DARLLENWCH ERTHYGLAU (16)

News
Copy
YR WYTHNOS. YN y gyngherdd a gynaliwyd yn Saron nÓ8 Iau wythnos i'r diweddaf, clywsom Hywel Cynon yn dweyd fod yn mwriad y cyfaill parod a'r datganwr rhagorol, Mr J. Lake (Gwawr Morlais), Aberaman, i ymfudo o'r wlad hon i Affrica. Hyder wn y gwneir sylw o awgrym caredig Hywel Cynon, sef cael compl mentary concert i'r cyfaill cyn ei ymadawiad. Y mae y cyfaill Lake yn deilwng iawn o wneuthur hyn iddo. Y mae efe ei hun wedi bod yn barod i gynorthwyo ereill, a. hyny gyda'r parodrwydd a'r sirioldeb mwyaf. BOREU dydd Llun diweddaf torodd tan dinystriol allan yn Clevedon Court, preswylfa Syr A. H. Elton, Barwnig, ger Briste. Y mae darn helaeth o'r adeilad wedi ei ddinystrio, a llawer o henafiaethau gwerthfawr wedi eu colli. Yn y rhan henafiaethol o'r palasdy y torodd y tan allan. YGHYDIG wedi pump o'r gloch, pryd- nawn dydd Llun diweddaf, tarawyd i lawr ddyn, oddeutu 22 oed, ac ya anad- nabyddus yn y lie, gan y peiriant ar dramffordd y Mumbles, Abertawe, ac a laddwyd yn y fan. Yr oedd y dyn yn dyfod o'r traeth tua'r ffordd fawr, a bemir na chlywodd efe y rhybydd a roddwyd iddo. Cafodd'ei gorff ei chwil- friwio yn fawr. BOREU dydd Iau diweddaf, yn Waver- tree, Liverpool, dinystriwyd ty un Mr Banner gan d&n. Diangodd yr holl deulu ond y forwyn, Mary Ann Dogherty, 15 oed, yr hon a aeth yn ol i ryw bwrpas, ac a losgwyd i farwolaeth. BOREU dydd Iau diweddaf, tra yr ymgeisiai pump o bilots gyrhaedd llong mewn caledi yn y Frith o Forth, trodd y cwch wyneb i waered, a boddwyd yr oil. Yr oedd pedwar o honynt yn briod, a theuluoedd ganddynt. Y MAE Mri Henry Sate, Liverpool, a R. S. Hudson, Batche Hall, wedi addaw tanysgrifio bobo fil obunau at Brif Ysgol Gogledd Cymru, os bydd i'r Llywodraeth benderfynu ar Dinbych fel y lie y mae i gael ei hadeiladu. WRTH ateb gofyniad mewn cysylltiad i ddychwelyd dynion gweithgari'r senedd —a'r rhai hyny o ddaliadau Rhydd- frydol, y mae Mr Gladstone yn dweyd y carai efe yn fawr weled nifer mawr o'r cyfryw gynrychiolwyr yn Nhy y Cyffre- din, a bod gweithwyr i'w beio yn fawr eisieu eu bod yn cael eu cynrychioli yn well. Y MAE yn awr yn cael ei hysbysu yn swyddogol mai y Parch Thos. Theo- philus, Ficer Pontlotyn, sydd wedi. ei benodi yn olynydd i'r Parch Edward Jones, Ficer Tredegar. BOREU dydd Sadwrn diweddaf cafwyd allan fod tan dinystriol yn lamproom glofeydd Barrow, ger Barnsley, a chyn ei fod wedi cael ei roddi allan, yr oedd y tan wedi dinystrio agos i chwe' chant o lampau gwerthfawr. Yr oedd cyfan- swm mawr o olew yn y lie. Y MAE mudiad ar droed yn awr i dori camlas drwy ynys Ramisaram, yr hon ynys sydd yn nghanol y channel sydd rhwng y cyfandir Llywodraeth Mad- ras ac ynys Ceylon. Fe ddywedir fod digon o arian wedi eu haddaw gan fas- nachwyr, ond cael caniatad y ilywodr- aeth Indiaidd. Cyfrifir y bydd i'r ym- gymeriad wedi ei gwblhau fod yn achub- iaeth o ddeuddydd neu dri yn y daith rhwng Llundain a Madras a Calcutta, wrth fyned a dychwelyd. Y MAE swyddogion heddgeidwadol Dublin yn parhau yn eu hymchwiliad am lofruddwyr