Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
WILLIAMS 29,Castle Street, Swansea. Largest Stock in Wales. 22CT. R* OLD WEDDING RINGS U 18CT. GOLD KEEPERS ENGLISH PATENT LEVER WATCHES. BRAZILIAN CRYSTAL gPECTACLES I
Advertising
WILLIAMS WATCHMAKER AND JEWEEBBB 29, Castle Street, Swansea Gymry hoff I de'wch at y Cymro Os am beirdd fodrwyau aur; Oriadnron ao awrleisiau, Gemau a chadwvcau claer; Yspeotol geilydd, hin-fynegydd, Gwres- fesacydd, cwmpawd mor, Geir gan Williams, Heol y-Castell, Trowch i mewn i wel'd ei stor.
YR WYTHNOS. f
YR WYTHNOS. f CYMERODD etholiad atalbwyswr i lofa y National, le ddydd Gwener diweddaf. Yr oedd 150 o ymgeiswyr, a Mr. Morgan oedd yr apwyntiedig. I Y MAE mudiad yn mhlith y Wesleyaid, amcan yr hwn ydyw gwneud symudiad tair blynyddol eu gweinidogion yn oddefol, ac nid yn orfodol. i DYWEDODD casglwr rags, yr hwn a ddyg-1 wyd o flaen ynadon yr Ystrad, yr wytbnos ddiweddaf, mai Samaritan ydoedd, ac wedi dyfod o'r lleuad. Y MAE enwau y Parch. Cynwyd Thomas, Caerdydd, a Charles Williams, Gwalchmai, wedi bod o flaen eglwys Penuel (y Method- istiaid Calfinaidd), Tredegar, gyda golwg ar ddewis bugail. YN sesiwn Sussex, dydd Iau diweddaf, cyhuddid Geo. Thos. Pett o fod wedi boddi ei ferch yn Brighton, o gorchymynwyd ei gadw yn ddiogel cyhyd ag y dymunai ei Mawrhydi. BORE dydd Iau diweddaf, yn nglofa No. 9, perthynol i gwmni North's Navigation, Maesteg, cyfarfyddodd bachgen 16 oed, o'r enw Walter Jenkins, a'i ddiwedd trwy i gareg syrthio arno. DYDD Mercher, yn nghlafdy Caer, bu farw merch o'r enw Jane Hewson, mewn canlyn- iad i niweidiau a dderbyniodd yn ei phen trwy gael ei saethu gan ei brawd, er nad oedd y weithred ond wedi ei dechreu mewn chwareu. YN y King's Head, Castellnedd, bore dydd Mercher diweddaf, cafwyd dyn o'r enw John Thomas, 28 oed, ac yn frodor o Dre- forris, yn farw yn y gwely. Yr oedd wedi bod yn lletya yno am rai dyddiau. Ofnid ei fod wedi cymeryd gwenwyn llygod. DYDD Gwener diweddaf, pan yr oedd y gweithwyr yn myned at eu gwaith i lofa y Marine, Graig Fawr, Ebbw Vale, cymerwyd dyn o'r enw David Davies yn wael iawn ei iechyd wedi disgyn i'r lofa, a bu farw cyn ei symud oddiyno. YR wythnos ddiweddaf cymerodd cwymp tir le yn Dock newydd y Barry, yr hwn meddir, oedd yn dros fil o dynelli. Nid oedd y gweithwyr ond newydd gael eu symud o'r lie, trwy ei fod wedi ei wneud yn barod i osod y svifaen. Y MAE Mrs. Martha Davies, 14, Arran-st., Roath, Caerdydd, wedi deibyn oddiwrth awdurdodau y TIT BITS, mewn canlyniad i fod rhifyn o'r cyfryw bapyr yn llogell ei gwr—William Davies, pan y lladdwyd ef yn Rhagfyr diweddaf, wrth roesi llinell y Taff yn Docks Caerdydd. DEALLiRfod gweithwyr llechau Bethesda, Caernarfon. yn bwriadu sefydlu y.sgolor- iaeth, yn yr ysgol ganolraddol, mewn cof am y diweddar Robert Parry, yr hwn am fiynyddoedd a fu yn llywydd Undeb y cawarelwyr. Yr ysgoloriaeth yn agored i blaut chwarelwyr yn unig. Y Mae aelod Saesonig o Fwrdd Guardians Conwy, Gogledd Cymru, wedi rhoddi ei sedd i fyny ar y eyfryw, o herwydd fod holl helyntion y Bwrdd yn cael eu cario yn miaen mewn iaith nad yw yn ei deall. Modd bynag, gofynwyd iddo ail ystyried ei ben- derfyniad, ac yntau wedi addaw gwneud. BRYSHYSBYSIAD o Brisbane, dydd Iau di- weddaf, a ddywed fod damwain ddychryn- llvd wedi cymeryd lie yno y diwrnod hwnw, set fod agerlong teithwyr, tra yn croesi yr afon o'r naill dir i'r Hall, wedi ei thaflu ar ei hochr, gan nerth mawr y Hit, a 80 o ber- sonau wedi eu taflu i'r afon, ac na achub- wyd dros eu haner. Y MAE yn ddrwg genym gael ar ddeall rod y Parch. James G. Miall, cyn-lywydd Undeb Cynulleidf aol Lloegr aChymru, wedi anadlu ei olaf yn Bradford, dydd Iau di- weddaf, yn 91 oed. Dechreuodd Mr. Miall bregethu