Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
23 erthygl ar y dudalen hon
.:YR WYTHNO S.
YR WYTHNO S. BOREU dydd Llun yr wythnos ddi- weddaf, rhwng 12 ac 1 o'r gloch, cyfar- 4yddodd bachgenyn o'r enw Johny Jones, rhwng chwech a saith mlwydd oed, mab i John Jones, glowr, Cardiff Boad, Aberaman, a damwain pan yn chwareu a rhod ddwfr ger y gwaith nwy, Aberaman, yr hyn a achosodd ei "farwolaeth. Claddwyd ei weddillion marwol y dydd Ian canlynol, pryd yr rvmgynnllodd yn nghyd ei gyfoedion yn yr-ysgol ddyddiol, ac hefyd luaws o gyfeillion y rhieni trallodus. BOREU dydd Sadwrn diweddaf cy- merodd dygwyddiad angeuol le l fenyw oddeutu 40 mlwydd oed, yn agos i orsaf rheilffordd y Great Western yn Mhont- ypwl. Yr oedd yn myned rhagddi ar hyd y linell yn nghyfeiriad Pontypwl Road, pryd y daeth peiriant i fyny, gan ei tharaw ar ei phen fel y bu farw ar unwaith. Y mae yn ymddangos ei bod yn fenyw ddyeithr yn y lie. Yr oedd yn ei llogell, heblaw llyfr perthynol i gymdeithas adeiladu Coleford, 5s 6c mewn arian. Yr enw ar y llyfr oedd Williams. DYDD Mercher yr wythnos ddiweddaf daeth bachgen o'r enw James Thomas Evans, yn mhentref Llanbethery, ger Penmarc, i ddiwedd rhyfedd. Daeth ar ymwel'ad a'r teulu un ar gefn pony, yr hwn a rwymwyd wrth brerf yn yr ardd. Y mae yn ymddangos i'r baehgen fyned a gyru y pony o gwmpas y pren, a daeth trwy ryw anffawd o fewn i gylch y rhaff, a'r hon y cylymwyd yr anifail, ac fel yr oedd y creadur yn troi o amgylch daeth y bachgen hefyd yn rhwym, a thynhiiodd y pony y cordyn mor dyn fel y bu farw y bachgen yn y man heb i neb ddyfod i wybod am dano. CYMERODD ffrwydriad le ar fwrdd yr agerlong Marion, ar yr afon Wateree, South Carolina, ddydd Sadwrn diweddaf, trwy yr hyn y collodd naw eu bywydau. Y MAE ymgais wedi ei wneud gan ryw bersonau anhysbys, at fywydau Mri Yanderbilt a Cyrus Field, yn New York, a hyny trwy anfon peirianau iSrwydrol trwy y llythyrdy. Tra ar ei daith ffrwydrodd un o'r peirianau yn y llythyrgod, ac erbyn gwneud archwiliad yr oedd un arall yn y llythyrdy. CYMERODD dwy ddamwain angeuol le yn Nhreorei ddydd Iau diweddaf. Y fyntaf i fachgen 14 oed, o r enw lenry Davies, mab i Mr W. Davies, swyddog yn mhwll y Pare, Cwmparc. Y mae yn debyg fod y bachgen yn cyf- lawni rhyw orchwyl ar un o'r tips, yn ymyl pwll y Pare, a phan y daeth dwy ddram lawn i fyny, credir i'r bachgen geisio neidio ar y rhaff o flaen y drams, ac iddo golli ei droed, a syrthio i'rllawr, pryd yr aeth y ddwy dram drosto, gan ei ladd yn y man. Yn fuan wedi hyny, lladdwyd plentyn o'r enw Margaret John, merch fechan i D. John, Bute Street, Treorci, trwy i gert perthynol i Mr W. Phillips, grocer, fyned drosti. Y mae cydymdeimlad mawr a rhieni y plant anffodus. DYWED bryshysbysiad o New York ddydd Mercher diweddaf, fod yr Indiaid wedi llosgi tref Guallcysville, Arizona, ac wedi lladd 35 o bobl wynion. Y MAE y Ddirprwyaeth apwyntiedig gan y Llywodvaeth er chwilio i mewn i achos damweiniau mewn glofeydd, wedi fcrefnu ail ymweled â Deheudir Cymru ar yr 8fed o'r mis presenol, ac i aros am wythnos. DYWED hysbysiad fod y Hong Gleam, o Abertawe, wedi myned yn ddrylliau yn Port Nolloth. Achubwyd rhan o'r dwy law, ond bod pump o honynt wedi eu colli. Y DYDD o'r blaen, rhuthrodd buwch at un Mrs Jarret, yn Castellnedd, gan ei gwthio yn erbyn mur breswyldy yn ymyl, a dywedir y buasai y fuwch wedi ei chornio oni buasai i ddyn yn ymyl ei hachub. Y MAE strike yn awr yn mhlith mwn- wyr Karpitz yn Awstria. Ymgyfarfydd- asant nos Sul, a phenderfynasant ymuno a strike mwnwyr y Dux. Y maent yn gofyn am godiad yn eu eyflogau. Y maent yn derbyn yn awr o 3s. i 3s. 6c. y dydd. Y maent yn gofyn hefyd am wneud i ffordd a dirwyon. Y mae y menywod, wedi eu harfogi a choed, yn cerdded yr heolydd, ac yn rhwystro pawb nad ymunant a'r strike i weithio. 