Phoenix Park, ac y mae yn fwy na thebyg fod yn eu meddiant y cyfryw hysbysrwydd a gyfiawnha yn fuan gymeriad i fyny ddau neu dri o bersonau ar y cyhuddiad o fod a Haw yn y weith- red. CYMERODD ffrwydriad le boreu dydd Sadwrn diweddaf mewn llong Nor- wegaidd, yn mhorthladd Abertawe. Trwy y ffrwydriad rhoddwyd dillad tan- wr y llestr ar dan, yr hwn ar unwaith a neidiodd i'r dwfr, ac achubodd ei hun drwy hyny. Nos Wener diweddaf, yn agos i ben- tref Myddfai, ger Llanymddyfri, saeth- odd poacher at dri o bersonau a geisient ei gymeryd i'r ddalfa ar ystfid Mr Gwynne Holford. Archollwyd un yn ei goes gan yr ergyd, a diangodd y trosedd- wr. Nid oes gwybodaeth hyd yn hyn pwy ydoedd. DYDD Gwener diweddaf, wedi afiechyd byr, bu farw Mr Edward Edwards, gor- uchwyliwr glofa Bodringallt, Rhondda, wedi bod yn y swydd fel goruchwyliwr am 15 mlynedd. Yr oedd yn 60 mlwydd oed. Yr wythnos ddiweddaf yr oeddym yn cofnodi marwolaeth ei frawd yn America. DYDD Iau yr wythnos ddiweddaf, yn nglofa. Fforchaman, cyfarfyddodd hen wr or enw David Bowen, Aberaman, a'i ddiwedd trwy i gwymp syrthio arno. Y mae y lofa hon wedi bod yn anflodus am ddamweiniau yn ddiweddar. Y mae yn sicr bellach y dechreuir gweithio ar y reilffordd o'r Rhondda i Abertawe mor gynted ag y ceir meddiant o'r tiroedd trwy y rhai y mae y ftordd yn myned. Nos Fercher yr wythnos ddiweddaf, yn Aberafon, bu farw gwraig labrwr o'r enw Taylor yn dra disymwth. NID yw marchnad haiarn Barrow mewn cystal sefyllfa ag y mae wedi bod, eto y mae y ffwrnesi yn cael eu cadw yn mlaen, a'r gwneuthmwyr hyd yn hyn yn gwerthu yr holl gynyich, end nidyw y galw cystal ag £ y mae wedi bod, yn gartrefol a thramor. Ni ddysgwylir un cyfaewidiad er gwell, hyd derfyn y flwyddyn bresenol. Y mae gwneuthur- wyr dur yn parhau yn brysur. Y MAE meistri a swyddogion glofa y Dinas yn gobeithio y bydd iddynt ddyfod o hyd i holl laddedigion y pwll o hyn i'r Nadolig. YR ydym yn cael fod tri o lowyr a fuont yn defnyddio y Muesler lamp yn y Cymer, wedi myned i Lundain, yn nghwmni Mabon, i roddi eu tystiolaeth ar 7 cyfryw. NID yw masnach lo Cwm Rhondda mor fywiog ag y mae wedi bod. Y mae yn awr amryw o'r pyllau yn colli dydd- iau o waith yn wythnosol, yr hyn sydd yn effeithio yn fawr ar amgylchiadau y gweithwyr. DYDD Sul diweddaf, yn Mountain Ash, bu farw Mrs. Elizabeth Jones, y pres- wylyddes henaf yn y lie, yn 95 oed. Yr oedd yn meddiant o'i holl alluoedd hyd y diwedd, ac wrth farw a ffarwelio, dy- wedodd, Yr Arglwydd a'ch bendithio oil." YR ydym yn cael fod cerbydau new- yddion i godi glo yn nglofa Treharris wedi eu gosod i fyny. Bydd i'r rhai hyn godi pedair tramed o lo ar y pryd, tra y cymerir hefyd bedair tram wag i lawr.yr ochr arall. Dywedir y byddis yn fuar yn alluog i godi o'r lofa hon, yr hon yw y ddyfnaf yn Ngbymru-yn 700 troedfedd o ddyfnder—o 1,500 i 2,000 o dynelli o lo. Y mae y cwmni hwn yn wir deilwng o lwyddiant, nid yn unig am eu hegnion a'u hanturiaethau mas- nachol, ond hefyd am eu cefnogaeth i bob llesiant crefyddol a chymdeithasol yn mhlith eu gweithwyr.

