Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
W. GIBBON & Co., j EOR < .S | MENS' & BOYS' S ] Winter Overcoats, tS MENS' & BOYS' t is i Winter Suits. pc; CHEAPEST IN WALES. CJ..e»1th lEEsa-M., • treet Coromerciiil -treet, A A AB KRDARE. Also at Swansea, Newport, Aberavon, Pontypridd, Pentre, Tredegar, Tonypandy, Ebbw Vale and Ferndale. -HANES- IIIRWAUN WRGA1\ T AM Fil o Flynyddoedd I YMDDANGOS YN "y Danan" YN FUAN, GAN "NI WAETH PWY." Llanharran Eisteddfod. -0- THE TENTH Annual Eisteddfod Will be held in a Spacious Marquee on WHIT TUESDAY, May 20th 1902. ADJUDICATORS— Music-Mr. D EVANS (Eos Dar), Mard y D. C. DAVIES, ESQ., Cardiff. Bands-PAUL DRAPER, ESQ., Penarth. Literature and Conductor for the day— TOM JOHN, ESQ., Llwyn pia. Accompanist- MADAM F. JONES REES, C.R.A.M., Llanharran. Male Voice Test Prize, 'Sparten Heroes prize, 15/ and a gold medal to conductor. Mixed Choirs, Yco-yo, come travellers prize, lOP. Brass Band Contest, Turline (Wright & Round), first prize, 8p 2nd, 3). Marching Contest: prize, IP. Further particulars from Sec.— MR. SAMUEL GRONON, Coed-bychah, Llanharran.. Pob gohebiaethau, hanesion ysgrifau &c, i'w hanfon i'r; Editor, TARIAN Office Cardiff Street, Aberdare, Pob taliadau ac hysbysiadau i'w hanfon a G. M. EVANS, TARIAN Office, Aberdare.
: o: - YMDDISWYDDIAD GWEINIDOG…
o: YMDDISWYDDIAD GWEINIDOG YN NHRECYNON. Gwasanaeth Hirfaeth Mae y Parch William Harries, yr hwn y mis nesaf fydd wedi llafurio fel gweini- dog i eglwys y Bedyauwyr, yn Heolyfelin, am ddeugain mlynedd, wedi hysbysu yr eglwys ei fod yn bwriadu ymddiswyddo o'r we:nidogaeth y Pasg nesaf. Brodor o hen dref fechan LianymJdyfri, ydyw Mr Harris, yn naha le y ganwyd ef yn Ebrill 19, 1830. 0 herwydd colli ei dad a'i fam pan nad oedd ond tri rris oed, mabwysiad- wyd ef gan wr a gwrdig (J iblant o'r enwau Henry a Sarah Harries, pa rai yn fur n a symudasant i Ebbw Vale, ac yn y pentref myglyd hwnw ar lan yr Ebwy y treuliodd Mr Harris ei amser, o pan yr oedd tua 6 mis oed hyd nes iddo ymadael i fyred i'r coleg Yr oedd o'i ble tyndod yn hynod am ei dduwioldeb a'i duefosiwn i grefydd, a phan nad oedd ond deg mlwydd oed bed- yddiwyd ef yn afon Ebwy f1,an y Parch Ed. Oliver, yr hwn ar y pryd oedd yn weinittog yn Nebo. Gwnaeth ei hun yn ddefnyddiol iawn yn eglwys Nebo, a bu am nifer o flynyddoedd yn arweinydd y canu yno Yr oedd Henry a Sarah Harris, yn rhieni yn ngwir ystyr y gair i'r bachgen, a chodwyd ef yn yr ysgol ganddynt hyd nes yr oedd yn 12 mlwydd oed, yr hyn ar y pryd hwnw oedd yn beth eithriadol iawn i blant. Yna aeth i weithio gyda'i dadmaith i un o lofeydd yr ardal. Pan yr oedd yn 16 mlwydd oed, daeth trallod blin at-all i'w ran, bu ei dad a'i famaeth farw a thrwy hyny gadawyd ef yn anig ac yn ddiymgeledd yn y byd. Yn fuan wedi hyn anogwyd ef yn daer gan weinidog a diaconiaid Nebo i ddechreu pregethu, ond buwyd am dipyn o amser cyn llwyddo i'w ddarbwyMo i gymeryd y ath gam, ac yr oedd yn agos a bod yn 22 j mlwydd oed cyn y darfu iddo i wneyd y penderfyniad, ac yn yr oedran hwnw y dechreuodd ar ei waith i barotoi ei hun gogyfer a chael derbyniad i goleg y Bed- yddwyr yn Hwlffordd. Bu yn llwyddianus yn ei ymdyech, ac yn ystod ei arosiad yn y coleg, yr oedd yno nifer o bobl ieuanc yn gydfyfyrwyr