0 FLAEN ynadon Bow Street, dydd Sadwrn diweddaf, cyhuddid bachgen ieuanc o'r enw Albert Young, telegraph clerk, yn byw yn Spotborough, Don- caster, o anfon Ilythyr bygythiol at y Frenhines. Y-mae ei brawf wedi ei ohirio. ODDIWRTH don areithiau glowyr Gogledd Cymru y dyddiau diweddaf, y mae yn fwy na thebyg y bydd iddynt ail ymaflyd yn eu gwaith yn gynar yr wythnos hon. Nid ydynt yn gweled un priodoldeb i barhau y strike a newynu eu teuluoedd. BOREU dydd Gwener diweddaf cyfar- fyddodd glowr o'r enw William Price a'i ddiwedd yn dra disymwth trwy gwymp cloden yn un o lofeydd Ferndale. Mae y trancedig yn gadael gweddw a phed- war o amddifaid, heb unrhyw ddarpar- iaeth ar eu cyfer. MAE mudiad ar droed yn mhlith morwyr Liverpool er cael ychwaneg o gyflog. Y mae y llongwyr yn ymddang- os yn ystyfnig yn ngwyneb y cais, er fod codiad wedi cael ei roddi mewn amgylch- iad neu ddau. DiDD Llun diweddaf, yn ystod yr ystorm o fellt a tharanau, lladdwyd dau geffyl gwerthfawr yn agos i'r Ddinas, Cwm Rhondda, gan fellten. Ni adawyd unrhyw ol ar y cyrff. CAFODD dyn o'r enw John Keene ei lofruddio nos Sul diweddaf yn King William's Town, swydd Cork. Y mae dau ddyn, o'r enwau Timothy a Michael Keeffe wedi eu eymeryd i fyny o ddrwg- dybiaeth o fod a law yn y gwaith.
LLOFRUDDIO GWRAIG
LLOFRUDDIO GWRAIG A PHLENTYN YN SKIPTON. Cymerodd llofruddiaeth dwbl dychryn- 11yd le dydd Mawrth yr wythnos ddi- weddaf yn Skipton. Cyflawnydd y weithred oedd Mathew J. Hunter, casglwr trethi, yr hwn a laddodd ei wraig a'i blentyn. Yr oedd y dyn wedi bod yn isel ysbryd er's wythnosau, a'r boreu hwnw yr oedd wedi gofyn i'w wraig i ddyfod i roddi tro gydag ef. 10ddeutu canol dydd, wedi eymeryd eu plentyn gyda hwynt, aethant ar hyd heol lied neillduedig. Wedi aros yno oddeutu awr, eymerodd y gwr gyllell crydd, ac a dorodd wddf ei wraig a hi, ac yna eiddo ei blentyn. Yna efe a dorodd ei wddf ei hun, ond nid yn angeuol. Y mae yn awr yn nghlafdy y lie o dan wyliadwriaeth briodol.
CAETHWASAETHYN LAGOS.
CAETHWASAETHYN LAGOS. Y mae cryn sylw wedi ei dynu at y pwne hwn trwy yr araeth a draddododd Mr Labonchere y dydd o'r blaen yn Nhy y Cyffredin, yn yr hon y dywed- ■odd efe fad cryn lawer o'r hyn a elwir caethwasanaeth dyledol yn cael ei ddwyn yn mlaen. Amheuodd Mr Courtney, is-ysgrifenydd y trefedigaeth- au, wirionedd y fath dystiolaeth, gan hysbysu nad oedd y fath beth yn cael ei gario yn mlaen yn Lagos, nac yn un- rhyw le arall yn y Gold Coast, dan lywodraeth Prydain. Ond, wedi y cwbl, y mae yn ofnus fod cryn lawer o'r arfer- iad yn cael ei gario yn mlaen. Y mae yno bersonau ag y mae eu hangen yn eu gorfodi i fenthyea arian, yn rhoddi eu plant neu berthynasau ereill yn wystlon am danynt, ac yn lie talu Hog am fenthyg yr arian, defnyddir y creadur- iaid hyny fel caethion nes telir yr arian i fyny, yr hyn ni wneir yn fynych am flynyddau. Os bydd i'r gwystl farw cyn y bydd i'r arian gael eu talu, neu ynte ddianc o'i gaethwasanaeth, y mae yn rhaid rhoddi gwystl yn ei Ie. Y mae hyn yn cael ei gyflawni o dan lygaid deddf Prydeinaidd, a chan rai a gyfenw- c ant eu hunain yn Gristionogion.
