Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

39 erthygl ar y dudalen hon

CYNGHOR DOSBARTHOL ABERDAR.

. ANNGHYDWELEDIAD MEWN CAPEL…

' TRECYNON.

[No title]

CYMANFA DDIRWESTOL DEHEUDIR…

CILFFRIW.

PREGETHU.

EISTEDDFODOL.

ABERDAR.

. CWMDAR.j

Advertising

AIL-ADEILADU.

PENRHIWCEIBR.

MARW.GOFFA MR. THOMAS HARRIS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARW.GOFFA MR. THOMAS HARRIS, YSGOL ST. FFAGAN, ABERDAR. Tuedd gref mewn dynoliaeth ydyw dysgwvl gweled pethau yn gwisgo yr un arwedd yn barhaus. Ai y dyogel ymwybyddiaeth o dra- gwyddoldeb a gyfrifa am hyn? Creaduriaid ffyddiog ydym yn dymhorol, ac os na fydd peth yfory yn gwisgo yr un dymunoldeb ag heddyw, fe'n siomir. Fel ffydd, cryfhau wna y duedd hon, yn neillduol pan fyddo wedi ei meithrin am flynyddau ac wedi ei harddurno a swyn traddodiad tad a mam. Siomiant ydoedd colli "Harris Ysgol Eelws" fel y gelwid enw Mr Thomas Harris, Ysgolfeistr St. Ffagan. Yr oedd calon Mr Harris yn proffwydo ddatodiad cyn eyrhaedd o hono eithation y deng mlynedd a thriugain' a'r pedwar ugain mlynedd.' Er fed y babell wedi tystio gyda phwyslais yn ddiweddar fod y diwedd bron a dod, pan ddaeth fe ddaeth yn siomiant. Fel eymydogion ae adnabyddiaeth ar Heol y Felin, cymerem yn ganiataol fod gan Harris Ysgol Eclws' brydles hynod a dyogel ar ei swydd a'r lie, eto ar foren y Sul, y 3ydd o Fedi, ehedodd yr hyn oedd anllygredig o hono at y Rhoddwr Mawr. Cyn amser cynulliad llwythau yr Arglwydd, yr oedd yn wybodaeth gyffredinol fod gwrthrych y coffa wedi myned. Dyn adnabyddus iawn ar Heolyfelin oedd yr ymadawedig. Yma y treuliodd ei oes. Yn y* Ysgol hon y dysewyd ef, acy treulioddeifywyd i derfyn angeu. Bu yn Culham yn ymbarortoi ar gyfer y gwaith y tymhor arferol werir at yr amcan hwn. Gwasanaethodd hefyd am flwydd- yn yn feistr cynorthwyol Ysgol S. Paul, Cas- newydd, Mynwy. Ar wahoaaiad y Parch. J, D. Jenkins, Ficer St Ffagan, daeth yn ol saith mlynedd ar hugain yn ol. Mewn ychydig amser daeth yn brif feistr, ac yma yr arosodd. Enillodd barch mewn cynghor a chymwynas. Diamheu genyf na allai llawer un yn ei anglald dystio ei fod yn gymydog parod a chymwynas- gar. Naw mlynedd yn ol etholwyd ef yn War- cheidwad. Nid oes le i amheu nad oedd yn llawn cymhwysder at anrhydeddu yr ymddir- aeth. Yr oedd wedi gweled Heolyfelin yn cyd-dyfu ag ef, ac yr oedd yn adnabod y trigolion cystal ag un cynrychiolydd. Nid ydyw bod yn gymwynaswr yn bobpeth er bod yn Warcheidwad, ond y mae yn rhinwedd gwerth ei meddianu. Bu farw yn Warcheid- wad Prydnawn dydd Mercher ymgasglodd nifer mawr o fobl i dalu y deyrnged olaf i r ymadaw- edig. Yn eu plith gwelem lawer o hen fechgyn Ysgol yr Eclws. ac os na chamsyniwn gwelsom ddau gyd athraw iddo a adnabyddem gynt fel Edward y Cemetery a Charlie Williams. Yr oedd yno lawer a cbysylltiadan agos rhyng- ddynt ag Heolyfelin. