Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
o newyddiadueon cymreig AMERICAN…
o newyddiadueon cymreig AMERICAN AIDD. MARWOLAETHAU. Mawrth 18, 1882, yn Bevier, Mahony, William X. Jones, genedigol o Clwydfag. wjt, ger Merthyr Tydfil, Deheudir Cymru. Mab-ydoedd iJohn Jones (Shon Tai Cypla). Gfcda<wodd 'Wra.ig a dau o blant, a llu o berthynasan a chyfeillion i alaru eu colled fel dyn tawel, diwyd, a gonest. Yr oeddyn fiyoddef er!s amser maith gan glefyd neu daohir pur beryglus; ond y typhoid malarta 6edd y cyfrwng a'i dygodd i ffordd yrJioil ddaear. Cafodd eithaf y meddygon goreu in y cylchoedd, a chafodd gladdedigaeth bachus iawn. Mawrth 9fed, 1882, yn Portage City, WM. oonsin, Mrs Sarah Evans, yn 56 mlwydd oed. Merch ydoedd i David R. a Sarah Jones. Ganwyd hi yn mhlwyf Llandysil, Aberteifi, Deheudir Cymru. Claddodd ei mam yn y Ue a enwyd, a daeth y tad a phump o blant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1842. a sefydlasant yn Harnson, Swydd Licking, Ohio, a bu Sarah yn gwemi yn Newark am ddwy flynedd, hyd nes i r teulu symud i Wisconsin yn 1844 Yn 1848 priododd â. Mr Edward R Evans, a gwnaeth ant Watertown yn lie eu preswyl- fod hyd ddydd marwolaeth Mr Evans yn Hydref diweddaf, a Mrs Evans ar y 9fed cyfisol. Y mae yn gadael chwech o blant mewn sefyllla gysurus-yr leuangaf yn 21 mlwydd oed. Dau frawd yn y wlad hon, a dwy chwaer yn yr Hen Wlad. Magwyd Mrs Evana yn yr eglwys, a bu yn aelod ffyddlon drwy ei hoes. Dynes deimladwy, aerchog, a chroesawus ydoedd, am ba achos enillodd lawer iawn o gyfeilliou mynwesol. Mawrth 21ain, 1882, yn ardal Bevier, Mahony, Moses Evans. Ei afiechyd oedd yi darfodedigaeth, oddiwrth yr hwn y bu yn dyoddef yn dawel ac amyneddgar am fisoedd lawer. Ganwyd gwrthddrych y sylwadau hyn yn Aberdar, Morganwg, Deheudir Cymru, Awst lOfed, 1852. Enwau ei rieni oeddynt Samuel ac Ann Evans, y rhai sydd yn aelodau o'r eglwys Gynulleid- faol Gymreig yn Bevier, Mahony. Cladd. wyd ei ran farwol y dydd Mercher canlynol yn mynwent Bevier, pryd y gwemyddwyd, yn apsenoldeb yr ysgrifenydd, gan y Parch Dr Parry. Gadawodd rieni a brodyr i alaru ar ei ol.. Yr Arglwydd fyddo yn nodded iddynt. Mawrth 16eg, 1882, yn 28 mlwydd oed, Edward itadcliff, ieuengaf, Conshohocken, Pennsylvania, ar ol cystudd o ddwy wyth- nos. Ganwyd ef yn Newton Nottage, ger Pontfaen, sir Forganwg Mab vdoedd i William a'r diweadar Mary Radcliff, o Newton. Daeth i'r wlad hon yn Awst, 1879, gan ymsefydlu yn Conshohocken, lie y bu yn cartrefu hyd ei farwolaeth, gyda r eithriad o'r ychydig fisoedd y bu yn aros yn Catasaaqua. Yr oedd yn un a geria gan bawb o'i gydnabod, a theimlir bwlch ar ei ol yn ei deulu a'r ardal yn gyffredinol. Claddwyd ef dydd Sul y 19eg gan gynull- tsidia luosog a pharchus, pryd y gwemydd- wyd gan y Parch Thomas Evans, gweinidog eglwys Fedyddiedig Balligomango. Clud- wyd ei weddillion i'w orphwysfan yn mynwent y Bedyddwyr, Cold Point.
. -.,.. ADOLYGIAD Y WASG.
ADOLYGIAD Y WASG. "Hanee Lloegr a Chymru o'r Goresgyniad Rhufeinig i'r Goresgyniad Normanaidd, gyda nodiadau a thafleni o ffynonellau gwreiddiol," gan T. Morgan Owen, M.A. Argraffedig gan J. Morris, Rhyl. Cynwysa y gyfrol fechan dan y penawd uchod 192 tudalen o hanes Lloegr a Chymru rhwngy flwyddyn 55 cyn Crist, a'r flwyddyn 1066 o oed Crist. Yn yr iaith Saesonaeg yr ysgrifenwyd yr hanes, a phe byddai yn weddus i Gymro feirniadu nodwedd iaith estronol, buasem yn hoffi dweyd fod yr ar- -ddull yn llithrig, syrul, ac eglur. Ar. ddengys arwyddion o amcanu at symledd dealladwy i bobl ieuainc, a Cbymry yn dysgu Saesonaeg. Ond tra yr ymdrecha Mr Morgan Owen fod yn syml, nid yw yn rhodresgar blentynaidd fel Freeman yn ei OLD ENGLISH HISTORY N odweddir yr iaith o'n blaen gan frawddegau byrion a grymus, a dysgrifiadau bywiog. Ambell waith ym- ddengys yr awdwr dan ddylauwad teimlad yn anghofio symledd, ac yn dwyn i mewa eiriau oyfansawdd dysgrifiadol (descriptive ..terms) Ited glogyrnaidd. Anfynych y dy. g^ydd hyn, ond y mae uij waith yn ormodol OB gellir ei ochel. Mao'n werth caboli ffram y pictiwr hardd, fel gwisg y bryd- ferth wraig. Ond prif gamp yr hanesydd yw ymdrafferthu i gael gafael ar y gwirion- edd, bod yn ddigon rbydd i'w dderbyn, a digon diduedd i'w fynegi yn deg a chywir. Nid oes awdwr diduedd, y mae yn debyg, mewn bod, so nid oes beirniad na darllen. ydd diragfarn i'w gael. Y mae ffenestri Uygad y meddwl a'r farn i bawb wedi eu lliwio A rhagfarn mwy neu lai; felly, ni cheir dau hanesydd yn cytuno ar un pwnc. Y mae y ddau hanesydd diweddar, Freeman a Bright, yn dangos rhagfarn tra annheil- wng o haneswyr. Yn wir, y mae Saxon- addoliaeth Freeman yn blentynaidd. Rhag. ora Mr Morgan Owen yn fawr