News
Copy
GWEITHRED YSGELER ARALL YN DUBLIN. Fel yr oedd un Mr D. J. Field, un o ddinasyddion cyfrifolaf Dublin, yn dy- chwelyd oddiwrth ei fasnach prydnawn dydd Llun, ac yn ymyl ei dy, ymosod- wyd arno gan ddau ddyn, gan ei dry- wanu chwech o weithiau. Diangodd y troseddwyr mewn cerbyd, tra nad oes un gobaith am adferiad Mr Field. Yr unig esboniad a ellir ei roddi am y weithred yw, fod Mr Field yn un o'r trengholwyr a gawsant Walsh yn euosr o lofruddiaeth yr heddgeidwad Kavanagh.

News
Copy
AT DANWYR (FIREMEN) CWM ABERDAR A'R RHONDDA. Bydded hysbys i chwi y cynelir cyfar- fod gan y frawdoliaeth uchod yn y Butchers Arms, Pontypridd, prydnawn dydd Sadwm, Rhagfyr yr 2il, pryd y taer erfynir am gael un fireman o bob pwll trwy y ddau gwm yn bresenol (os gall rhagor nag un ddyfod, goreu oil); ond gobeithir nad esgeulusa yr un pwll, trwy y Rhondda ac C, Aberdar anfon un yno i'w cynrychioli, am fod rhai cwesti- ynau o bwys yn galw am ein sylw difrif- olaf, a hyny heb oedi. Dechreuir y cyfarfod mor agos ag y gellir i chwarter cyn pump yn y prydnawn ac ond i bob un ddyfod yn union o'r trên, gallwn gael ryw ddwy awr i drafod ein materion cyn y bydd galwad arnom i ymadael am y tren diweddaf. Cofiwchylle a'r dyddiad —Butchers' Arms, Pontypridd, Rhagfyr yr 2il, am chwarter cyn pump o'r gloch y prydnawn.

News
Copy
GWRTHDARAWIAD AR DUEDDAU ABF-RTAWE-LLONC, WEDI. SUDDO A'R HOLL DDWYLAW. Am oddeutu deg o'r gloch, nos Sul diweddaf, daeth y Hong Ffrancaeg Cam- bronne, yn rhwym o Gaerdydd, i wrth- darawiad a'r agerlong Marian, perthynol i Lundain, ac yn rhwym o Abertawe i Copenhagen, a suddodd y flaenaf ar unwaith, ac ar ei bwrdd 14 o ddwylaw. Pigwyd y meistr, y mate, a bachgenyn, gan yr agerlong, y rhai a laniwyd yn Abertawe IJOS Lun.

News
Copy
DAMWAIN AR REILFFORDD— CERBYDRES YN SYRTHIO ODDIAR BONT-AMRYW WEDI EU LLADD. Derbyniasom fryshysbysiad nos Lun diweddaf, yn rhoddi ar ddeall fod dam- wain arswydus wedi cymeryd lie ar gangen Macduff a Tariff o reilffordd Great North of Scotland. Fel yr oedd y gerbydres oedd yn ddvledus yn Aber- deen am 6. 40. yn croesi pont rhyw 30 o filldiroedd o Aberdeen, gollyngwyd yr oil i'r afon islaw. Credir fod o lelaf ddeg o bersonau wedi eu lJadd, ac amryw wedi eu hanafu. Anfonwyd cerbydres a meddygoia o Aberdeen ar unwaith i le y galanas. Y manylion heb eu derbyn.

News
Copy
MUDIAD Y RHUBAN GLAS YN ABERDAR. Y mae cyfeillion dirwestol y lie hwn wedi dechreu ar ail bymthegnos o gyf- arfodydd mewn cysylltiad d mudiad y Rbuban- Glas, y rhai sydd yn addaw bod yn boblogaidd. Y mae Mr. W. Dunn, (y converted clown) yn siaradwr poblogaidd, yr hwn sydd i anerch y cyf- arfodydd trwy yr wythnos hon.

