Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
33 erthygl ar y dudalen hon
BRYNAMAN.
BRYNAMAN. Nos Lun diweddaf, yr 16eg cyfisol, yn y Neuadd Gyhoeddus. traddodwyd darlith gan Llawdden Deon Tyddewi — ar Emynydd- iaeth,' i gynnlleidfa anrhydeddus, y rhai oedd wedi dyfod l fyny o Ammanford a'r cyleh, a rhedwyd late train i fyned a hwynt yn ol. Yr oedd y neuadd yn orlawn. Hefyd, canwyd amryw emynau o dan arwemiad Mr John Thomas, Emporium. Cadeiriwyd gan y bon- eddwr parod Dr H Rees, J.P.C.C. Gwelsom ar y llwyfan-Watcyn Wyn, Madame Martha H kwaillips, Mr W N Jones, C.C., Tirydail, &c. Mae clod mawr yn ddyledus i Ficer parchus Brynamman am weithio mor galed er gwneud y ddarlith yn Hwyddianus, mewn gwirionedd efe ydyw enaid y 11e.
S CWMTAWE
S CWMTAWE Arholiad y Solffa. Enillwyd tystysgrifau fel y canlyn yn yr arholiad diweddaf Harmony Analysis, First Stage, D W Jones, Trebanos; eto Tnird Stage, G J Evans, Ystalyfera. Expression, Second Stage, Wm George, Ystalyfera, R L Evans, Ystradgynlais, Wm Evans, Trebaaos. Stiff Notation, Second Stage, W D Williams, Alltwen. Matriculation, Iheophilus Jones, Ystradgynlais. R L Evans, eto, W George, Ystalyfera. Cynelir yr arholiad nesif yn Adulam, Ystradggynlais. Sadwrn, Mthefin 18fed, a'r Sadwrn dilynol yn Bethel, Glan twrch. Ceisiadau i'w danfun i mi erbyn Mehefin 4ydd. Ystradgynlais. RHve THOMAS, Ysg.
CILFFRIW.'
CILFFRIW. Y mae yn dda genym longyfarch y cerddor ienanc adnabyddus. Mr Thomas H Davies, G.T.S.C., o'r lie uchod, fel cyfansoddwr. Yr wythnos ddiweddaf, yr oedd yn fuddugol ar y don gynulleidfaol oreu allan o nifer fawr o gys- tidleuwyr yn Llundain. Bydd ymdeithgan ragorol o'i eiddo yn cael ei datgann gan Ysgol- jon Sul Aberafon a Cilffriw y Llungwyn nesaf. Ac yn yr arholiad diweddaf, dan nawddy Tonic Solfa College, Llundain. f e basiodd y Trydydd Stage mewn cyfansoddi. Llwyddiant iddo. UN O'R LLE.
SALEM, TRESALEM, ABERDAR.
SALEM, TRESALEM, ABERDAR. Cynaliwyd eisteddfod yn ysgoldy y capel uehod nos Sadwrn, Mai y 7fed. Cymerwyd y gadair gan y Parch J D Rees, Salem, a chyf- lawnodd ei waith i foddlonrwydd. Y beirniaid oeddynt—y gerddoriaeth, Mr Edwin Griffiths, Gadlys yr amrywiaeth, Mr William Jenkins, Trecynon a Dewi Fychan, Aberdar; y cydau, Miss Edwards, Tudor Terrace. Cyfeiliwyd gan Mr Samuel E Bowen, Tresalem. Awd yn mlaen a rhaglen ragorol, ac enillwyd y gwahan- ol wobrwyon gan y personau canlynol -Miss Bessie Davies, Tresalem David J Williams, Gadlys; Phillip Jones, Tresalem; Bronwen Edwards, Maesydre; Edith Thomas, Trecynon; John H Evans a Dan Howells, Tresalem; Mrs M A Jones, John H Evans, Tom Howells, Dd Thomas, Samuel E Bowen, Morgan Jones, David Howells a'i gyfaill, Tresalem Richard Hopkins, Trecynon John Dayies, Aberaman Henry Harris, Aberaman David Howells a D W Hopkins, Tresalem: David W Watkins, a'i gyfeillion. Weditaluydiolchgarweharfer- wch arferol, terfynwvd eisteddfod lewyrchus. Cynelir eisteddfod gyffelyb eto ar y 18fed o Fehefin, pryd y dymunir cael eich cefnogaeth gyda hono eto. YSG.
CYMDEITHAS YSWIRIOL Y PEARL.
CYMDEITHAS YSWIRIOL Y PEARL. Dydd Mawith diweddaf, Mai y lleg. 1198, y cynaliodd Dosbarth Llanelly, perthynol i'r cwmni uchod, eu gwyl flynyddol, sef ciniaw a the i bawb o'r casglwyr perthynol i'r dosbarth hwn. Yr oedd y parotoadau wedi cael eu cario allan yn ardderchog gan Mr Williams, King's Head, Llandilo, pryd y bu ryw 240 o gasglwyr, yn cynwys tri goruchwyliwr cynorthwyol, un Superintendent, ac un General Superintendent, yn nghyda Mrs a Miss Williams, gwraig a chwaer y Super. Mae yr wyl hon yn cael ei rhoddi i'r casglwyr bob blwyddyn gan Mr Wil- liams, Llanelli, ar ei draul ei hun, felly y mae yn teilyngu clod mawr nid yn uuig am ei rodd, ond hefyd am ei baiodrwydd i gynorthwyo pawb fydd mewn angen, yn wladol neu gre- fyddol. Mae Mr Williams yn ddyn a berchir nid yn unig gan ei gydweithwyr, ond gan bawb yn gyffredinol. Gwr ydyw wedi cael ei eni a'i fagu yn Llandilo. Sir Gaerfyrddin, ac y mae yn moreu ei oes wedi bod yn Dgwasanaeth Ar- glwydd Dynefor. Wedi hyny yn Ystalyfera, Sir Forganwg, dan Mr Evan Thomas, Grocer, am ryw ddeuddeg mlynedd; ond yn awr yn gwasanuethu y cwmni uchod er ys 8 mlynedd. Wedi i bawb gael eu digoni, cychwynasant i ymweled a phalas Arglwydd Dynefor, lie y cawsant dderbyniad ardderchog i weled ei erddi prydferth, a'r cylch oddeutu y palas ac wedi treuliorhyw ddwy awr ar hyd y pare, cychwyn- asant tuag yn ol i'r Kings Head, er mwynhau yn mhellach o'r te, a phethau darparedig ar eu cyfer. Wedi i bawb gael en digoni, ymgynull- asant oil i'r Long Room, er myned drwy raglen oedd wedi ei darparu. Etholwyd i'r gadair Mr Abel, Caerdydd, prif oruchwyliwr y Dosbarth Deheuol; ac i'r is-gadair Mr John Williams, goruchwyliwr Llanelli. Awd yn mlaen yn y drefn ganlynolAnerchiad gan y cadeirydd. Can, Pleserfad y Niagara,' Mr Burry Phillips, Burry Port. Anerchiad gan Mr Williams, y Super. Anerchiad gau Mr Abel, y cadeirydd, ar Gymdeithas y Pearl, yn nghyda'i gychwyn- iad a hi. Dywedodd ei fod wedi deehreu yn gasglwr o dan y gvmdeitbas uchod er ys rhyw 21ain mlynedd yn ol, ond ei fod wedi cael ei symud i fyny o radd i radd, nes y mae wedi cael ei osod yn brif oruchwyliwr felly fe welwn fod Mr Abel wedi Ilafurio yn galed, ac yn par- hau felly, oblegyd ni chafodd ond manteision addysg gyffredin yn moreu oes. Gwr ydyw Mr Abel wedi cabi ei eni yn Sir Aberteifi, ond wedi! dechreu ar y gorchwyl o fod yn siopwr, ond yn methu cael ei iechyd. Anturiodd i ddechreu gyda'r gwaith da. yr hwn sydd wedi troi allan yn Ilwiadiant perffaith. Dymuniad pawb oedd iddo fyned yn mlaen eto i enill ffafr ac ymddir- iedaetb. Yn nesaf cafwyd deuawd gan David ac Ifor Elias, Tirydail. Anerchiad gan y Superintend. ent ar Ledaeniad y Gymdeithas yn y Dosbarth y mae ef yn Oruchwyliwr arno yn bresenol, sef Llanelli: cyfeiriodd yn ddyddarol at lwyddiant y gymdeithas, ac at ymdrech y casglwyr i'w cael felly. Ar y cyntaf nid oedd yma un is- oruchwyliwr; ond yn awr fod yma dri o honynt. Yna cymerodd Mr Griffiths, is-oruch- wyliwr Brynamman, at ddiolch i'r cadeirydd a'r is-gadeirydd am ly wyddu ac eiliwyd gan Mr Watts Llanelli, Yn nesaf cafwyd can ardderch- og gan Mr Abraham, Ystalyfera. Yna dau an erchiad byr, ond pwrpasol un gan Mr Howells, is-oruchwyliwr Caerfyrddin. a'r llall gan Mr Will ams, Llanelli. Erbyn hyn yr oedd yn rhaid ymadael, er fod lln ereill wedi parotoi. Cynygiodd Mr Williamf, y Super, fod diolch- garwch gwresooaf y cyfarfod yn cael ei roddi i bawb ag oedd wedi cymeryd rhan yn y cyfarfod -yn enwedig i Mr Ifor Elias, Tirydail, am was- anaethu mor ddeheuig ar y oerdoneg, ac eiliwyd ef gan Mr W G Davies. Terfynwyd drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau.' A. B. C.