yn hyn. Dwg i mewn i'w gyfrol lawer iawn o hanes y Celtiaid, neu Gymry-llawer iawn mwy nag a ddyga Freeman a Bright-a gwna gyflawn gyfiawnder A hwy. Ond tra y dwg allan nodweddion goreu a gweithredoedd gwychaf ei genedl, gan amddiffyn eu oy. meriadau, nid yw yn gadael i'w deimlad dywyllu ei farn, a'i arwain i wneud haer- iadau disail o'u plaid. Ymwneud â. hanes- iaeth sylweddol y mae, ac nid â. chwedlau fwrachiaidd a ffugiadan rhamantaidd fel [organ o Dregynon. Eto, gwneir yr un cyfiawnder a'r Saeson. Cofnodir eu gwyr. hydri hwythaa, a gwneir cyfiawnder &'u cymeriadau. Y mae yr hanesyddiaeth drwyddo yn rhydd oddiwrth bob drwg- liwiad, ac fe dybiem, oddiwrth orliwiad hefyd. Tuedda sylwedd y gyfrol i ddwyn y darllenydd i edmygu, a.cyinfalchio yn y genedl Brydeinig, yn eu gwreiddyn y Celt. iaid, neu Frython, ao yn yr impiad i mewn iddi-y tylwythau Saxonaidd. Gwna yr hanes y Cymro yn well Cymro, a'r Sais yn well Sais, a thuedda hwy i fawrhau y naall y Hall. Rhydd yr awdwr arbenigrwydd i rai o brif bwyntiau yr hanesiaeth yn y eyfnod hir, tywyll, a thymhestlog, rhwng dyddiau J ulias Csesar a dyddiau Gwilym y Gores. gynydd. Ar y prydiau hyny, mewn i fanylion a ddengys weithrediadau yr oes, megis dan v mwyadur, gan roddi cyfleus- dra i'r darllenydd fyned yn agos at y Prid- ian mewn meddwl a theimlad, a chael gafael gref at brif edefyn yr hanesiaeth. Ychwanega hyn lawer ar werth a dyddor- deb y gyfrol. Mewn rhai manau y mae gwyntyll y feirniadaeth yn llea gref, megys pan y dadymchelir yr hen honiad ddarfod i'r Tywysion Celtaidd Cymreig a Scotaidd rwyfo cwch y brenin Seisnig Edgar ar_yr afon Dyfrdwy. Credwn i'r awdwr lwyddo i anion yr honiad hwn i wlad dywyll ohweillonjaeth a. lledrith. Nis gallwu lai na chroesawu y gyfrol hon fel llawlyfr dyddorol yn ychwanegu llawer ar ein gwy. bodaeth o hanes boreuol ein Hynys, wedi ei ysgrifenu gyda gofal, mewn ysbryd di. duedd, ond tra chenedlgarol a gwladgaroi.
TAITH 0 ABERDAR I SILVER CLIFF,…
TAITH 0 ABERDAR I SILVER CLIFF, AC ODDIYNO I ST. ELMO, COLORADO. Mai 18fed.—Am un o'r gloch y boreu bWD yn myned i mewn i Toronto, prif ddinas Canada Orllewinol. Saif ar le isel, sef ar draeth gogledd orllewin i lyn Ontar. io. Y mae y nos wedi ein hamddifadu o olygfeydd dymunol eto yn y fan yma. Yn myned ymaith am dri o'r glooh. Tua ohanol dydd heddyw yn canfod llyn Huron i'r Gogledd, drwy yr hwn y mae afon St. Lawrance yn rhedeg. Bargodir ef ar y De-orllewin gan dalaeth Michigan, ac yn y cyfeiriad arall gan Canada Orllewinol. Ei hyd yn y man mwyaf ydyw oddeutu 280 milldir, a'i lied yn 105 milldir. Wedi hyn daethom i Sarnia, neu Boint Edwards; yn myned yn groes i'r afon St. Lawrance ar bont symudol, yn cael ei symud o un ochr i'r 11all drwy rym ager, yn beiriant a cher bydau. Yr oedd tair rhes, ochr yn ochr, ar y bont yr un pryd, a thri cherbyd yn ar y bont yr un pryd, a thri cherbyd yn mfaob rhes. Yn wir, dyma yr un rhyfeddaf y buom ami erioed. Wele ni yn awr wedi dyfod i un o'r talaethiau, sef Michigan; yn chwilio ein boxes. Ni chawsom ni, fel yr oedd y mwyafrif yn gorfod gwneud, y dra. fferth i'w hagor edrychwyd i un o honynt a hyny o herwydd ein bod wedi tynu y rhaff oddiam dano, am fod y coed wedi rhyddhau. Gofynwyd i ni beth oedd gen- ym, a thyna gyd. Wedi gorphen chwilio y cyfan am bump o'r glocb, yn myned oddiyma, ac yn cyrhaedd Detroit am saith yn yr hwyr. Gair Firengig yw Detroit, a'i ys. tyryw cyfynglyn, ac y mae wedi cael ei roddi i'r ddinas hon am ei bod wedi ei hadeiladu ar y gainc sydd yn cysylltu llyn Erie a llyn St. Clair. Y Mae gweithfeydd glo a haiarn mawrion gerllaw. Y mae Detroit yn hynod o bwrpasol at drafnidaeth, gan ei bod yn sefyll rhwng cadwyn o lynoedd mawrion, a'r amrywiol reilffyrdd ag sydd yn rhedeg iddi, fel y mae yn ganolbwynt holl draf- nidaeth y dalaeth. Meddianwyd safle bre- senol Detroit, fel sefyllfa filwraidd, gan y Ffrancod yn 1670. Sefydlwyd pentref yma gan y Ffranc-Ganadiaid yn 1683. Yr oedd yma bentrefydd yn y gymydogaeth gan yr Huroniaid, y Pottawattomiaid, a'r Ottaw- iaid, llwythau galluog o'r Indiaid Cochion. Yn 1760, daeth yn feddiant i'r Prydeinwyr, ond ar ol y rhyfel am annibyniaeth, aeth yn eiddo i'r Unol Dalaethiau, sef yn 1805, ac yn yr un flwyddyn dinystriodd tan ben- tref Detroit. Tynwyd cynllun o ddinas fawr gan y Maeslywydd William Hull, llywydd y diriogaeth, pryd y dechreuwyd adeiladu, a'r cynllun hwnw i raddau yw cynllun y ddinas bresenol. Yn 1812 daeth i feddiant y Prydeinwyr drachefn, ond gad. awyd hi ganddynt yn yr un flwyddyn. Corfforwyd hi yn ddinas Americanaidd yn 1815, a phan dderbyniwyd tiriogaeth Michigan yn dalaeth o'r Undeb yn 1836, gwnaethpwyd Detroit yn brif ddinas (ond yn 1850, rhoddwyd yr anrhydedd hwnw i ddinas LansiBg). Ei phoblogaeth yn 1880 oedd 116,342. Wedi aros am awr yma, yn newid y tren, ac yn myned ymaith. Erbyn hyn yr oedd y nos wedi ein goddiweddyd. Y 19eg.