yn 1826, a bu yn weinidog am 70 mlynedd, 40 yn eglwys Salem, Bradford, lie y bu yn hynod o lwyddianus. Y MAE merch o'r enw Winifred Hmchcliffe, 14 oed, wedi ymadael a'i chartref yn Birm- ingham, er dydd Mercher diweddaf, a hyny mewn dillad bachgon. Yr oedd ei rhieni wedi myned allan am y dydd, pryd y pryn- odd y ferch y par dillad, ytorodd ei gwallt, ac y gadawodd ei chartref. Y mae y ferch o edrychiad gwelw, gwallt goleu wedi ei dori yn fyr, ac arferai ddefnyddio spectales. DYDD Iau diweddaf, yn llys ynadol y Thames, Llundain, cyhuddid bachgen 16eg oed, o'r enw Wm. Green, o ladd un James Croft, yr hwn a fu farw wedi bod yn ymladd a Green, yn Mile End, y nos flaenorol. Dy- wedai y carcharor fod y trancedig yn fwy nag ef, ac mai efe oedd wedi taraw gyntaf. ac wedi hollti ei wefus. Dywedwyd hefyd fod yr ymladd wedi bod yn deg, a gohiriwyd y prawf. RHWNG pedwar a phump o'r gloch bore dydd Gwener diweddaf, deuwyd o hyd i gorff glowr o'r enw Richard Thorne, 22ain oed, yn y canal yn agosi'r Navigation. Yr oedd y trancedig yn aelod o gymdeithas gerddorol, ac wedi bod yn cynorthwyo mewn cyngerdd yn y Navigation nos Iau, elw yr hon oedd i fyned at weddwon ac am ddifaid dynion a laddwyd yn Dowlais dri mis yn ol. YN mhlith yr anhwylderau sydd yn gyru dynion i ymofyn am gynorthwy plwyfol, y mae ami i un yn dyoddef yn drwm o'r an- hwyldeb anfeddyginiaethol o drtiogi, y rhai a haner newynant y rhai a ymddibynant arnynt. Y mae yo ofnus fod yr anhwyldeb hwn yn un o gaulynwyr ymyfed a diota ein tafarnau a'n clybiau. Deallwn fod Guardians Merthyr ac Aberdar yn cael eu poeni yn barhaus gan rai o'r gweiniaid rhain. Yn nghynadled<1 y Rhyl, yr wythnos ddi- weddaf, cafwyd eglureb dda gan y Parch. Borrow Williams, mewn cysylltiadagweith- redu yn uniongyrchol gyda phwnc adtlysg sydd yn a^~r yn oynhyrfu y wlad: "Y maent yn penderfynu o dvnu ein plyf," medc.ai, "ac y mae yn v^ulKi- i ni gadw trwst, onide meddyliant ein bod wedi marw fel yr hen fenyw hono yn sir Drefaldwyn efo'i gwydd- au. Aeth Betti i Lanfair Caereiidon i hrynu cwdaid o soeg i'r moch ond rhywsit daeth y gwyddau o hyd i'r soeg, a bwytasant mor helaeth o hono. f01 y meddwasant oil, a gorweddent yma a thraw ar hyd y buarth fel gwyddau meirw. Credodd Betti eu bod oil yn farw, ac er gwneud y goreu o honynt, dechreuodd eu plyfo, er cael eu plyf. modd bynag. Yn y bore, y peth cyntaf a glywodd yr hen wraig, oedd y gwyddau yn clochdar yn arswydus, a mawr oedd ei syndod hithau pan welodd y creaduriaid noethion yn fyw a thrwstiog. I Wel, wel, ypethau dwl a chi,' ebai hi wrth y gwyddau, pam na f'asech chi yn cadw swn oyn i mi eich plyfo V Y mae yr eglureb yn eglur. HYSBYSIR fod Mr. Walter H. Morgan, Pontypridd, yn bwriadu sefyll fel ymgeis- ydd seneddol rhyddfrydol dros fwrdeisdrefi Dinbych, yn yr etholiad nesaf eto. Y MAE Mr. Christopher D. Williams, efryd- ydd ieuanc mewn celfau, o Maesteg, wedi enill ysgoloriaeth o dair blynedd yn y Royal Academy of Arts. Y mae Williams wedi bod yn efrydydd hynod o lwyddianus. DYWED bryshysbysiad o St. Petersburg, fod amryw achosion o'r cholera yn parhau i gymeryd lie yno, a bod chwech o farwol- aethau o'r anhwyldeb wedi cymeryd lie yn ystod yr wythnos gyntaf o'r mis presenol. Y MAE achos arall o frech wen wedi tori allan yn Aberdar a Dowlais. Y mae Guard- ians Undeb Merthyr hefyd, wedi cael barn y gwahanol feddygon, wedi penderfynu thoddi allan hysbysleni yn dymuno ar bawb gymeryd y frech osod yr ail waith. DYDD Sadwrn diweddaf, Chwefror y 15, ar dir Evan Bach Draws, fferm Mr. Morgan David, bwtchwr, 25, Cardiff-road, Aberdar. daeth dafad a dau oen rhagorol- y cyntaf yn y gymydogaeth hon. Y mae y creadur- iaid diniwed yn gwneud yn dda. DYDD Gwener diweddaf, yn 27 oed, cyf- lawnodd