NODION MIN Y FFORD.
NODION MIN Y FFORD. Gan Eos Hafod. Mewn perthynas a'r dderw ar dir Nantwydd- oo, Ystrad, dygwyddodd gwall drwy ddweyd fod cnau wedi tyfu arni. Yr hyn fwriadwyd ddweyd oedd ar y coedydd oddiamgylch iddi. Mae amryw wedi galw fy sylw at hyn, ac yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar iddynt am eu caredigrwydd.
FFYDDLONDEB OWN.
FFYDDLONDEB OWN. Gwelais ddyn y dydd o'rbla a yn adgyweirio perthi. Gerllaw iddo yr oedd ci ffyddlon yn gorwedd, tra yr oedd yntau wrth ei waith. Wedi siarad am ddeall creadnriaid doeth, rhoddodd un engraifft i mi. Bu yn wael, meddai, am beth amser. Cyn hyny, arferai dan gi ei ddilyn dros y mynydd am hir bellder; ac wedi cyrhaedd pen y daith, byddai yn galw mewn amryw fanau er gweled fod pethau yn iawn, fel arfer. Wrth gwrs, dilynai y cwn ef yn ffyddlon. Tra yn wael ei iechyd, aethant yn ddyddiol i bob man yr arferai alw, ond dych- welent yn siomedig bob dydd. Pan ddaeth yn well, gwelodd un o'r cwn ef yn ei dy, a dywedir nad aethant i edrych am dano fel cynt, ond byddent bob amser yn ffyddlon gerllaw ei bre- swylfod. Yr wyf erioed yn barnu fod mwy o ddeall gan greaduriaid na feddyliwyd genym hyd yn hyn.
CYDYMDEiMLAD.
CYDYMDEiMLAD. I eyfarfod a gofynion natur y tlodion yn ystod yr adeg ddigalon abrofir genym yn awr, j mae pwyllgor dylanwadol wedi ei ffarfio rhwng ardaloedd y Q-elli a'r Ystrad, Rhondda, Cawn mai Mr W. D. Whight, Rhondda Rise, yw y Ilywydd trysorydd Mr Thomas Thomas, gwarcheidwad y lie a Mr Evan Llewelyn yw yr ysgrifenydd. Mae canoedd yn derbyn cyn- aliaeth yn ddyddiol drwy weithgarwch y pwyll- gor lleol, a chalonau canoedd ereill perthynol i'rardal. Mewn gwirionedd, mae gofal mawr yn nglyn a hyn, a dylid teimlo yn ddiolchgar i'r cyfeillion sydd yn glynu mor ffyddlon wrth y gwaith.
lAU DYRCHAFAEL.
lAU DYRCHAFAEL. Cymerodd hyn le dydd lau diweddaf, Mai y 19eg, yn eglwys St Peters, Pentre cynaliwyd gwasanaeth, ac hefyd gymundeb. Yr oedd y Parch W. Lewis, ficer *y pJwyf, a'r holl offeir- iaid ereill yn bresenol. Chwareuwyd yr orgsin gan Mr D. Jones. Mae yr Eglwyswyr yn ffydd- ion iawn i'w dyledswyddau.
IIAITH ANWEDDUS.,
I IAITH ANWEDDUS. Mae dymuniad arnaf wnend sylw o hyn. Y mae lie 1 ofni fod rhai pobl ieuainc yn credu fod iaith anweddus fel ag a glywir yn ami yn rhyw fath o fawredd! Credwch fl, gyfeillion anffodus, mai fel arall yr edrycha dynion moes- ol a chrefyddol y byd arnoch. Yr ydych yn anmharchu eich bodolaeth, ac yn gosod anfri ar goffadwriaeth eich rhieni. Mae llwon yn bethau oerllyd acatgas iawn felly na arferwch eich gwefusau i lefaru geiriau ofer.
YSGOL NEWYDD.
YSGOL NEWYDD. Dydd lau, Mai y 19ag, agorwyd ysgol newydd Pontrhondda, gan Mr W. Edwards, un o arol- ygwyr Ysgolion Dyddiol ei Mawrhydi, Gor- wedda yr ysgol o fewn chwarter milldir i dref Ystradyfodwg.
FFIGYRAU PWYSIG.
FFIGYRAU PWYSIG. Cafwyfl gan Mr Daniel Thomas, postfeistr Trealaw, grynodeb derbyniol iawn yn ystod y gweithrediadau. Mr Tnomas ydyw liywydd ar- ianol Pwyllgor Bwrdd Addysg y cwm hwn.Dan ofal y Bwrdd cyntaf yr oedd lleg o ysgolion, ac yn 23ain o ranau, yr hyn a elwir departments arnynt. Yn bresenol y mae 310 o ysgolion, a 78 o ranau. Yn 1879. yr oedd ar y llyfrau 5,220 0 blunt; yn awr, 21.040. Mae yr ysgolion hwyroi yn rhifo 75, a daw o hyn gyfartaledd o 987 o ef- rydwyr. Cafwyd sylwadau gan y P rch T. G. Jenkin, Llwynpia, ac ereill, yn ystod y cyfarfod. Ceir gair eto am hyn.
DAMWAIN DRWY LOSGI.
DAMWAIN DRWY LOSGI. Boreu dydd lau, Mai y 19eg, cymerodd damwain flin iawn le yn nghvmydogaeth y Pentre. Cododd Elizabeth Williams. chwe' mlwydd oed, fel arfer, ond y tro hwn aeth yn rhy agos at dan yr aelwyd, a'r canlyniad a fa iddi losgi yn druenus iawn. Pan aeth ei mam ati, yr oedd ydillad nos am dani yn fflamiau a a gwnaed pob ymgais i ddiffodd y tan mor gynted ag oedd bosibl. Yn anffodus, derbyn- iodd niweidiau mor fawr fel y bu farw dydd Gwener, wedi dyoddef yn galed iawn drwy y Uysgiadau. Llysferch ydyw i Mr Edward Lewis, 13, Pleasant street, Pentre. Dywedir ei bod yn ferch addfwyn, a pharod i ddysgu.
