Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
,;,-;¡r_. LEREWARD
,¡r_. LEREWARD YR OLAF O'R SAESON. PENOD XXXI. Da Hereward yn ol dan grynu. O; ii ngallu y ddewines o Brandon, -dd i Torfrida yn dainiwed, a dim yn alluog i dori dylanwad ? es trwy ryw ddylanwad gwrth- V- >oi. r er?odd Torfrida, gan ysgwyd ei pbJ:)j, 'Fy -archog, yr ydwyf er ys amser mail idi rhoddi heibio y fath ynfyd- rwy-?.- Nid gwiw ymladd drygioni 4 3ry:i ond ynhytrach a daioni. Gwell y h eddiau na dylanwadau dewinol, can-; < mae gweddiau yn cael eu gvT;! ■ i; w yn y nefoedd, tra nad yw uyUr- ;lau dewinol ond yn disgyn i'r p7 "> -law. Gadawer i ni, fenywod Tj-t yn orymdaith at ffynon St. j&tfc^Idreda, uwehben porthladd Aldreth, f. a. I iio ar St. Etheldreda am fod gyda »>•" nod y gwneir yr ymosodiad, ac s i{ a ein Ely ac anrhydedd y men: y wc i ld wedi cymeryd lloches yn ei Is e. .iusantaidd." J'eiiv. cerddodd holl fenywod Ely yn t\T kdth hyd at ffynon St. Etheldreda, sa 0., u harwain gan Torfrida, a hyny Lev 7isg ac ymddangosiad gostyng- lai yr addunedasant beidio byth eu ^.louvli ymaith nes y gwelent luoedd ad yn diane o Aldreth o flaen f\ Etheldreda. Felly, gweddiodd y it:?-; yod, tra yr oedd Hereward a'i Vi: v gweithio wrth yr amddiffy iaf ey dd. y daethant yn ol, a Torfrida yn golcci e, thraed clwyfedig wedi y per- ■zrh" daeth Hereward i mewn. dych wedi anafu eich traed, ac *itb yn ddim gwell trwy hyny yr •^yf yn ofni." 0 pe buaswn wedi cerdded yr hoi' So dd ar ellynau miniog, buaswn y: okhiJ boddlon er cael gwybod yr i M a a i yn awr. Fel y gweddiwn, 7-Vy ;hftls ar draws y Ffen, a rhoddodd iiheiu^iia feddylddrych i mi; ond y :naf:: mor ofnadwy fel yr wyf yn ofni ei ri* svf.? j wrthych, ac eto hyny yw ein ,-j-g o aith." I v iv unodd Hereward arni ei hysbysu, prvfl y daradodd bethau fel un ag ofn -t-.i gcir'au ei hun. 'A 3g y cyrs, Hereward?" C!"sar odd Hereward ei throed dra- a thrachefn, gan ei galw yn j Oyddes a gwaredyddes. si, gwnant fel us yn y sychder A.iWI. -weddiwch Torfrida am i'r sych- ic1* barfcau." Dyna, dyna, peidiwch a siarad dim yn ychwaneg. Mor galed y mae rhyfel a gvvac ud hyd yn nod menywod. Cy- north'vywch fi i gymeryd ymaith y it-ii hwn, fel y gallwyf wisgo fy ciilt1.d ct a." Yoe<ld William yn y cyfamser wedi Byinnri fyddin yr eilwaith i Cambridge, AC Q nlaen i faes Willingham, gan d i yny fynyddoedd o amddifiyn- tpydd. Yna dechreuodd ail wneud ei ji'ord.i--yn lletach a chadarnach, gan o-cbyrovn hefyd i bysgotwyr yr Ouse i diyf ou (,'U holl gychod i Cotinglade, a turosg^wyddo drosodd yr holl angen- hei(i F Yn eu plith daeth Hereward A" gv, • a'i ben a'i farf wedi eu heillio rha £ idao gael ei adnabod, gan weithio vn dor yd efo'r lleill. Ond ni fachlud- odd yr haul heb i ddrwg gymeryd lie, carhoddodd yr oil ar dan, a lladd- çyd. a boddwyd rhai o'r Ffrancod. 'nally yr aeth efe yn mlaeu gyda'i » /nll .vynion am saith niwrnod, yn ym. laud va barhaus, ond heb wneud diwr- rooJ •? waith yn hyd yr arcser. Ond ar yr wyfchfed dydd, penderfynasant ym- ',sc,j,p' yr ynys, gan gymeryd yr hen dc!e^r,€S gyda hwynt, a'i gosod mewn Ilu a: sg, fel y gallai weithio allan ei diSVjSUi., ;?th. Y c Id Torfrida wedi myned yn wir o £ dus, Ac er y credai ei bod wedi cael ei hysb ydoli gan St. Etheldreda mewn ey iytti d a'r hyn yr oedd hi wedi ei d "twey.1 wrth ei gwr, eto, gwyddai y » <'ddai ;ddo wneud defnydd o'r drych- i a hyny er dinystr dychrycllyd. gwasgfeion marwolaeth o flaen j hYói<d yn barhaus, fel nad allai