pa rai wedi hyny, sydd wedi bod yn bregethwyr o fri ac yn ser disglaer yn mhwlpud y Bed- yddwyr, o ba rai dichon mai y Parch Dr Hugh Jones, o Llangollen, oedd y mwyaf nodedig. O'i gydfyfyrwyr nid oes yn awr yn aros ond dau, sef y Parch James Owen, Abertawe, yr hwn sydd yn adnabyddus i'r holl eglwysi, a r Parch Benjamin Davies Porth, yr hwn sydd wedi gwneyd Uawer a'i ysgrifbin i roddi hanes yr enwad. Yn 1855, gadawodd y coleg wedi derbyn galwad a roddwyd iddo i fyned yn weini- dog i eglwysi Pantycelyn (yr hon sydd yn nodedig o herwydd ei chysylltiad a un o hen emynwyr Cymru, sef Williams, Pant- ycelyn), a Salem, Llangamarch, yn Sir Frycheiniog. Yr oedd un peth yn neilldu- ol iawn yn nglyn a'i ordeiniad. Cymell- wyd ef yn daer gan egtwys Nebo, Ebbw Vale, i gynal ei gyfarfodydd ordeinio yno, ac wedi cael can;atad eglwysi Brycheiniog i hyny, cynaliwyd hwynt yno. Yn mhlith y gweinidogion a gymerasant ran yn ei or- deiniad yr oedd y Parchn R Ellis (Cyn- ddelw), John Jones (Mathetefc), ac Evan Thomas, Aberteifi. Llafuriodd yn yr eglwysi hyn am bedair blynedd yn llwyddianus ;awn, a bu yn offerynol i gychwyn eglwys yn Llanwrtyd yn ogystal. Yr oedd y gwaith yn hynod o ga!ed ar hyn o bryd iddo, o herwydd cad- wai ysgol ddyddiol yn yr wythnos, a phre- gethai dair gwaith ar y Sabboth gan deithio dros ddeng milldir bob Sul. Yn 1859, derbyniodd alwad i fyn'd i weinidog- aethu i Bethania, Cwmbach, yn Nghwm Aherdar, sc yn Ebrill, 1862, svmudodd drachefn i gymeryd go fa I yr eglwys yn, Heolyfelin, ar oi y Parch Benjamin Evans Castellnedd. Yma y mae wedi bod yn an- arferol o Iwvddianus am 4Jain mlynedd, ac yn hoff a pharchus iawn gan bawb yn yr ardal. Pan y daeth i Heolyfelin yr oedd eglwys Llwydcoed yn gangen o'r cyfryw, ac am rai blynyddau bu Mr Harris yn gweinidogaethu yn y ddau gapel, a phan y penderfynodd yr eglwys yn Llwydcoed i fynu gweinidog iddi ei hun, gwnawd tysteb ganddynt i'r hen weinidog. Er hyny, nid hono yw yr unig dysteb y mae Mr Harris wedi dderbyn, o herwydd y mae yr eglwys yn Heolyfelin wedi ei anrhegu a thystebau gwerthfawr ddwy waith yn ystod ei arosiad yno. Ed- rychid ar Mr Harris gan yr enwad i gyd fel pregethwr hyawal o fri, a cheisid ei was- anaeth i gyfarfodydd blynyddol yn ami iawn. Yn 1872, etholwyd ef yn gadeirydd Un- deb y Bedyddwyr yn Morganwg, ac yn y cyfarfodydd blynyddol yn Aberafon, tra- ddodwyd anerchiad y cadeirydd ganddo ar Bethau teilwng o ystyriaeth yr Eglwysi,' yr hon oedd yn llavvn ffeithiau ac yn dang- gos oi Uafur mawr. Yn mhen ugain mlynedd yn ddiweddarach derbyniodd yr anrhydedd mwyaf a allasai yr enwad roddi iddo trwy ei benodi yn Gadeirydd Undeb y Bedyddwyr Cyrrreig, ac yn Awst, 1892. traddododd ei anerchiad gadeiriol yn nghyf- arfodydd yr Undeb yn Nghaernarfon. Ei destyn ar y pryd oedd—' Caffaeliad sicr o'r gwirionedd, ac ymdrech selog o'i blaid,' a bu son mawr am yr anerchiad hwnw. NiJ fel pregethwr yn unig y mae Mr Harris yn enwog (er y dichon mai yn hyny y mae ei gryfder), ond y mae yn ddarlithydd o gryn fri, ac yn ysgrifenwr llithrig iawn Oddiar pan yr oedd yn hogyn yn Ebbw Vale, pan yr oedd yn ar- weinydd y canu yno, y mae wedi cymeryd llawer o ddyddordeb mewn cerddoriaeth, ac yn neiilduol mewn canu cynulleidfaol, ae yn 1877, mewn cydymffurfiad a'r