Reginald Evans May, mab i offeir- iad, hunanladdiad yn Etchilhampton. ger Devizes, trwy chwythu ei ymenydd allan a llawddryll, Nid oes ond ychydig amser er pan y rhyddhawyd ef o wallgofdy. YN W olverhampton dydd Sadwrn diwedd- af, cyhuddid Sarah Cocking, menyw briod, oddeutu 63 oed, o fod wedi lladd ei merch, 14 oed. Dywedir fod y garcharores wedi taflu poker at ferch oedd henach, ac i'w flaen fyned i ben y ferch Sarah, a i lladd. PRYDNA WN dydd Sadwrn diweddaf, cyfar- fyddodd glowr o'r enw Watts, a diwedd dychrynllyd. pan yn esgyn o lofa Henwain, Blaena, pryd y syrthiodd o'r cage pan ar ei ffordd i ben y pwll. Yr oedd golwg dychyn- Ilyd ar ei gorff, eto bu fyw am yn agos i ddwy awr. r YN Nottingham dydd Mercher diweddaf, cafwyd menyw wedi ei lladd gan ei gwr- John Rose, trwy dori ei gwddf a chyllell. Wedi llofruddio ei wraig, gwnaeth y dyn ymgais at hunan-laddiad, ond yr oedd heb farw pan y deuwyd o hyd iddo, a symudwyd ef i'r clafdy. HYSBYSIR fod William Davies, gyrwr ager- beiriant, 9, Argylc-terrace, Llwynpia, wedi dvfeisio lamp glowr, goleu yr hon a roddir allan wrth ei liagor. Ei hamcan ydyw atal unrhyw ymyriad a'r goleu gan bawb ond y swyddog priodol, ac yn y lie priodol. DYWED hysbysiad o Carrabelle, Florida, fod bad wedi ei gael ar y traeth, yn cynwys pump o gyrff meirw, a chwetch ereill bron ag anadln yr olaf. Yr oeddynt wedi bod yn cael eu taflu gan y tonau am wythnos, heb ddillad, vmborth, na dwfr, ac yr oedd- ynt yn rhy wafrl mud li&n y deuwyd o hvd iddynt. Y MAE y newydd wedi ein cyrhaedd am farwoiaeth y Parch. J. G. Hopkin,s diwedd- ar weinidog y Bedyddwyr yn Caerffili. Bu v trancedig yn wael ei iechyd am gryn dirmor, ac vn awr yn ei Ie genedigol yn Pontarddulais. Yr oedd yn ddyn cymerad- wy yn mhob cylch. Nid oedd ond 31 oed yn nretw. ÐVWED bryshysbysiad o Copenhagen fod un Mr. David Lloyd Morgan, darlithydd Saesonig yn Lund, yn agos i Malmore, wedi saethu ei hun yn nghyda merch ieuanli o Lund. mown cerbyd reilffordd yn agos i Copenhagen, nos Sul diweddaf. Cymerwyd y ddau i'r clafdy, ond buont feirwyn fuan. Yr oedd Mr. Morgans yn frodor o Loegr. Z, YN nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Llanidloes. nos Lun diweddaf, cyflwynwyd anerchiad hardd i'r hen flaenor, Mr. Rich. Mills, am ei wasanaeth maith a ffyddlon i'r achos yn y lie. Y mae yn awr yn 86 oed, ac er fod ganddo haner milldir o ffordd i'r capel, nid yw byth yn colli oedfa nac ysgol Sabbothol. Efe yw yr olaf o hen flaenoriaid yr oes a aeth heibio yn y lie. CYFLAWNWYD ysbeiliad beiddgar, a chais at lofruddiaeth yn Arnold, ger Nottingham, dydd Sadwrn diweddaf. Yn cymeryd arno ei fod wedi eianfon i'w hysbysu o ddamwain i'w gwr, gallodd crwydryn ddenu menyw o'i thy. Wedi ei chymeryd i gryn bellder, gadawodd y dyn y fenyw, a rhedodd yn ol i'r ty, a lladrataodd oddiyno arian a pheth- au gwerthfawr. Aflonyddwyd ar yr ysbeil- ydd gan Mrs. Kays, hen fenyw oedd yn gofalu am v ty, a tharawodd yntau hi yn ei phen a poker, fel nad oes obaith am ei gwellhad. Nid yw v trosoddwr crouton wedi ei ddal hyd yn hyn, YR ydys wedi dyfod i ddeall erbyn hyn wedi ei ddal hyd yn hyn, YR ydys wedi dyfod i ddeall erbyn hyn mai Franc wr oedd yr hen gybydd a fu farw y dydd o'r blaen mewn ystafell wael yn Paris, yn wei*th £ 80,000. *Ei enw gwirion- eddol oedd Quettier. Daeth i Paris ryw 60 mlynedd yn ol, heb geiniog yn ei logell, a chafodd le mewn masnachdy gwydr. Yn mhen amser. anfonwyd ef i'r America gan ei feistri, i sefydlu cangen o'r fasnach, ac arosodd yno 40 mlynedd. yn yr hon adeg y daeth yn berchenog ar y fugi-ies. a llwydd- odd i wiieud cyfoethmawr. Wedi dychwel- yd i Paris, gomeddodd wnoud dim a neb o'i berthyuasau. er fod rhai o honynt wedi derbyn cymwynasau oddiar ei law.