News
Copy
LLOFRUDDIAETH ETO YN YR IWERDDON—Y LLOFRUDD WEDI EI GLWYFO A'I DDAL. Nos Sadwrn diweddaf cymerodd helynt llofruddiog arswydus le yn Dublin. Gwnawd ymosodiad ar rai o swyddogion y gyfraith, a saethwyd un o honynt yn farw, tra y mae dyn a gymerodd ran yn yr helynt wedi ei archolli yn beryglus. Y mae y gwylwyr heddgeidwadol yn ddiweddar wedi bod yn gwiio nifer o ddynion a gredid oedd wedi cymeryd rhan yn ngweithredoedd llofruddiog a Ffeniaidd Dublin. Y mae personau neillduol wedi eu penodi i'w gwylio, a chael allan unrhyw hysbys- rwydd a ellid yn eu cylch. Y mae rhai 0 honynt wedi bod yn y ddalfa o'r blaen mewn cysylltiad a llofruddiaeth y Pare a gweithredoedd ereill. Y mae y gwyl- wyr hyn wedi cael lie i dybied yn ddi- weddar eu bod hwythau yn' cael eu gwylio gan y personau drwgdybus hyn. Nos Sadwrn diweddaf bu y gwylwyr yn ofalus wylio nifer o'r dyhirod hyn. Ychydig wedi deg o'r gloch gwelwyd nifer o honynt, a dybid a berthynent i gymdeithas ddirgelaidd, yn dyfod allan o Earl-street, yr hon sydd yn arwain i Sackville-street. Aethant i lawr yr heol olaf, ac i Middle Abbey-street, ac i mewn i dafarn. Y swyddog Eastwood a'i gwelodd hwynt gyntaf, gyda'u gydym- aith Cox, y rhai ar unwaith a roddasant arch i ychwaneg o'u cydswyddogion i ddyfod i'r lie. Felly, daeth chwech o'r gwylwyr heddgeidwadol i gongl Middle Abbey-street a. Sackville-street, ac a arosasant yno. 0 Abbey-street y mae culffordd yn arwain i lawr i'r traeth, yr [ hon a elwir Bachelor's Walk. Gwelodd yr heddgeidwaid bump o ddynion yn y gulffordd hon fel pe yn gwylio. Gadaw- sant y lie hwnw, gan gerdded i lawr Abbey-street tua Chapel-street, oddeutu haner can' Hath. Canlynwyd hwynt gan y gwylwyr swyddogol, y rhai a ran- asant eu hunain yn ddau o drioedd. Cerddasant yr ochr arall i'r heol i'r dynion a ddrwgdybient. Yr oedd y tri cyntaf wedi eu harfogi a llawddrylliau, a'r tri olaf a ffyn yn unig. Croesodd y tri swyddog cyntaf ar draws yr heol. Wrth weled hyn, defnyddiodd nn o'r rhai a ddrwgdybid chwibanogl, y rhai ar unwaith a safasant yn ngwyneb yr hedd- geidwaid. Yr oedd Cox, Eastwood, a Stratford, y pryd hwn ar haner groesi yr heol, a gwelodd Eastwood ddryll yn Haw un o'r dynion. Gwaeddodd ar Cox i gymeryd y dyn hyny i'r ddalfa, gan gyfeirio at y dyn a'r llawddryll. Neid- iodd y dyhiryn y naill ochr, ac anelodd at Cox, gan ollwng dau ergyd ato-tra mewn llathen iddo—a saethwyd y swyddog yn ei ben, fel y bu farw. Ni syrthiodd y truan ar unwaith, ond ym- aflodd yn y dyhiryn, ac aeth y ddau i'r llawr yn nghyd. Tynodd yr heddgeid- wad Eastwood ei lawddryll allan, gan saethu at yr hwn a saethodd at ei gyd swyddog, ac hefyd at yr hwn oedd gyda y troseddwr. Saethwyd o'r naill ochr a'r llall. Cydiodd Eastwood yn un o honynt, a phan yn gafaelyd ynddo, cydiwyd ynddo yntau o'r tu ol gan un arall o'r dyhirod. Wrth edrych o'i ol, adnabyddodd Eastwood ddyn o'r enw Devine, yr hwn a'i tarawodd fel y syrth- iodd. Ceisiodd godi, ond gollyngwyd dau ergyd ato, ac aeth un trwy ei het, a'r llall trwy ei lawes. Syrthiodd ei lawddryll hefyd o'i law. Gwaeddodd Eastwood allan, "A feiddiwch chwi danio, Devine?" Ond ni wyddus a feddyliodd efe wneud ai peidio. Ar yr adeg hon, wrth glywed y saethu, daeth Sergeant Danvers, perthynol i'r R fles, i fyny, a'i gleddyf wrth ei ochr. Galwodd Eastwood arno yn enw y Frenhines i'w gynorthwyo. Cydiodd y milwr yn ngwddf Devine ag un Haw, gan dynu ei gleddyf a'r llall, gan fygwth ei ladd yn y man os gwnelai un osgo o amddiffyniad. Cydiodd Eastwood hefyd yn Devine, ac wrth roddi ei law ar draws ei fynwes, cafodd fod ganddo ddau lawddryll llwythog. Er na chy- merodd yr holl helynt ond ychydig fynydau, daeth cryn dorf i fyny, ac yn eu canol fenyw feddw, yr hon a waedd- odd, Na adawer y milwr i ddianc saether at y milwr." Gorchymynodd yr heddgeidwad i'r edrychwyr symud yn ol, yr hyn a wnaethant, a chyn terfynu diangodd y gweddill o gwmnj y dyhirod. Rhoddwyd Cox a'i lofrudd mewn cerbyd, gan eu gyru i glafdy Jervin-street, ond erbyn cyrhaedd yno, yr oedd Cox wedi hen farw. Nid oedd Cox ond 25 oed, ac yn ddyn o gymeriad rhagorol. Rhoddodd y Uofrudd ei enw yn Christopher Dooley, 30 oed, gasfitter. Yr oedd yntau wedi der- byn un ergyd yn ei ben, un yn ei wddf, a'r llall yn ei fraich. Gofynodd a gelai efe farw—nad oedd waeth ganddo am hyny —eu bod oil yn ddynion da. Bernir mai o'r braidd y gall ofe wella. Heblaw y ddau lawddryll, cafwyd yn llogell Devine chwibanogl, a'r hon y rhoddwyd yr arwydd cyn dechreu yr ymosodiad ac hefyd pedwar saetb parod i'r llaw- ddryll. Y mae yn un o'r cymeriadau gwaethaf, wedi bod yn y carchar rai gweithiau o'r blaen, ac yn 30 oed. Wedi cael ei roddi yn ei gell, cysgodd yn dawel a difraw. Am ddau o'r gloch yn y boreu, torodd y swyddogion i dy un William Woodward, gwaeuthurwr or- ganau, yr hwn a gafwyd yn y gwely. Gosodasant lawddryll wrth ei ben, gan fygwth ei ollwug os gwnelai unrhyw wrthwynebiad. Protestiodd yn erbyn ei gymeryd i fyny, ond cymerwyd ef i'r ddalfa i aros ei brawf. Y mae un Rian hefyd wedi ei gymeryd i fyny dan y cy- huddiad o fod â. Haw yn yr helynt hwn.