Parch James Jones, 4bercwmboy, y pryd hwnw, a Nl r Jenkin Howell, Aberdar, cyhoeddwyd Ilyfr cerddorol at wasanaeth eglwysi y Bedyddwyr ganddynt, yr hwn a elwid y Llyfr Canu Cynulleidfaol,' ac i ba un y bu gwerthiant mawr, a defnydd helaeth yn yr eglwysi hyd nes y daeth llyfr hymnau a thonau yn gysylltiedig yn ei lie. Yr oedd nifer o'i ddarlithiau ar destynau cerddorol, yn neiilduol y rhai hyny ar Handel a Haydn. Ar un adeg o'i fywyd, bu yn ymgodymwr yn yr eisteddfodau, a bu lawer gwaith yn ddygydd y dorch o'r rhai hyny, ac yn eu plith yr oedd y dorch o ddeg gini ganddo am draethawd ar Gerddoriaeth yn Eistedd- fod y Cymry yn Nghastellnedd ym 1.866 Eisteddfod nodedig yn y byd Eisteddfodol rdoedd hono), o dan feirniadaeth Tafolog a ranyrnarian. Dygodd y dorch hefyd mewn eisteddfod yn Nhroedyrhiw am draethawd ar janu Cynulleidfaol, o dan feirniadaeth Tegai. Yn un o eisteddfodau y Rhos, Mountain Ash, cipiodd y dorch am draeth- iwd ar I Dyfiant Meddyliol,' pa un a fu yn sail i ddarlith boblogaidd a draddodwyd ganddo. Un adeg, bu mewn cysylltiad a llenyddiaeth gylchgronol-nid fel ysgrifen- ydd yn unig, ond fel gohebydd hefyd bu Mr Harries, y Parch James Jones, Mr Jenkin Howell, a'r bardd Meiriadog, yn gydolygwyr i gyboeddiad misol a elwid Yr Arweinydd,' yr hwn, er hyny, ni fu byw ond i sylvviddoli yr hen ddywediad mae y rhai hyny y mae y duwiau yn garu, yn marw yn ieuanc.' Yr oedd Yr Arweinydd yn gy- hoeddiad da-rhy dda, fe ddichon, i'r oes hone ac ni fu byw ond am ddeuddeg mis. Yn y cylch teuluol y mae Mr Harries wedi bod yn ddedwydd iawn, gan ei fod wedi llwyddo i gael un o'r gwragedd goreu 2 yn gydymaith iddo yn Mrs Harries, yr hon a fu farw oddeutu pedair blynedd yn ol, marwolaeth pa un a fu yn ergyd drom i Mr Harries yn ei hen ddyddiau. Bu ganddynt 11 eg o blant, pa rai (gyda'r eithriad o un, sef David, yr hwn a fu farw yn blentyn), a gawsant fyw i fod yn llawenydd ac yn gysur i'w rhieni. Bu Jane, er hyny, farw rai blyn- yddau yn ol o'r darfodedigaetb, a thorwyd Ifor i lawr, er galar a siom i'r enwad yn gyffredinol, bron ar ddechreu ei yrfa wein- I idogaethol. Yr oedd Ifor yn un o'r dynion ieuainc mwyaf gobeithiol yn yr enwad. Y plant ereill ydynt: Elizabeth yn briod a Mr D. H. Evans, y masnachydd Cymreig enwog o Oxford-stieet, Llundain Joseph Harries, goruchwyliwr yn uu o ganghenau y Meistri Tudor, Brodyr; Sarah yn briod gyda Mr Owen Jones, Le Bon Marche, Llanelli Mrs Fanny John, hi ydyw ysgolfeistres ysgol Trealaw, Cwm Rhondda; a'i gwr (nai i'r diweddar Phillip John, Aberdar), yn ysgol- feistr yn yr un ysgolion John Harries sydd ysgolfeistr yn Ysgol Fwrdd Dinas Cross, Penfro William vn oruch'.vyliwr yn un o fasnachdai y Meistri Cooper a'u Cwmni, Llundain Henry yn ysgolfeistr yn Mwrdd Ysgol Pontygwaith, ac yn briod a merch Mr Howells, clerc Bwrdd Ysgol Ystrady- fodwg; a Jane yn briod a Mr Thomas Phillips, masnachydd yn Victoria Square, Aberdar. Felly gwelir fod ei holl,deulu wedi ymsefydlu yn ddedwydd yn y byd. Dymuna yr eglwys yn mha un y mae wedi bod yn gweinidogaethu am gyhyd, a'i luaws cyfeillion, iddo brydnawnddydd tawel am y gweddill o'i oes. Deallwn fod yr eglwys yn bwriadu dathlu yr amgylchiad drwy ei an- rhegu ar ei ymddiswyddiad a thysteb an- rhydeddus
PILSEN I'R DOCTOR GWAirH.