LLOFRUDDIAETH ARSWYDUS HEN…
LLOFRUDDIAETH ARSWYDUS HEN WR, YN LLUNDAIN. Nos Iau diweddaf torwyd i mewn i Muswell Hill Lodge, Tetherdown-lane, Hornsey, Llundain, a lladdwyd hen wr, (wedi ei rwymo draed a dwylaw). Ei enw y w Henry Smith, ac yn agos i 80 oed. Yr oedd yn byw wrtho ei hun, a'i dy bron y pellaf yn y wlad yn y gymydogaeth boblogaidd, ac yn sefyll ynhollol ar ei ben ei hun. Deuwyd o hy'*l i'r corff gan y garddwr, o'r enw Web- ber, yr hwn a aeth yno am saith bore dydd Gwener, at ei orchwylion. Pan yr aeth Webber i'r ty, cafodd yr hen wr yn t'arw ar v llawr, wedi ei rwymo draed a dwylaw, a'i ben hefyd wedi ei ddryllio yn arswydus. Anfonvpyd' am heddgeidwaiu a meddyg, a chafwyd ar ddeall yn fuan fod yr hen wr, wedi ciywed rhyw un yn y ty, wedi myned 1 lawr, heb haner wisgo am dano, ac wedi cael ymosod arno gan yr ysbeilwyr. Trwy ei fod yn ddyn cryf o'i oedran, ymddengys fod yr ysbeilwyr wedi gorfod ei rwymo, ei guro, a'i gagio, gan fod carpiau wedi eu gwthio i'w enau er ei atal i waeddi. Wedi methu ei dawelu gyda hyny, credir iddynt ei daraw ar ei ben a rhyw offeryn trwm. Y mae yn anmhosibl dweyd beth a gymer- wyd oddiyno, gan fod yr hen wr yn byw wrtho ei hun. Y mae yn ofnus fod yr ys- beilwyr yn gydM-byddus a'r lie.
GWEITHFAOL A MASNACHOL i
GWEITHFAOL A MASNACHOL i DOSBARTH Y GLO CAREG. Cydweithwyr,-Yr ydym dan y rhwym- edigaeth o ddiolch i ysgrifenydd y Dosbarth am ddwyn allan yn y DARIAN ddiweddaf ein bod ni, gweithwyr yr Ystradfawr, trwy ymdrech Mr. D. Randel, A. S., wedi cael yr holl arian dyledus i ni. Yr ydym yn cyd- i nabod mai ein dyledswydd oedd hysbysu hyny i weithwyr y Dosbarth, gan fod y Dosbarth wedi ein cefnogi mor rhagorol yn y cyfwng tywyll sydd wedi bod arnom. Bydded i'r Dosbarth faddeu i ni am ein hes- geulusdod, a diolch i Mr. Enoch Rees am y dyddordeb a gymer yn helyntion y Dos- barth. HEN WEITHIWR.
|ANNEALLDWRIAETH PLYMOUTH.
ANNEALLDWRIAETH PLYMOUTH. Cynaliwyd cyfarfod mawr gan lowyr Plym- outh, Merthyr, dydd Iau diweddaf, yn y Theatre, pryd y pasiwyd penderfyniad un- frydol yn condemnio ymddygiad y meistri gyda golwg ar y 'discharge notes,' ac yn galw ar gynrychiolwyr y gweithwyr ar bwyllgor y Scale i geisio rhoddi atalfa ar y dull annheg. Hefyd, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i aelodauCyngorDosbarthol Merthyr, am y derbyniad cresawgar a gaf- odd eu cynrychiolaeth hwy ganddo, ac am yr addewid o roddi gwaith i gymaint ag y byddai yn bosibl, ar weithiau oedd yn angen yn y dref a'r gymydogaeth, o dan y Cyngor. Rhoddwyd diolchgarwch hefyd am fenthyg yr adeilad i gynal y cyfarfod. Deallwn fod apel ar ran gweithwyr Plymouth wedi ei anfon at weithwyr gwahanol lofeydd yn y Deheudir. Mewn cysylltiad ag annealldwriaeth glo- wyr Plymouth, ni ddeallwyd o gwbl gan ochr y meistri fod yr ymgais at derfynu y cyfryw rhwng Mr. Edward Jones a Mr. D. Morgan wedi terfynu, ond y ddealldwriaeth oedd, fod Mr. Morgans i ymgynghori a'r gweithwyr cyn cael cyfarfod arall a Mr. Jones. Y mae y fusnes felly yn obeithiol eto, er nad oedd y gweithwyr wedi deall hyny trwy eu goruchwyliwr. Y mae yn amlwg erbyn hyn fod rhyw ychydig anne-! alldwriaeth rhwng y ddau gyflafareddwr, ac ni a obeithiwn y daw budd mawr o'r peth bychan hwn. Dywedir fod y goruchwyliwr yn Llundain mewn cysylltiod a'r wyfh awr.
—:o: — GKOWYR EBBW VALE.
—:o: — GKOWYR EBBW VALE. YN Ebbw Vale prydnrwn dydd Llun di- weddaf, cynaliwyd cyfarfod mawr gan y glowyr, yn yr hwn y derbyniwyd cynrych- iolaeth oddiwrth weithwyr Plymouth, Mer- thyr, y rhai aesboniasantyranealldwriaith sydd rhyngddynt a'u meistri. Anerchwyd y cyfarfod hefyd gan Mr. Thos. Richards, yr hwn aiaraifoddyn ervftyn erbyjMyfais y 'discharge note.' Wedi peth siarad ac ymddadleu, penderfynwyd eyfranu o'r dry- sorfa £ 30 tuag at gynorthwyo gweithwvr Plymouth, a chymeryd eu hachos heiyd dan sylw yn y cyfarfod misol nesaf.
AT WEITHWYR Y GLO CAREG.
AT WEITHWYR Y GLO CAREG. Bydded hysbys genych y cynelir ein cyfar- fod misol dydd Sadwrn nesaf, Chwefror 22, yn y lie newydd yn Abertawe. Bydded i'r cynrychiolwyr sydd yn anghyfarwydd o'r lie, i ymholi am yr Angel Temperance Hotel, High Street, Swansea, fel y gallom o bellaf ddechreu y cyfarfod am 11 o'r gloch. Bydded i'r glofeydd hyny sydd yn arferol o ohebu, ac anfon eu taliadau i mi, eu han- fon o hyn allan, fel y byddont yn fy Haw o bellaf bore dydd Gwener cyn y cyfarfod, neu ni byddaf yn gyfrifol am danynt, gan y byddaf yn gorfod cychwyn gyda'r tren bore dydd Sadwrn, cyn y bydd y postman yn dyfod heibio. Mewn amgylchiadau neill- duol, gallweh anfon fel y canlyn.-M. R. E. Jones, Angel Hotel, High street, Swansea. Yr eiddoch, &c., ENOCH REES.