News
Copy
DAMWAIN DRUENUS AR BONT- SAITH 0 DDYNION WEDI EU LLADD. Ychydig wedi wyth o'r gloch, nos Iau diweddaf, syrthiodd pont fechan sydd yn croesi ilinell reilffordd Chatham a Dover, ger Bromley, gan atal trafodaeth y linell, a chafodd y gerbydres am Queens- borough ddiangfa gyfyng, yr hon a atal- iwyd i fyned rhagddi, ac wedi sefyll ar y ffordd am ddwy awr, a orfodwyd i ddy- chwelyd i Lundain. Yr ail foreu, tra yr ogdd wyth o'r labrwyr oeddynt wrth y gorchwyl o dynu i lawr weddill y bont ddrylliedig yn bwyta eu boreufwyd o dani, syrthiodd yr oil, gan ladd saith o honynt yn y man.

News
Copy
LLONGDDRYLLIAD A CHOLLIAD 27 0 FYWYDAU. Oddiwrth y manylion sydd wedi e11 derbyn yn nghylch colliad yr agerlong Winton, perthynol i Newcastle, ar du- eddau Ushant, ar y 16fed cyfisol, dy- wedir fod dau gwch, yn cynwys 28 o'r dwylaw, wedi troi wyneb i waered ar eu mynediad i borthladd Argenton, a bod yr oil, gyda'r eithri&d o un, wedi eu boddi.

News
Copy
4 CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR GLOWYR Y GLO AGER. Cynaliwyd y cyfarfod hwn ddydd Llun diweddaf yn y Bute Arms, Aberdar, pryd. yr oedd yn bresenol heblaw y cynrychiolwyr, D. Morgan, Mountain Ash, W. Abraham, E. Francis, Phillip Jones, a D. Morgan, yr ysgrifenydd. Cynrychiolid yn y cyfarfod yn agos i 17,000 o lowyr. Cymerwyd y gadair gan W. James, Hafod, a'r is-gadair gan Mr W. P. Bawden, Mountain Ash. Wedi cael adroddiad y cyfrifolygwyr gan yr ysgrifenydd, aethpwyd at y gor- chwyl o ethol aelodau y bwrdd am y tymhor dyfodol, pryd y cafwyd ar ddeall fod yr holl lowyr am ail ethol yr hen aelodau am y tymor dyfodol. Yr ail fater oedd y pwnc o leihau yr oriau gweithio neu sefyll yn fwy pen- derfynol at y naw awr. Cafwyd ar ddeall fod y glowyr yn y Deheudir, braidd yn ddieithriad, yn ffafriol i weith- io naw awr o fane i fane. Yna pasiwyd penderfyniad-Fod y cyfarfod hwn yn taer ddymuno am i'r holl lowyr trwy y Deheudir a sir Fynwy i weithio naw awr y dydd, a dim yn rhagor, gan adael ymaith yr arferiad o weithio ychydig o oriau yn fwy na'r naw awr er tori y top a'r gwaelod, &c. Penderfynwyd yn nesaf fod y cyfarfod hwn yn taer ddymuno am i'r holl lofeydd nad ydynt wedi cyfranu at achos y bachgen Wall, i wneud hyny yn ddioedi, am y rheswm fod yr arian sydd wedi eu derbyn yn rhy fach i gyfarfod a'r treuliau yr aethpwyd iddynt yn yr helynt. Yn nesaf, galwyd llechres eto o'r holl lofeydd, er gweled y teimlad o leihau llafur yn gyffredinol trwy y wlad, ac anfon cynrychiolydd i gynadledd Leeds. Cafwyd ar ddeall, modd bynag, fod yr holl lofeydd, gydag un eithriad, yn erbyn lleihau y cynyrch yn gyffredinol, nac anfon cynrychiolydd i'r oyfryw gy- nadledd. Yna rhoddwyd caniatad i Mr D. Morgan, lampman yr Ocean, a, Thomas Thomas, Porth, i ddyfod a'u lanipau diwygiedig i'r cyfarfod, er cael eu har- chwilio gan y cynrychiolwyr, ac wedi i'r ddau ddaugos ac esbonio rhinweddau eu lampau, deuwyd i'r penderfyniad fod lamp Mr D. Morgan, yr Ocean, yn rhagori ar yr ho 1 lampau ag yr oeddid wedi eu gweled yn flaenorol, ac yn llawer mwy ymarferol na'r Mueselar Lamp gyff- redin, ac yn llawn mor ddyogel. 9

News
Copy
PLYMOUTH. Anwyl Gydweithwyr.—Yr ydym ni, y rhai sydd &'n lieuwaa isod, wedi bod yn ar chwilio y rban uchaf o weitbfeydd y Plymouth, sef pwll y Winches a pllwll y Coedca, ac yr ydym ni ar air a chydwybod yn gallu tvstio fod y gweithfeydd uchod yn hoiiol rydd oddiwrth nwy, oddieithr un twll bychan yn mhwll y Winches, a hwnw i'r fen yn uchel o gyrhaedd pawb. Y mae I ynglod mawr i Mr Evans a'i is-swyddogion am eu gofal a'u medrusrwydd yn cario y I gweithfeydd hyn yn mlaen. DAVID DAVIHS, Tach. 17eg a'r 18fed. RBBS REUS. i