CYFARFOD MISOL GLOWYR DOSBARTH…
CYFARFOD MISOL GLOWYR DOSBARTH RHONDDA. Cynaliwyd eyfarfod misol y dosbarth hwn, am fis Mai, dydd Llun diweddaf, yn y Great Western Hotel, Great West- ern. Yr oedd yn bresenol gynrychiol- wyr o'r gwahanol lofeydd yn y ddau gwm—y Rhondda Fawr a.'r Rhondda 0 Fach. Cymerwyd y gadair gan un o'r cynrychiolwyr. Yn mhlith yr adroddiadau o'r glofeydd cafwyd fod ewestiwn y walo yn yr Ynys- hir, yn nghyd a. list prisoedd y Pedair yn Ynysfeio, wedi ei setlo yn foddhaol; ac hefyd fod y cyfeillion yn nglofa y Maerdy, gerllaw Ferndale, wedi cael eu talu ar y swllt codiad diweddaf nos Sadwrn diweddaf. Y maent yn bresenol felly yn derbyn 3s. y bunt ar eu safon bresenol. Penderfynwyd, yn ngwyneb yr atal gwaith a fu yn ystod y misoedd diweddaf yn y Coedeae a'r Hafod, fod y ddwy lofa i gael bod yn rhydd o'u holddyled- ion wrth dalu y mis diweddaf yn unig, ac i'w ystyried felly mewn llawn hawl i fuddianau y dosbarth. O'r Gelli (glo ager) daeth gerbron y eyfarfod y priodoldeb o gynal y cyfarfod uchod yn ddau flsol yn lie yn fisol, gan fod treuliau trymion ar y glofeydd er anfon cynrychiolwyr yn fisol i'r cyfarfod hwn, yn neillduol pan fyddo cyfarfod- ydd ereill i ddybenion eyffredinol yn cael eu cynal yn Aberdar, &c. Wedi cael cryn siarad ar y mater yn ol a blaen, penderfynwyd anfon y mater yn ol i ystyriaeth y gwahanol lofeydd, ae i'r eyfryw i anfon eu golygiadau arno i'r eyfarfod nesaf. Barn y cyfarfod hwn ydoedd, pa mor ddymunol bynag y gallai cynilo y treuliau fod ar rai adegau, fod y presenol, yn ngwyneb yr olwg an- foddhaol ac ansefydlog sydd ar faterion glofaol, yn anfanteisiol i fabwysiadu y eyfryw gynllun. SCHOOL BOARD.- Wedi cael amlygiad o deimladau y gwahanol gynrychiolwyr ar y pwne hwn, ychydig o ba rai hefyd a siaradent dros y glofeydd a gynrych- iolent, penderfynwyd ar fod Mr Abraham i ysgrifenu llythyr byr i'r DARIAN, yn gosod allan y wedd yr edrychir arno yn fwyaf cyffredin gan weithwyr y Cwm; ac i ddymuno arnynt i dd'od i bender- fyniad arno erbyn y cyfarfod nesaf. ACHOS IA WNOL Y BACHGEN W ALL.- Penderfynodd y eyfarfod yn unfrydol ar fod Mr W. Abraham i fyned i Lundain gyda Mr Morgan, y cyfreithiwr, yn nghyleh yr achos hwn ac nad oeddent i arbed un draul rhesymol a fuasai yn angenrheidiol i'w ddwyn i derfyniad boddhaol. Y SLIDING SCALE A CHODIAD HURIAU CYFFREDINOL.- Wedi cael adroddiad manwl gan y goruchwyliwr o sefyllfa bresenol pethau mewn eysylltiad a'r Sliding Scale, a bod yr atalfa bresenol i gytundebu o'r newydd yn codi o'r ffaith fod glowyr y glo tai wedi tynu yn ol oddiwrth yr hyn y darfu iddynt unwaith gytuno arno—cael un Scale i reoleiddio y ddwy adran, a bod y meistri hefyd wedi gwrthod sefydlu Scale i reoleiddio y glo ager yn annibynol ar y glo tai, a bod y pethau hyn gyda'u gilydd yn rhwystr, a'r prif rwystr, ar ifordd corff cyffredinol y gweithwyr i gael y swllt o godiad y mae ereill eisioes wedi ei dderbyn, fe basiodd y cyfarfod y pen- derfyniad canlynol gydag unfrydedd a brwdfrydedd mawr:— Fod y eyfarfod hwn, os bydd i lowyr y glo ddewis eto wrthod cytuno i gael un Scale i reoleiddio