—Y boreu hwn yr ydym yn teith- I io yn y rhan Ogleddol i dalaeth Indiana, ac ar yr ochr Ddeheuol i lyn Michigan, yr hwn sydd yn 330 milldir o hyd wrth 60 milldir o led ar gyfartaledd, a'i fod yn y man dyfnaf a gafwyd yuddo yn 1,000 troedfedd, a thua 16 981 milldir o wyneb- fesur. Am wyth o'r gloch yn y boreu yn cyrhaedd Chicago fawr ei masnach a'i phoblogrwydd, yr hon sydd yn nghwr Gogledd-Ddwyrain talaeth Illinois, ar lan Dde-Orllewin llyn Michigan. Wrth enau yr afon Chicago, yr lion sydd borthladd rhagorol i'r dref, gorfn i m aros yma hyd ddeg o'r gloch hono, am ua ddaeth ein bag- gage o orsaf y Central & Grand Trunk erbyn y tren 12 canol dydd i orsaf y Rock Island & Pacific. Y mae gyda ni felly ddeg awr i aros yma, a hyny yn fanteisiol er gweled ychydig o'r ddinas. Ymae wedi ei hadeiladu yn rheolaidd o ddau tu yr afon, ac yn sefyll ar wastad-dir, ond y mae yr heolydd wedi cael eu dyrchafu yn rhaddol o fin y llyn, fel ag i'w dyogelu rhag gorlifiad. Y maent yn llydain, ac mewn cadwriaeth dda. Y mae ei hadeil- adau mwyaf wedi eu codi o geryg brithion, y rhai sydd yn rhoddi ymddangosiad hynod o hardd iddynt. Y mae o gant, i gant a haner, os nad wyf wedi camgymeryd, o leoedd addoli gan y gwahanol enwadau crefyddol-dwy Synagog gan yr Iuddewon, Coleg gan y Wesleyaid, a Phrifysgol gan y Bedyddwyr, yr hon a agorwyd yn 1859 Y mae yn y ddinas luaws o ysgolion dyddiol mewn gwahanol wybodaethau. Y mae yma weithfeydd at wneuthur pob math o beirianau, a phob masnach braidd ag a ellir ddychymygu am dano. Dywedir mai yn Chicago y mae yr ydfaelfa fwyaf yn yr holl fyd. Y mae camlasau a rheilffyrdd i bob cyfeiriad, fel ag i'w chysylltu a manau pwysicaf. Yn 1871, bu tân dinystr- iol yma, fel y llosgwyd y ddinas arddder- chog hon i'r llawr, pan gollwyd llawer o fywydau a meddianau, na wyddis eu gwerth. Ond erbyn heddyw y mae yn ei gogoniant, hi yw y ddinas fwyaf yn y dal- aeth, er mae Springfield yw y brifddinas. Y mae edrych ar gynydd Chicago yn y blynyddau diweddaf yn aruthrol o fawr. Yn 1861, ei phoblogaeth oedd 160,000, ond erbyn 1880, yr oedd ei phoblogaeth yn 503,304. Yr hyn a dynodd ein sylw fwyaf yma heno yw y goleuni trydanol. Y mae yn byrlymu allan ei gynwysiad gyda'r fath ddysgleirdeb, fel y mae goleu y nwy megys yn cywilyddio ger ei fron; tebyg fel y mae goleuni yr haul yn gyru pob goleu arall i'r cysgod yn ei ymyl. Y mae yr amser i ymadael wedi dyfod, a rhaid gadael y rhyfeddodau, a myned i ffwrdd gyda'r Chicago Rock Island & Pacific. Yr 20fed.-Am chwech o'r gloch y boreu hwn yn myned i dref yn nhalaeth Iowa, o'r enw Davenport, ar lan y Mississippi. Y mae y golygfeydd oddiamgylch yn bryd- ferth dros ben, ac nid oes eu rhagorach ar lanau y Mississippi. Nid oes amser i ddweyd rhagor am y lie hwn o herwydd y mae ytrim yn myned. Y mae y wlad y ffordd yma, o ran ei harwynebedd, yn debygach i'r hen wlad na dim a welwyd genym o'r blaen yn fan fryniau, a'r coed. ydd yn fwy fel derw Cymru. Y mae Iowa yn dalaeth amaethyddol rhagorol iawn. Y mae golwg hardd ar y coed wedi eu gwisgo ag amryw liwiau o flodau, nes ein awyno wrth fyned heibio, a chreu ynom hiraeth, ac ambell i ddeigryn lladradaidd yn disgyn droa v rndd. Yr vdvm vn teithio vn evf- lym anghyffredin heddyw. Yr oeddem yn ymadael o Chicago am haner awr wedi deg neithiwr, ao yn cyrhaedd tref o'r enw Council Bluffs erbyn wyth o'r gloch yr hwyr hwn. Yr ydym wedi teithio yn yr amser yna 500 o filldiroedd, gydag aros mewn tua 88 o orsafoedd. Yn gorfod aros yma hyd brydnawn yfory. Yr 21ain.-Nid oes yma ddim hynod- rwydd i dynu ein sylw. Y mae y tai yn wasgaredig, yn sefyll ar wastad-dir, ao afon Missouri i'r Gorllewin iddi; ond y mae yma orsaf hardd iawn. Y mae yn booth iawn heddyw, yr haul yn gwasgar ei belydrau tanbeidiol nes peri i ni ddianc i'r cysgod rhag ei wres. Yn y prydanwn, rhwng pump a chwech, daeth yr amser i gychwyn oddiyma gyda'r Union Pacific. Yn croesi afon Missouri, yr hon sydd fel rhyw grochan berwedig odditanom. Wele ni erbyn hyn yn nhalaeth Nebraska, ac yn Omaha, yr hon yw prifddinas y dalaeth. Y mae yn dref hardd ac iachus yr olwg ami, wedi ei hadeiladu ar lethr, a choed wedi eu planu ar hyd ochrau ei heolydd, y rhai sydd yn gwisgo prydferthwch, ac yn dystiolaeth i ni fod yr haf yn neshau. Y mae yma amryw o weithfeydd haiarn, ond rhaid eu gadael heb ddweyd rhagor am danynt, am fod y tr6n yn ymadael heb aros ond ychydig yma. Yn teithio drwy y nos yn rhan Ddeheuol Nebraska. (I'w barhau). Iii. "j
Y " CREATION " YN NOWLAIS.