News
Copy
ABERAMAN. Prydnewn dydd Sol diweddaf cynaliodd Ysgol Sabbothol Libanus, Aberaman, ei chyfarfod chwarterol- Llywyddwyd gan y Parch T. C. Phillips, Mountain Ash, yr hwn a lanwodd ei swydd i'r perffeithrwydd. Yr oedd rhaglen y cyfarfod yn cael ei gwneud i fyny o anerchiadan, adroddiadau, dadleu- on, a chanu. Cymerwyd rhan yn y gwas- anaeth gan J. H. James, H. Coleman, J. S. Jenkins, W. Jonathan, E Morgan, T. Wil. liams, J. Jenkins, D. Davies, W. H. Davies, J. Goronwy. H. Price, E. Lewis, J. Jona- than, Joseph Jonathan, R. Goronwy, M. J. Prichard, G. Parker, E. Morgan, M. A. Jen- kins, E. A. Jenkins, R. Price, E. Jones, G. Lewis, E. Jonathan, A. J. Jonathan, ac M. Lewis. Chwareuwyd amryw donau yn feistrolgar yn ystod y cyfarfod ar yr bar. monium gan Miss C. Jones, Abergwawr, a W. J. Davies. Canodd y Gobeithlu amryw. donau yn swynol dros ben, dan arweiniad J. S. Jenkins

News
Copy
LLYTHYR ISAAC THOMAS, UNDER- TAKER ETO. MRI. GOL.Hwyrach bydd y darllenydd yn barod i ofyn, beth sydd gan yr hen Undertaker y tro hwn, wys, ac yn barod i ateb cyn darllen yohwaneg na'r penawd, 1 O hunan elw fi wn, fel arfer Ie, gyfaill, ond llawer mwy o elw i'r cyhoedd o'r bron, a thi gei weled hyny hefyd ar ol i ti ddar- lien y llythyr hwn. Gan mai hysbysiad yw fy ysgrif bresenol, teg fydd i'r darllenydd ei ddarllen a'i gymeryd fel y cyfryw. Pan bydd y Sais yn hysbysu ei fusnes, y mae yn cymeryd y manyldra mwyaf i ddangos y fantais sydd ganddo i werthu ei nwyddan yn rbad, trwy ddangos eangder ei fusnes," yn nghyd a rhagoriaeth ei nwyddau ar ereill; paham, o ganlyniad, y mae yn rhaid i mi fod y tu ol i'r lien, o herwydd gallaf ddweyd heb wrido, mai yn fy meddiant i y mae y sefydliad mwyaf yn Ngbymru o'r bron, ac hefyd yr wyf o lawer yn rhatach nag tmthfw sefydliad arall pa bynag. Y mae yn dra thebyg nad oes yr un Under. taker yn y Dywysogaeth wedi gwneud cynifer o goffiaiau a mi yn ystod amser mor fyt ag ugain mlynedd, sef 18,700—deunaw niil a saith cant, a tbrosodd I ac ar gyfar. taledd am y gostyngiad o bunt yn mhob coffin yn ol yr hen brisoedd cyntefig, fe wel y darllenydd fy mod wedi arbed yn union- gyrchol i'r cyhoedd 18,700p. yn ystod yr ngain mlynedd a basiodd, a chofied y dar llenydd fod ami i bunt wedi aros yn llogell yr hen Undertaker, fel y ma.e erbyn heddyw wedi cyrhaedd y safon fel y gall gystadlu yn ei fusnes A holl Undertakers Gymru a Lloegr. Ond yr hyn a barodd i mi gymeryd y pin mewn Haw y tro hwn, yw o herwydd fy mod eto yn ystod y chwech mis diweddaf wedi gostwng prisoedd y coffiniau yn agos i'r baner o'r prisoedd arferol, sef gwneud coffin i berson yn ei faintioli, wedi ei or chuddio A coburg du y tuallan, yn ngbyd a gwlanen a wadding oddifewn, gyda registered