MELIN WEN, ABERGWILI.
MELIN WEN, ABERGWILI. EISTEDDFOD. -Cynaliwyd yr uchod mewn pabell eang, dydd lau, Mai y 19eg. Beirniad y canu ydoedd y cerddor adnabyddus Mr David Thomas, Inter. Mus. Bac., Bridgend, yr hwn a roddodd foddbad neillduol gyda ei feiriadaethau manwl ac addysgiadol. Llywyddwyd cyfarfod y boreu gan Mr H. Brunei White, Ysw., maer Caerfyrddin; acyn y prydnawn gan Mr T. Parkinson, Ysw., Castellpigyn. Arweinydd y dydd, yn nghyu beirniad y farddoniaeth ydoedd y Parch J. Myrddin Thomas. Caerfyrddin. Dyfarnwyd y prif wobrwyon fel y 3anlyn Unawd Soprano, '0 peidiwcn tori'r blod- au,' Miss Bessie Davies, Llanstephan. Unawd Tenor, 'Bradwriaeth y don,' Mr J. Aberdar yr hwn hefyd, yn nghyda'i gyf- eilles, a enillodd ar y ddeuawd, 4 Hywel a Blodwen.' Unawd Contralto, 'He was despised;' goreu, Miss Mary Mansel Jones, Caerfyrddin. Cystadleuodd tri o gorau meibion ar The Crusaders,' ac enillwyd gan barti Llanstephan. Daeth pedwar o gorau merched i gystadlu ar 'Yr Haf,' a cbor merched Llanstephan allan yn fudd- ugwyr. Daeth pedwar o gorau ar y prif ddarn, sef Bydd melus gofio y Cyfamod.' Yr oedd y wobr yn ugain punt, a chtdair hardd i'r arweinyld. Y CJr buddugol ydoedd Llanpnmsaint. Cynaliwyd cyngerdd yn yr hwyr, pryd y gwasanaethwyd gan Mr T. Conwii Evans, Caerfyrddin: Mr D. Lloyd, Llangenech a R, Phillips, Castel I Newydd Emlyn.
- ANGLADD MR. GLADSTONE.
ANGLADD MR. GLADSTONE. Cymer yr angladd le dydd Sadwrn nesaf, yn unol a phenderfyniad y Senedd, yn Mynachlog Westminster, lie y dysgwylir y corff i orwedd dydd lau a dydd Gwener. Mewn un rhan o ewyllys Mr Gladstone, y mae yn ewyllysio fod Mrs Gladstone i'w chladdu yn yr un fan ag a gleddir yntau, ac y mae yr awdurdodau wedi penderfynu caniatau hyny. Bydd y corff yn cael ei symud o Benarlag prydnawn dydd Mercher, Y mae holl drefniadau yr angladd yn nwylaw Due Norfolk a Deon Bradley. Dydd Sul diweddaf yr oedd Mrs Gladstone yn bresenol yn Eglwys Penarlag, pryd y pregethwyd gan Deon Lincoln, mab-yn- nghyfraith Mr Gladstone. G wn awd sylwadau pwrpasol yn holl eglwysi a chapelau y wlad dydd Sul di- weddaf.
GWEITHWYR NORTHUMBERLAND.
GWEITHWYR NORTHUMBERLAND. Mewn cyfarfod o gymdeithas glowyr Northumberland, dydd Llun diweddaf, penderfynwyd rhoddi 500p. tuag at streic Deheudir Cymru a Swydd Fynwy, ac hefyd tanysgrifio lOOp. yn wythnosol.
MERTHYR VALE.
MERTHYR VALE. Mewn cyfarfod o weithwyr Merthyr Vale, boreu dydd Llun diweddaf, pender- fynwyd cymeryd pleidleisiad o'r gweithwyr er cael gweled os oeddynt am roddi Hawn hawl i'r Pwyllgor Darbodol, neu mewn pwyllgor yn cynwys 66 o gyn- rychiolwyr. Cymeradwyai y cyfarfod i'r oil o'r glofeydd i wneuthur yr un peth, fel ag i ddyfod i benderfyniad dydd lau nesaf. V
MOUNTAIN ASH.
MOUNTAIN ASH. GWEITHFAOL. Y mae y seithfed wythnos wedi dechreu er pan weithiwyd yma ddiweddaf. ac fe dderbyniodd y gweithwyr yr ail swllt dydd Sadwrn. Heblaw y gyfran gyntaf dderbyn- iwyd o gymdeithas y Cambrian, tros- glwyddwyd y gyfran hono i'r Soup Kitch- ens, felly fe welir fod prii.der yn tey»a»» yma erbyn hyn eithr drwy gyfrwng y parotoadau uchod, y mae canoedd lawer o blant bychain wedi eu cadw uwchlaw dyoddef eis\eu ond erbyn hyn, y mae y tanysgrifiadau yn myned yn llai, a'r arian felly yn myned yn rhy brin i ateb y gofyn, fel mae yr outdoor relief i gael ei atal o hyn allan ond fe fwydir y plant eto cyhyd ag y gellir. Os bydd rbywun wrth ddarllen hyn o nodiad yn teimlo ar ei galon i estyn cynorthwy, fe'i derbynir yn ddiolebgar gan un o'r gweinidogion lleol. Gobeithio y daw cynorthwy oddiwrth y rhai sydd yn alluog. Erbyn hyn, y mae y gweithwyr yn yr ardal hon wedi cyfnewid yn eu barn yn nghylch y Plenary Powers er y cych- wyn. Nid oedd yr un ardal yn fwy ffyrnig yn erbyn ei ganiatau—yn gymaint felly fel na odaefid i neb siarad drosto mewn cyfarfod cyhoeddus o holl weithwyr y Mri Nixon a'i Gyf., dan lywydiiaeth Mr John Powell, C.D. Yr oedd y teimladau wedi eu newid mor llwyr, fel y pasiwyd caniatau y Plenary Poweis bron yn unfrydol. Meth- odd y cynygydd i'r gwrtbwyneb a chael 4eilydd. Gobeithio bellach, gan fod yr hawl wedi ei roddi, y bydd telerau y meistri i'r gweithwyr yn rhesymol, ac y terfynir yr anghydfod presenol ar fyr yn foddhaol i'r ddwy blaid. Dysger y wers ar ol hyn mai paewn undeb y mae nerth.'
PlWYLLIADOL.
PlWYLLIADOL. Nos lau, yn nghapol Bethania, dan lyw yddiaeth y Parch Owen Jones, cynaliwyd cyfarfod dyddorol dros ben drwy gael dadl ar A ddylai y trefedigaethau gael eu cyn- rychioli yn Senedd Prydain Fawr.' Cymer- wyd yr ochr gadarnhaol gan Mr Ll. Llewelyn, a'r ochr nacaol gan Mr D. H. Davies, yn absenoldeb Mr D. Z. Jones. Agorodd Mr Llewelyn yn alluog, a phrof; oad i'r gymdeithas ei fod yn feistr er e' bwne. Gwnaeth Mr Davies, o dan yr am gylchiadau, yn rhagorol.. Cymerodd amryw o'r brodyr ran yn y ddadl yn fuddiol, adeiladol, a digrifoJ dros ben. Pan osodwyd y mater i bleidlais, cafwyd fod y mwyafrif dros y cadarnhaol. Nos lau nesaf, darllenir papyr gan Mr J. Davies, Poplars, ar, I Adgofioi3 am hen aelodau eglwys Bethania.' Dysgwyliwn y bydd yn dda iawn. Gobeithiwn weled yr aelodau yno yn gryno.