y ddwy adran, yn dymuno ar gynrychiolwyr y glo ager i wneud cais arall am gael sefydlu Scale i reoleiddio eu hadran eu hunain ac os bydd i'r meistri wrthod, ein bod yn dymuno arnynt i wneud apel am godiad o swllt y bunt ar unwaith, ac yn ngwyneb fod hyny yn cael ei wrthod, ein bod yn dymuno ar lowyr y cwm hwn i barotoi eu meddyliau ar gyfer trefnu ffordd arall i ofyn am dano neu derfynu y ci^undebau presenol a'r meistri hyny a Tydftont yn gwrthod y cais. Yn ganlynol i hyn, penderfynwyd fod cais yn cael ei wneud at lofeydd y dos- barth yn gofyn iddynt ganiatau fod yr holl gynrychiolwyr presenol yn cael eu hanfon i'r cyfarfodydd misol nesaf, o leiaf eyhyd ag y byddo y materion pwysig ag sydd wedi exl hagor heddyw yn aros i'w penderfynu. A bod taer ddymuniad ar yr ychydig lofeydd hyny ag sydd yn esgeuluso anfon cynrychiol- wyr i gyfarfod y dosbarth, godi at eu dyledswyddau y tro a'r troion nesaf, onide, ni fydd genym ond gadael iddynt ymlwybro goreu y medront wrthynt eu hunain, ac yn ol eu haeddianc Cynelir y cyfarfod nesaf yn y utch- ers' Arms, Ffrwdamos, dydd Llun, Mehefin y 5ed, oddigerth iddo gael ei alw yn gynt yn herwydd amgylchiadau. Ceir y llythyr ar fater yr ysgolion yn y DARIAN nesaf. WM. ABRAHAM.
DYODDEFIADAU YR IUDDEWONI…
DYODDEFIADAU YR IUDDEWON YN RWSIA. Llawer sydd wedi ei gyhoeddi yn ddi- weddar yn nghylch dyoddefiadau yr Iuddewon yn Balta. Oddiwrth fanyl- I ion sydd wedi cyrhaedd, yr ydym yn cael fod dros 1,000 o dai a 300 o fas- nachdai wedi eu llwyr ysbeilio, a'u gwneud yn anaddas i breswylio yn- ddynt; fod 161 o Iuddewon wedi derbyn niweidiau corfforol, a bod yr holl bobl- ogaeth Iuddewig mewn perygl o gael eu newynu. Dywed un gohebydd fod 6,000 o deuluoedd heb ymborth ac angenrheidiau bywyd ereill, a bod plant yn meirw o eisieu bwyd a chynhes- rwydd; fod pobl mewn oed yn newynu, heb ddim ganddynt ond yr hyn sydd am danynt. Mai nid terfysg ond lladrad [ oedd yn cael ei ameanu a'i gyflawni. Dywed yn mhellach nad oes dim o flaen canoedd lawer ond mewyn os na ddaw cynorthwy i rywle.
AT LOWYR Y GLO TAI.
AT LOWYR Y GLO TAI. ANWYL GYFEILLION,—Dymunaf eich hysbysu fod ewrdd misol gohiriedig glo- feydd y glo tai i'w gynal dydd Llun nesaf, Mai yr 8fed. Yr wyf wedi barnu mai hwn yw y lie mwyaf eyfleus i gynal y ewrdd y tro hwn. Caiff y eyfarfod nesaf benderfynu pa le y cynelir ei ol- ynydd. Taer ddymumir arnoch i ym- drechu bod yn bresenol mor lluosog ag y byddo modd. Y mae amryw bethau o'r mwyaf eu pwys mewn eysylltiad a'r dyfodol buan i'w gosod ger bron. Cynelir y ewrdd yn yr Ifor Hael, Llwynypia, ac i ddechreu am 12 o'r gloch.- W .ROYAL.
- AT Y PEIRIANWYR.
AT Y PEIRIANWYR. Bydded hysbys i bawb o beirianwyr y West y bydd eyfarfod yn cael ei gynal yn y Landore Inn, Glandwr, nos Sadwrn, Mai y 6ed, am haner awr wedi chwech o'r gloch yn y prydnawn. Yr oedd yn dda iawn genyf weled eymaint yn y cyfarfod diweddaf, ac yr wyf yn gobeithio y bydd llawer iawn yn ych- waneg yn y cyfarfod nesaf, gan y bydd y brawd sydd i fod i gynrychioli y peirianwyr yn y Bwrdd Cymodol yn bresenol.—UNDEBWR.
PWYLLGOR SLIDING SCALE Y GLOWYR.