Y CREATION YN NOWLAIS. Dydd Llun y Pasc, rhoddodd y Dowlais Choral Society, dan arweiniad Mr John Evans (Eos Myrddin), ddau berfformiad o'r oratorio ardderchog hon o eiddo Haydn, yn yr Oddfellows Hall, Dowlais. Yr artistes oeddynt,—Soprano, Miss Marie Gane, Bristol, a Miss Marian Price, Dowlais; Mezzo Soprano, Miss Keturah Evans (Eos Alma, Dowlais; Tenor, Mr D'Arcy Ferris, Llundain; Bass, Ap Herbert, a Mr Dan Price, Dowlais; Cyfeiliant, Miss Meta Scot; Orchestra, Cyfarthfa String Band, dan ar. weiniad Mr G. C. Bawden. Er nad oedd llais Miss Marie Gane yn gryf, eto yr oedd yn swynol iawn, yn enwedig pan yn taro y nodau uchaf—yr oedd yn cyrhaedd y rhai hyn mor ddiym. drech, ao mor beraidd a'r Eos ei hun. Yr oedd ei datganiad o On Mighty Pens,' yn wir ardderchog. Tarawyd ni a syndod wrth glywed y gantores ieuanc Miss Price. Nid oeddem yn dysgwyl ei chlywed debyg mor dda erioed yn y perfformiad hwn. Gwyr y rhan luosocaf fod With Verdure Clad yn solo ardderchog, eithr ei bod yn orchwyl caled.iawn ei datganu yn gywir ac effeithiol, ond canodd Miss Price hi o ddigon tu hwnt i'n dysgwyliadau. Yn wir, y mae y gantores ieuanc hon yn dyfod yn fendigedig o boblogaidd yn y cylchoedd hyn, ac hyderwn na fydd un gyngerdd o bwys yma na fydd hi yn mhlith yr etbol- edigien. Y mae Miss Keturah Evans (Eos Alma), yn ddigon adnabyddus yn y cylch- oedd hyn bellach fel cantores gampus a'r waith hon eto cadwodd ei ohymeriad i fyny yn ddilys. Y mae ganddi gyfoeth o'r llais puraf a mwyaf melodaidd, ac y mae bob amser yn canu mown ysbryd anwrthwyn- ebol. Aeth trwy ei rhanau yn orchestol. Ni chlywsom Mr Ferris o'r blaen (enw foreign yw Ferris), a dysgwyliem ninau gael rhywbeth foreign o dda wrth glywed oymaint o son am dano, ond cawsom ein siomi. Ni ddaeth i fyny a'n dysgwyliadau o dipyn. Ond y mae yn debyg nad oedd yn teimlo yn hwylus, gan ei fod wedi bod ya teithio trwy y dydd a'r nos cyn ei ym- ddangosiad yma. Rhwng ei fod heb gael amser i fwyta na chysgu, nid rhyfedd ei fod yn ddihwyl. Teimlem fod Ap Her- bert yn ei le i'r dim. Efe yn ddios, oedd arwr y perfformiad hwn. Yr oedd ei lais fel rhuad taran, a'i ddatganiad yn llawn ysbryd. Ni chlywsom neb erioed yn canu Rolling in foaming billows' yn debyg iddo. Tarawai i lawr y double d mor ddi- daro ag anadlu, nes oedd y stage yn crynu gan ei ruad ofnadwy, ao eto yr oedd yn dreiddgar a pherorol iawn. Teimlem fod Mr Dan Price, Dowlais, hefyd ar uchelfan. au. Pan ystyrir nad yw ond o gylch ugain oed, a'i fod y waith hon yn canu ar yr un esgynlawr ag Ap Herbert, y mae yn syndod ei fod yn gadael argraff ffafriol ar ei wrandawyr o gwbl. Nid oes dim dwywaith am ddyfodol dysglaer iddo os caiff fyw. Y mae ei ymddangosiad, cwmpas anarferol ei lais, a'i ddestlusrwydd, yn gosod allan ei solos yn bob peth dymunol. Canodd ei ranau y waith hon eto yn benigamp. Gall Gwlad y Gan ymffrostio yn y canwr ieuanc rhagorol hwn. Yr oedd datganiad y cor- awdau gan y cdr yn wir rhagorol, yn enwedig I The Heavns are telling,' Achie- ved,' a Sing to the Lord,' ac yn iechyd i galon pawb, yr hyn oedd yn syndod mawr, gan eu bod wedi cael mor lleied o amser i'w dysgu. Gwnaeth y band hefyd yn gampus. Y mae clod mawr yn ddyledus i'r cdr rhagorol hwn, a'r arweinydd enwog, am dynu allan dalentau lleol. Yr oedd tri o'r artistes o Ddowlais; so nid ydym yn gwybod am un lie yn Nghymru all ym- ffrostio yn y fath dri a'r rhai hyn. Dy- wedwn wrth derfynu, ein bod wedi clywed y Creation' droion o'r blaen, ond na chlywsom y fath berfformiad gogoneddus o hono erioed o'r blaen.