EISTEDDFOD GADEIRIOL Y SCIWEN,…
EISTEDDFOD GADEIRIOL Y SCIWEN, MAI 28aia, IE93. Dymunwn jydnabod dorbyniad y cyfan- f-loddiadau,ur gyfer yr uchod, ddaethant i ni oddiwrth yr ysgrifenydd. Testyn y Gadair-Pryddest Farwnadol i'r Diweddar Mr Isaac Evans, goruchwyl iwr y Glowyr.' Daeth i law-Llais Cyfaill Isaac Evans, Charles Francis, the Blind Boy, Wylaf uwch ei Dawel Fedd, Hen Gyfaill yn ei Gofio, Min y Don, Sibrydedd, Glan yr Iorddonen, Anwylydd, lago. Llais o'r Lie, Ffarwel fy Mrawd, Adsain Llafur, Gwlithyn Galar, A. Gray—14. Dywedodd un mai dyma lwyth asyn rhesymol; dywedaf finau wrth eu gweled yn bentwr ar y bwrdd mai dyma lwyth asyn afresym- of. Deallwn fod rhagolygon am eisteddfod dda. Y mae y pwyllgor wrthi yn brysur gyda'r trefniadau. Gobeithiwn gael cyf- arfod yno a rhai miloedd o garwyr lien, cerdd, a barddas. Hai ati. gyfeillion- rhaid i mi fyned a'r brodyr hyn i'r tfwrn. Yr ieiddoch yn y gwres, TWRCHFAB.
TRAMP I ABERAMAN.
TRAMP I ABERAMAN. MISHDIR Y DARIAN.-Nid wyt fi In un sy'n hoffi trampo llawer, ond mae r hen fyd yma mor anwadal. Daeth y streic un- waith eto, taflais iaau yr hen bac ar fy nghefn, a off a fi i Aberaman, gan fod ychydig o byllau yn gweithio ochr draw i afon Cynon. Oefais le.i lodjo ar bwys pwll y Plough, a lodgings piwr iawn hefyd. Ar ol cysgu noswaith, penderfynais i gychwyn i edrych am waith yr ochr draw i afon Cynon. Codais YB lorai gyda'r wawr, pan oedd cawr y dydd yn dechreu dringo grisiau'r ffurfafen, 'Roedd yn foreu bardd- onol iawn ar orielau'r coed 'roedd beirdd y dail yn taro y nodau mwyaf perseiniol, nes lloni calon dyn. Ar y ddol 'roedd yr wyn yn praacio mor 11awen a gwelais hwy erioed a blodau fyrdd yn chwerthm ar eu gilydd ar fin y ffordd. Wedi cyrhaedd pen y lofa, ymholais am y gaffer. Anfon- wyd fi ato ar unwaith i'r lodge. Dyn bychan ogorffolaeth ydoedd, yn eillio blew ei gernau ymaith. Edrychodd arnaf yn swrth iawn, yn ol arfer y gaffers. Antur- iaisj ofyn am waith iddo ond cyn fy ateb edrychodd yn drist i'r llawr, fel bardd yn ceisio cyfansoddi englyn; a gallaf eich sicrhau, Misbdir y DARIAN, y byddai y Bachan Ifanc wedi cyfansoddi englyn gwych yn ystod yr amser y bu yn gwneud ei feddwl i fyny cyn ateb. O'r diwedd, dy wedodd Cerwch i foin lamp, gallwch starto heddy.' All rght' meddwn inau yn ol wrtho yn falch iawn. a off a fi ar un- waith i'r lamproom i foin lamp. Gofynais am lamp i fachan a chlin bren gyta fa Os do fa, buasai yn well i mi bido—mi ath mas o'i go mor ofnadwy nes oedd Yr un aeliau, a'r un olwg, A'r un drem a'r gwr drwg.' Ond fe geso lamp o'r diwadd gyta fa, a lawr i'r pwll a fi yn y carriage dwetba. A te geso i ride hefyd 'rodd y carriage fel pe byddai yn feddw-yn mynd o un ochr i'r ochr arall. Yi o'n i yn meddwl taw miwn cawall oni; a fe wetas i fod y conearn yn ddisgrace ar yr 6s ola hon. Oni yn falch i weld y gwilod, ta beth ond wfft shwd wilod —'rodd a fel gwli heb le i chi droi round heb fwrw'ch trwyn—a'r y top a'r gwilod just cwrdd a'u gilydd. Tom Thumb a'i fath ddyla witho yno. Fe fctartas o dan y pwll gyta'r fireman- bachan ifanc a mwstash qoch odd a yn wilia yn dawaJ right, a chap bach crop ar i ben a. Ar y ffordd i weld y talcan, fe etho i trwy ryw lefydd rhyfedd iawn gyta fa yn ddou ddwbwl, nes odd y nghefan i just a thori yn ddou a amser on i'n mynd mlan rodd y wys yn dropan lawr fel pis- tyll oddiar y nhrwyn i. O'r diwadd, fe welas y talcan odd i fod i fl. Talean bach piwr yn wir; ond fe geso i of an gwitho ynddo-rodd y blackpats bron a llanw'r lie, a'r colliars mor dduad a Zulus, ac yn gwitho heb i crysa. Ma nhw yn dweyd fod Edison yn inventor mawr-yn trio byw heb gysgu—ac rwy'n cretu fod y gaffers yn y LI yn trio neithii i'r colliars fyw heb wvnt: ond ma arna i ofan taw flat shot fydd i ddaw i deim yn wir. Meddyliais mai y plan gora i fi odd g ital yr ochr boeth ar unwaith, a mynd am dro i hinsawdd ac awyr iachus y wlad. JACK O'R WEST.
Y WASG.
Y WASG. SOCIAL FACTS AND FORCES, by Rev. Washing- ington Gladden. 3s 6c. London: G. P. Putnam & Sons. Dyma lyfr tra amserol o eiddo awdwr Ameri- canaidd, yn ymdrin a'r pynciau canlynol1 Y Gwesty 2 Undeb LIafur; 3 Bwrdeisiaeth 4 Y Rheilffordd; 5 Y Ddinas; 6 a'r Eglwys. Cawn yma ymdriniaeth fanol, a dpngys fel y mae yr allwedd i lwyddiant gwahanol gylch- oedd cymdeifchas—yn hollol yn Haw Cristion- ogaeth. Nid gwiw celu y ffaith, y mae cydwy- wybod y gwledydd yn deffro, ac yn taeru ymyn dyn barchn dyn fel dyn dyma un o ddatgudd- iadan arbenig Efengyl Crist- Croesaw i Sosial- iaeth—ond iddi fod yu Christian Socialism.' THOUGHTS FROM KEATS (Q-irdleston), 3s 6c. London: George Allen. "Si Dyma gasgliad bychan o ddywediadau rhydd- iaethoi y bardd peraidd Keats, un o'r telynau a dorwyd yn gynar, yn 25 oed. Frinymaeyn angenrheidiol dweyd fod cred y bardd ieuanc am dano ei hun wedi ei gwireddu yn 11a wn— Credaf y byddaf yn mhlith y BeirddSeisnig wedi i mi farw.
. CWMAFON—PRIODAS.