-:0:----GWEITHWYR Y TON A'R…
-:0: GWEITHWYR Y TON A'R BWLLFA. Prydnawn dydd Sadwrn diweddrf, cynal- iodd y gweithwyr sydd allan yn y ddwy lofa hyn, gyfarfod cyhoeddus, yr hwn a anerch- wyd gan Mri. Isaac Evans a Ben Davies. Dywedodd y llywydd yn ei anerchiad agor- iadol, fod glowyr Clydach wedi penderfynu cyfranu £15 y mis tuag at y personau oedd allan-fod gweithwyr y Bwllfa yn ymladd, t nid yn unig drostynt eu hunain, ond tros filoedd o lowyr ereill. Eu bod wedi bod yn ymladd am ddeg mis, ac yn parhau mor benderfynol ag erioed. Fod cwmni Clydach yn awr yn suddo i'r un wythien, ac felly ei bod yn bwysig i weithwyr y Bwllfa gadw i fyny bris y wythien. Darllenodd Ben Davies y lechres prisiau i a gynygiwyd gan y gweithwyr, pryd y dy- wedodd Mr. Jenkins na fyddai iddo ddadleu y fath lechres, ei bod o'r tu allan i ddadl- euaeth. Mai y pris a gynygiwyd gan y meistri am dori y glo oedd Is. 9c. y dynell, tra y tystiai y gweithiwyr nad allent enill bywioliaoth ar y fath bris, yr hyn hefyd yr oeddynt yn barod i'w brofi. Dy vvedai Mr. Isaac Evans ei bod yn siarad yn uchel o blaid y gweithwyr eu bod wedi boddloni rhoddi ar annealldwriaeth i gyf- lafareddiad, ac yn dangos gwendid y meistri am na chydymffurfient a'r cynygiad hwnw. Credai ef er s amser y dylasai fod gyfraith i orfodi dynion i roddi annealld wriaethan o'r fath i gyflafareddiad. Cyfeiriodd yn nesaf at ymddygiad y meistri mewn anne- alldwriaethau. Pan y methodd meistri y Caerau gael gan eu gweithwyr i dderbyn eu telerau, cloisant allan weithwyr y Coegnant —800 o weithwyr diniwed, er ceisio gorfodi y lleill i dderbyn y telerau. Fod helynt Plymouth yn gyffelyb. Yn ol yr adroddiad au yr oedd efe wedi eu gweled, mai gyda rhyw 400 o weithwyr yr oedd yr annealldwr- iaeth gwreiddiol, ond fod 3,000 wedi eu cloi allan trwyddo. Yn y Bwllfa. nad oedd yr annealldwriaeth gwreiddiol ond yn effeithio oddeutu 250 o weithwyr, ond fod nifer mawr o weithwyr glofa y Ton wedi eu cau allan yn unig er ceisio newynu yr ychydig i uf- yrlo-flod, neu rhywbeth cyffelyb. .CliV" Dywed Mr. Jenkins, prif-oruchw yl iwr, mewn atebiad i'r cyfeiriadau a wnawd yn y cyfarfod hwn at gyflafareddiad, ei fod ef wedi cynyg cyffafareddiad agored i Mr. Davies bob tro y mae wedi ei gyfarfod ar pwnc.
i | GWEITHIO YN Y CAERAU A'R…
| GWEITHIO YN Y CAERAU A'R COEGNANT. Y mae pethau yn dechreu dyfod i'w lie yn Maesteg. Yr oedd angen mawr yn y gym- ydogaeth er fod y rhan fwyaf o'r 900 dynion wedi ymwthio i mewn i rywle neu gilydd. Y mae nifer mawr o'r hen weithwyr wedi dychwelyd eisioes, tra y mae y prif oruch- ) wyliwr--Mr. J. Boyd Harvey, wedi rheddi gorchymyn mai yr hen weithwyr sydd i gael y siawns gyntaf yn y ddau bwll. Mae rhai canoedd eisioes wedi dechreu yn nglofa y Coegnant, ac ugeiniau yn y Caerau. Mae rhai gweithwyr wedi dychwelyd, gan ddewis yn hytrach adael ar ol yr arian oedd yn j ddyledus iddynt, na bod yn hwy oddiwrth eu touluoedd. Y mae y glofeydd hyn yn debyg o ddyfod yn ddwy o'r glofeydd goreu yn y Deheubarth.
-'-0-CYNGRAIR UNDEBOL Y GLOWYR.
