Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

22 erthygl ar y dudalen hon

ITYFOD 0 HYD I'R ETIFEDDES…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ITYFOD 0 HYD I'R ETIFEDDES GOLLEDIG. YSTORI DRA RHAMANTUS. Y inae gohebydd o Dublin yn rhoddi y manylion a ganlyn mewn cysylltiad a dyfod o hyd i'r etifeddes golledig, yr hon sydd wedi bod yn destyn o ddyddor- deb mawr gan y cyhoedd yn Kingstown, y lie y cafodd ei gadael," a thrwy yr holl deyrnas. Yn y flwyddyn 1859 ym- ddengys fod gan farwnig oedd yn byw yn un o siroedd canolog Lloegr ddau 0 C5 fab—yr hynaf o'r ddau yn dra chwanog i'r cwpan meddwol. Darfu i'r mab henaf syrthio mewn cariad a cook ei dad, yr hon y llwyddodd i'w thwyllo. Dymunodd ef ei phriodi, ond gosododd ei dad ei wyneb yn erbyn y peth. Ond ar y 15fed o Dachwedd, yn y ilwyddyn hono, darfa i'r dyn ieuanc ei phriodi yn ddystaw heb yn wybod i neb, ac ae pa" i Dublin Ir yi Wtown ae calonndyner, dychwelodd i Dublin ae ar vr un noswaith aeth drachefn 1 Kings- town gyda'i blontyn bach, a gadawodd ef ar gareg drws y ty lie yr oedd y person hwnw yn byw. Pan y cafodd y plentyn ei adael, yr oedd arno ddau bar o ddillad, a gosodwyd alwar ac ynddo haner cant o bunau yn y dillad. oedd am dano, yn nghyd a Thestameni. Aeth y dyn a'r ddynes ieuanc i L'erpwl yn 1872, ac arosasant yno. Yn 1877 bu farw yr hen farwnig, gan adael pob peth i'w fab, ond ni wyddai ei fod ef wedi priodi. Wedi hyn gwnaeth y barwnig newydd bob ymdrech oedd yn bosibl i ddyfod o hyd i'w ferch, ac er iddo gyflogi detectives medrus at y gwaith, trodd yr ymdrech allan yn aftwyddianus. Yn Hydref, 1877, bu farw y barwnig ieuanc a'i briod yn eu preswylfod yn Rhufain, a byny, y mae yn ayn meddwl, o fewn awr i'w gilydd. Bernir mai yr achos o'u marw- olaeth oedd afiechyd y galon. Brawd ieuangaf yr ymadawedig oedd yn dyfod wedi hyny i feddiant o'r eiddo, ond clywodd fod gan ei frawd ferch, bodolaeth yr hon oedd yn adnabyddus, a phenderfynodd wneud pob ymdrech i ddyfod o hyd iddi, Hyd o fewn pedwar mis yn ol yr oedd ei holl ymdrech yn ofer, ond y pryd hwn daeth o hyd i ddyddlyfr a berthynai i wraig ei frawd yn Rhufain, yn yr hwn yr oedd hanes manwl yn nghylch colliad y plentyn. Gosododd y brawd ieuangaf hwn y peth ar unwaith yn nwylaw Mr Attwood, 6, Catherine-st., Strand, Llundain, yr hwn a ymddiriedodd yr achos i un o'i gynorth- wywyr mwyaf medrus. Y canlyniad fu, ar ol dau fis a haner o chwilio, deuwyd o hyd i'r ferch golledig mewn gwasan- aeth mewn man ar gyffiniau dinas Dublin. Cafodd ei hanfon, ar ol aros am ddwy flynedd a haner gyda'i mam mabwysiedig, i dylotdy Kathdown ac wedi iddi dyfu i fyny anfonwyd hi i was- anaeth. -1 Y mae yr ystad y ™ae tl '^o^Op i feddianol arm yn werth 0 P 14,000p y flwyddyn ac yn ei theimiaa diolchgar am y fath ffawd, cynygioddi w hewytbr, brawd ei thad, haner ei nor- tiwn am ei dwyn i afael y fath gyfoeth. Deallir ei fod ef wedi gwrthod ei chynvg anhunanol, ond y mae clod m'awr yn ddyledus i'r boneddwr hwnw am ym- ddygiad moreithriadol garedig. Gadaw- odd yr etifeddes a'i hewytbr Dublin y dydd o'r blaen am Loegr.

__--n'"''--.------+--------,..…

ESGEULUSDOD SWYDDOG PLWYFOL.

.....-.,-...,..--40-'---"-'----MARWOLAETH…

CYFLOGI LLOFRUDD.

. OynXlwyniad Llofruddiog…

TERFYSG CYWILYDDUS MEWN EGLWYS.

--------_u.._-._----AT BEIRIANWYR…

Teilwng o sylw pawb !

aqebloncT newydd.

Quinine Bitters GWILYM EVANS.

! , '1 , Y E W '/I NOB.

{ .'LL: n A CHOLLIAl) r.A…

ji !:• . ? V-> .JOL ABERDAB

DAMWAIN LOFAOL OFIDUS YN NGHWMAMAN.

. CREULONDED MAM FEDDW.

WEDI RHEWI I FARWOLAETH.

-------r-'----.-' AT BWYLLGOR…

[No title]

.&vaD TholnaS. Fadclltte &…

EU GWEITHREDIAD.

GOFALED PAWB AM HYN.