roddi h hi 'w hamrantau. Yr oedd am oriau £ ic; i yn nghyd mewn gweddi yn yr Sj/i wys ymprydiai, a chospai ei chorff a tAiin. L, gan ymgais at wneud iawn am ei p ie' lod, os oedd yn bechod hefyd. frTJ'jit-biodd ei hun i fyny i'r fath sefyllfa y <!vchymygai ei bod yn gweled St. Hi ,1 eldoda yn y cymylau yn achosi di- o 1 >llol ar y Ffrancod. pan yr elai y dynion i lawr i ham y prydnawn hwnw, march. -,ia T rfrida ar farch gwyn, wedi ei Rttis^'O i sachlian, a llyffetheiriau am ei caoe&au. Galwodd ar y milwyr Saes- 'r+; i Irych arni fel esiampl o'u cyflwr r. II- J'i: gaethion heb eu llwyr orchfygu. Meiifc tai buddugoliaeth o'i llygaid; a 1"1 v. daeth y Normaniaid yn mlaen i i gwelent Torfrida yn droednoeth a; yi; sn-noeth, a'i gwallt yn chwifio yn Y" -wel, ac un fraich iddi yn ddyrch- tua'r nefoedd, fel eiddo Moses gynt p;, n yr oedd yr Israeliaid yn ymladd y.n f rt /n Amalec. •hi: rchai y Saeson arni, a gwaeddent ie yn broffwydes! Byddwn yn J wneud rhyw weithred ryfedd y ÜydÜ wn, neu farw o gwmpas ei thraed Ce gw oniaid Ar i chyfer ar y twr Normanaidd, yr Caod ,r hen ddewines hagr o Brandon, fs; iiv- a waeddai am yr ystorm o fellt a thatanau, yr hon na ddaeth, ac aros- odd yr awyrgylch heb gwmwl. Yr oedd y bont newydd mor gryfed fel yr antur- iodd William ei hun arni ar gefn ceffyl, ac Ivo Taillebois wrth ei ochr. Yr oedd William yn amheus o allu y ddewines, a theimlai gywilydd braidd o honi; ond yr oedd yn sicr o'i bont, ac o allu y gynau a'r arfau yn ei feddiant. Yr oedd Ivo Taillebois a chrediniaeth ddiysgog yn y ddewines a'r bont. Arosodd William am godiad y llanw, a phan yr oedd yn agos i'w uchder, gorchymynodd y gynau i agor eu tan, a chlirio y Saeson oeddynt ar eu cyfer. Dechreuodd yr offerynau dinystriol hyn daflu eu dinystr trwy yr awyr. "Yn ol!" ebe Torfrida, "paham yr aroswch i gael eich dinystrio o dan y fath dan dinystriol ? Aroswch yn dawel, ac edrychwch am heddyw pa fodd yr ymladda y saint o'ch plaid." Ufyddhaodd pob dyn i'w gorchymyn, a thynodd yr oil allan o'r amddiffynfa. Y mae y cowardiaid yn dianc eisioes. Gadewch i'ch dynion fyned yn mlaen, 0 Frenin," ebe Taillebois. "Yn mlaen, wyr. Tarewfh dros Normandy!" gwaeddai William. » Yn mlaen yr elai y milwyr, ac heibio yr hen ddewines, yr hon a waeddai, Yn mlaen, y mae ysbryd y ffynon yn ymladd o'ch plaid." "Ymladdwch drosoch eich hunain," ebe William. Yr oedd ugain Hath o ddwfr clir rhwng y Ffrancod a'r Saeson. Dim ond ugain Hath. Teflid saethau, yn nghyda phethau ereill ar draws, a gwelid ami i un o'r Ffrancod yn disgyn ar ei wyneb i'r dwfr, i edrych, fel pe byddai, am y rhai oeddynt wedi myned i lawr yr haf blaenorol. Ugain Hath o ddwfr i'w groesi, a thrysoraa diderfyn bron i'w cael ond ei groesi. Ehoddasant ar y dwfr goed, cychod, a. phethau o'r fath, gan ei heidio, heb gymeryd sylw yn y byd o'r rhai a syrth- ient i'r dwfr yn eu hymyl, a'r rhai a estynent eu dwylaw am achubiaeth. Y mae ganddynt ddewines yn erbyn ein dewines ni, Ivo, ac un llawer harddach. Yr ydwyf yn ofni y byddus yn debygacah o wrandaw arni hi nac ar ein hen wrach fudr ac ysgyrnog Fsydd genym ni." Yr oedd caniadau Torfrida yn cael eu cario ar draws y dwfr gan yr awel, nes yr oeddynt yn boddi mwmiadau dibaid a baldorddus yr hen wrach. Y mae yn gweled mwy nag yr ydym ni." U GweIaf yr oil," ebe William, "y mae wedi dangos iddynt pa le i danio y cyrs. Dacw fwg—tan! Un arall eto Y mae y cyrs oil ar dan, ddynion, cymerwch ofal," ebe Ivo.
GLOWYR Y FFOREST OF DEAN.