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch H J Williams, ficer Dinas Powis. Darllenwyd rhan gyntaf y gwasanaeth claddu yn Eglwys S. Ffagan. Dechreuwyd y gwasan- aeth hwn gan y coran anedig drwy gann- "Just as I am without one plea." Canodd y cor y Selm, &e., yn doddedig iawn, a'r don Felton." Darllenwyd y llith claddu gan y Parch D. Phillips, B.A., Rheithior Llangeinor, cyn yma yn athraw dan Mr Harris. Ar al darlleniad y llith, canwyd gan y cor "Peace, perfect peace." Yr organydd ar yr achlysur oedct Mr Dodgson, yr Ysgol Sirol, yr hwn a chwareuodd y 1* Dead March" ar ddiwedd y gwasanaeth yn yr Eglwys. Cladd- wyd ef yn y Gladdfa Gyhoeddus; ar lan y bedd cyflwynwyd ei weddillion gan y Parch H R Roberts, B.D. canlynwyd ef gan y Parch James Jenkins. Blaengarw (cyn athraw dan Mr Harris), a'r Parch E Bevan. hcer S Ffagan. Ar ol y gwasanaeth aeth cyfrinta Dewi Sant o U rdd y Freemasons, drwy eu defod o daflu ysprigyn o bren acacia i'r bedd. Y galaiwyr oeddynt Mr Wm Harris a Miss Harris, plant; Mrs Williams, Park Lane; Mr S a Miss Joliffe, Mr a Mrs Walter Parrish, Mr a Mrs Probert, y Parch W S Probert, B.A Mr a Mrs E Williams, Cymer: Mr a Mrs Jont-s, Dowlais; Mr a Mrs R Williams, Mr a Mrs Williams, Mr Ernest Thomas, Oakhill; Mrs Brookes. Trodd Cyfrinfa Dewi Sant o'r Urdd Masonic allan yn gryf, ac yn bresenol yr oedd Mri W D Phillips, S M Williams, T Lines Jones, Mild. T Phillips, E Botting, G Smith, ac Evan Jone* cyn feistri: Mri T R Howell, J E Tremellen, J D Hughes, J Parry, E Jenkins, Jabez Long, E W Taylor, H J Harris, Dr Isaac Bankes, Mri James Harrison, Arolygydd Davies (Heddlu), T Lloyd, Henadnr J W Evans, D Hughes (Uwch Gwnstabl). J H James, W Notton, J A Williams, J Williams, Cynghorwr J Howell, R Raes. Cound. F W Mander, A S Pleace, J W Morgan. J Mackintosh (Meithyi),• J Thorney (Heddlu). aelodau. O'r cyhoedd yn bresenoi y oedd y Parchn W S Davies (A), Llwydcoei; W Harris,, (B), Heolyfelin; E T Davies, B.A, Curad J Morgan, B.A, Curad W. Richards, (A). Heol)felin. Anfonwyd blodau gan y tealu, athrawon S Ffagan, ysgolfeistresi, corau s Ffagan a S Gwenfrewi, Mr Thomas, Oakhill a'i deulu Mr W D Lewis, NiBS M J Mills, Parch E Bevtin a'i deulu, Mr a Mrs Pearcy, Mr a Mrs Brook, Mr a Mrs E Williams. Yn eglwys St. Ffagan, nos Sul, traddod- wyd pregeth angladdol tarawiadol a thodd- edig iawn gan y Parch James R Jenkins, Blaengarw, i gynulleidfa lunsog, a chan- wydemyuau pwrpasol iawn i'r amgylchiad.

NODION MIN Y FFORDD.

MARWOLAETH CYMRAES.

LLITHRIAD.

DIRWEsT.

CERDDOROL.

DAMWAIN.

! PREGETHAU NEILLDUOL.

Y TLOTDY.

MARWOLAETH

AGORIAD CAPEL.

GWYL DE.

BIR GYSTUDD.

CYFLOGAU Y GWEITHWYR DUR.

Y GYNADLEDD DDYFODOL

CYNADLEDD DYDD SADW.rtN.

CWMAMAN, ABERDAR.

ABERDAR.

SALEM, SENGHENYDD.

EISTEDDFOD GORONOG CLYDACH…

OYSTADLEUAETHAU.

TRECYNON.

-.--.--.._._-LLINELLAU

PRIZE DBA WING CAPUOCH.

CYNGORION YR EFRYDYDD.

Advertising