BUDD-GYNGERDD Eos LLYWEL.
BUDD-GYNGERDD Eos LLYWEL. Nos Sadwrn, y 15fed cyfisol, cynaliwyd y gyngerdd hon, yn yr Oddfellows Hall. Gwnaeth yr artistes eu gwaith yn dda, yn enwedig Eos Alma, a Miss Marian Price, y rhai a dderbyniasant gymeradwyaech fyddarol. C6r •« Penywern fu'n pwnio arni," o dan arweiniad y cerddor ieuanc rhagorol, Mr Wm. Hughes, a gwnaethant eu gwaith yn dda, nid yn wyrgam Heb un argoel tewi Da iawn oedd genym weled y oynulliad mor fawr. Trodd y gyngerdd allan yn gaffaedad gwerthfawr i logell ein cyfaill anwyl yn ei gystudd. Dymunem ddatgan ein hanghymeradwyaeth o ddewisiad y pwyllgor o un o'r artistes, sef y eomio singer. Yr oedd hwn yn ofnadwy o ddoniol, mae'n wir, ond teimlem ei fod yn dinystrio chwaeth y gynulleidfa at bobpeth sylwedd- ol, ac nad oeddynt yn mwynhau dim ond ei ddigrifwch ef wedi ei glywed onwaith. GOB.
EISTEDDFOD LLWYNYPIA—AT MR.…
EISTEDDFOD LLWYNYPIA—AT MR. D. E. DAVIES, CWMAMAN. SYR,—Gwelaf eich bod wedi gwneud eich hymddangosiad unwaith yn ychwaneg ar faes y DARIAN i ddangos eich plentyneidd- iwch a'ch haerllugrwydd. Yn enw cwd y cardotyn, ba beth yw y rheswm na fydd- ech yn anfon eich cwynion i'r "Express," lie yr ydych yn ceisio dweyd fy mod i wedi dwyn cyhuadiadan niweidiol yn eich herbyn ? Gwarchod pawb I a fedrwch chwi ddim coginio dipyn o lythyr Saesoneg ? A ydych yn tybied fod darllenwyr y DARIAN yn hoffi gweled eich cecraeth anwireddus, a hyny mewn perthynas i'r hyn sydd wedi ymddangos mewn newyddiadur arall ? Ar yr un pryd, y mae rhyddfrydigrwydd y DARIAN i'w weled yn eglur, a chyn myned yn mhellach, dymunaf ddiolch i'r Golyg- wyr parchus am eu hiramynedd. Y mae y darllenwyr yn gwybod- erbyn hyn mai y pechod a wnaethum i yn erbyn y gwr uchod, oedd anfon ychydig o ffeith- lau a gymerasant le yn yr eisteddfod uchod i'r Merthyr Express." Nid hon oedd y waith gyntaf i mi ysgrifenu i'r Express," yr oeddwn wedi gwneud hyny ugeiniau o weithiau o'r blaen, ac yr wyf yn teimo yn ddedwydd wrth feddwl am ryddid y wasg. Y mae, fwy nag unwaith, yn fy ngalw i gyfrif am ysgrifenu yn y Saesonaeg, ac yn dweyd fod hyny yn tueddu i'w niweidio. Oni wyddoch chwi, syr, fod tri newyddiad- ur Cymreig wedi eich codi i'r gwynt, a chondemnio eich hymddygiad, ac un newyddiadur Saesnig wedi pasio vote of censure arnoch, cyn i mi ysgrifenu gair i'r "Express;" a chyda golwg ar eich niweid- io, y chwi eich hun sydd wedi gwneuthur hyny wrth fod mor haerllug a beiddgar ag esgyn i esgynlawr eisteddfod Llwynypia i dderbyn gwobr annheilwng. Nid oedd genych chwi yr un hawl o gwbl yn y gys- tadleuaeth; yr oedd amodau yr eisteddfod yn eich cauad allan, am fod y traetbawd yn gyfyngedig i weithwyr, tra yr oeddech chwi ar y pryd yn llywydd glofa ynNghwm- aman. Yr ydych yn dweyd fod y pwyllgor braidd yn unfrydol yn cyfaddef fod genych hawl i'r wobr. Anwiredd i gyd, syr, a her- iaf chwi i brofi hyny. Yr oedd y pwyllgor yn hollol ddiniwaid ya yr achos o'r dechreu- ad, heb neb yn meddwl fod unrhyw anfoes- garwch llenyddol i gymeryd lie; ac fe ddarfu i chwithau gymeryd mantais ar hyny. Os oedd pob peth yn iawn, pa beth oedd yr achos i chwi ddweyd yr holl an- wireddau hyny pan oeddech yn cael eich holi yn nghylch eich galwedigaeth cyn i chwi dderbyn y wobr ? Y mae digon o dyst. ion wrth law yn barod i'ch cyfarfod un aai- ser; dichon ein bod yn fwy cadarni'ch cyf- arfod nag y meddyliasoch. Pa beth a wnaeth i chwi ddweyd mai gweithiwr oeddech, a'ch bod ychydig amser yn ol yn gweithio yn mbwll Llwynypia, a'ch bod lawer gwaith wedi bod yn siop ysgrifenydd yr eistedd- fod, ac yr oeddech yn rhyfeddu na fuasai yn eich adwaen, &c ? Peth arall; anfonodd ysgrifenydd yr eisteddfod lythyr at Mr Jamei, i Flaenyc wm, yn gymwys ar ol yr eis- teddfod, i'w hysbysu fod cyhuddiad wedi dyfod yn ai erbyn, ei fod yn swyddog glofaol, a thrwy hyny ei fod wedi cael y wobr yn groes i'r amodau. Anfonodd yntau lythyr yn ol i ddweyd ei