Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

-D HEREWARD YR OLAF O'P. SAESON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

D HEREWARD YR OLAF O'P. SAESON. PENOD XXXI. "Bydd mor dawel ag y gelli, ynfyd," ebe y Brenin wrth Ivo. Os bydd i ti eu cyffro unwaith, bydd iddynt neidio *fel defaid i golledigaeth. Ddynion, trowch yn oi, a hyny yn araf a threfnus. Bydd i ni ymosod eto yfori." Cyrhaeddodd cynghor y cadben mawr yn rhy ddiweddar. Yr oedd y fflam yn cerdded uwchben y cyrs, ac yn cracio o flaen awol yr hwyr. Yr oedd y golofn oedd ar y ffordd newydd trwy y gors wedi gweled eu perygl, ac wedi dianc- ond i ba Ie ? Daeth cawod o saethau, ceryg, &e., ar y gelyn fel y troent eu cefnau i ffoi, a gyrwyd yr ell i annhrefn. Aeth un saeth yn lan trwy darian William, ac i'w gnawd. Yr ydych wedi eich clwyfo, syr; marchogwch am eich bywyd. Y mae eich bywyd chwi yn werth mil o'r sawl sydd o'ch cwmpas." Cydiodd Ivo yn ffrwyn ei farch gan ei lusgo, yn groes i'w ewyllys, drwy y milwyr cyffroedig ac enciliol. Yn mlaen y daeth y fflamiau gan ddawnsio yn chwerthingar ar ben y cyrs, asyrthiai ugeiniau yn gyrff llosgedig o'u u blaenau. Cyrhaeddasant y ffordd ar draws y gors, gan orchuddio y cwbl a. mwg a than. Nid yn unig llosgodd y cyrs o'u ham- gylch, ond cymerodd coed y bont dan, yn nghyda'r holl ddefnyddiau o dan eu traed. Ceisiai y milwyr ddianc rhag y tan, ac wrth wneud hyny neidient yn bendramwnwgl i'r gors y naill ochr a'r llaJI-yno i suddo i beidio codi mwy. Llusgodd Ivo William yn mlaen, er gwaethaf rhegfeydd a gweddiau y mil- wyr o'i amgylch, a chyrhaeddasant y tir caled mewn pryd i weled yr oil o'r tu ol iddynt yn fflamiau, a'r rhai oeddynt yn y badau ar bob tu yn y poenau mwyaf, yn gymaint a bod y fflamiau wedi eu cyrhaedd, ac wedi effeithio yn fawr arnynt. Gwelent hefyd y twr ar y y I ffordd newydd trwy y gors wedi cymeryd tan, a'r hen ddewines o Brandon yn ym- daflu oddiar y twr, ac yn lladd ei hun yn y man. Ynfyd fel yr oeddwn, ac ynliyd-ddyn oeddet tithau," meddai y Brenin fel y disgynai yn ymyl ei babell. Aeth Ivo ymaith yn lladradaidd, ac a anfonodd i Mildenhall am yr ail ddewin- es, gan ei chrogi. Mynodd hefyd chwilio y bwthyn, a daeth o hyd i ddarn o'i gadwen aur ei hun, yn nghyda thrysorau ereill, y rhai oil a gymerodd efe i'w feddiant ei hun. Tynodd William ei filwyr oddiyno. Gomeddai y dynion wynebu ar y lie drachefn—lie yr oedd cymaint o ddyn- ion wedi eu colli i ddim dyben. Os celai William afael ar Torfrida, a'i llosgi, fel yr oedd hi wedi eu llosgi hwy, yna, feallai, y byddai iddynt ail gymeryd Ely. Gwelodd Torfrida y gelyn yn troi yn ol, a lluaws o honynt yn marw mewn poenau, a chafodd hyny y fath effaith arni, yn nghyda'r gosp yr oedd wedi rhoddi ar ei chorff, fel y syrthiodd mewn llewyg am rai oriau. Yna eododd, ac wedi tynu ei llyfeth- eiriau a'i sachlian, yr oedd yn debyg i arfer, ond yn fwy dwys hyd ei dydd olaf.

PENOD XXXIII.

TAMEIDIAU HYNOD A DYYDORUS

BEIRNIADAETH CYFANSODDIADAU…

;Y CHWIL LYS PABYDDOL.

0 NEWYDIADURON CYMREI > A…