Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

D. MORGAN A GLOWYR DOWLAIS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

D. MORGAN A GLOWYR DOWLAIS. MRI GOL,—Gwelais yn eich TARIAN yr wythnos ddiweddaf litk gan un a eilw ei bun yn I Lowr o Ddowlais.' Nid wyf yn credu mai glowr o Ddowlais ywhwn, oblegyd fod yn anmhosibl i un glowr o'r lie wneud; y camgymeriad a wnaeth yr ysgrifenydd i CIY own, pan y dywedodd yn ei lythyr mai 2,000 o lowyr sydd yn ngwaith Dowlais, pan y mae yn eithaf hysbvs i holl lowyr: Morthyr a Dowlais fod 4 000 o lowyr yn' ngweitbfeydd glo Dowlais. Bydded ilr darllenydd edrych i lith yr ysgrifenydd hwn (Glowr o Ddowlais) yn y DARIAN am yr wythnos ddiweddaf, ac yno caiff weled fod y twyllddyn hwn wedi eeisio rhoddi dyrnod oinadwy i mi, fJrwy ddweyd fy mod wedi gostwng oriau gweithio i haliers Dowiais-300 mewn nifer; a'm bod wedi estyn oriau y glowyr— mewn nifer; ac o ganlyniad fod y meistri yn enillwyr o 1,400 o oriaa yn yr wythnos. < Yn awr, ddarllenydd, gwelir mai amcan; fy ngwrthwynebydd oedd rhoddi ergyd mor narthol ag oedd yn bosibl i mi yn y fan bon, ao nad oedd arbed i fod a pbe buasai efe yn gywir yn ei amcan ac yn gwybod nifer glowyr Dowlais, buasai yr ergyd yn pwyso meeys 4,000 pwys, ond yn ei anwybodaeth ni roddodd end 2,000 pwys. a syrthiodd ei f wied oddiarnaf fel dwfr oddiar gefn hwyad. Y mae yn amlwg mai nid glowr o Ddowlais a wnaeth hyny, gan nad allasai yr un o hooynt wneud y fath gamsynied; ond yr un person sydd wedi gwreud hyn do ag sydd wedi ceisio cael fy mhtn o dan ei dr-aed; lawer gwaith o'r blaen. Ond diolch aeth ei ymdrecb yn fethiant y tro hwn eto. Di-, anflieu genyf fi, a miloedd ereill, mai amcan y llythyr dan sylw oedd gwneud ymdreoh i'm taflu alian o fwrdd Caerdydd yn yr: etholiad sydd wedi rnyncd heibio. Qod er mai coward y w Lwn am ymcsod arifef o dan fiugenw y tro hwn; fel llawer gwaith o'r blaen, gwnaf droi yn ol rai. o'i ymosodiadau, a gadawaf i'r pwyllgor ateb drostynt en hunain. 1. Cyhudda fi o beidio dyfod i'r cyfarfod yn Nowlais nos Lun ar ol gwneud y cytan. deb i'w egluro, gan awgrymu pe buaswn yn dyfod y baasai yn boeth arnaf. Bydded hysbys i'r ysgrifenydd hwn mai crfn y glowyr yn ngwyneb y cytundeb a'm ataliodd i fod yn bresenol yn y cyfarfod dan sylw. Ond am fod cyfarfod dosbarth Aber dar yn cael ei gynaJ y diwrnod hwnw yn Aberdar, a fy mod yn rhwym o fod yn bre. senol yno cyn terfynu y cyfarfod. Yr oedd yn agos i chwech o'r gloch pan y oefais gyfle i fod yn nghyfarfod Aberdar, ac yr oedd cyfarfod Dowlais i ddechreu ar yr un adeg; ac nis gallaswu fod yn y ddan fan ar yr un pryd Ond da genyf glywed oddiwrth gadeirydd y cyfarfod yn Nowlais na chod- odd neb ei law yn erbyn y cytundeb. Yr wyf yn cyfaddef fy mod wedi dweyd mewn cyfarfod cyhoeddus fod baliers Dowlais ar y gwaith am tua 70 o oriau yr wythnos, ac fod hyn yn sarhad ar Dowlais fel rhan o boblogaeth Gristionogol, ac nad oedd y trees yn treulio ychwaneg na 6 awr yr wythnos i fyned a dyfod. Ond cofier fy mod i, ac ereill sydd yn gwasanaethu ar ran y glowyr, yn gorfod llefaru lawer pryd oddiar dystiolaeth ereill, a