fod wedi bod felly, ond ei fod ar y pryd yn gweithio. Wrth gwrs, chwi gawsoch chwithau lythyr; diau gen- ym na fu yr ysgrifenydd yn fwy ffafriol i chwi na Mr James, gan hyny, pa fodd yr ydych yn gallu haeru drosodd a throsodd fod y pwyllgor yn bleidiol i chwi, ac mai rhyw glic sydd yn eich gwrthwynebu ? Nid trwy y drws y daei,lioch chwi i gorlan y gystadleuaeth hon; fflly, a fynwch chwi i mi ddweyd eich fortune ? Clywais yn ddiweddar am ddau gyfaill yn cydeistedd mewn ystafell dywyll, ac yn methu a chyduno yn nghylch liiw y papyr ar y mur; ond pan ddaeth gwraig y ty a goleuni i'r ystafell. yr oedd y ddadl ar ben. Felly yn yr achos hwn, y mae yr amodau a gyhoeddwyd yn y DARIAN cyn yr eistedd- fod, yn tori y ddadl ar unwaitb, er holl yg. tranciau y supreme wisdom o Gwmaman. Beth pe byddai cynadledd gan y managers yn Nghaerdydd, neu ryw fan arall, a'm bod inau yn hawlio bod yn eu plith, a dweyd mai yr un peth yw manager a gweithiwr, beth fyddai y canlyniad ? Beth feddyliech chwi ? Neu os mynwch, caiff eich traethawd buddugol chwi fod yn awdurdod ar y pwnc, yn yr hwn yr ydych yn rhoddi i ni eglurhad ar y gwahaniaeth sydd rhwng gweithwyr a swyddogion. Doniol o beth fydd eich gweled chwi mewn dadl a'ch traethawd eich hun. Ond dyna, feallai mai gormod o ddysg sydd wedi eich gyru yn ynfyd. Dywedwch fy mod i wedi cyhoeddi yn yr "Express" eich bod chwi wedi myned ymaith a'r wobr mewn ffordd sly, a bod y pwyllgor yn gorchymyn i chwi ddychwelyd yr arian, &c. Anwiredd ete: ni soniais gymaint a gair am enw y pwyllgor. Y mae y liythyr a anfonais i'r Express ar gael yn a gallaf ei ddangos yr awr a fyn- wch. Ni fum ychwaith yn siarad yr un gair a'r pwyllgor yn nghylch y peth. iryaycnyn dweyd eich bod chwi yn dygwydd gwybod cymaint a minau yn nghylch y gystadleuaeth hon. Dichon fod hyny yn ac y mae yn fwy na thebyg fod un person neillduol (wedi chwareu cardiau Judas), y mae hyny yn amlwg oddiwrth yr ensyniadau anwiredd- us a ysgrifenwyd rhyngoch chwi a'ch bottleholder o dan yr eDW ffugiol. Yr wyf erbyn hyn wedi cael y fraint o edrych dros eich traethawd, a beiddiaf ddweyd wrth- ych unwaith eto, os na fedrwch wneud rhywbeth yn amgenach na'r clytwaith hwn, gosodwch eich ffidl yn y to. Feallai mai y peth sydd yn ei enwogi fwyaf ydyw yr ymosodiad a wnewch ar y diweddar a'r anfarwol Alexander Macdonald, A.S.; ond lied debyg eich bod chwi yn credu fod hyny yn un o'i brydfferthion. Felly, feallai y byddai yn well i chwi gyhoeddi eich traethawd, yn nghyd a'ch ysgrifau yn y DARIAN, yn un llyfryn, a galw y cyfryw yn Weithiau Awdurol Manager Cwmam. an." Y mae yn chwerthingar eich clywed yn son am stamp y Llywodraeth. Ni chlywais i am neb erioed yn methu a chael hono os byddai dwy bunt ganddo i dalu am dani. Yr oeddwn i wedi meddwl, pe baaswn yn enill y wobr yn eisteddfod Llwynypia, i anfon dwy bunt i brynu staxup y Llywodr- aeth, ond wedi y cwbl, feallai na fuaswn fawr iawn gwell, ac feallai na fyddai fy swyddogaeth yn y diwedd ond nominal, neu rywbeth tebyg i hen wraig i gario clecs: ond y mae yn amlwg i mi fod ambell un yn teimlo ei waistcoat isaf yn myned yn rhy fach iddo wrth wneuthur y swydd hono. Yr oedd un perchen glofa yn dweyd ychydig amser yn ol, fod yn hawddach o lawer i gael y dynion hyny a stamp y llyw- odraeth, na chael dynion i waghau y wageni rhwbel. Os byddai galwad am y blaenaf, cawsai dri neu bedwar cant o ym- geiswyr, ond am yr olaf yr oedd yn wahan- ol. Y mae genyf gryn lawer yn ychwaneg eisieu ei ddweyd wrthych yn nghylch eich urddas a ch swyddogaeth, yn nghyda'r traethawd enwog syda o fy mlaen, ond ni flinaf ddarllenwyr y DARlAN yn mhellach a'r drafodaeth hon. Yr ydwyf, ar gais am. ryw gyfeillion, yn parotoi pamphledyn bychan ar yr amgylchiad; hwn. Daw i'ch llaw yn ddigon buan, Cwympaf gaffer mawr Cwmaman, Gwnaf fy hnnan, miawn; Eto anhawdd corddi enwyB, Ni ddaw 'menyn byth o hwn. Tonypandy. IAGO Ap RBys.
Y WASG.