GLOWYR Y FFOREST OF DEAN. AT LOWYR DEHEUDIE CnfRu. Mewn cyfarfod lluosog o lowyr y Fforest a gynaliwyd nos Sadwrn diweddaf yn y Town Hall, Cindeford, er ystytied y cwest- iwn o leihau y cynyrch glo, yn mhlith peth- au ereill, pasiodd y cyfarfod y penderfyuiad canlynol:— Teimla y cyfarfod hwn yn ofidus fod glowyr Deheudir Cymru wedi penderfynu gweithio ychwaueg nag wyth awr y dydd, Yn gweled fod oriau hirion yn y glofeydd wedi cynrychu effeith ddeifiol ar fasnach y wlad i gyfalaf a lIafur, a thrwy i un rhan- barth weithio mwy na'r Ileill, dosberthir y fasnach yn anghyfartal, a bydd i'r glowyr mewn canlyniad niweidio eu gilydd. Felly, geilw y cyfarfod hwn ar lowyr y Deheudir i beidio a gweithio mwy nag wyth awr y dydd, a thrwy hyny, gadael i ranbarthau cymydogaethol i gael rhan yn y galwad am lo cartrefol a thramorol, gan weled fod masnach lo y Fforest wedi clerbyn niwed, a bod Lifer fawr o weithwyr wedi eu taflu allan o waith. Pasiwyd penderfyniad arall, yn anog fod Mr Bradlaugh i gael cymoryd ei sedd dros Northampton; ac un arall, yn cael ei ategu mewn araeth ryixus gan W. Brown, o North Stafford, yn galw ar y Llywodraeth i wneud cyfraith er rhyddhau y tiroedd cenedlaethol oddiwrth flieidd-rwyniedigaethau disgynol o'r naill i'r llall, fel y mae yn bresenol. Yn ystod y cyfarfod anrhegwyd Mr Rymer, goruchwyliwr y gweithwyr, ag oriawr a chadwyn arian, fel dangoseg o barest y gweithwyr tuag ato. 0
MARW WEDI DYCHWELYD.I
MARW WEDI DYCHWELYD. £ mae amgylchiad dyddorol newydd gymeryd lie mewn cysylltiad a rhyfel diweddar yr Aifft. Y mae marine, a glwyfwyd gan ddarn o splinter o dan- belen yn Tel-el-Kebir, ac a adawyd ar y maes fel marw, ond a gymerwyd i fyny wedi hyny gan ymchwilwyr i glafdy, ac a anfonwyd i Cairo, wedi dychwelyd. Aeth rhag ei flaen i Chatham, ond nid oedd neb yno yn awyddus am ei adnabod. Ar ddiwrnod talu, efe a ofynodd am ei dal, ond cafodd ei fod wedi ei nodi ar y lechres fel wedi marw. Cafodd beth gwaith i argyhoeddi yr awdurdodau ei fod y person iawn, ac a anfonwyd yn mlaen i Portsmouth.
Advertising
Argraffwaith! Argraffwaith 11 Argratrwaith Anfonwch am bris Argraffwaith o bob math, megys Cylchlythyrau, Billheads, Memo Forms, Hysbysleni, Programs Eisteddfodau, &c. Swyddfa I Tarian y Gweithiwr, Aberdar.
BEIRNIADAETH CYFANSODD-IADAU…
BEIRNIADAETH CYFANSODD- IADAU EISTEDDFOD Y NELSON. Marwnad i'r diweddar Mr Thomas Phillips.—Derbyniwyd 8 o farwnadau. Sylwn arnynt fel y dygwyddant ddyfod i'n Haw, heb eu rhesu yn ol teilyngdod, ond yr unig nodi'r goreu yn olaf:- Llef o'r fynwent.—Dechreua yn rhag- orol, mewn teimlad fine iawn ond wrth fyned rhag ei flaen, y mae yn colli tir yn enbyd. Erys yn rhy hir gyda hynafiaid y gwrthddrych, ac y mae y darn hwnw o'r gan yn sych a diaddurn. Y mae cyffelybiaeth y "gronyn gwenith" yn feichus o faith. Buasai dwy linell i'r pwynt, yn llawer iawn gwell na'r darn maith sydd ger ein bron. Gallem nodi allan lawer o ddiffygion ereill yn y farwnad hon, pe manylem arni, ond awn heibio, gan fod yma rai yn ddiamheuol ragori. Symleiriog.-Y mae y farwnad hon o ran ei gwisg allanol yn benigamp; ond nid yw ei mewnolion yn gwbl cystal, er ei bod yn meddu llawer o deilyngdod drwyddi. Gallem feddwl fod llediaith Seisnig ar y bardd, gan ei fod yn colli yn barhaus yn nhreigliad y llythyrenau; megis, "ambell milwr," "enw yn ei thysni," "dadleuai iddynt meddwl," "e'feddai cymwysderau," "ei fychain praidd," awel bywiog," clywai moli- anus odlau," "i'r gwynfydfythol," &c. Heblaw hyny, nid yw yn hapus bob amser yn ei ffugyrau; megys, Yr hwn barhae'n ffyddlon hyd y diwedd Gaiff goron o saerniaeth anfarwoledd." Nid gwaith saer ydyw llunio coron. Amheuwn briodoldeb y gair anfarwol- edd," hefyd yn y cysylltiad hwn. Teimlwn nad oes yn y gan ddigon o wres a theimlad fel ag i hawlio mynych ddar- lleniad. Y mae yma fwy o ben y bardd, nag o'i galon yn dyfod i'r golwg. Y mae yn ffyddlon i'r gwrthddrych, yn goeth ac yn eglur. Un Alarus.