CWMAFON—PRIODAS. Dydd Mercher, yr lleg cyfisol, ymunwyd Mr Davies (Rhystyn,) Aberavon. a Miss Annie George, Woodland Row, Cwmafon, mewn glan briodas yn Methlehem Green, Castellnedd. Gweinyddwvd y gwasanaeth, gan y Parch T E Edwards, Cwmafon. Yroeddyn bresenol Mr David Davies, Pontrhydyfen, tad y priodfab, Mr Daniel George, brawd y briodasferch, a Miss Hetty George, ei chwaer. Yn sicr, ni chymer- wyd yr un dyddordeb mewn priodas ei's peth amser yn y Cwm, a hyny ar gyfrif lawer o bethau. Y mae'r ddau ddyn ieuanc yn adna- byddus iawn yn y cylchoedd hyn. Y maent yn weithwyr difefl yn nglyn a phob achos da. Y mae Mr Davies yn ysgrifenydd Undeb Cym- deithas Gristionogol y Cwm, a Miss George yn ysgrifeaiyddfiS uymdeithas y TaberDoGl. Dym- uniad cyffredinol y Cwm yw, y bydd ei bywyd yn fywyd o lawenydd yn fywyd o bob peth ag sydd yn ddymunol. a dyna ydyw dymnniad dyfnaf. UN O'R CWM.
NODION 0 RYMNI.
NODION 0 RYMNI. Nos Wener, yn nghapel y Graisr, cynaliwyd cyfarfod lluosog a brwdfrydig i anrhegu Mr John Lewis, ysgolfeistr, Drefnewydd, Rhymni, ar ei svmudiad o'r lie, ac i gymeryd gofal o Ysgol Hengoed, dan Fwrdd Ysgol Gelligaer. Treuliodd Mr Lewis 18 mlynedd yn ysgolfeistr yn Drefcewydd, ac enillodd iddo ei hun gymer- iad uchel fel ysgolfeistr, dyn, a (Jhristion, ac yr oedd y cyfarfod lluosog hwn yn profi iddo yn eglur, fod trigolion y Drefnewydd, Llechryd a'r cylchoedd yn gwerthfawrogi ei lafur a'i ddefnyddioldeb, a'i tod yn ssfyll yn uchel yn en serchiadau. Yr oedd yr anrhegion yn gynwys- edig o awrlais gweith saith gini, cigar case, ac addnrniadan ereill. Yr oedd pwyllgor y dysteb yn cynwys dynion parchusaf y gymydogaeth, gyda Mr D Summers (Dewl Henn), yn ysgrifen- ydd; Mr Edmund Parry yn drysorydd, a Mr Thomas Jenkins yn liywydd. Cymerodd y Parch G Griffiths y gadair yn y cyfarfod, a dywedodd ei fod wedi gwneud ymdrech i fod yn bresenol trwy lawer o rwystrau, am nad oedd yn foddlon i'w gyfaill Mr Lewis ymadael a'r Ue heb iddo gael cyfleusdra i ddangos ei deimladau cynhes tuag ato—iddo synn weled cynifer yn bresenol ar noson wlyb, fod hyny yn siarad cyfrolau am eu serch tuag at Mr Lewis—fod Mr Lewis nid yn nnig wedi gwasanaethu yn ffydd- lon fel ysgolfeistr am ddeunaw mlynedd, ond hefyd wedi cymeryd rhan flaenllaw gyda holl symudiadau er dyrchafu a llesoli y bobl yn y Drefewydd, yn gystal a thrwy Rhymni yn gyffredinol, ei fod yn meddu ar gymeriad uchel, o feddwl eang a rhyddfrydig, yn hollol rydd o gulni seotol; fod colli Mr Lewis yn golled i'r rhan hon o'r cwm. a bod yn ddrwg ganddo ei golli fel cymydog, yn nghyd a'i briod hawddgar, yr hon a gerir yn tawr gan ei chymydogion, a phawb 0 i chydnabod-ei fod yn dymuno o galon lwyddiant a hapnsrwydd iddyntyn eu He newydd. Siaradwyd i'r un cyfeiriad gan Mri Thomas Jenkins, liywydd y pwyllgor Mr Dd Jones, Ysgolfeistr, Pontlottyn; Mr Dd Jenkin Lewis, aelod o'r Bwrdd Ysgol Mr T C Jones, eyix-ysgolfeistr, Hengoed Mr G Davies, olyn- ydd Mr Lewis, a'r Cynghorwr T E Jones. Cyflwynwyg yr anrhegion gan Miss M G Efowells, athrawes gynorthwyl i Mr Lewis, gydag araeth bwrpasol yn Hawn teimlad hir- aethlawn. Yr oedd yn gerfiedig ar yr awrlais, 'Presented to Mr Lewis, headmaster, New town Board School, by present and past teach- ers, scholars and residents of Newtown and Llechryd, on his promotion to Hengoed School after 18 years' faithful service. Canwyd amryw ddarnau yn swynol gan Miss Mary Richards, Miss Davies, W G Jones, J Lewis Thomas, Richard Rees (Asaph o'r Twyn). Chwareuwyd i wasanaeth y cantorion gan Mr Davy Jones, a darllenwyd ffrwyth awen Miss Annie Jones, Mr D Summers (Dawi Hefin), &c. Dydd Sul a'r Llun diweddaf, cynaliwyd cyf- arfodydd pregethu blynyddot Methodistiaid Carno, pryd y pregethwyd yn effeithiol i dyr- faoedd lluosog gan y Parchn D. Lloyd Jones, M,A., Llandinam; W. Jones, Treforris a W. Jenkins, Creunant. Casglwyd tri deg o buuau o ddonedd y streic, a hyny mewn eglwys o lowyr. # Maa hen Gymry glan Rhymni yn dal i'n gadael yn gyflym ryfeddol y gauaf hwn. Pwy ddydd, cludwyd i'w hun olaf Mr John Thomas, tad ein Cyngorydd Sirol enwog Mr J. D. Thomas. Yr oedd Mr Thomas wedi ei ddigoni a hir ddyddian, ac wedi bod yn ddefnyddiol i'r byd a'r eglwys am ei oes. Gwasanaethodd weithiau heiyrn Rhymni fel goruchwyliwr y Forge trwy y rhan fwyaf o'i oes. Mae ef braidd yr olaf o hen farwniaid gafferyddol y gwaith tan. Peraidd hun iddo. Un arall wedi byw yn hir dros brydJes arferol bywyd dyn eedd Mr W. Thomas, tad ein cym- ydog hoff Mr James Thomas, Bydd ei le yn wag yn nghylch helaeth perthynasau a chyfeill- ion. Hun felus iddo yntau. OWAIN GLYNDWR,
Y SEFYLL ALLAN PRESEIOL A…