Y WASG. AWDL CARIAD. Gan Tafolog. Treffynon: Argraffwyd gan P. M. Evans & Son. Pris chwecheiniog. ( Parhad). Pwy na theimla ei galon yn gwresogi o gariad at ei wlad wrth ddarllen y llinellau hyn:— Fy ngwlad, pa syniad o serch Ddeil enw'r ddedwydd lanerch I Fy ngwlad wen yw pen pob pau, Iach Eden fy serchiadau I'm teimlad, gwlad y gwledydd Dan gariad gysegriad sydd, o I mae swyn i g'lymu serch Ymlynol mewn aml lanerch I Chwareu-fanau dechrau'r daith I'r "Amdo "-pen draw'r ymdaith- Ar len cof, eu darlun cu, Oesawg erys i'w garu. Gwlad beddau'n teidiau, gynt oedd Aneddwyr ein mynyddoedd, A lie cwsg ami gyfaill cu Hyd wawr rhyw fawr Yforu Ga nawdd ei disgynyddion, A'u bri fydd balchder eu bron. Fy nhad 1 ar dy feddfaen di Alaeth wylodd wlith heli. Gyda'i" deuddeg daw y weddw—i'r fan Mae'r fynwent yn cadw Dy anwyl lwch, a d'enw—eneinia Dagrau ei chariad o gur chwerw. I ni y llanerch ddi nod I dy gwsg, rydd dlawd gysgod, A'r wlad yn gysegriad sydd-mewn profiad Daw mwy o gariad at ei magwyrydd. Mae bryniau a glynau'm gwlad Yn amgaeru am gariad; A siarad cariad i'm col Mae'r mirain ddeifr murmurol A gerdd rhwng y bryniau, gan Wdenu gylch traed aniao." Mae y darn sydd yn yr awdl ar ddyngar- wch yn ei amrywiol agweddau yn rhagorol. Cyfeiria yn dlws iawn at y Negro crpen- ddu:- "Rhyw gauaid enaid wnai d'wynu—aw- Dan ael Negro croenddu, [grym Y medd ei fron galon gu.-a theimlad Dynol ei guriad yn hawlio 'i garu." Hapus a barddonol iawn yw y cyfeiriad a geir yn yr awdl at gariad fel moddion i sierhau heddwch teyrnasoedd. Dyry wawd ergyd effeithiol i un o greadigaethau Beaconsfield-y terfyn gwyddonol" :— Owalio ein dyogelwch A chreig-ffiniau truman trwch! I'm gwarchod rhag ymgyrchoedd-gelyn Gwad nawdd yw mynyddoedd [hyf Trwy hanesiaeth teyrnasoedd,—gwelaf Ouro a thori drwy'r creig werthyroedd.' Wrth nesu at ddiwedd yr awdl, mae y bardd fel wedi cael hwyl adnewyddol, a thyr allan mewn rhes o doddeidiau peni- gamp:— Cariad yw'r ceinaf—uwch cur dryghin- Rosyn addurna fwyn haf y nefoedd; [oedd Fe leda'i arogl drwy'r nefol diroedd, Yn bur adfywiol i'w hwybr rodfaoedd; Hoen bywyd byd y bydoedd,-i'w harddu 0 hanes Iesu dyn yn oes oesoedd. A'i ddail yn ir yn ei dir brodorol, Dyry yn addurn i'r ardd drag'wyddol, Gan wridog wenu heb waethu bythol, Gan welw oer auaf, gan awel rewol, wenwyn nwyd hunanol—meWni haf- E ddeil yn newydd ei liw anwywol. [ddyddL Cariad hael leinw bob cord telynol Seinir i Iesu'n awyr eosol .>. Byd y clodforedd; Ilawn hedd llonyddol. Wena gan fywyd a hoen gwynfaol; Cariad yw'r dine gyweiriol—deimla sanfe Yn twymno nwyfiant ei hymnau nefol. Rhyw hem o gariad sy'n ter amgaeru Hyd ymyl enwog gwlad y moliano A her i elyniaeth uffern saethu Trwy ei chae muriog, trwch, i'w amharu; Deddfau glan gwlad y gan gu-yn gadwen 0 gariad addien sy'n ymgordeddu." Yr ydym bellach yn teimlo ein bod wedi dyfynu digon o'r awdl i ddangos i'r darllen- ydd beth yw ei hansawdd. Ceir yn yr awdl rai darnau heb fod i fyny a'r rhai a ddyfynwyd genym, ond ceir llawer o rai ereill ynddi sydd yn Ilawn cystal, os nad gwell, na'r dyfyniadau. Anfoned y dar- llenydd am dani, acha wledd farddonol o'r iawn ryw. Yr ydym yn hyderus ddisgwyl y bydd Tafolog yn ymgeisydd am Gadaix Dinbych. Gallem ni feddwl ei fod yn gal- ondid mawr iddo cyn cychwyn, fod un o'r beirniaid wedi cyhoeddi fod y testyn yn el daro. Ond dyna, feallai fod y testyn yn taro rhai ereill-rhai na chydnabyddir en bodolaeth gan yr oracl.
CYFARFOD MISOL GLOWYR DOS.…
CYFARFOD MISOL GLOWYR DOS. BARTH CASTELLNEDD. Cynaliwyd y cyfarfod uchod prydnawn Sadwrn, y 15fed cyfisol, yn y Landorelnn, Glandwr. Llywyddwyd gan Mr Samuel Griffiths. Yr Ysgrifenydd oedd Mr Isaac Evans. Nid oedd y cyfarfod hwn yn gwbl mor llwyddianus a'r cyfarfod blaenorol a. gynaliwyd yn y lie hwn. Yn y cyfarfod blaenorol yr oedd yr ystafell eang yn or. lawn, a'r teimladau mwyaf dymunol yn cael eu harllwys ganddynt ag a glywsom erioed ond y tro hwn, nid oedd ond ychydig o gynrychiolwyr cyloh Giandwr wedi dyfod yn nghyd. Y mae yn ym- ddangos nad oeddynt yn teimlo yn wrol i ddanfon cynrychiolaeth i'r cyfarfod hwn, yn gymaint ag nad oeddynt wedi gwnand yrun ymgais tuag at gario allan y pender- fyniad y daeth pwy d iddo yn nghgfarfod Castellnedd, sef gwneud ymaith a'r twm nos Sul. Hysbyswyd fod glowyr yr Emily wedi ei wneud drwy bob rhwystrau; ao nid yn unig hyny, ond eu bod wedi llwyddo i gael tAl chwech am bump pan yn gweith- io'r nos. Yr oedd amryw o gyfeillion ieuainc, a chanol oed y lie, wedi dyfod i'r cyfarfod, y rhai a ddywedasant mai eu dull hwy o weithio yw, gwneud pob peth a geisiai eu meistri ganddynt-gweithio faint a fynenfc, a phryd y mynent, yn ddiwahaniaeth, os