PWYLLGOR SLIDING SCALE Y GLOWYR. Dydd Gwener diweddaf cynaliwyd pwyllgor perthynol i Sliding Scale De- heudir Cymru a swydd Fynwy, yn y Mackworth Hotel, Abertawe, pryd yr oedd yn bresenol Mri Nettle, E. Daniels, Pierce, Glassbrook, a W. H. Mouse, ysgrifenydd, a Mr Isaac Evans ar ran y gweithwyr. Y pynciau oeddynt i gael sylw oedd- ynt y rhai a ddaethant o Clydach- Merthyr, Cwm Tawe. Cynrychiolid ewmni Mri Cory, Yeo, & Chyf., gan Mr J. Roberts. Y pynciau oeddynt,— 1. Fod y gweithwyr am newid y drefn o weithio y lofa—o fod yn lofa glo mawr i fod yn lofa glo trwyddo, a hyny. am fod y glo yno yn dynerach nag y mae wedi bod. Yn awr pan y lleinw glowr ei ddram olo mawr, bydd ganddo 45 y cant o lo man yn y dram i gael ei dynu yn ol; ond pan y ileinw glowr lo trwyddo, fod ganddo lawn 75 y cant o lo m&n yn y dram, fel y mae yn amlwg pa fath lo aydd yn y lofa i lanw y glo mawr o hono. Yr ail fater oedd yn nghylch gweithio y nos, y dynion yn gofyn tai am chwech twrn am weithio pump. Gofynodd y cadeirydd i Mr Evans a oedd efe wedi dyfod yno A llawn hawl i weithredu ar ran y gweithwyr, i'r hyn yr atebodd ei fod. Yna gofynwyd iddo roddi o flaen y cyfarfod yr annealldwriaeth. Yna dywedodd Mr Evans fod y dynion yn hawlio llanw glo trwyddo o herwydd fod y lofa yn y fath sefyllfa a nodwyd. Yn nghylch pwne y nos, mai talu chwech twrn am bump oedd trefn De- heudir Cymru, ac nad oedd y gweith- wyr yn gweled y dylent fod yn eithriad. Dadleuwyd y pwnc am beth amser, pryd y gofynwyd i Mr Roberts a Mr Evans i ymneillduo, fel ag i'r pwyllgor ystyried y neater eu hunain. Yn mhen awr, galwyd ar y ddau i mewn drachefn er cael y penderfyniad, yr hwn oedd fel y canlyn:— Fod y pwyllgor, dros ddosbarth Aber- tawe, wedi clywed y vddwy ochr, yn ystyried fod y pynciau hyn yr un ag oeddynt yn 1879, a thrwy hyny ei fod yn cymeradwyo ar fod i gymdeithas y meistri gefnogi y cwmni os bydd i'r gweithwyr strikio.-IsAAc EVANS.
[ CYFARFOD Y SLIDING SCALE…
CYFARFOD Y SLIDING SCALE YN NGHAERDYDD. Cynaliwyd cyfarfod unol o gynrych- iolwyr y meistri a'r gweithwyr perthynol i'r Scale ddydd Sadwrn diweddaf. Wedi peth ymddyddan, deallwyd fod glowyr y glo tai yn gofyn Scale wahanol iddynt hwy eu hunain. Gwrthwyneb- ai y meistri hyny yn benderfynol, gan ddangos hefyd y byddai cael Scale unol yn gymaint o gaffaeliad iddynt hwy ag i lowyr y glo ager wrth gymeryd yr holl flwyddyn gyda'u gilydd i ystyriaeth. Nad oedd cynrychiolwyr y glo tai ag un hawl i weithredu ond gyda golwg ar Scale wahanol, ac felly gorfuwyd gohirio y cyfarfod eto am dair wythnos, er rhoddi i'r cynrychiolwyr hyny y cyfleus- dra o gyfarfod a'r glewyr a gofyn am ganiatad i ymuno a glowyr y glo ager. Ar y diwedd pasiwyd y penderfyniad canlynol:— Y mae yn ofidus fod y cyfarfod eto wedi ei ohirio, a hyny o herwydd fod cynrychiolwyr y glo tai wedi eu cyfar- wyddo i ofyn am Scale ar wahan oddi- wrth lowyr y glo ager, er eu bod yn Chwefror diweddaf wedi cytuno i gael un Scale i holl lofeydd y gymdeithas. Wedi ymddadleu hir penderfynodd ey- nrychiolwyr y meistri nad ystyrient hyd yn nod Scale a gweithwyr y glo ager, os na byddai i lowyr y glo tai benderfynu boddloni i ystyried y pwne ar safon un Scale i holl lofeydd y gym- deithas.' Penderfynwyd ar fod i'r cyfrifolygwyr wneud archwiliad i lyfrau y gwahanol lofeydd, a gwneud adroddiad o gyfartal- bris y glo a anfonwyd i Gaerdydd, Cas- newydd, ac Abertawe am y pedwar mis yn diweddu Ebrill y 30ain, 1882.
ABEEDAR-HÙN ANLADDIAD.