trimming8 goreu am y swm ar arferol o isel, set 41 5s, a polished coffin gyda'r solid brass nau brtlania metal trimmings, neu wedi ei oichuddio gyda brethyn du a'r unrhyw trimmings am X2 10s., a phob mathau a maint am y gostyngiad cyfatebol, a gallaf eu trosglwyddo gyda'r train i unrhyw fan mewn cylch ugainonilldir o ffordd am 2s. 6c. yn ychwaneg na'r pris uchod. Ond ar i mi ostwng mor angbyffredin yn y prisoedd, y mae yn ymddangos i mi fod rhyw hen wrageddach ac ereill trwy wa hanol ranau o'r wlad, yn treio darbwyllo'r bobl fy mod yn eu camarwain, gan ddweyd nas gallaf fi na neb arall wneud y coffiniau mor rhad ag yr ydwyf yn hysbysu ar y DARIAN. Cofied y cyfryw fy mod yn dweyd yn ddigon gwyneb-agored y gallaf, ac y mae genyf ddigon yn barod yn y gymydog. aeth i brofi fy mod yn dweyd y gwir, ond yr wyf yn dra amheus a all un Undertaker yn Nghymru eu gwneud am yr un prisoedd. Gan mai hysbysiad yw fy llith presenol, y mae genyf hawl gyfreithlon i osod unrhyw wirionedd gerbron y darllenydd a fydd er mantais i mi a'r cyhoedd yn gyffredinol. Dacgosaf y rheswm fy mod yn gallu eu gwneud mor rhad fel y eanlyn. Nid wyf yn myned i'r siop i brynu dwy lath o wlanen, neu frethyn, neu coburg ar y tro, a thalu y ddau bris am danynt; na, nid felly, onide nis gallwn fod mor rhad yn fy mhrisoedd; ond yr wyf yn prynu gwerth ugeiniau o bunau ar y tro. Telais y dydd o'r blaen yn un bill am drapery 92p., a hyny i un o'r tai blaenaf yn y Dywysogaeth. Yr wyf yn prynu y trimmings yn werth can oedd o bunau ar y tro, ac y mae yn fy meddiant heddyw werth llawer o ganoedd o bunau mewn stoc, o'r arian i lawr hyd at y trim. mings cyffredin. Yr wyf yn prynu y coed wrth y deg a'r pymtheg tynell ar y tro, a'u cael o'r marchnadoedd goreu yn yr boll wlad. Yn awr, darllenydd, ti weli ar ol i ti ddarilen hwn, na fydd gwiw i hen wragedd- ach i dreio camarwain gweddwon ac am. ddifaid yn eu trallodion a u galar pan yn mron ymlethu o dan y tonau, a phan y byddi yn myned i'r conference y tro nesaf, dywed wrthynt am ddarllen y DARIAN, a chant y prisoedd, yn nghyd a fy enw inau fo mod wedi cyhoeddi yr oil ar air a chyd- wybod na wnaf yr un twyll na hoced a neb, ond yr hyn a ysgrifenwyd a ysgrifenwyd. Ydwyf, yr eiddoch fel arfer, yn onest a. didwyll,— ISAAC THOMAS, Undertaker. 24 & 25, Seymour-st., Aberdar. 0 Y.-Na thwyller neb gan y man Under. takers sydd yn codi fel cicaion Jonah trwy'r gymydogaeth, fod ganddynt gerbydau at wasanauth angladdau. Oni wyr pawb trwy'r ardal nad oes htarse na mourning eoach gau neb yn Aberdar ond fy hunan, a'r cyfryw o'r goreuon a fedd Cymru, ae i fy swyddfa i, ac nid i un man arall y mae i bawb fyaed i ymholi am danynt, a chant eu gwasanaeth yn bresenol yn rhatach nag erioed.-I. T.