Y SEFYLL ALLAN PRESEIOL A RHAI O'I ACHOSIOlff. Tra mae llawer iawn o bobl yn gofidio'n ddwys yn ngwyneb sefyllfa ddifrifol pethau, ychydig ydym yn ofni sydd yn meddwl beth sydd wedi achlysuro neu arwain i'r sefyllfa bon. Cofia llawer, yn enwedig ar ol i ni ei nodi, ei boiwedibod yn frwydr galed yn amser trefn- iad y Scale ddiweddar rhwng y Scalists a'r Federationists. Pleidwyr y Scale enillodd, eithr braidd y gellir dweyd iddynt orchfygu. canys nid yw'r Fedarationists wedi bod yn cysgu nac ya segur oddiar hyny, ond o'r tn arall, wedi bod yn ddiwyd i ddifrio y Scale a'i phltidwyr, yn enwedig Mabon. Rhoddodd y cwympiadau olynol y blynyddan diweddaf fant-Ais iddynt i ollwng allan eu cynddaredd, ac i giel dylanwad ar lawer o bobl nad oeddynt yn meddwl drostynt eu hunain. Nid oeddynt ya petiuso dweyd anwiredd en- llibas am aelodau y gweithwyr oeddynt yn aelodau o bwyllgor y Sliding Scale. Yrunig un oedd yn ddyn o hoaynt oedd Isaac Evans, am iddo beidio arwyddo y cytundeb. a thaerent o'r ta arall fod y lleill ooddent wedi arwyddo y cytundeb wedi gwnend hyny heb un ddeall- dwriaeth rhyngddynt a'r gweithwyr oedd yn talu iddynt am edrych ar ol eu buddianau (inter- est). Mewn gair, dywedent yn glir eu bod wedi gwerthu eu cydweitawyr, ac nid yn an- fynych dywedent eu bod yn cael eu llwgr- wobrwyo gan y perchenogion glofaol. Nis gall dim fod yn fwy o enllib na hyn, o herwydd wedi bod yn dadlu yn galed a'r perchenoerion am gael cadw y Scale oedd yn rhoddi 10 per cent i'r gweithwyr am bob swllt o godiad y dynell yn y farchnad, tra'r perchenogion o'r tu arall yn dadlu am ei newid i 7i per cent am oob swllt: symudodd y perchenogion o 7 i 8 per cent, ac aeth yn deadlock-ini wna yr un ochr symud dim. Yna daeth y pwyllgor yn ol at y gweithwyr, gan egluro sefyllfa pethau, fel yr oeddynt yn sefyll. Wedi ystyriaeth ddyladwy, cafwyd fod mwy- afrif yn rhoddi awdurdod hollol iddynt i wneud y telerau goreu aUent dan yr amgylchiadau. Darfu i'r cjrdbwylfgor gyfarfod drachefn gyda'r canlyniad iddynt gytuno i ranu y 2Vper cent mewn dadl, fel y byddai y codiad a'r gostyngiad rhagllaw yn 8:i; per cent. Ond gomeddodd Isaac Evans a D Morgan, Aberdar, arwyddo. eithr mewn diwrnod neu ddau, arwyddodd Mr D Moigan y cytundeb ar gais arbenig gweith- wyr Aberdar. Yn ngwyneb y ffeithiau byn, nid ydym yn deall pa fodd mae'r bobl yn medru taeru fod aelodau y pwyllgor yn eu gwerthu, nac hyd yn nod yn ddibris o'u buddianau. Yn nyddiau olaf mis Mawrth diweddaf, ai dosbarth neilldtiol o gwmpas i berswadio'r bobl i beidio gweithio diwrnod yn mhellac na'r rhybudd oeddent wedi ei roddi i dori pob ym- rwymiad, ac i beidio gwrandaw dim ar. Mabon a'i gydaelodau. Mai eu hunig amcan oedd cael yr un awdurdod eto i'w rhwymo a chytundeb newydd fuasai yn niweidiol iddynt. Fod hyd yn nod un o'r perchenogion wedi datgan fwy nag nnwaith fod 20 per cent yn dod iddynt. Hefyd, awgryment fod gwaith y pwyllgor yn treulio'r chwe' mis—tynmhor y rhybudd-heb wneud dim tuag at ddod i gyd-ddealldwriaeth, yn sail deg i ddysgwyl eu bod yn bwriadu eu rhwymo a chytundeb llai ffafriol nag a allesid gael. Nid oes sail i'r pethau hyn, o herwydd mae yn hysbys mai yn erbyn barn Mabon y rhoddwyd rhybudd diweddaf 1 dori y Scale. Mewn cynadledd a gynaliwyd yn Nghaerdydd yn nechreu mis Medi diweddaf, yn olyradrodd- iad a ymddangosodd yn y DARIAN am Medi y 9fed, dywedir, Penderfynwyd cymeradwyo pob peth i ystyriaeth y gweithwyr. Gwnaeth Mabon sylwadau fel a ganlyn mewn cysylltiad a rhoddi rhybudd i dori y Scale,—' Am iddynt beidio meddwl ei fod ef yn myn'd i sefyll ar eu ffordd i dori y Scale, ond ei fod yn dywedyd y dylent ystyried beth oeddynt yn wneud. Eu I bod wedi enill llawer pwnc o anneaildwriaeth, drwy gyfrwng Cydbwyllgor y Scale, na enillas- asant oni bai hyny, ac y byddent yn debyg o golli amryw fanteision oeddent yn feddu y pryd hyny ar ol ei thori. Nad oedd pethau yn galonog idwn ar y pryd. Ei bod yn wir fod ychydig welliant mewn gwaith er ys d <vy neu datr wythnos, ond nas gellir dywedyd'am ych- ydig amser eto a oedd yn welliant parhaol neu beidio.' Dywedodd hefyd ygeiriau arwyddoca- ol canlynol yn y gynadleid hono.—' Feallai y byddai rhwystrau ereill ar ddiwedd y chwe' mis nad oeddynt yn eu caafod yn bresenol, ond ei fod ef yn eu cantod drwy lygaid ei feddwl.' Yn awr, beth allasai arweinydd wneud yn well nag a wnaeth Mabon ? Pe buasai yn sefyll yn dyn ac yn cyffroi yn erbyn rhoddi rhybudd, b-Li-Asid yn ei gyhuddo o fod yn chwareu i law y meistriaid, a gwyddai yntau hyny, ac ymatal- iodd rhag hyny. O'r tu arall, bu yn ddigon gwrol a gonest i ddangos y ffordd y dylent rodio, a dangos y perygl o beidio. Beth oedd yn weled, meddent ? Yr oedd yn gweled nad oedd cysgod o sail i sylweddoli awgrymiadau Mr D A Thomas, ac y mae pawb yn gweled hyny yn awr. Yr oedd yn gweled yr elfenau gwrthwynebus oedd yn mhlith y gweithwyr eu hunain, ac yn gwybod na ellid cario allan syn- iadau rhan fawr. Mae Ilu mawr yn gwybod yr un peth erbyn neddyw. Yr oedd yn gweled hefyd erbyn diwedd Mawath y byddai y Com- pensaton Act ar ymyl dod i weithrediad, ac y byddai yn fantais i'r meistri ad-drefnu y Scale i gyfarfod a'r sefyllfa newydd ar bethan. Mae Uu mawr o weithwyr mwyaf ystyriol ac ereill yn deehreu meddwl am hyny erbyn hyn, ac fe ddaw ya sylweddol iawn i feddwl miloedd cyn y terfynir yr anffawd bresenol. Peth arall a ddylanwadodd yn rymus ar y bobl oedd, peidio cyhoeddi yr Audit yn niwsdd Mawrth. Nid oedd hawl i ddysgwyl hyn, y mae'n wir, canys trefniant perthynol i'r Scale oedd yr audit, ac nid oedd yn briodol i'r trefn- iant i reoli prisoedd a chyflogau y tuallan i'r trefaiant mewn gwirionedd pan oedd y trefn- iant hwnw wedi ei derfynu gan y gweithwyr eu hunain. Yroeddy percnenogion yn berffaifh o fewn eu hawl pan yn gwrthod, ond yn yr achos hwn, fel mewnllawer achos arall, nid yw yn ddoeth i sefyll yn dyn at yr hyn sydd genych hawl iddo. Pe buasai y perchenogion wedi can- iatau-neu yn hytrach