bod y rhai hyny yn ami yn anghywir ac felly y mae wedi bod yn y mater hwn. Dywedodd y rhai cyntaf a roddodd eu tystiolaeth i ni ar y mater hwn nad oedd y trens yn treulio rhfigor na chwech awr yr wythnos; ond erbyn i ni drin y petb, cawsom nad ellid dechreu gweithio yn mhyllau Dowlais yn y boreu dan yr awr o'r amser y cychwynir wyd o ttation Dowlais, a thuag awr rhwng ataliad y pyllau yn y nos a chyrhaedd i station Dowlais; felly, dyna 58 o oriau ar ol; ac ar ol y tri mis nesaf, bydd y cytun- deb newydd wedi dyfod mewn llawn nerth, ac wedi hyny, bydd yr baliers yn gweithio llai o bedair awr yr wythnos; ac felly, vddant yn gweithio 54 o orian yr wyth os, fel haliers Cwm Aberdar a Chwm y .hondda, A chofier fod haliers Dowlais vedi cael tair awr yr wythnos o leihad yn JU horiau gweithio yn barod. A yr ysgrifenydd rhag ei flaen i ddweyd, l —' Ond beth am danom ni, y glowyr ? Yr ydym ni wedi cael awr yr wythnos yn ifhagor o waith.' Nid wyf yn amhen fod glowyr Dowlais wedi cael awr yr wythnos yn ychwaneg o waith, os edrychir ar y cytundeb newydd o un ochr ond edrychir arno yn ddiduedd, Did yw felly, I Ond pe buasai y glowyr wedi cael awr yr wythnos yn ychwaneg, ni buasai hyny yn golled iddynt, ond yn enill arianol, gan eu bod yn gweithio wrth y dynell ac wrth y Hath, a'r pår coed wrth gwrs. Profwyd gan y rhai oeddynt yn bresenol yn y pwyllgor a neillduwyd i setlo y mater (yr hwn a rifai 40) nad oedd y glowyr hyny a arferent fyned gyda'r trens cyntaf yn gweithio ond tua 53 o oriau yn yr wytbnos; ac os yw yn ffaith fod y cytundeb newydd yn rhoddi awr yr wythnos yn ychwaneg, rhaid fod tystiolaeth y pwyllgor yn wir, o berwydd nid yw y cytundeb newydd yn gosod arnynt i weithio ond 54 o oriau yn yr wythnos. Yr oedd y pwyllgor yn unfrydol nad oedd gwyr y tren cyntaf yn gweithio ond 53 o oriau yr wythnos; gan hyny, y mae yn deg i gwmni Dowlais gael y 54 yr wythnos fel meistri ereill y Deheudir ond fel mae gwaethaf y modd, y mae y peth yn debyg mai nid gyda'r tren cyntaf yr oedd yn agos i haner glowyr Dowlais yn teithio, ond gyda'r tren cyntaf yn y boreu, a'r trea diweddaf yn y nos; ond mai amcan y cytundeb newydd ydyw tori i lawr bethau el hyn. Gofynai y glowr o Ddowlais ya ddifrifol ar y diwedd, O Ddowlais! Dowlais! a 068 yn mhlith dy feibion ddim amgenach wweinyad na'r un presenol?' Wel, hyn sydd genyf i'w ateb:—Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar i lowyr Dowl-us, a phob man arall, am yr anrhydedd o'u gwasanaethu, ond os ydynt yn dewis un mwy > roli*g na mi, y maent at eu rhyddid; ond diolchaf iddynt am yr anrbydedd yr wyf wedi ei gad, ac os caf ychwaneg o'r ymddiried aeth, gwnaf yr oil a allaf i fod yn deilwng o'r cyfryw. Gobeithio y gwna darllenwyr y DARIAN sylw o'r cytundeb newydd a wnawd, a'i gydmaru a'r amser a weithir mewn lleoedd ereill yn y Debeudir. Yr wyf o'r fern y y daw y cytundeb allan gan y pwyllgor. Aberdar. D. MORGAN.

CWM RHONDDA.

DOSBARTH GLOWYR CASTELLNEDD

INEWYDDION 0 PATAGONltl, ;

EISTEDDFOD SALEM, PORTH.

IEISTEDDFOD FLYNYDDOL TRE…

GLOWYR DOWLAIS A'U HORIAU…

Advertising

LLYTHYR 0 QUEENSLAND.

COLEG CAERDYDD.