News
Copy
Quinine Bitters GWILYM EVANS. Y MAE hwn yn gymysg celfyddydg* a ffodus dros ben. Cynwysa Qumiat Sarsaprilla, Seffron, Lauender, Dandd* lion. Gentian, a Burdock, sef yr oil o'i darpariadau a nodasom, yn y fath gJ. modedd fel ag i sicrhau c ydweithrediad llwyddianus ar yr oil o elfenau gweith" gar y cyffeiriau, er cyrhaedd a dyogeftl y dybenion daionus mewn golwg wrth ei gyfansoddi. Cyfaddefir gan brif fedd- ygon y dydd fod Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans y cydgymysgiad mwyal hapus ag sydd hyd yma wedi ei wneud o'r cyffeiriau uchod. l:

News
Copy
EU GWEITHREDIAD. Y maent yn cynorthwyo traul yr ymA borth, yn gwellhau a hwylusu y cylchj rediad, yn cryfhau y giau a'r cyhyrau, ac yn puro a ffrwythloni y gwaed. Y mae y cymysglyn hwn yn gryfboir cyff- redinol, ac yn lanhaydd effeithiol. Nertha y rhanau eiddil yn y cyfansoda. iad, ac o herwydd hyny y rhai mwyal agored i anwydon a'u canlyniadau. Y maent yn adnerthu ac yn adfywiochau 9 cyfansoddiad a'r tymherau, ac ar gyfrfi hyny y maent wedi enill iddynt eu han. ain y gymeradwyaeth uchelaf ar gyfel pob math o wendidau, a sefyllfa isel, nychlyd, a marwaidd y corff. Pan yn galw sylw at y tystiole.ethall canlynol, dymnnem adgofio y darllenydd eu bod oil yn dyfod oddiwrth bersonafl cyfrifol yn ngwahanol gylchoedd cym. deithas, yn dyfod trwy fferyllwyf (chemists), adnabyddus y rhan amlaf 0 honynt, o bob rhan o'r wlad, yn cynwys cyfeiriadau ac enwau y personau a %I preswylfod, ac yn tystioiaethu y gellil yn hawdd brofi eu teilyngdod drwy anfon at y personau eu hunain. NM gellir dweyd fel hyn am lawer o dIP- tiolaethau ereill. Nid oes nemawft ddiwrnod yn myned heibio heb fod p* chenog y Bitters hyn -yn derbyn cymer. adwyaethau i'w heffeithiolrwydd. Rose eottage, Aberdar, Tachwedd lOfed, 1880, GAHEDIG SYR,—Yr wyf yn awr wedi cyfleu i wneud prawf teg a gonest o'r QA nine Bitters cyfansoddedig genych chwi, A yr wyf yn gallu tystio oddiar brofiad pX sonol thystiolaethau amryw bersonau l OK sonol a thystiolaethau amryw bersonau l OK rai yr wyf wedi cymeradwyo y Bitters, 00 bod yn meddu yr elfenau, y nodweddau, S"I rhmweddau a hawliech iddynt. Yn V flwyddyn 1876, cefais gystudd trwm MM wyth mis, ac y mae rhai o effeithiau y 0VR> tudd hwnw wedi aros gyda mi hyd heddyWi Bu yn achos o ddychryn i mi ddyfod ol Uofft ar hyd y grisiau i'r llawr rhag cwympo, Bu y cof, y cylla, a'r aelodau yn peiqjhl gwneud eu gwaith; ond mae y Bitters well gwneud llawer iawn er symud hyn oil, Mae y cof yn llawer gwell, maA vr aelodau ya lach a chryfion, tra mae y Bitters yn CftII awydd am fwyd, ac yn help mawr i dreutio yr hyn a dderbynir i'r cylla. Bu amser pan ag oedd dal yr ysgrifbin yn faich i mi, ond yn awr gallaf ysgrifenu yn ddigryn fel yn y dyddiau gynt, fel y gwelwch wrth y llythyi hwn. Nid ees genyf yn awr ond dymuno 0 galon Ilwyddiant i chwi i wasanaethu eiob gwlad a'ch cenedl am flynyddau lawez dd'od. Yr eiddoch, garedig Syr, yn wir sercbog1 THOMAS PRICE, Baptist Minister. Llwynpia, Hydref 21, 1880 ANWYL SYR,—Wedi clywed llawer am etea Quinine Bitters, penderfynais roddi pralll arnynt. Bum am rai misoedd yn cael fy mhoeni gan anhwylder cyffredinol, diffyg chwaeth at ddim, iselder ysbryd, ao at brydiau poen angerddol rhwng fy ysgwydd. au, yn codi, yn ddiau, oddiar afiechyd y Liver. Ond da genyf eich hysbysu fy m<x| wedi cael llwyr iachad; teimlaf yn awr mot iach fy ngorff a bywiog fy ysbryd ag y teimlais nemawr erioed, wedi derbyn 9 honwyf y budd hwn trwy gymeryd eiob darpariaeth fyd-enwog. Mae dyledswydd yn fy ngorfodi i anfon y llinellau hyn, gall eich gosod at eich rhyddid i wneuthur y defnydd o fynoch o honynt. Dymunaf i chwi bob llwydd i wasanaethu eich cenedl. Yr eiddoch yn gywir, J. R. JONES, Baptist Minigfog Mynydd Cynffig, SYR,—Bum yn dyoddef llawer oddiwrth ddolur yn fy mhen, iselder ysbryd, diffyg archwaeth at fwy<?, ac ar ol ei fwyta, bUh: der mawr. Prynais botelaid 4s. 60. odeD. wrth Mr. Richard Jenkins, Kenffig Hill, &8 ar ol i mi ei chymeryd, teimlais fy hun wedi fy adferu i'm iechyd arferol, ac yn ajlnog i ddilyn fy ngalwedigaeth. Yr ydwyf weal eu oymeradwyo i eraill, a thystiolaeth y rhai hyny yw eu bod wedi derbyn lies anrhaethol trwyddynt, a byddaf yn teimlo yn ddyledswydd arnaf eu cadw bob amflei fel trysor penaf y teulu. JOHN LLWYD (IOaUICYUfW-

News
Copy
GOFALED PAWB AM HYN. Gan fod amrywiol o ddarpariadau Quinine i'w cael, megys Tincture 01 Quinine, Quinine Wine, Quinine Mir ture, &c., y mae rhai ymofynwyr am Quinine Bitters Mr. Gwilym Evans ya cael eu twyllo a'r pethau hyn yn y moacl mwyaf dideimlad a digywilydd Wrth geisio hwn gan yr Apothecarlf nid digon yw gofyn fel hyn, "Poteltudo Bitters," "Potelaid o Quinine Bitters," nac ychwaith "Y Quinine yna," Ontl gofaler gofyn am "Quinine Bitters Afif, Gwilym Evans," ac os na fydd yr enw Gwilym Evans, F.C.S.,M.P.S., wedi el ysgrifenu ar Stamp y Llywodraeth at bob potel, twyll a ffugiad ydynt. Pit y Potelau yw 2s. 9c. i 4s. 6c.; mew blyohau, 12s. 6e. yr un. Cynwysa Poteli 4s. 6c. ddau eyre. a rhd 2s. 9c., ac felly gall y ppynw arbed Is. wrth gymeryd yvriiai nT^yafl