-0- CYNGRAIR UNDEBOL Y GLOWYR. Cynaliwyd cyfarfod neillduol gan bwyll- gor gweithiol Cyngor Undebol Glowyr De- heudir Cymru, yn Caerdydd, dydd Gwener Cymru, diweddaf, dan lywyddiaeth Mr. D. Morgan. Yr oedd yn bresenol hefyd Mr. W. Brace, (is-lywydd): Mr. Isaac Evans. Castellnedd Mr John Thomas. Garw; Mr. P. D. Rees, Aberaman; Mr. Ben Davies, Pentre, a Mr. John Williams, ysgrifenydd, Ynysybwl. Rhoddodd y "ywydd adroddiad manwl o'r annealldwriaetb yn Plymouth, Merthyr, a phenderfynwyd fod Mri. Isaac Evans a John Williams, ysgrifenydd, i archwilio llyfrau cyfrinfaoedd glowyr Plymouth, er cael gweled pa faint o weithwyr sydd mewn hawl i gynorthwy y Gymdeithas. Rhoddodd y llywydd a Mr. Isaac Evnns adroddiad o'r gynadledd a gynaliwyd yn Llundain, yr hwn adroddiad a roddodd foddlonrwydd cySredinol. Credai y siarad- wyr fod yr Ysgrit Rheoleiddiad newydd y Mwngloddiau oedd ar gael ei dwyn o flaen y senedd, yn rhagori ar ddim a gafwyd yn flaenorol. Rhoddodd y pwyllgor ddiolch- garwch i'r ddau gynrychiolydd am eu had- roddiad rhagorol. Btkpwnc y 'discharge note,' o dan sylw, a phasiodd y pwyllgor benderfyniad ei fod yn groes i'r arfenon presenol a gorphenol, yn gi'oes i egwy«"orion Undebau y Gweith- wyrt ac yn debyg o brofi yn wreiddyn chwerwedd i weithwyr y Dywysogaath os ei dififnyddid.
- TAN YN LLUNDAIN-COLLIAD…
TAN YN LLUNDAIN-COLLIAD WYTH 0 FYWYDAU. Ychydig cyn tri o'r gloch bore dydd Sul diweddaf, gwelodd heddgeidwad oleuni an- arferol yn un o ystafelloedd uchaf No. 7, Church Street, Soho, ac yn credu fod rhyw beth allan o Ie, prysurodd i guro y drws er deffro y rhai oedd i mewn. Ymgymerodd heddgeidwad arall a chanu y Jloeh dan. p I buan y daeth pc-. > fanyin fcob eiriad. Cafwy7. "c ■. uchaf 1 y t: Mo-. £ It: 'iciwel uwch • ydau 1 lynt,—Gt ><3: Mary i:1i wraig, 51 oed Oliver, eu t), lh • oed Mary, eu merch, 11 oed Mrs. Moore, (gwraig George Moore) a thri o blant. Gall- odd deg o bersonau ddianc, °nd nid heb ymladd yn galed am eu bywyd.
JOSEPH CHAMBERLAIN.
JOSEPH CHAMBERLAIN. Ganwyd y Gwir Anrhydeddus Joseph Chamberlain, A. S., Ysgrifenydd presenol v Trefedizaethati, yn Llundain, yn is36. Pan yn dra ieuanc daeth yn aelod o gwmni o Tlleuthurwyr screws coed, dan yr enw Nettlefold a Chamberlain, ynlfirmingham. Ymadawodd o'r fasnach ynl8'4, ac yr 0edd wedi enill eawogrwydd am eiryddfry(iiaeth. Bu Yn faer Birmingham dair gwaith. Yn 1857, dychwelwydef yn aelod seneddol <jros y ^ref. a buan yr enwogo^d ei fei Rnyddfrydwr. Yn y Llywodraeth a ffurf- iwyd yn 1880, gan Mr. Gladstone, dewiswyd ef yn Weinidog Bwrdd Masoach, ac yn aelod o'r (Jyfnn Gyngor. Llwyddodd i ffurfio a phasio y Bankruptcy Bill p'!lD y swydd hono. Yn 1886, rhoddodd i fyny ei swydd yn y Llywodraeth am nad allal gynfyned a rhai pethau yn Ysgrif Honie Rule Mr. Gladstone, Yn 1887, aeth i'r I^alaeth- lau, fel cadeirydd y Fisheries ^°jnmission, ac a lawncdodd gytundeb ISSS- Yn hydref yr un flwyddyn aeth eilwaith 1 r America, i bnodi Miss Endicott.
CFFEIRIAD TEILWNG O'l SWYDD.
CFFEIRIAD TEILWNG O'l SWYDD. Yn y cyfarfod a gynaliwyd gan ?&n^yr y Parch. Alfred Ederstein, offelrlad Blaisdon, yn agos i Gloucester, ac a gynaliwyd yn Huntley, dydd Mercher di\ye~.( ^ysbys- wyd fod y boneddwr offeiriadol, yr hwn oedd a gwraig a phlant, wedi dianc, gan gymeryd gydag ef merch boneddwr 0 r gy. mydogasth, y rhai oeddynt ar eu ^ordd i'r America. Fe adawodd lythyr ar yr hwn a ddarllenwyd i'w ofynwyr, yn yr hwn y dywedai ei fod wedi treulio amser anhapus yn Blaisdon. Rhoddai hefyd ^yfarvvTddyd fod yr oil oedd ganddo ar y iferin i wgwerthu er talu el ddyledion. —o— YN Tyldesey, dydd Gwener diweddaf, cyflawnodd hen yrif dydd ag01'eiri^n-t, o'r enw Richard Hilton. 78 oed. hunanladdiad trwy dori ei wddf. Yr oedd wedi darparu fedd er's amser, ac ymwelai a r Ilo yn fynych. Y MAE jjwyllgor tystebol Syr W- T Lewis, (Aberdar), yn Merthyr, wedi Penderfynu codi cerflan o hono yno, er cof am yr an- rhydedd sydd wei ei osod arno gan y Fren- J hines, trwy ei greu yn Farwnig- j i Dydd Sul diweddaf deuwyd o hyd i gorff s wyd dog perthynol i linell reilff°rt\dy Great' Western, yr hwn oedd yn byw yn VVenlock, wedi boddi yn yr Hofr"*n, yn Ironbridge. DYWEDIR fod llinelfy Barry yn awr yn hollol harod i'w harolygu gan swyddog y < Llywodraeth o Bontypridd i Barry, Y MAE hanesion wedi ein cyrhaedd fod achosion newyddion o'r frechwen wedi tori allan yn Aberavon. Coed-duon, ac Aber-1 tawe. Y mae yn ofnus fod yr afiochyd at-1 ga- yn rnynd i'n blino i ryw raddau. Y MAE yn dda genym ddeall fod Syr W. T. Lewis wedi gwella i'r fath raddau fel y gallodd fyned yn ol cyngor ei feddyg am ychydig i Ddeheubarth Lloegr.