ABEEDAR-HÙN ANLADDIAD. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf cyflawnodd dyn o'r enw Thomas Fudge, 24 oed, cerbydwr yn ngwasanaeth Mrs Thomas, Ysguborwen, hunanladdiad trwy ymgrogi yn y cerbyd-dy. Yr oedd y trancedig mewn sefyllfa meddwl isel am wythnosau yn flaenorol, ac wedi dymuno ei fod wedi marw.
CYFNEWIDIADAU YN Y LLYWODRAETH.
CYFNEWIDIADAU YN Y LLYW- ODRAETH. Mae yn cael ei siarad yn gyffredin mewn cylchoedd politicaidd fod cyfne- widiadau pwysig ar gymeryd lie yn y Weinyddiaeth, ond gan nad oes dim eto yn wybyddus, nid gwiw gwneud Ilawer o awn. Dywedir fod Arglwydd Selborne yn rhoddi i fyny ei swydd, a dau neu dri ereill yn debyg o'i ganlyn.
ACHOS IAWNOL Y BACHGEN WALL.
ACHOS IAWNOL Y BACHGEN WALL. Tebyg iawn y bydd yr achos hwn wedi ei ddwyn i derfyniad yn Llundain cyn y gwelo TARIAN arall oleu ddydd. A chan y bydd cyfeillion o Gymru yn gorfod myned tuag yno i'r treil, odid na fydd y darn drws yn eu plith. Os felly, yr wyf yn cynyg, pan fyddo yr orymdaith alarus yn dynesu at byrth y llY8 cyfreithiol, fod rhyw gyfaill—Mabon, neu rywun arall mewn hwyl Gymreig, yn rhoddi allan yr emyn canlynol, gan obeithio na fydd y canu arno yn sarhad ar y c6r Cymreig: Bydd myrdd o ryfeddodau Ar doriad boreu wawr, Pan ddelo'r darnau drysau I gyd o'r pyllan mawr; Oil yn eu coffrau gwynion, Ac ar ysgwyddau'r "Bwm" Yn debyg idd eu gilydd Bydd Shon, a Dai, a Twin. x T
r CASTELLNEDD.
r CASTELLNEDD. Nos Sadwm diweddaf, cymerodd bndd- gyngerdd D. Harris le yn neuadd y dref. Llywyddwyd gan y maer. Cymerodd y cantorion canlynol ran ynddi :Mrs Rees (Eos Meudwy), a Miss Harry (Llinos y Llan)-y ddwy gantores oreu a fedd Briton Ferry; Miss Thomas, Tondu; Master Dannie Protheroe, Ystradgynlais—canwr bach nodedig, ac enillwr yr alto solos yn eisteddfodau Abertawe a Merthyr Mr W. Williams, Briton Ferry; Mr A. Phillips, Caatellnedd; Mr W. Thomas, Llausamlet. Mr B. Griffitbs, Briton Ferry dan barti o Briton Ferry a Chastellnedd dan arweiniad Mri J. Griffiths a J. Arnold, ac ychydig ereill o gantorion. Yr oedd y program yn faith, fel y gorfuwyd adael amryw o ddarnau heb eu canu o ddiffyg amser. Cafwyd cyngerdd dda iawn, a thebyg y ca y fifaeledig Harris dipyn o elw.
BRITON FERRY.
BRITON FERRY. 'The Start Mt Zt/f.'—PerSormiwyd y gwas- anaeth cerddorol nchod nos Ian diweddaf yn Bethesda gan y Band of Hope, dan arweiniad Mr Thomas Jon«i £ 3tt9*yfemwyd gan Mr D. Morris. Cafwyd cyngerdd fach hapus a chynulliad da.
MOUNTAINIASH.
MOUNTAINIASH. Y mae cyfanswm mawr o hadau gerddi &c., a'r rhai hyny o r mathau goreu a mwyaf newydd wedi eu derbyn gan G. H. White, Chemist, &c., Mountain Ash. Gellir cael llyfryn, yn cynwys rbestr o'r hadau, &c., am ddim, ond galw am dano.
LLWYDCOED, ABERDAR.
LLWYDCOED, ABERDAR. LLO HYNOD.—Daeth buwch perthynol i Mr David Daniel, Llwydcoed House, a llo pur hynod nos Wener diweddaf, Ebrill yr 28ain. Y mae yn pwyso 101 pwys, a chan- ddo dri ewyn ar bob un o'i draed blaen. Efe yw y mwyaf a welwyd erioed yn yr ardal. Un fechan yw y fuwch, ond y mae yn un hynod laethog.