feallai y dylwn ddywed- yd-wedi peri i ddarpar achyboddi yr audit, fe fuasai hyny wedi tueddu i brofi nad ydoedd awgrymiadau Mr U. A. Thomas yn safadwy, ae hefyd wedi rhoddi nerth ychwanegol i'r gweithwyr hyny ag oedd am barhau i weithio, ac yn arbenig buasai wedi tynu llawer o'r gwynt o hwyliau' y rhai hyny oedd yn chwythu y tan. I grynboi fy sylwadau yn fyr, ye achos syl- faenol o'r sefyllfa bresenol ydyw ymdrech bar- hans y Federationists i ladd jdylanwad pwyll- gor y Sliding Scale—yn enwedig Mabon, y cryfaf o honynt. Yn ail, ymdrechion Mr D. A. Thomas i'r un perwyl drwy godi dysgwyhadau disail y bobl; ae yn olaf yr anffawd i beidio cyhoeddi yr audit, canys fe symbylodd hyny y gweith- wyr i feddwl yn gadarn fod Mr D. A. Thomas yn gywir. Ynawr, beth jydd i'w wneud i ddyfod allan o hono ? Wedi gweled fod y pethau uchod yn ddisail, tafler hwynt o'r neilldu ar unwaith, yn lie ymidiried ynddynt. Cadw oddiwrth y Bwrdd Masnach hefyd, o herwydd byddai ym- yriad hwnw yn niweidiol iawn i achos y gweith- wyr. Nid yw gwybodaeth ymarferol y bonedd- igion hyny yn ddigon manwl i ddeall yn drwy- adl amgylchiadau y gweithwyr. Hefyd nid oes g-tn y gweithwyr y cof nodion a'r profion vsgrif- enedig gofynol i brofi eu hachos. Bydd yn rhaid boddloni ar oediadau cy ff radinol, ae heb fanylion ysgrifenedig iddal i fyny y rhai hyny,i gario ar- gyhoeddiad o'u gwirionedd ;ac hyny nidyn unig i syrthio yn fyr o brawf, ond yr hyn fyddai gwaeth yn tueddu i roddi argraff yr ymchwil- wyr mai gosodiadau heb fod yn wir fyddent. O'r tu arall, byddai gan v perchenogion bob helaethrwydd o brofion oddiwrth ffigyrau a chofnodion ysgrifenedig y gweithfeydd ac ac mewn canlyniad elai y ddedfryd yn erbyn y gweithwyr o ddiffyg manylion ysgrifenedig fel tystiolaeth. Gan hyny, edrycher ar y ffeithiau a'r amgylchiadau yn eu gwyneb. ac arferer synwyr cyffredin gyda hwvnt, a rhodder pob ymddiried ac awdurdod i'r hen bwyUgor i wneud cytundeb newydd, canys y maent yn deall yr holl amgylchiadau yn annhraethotwell na neb arall o du y gweithwyr, ac ansawdd y farchnad, ac yn debycach i lwyddo mewn teler- au ffafriol na neb arall. Gan obeithio fod gwiawr ar dori. SYLWEDYI%.
EISTEDDFOD GADEIRIOL RESOLFEN-
EISTEDDFOD GADEIRIOL RESOLFEN- Mr Gol,-Derbyniwyd a ganlyn LIBRETTO—Llais o'r-Tywylloesoedd, Iforydd, Awel Mai, Alwyn, Cymro o Faes Cymru Fu, Daniel, Lazarus, Harri, Llais y Bugail, Uthr Bendragon, Lief o'r Bryniau—11 LIBRETTO (i blant)-A school boy, Briton-2 CAN o GLOD-Tant, Arlunydd, Edmygydd, Brigwyn, Llef y tlawd o ysgol profiad, Llais y llu, Hen was ei dad. A Tenant—8. MARWNADM A EVANs-Pererin purei eiriau, Hiraeth, Awel, Awel y Bedd, Deigryn hiraeth o'r gwalJgofdy, Awel gofid, Hwyan Hedd, Ar y daith, Deigryn-8. YSGRIF-Brig yr ywen, Onesiphorns, Brigy- don, Abner, Mair, Profladol-6. ENCJLYN—13. Dymuna yr ysgrifenydd arnaf ofyn i'r ym- geiswyr am y gadair fod cystal a danfon eu henwau priodol iddo dan sel erbyn Mai 25ain, er mwyn sicrhau presenoldeb y buddugwr i'w gadeirio. Yr eiddoch, &c., JOHN T. JOB.
I UNDEB YSGOLION SABBOTHOL…
I UNDEB YSGOLION SABBOTHOL ANNI- BYNWYR MORGANWG. Arholiad Dosbarth I-Plant dan 13eg oed. (Parhad). Ysgol Seion, Glaiq-Parhad. Safon IV, graddaa 1 2 3, Wm John Davies, Tom Maddock, Dd Evans, Gwen Rees, Maggie Rees, Mary Elizabeth Williams, Sarah Morgans, Sarah Davi s. C Maiy Parker, Hannah Brimfield, Minnie Evans. Ysgol Ebenazer, Brynamman-Safou 1, gradd- au 12 3, Jaue Jones, Mary Hannah Davies, Annie Rees Morgans, Margaret Anne Davies, Tom Jones, Gomer Harries. Safon III, gradd- au 1 2 a 3, Ivor Lewis. Gwilym Morgan Jones, Johny Lewis, Dd Richard Jones, David John Jones, Rachel Anne Lewis, Lettuce Jane Mor- gans, Mary Jones, Tommy Morgans, Mary Jane Harries, John Owen Evans, Morgan Williams, Agnes Williams, Alun Williams, Thogormah Davies, Gwilym Davies-23. Ysgol Pennel, Bryncethin, Safon I, gradd 3, David Jenkins. 2 a 3, Sarah Jane Williams, Edwin Lewis, James Roberts; 1 2 a 8, Eliza Jenkins, Minnie Morgan, Willie Williams. Safon II, graddau 2 a 3, Agnes Lewis 1 2 a 3 Tommy Rees, Stanley Morgan, Ivor Gorn, Ceesar Jenkins, Lewis John Williams, Morgan Lewis, Mary Anne Broadway, Elizabeth Anne Jones, Mary Anne Richards, Katie Jenkins, Jane Jenkins. Jane Cornelius. Safon III, graddau 1 2 a 3, Albert Williams. Edgar Wil- liams. E tward Jenkins, John Jenkins. Safon IV.. 1 2 a 3, Sarah Anne Lewis, Buddug Mor- gan, Mary C Jones, Mary Kate Cornelius, Annie Lewis, Katie Jenkins. Safon V, 1 2 a 3, Jenkin Williams, Richard Rees, Tommy Jen- kins, George Jenkins, John Jenkins, William Williams, Phillip Morgan-33. Ysgol Betharran, Brynmenyn-Safon 1, gradd 2. Rees John, Leonard Leyshon, Osborne M Rees, Stanley D Rees, Emlyn R Rees, Allen Punter, Hubert M Punter, Beatrice A Prosser, Elizabeth J Lewis, Mary M Lewis, Elizabeth J John, Margaret A John, Katie M Howells, Sarah J Howells, Blodwen Evans, Margaret A Thomas, Arthur Williams, Lucy Draper. Saton III. gradd 1, Catherine M Llewelyn. Gradd 2, Edith Watkins, Mary M John, Lilian M Llew- elyn, Gwen Lewis, John Macey. 1 a 2, Katie David, Rosie Punter, Megan Rees, Sarah C Prosser, Agnes Cavord. 2 a 3. Saiah C Thomas, Bronwen Rees. Safon IV., 1, 2, 3, John Thomas. Safon V, 1 a 3, James Mearweather, Joseph B Davies. 1, 2, a 3, David Loyahou-35.