! ABERDAR.-GENEDIGAETH.
ABERDAR.-GENEDIGAETH. Dydd Llun, Chwefror 17, 1896, rhoddodd priod Mr Gwilym Christmas, Commercial Place, Aberdar, enedigaeth i ferch, a da genym gael ar ddeall eu bod yn dyfod yn m) en yn rhagorol.
Advertising
2/0 29 iÈ ..> 9# :¡ )¡' A QViNIME^NITERS 111 THB VEGETA B L E_ T0N IC. ^!i|W mn £ .°SeJfuttcr3 digestion, pro- [jLM facilitate circulation, ttreng. i;; tj'u'Iiifjl bx^A nerves and muscles, piinfy-tbo i, Jj;i SB t a.ud brace up the system gvuo- i);j ijll Hl|j *• a purely Vegetable Ionic :l| R° Bein? sifted with j| tonic and digestive properties ij {i; 5[| Peculiarly adapted to p'M-sons K Villi from depression oi spirits, L W ^Jaxati.m mmculw weaJc- f Jll ia^e,lcy» disturbed bleop, head- }$ affections of the fivor. iB tltyV; ( in j™ I befarfifL w ter. t«mf» d*ily, one hour rT[ r II Ohildren.hfclf the above ijaantity m| r PilKVA-BFD ONLY Bt j (|! VUININE UirrtRS HANUF*CrURfNQ III Ittax CCi'ANY, LIWTE0. jih!U I UlA^'El.I.V, SOUTH WALES. (jfllj ir 7 1111 i">imMfcrn~ »m Hill enghraifiEt o'r dosbarth o feddyginiaeth- *■ ao y carem argymhell i sylw y Cyrcry yn mbob man, dymunem gyfeirio at ddarpariaeth ddiffnant, didwyH, y niddiriedol, a mwyaf gwerthfawrallefiiollsgy gwyddom am dani, sef Quinine -Bitters Gwilym Evans -rt. r bvd'l tq lath n Tor"- "y^enol, ac yn L • <?!' jglD- -•. j .18 am dani. wv .c as at aonbrenllad yn ei gv,iitioi agweddau, ao afiecbyd y ddwy. fron a'r afu, yn oghydag anhwylderau gew ynol. Yr ydym am lawer o flynyddau wedi edrych gyda gradd helaeth o ddrwgdybiaeth ar feddyginiaethau hysbysiedig, a thne3did ni wneud byoy a'r feddyginiaeth heu, sef Quinine Bitters Gwilym Evans, hyd nes y gwelsom y fath dystiolaethau pwysig a dylan- wadol oddiwrth ddyniop a wyddent mor dda, ac a wnaetbant gymaint o ymchwiliad i'w hansoddion. Dymunem yu neillduolrybnddio y cyhoedd i fod yn ocbelgar yn eu detholiad o gyffeiriau, ai dylent fod yn gwybodrbywbeth am an. sawdd y darpariadau meddygol a fwriadaDt gymeryd cyn eu pwrcasu; ac os, wadi ym- chwiliad, y boddlonir bwy am eu rhinwedd- au, dylent fod yn ewylly8g&r i dalu pris teg am y cyfryw, a rbodji iddo brawf teg a phar- haol, a pheidio cymeryd eu cymervd eu hudo i redeg a pbwrcasn meddyginiaetkau iseibris, y ahai yn fynych a brofant, nid yn unig yn ddiwertb, ond yn dra niweidiol. Oddiwrth ein gwybodaeth bersonol am y darparydd a'r perchenog, gwyddom ei fod yn ei broffeswriaeth wedi cyrbaedd yr anrhydedd uwebaf yn y gangen fferyliol, ac ystyrir ef yn un o fferyllwyr mwyaf goleuedig ac addawol y dydd. M eddygini aethhynotafyr oes bresenol yw Quinine Bitters Gwilym Evans FFEITHIAU AM QUININE BITTERS GWILYM EVANS! Y maent vn cael en cymeradwyo pan fedd. j ygon a fferyllwyr i'w cleifion ar ol i bob raoddygiiaiaeth arall fetbu. Y maent yn cael eu cymeryd gan ben ac ieuanc, cyfoethog a'r tlawd, a cban ddynion yn mhob sefyllfa ac o dan bob amgylchiad. [ Nid yn unig yn Nghyinru y maent yn adna- byddus, ond dsrbynir archebion am danynt o America, Canana, yr ifffc, Cyprus. Awstraja, &c. Y mae pawb sydd wedi eu profi nnwaith yn eu cymeradwyo i'w cyfeillion, a thrwy hyn y mae y gofyn am danynt yn oynyddu yn helaeth o flwyddyn i flwyddyn j Y mae yn brawf teg o'i heffeithiolrwydd, canys paham y prynai neb y feddyginiaeth am yr ail a'r drydedd waitb os na fuaaent yn deroyn bndd a lleshad odd wrthynt? ————— | RHYBUDD. Gochelwch dwyDwyr. Edrychwch fod enw Gwilyrn Pivans ar bob Label, Stamp, a photeL Gwocthir ef mewn poteli 1/1' 2|9, a 4/6 na blyohau yu cvnwys