PILSEN I'R DOCTOR GWAirH. MR GoL. Dyna fel y mae Garibaldi wedi geirio y penawd uchod; ac wrth ys- tyried mai estron i'n hiaith a'n cenedl yw, y mae wedi brawddegu yn lied dda yn y penawd, a thrwy gorff yr ysgrif o'i eiddo yn y 'Darian' am Ionawr y 23ain. Hy- deraf y caniatewch i mi wneud ychydig sylwadau ar ei ysgrif, nid o herwydd fod ynddi unrhyw deilyngdod, ond am fy mod yn ctedu y dylid annghymeradwyo yr an- noethineb, a'r ysbryd dialgar sydd yn ei nodweddu. Mae dynoliaeth, boneddigeidd- rwydd, a synjvyr cyffredin yn galw am wrthwynebu y cyfryw, oblegyd nis gall effeitbio yn niweidiol ar y dosbarth hwnw sydd yn dueddol i ruthro yn anystyriol i ormod rhysedd, ac i beri i ddynion edrych yn rhy isel arnom ni fel dosbarth gweith- ol. Amlwg yw fod rhyw feddyg gwaith wedi cynhyrfu natur yr awdwr, ac nad yw hwnw yn gallu siarad ein htaith, oddieithr tyngu a rhegi, a dichon fod ambell un o fatb Garibaldi yn ddigon ffoi a thrahaus i b.ri i eston i'n hiaith dyngu a rhegi yn Gymraeg. Ond os oes ambell i feddyg gwaith yn gwneyd hyny, a ydyw yn deg a dynol i golifarnu pob meddyg gwaith, a dial ar yr oil gyda'u gilydd o herwydd hyny? Os felly, byddii yn deg i'r meistri ddial arnom oil fel gweithwvr am y cam- weddau ereiit ? Gwyddom am weithwyr wedi dewis meddygon ar y llineMau a noda Garibaldi, a galiwn sicrhau eu 101 mor anfuddiol ag unrhyw feddyg gwaith ag y gwyddom am dano. A beth a ddywedai Garibaldi pe byddai yn cael ar ddeall fod rhai ag ydynt yn gweithio dan bwyHgor yn y dyddiau hyd yn gallu yfed, ac yn gallu rbegi dynion yn eu tai! Ond dichon nad oes llawer o niwed mewn rhegu yn yr iaith fain. Ie, ai ni ellir nodi am luaws mawr oeddynt wedi mynu, ac yn orselog dros gynllun o'r fath, ar ol rhoddi prawf, wedi gweled eu camsyniad pan o dan wasyfa ac afiechyd, a dymuno am wasanaeth meddyg y gwaith, gan nad faint fyddai y gost, a hyny wedi troi yn Iles iddynt mewn iechyd. Credwn fod gan Gyngrair Glowyr Deheu- dir Cymru ddigon o golaid heb ymdra- fferthu gyda phethau o'r natur yma, er mwyn porthi nwydau dynion od, hunanol, ac anfoddog. Beth pe byddai meddygon mor awyddus i roddi pilsen i Garibaldi, ag yw ef am wneyd hyny iddynt hwy! Aw- gryma yr awdwr fod ganddo rhyw bethau annghyffredin i'w dywedyd, pe caniatai rhyddid y wasg iddo wneyd hyny.' Credaf finau, os ydyw wedi oesi ychydig yn ei deimladau, ei fod erbyn hyn yn teimlo y buasai yn falch pe bU"Isai heb gael rhyddid y wasg i gyhoeddi y crynswth hwn o'i eiddo. Nid yw yn ddigon ganddo ddweyd yn dra awdurdodol fod yn rhaid i Gyngrair Glo- wyr Deheudir Cymru fyned gydag ef i roddi pilsen i feddyg y gwaith, heb wasgu ar y gweinidog druan i wneyd yr un peth Pe buasai heb wneyd hyn, buasai yn hawddach ei adael yn ddisylw. Gallwn yn hawdd ga^glu oJdiwrth hyn ei fod vn un o'r dynionach llwfr, anesmwyth, a dialgar hyny nad oes ganddynt syniad uwch am feddyg a gweinidog na'u bod yn ddyled- tuvydd arnynt i wneyd pob peth i fwynhau eu nwydau a'u hopiniynau iselwael ef a'i gyffelyb; ac onide, bydd ef a'r Cyngrair yn uno i roddi pilsen iddynt. Creda rhai mai rhywbeth fel eu bach hwy ydyw y gweinid- o i fod, ac i redeg a chyfarth ar ol pwy bynag a becho yn eu herbyn hwy; ac wrth gwrs, dylai wneyd hyny, oblegyd gwas iddynt hwy ydyw, ac y maent yn ei dalu. Ond creda pob dyn sydd yn meddu parch i anrhydedd y weinidogaeth mai gwas lesu Grist ydyw, ac mai arno ef v dylid gwran- daw. Anwyl gydweithv/y, ymdrechNn ymgodi i awyrgylch iach rhyddid a dynoliaeth, a chaniatau rhyddid barn i weinidog a phawb os na fyddant yn cydolygu a hwy ar wahanol bethau. Na feddyliwn am enill neb trwy orthrwm a bygythion. Gobeith iwn fod Garibaldi yn well ei deimlad erbyn hyn. Yr eiddoch, CYNIWEIRYDD.
------'-----""--MERTHYR.