EISTEDDFOD UNDEBOL MOUNTAIN…
EISTEDDFOD UNDEBOL MOUNTAIN ASH, A CHAD AIR DYFFRYN CYNON. Dydd Llun, Mai laf, cynaliwyd yr eis teddfod uchod yn nghapel y Rhos. Llyw- yddwyd, yn absenoldeb D. Davis, Ysw., Maesyffynon, gan y Parch J. Howell, (B.), Mountain Ash. Arweinydd y dydd, a beirn- iad y farddoniaeth, &c., Watcyn Wyn. Beirniad y gerddoriaeth, Mr W. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion). Cyfeilydd, Mr E. James, Mountain Ash.
CYFARFOD Y BOREU.
CYFARFOD Y BOREU. Wedi ychydig sylwadan gan y llywydd, awd yn mlaen yn y drefn a ganlyn:— Anerchiadau gany beirdd canlynol:—Harri ap Gwilym, J. Jones, ac Ap Valant, yr hwn a anercbodd y ddau feirniaid fel yma:— Y gwyn a gawn yn gain i gyd,—a bardd Byw, arwr mawr "Bywyd Ei wit ef a'i wen hefyd, Dania hwyl dynion o hyd. Pencerdd Eifion mewn gwirionedd,—a 0 eithaf y Gogledd [ddaeth Aur enw gwr o rinwedd, A iach farn, eofiwch, a fedd. Can agoriadol gan J. Jones (Gwalch Alaw). Beimiadaeth yr englynion ar I Ffydd, Gobaith, a Chariad;' un yn cystadlu, acyn deilwng o'r wobr, ond ni atebodd i'w enw. Beirniadaeth y bryddest ar Pererindod un yn cystadlu, sef Ap Valant, ac yn deilwng o haner y wobr. Canu 'Now heaven in fullest glory shonepump yn cys. tadlu—goreu, J. Williams, Mountain Ash. Canu y bedwarawd, I Yr hen, hen, stori;' dau barti yn cystadlu—goreu, D. Phillips, Aberdar, a'i gyfeillion. Can gan Eos Cynon, Blodwen F'anwylyd.' Canu corawl, 'Jer- usalem my glorious home;, un odr yn cys- tadlu, sef Providence, Mountain Ash, o dan arweiniad E. Williams, ac yn deilwng o'r wobr. Daeth hyn a gwaith y cyfarfod boreuol i derfyniad. Nid oedd neb yn cys tadlu ar Onid oes balm yn Gilead,' deuawd Y Brawd a'r Chwacri" nac ar yr Alargan.
CYFARFOD Y PBYDNAWN.
CYFARFOD Y PBYDNAWN. Wedi ychydig sylwadau pwrpasol iaWn gan ein parchus lywydd, cafwyd can agor. iadol, Hen Wlad fy Nhadau,' yn swynol iawn, gan Gwynalaw, U.C.W., Aberaman, a'r dorf yn uno yn y cydgan. Canu I Saf- odd a mesurodd y ddaear; I n aw yn cystadlu rhanwyd y wobr rhwng Gwynalaw ac Eos Cynon, Aberdar. Canu 'Let the bright Seraphim;' dwy yn cystadlu, a rhanwyd y wobr rhyngddynt, sef Mary J. Price, Mountain Ash, a Sarah Ellen Parker, Heolfach, Rhondda. Adrodd 'Y Bywyd- fad I (Emrys); 26 yn cystadlu. Etholwyd dau o'r twr, rhai a gawsant adrodd yn y festri, i adrodd yn y capel, a rhanwyd y wobr rhwng y ddau, sef Jas. Phillips, Aberaman, a Thos Chas. Morris, Cap Coch. Canu corawl,1 Yr Arglwydd sy'n tayrnasn;' dau g6r yn cystadlu, sef Penheolgeryg, Merthyr, a Pentyrch, yr hwn, o dan ar- weiniad Mr Williams (Bryn), a gafodd y wobr. Beirniadaeth y traethawd ar Ddy- ledswydd dyn mewn cymdeithas; saith. i fewn—rhanwyd rhwng Socrates, sef B. Griffiths (Index), Aberafon, a Chymdeith- aswr Cywir. Beirniadaeth yr awdlau; dwy i fewn—goreu, Pererin Blin, sef N athan Wyn Heolfach, Ystrad, brawd Dyfed. Wedi galw y beirdd i fyny i'r Ilwyfan, arwein- iwyd Nathan i'r llwyfan gan Tiberog ac Hywel Cynon, ac wedi ei osod yn y gadair, can odd Hywel 'See the conquering hero comes,' yn cael ei uno gan y dyrfa. Awd trwy y seremoni o ofyn 'A oes heddweh* § jn,a £ Wyn, ac yn gweinio'r cledd a ddahai Watcyn yr oedd Dyfed. Yna an- erchwyd ef yn y drefn a ganlyn Nathan Wyn aeth yn heiny'—i'r gadais Gyda rhwysr eleni; Ac ar y brawd y ceir bri Yma'n dirion mewn deri. i, u Swm y prês am gynhes glin Aeth yn syth i nyth Nathan.