Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

. BWIOD YSGOL ABERDAR. A MR…

BWRDD YSGOL LLANSAMLET.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BWRDD YSGOL LLANSAMLET. MEI. GOL.,—Goddefwch i mi ychydig bach o'ch gofod i wneud sylw o lithiau 4 Sam o'r Erw' ar y pwnc uchod. Dywed « Trethdalwr' yn un o'ch rhifynau diweddaf mai boneddigeiddrwydd IT' oedd yn peri iddo wrthod ateb gofyniadau 1 Sam.' Yr oeddwn wedi arfer meddwl bob amser mai anfoneddigeiddrwydd neu anallu oedd gwrthod ateb gofyniad, os buasai y gofyn iad hwnw yn cael ei wneud mewn ysbryd priodol. Os oes rhyw gam wedi ei wneud tan ein Bwrdd, priodol yw i'r trethdalwyr deall hyny, fel y byddont yn gwybod snt i wneud pan ddaw yr etholiad. Dyna fy unig esgusawd dros ymyraeth yn y mater hwn. Y mae I Sam o'r Erw' YI1 eymeryd cryn drafferth i geisio gwneud "caM yn erbyn y Bwrdd presenol. Yr oeddwn yn meddwl ar y dechreu, pan y buasai ef yn codi y lien, y oawsem olygfa ryfedd ar weithred- iadau y Bwrdd. Yr ydym wedi bod yn dysgwyl yn bryderus am i'r lien i gael ei chodi, ac i'r boll gamwri gaeleiddatguddio, ond hynod mor ddibwys yw y pethau sydd wedi dyfod i'r golwg. Hyd yma gellir symio llithiau « Sam' ifyny, sfdynodi eu eymeriad a'r frawddeg adnabyddus hono, Great cry, but little wool.' Edrychwn am enyd ar y materion y mae y brawd wedi eu codi i sylw. Yn y lie cyntaf, dywed fod y Bwrdd wedi ethol tri ysgolfeistr yn ddiweddar. Nid yw yn eu beio am hyny, feddyliwn, er i mi glywed unwaith am ymgeisydd am aelodaeth ar Fwrdd Ysgol yn amlygu ei farn yn erbyn cyflogi athrawon trwyddedig i'r ysgolion, am y byddai rhai heb drwydded yn rhatach, ac yn ateb yr un pwrpas Nid yw 4 Sam' yn myned mor bell a hyny, debygem, er ei fod yn tynu yn gyflym i'r un cyfeiriad. Y cwyn mawr yw, fed y tri athraw a nodwyd yn dygwydd bod yn Eglwyswyr, ac oddi wrth y ffaith hon (os ffaith hefyd) y mae Sam yn tynu y casgliad fod y Bwrdd yn enwadol ac unochrog Nid wyf yn deall trwy ba gwrs o resymeg y mae yn dyfod i'r penderfyniad hwn; i mi y mae hyn yn profi fod y Bwrdd yn hollol anenwadol. Y mae mwyafrif yr aelodau ar y Bwrdd yn Ymneillduwyr, a phe buasai enwadaeth yn elfen amlwg yn y Bwrdd, buasai yr athraw- on i gyd yn Ymneillduwyr. Ein hamcan wrth ethol aelodau ar Fwrdd Ysgol yw, nid pleidio enwadaeth, ond i gario allan arccanion y Ddeddf Addysg-i weled fod pob plentya mewn oedran priodol yn derbyn addysg. Nid yw fod athraw yn Eglwyswr neu yn Ymneillduwr yn ei wneud mewn an modd yn fwy cymhwys i gyfranu addysg, ac ni ddylai y cwestiwn hwn ddyfod i mewn a gwbl yn newisiad athraw o dan Fwrdd Y sgol, ac os gall Sam o'r Erw' hrofi fod hwn yn test question wrth ddewis yr athrawon a nodwyd, bydd ganddo le i feio, a gallaf addaw pob cynortbwy iddo i fynu dynion, nid enwadol ond egwyddorol, ar un Bwrdd, ond hyd nes y gall brofi hyn, y mae ei holl osodiadau fel ty wedi ei adeiladu ar y tywod-heb un sylfaen. Ymddengys i mi fod llythyiau Sam yn anghyson ag ef ei hun. Y mae arno eisieu i'r°Bwrdd i ddangos mwy o ffafr i Ymneill- duaeth, neu, mewn geiriau ereill, am iddo fod dipyn yn fwy enwadol, ac eto y mac yn ewyno ar y Bwrdd am ei enwadaeth. Pe buasai y Bwrdd fel y mae ef am iddo fod, byddai pob Eglwyswr yn anghymhwys i ddal unrhyw swydd yma. Celai yr un eg. wyddor lywodraethu ag a. roddodd fod i'r Clarendon Gode-y deddfau melldigedig hyny yn erbyn Ymneillduwyr yn amser Siarl II, ond eu bod yn gweithredu i gyf eiriad gwrthwynebol. Gweil i I Sam' chwilio am feiau mewn cyfeiriad arall, a chofio bob amssr mai dyledswydd y Bwrdd yw dewis athrawon da, a gadael crefydd y dyn rhyngddo ef a'i Dduw. Yr eiddoch, IOTA.

IEISTEDDFOD TREDEGAR.

ETHOLIADAU BYRDDAU YSGOLION.

CYFARFOD MISOL GLOWYR Y RHONDDA.

-¡ TYSTEB MR. THOMAS WALTERS.

FOCHRIW.

Advertising

LLYTHYR ODDIWRTH YR ANRHYD…

EISTEDDFOD PONTFAEN, LLUNGWYN,…

LLITH 0 AMERICA.