-Marwnad gyffredin iawn ydyw hon. Nid yw yn ddim amgen na rhyddiaeth odlog. Y mae yn wallus mewn iaith, cymylog o feddwl, ac yn dra amddifad o'r teimlad hwnw ddylai fod yn nodweddu cerddi o'r natur hyn. Wele engrhaifft o'r farddas hon:- "Gwyddai, barnai, fe adwaenai 'R natur ddynol yn o lew; Ni chollfarnai eefydliadau Hen, am dybiau bas, a blew." Un a'i adwaenai.-Dechreua yn dyrier iawn fel hyn.- Bu farw" yw'r frawddeg sy'n ttfri o hyd Ar linell ein cysur a'n hedd— Mor ami y dygir ni wyneb yn wyneb A cbystudd ac angeu a'r bedd Rhyw rai o'n cvfeillion hebryngir yn gyson 1'r bedd tywyl!, mud; Nes myned o'r clwy sydd ar waelod ein Yn ddyfnach o byd. [calon Ond wrth fyned rhagddo i gofnoai nod- weddion y gwrthddrych, syrth i gyffred- inedd rhyddiaethol. Heblaw hyny, y mae yn ail ddweyd yr un pethau, ac ar brydiau yn gosod y "cart o flaen y ceffyl," "Ni chafodd nemawr iawn hyfforddiad foreu'i oes' Mewn vn elfenol ddyeg, na phondefigaidd foes. Wedi hyn cawn ef yn yr ysgol Sal; ond yn sydyn y mae y bardd yn neidio yn ol dros y cwbl, ac yn dweyd :— Ni anwyd ef mewn llys dan wenau ffawd, 0 uchel waed nid oedd yn ol y cnawd." Dylasai y llinellau hyn fod o flaen y rhai sydd yn cyfeirio at ei addysg, canys pe buasai wedi ei eni "dan wenau ffawd" ac II 0 uchel waed," buasai mewn mantais i gael yr CI hyfforddiad boreu oes," a'r bendefigaidd foes," y cyfeirir atynt. Ond y mae y bardd fel pe wedi deall fod y cart yn mlaenaf, ac yn ail adrodd yr un peth mewn trefn i gael y "ceffyl i'w Ie :— "Ni wyddai chwaith am feddu uchel ddysg, Goreugwyr byd, a'r teitlau sy'n eu mysg." Dywed hefyd mai "Ei ysgol wylaidd ef oedd aelwyd csrtref mad." Ond yn y penil nesaf dywed, Yr Ysgo1 Sul yn unig dan y nef Fu ei athrofa." Wedi crybwyll am ei dlodi, a'i ddiffyg addysg, dywed, 0 "Ni welodd doeth ragluriiaeth nef y nef Yn dda ei alw nac ei osod ef Yn Ynad." Naddo bid sicr; onide buasai wedi gweled yn dda roddi addysg iddo yn moreu'i oes." Y mae yn gwella tua'r diwedd; ond gellir dweyd mai y rhag- arweiniad, a'r diweddglo yw y pethau goreu yn y gan. Hen wr blin ar fin ei fedd.—Cerdd hollol naturiol, heb ddim o'r chwydd- iaith annymunol sydd yn nodweddu rhai ger ein bron. Y mae yn hollol syml, fel dyn yn dweyd ei deimlad ar ol colli eyfaill. Ond y mae yma rai pethau nas gallwn eu cymeradwyo; megys, 10 Wedi oes o ganlyn Iesu, Ffyddlon dan yr iau ar ddol." Yr ydym yn methu deall amcan y gair "arddol." Ymddengys fel gair hollol ddiberthynas er mwyn odl. Y mae y penill canlynol hefyd braidd yn gymysg- lyd:- Am fwy na thrideg o flynyddoedd, Canlyn wnaetb yr adcifwyn Oen Drwy hell rwystra.u'r byd a'i wyneb Ar Galfaria er pob poen; Fe'i canlyn eto pan ddaw'r alwad, I fwynhau'r orphenol wledd; Wedi gadael hadau llygredd Byth ar ol yn llwch y becd." Beth fydd y "canlyn eto" sydd yn nghanol y penill hwn ? Canlyn yr Iesu yn y byd hwn. Ond bod gyda'r Iesu yn yr hwn a ddaw, ac nid ei ganlyn. Gorphenol wledd hefyd. Ond nid felly. Gwledd dragwyddol ei pharhad sydd yn aros y Saint yn y nef. Ond diau mai edrych ar y wledd o safle'r adgyfodiad y mae y bardd, ac nid o safle "Ysbrydoedd y cyfiawn." Wedi'r cwbl, y mae yn y gan hon lawer o dynerwch a theimlad, er nad yw o ran awenyddiaeth, mor loew a rhai sydd ger ein bron. Llais Ingol ac Adgof uwch Anghof.