Dosbarth V. Adran Hanesiaeth…
Dosbarth V. Adran Hanesiaeth Eglwysig. Hanes y Deg Erledigaeth Cyffredinol Cyntaf. Dengys yr oil o'r ymgeiswyr eu bod wedi ilafurio yn onest. Amlyga llawer o honynt graffder nodedig i weled, cais cylch a therfyn gofyniad, gan ei ateb yn eglur ac i'r pwynt. Teimlaf mai nid prinder gwybodaeth yn gym- aint barodd i'r rhai isaf yn y rhes gymeryd eu safleuodd lie y gwelir hwynt, ond diffyg gallu i fynegu yr hyn ni wyddent. Mae rhai o honynt yn ysgrifenu yn wych, ond heb ofalu am der- fynau r gofyniad. Taflasom gymaint o gyd- wybod a barn ag a feddem i'r gwaith. Nid wyf mewn un m dd wedi bod yn afradlon ar y rhifnodau a gysylltwyd a'r enwau.—T. MAFON- WY DAVIES, Biaenafon, Mon., Arholwr. U wchafrif y marks, 100. 1 John T Gregory, Seion, Glais 96 2 E J Roderick, Soar, Clydach Vale 91 3 Maggie Morgan, Salem, Merthyr 84 4 W J Williams, Cymer, Rhondda 81 5 J M Evans, Salem, Aberdar 80 6 Edwin R Daniel, Pentre Estyll 78 7 D Beynon Jones, Cymer, Rhondda 77 8 John James Jones, Ebenezer, Abertawe 74 9 Tom Davies, Cymer, Rhondda ( n 10 John Evans, Bethania, Cwmafon ( 11 W L Williams, Cwmbwrla, Abertawe 63 11 W L Williams, Cwmbwrla, Abertawe 61 12 John C Evans, Bryn Seion, Cwmbach 58 13 David W Owen, Bethel, Aberdar 53 14 James Jones, Bryn Seisn, Cwmbach 48 15 David Evans, Salem, Aberdar 43 Cwmbach. D. MORGAN DAVIES, Ysg.
BEDLINOG.
BEDLINOG. CLADDEDIGAETH.-Dydd Gwener, Mai 13eg, claddwyd Trefor James Davies, 11, Bedlinog terrace, sef mab bychan i Mr a Mrs Samuel Davies, ysgolfeistr, Brithdir, Tredegar Newydd, yn nghladdfa y Pant, Dowlais. Gweinyddwyd yr angladd (neillduedig) gan y Parch R 0 Jones (A.) Nid adnabuasom erioed bobl fwy caredig a hynaws na Mr a Mrs Davies, ac er fod y brofedigaeth hon yn drom a chwerw, dy- oddefasant yr amyneddgar a thawel, gan gofio mai' O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.' Cydymdeimlir yn ddwfn a'r rhieni yn eu trallod blin a'u galar. Cofiwch i'r Iesu ddywedyd, I (*adewch i blant bychain ddyfod ataf fi,' a sicr fod y bychan yn ateb, Canys Ilawer iawn gwell ydyw.' Er fod iddo rieni anwyl a da yma, brawd a chwaer, eto nid oeddynt i'w cymharu a'r cwmni gogoneddus fry. Ni ddaeth y teg flodeuyn hyn A ga'dd mor syn ei symud, Ond prin i ddangos pa mor hardd Yw blodau gardd y bywyd.' E. S. J.
~ YSTRADFELLTE.
YSTRADFELLTE. Cymanfa Ganu. Dydd Llun diweddaf, cynaliodd Dyffryn Mellte ei Chymanfa Ganu flynyddol yn Hermon, dan arweiniad Mr Tom Price, G. & L., Merthyr. Llywyddwyd ac areith- iwyd yn y gwahanol gyfarfodydd gan y Parchn D Morgans, gweinidog, D G Davies. a Morgans, Glynnedd. Canwyd y tonau canlynol: Glanceri, Aberperwm, St Catherine, Austria, Joseph, Gweddi, Plen tyn. Salm XLVI, Tranquility, Spanish Chant, Gwalia, Dyffryn Moab, Phonda, Yr Ysgol Sul, Darwell, Salm VIII, Alexander, Ymdeithgan Dysglaer yw ein baner, a Dewch i'r frwydr, yn nghyd a'r anthemau —Teyrnasa Iesu Mawr (D J Morgans,) a Er i'r Ffigysbren (Tom Price.) Cafwyd tvwydd teg, cynulliadau liuosog, a chanu, hwylus dros ben. Chwareuwyd gan Miss Mathews, Plasydaren, a Miss Llewelyn, Penfathor, y rhai a aeth trwy eu gwaith yn rhagorol.
YR YSGOL DDYDDIC-L.
YR YSGOL DDYDDIC-L. Of Did unwaith y buasai y tlodion presenol yn erbyn cael plant i'r ysgolion dyddiol gyda chy- sondeb. Yn ffodus, nid felly y mae wedi dyg- wydd, gan fod yr ysgolheigion yn rhoddi eu pre- senoldeb gyda chysondeb. Mae eu cyfartaledd yn neillduol o dda, ac y mae y rhieni yn ddy- ledus o gymeradwyaeth am hyn. Pe byddai i blant barhau i fynychn yr ysgolion gystal ag y gwnant yn awr, ychydig o wysiau fyddai ang- enrheidiol i wneud pethau yn hollol wahanol i'r hyn.oeddynt. Mae ymddygiadau y glowyr a gweithwyr ereill yn derbyn canmoliaeth, gan er mor galed yw heb waith ae enillion, maent yn weddus wedi'r cwbl. Mae y ffaith a nodais yn ychwan- egiad pwysig at eu hanes.
LIBANUS, CRAIGBERTHLWYD.
LIBANUS, CRAIGBERTHLWYD. Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfartod- ydd blynyddol, y Snl a'r Llun wytbnos i'r diweddaf. Gwasanaethwyd gan y Parchn H. T. Jacob, Peniel, Caerfyrddin ac Owen Williams, Brynmawr. Cafwyd cyfarfod- ydd pregethu rhagorol y nefoedd yn gwenu. Er ei bod yn edrych yn dywyll o du masnach, eto casglwyd yn llawer gwell na'r dysgwyliad. Pleser a llawenydd oedd genym weled y capel yn edrych mor bryd- ferth wedi yr adgyweirio a'r paentio fu arno yn ddiweddar, a bydd yr organ newydd hardd, yn nghyda r chwareuwr newydd, sef Mr William Morgan. Nelson, yn gynorthwy mawr i'r canu. Dynranol oedd gweled yr eglwys a'r gweinidog ieuanc -y Parch Irwyn Thomas, mor hapus a dedwydd yn cadw gwyl i'r Arglwydd. Deallwn fod Libanus yn gryfach yn awr nag y bu er ys llawer o flynyddoedd. Llwyddiant mawr a'i canlyno eto yn y dyfodol, yw gwir ddymuniad UN OEDD YNO.
AUR-GLODDFA MEIBION GWALIA.
AUR-GLODDFA MEIBION GWALIA. Ychydig ddyddiau yn ol, derbyniwyd genym un o'r pamphledau mwyaf destlus o ran dygiad i fyny ac argraffwaith a welwyd genym er's llawer dydd. Yr oedd yn cynwys bwyd-reseb, rhaglen cerddoriaeth, yn nghyd ag amryw ddarluniau o'r Hotel Cecil, Llundain, ac hefyd hanes cyflawn o fvvngloddiau Gwalia, Awstralia, gan George \V. Hall, Ysw., Y.H. Achlysur dygiad allnn y llyfryn oedd ciniaw i Mr George W. Hall, Y,H., cynrychiolydd y London & Westralian Mines & Finance Agency, Limited, The British Westralian Mines & Share Corporation, Limited, a The Union Financial Syndicate, Limited, ar ei ddych- weliad yn ol i Orllewin Awstralia. Cynal- iwyd y giniaw yn Neuadd Buddug, Gwestdy Cecil, Llundain, Llun, Mawrth 28ain, 1898.