MERTHYR. Nos Fercher, Ionawr yr 22ain, cynal- iwyd cyfarfod cystadteuol o dan nawdd c mdeitha* ddadleuol eglwys y Method- istiaid Calfinaidd. Liywyddwyd yn dde- heuig gan y Parch Thomas Edwards, y gweinidog. Beirniad y gerddoriaeth—Mr John Evans (Caswallon), a'r Amrywiaeth gan Merthyrfab Agorwyd y gweithred- iadau drwy unawd. Gwobrwywyd y can- lynol fel buddu^wyr—Adroddiad i bl int a rhanwyd rhwng Margaret Davies a John Edwards. Cor plant, Pontmorlais Band of Hope, dan arweiniad Mr D Davies Unawd Soprano, cydfuddugol. Miss Bessie Lewis a Miss L Jones. Y stori oreu, Mv Mr David Jones. Sain Clust, cydfuddug- ol, Mri Thomas Thomas a John Jones. Adrodd, Mr William Lloyd. Darilen darn o gerddoriaeth ar y yd, cydfuddugol, Herbert Thomas a Thomas Thomas. Ped- war penill i Ddydd Calan, '(I I' Davies. Unawd Tenor, fom Bevan. Am y llythyr goreu oddiwrth blant Cymru at blant India, y goreu oedd Miss Maria Hughes. Deuawd, Tom Bevan a Griffith Mathews Am y pum brawddeg goreu yn dechreu gyda'r llyihyren A,' yr hwn a eniilwyd gan Tom Wi liams. Unawd bass, Tom Mathews. Traethawd, 4 A yw masnach Prydain yn dirywio.' Neb yn ymgeisio. Yn nesaf, deuwyd at brif waith y cyfarfod, sef y prif ddarn, 4 O na byddem fel y blodeu,' a daeth dau barti yn mlaen, sef y Staffordshire United Choir, dan arweiniad Mr Davies (Derwydd), a Pharti Mr W T Morgans, Cafwyd beirniadaeth fanwl a dyfarnwyd y Staffordshires yn oreu. Ar- wisgwyd yr arweinydd buddugol yn nghanol banllefau o gymeradwyaeth. Ter- fynwyd yn y dymuniad o gael cyffelyb eto
------------------------CWMDAR.
CWMDAR. Marwolaeth-Gyda gofid a hiraeth y cofnodwn am farwolaeth y brawd Thomas Beynon, yr hyn a gymerodd le dydd Sul, Ionawr y 12fed. Yr oedd yr ymadawedig y cymeriad henaf yn Nghwmdar, a chaf- odd gorff cryf a bywyd iach am dri-ugain a deg o flynyddau, a bu megys am y ddwy flyrtedd ddiweddaf yn rhodio megys ar Ian yr afon. Credaf tod Beynon o ran ei feddwl wedi myned i ymyl y dwr fwy nag unwaith er eJrych am y lie culaf i groesi yr Iorddonen i wlad yr Addewid, ac yn ei gadair fawr yn ochry tan wedi sisial canu lawer tro- Mae'r afon fawr gerllaw, mi welaf frig y don, Fa fodd anturiaf drwy dymhestlog donau hon, 0 Dduw Elias tyrd i. lawr, i hollti ilif yr afon fawr." Ac ar foreu y dydd uchod, wed cael north i ddweyd wrth frenin y dychryniad- au,—" 0 angeuti, gei wybod fod lesu i mi yn ffrynd." ir oedd gan Beynon galon fawr, garedig, ac felly wedi enill ffryndiau lawer ar hyd ei oes faith. Y mae llawer yn y He hwn yn galaru ar ei ol. Profwyd hyn ddydd ei angladd, pryd y gwelwyd un o'r angladdau mwyaf o'r lie hwn. Gwasan- aethwyd ar yr achlysur gan ei weinidog, y Parch Wm Thomas, yr hwn a gynorthwy- wyd gan y Parch Mr Griffiths, Elim. Ffarwel, fy mrawd "Hyd oni ymgyfarfydd- wn oil Ac ar ddydd dy angladd wrth dy feddrod, Sangais ar ei phruddaidd lan, Adsain glywir o dy wely, Bedd gei dithau yn y man. CYMYDOG.
DR BARNARD >.
DR BARNARD >. Nos Iau diweddaf, yn y Constitutional Hall, Aberdar, cynaliwyd c. arfod amryw- iol gan blant y sefydliad I," d. Chwareu- wyd ganddynt ar y ciycha mandelines, ac amrywiol offerynau ce Llywydd. wyd aryr achlysur gan Mr George, Ynad Heddwch, The Laurels, Trecynon.
YMDRECH GYDA'R MENYG YN BRYNMAWR.
YMDRECH GYDA'R MENYG YN BRYNMAWR. Nos Sadwrn diweddaf, ymgynullodd cynulleidfa fawr yn y Drill Hall, Bryn- mawr, er gweled ymdrech gyda'r menyg rhwmg Ted Williams, Tylorstown, a Bill Griffiths, New Tredegar. Yr oedd yr arian a osodwyd dan y ddau yn gan' punt, ac yr oedd yn ridealledig fod yr enillydd i gael haner yr hyn a dderbynid wrth y di ysau. CurwydWilliams gan Griffiths ar ol lleg o ymgodymiadiu.
NOTICE
NOTICE Cwmbach Prize drawing, in aid of Tha mas Evans. The ybove Drawing has been postponed, to take place on Aprii 26th, 1902. In the meantime, ail duplicates, unsold tickets, and monies, should be forwarded to the Secretaries-H. J Gtiffiths, Bethuel Row; or D. E. Williams, Victoria-street.