-DYFED. Awdl y' Sabbath' aeth Nathan,—a chadair, A chwdyn, ac arian: 'Nawr ei lwydd trwy Gymru lan Enillo o hyn allan. Am y ganiad pum' gini,—a chadair, A chwdyn ddaeth i chwi; 0 Boed eich clod yn ymgodi, Hynaws frawd, i gynhes fri.-TIBEEOG. Pererin oamp arwrol,—yw ei g&n, ,r Mae yn gerdd gadeiriol; Ei awdl ef deil hi o'i ol 1 Dros byth yu dra I Sabbothol WATCYN WYN. Barddol dAn ein Nathan ni,—a'i cododd I'n cadair uchelfri A'i odiaeth gorff ddaeth gwedi Yn lion iawn i'w llanw hi. HARRI AB GWILYM. Ein Nathan Wyn a fyn fod,-ie, beunydd Yn benaf mewn 'steddfod; Ei awen glws dania ei glod Yn ddirfawr ffiam ddiddarfod. Ap VALANT. C&n gan Eos y Garth,' Baner ein Gwlad.' Canu glee, I The Mighty Conqueror;' ped. war parti yn cystadlu, Merthyr, George- town Merthyr, Aberdar, a Mountain Ash- rhanwyd y wobr rhwng y ddau olaf, y cyntaf o dan arweiniad Daniel Jones, a'r llall dan arweiniad Eos Hefin. Dygodd hyn waith yr eisteddfod i der- fyniad, gan nad oedd un c6r yn cystadlu ar y prif ddarn. Cafwyd cynulliad tra llnosog, a chyfarfodydd gwir ddyddorol, heb braidd un tipyn o gynen o'r dechren i'r diwedd, a chredwn i'r beirniaid wneud eu gwaith er boddlonrwydd i bawb. ey- hoeddwyd fod yr eisteddfod i'w chynal eto mewn un dydd a blwyddyn. Gobeithiwn fod hon wedi troi i'r pwyllgor yn llwydd- ianus. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngerdd, pryd y daeth tyrfa dra lluosog yn nghyd. ac y llywyddwyd gan W. Bevan, Ysw., Penrhiw- ooibr. Gwasanaethwyd gan y personau canlynol:—D. Colemon a'i barti, James Bosher a'i ferch fechan yn chwareu deu- awdau ar y berdoneg a'r harmonium. Cyf- eilydd, Mr E. James. Soloists, Mary J. Price (Llinos Buallt), J. Williams, J.Jones, J. Pritchard, W. Jones, D. Morgan, D. Davies, a Thomas Evans. Cafwyd cyngerdd dda, a diweddwyd yn y modd arferol. HARRI AB CWILYM.
--CELF A MASNACH.
CELF A MASNACH. CABRDYDD. Yr oedd yr allforion glo o Gaerdydd yr wythnos ddiweddaf wedi bod yn fwy o 26,000 o dynelli na'r wythnos o'r blaen, ac er fod yr allforion mor fawr a. boddhaol, eto fe ddywedir y gellir dys- gwyl y byddant yr un mor fawr am yr wythnos hon. Cyfanswm y glo a all- foriwyd oedd 131,761 o dynelli.
ABEBTAWE.
ABEBTAWE. Y mae y gwelliant a gymerodd Ie yehydig wythnosau yn ol yn sefyllfa allforawl y porthladd hwn yn parhau yn dda, ac nid oes amheuaeth na fydd y eyfanswm am Ebrill y mwyaf sydd wedi ei gael am amser.
Advertising
Summer Fashions, 1882. :8:- LEWIS'S SHOW-ROOMS Are now RE-OPENED with a. Splendid Show of Millinery, Mantles, Dress Materials, Hosiery, Gloves, &c. 11, Commercial-place, Aberdare MAY 1st, 1882.
BWRDD YSGOL ABERDAR.
BWRDD YSGOL ABERDAR. Y mae yn dda gan drethdalwyr Aber- dar weled fod aelodau etholedig y Bwrdd yn dechreu teimlo eu bod yn thwym o sefyll droa yr hyn a gredant sydd yn iawn. Nid cael eu hanfon yno i sefyll dros y gadair-bydded gam, bydded uniawn-a gawsant, ond eu hethol fel dynion o farn eu hunain, ac i weithredu yn ol y farn hono. Credwn fod eu barn yr un a barn a'u hetholwyr yn y mater y tynwyd eu sylw ato gan y cadeirydd y tro diweddaf, sef mater Miss Evans, gan obeithio y byddant hwythau yr un mor benderfynol a'r cynygydd yn y dyfodol gyda golwg ar y pwnc. Yn y rhifyn nesaf bydd genym hanes cyflawn o'r holl weitlirediad- au a gymerodd le yn yr eisteddiad diweddaf.