2s. 9c. i 4s. 6c.; mewn blychau, 12s. 6c. yr un. Cynwysa Pofceli 4s. 6c. ddau cymaint a rhai 2s. 9c., ac felly gall y prynwf° arbed Is. wrth gymeryd y rhai mwvsfa-
Advertising
MAJI: Miss Bronwen Thomas Yn agored i dderbyn Engagements fel Con- tralto mewn cyngerddau, &c. Cyfeiriad,-Porth, Rliondda Valley. Beth'ehem, Abercwmboye. BYDDED hysbys y cynelir Eisteddfod yn y capel uchod dydd Llun, Mai 15fed, 1882. Beirniad y farddoniaeth a'r adrodd iadau, Mr Thomas Davies, 40, John-street, Abercwmboye. Beirniad y canu, Mr Thos. James (Iago Cynon). I'r cur heb fod dau 25 mewn nifer a gano yn oreu "Y Gwanwyn,' gan Muller, gwobr £1 5s. a 5s i'r arweinydd. Am y pedwar penill goreu i Dr. Leigh fel meddyg, gwobr 5s. Y cytansoddiadau i fod yn Haw y beirniad Mai 8fed. Ar werth yn Swyddfa'r DABIAN, Gruffydd Llwyd,' I Ogofy Daran GQ,h, a Merch y Bugail,' pris Is. Gan Adolphus. Quinline Blitters GWILYM EVANS. Y HAS hwn yn gymysg celfyddydgaf a ffodus dros ben. Cynwysa Quinn Q Sarsaprilla, Sr.ffron, Lauender, Dander lion. Gentian, a Burdock, set yr oil o'i darpariadau a nodasom, yn y fath 61- modedd fel ag i sicrhau eydweithred" llwyddianns ar yr oil o elfenau gweitb- gar y cyffeiriau, er cyrhaedd a dyoge&B y dybenion daionua mewn golwg wrth ei gyfansoddi. Cyfaddefir gan brif fedd* ygon y dydd fod Quinine Bitters Ml. Gwilym Evans y cydgymysgiad mwyal hapns ag sydd hyd yma worn ei wnead o'r cyffeiriau uchod.
BU QWHrTHRBDIAD.
BU QWHrTHRBDIAD. ? maent yn cynorthwyo traml yr ynl berth, yn gwellhan a hwylusu y cylcb] rediad, yn cryfhau y giau a'r cyhyrau, ae yn puro a ffrwythloni y gwaed. X mae y cymysglyn hwn yn gryflboir cyfl- redinol, ao yn lanhaydd effeithiol. Nertha y rhanau eiddil yn y cyfanaodd- iad, ac o herwydd hyny y rhai mwyal agored i anwydon a'u canlyniadau. Y maent yn adnerthu ac yn adfywiochaa^ cyfansoddiad a'r tymherau, ac ar gyfrif hyny y maent wedi enill iddynt eu htm- am y gymeradwyaeth uchelaf ar gyf ex pob math o wendidau, a sefyllfa lael, nychlyd, a marwaidd y corff. Pan yn galw sylw at y tystiolaethaa eanlynol, dymnnem adgofio y darllenydil eti bod oil yn dyfod oddiwrth bersonau oyfril81 yn ngwahanol gylchoedd cym. deitJiaB, yn dyfod trwy ffaryllwyi (iheuttsts), adnabyddus y rhan amlaf 0 honynt, e bob rhan o'r wlad, yn oynwyfl cyfeiriadau ao enwau y personau a is preswylfod, ac yn tystioiaethu y gellix yn hawdd brofi eu teilyu^dod drwy anion at y personau eu hunain. Nit gellir dweyd fel hyn am lawer o dyat-3* tiolaetbau ereill. Nid oes nemawr I ddiwmod yn myned heibio heb fod per- ehenog y Bitters hyn yn derbyn cymer- adwyaethau i'w heffeithiolrwydd. Roee Cottage, Aberdar, Tachwedd lOfed, 1800. GABBDM 8TB,—Yr wyf yn awr wedi eaei eyflen i wneud prawf teg a gonest o'r Qni* nine Bitters cyfansoddedig genych chwi, «• yr wyf yn galln tystio oddiar brofiad peir sonol a thystiolaethau amryw bersonau i be rai yr wyf wedi cymeradwyo y Bitten, eo bod yn meddn yr elfenau, y nodweddau* a't rhinweddan a hawlieoh iddynt. Yo j flwyddyn 1876, cefais gystudd trwm am wyth mis, so y mae rhai o effeithiau y oys- tadd hwnw wedi aros gyda mi hyd heddyw. Bu yn achos o ddychryn i mi ddyfod oll llofft ar hyd y grisiau i'r llawr rhag cwympo. Bn y eof, y cylla, a'r aelodau yn peialo gwneud en gwaith; ond mae y Bitters wedi gwneud llawer iawn er symud hyn oil. Mae y cof yn llawer gwell, mae yr aelodau yo iach a chryflon, tra mae y Bitters yn oreo awydd am fwyd, ac yn help mawr i dzeolio yr hyn a dderbynir i'r cylla. Bu amser pan ag oedd dal yr ysgrifbin yn faich i mi, and yn awr gallaf ysgrifenu yn ddigryn fel yn y dyddiau grnt, fel y gwelwoh wrth y llyvhya hwn. Nid oes genyf yn awr ond dymuno o galon llwyddiant i chwi i wasanaethn eich gwlad a'ch cenedl am flynyddau lawer ad'od. Yr eiddooh, garedig Syr, yn wir serehog THOMAS PRIcE, Baptist Minister. Llwynpia, Hydref 21, 1880. AKWTL SYR,—Wedi clywed llawer am eich Quinine Bitters, penderfynais roddi prawt arnynt. Bum am rai misoedd yn cael fy mhoeni gan anhwylder cyffredinol, diffyg chwaetb at ddim, iselder ysbryd, ac ar brydiau poen angerddol rhwng fy ysgwydd- au, yn oodi, yn ddiau, oddiar anechyd y Liver. Ond da genyf eich hysbysu fy mod wedi eaelllwyr iachad; teimlaf yn awr mor iach fy ngorff a bywiog fy ysbryd ag y teimlais nemawr erioed, wedi derbyn o honwyf y budd hwn trwy gymeryd elbb darpariaeth fyd-enwog. Mae dyledswydd yn fy ngorfodi i anfon y llinellau hyn, gan eich gosod at eich rhyddid i wneuthur y t defnydd o fynoch o honynt. Dymunafichwi bob llwydd i wasanaethu eich cenedl. Yr eiddoch yn gywir, J. R. JONES, Baptist MinieW, Mynydd Cynffig, SYR,-Bnm yn dyoddef llawer oddiwrth ddolur yn fy mhen, iselder ysbryd, diffyg. archwaeth at fwyd. ac ar ol ei fwyta, bJin. der mawr. Prynais botelaid 4s. 6c. oddi. wrth Mr. Richard Jenkins, Kenffig Hill, act ar ol i mi ei chymeryd, teimlais fy hun wedi fy adferu i'm iechyd arferol, ac yn ailno^j i ddilyn fy ngalwedigaeth. Yr ydwyf wedi eu cymeradwyo i eraill, a" thysfciolaeth y. rhai hyny yw eu bod wedi derbyn leg anrhaethol trwyddynt, a byddaf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf eu cadw bob amser fel trysor penaf y teulu. JOHN LLWYD (loan Cynfllo