*CRYNANT.------
CRYNANT. Yh festri Salem cynaJivvyd yr uchod1, dian: lywyd!dliaeth] y Parch. J. Vincent Thomas.. Beirntiad y camm, Mr D,aivild Jeffreys, A.C.; aimjywiaieths, Deiwi G. Dulais. A wdl dros y rhaigllein ganilynotl: Overture ar y' bewdbneg, Miss Dully Rees; unawd alto1, cyfartaJ, Catherine Morgiain) a Gwenii. Jenkins adrodd- iadi i blant, Caithariniei Morgan; can g;ani J. Marganffi ysgrifenu SaLm,, yr un eto; unawd III rai heb enil1 o'r blaen, D. W. Morgan, Glynibedwast; Uythiyr caru, Gonxer Hughes. Yn y fam horn, cyflwyihodd y llywydldi fiylf r hymniau ai thoIllaiU i'r eglwys at wasanaeth: yr organs rhoddiedafg gan bartii "yn> hen gyfeill- ioin." Unawd1 ba:ss., cyfartaJ, R. Richairds (hyn,), a W. Garbett; penilliorii, D. R. Moir- gaDr; dieuaiwd: gan Tom Jcnieis a, D. James ■adT'oddiiadl i rai mewn oed" Gcimier Hughes.; dieuawdi i blant, C. Mong;am! a, G. Jenkiins. Ynai, terfynwyd) y cwrdtl: gwychi h \\Tn, trwy gan,, gan T. Jones.
--------PENTYRCH.
PENTYRCH. Nos Sadwrn, Ionawr y ddeunawfed, yn ysgoldy y lie, ac o dan lywyddiaeth y Parch H Williams, y flcer, cawsom fel trigolion yr hen bentref henafol uchod y pleser a'r mwynhad o dreulio noson yn nghwmni Watcvn Wyn, Eos Dar, a Mr Tom Bryant—Watcyn Wyn yn traethu gyda hwyl am y dull o ganu penillion ac arfet ion yr hen amser gynt, Eos Dar yn canu mor swynol a meiitrol4ar ag erioed, a Mr Tom Bryant yn tynu met o danau yr hen delyn. Cyfarfod a hir gofir ydoedd hwn. Os nm wledd o'r fath oreu, myner y triawd hapus ac addysgiadol hyn. HEN ARDALYDD.
PONTARDU LAIS
PONTARDU LAIS Mae genym yr wythnos hon y gorchwyl i hysbysu hanes y cyfarfodydd pregethu di- wygiadol a gynaliwyd yn y gwahanol ga- pelau ar hyd yr wythnos dJiweddaf. Oddiar pan y daeth y fiwyddyn bresenol i fewn, y mae crefyddwyr Pontardulais, noswaith ar ol noswaith, wedi mynychu Ty Dduw mewn rhyw fan yn gyson. Credwn, os bu iddynt erioed drigo yn yr ysbrydol, eu bod wedi cael y mwynhad hwnw yr wythnos ddiweddaf. Cawsom weinidogion blaenllaw at ein gwasanaeth, y rhai fu yn craddodi yr hen hen hanes am Grist a'i farwol glwy' i gynulleidfaoedd grymus. Un ) brif nod- weddion y cyfarfodydd ydoedd y canu ga- faelgar oedd yn(idynt-y am yr a'r chwior- Z, yid ieuainc ar eu goreu yn moli ei enw Et trwy ganu ei fawl a'r deall ac a'r ysbryd. Vn wir, ar derfyn un o'r cyfarfodydd. pan yn canu y geiriau hyny, 4 Duw mawr! pa beth a weiaf draw?' ar y don, 'Dies Irae y gwaeddodd y gweinidog a fu yn gwasan- aethu y noson hono allan gyda banllef fawr, gan ddywedyd, 'Canwch, canwch y penill diweddaf drosodd drachefn!' Ac os bu canu cyn hyny, gallaf sicrhau y bu yno ganu angerddol wedi hyny, a dyna lie y bu y gynulleidfa ar eu traed an rhyw ugain munyd yn ail-ganu y tair llinell ddiweddaf: 4 0 fewn y noddfa caffer ni, Agorwyd gynt ar Galfari, Cyn delo dydd diaiedd.' Nos Luu, gwasana^thwyd gan y Parch H. Hughes, Ferndale (W.); nos Fawrth gan y Parch Peter H. Griffiths, C uglas, Aber- tawe (M.C.); nos Fercher, y Parch Hugh Jones, Blaenywaen, Penfro; a nos Iau-, y Parch T. Richards, Tonypandy. Nos Iau, gwnawd casgliad i gynorthwyo y sefydliad teilwng hwnw, sef Cartrefi Dr Barnardd i'r amddifaid. Prydnawn dydd Sadwrn, am dri o'r gloch, cynaliwyd cyfarfod i'r plant, pryd y gweinyddwyd gan y Parch T. Rich- ards, Tonypandy. Yn y cyfarfod hwn caf- wyd pregeth syrnl gan Mr Richards, yn fwyaf neiilduol i'r plant. Canwyd amryw o donau neiilduol ar gyfer yr amgylchiad, dan arweiniad Mr Davies, G.T.S.C., Birch House. Prydnawn dydd Sadwrn, mewn rhan ,0 ddartienfa y dref hon, cynaliwyd cyfarfod dan nawdd y Gymdeithas Llafu Yr oedd ugeiniau o drethdalwyr y plwyf yn bresenol, y rhai a waboddwyd i'r cyfnrfod gan y gymdeithas uchod. Etholwyd Mr Thomas Evans t'r gadair. Y peth cyntaf a osodwyd erbjon ydoedd ymddygiad annghyfreith- lawn rhai o gytoethogion y dref yma yn ymgymeryd i w heiddo rai darnau o hen gomin cyfagos, yr hwn a elwir Mynydd Lliw. Hysbysodd Mr Ben Mathews, fod y cwestiwn