- Ymddengys fod y ddau hyn yn berth- ynasau agos. Y maent yn dechreu yn llythyrenol yr un fath, a cheir lluaws o'r un llinellau yma thraw yn y naill a'r llall. Ceir gan yr "Adgof" lawer o frawddegau chwithig, y rhai a nodir allan ar y copi. Y mae ei arddull chwyddedig hefyd yn codi gwrthwyneb arnom. Y mae yr an arddull yn perthyn i'r "Llais" hefyd, a cheir ynddo yntau lawer o wallau, ond y mae yn fwy pur na'i frawd Adgof." Caned y gefeilliaid hyn yn fwy syml, a hwy a ragorant. Acen Leddf.-Marwnad ragorol ydyw hon, ac ysbryd y peth byw yn mhob llinell o honi. Y mae y naill linell yn ein cymhell yn awyddus at y nesaf o hyd, ac nid ydym yn blino arni, er ei bod dros 400 o linellau, Y mae mor swynol a llwybrau Mehefin, ac mor beraidd a'r diliau mel. Nis gwyddom pa le i dde- chreu dyfynu:— Mae ei I goffadwriaeth' anwyl Fel perarogl rbosyn ha'; Ni wyr rhinwedd ddim am fynwent, Nid oes fedd i1 enw da. Yn y cwrdd gweddi. "Gwelodd lawer oedfa megys Dyffryn byw Ezeciel gynt; Nid oedd neb yn fwy cyfarwydd Yn nghyffiniau'r "pedwar gwynt." Dan y bregeth:— 11 O dan genadwri'r pwlpud, 'Roedd ei enaid fel ar dan; A darlienem yn ei wyneb Ddylanwadau'r Ysbryd G]ân; Hnwdd oedd canfod delw'r Cristion, Yn ei ddagrau gloewon byw, J 'Roedd ei' hwyi,' ei' wedd,' a'i' ystum,' Yn gwresogi "cenad Duw." Yn yr Ysgol Sul :— U Pan esboniai fe gymwysai Y gwirionedd at y byd Yr oedd ef yn athraw deublyj, Pen a chahn yr unlpryd." Fel dirwynai ei flynyddoe ld, Ymadfedai i'r net wen; Yn ngwasanaeth ei Waredwr, Gwyuai'i yalon fel ei ben; Mor nefolaidd yn ei brofiad Fisoedd cyn ei farw ef Yr oedd fel yn trwsio'i edyn, I ehedeg tua'r nef, Dyma ddigon i ddangos nodwedd y farwnad. Ond y mae yma rai pethau ag y gellid eu diwvgio; megys, "'llyfn gareg fedd." Buasai yn ystwythach, ac yn gywirach hefyd iddo ddweyd, careg lefn y bedd." Peth arall, nid ydym yn hoffi'r desgriflad o ffydd yn suguo te,hau r nef." Hefyd dywed fod y dyn a'r Cristion yn y gvrrthadrych fel "haiarn gledrau" yn gyfochrog. Nid felly. Y mae y dyn a'r Grhtion wedi eu cydwau yn nghymeriad y duwiol, ac nid ar wahan ochr yn ochr. Ond er y brychau hyn, nid ydym yn petruso dim nad hwn yw y goreu o ddigon, ac y mae yn dra theilwng o'r C> wobr. Acen Leddf.
Y CHWIL LYS PABYDDOL.
Y CHWIL LYS PABYDDOL. [GAN AWDWR "DYDDIAU MARX WAEDLYD."] PENOD VIII. Nid yw y Pabyddion yn ystyried eu hunain dan unrhyw ddeddf yn eu gor- fodi i gyflawni eu rhwymedigaethau mwyaf difrifol, y rhai a gymerant ar- nynt trwy adduned ddifrifol neu Iw, os bydd yr offeiriarl Pabaidd yn dweyd fod yr adduned neu y llw yn groes i reolau ac ameanion y Babaeth. Fel hyny, nid yw y Pabyddion yn petruso cymeryd llw i wadu creulonderau y Chwil-lys, gan y byddai yn erbyn amcanion Pab- yddiaeth i'w cydnabod. I brofi hyn y mae genym hanes fod Pabydd wedi priodi a merch Brotestanaidd yn Scot- land yn y flwyddyn 1812, 70 mlynedd yn ol. Addunedodd y Pabydd yn y modd mwyaf difrifol a phenderfynol wrth briodi, nid yn unig y cafiai ei wraig Brotestanaicid ryddid i addoli Duw°yn ol ei chydwybod, ond os caffai hi ferched yu blant fod ei gweinidog Protes- tanaidd hi i'w bedyddio, ac y gadawai efe i'w mam eu dwyn i fyny yn egwydd- orion y grefydd Brotestanaidd. Cytun- odd y wraig wrth briodi y caffai ei gwr ddwyn y bachgyn a enid i fyny yn ei grefydd ef. Cytunwyd hefyd fod i'r plant, pan y deuent i oedran a synwyr, i gael dewis y grefydd a welent hwy eu hunain yn dda. Aeth pethau yn mlaen yn llyfn