tair potel 4/6 12/6. I'w gael yn mhob man, nou danfonir ef yn rhad am y prisiau uohod, yn ddyogel drwy^j poet] yn uniongyrchol oddiwrth y perchetoogtbn Quinine Bitters Manufacturing Co., g(LIMITED), LLANELLY, SOUTH W AliES. Prif Oruchwyliwr yn America,—MRR.D WILLIAMS P!Tmouth Penn. ■II Hll Ilil 1 -¡ ■Mill I to Bwys Mawr. Y mae yn hollol wir fod canoedd o fywydau wedi cael eu cadw drwy gymeryd HUGHES'S DROPSY PILLS X mae y clefyd hwn, yn ei wahanol ac am rywiol gangbenau, yn achosi poenau ac an hwylderau peryglus, ac y mae o'r pwjn mwyaf i bob gwr a gwraig, mab a merch, pa feddyginiaeth i'w chymeryd er eu hiacliaa pan yn cael eu blino gan Dropsy, Diffyg Dwfr, Gwynt, Chwydd y Traed, Coesau, a'r Bol, Cramp, Curiad y Galon, Poen Pen, Gordewdra Afiach, Diifyp, Anadl, Gorffrwymedd, GrafeL Llais y Bobl. Mwy Gwerthfawr nac Aur. Syr,- Y mae eich Hughes's POEN Dropsy Pills wedi cael effaitb ABENAU. braidd yn wyrthiol arnaf. Yr wyf wedi bod yn dyoddef am Synyddoedd gan boenau dir- CRAMP. dynol yn yr Arenau, Grafel, a phoenau gresynol yn y Pen, mi a gefais esmwytbad gan y GRAFEL. dose gyntaf, ac ar ol cymeryd y blyehaid yr oeddwn yn teimlo yn well nac erioed. ASTHMA Fob moddion arall wedi methu gwneud dim lies, Maent yn baeddu. pob dod, ae y in fwy POEN PKN gwerthfawr nac aur. ARTHUR BROWN, Ship Hotel, Bristol. Hughes's Dropsy Fills. Dvrn Meddij/fjiniaeth Tebyg ar y ddaear CLEFYD Syr,—Yr wyf yn dymuno BENYWAIDD. tystiolnethu i'r daioni mawr a dderbyniais drwy g-ymeryd eich Hughes's Dropsy Pills. Dynes ^ESSWDRA. ieuanc ydwyf, 18 oed, wedi yn dyoddef yn enfa wr odfli- '> ■ ^fydau tueddol i'r rhyw '1. t?edi /'■' cym&tyA meddyginiaeth. JA diiibetrus ddweyd «u toby# w y cfdaeu i'r rhyN. fenywaidd. Wedi bo<f yn dyoddef lla/wer gan Nych ISEL YSBEYD. dod, Iselder Ysbryd, a Diffyg Treuliad. Wedi cymeryd eich Pills, yr wyf wedi fy adfywhau, DIFFYG ac mor iach ag erioed. TBEULIAD. ROSIN A MICHAKI 20, New Quay, Bath. Yya ddiodi danfoner am danynt, eich gwellh fyddynsicr. re adylai pob dynes eu cymeryd yn ac lysurol Hughes's Dropsy Pills. Pur angenrheidiol i'r RhywFenyw- aidd tuag sicrhau iechyd. # RHYBUDD. ~r a»wyn siorhan pawb rhag twyll, gofaler cael y Trade Mwkhwn(M, .llull Diamond) a'r gar- iau Dropsy P UV oddi fewn ar bob blwch, a enw Jacob Hnghes' at Stamp y Llywodraeth Heb byn twy!3 vdyw. Ar werth trwy yr holl deyrnas :am 1 /H» 2/9, a 4/6 trwy y post, 1/3, 2/11, a 4/6 oddiwrth y Perchenog,- Jacob Hughes, Manufa&uring Chemist, PEN-ARTH, CARDIFF Y MOR MAWR Yn rhoddi i fyny ei drysor goreu er iachiwi dyn. Wrth chwilio ga" n- European Medical So ciety, daethat J nyd i Wymod o F6r Nor- way, yr hwn a gynwysa feddyglyn effeithiol, a'r hwn, mewn undeb ag Extracts o lysian aodetlig o lanau Mor Pacific a wna i tyny Y feddyginiaeth mwyat nerthol ac efreit'iiol a welodd y byd erioed at glefydau y gwddf y frest, a r ysgyfaint. Fe ddylai pob dynes du cymeryp yn achlysurol. Sea Weed Lung Life. Fe a wellha yn uniongyrchol beswch ac an- wyd, BroncbitiBae asthma, crygm, infrneiuaa, croup, a dolur gwddf, ac yn dra effeitiiiol er rhagfiaenu y Darfodedigaeth, Felly gofyner ar uuwaith am botelaid 0 Sea Weed Lung Life gan y Chemist nea unrhyw Patent Medicine Dealer. Ei bris yw 2/9 » l/l £ Mynwch gae! yr enw yn 11awn ar bob botel, ac na pherswadier chwi i gymeryd dim arall. Os bydd trafferth i'w gael, danfoner Stamps (3/- neu 1/3) at y perchenog, SEA WEED LUNG LIFE JACOB HUHGES. Sea Weed Lung Life Depot, PENARTH, CARDIFF, yr hwn a'i danfona gyda throad post