wedi bod gerbron y Cyngor Dos- barthol; ac fod cadairyddy Cyngor, Mr F. G. Glynn Price, wedi bod allan yn chwilio i mewn i'r mater, a chafwyd y cyfryw yn euog o'r trosedd. Gosodvyd y mater ger- bron y cyfarfod. a phasiwyd yn unfrydol fod i r Cynghorwyr Ben Mathews a Tom George wasgu y mater gerbron y Cyngor Dosbarthol, fel ag i'w galluogi i wneuthur rhywbeth er rhwystro yr ysbeilio sydd ar eiddo y cyhoedd, Wedi hyry, dewiswyd David Lewis,ysgr fenydd y gymdeithas; a Mr Tom George, i vnrychioli y gymdeith- as yn y Gynadledd Lafur nos Sadwrn, yn Abertawe. Terfynwv d y cyfarfcd drwy ro'i y diolchgarwch. arlerol. Nos Sadwrn, yn nghapel Hermon (M.C), cynaliwyd yr ail rehea'-sai mewn perthynas i gymanfa y cylch. Yr oedd ugeiniau wedi ymgasglu yn nghyd, a gwe wyd yn eu plith fod yno gynrychiolaeth gref, a bod ysgol sydd yn dal cysylltiad agos a'r gymanfa. Cafwyd blaenbrawf y noson hon o'r hyn fydd can a y gymanfa, gan fod y cann y tro hwn wedi codi y safon mor uchel fel ag yr ydym yn dysgwyl pethau mawr dydd Llun y Pasc.
: 01: — CYNRYCHIOLAETH LAFURAWL
01: — CYNRYCHIOLAETH LAFURAWL Nos Sadwrn diweddaf, ymgyuilodd tua 250 o gynrychiolwyr gwahanol gyfundrefn- au crefftol Abertawe a'r cyich mewn cyngrair ar alwad Pvvyllgor Cynrychiol- aeth Llafur. Llywyddwyd gan Mr Dam- met. Cynygiodd Mr Collett, aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid, bleidlais yn cymeradwyo y syniad o gynrychiolaeth lafurawl. Eiliwyd gan Mr Rogers. Cef- nogwyd gan Mr Frederick Rogers. Cynygiodd Mr Colvill, aelod ar y Bwrdd Ysgol, y dylai cangemui y cyfundrefnau llafurawl ymuno a'u gilydd pan yn hyr- wyddo ymgeisiaeth eu cy nrychiolwyr. Eiliwyd gan Air W C Jenkins, Cafwyd anerchiadau hefyd gan Mr Curran, yn nghyd a r Cynghorwyr Morris a D Williams.
ABERAMAN.
ABERAMAN. Marwolasth.-Blin genyf orfod cofnodi marwolaeth Miss Mary A. Rees, merch David a Sarah Rees, Cardiff Road, o'r lie uchod. yr hyn a gymerodd le dydd Llun, yr 20fed o Ionawr, wedi dyoddef ymosodiad tra ffyrnig o'r inflammation.' Nid oedd y fechan ond naw mlwydd oed. Yr oedd yn aelod ffyddlon o Ysgol Sul Soar, Aberdar, ac yr oedd yn bresenol dair wyrhnos yn ol. Claddwyd hi y dydd Iau canlynol i'w mar- wolaeth darllenwyd a gweddiwyd yn y ty gan y Parch J. Davies, Soar; a gwasan- aethodd y Parch Afanydd Morgan. Daeth tyrfa fawr i'r angladd. Cerddodd gobeithlu Soar, a phlant yr ysgol ddyddiol o flaen yr ngladd. Yrydym feIegiwys a chymydog- eth yn cydymdeimlo yn fawr a'r teulu yn u galar. Cysured Duw hwynt yn eu trail- d a'u galar }1,
DOCTOR Y GWAITH AC ASGWRtf…
DOCTOR Y GWAITH AC ASGWRtf Y GYNEN. MR. GOL. Y mae yn llawn bryd gwneyd operation ar y boneddwr hwn. Efe yw asgwrn y gynen yn y glofeydd yn gyffredinol, a rhywfodd y mae y meddyg yn llanw lie amlwg yn meddwl y cyhoedd. Yn yr hen amseroedd yr oedd y doctor, y swynwr, a'r offeiriad yn un, a mawr oedd ei ddylanwad. Er fod offrymau lawer yn dylifo i'r doctor gwaith—doctor gwaith, os gwelwch yn dda, nid doctor y gweithwyr- 'does dim llawer o'r offeiriad yn aros ynddo, fel y gwyddoch ond y mae tipyn mawr— gair da yw tipyn '—tipyn mawr, meddaf eto, o'r swynwr yn nglyn a'r doctor. Er y gwyr dyn yn fynych mai ffwlcyn yw, y mae y ftaith ei fod wedi cramio digon o addysg i ddweyd enw eich dolur yn Lladin yn dipyn o foddhad i ddyn claf. Y mae enghitaifft fyw o flaen fy meddwl y fynud yma. Y mae pobl ffola' y gymydog- aeth yn gwawdio a chwerthin ar drwstan- eiddiwch y doctor pan yn iach ond gadewch i un o honynt fod mor ffodus i gael ei daro gan afiechyd, mae swn carnau trwsgl y doctor ar y trothwy yn gyru ias o foddbad drwyddo, er na fydd yn alluog i ebychu ychwaneg na Hym ha halweh botel i'r Surgery ar yn ol i!' Gwelwch doctor y gwaith yn gyru yn ei gerbyd oddiyno mor swyddogol a phe bai wedi archwilio rhyw beth peirianol cysylltiedig a'r gwaith. 0 ydyw, dyna y drefn felldithiol y mae glow Deheudir Cymru yn byw dani heddyw. Yr eiddoch, GWALLTER MECHAN. :o
i• WELE 6IRIOL LEWIS ARALL.'