hyd Mehefin, 1813, pryd y gan- wyd merch yn y teulu. Rhoddwyd hys- bysrwydd o hyny i Mr Cameron, gwein- idog Protestanaidd. Cafodd yroii'eiriad Pabaidd hysbysrwydd o hyny gan y gwr. Aeth y gweinidog Protestanaidd i'r t)' i fedyddio y plentyn ar gais y tad a'r fam. Ond yr oedd yr offeiriad Pabaidd yno. Dywedodd y wraig, yr hon oedd mewn gwendid mawr, ei thrallod blin, fod yr offeiriad Pabaidd yn mynu ei ffordd. Edrychai yr offeiriad arni fel arth cynddeiriog, a dywedai fod eg- wyddorion ei Eglwys ef yn rhwymo ei holl aelodau i ddwyn i fyny eu plant yn Babyddion, ac i gael eu bedyddio gan offeiriad Pabaidd. Dywedodd y gwein- idog Protestanaidd, Mr Cameron, wrtho fod y tad a'r fam yno mewn sefyllfa neillduol, o herwydd addewid y gwr i'w ? wraig pan y priodasant. Dywedodd yr offeiriad," Addewid ddrwg oedd hi, ac o ganlyniad rhaid iddi gael ei thori." Gofynodd Mr Cameron iddo am ddweyd beth oedd yn gwneud addewid yn un ddrwg. Ei ateb oedd, Unrhyw. addewid fyddo yn anghyson ag egioyddvrion ac ymarferiadau ein Beg-. lioys ni." Amlwg yw oddiwrth hyn nas gellir credu dim a ddywedo neu a addawo Pabydd. Y mae rhyddid y Pabyddion i wneud addewidion ac i'w cyflawni, yr addewidion mwyaf difrifol, hyd yn nod loW perthynasau, yn cael ei gymeryd oddiarnynt. Pan y gwna Pab- ydd addewid neu lw, y mae Eglwys Rhufain yn y modd mwyaf awdurdodol, yn gorchymyn i'r dyn dori ei lw, ar draws ei gydwybod, os bydd hyny yn fanteisiol i Babyddiaeth. Gan hyny, na fydded i un Cymro a ddarlleno y ffeithiau a roddwn o'i flaen yn nghylch y Babaeth, wrando ar un- rhyw Babydd a fyddo yn gwadu y ffeithiau, oblegyd nid oes un Pabydd yn cael caniatad gan ei Eglwrs i feddu cyd- wybod i ddweyd y gwir yn nghylch y Babaeth. Yn y ganrif hon-oddeutu ei dechreu -yr oedd Pabydd yn cael ei wysio o flaen Ilys barn am ymddwyn yn greu- lawn tuag at ei wraig, yr hon oedd yn Brotestant. Nid oedd hi wedi bod yn briod ag ef ond oddeutu blwyddyn. By- gythiodd ei lladd hi. Ymddygodd tuag ati yn lied dda nes i'w phlentyn cyntaf gael ei eni. Caniataodd hi i'r offeiriad Pabaidd fedvddio y plentyn, ond hawl- iodd yr offeiriad haner guinea am wneud hyny, ni chymerai lai. Yr oedd hyny yn fwy nag y gallai y dyn tlawd dalu. Digiodd wrth yr offeiriad a chytunodd a'i wraig i gymeryd y plentyn at ei gweinidog hi, yr hwn a gyflawnai y seremoni am ddim. Ond buan yr edifarhaodd efe iddo wneud hyny. Dichon iddo edifarhau o herwydd fod ei frodyr Pabyddol yn ei ddwrdio. Ond mwy tebyg ei fod wedi edifarhau am fod yr offeiriad, yr hwn a ffaelodd gael yr haner guinea, wedi gosod penyd arno. Dechreuodd fod yn gas at ei wraig. Curodd hi yn ami fel yr oedd hi yn ofni iddi gael ei lladd ganddo. Yn y llys, ni wadodd y Pabydd ei fod wedi curo ei wraig. Ond dywedodd iddo ei churo, nid am ei bod hi yn Brotestant, ond am ei fod ef ei hun yn feddw. Cafodd ef fyued yn rhydd, ond ni fentrodd ei wraig fyned yn agos iddo, rhag ofn iddi tn gael ei lladd. Penderfynodd hi i fyned 0 bellder ffordd at ei chyfeillion, er gorfod cife-dota wrth fyned. Cyflawnodd ei hamcan. Pa ryfedd fod y Gwyddelod yn ddiddeddf ac yn ddigydwybod o dan ddylanwad crefydd sydd yn ymyraeth a phob perthynas, ac a phob teimlad cymdeithasol, er niwed i bawb, er mwyn cyfoethogi yr offeiriaid Pabaidd? 