byddai eisiau glo arnynt; ac eu bod hwy yn teimlo mai eu dyledswydd oedd dweyd y gwir wrth y cyfarfod. Dywedasant hefyd am ryw hen wr crymog, tonog, aml. wynebog o Bentrefelen, yr hwn oedd wedi eu bradychu yn ddiweddar-un ag oedd wedi ymuno a'r gymdeithas Undebol; ac hefyd, ein bod wedi ei glywed yn siaradyn deimladwy iawn am y truenusrwydd yr oedd efe wedi myned iddo o herwydd diffyg Undeb; ac ei fod yn gobeithio y caff ai fod yn Undebwr bellach hyd ei fedd. [ Ond un diwrnod, pan oedd efe a'i gyd. [ weithwyr wedi cyduno i ofyn am ryw gais gan y rheolwr, aeth fel Judas, ar ei union at y rheolwr i ddweyd am y peth, a phwy oedd yn blaenori yn y fusnes, yr hyn allasai fod yn achos i atal y dynion i weithio. Y bradychwr y galwant ef. Dyna ddigon am dano, feddyliem. Penderfyniad y cyfarfod hwn eto oedd, am iddynt wneud ymaith a'r twrn nos Sol rhag cywilydd nad oes mwy o rwystrau ar eu ffordd hwy nag sydd wedi bod ar ffordd ereill sydd yn eu hymyl. Ni adawn Bwll y Cwm, Pwll y Domen, Mynyqd Newydd, Garn Goch, a'r Fforeat Fach, yn llonydd y tro hwn, gan addaw dyfod dipyn yn nes atynt yn y cyfarfod nesaf. Dywedodd cynrychiolydd Clydach, Mer- thyr, eu bod hwy oil wedi rhoddi rhybudd oddiar y dydd cyntaf o'r mis hwn, yn her.* wydd y creulondeb a ddefnyddir tuag atynt o bryd i bryil; ac mor fuan ag y bydd i'r rhybudd ddirwyn i ben, y bydd iddynt godi eu paciau, a gadael y lie. Gofod a ballai i ni fyned dros eu hanes yn y fan hon, ond dichon y deuwn i gyffyrddiad.ag ef eto. Yruddengys mai yr un perchenog- 11 9 ion a berchenoga y gwahanol lofeydd o am- gylch Clydaoh, ac mai bob yn ail y bydd- ant yn cael y chwip; ac fel yma, bydd y gweithwyr yn cael eu defnyddio i ffrewyllq eu gilydd. Hefyd, fisoedd yn ol y bu Hill, Merthyr, allan o'r blaen ac yn nesaf, fe ddichon, bydd Craig, Merthyr, neu bwll y Glais. Yn wyneb liyB, ac yn mam y cyf- arfod, eich dyledswydd, un ac oil, yw ym- uno a'r gymdeithas Undebol, a ffurfio pwyllgor o'r gwahanol lofeydd, sef tlatf o bob glofa, ac o'u plith dewiser ysgrifen. ydd; a phan y hyddo achos yn galw o un. rhyw lofa, (os bydd pwyllgor y cyfryw lofa wedi methu dyfod i delerau heddychol) galwer y Joiiit Committee yn nghyd ar un. waith, a'r penderfyniad y deuir iddo, ddanfoner ddirprwyaeth a'r cyfryw i'r rheolwr, ac fe dvimla yn union fel Samson e fod ei mirth wedi ei golli. Fel hyn y* gwneiryn ;<')-«. y Dyiievor :—Os bydd hyd yn nod un person yn cael cam, ac.wedi methu a chael pethau i drefn, byddis ar unwaith yu g lw r pwyllgor uchod yn nghyd. ae OR IS ad ydych am chwipio eich gilydd bob yn ail, gwnewcli chwithau yr. unfel. „ Gwrrs trill a -^awsom yn y cyfarfod a ddviai fod tr 8d;vsg i ni fel glowyr yn gyffredinol. ac i 'n < ifroi at eindyledswydd- ai;, yf'yw yr nri a VVSOIII gan ein cynrych. iolydd pirciji. a heiudo ar y Bwrdd mewn f Kwelliantau cynygiedig y Slidiug S. a Dywedodd fod cynrych- iolwyr y mcisti i -vi di oaniatau iddynt rai pethau by< !ia ■> nd yn nachau i gaucdwr, ac hefyd 8: II g y safon. Gofynwyd paham DR tUh n caniatau ar y Scale hon yr hyu anif.. eir < u. swydd Durham f A'r a+eoiad «>ai w\ oec i, nad ydym ni yr un dye ion a glowyr swydd Durham. £ fca wyddom nad V(1yru yr 111 dynion, ond nid dyui* ï .uu, wi yw, nad ydym
I HANES MR. WILLIAM EDWARDS,:…
Arglwydd wrth y drws yn aras; yna aethant i mewn, ac wedi ymgynghori ar yr achos, dywedodd Mr J ones am neill- duo Mr "William Edwards i'r weinidpg- aeth, ac addawodd ddyfod drosodd ei hun i gyflawni y gorchwyl, ac felly y bu. Dywedir am Mr Edwards, fod ei ym- ddygiad yn hynod brydferth ac efengyl. aidd, a'i fod yn gopi o brydferthwch s'anteiddrwydd lie bynag y byddai. Bu Vn weinidog yn y Groeswen yn agoB i 40 mlynedd, a'r hyn oil a dderbyniodd am ei lafur oddiwrth yr eglwys, a gyf- ranodd at yr achos, ac i'r tlodion. Efe a orphenodd ei yrfa yn y flwyddyn 1789, ac ehedodd ei enaid duwfol at ysbrydoedd y cyfiawn, y rhaii a ber- ffeithiwyd. Ar ddydd ei gladdedigaeth. yroeddtyrfa fawr o'i gymydogion a'i gyfeillion wedi ymgasglu i dalu eu teyrnged olaf i'r rhah farwol or gwr enwog yma. Yn y ty, pyn myned allan, pregethodd Mr Thomas Walters, o Mynyddislwyr>, oddiar Preg. vii. 1; yna aethant allan, a than ganu yr holl ffordd oddiyno i fynwent Eglwys-Elian, lie y rhoddwyd ei gorff i orphwys hyd y bqreu hwnw pan gaffo yr hyn sydd farwol a llygrauwy ei lyncu i fyny gan anfarwoldeb ac aiillygredigaeth. Mae e'n a.wr mewn pur ddedwy ddwch, Hyfryd beddwch llonwych llawn o Hebddim blinfyd, clwyf, na chlefyd, V 'N canu'n hyfryd am yr iawn; Gyda'r seintiau heirdd eu gynau, t Fil.myrddiynau, gloyw, glftn.; Yn cydseinio mawl i'w Ceidwaa, Hebataliad ar y g&n. (Allan o hen Fisolyn Oymreig). (.