0 Y mae llyfrau y Pabyddion, y rhai a gynwysant en deddfau hwynt, yn dangos eu bod yn rhyddhau dynion oddiwrth eu rhwymau moesol i garu eu cymydogion. Dywedir yn un o'u deddfau, Os ewyll- ysiwch i eich tad farw ar ryw amod, gellwch wneud hyny yn gyfrcithlon. Oblegyd os dymuna dyn i'w dad farw er mwvn iddo ef gael ei feddianau, nid llawenhau yn marwolaeth ei dad a wna efe, ond llawenhau ei fed wedi cael cyfoeth ei dad." Pa ryfeddfod cymaint ogreulondeb yn teyrnasuyn yrlwerddon pan y mae ei thrigolion wedi cael eu 0 dysgu am ganoedd o flynyddau gan yr offeiriaid Pabaidd i ddymuno marwol- aeth eu gilydd ? Rhoddoad y Pab ganiatad i frenin a brenines Ffrainc yn y bedwaredd ganrif ar ddeg i ddileu rhwymedigaeth llwon, trwy offsrynoldsb yr offeiriaid, os gwelid rhyw fantais i ddeilliaw o hyny. Dy- wedodd y Pab y byddai pwy bynag a wrthwynebai y fath ganiatad, i dori llw neu adduned, yn tynu digofaint Duw arno! Y mae geiriau archeb y Pab ar hyn yn awr o'n blaen. Nid yn unig y mae y Pabyddion yn rhyddhau dynion oddiwrth eu llwon, ac felly yn eu gwneud yn gelwyddwyr, ond cospant hwynt, dirdynant eu cyrff i'w gorfodii ddweyd celwydd. Yn Valladoid, dinas yn Spain, o fewn oddeutu 100 milldir i'r brif ddinas Madrid, yr oedd y Chwil-lys yn gwneud ei waith creulon mewn nerth yn y flwyddyn 1527. Car- charwyd dyn o'r enw Juan de Salas, yn y llys hwnw, yn y flwyddyn hono, o dan y cyhuddiad ei fod wedi defnyddio iaith Brotestanaidd yn cynwys syuiadau croes i Babyddiaeth. Pallodd swyddogion y Chwil-lys dderbyn profion i'r gwrthwyn- eb gan dystion. Dirdynwyd ei gorff ef gan swyddogion offeiriadol y Chwil-lys yn v modd mwyaf creulawn. Djosgwyd ef o'i ddillad hyd at el grys. Gosodwyd ef ar y dirdynglwyd. Ehoddwyd cor- tynau oddiamgylch ei goesau a'i freich- iau. Tra yr oedd hyn yn cael ei wneud rhybuddiwyd ef i ddweyd y gwir. Dy- wedai yntau nad oedd yn euog o'r cy- huddiad a roddid yn ei erbyn. Diolch- odd i Dduw a r torwyn, i ddangos ei fod yn Babydd, lawer gwaith. Rhoddwyd lliain gwlyb ar ei wyneb, arllwyswyd peint o ddwfr i'w geg ef ac i'w ffroenau. 0 Er byny, tystiodd ei fod yn ddieuog. Tynhawyd y cortyn am ei goes ddehau, ac arllwyswyd rhagor o ddwfr ar ei wyneb ef. Tynhawyd y cortyn yn fwy yr ail waith. Ond cadwodd at yr un dystiolaeth. Daeth ymddygiad swydd- ogion y Chwil-lys i glustiau y Llywodr- aeth, a gwnawd deddf na byddai i neb gael ei roddi ar y dirdynglwyd heb fod gorchymyn i wneud hyny wedi cael ei dderbyn odcuwrtn yr awdurdodau. Gwelir fod y Pabyddion eu hunain mewn peryglon parhaus oddiwrth y Chwil-lys Rhaid fod rhyw nerth rhyfedd mewn Protestamaeth neu yn ngwirionedd, gair Duw, cyn fod swyddogion y Chwil-lys, fel eu tad uffernol, yn crynu" rhag fod neb yn agos iddynt yncoleddu Gair Duw Ac y mae llwyddiant Gair Duw yn dy- fetha Pabyddiaeth. Desgrifir creulon- deb yr offeiriad Pabaidd tuag at y rhai a garcherir ganddynt yn y Chwil-lys gan un awdwr fel y canlyn Wedi i ryw garcharor wrthod cyd- synio a r cais gorthrymus i gyffesu yr holl droseddau a osodid yn ei erbyn gan y Chwil-lyswyr, dygwyd ef yn uniongyrchol i'r ystafell arteithio, lIe nad oedd goleuni ond a roddid gan ddwy ganwyll. Fel na byddai i'w gri gael eu glywed gan y carcharorion ereill, yr oedd holl furiau yr ystafell wedi cael ei leinio a math o gwrlyd, yr hwn a orchyddiai bob agen ac a farweddiai y sain. Yr oedd dychryn y carcharor yn arswydus pan y dygid ef i'r lie uffernol hw £ i' ond yn ddisymwth ymaflwyd ynddo gan chwech adyn melldigedig, v rhai a'i diosgasant yn noeth oddigerth ei is-lodrau (drawers). Yna gosodwyd ef ar ei gefn ar fath o fwrdd, ychydig 0 droedfeddi oddiwrth y llawr. Dechren- ent trwy ddodi coler haiarn am ei wddf, a modrwy wrth bob troed, i'w sicrhau wrth y bwrdd. Wedi estyn ei aelodau fel hyn, rhoddasant ddwy raff yn droiau o amgylch ei freichiau a'i gliniau. Ac wedi eu pasio dros drawst yn mhen uchaf yr ystafell, tynwyd hwy yn dyn gan bedwar o'r dynion ar yr un foment. Yr oedd y poenau a ddilyn- asant y weithred hon yn ofnadwy. Trwy fod y rhaffau yn feinion torasant trwy gnawd y dyoddefydd hyd yr esgyrn, nes i'r gwaed ruthro o'r pedwar lie ar un- waith. Trwy fod y dyoddefydd-yn par- hau i wrthod cyffesu yr hyn a fynai offeir. iaid y Chwil-lys, tynwyd y rhaffau yn y dull yma bedwar gwaith yn olynol. Yr oedd yno ddau feddyg wrth law, y rhai a deimlent ei arleiaiau, er mwyn gweled a oedd efe mewn perygl. Ac weithiau ar eu hanogaeth hwy lliniarid yr arteith- iad, ond yn unig er mwyn gwneud y dyoddefydd yn gryfach i oddef ychwaneg o'i boenydio. Yn ystod yr eithafion hyn o ofid, tra yr oedd y corff megys yn cael ei rwygo yn ddarnau ac yn teimlo '5 chwerwaf boenau .angeu, yn mhob gwythien, a'r enaid yn ei ingoedd yn barod i adael ei ddaearol dy( yr oedd yr offeiriaid dieflig perthvnol' i'r Chwil- lys yn edrych yn eithaf digyffro, ac yn ddigon digywilydd, yn gofyn i'r truan, yr hwn oedd bron gwallgofi, i gyffesu rhyw 0 gamwedd a briodolid iddo, gan addaw rhyddhad iddo os gwnai, er ei fod yn gelwydd. Ond ni chawsant y gyffes hyny gan y dyn cydwybodol. Efe a nerthwyd yn nghanol ei arteithiau gan In gysuron crefydd. Yn nghanol ei ingoedd ofnadwy, yr oedd y meddygon mor farbaraidd a chyhoeddi os byddai farw dan yr arteithiad y byddai yn euog o hunanladdiad am beidio dweyd celwydd i foddloni yr offeiriad Pabaidd. Wedi dyoddef fel hyn, syrthiodd y dyn da i lewyg, a rhyddhawyd ef. Wedi hyny cymerwyd ef i'w ddaear-gell dywell. Cawn ragor o hanes hwn eto. Onid yw yn dda fod uffern yn bod ar gyfer ellyll- on Pabyddol, y rhai a lywodraethir gan greulondeb distylliedig ?
DAMWAIN ANGEUOL YN PROVIDENCE.
DAMWAIN ANGEUOL YN PROVIDENCE. PENNSYLVANIA.—Cyfarfyddodd Daw Evans, neu fel yr adnabyddid ef gan e gyfeillion, Dafydd Evans Bach, a ddiwedd Ionawr 13, drwy i'r pylo
0 NEWYDIADURON CYMREIG AMERICANAIDD.
0 NEWYDIADURON CYMREIG AMERICANAIDD. BODDIAD DAU GYMRO. Sabboth, Ionawr 31ain, cyfarfu dau Gymro caredig a chalon gynes a'u 0 diwedd mewn modd torcalonus iawn yn Pittsburgh, Pennsylvania. Yr oedd y ddau yn gweithio ar P. M. K. & Y. R. B., o dan y Cymro caredig, Thomas D. Owens, contractor. Ymddengys fod y ddau, nos Sadwrn, wedi myned o'u llety ar un ochr i'r afon i'r ochr arall, ar ryw alwedigaeth neu gilydd, a'u bod wedi aros yno hyd y Sabboth, a chroesi'r afon yn ol ar y Sabboth, drwy fentro cerdded y rhew, canys yr oedd yr afon wedi rhewi drosti er ys dau fis, ond y Gwener a'r Sadwrn cyn hyny yr oedd y tywydd. yn dadmer, ond yr oedd y rhew y_n ymddangos yn ddigon cryf, a'r canlyniad fu fe dorodd y rhew o dan y ddau, a llithrasant o dan yr ia trwehus, a dyna fu eu diwedd. Un o honynt ydoedd Daniel D. Morgan,forcman, mab Mr Daniel Morgan, Royal O ;k Hotel. Aberystwyth. Yr oedd wedi dyfod i') wlad hon oddeutu blwyddyn yn ol gydae amryw o Gymry ereill ar ol cwblhau j Dociau yn Abertawe, lie y buont yr gweithio am amser maith. Yr ydyrc yn deall fod gwraig ac un plentyn, yr nghyd a'i dad a'i fam, am yr hon y bydda. yn siarad llawer, a llawer o berthynasar agos iddo yn byw yn ardaloedd Aber ystwyth. Y Cymro arall ydoedd Alber Walters, stonecutter, o Abertawe. Nu ydym yn gwybod llawer am ei hanes ond daeth i'r wlad hon mis Awst neu mi Medi diweddaf, gyda Chymro arall o' enw John Griffith, a dyma lie y gweith iodd gyntaf yn y wlad fawr hon. Y ma* eu cydweithwyr a'u cyfeillion yn teiml yn ddwys o herwydd y ddamwain, bydd i bawb wneud eu goreu er dyfod <: hyd i'w cyrff.