• WELE 6IRIOL LEWIS ARALL.' Sef Byron Lewis, cyntafanedig Mr a Mrs David Lewis, Tycroes, Llanedi, ger Pantyffynon. Yn Tycros fe geir rhosyn un anwyl, Mer swynol a'r gwlithyn Hudol o deg, a biod'yn Ddena fardd-ei awen fyn. Trwy Wlad y Gad ei lanach-ni welir,, Er chwiho—na'i deepen Un bacn pert, m cheir pe tach; Arian byw yw Byr.in b >ch, Mae ei wen i'w rh!eni —yn heulwen Ddihalog, difrychni H 1. odiaeth berl Llanedi I'w dad a'i faw-creded fi. Gwladgarwr, a g!ew wron—a welir Yn Ngwalia eich Byron Gwyn ei oes, a gwenau Ion, A i gariad fyddo'i goron. [J Mountain Ash. RHUDDONIAJO.
-0--CYMDEITHAS CYNYGIEDIG…
-0-- CYMDEITHAS CYNYGIEDIG PRIF ATHRAWON YSGOLION MORGANWG. Nos Sadwrn diweddaf, yn Merthyr, cynaliwyd cyfarfod gan y prif athrawon er ystyried y priodoldeb o sefydlu cymdeithas yn Morgans g. Liywyddwyd gan Mr T Kemp. Yroedd yn bresenol hefyd Mr R H Rees, ysgrifen- ydd lleol. Bydd y gymdeithas yn cynwys yr adranau canlynol :-Gowertou, Aber- tawe, Cwmtawe, Canol Morganwg, Peny- bont, De Morganwg, Penarth, Caerdydd, Pontfaen, Lbnilltyd, Eglwysilan, Merthyr, Gelligaer Aberdar. Penderfynwyd fod cyfarfod cyhoeddus o'r prif athrawon i'w gynal yn Ysgoldy y Graig, Pontypridd, dydd Sadwrn nesaf.
PENRHIWCEIBR.
PENRHIWCEIBR. 4 Cynghor Eglwysi Rhyddion ac Efengyl- aidd. MR. GOL ,-Caniatewch i mi ychydig o'ch gofod i ddweyd gair wrth rhywun a eilw ei hun 4 Bwrandawr.' Yn gyn'iaf oil, caniatewch i mi ddweyd wrth Gwran- dawr' nad yw yn iawn wrth ddweyd Cyng- rair yr Eglwysi Rhyddion Nid dyna'r enw, ond 4 Cynghor Eglwysi Rhyddion ac Efengylaidd. Y mae gwahaniaeth rhwng cynghor a chyugrair. Gofyna Gwrandawr res o ofyniadauar ddechreu ei ysgrif, a gwaith hawdd iawn vw hyny. 4 Nid oedd fymryn o argoel pryder na dysgwyl am ymweliad mwy na I dyn cyffredin.' Nid wyf yn meddwl fod neb o'r cynghor, pan yn sicrhau gwasan- aeth y cenadwr, yn meddwl ei fod uwchlaw dyn cyffredin. ac yr wyf yn sicr fod y cenadwr yn mhell iawn o feddwl hyny ei hun. 'Paham, mewn difrif, y gwahoddwyd gwahoddwyd gweinidog dyeithr i'r lie heb wneyd darpariadau ar gyfer ei ddyfodiad r Oni wnaed darpariadau ar gyfer ei ddy- fodiad ? Oni chodwyd cyfres o gyfarfod- ydd gweddio yr wythnos cyn ei ddyfodiad i'r lie, ac oni ddosbarthwyd hysbysleni trwy y lie, o waelod Ynysboeth i High st., Mountain Ash ? Ac oni chyhoeddwyd ef hefyd yn y capelau ar y Sul cyn ei edyfodiad i'r lie ? 4 Oni ddylesid trefnu i gael cwrdd bob nos ar y groesffordd, pe dim ond am chwarter awr, cyn dechreu yr oedfa?' Gwaith bach fuasai 4 cynal cwrdd ar y groesffordd,' ond nis gwn ai gwaith bach ai peidio fyddai cael gan 'Uwrandawr' i ddod yn mlaen a siarad gair dros achos Duw, yr hwn sydd yn pwyso mor drwm ar ei feddwl. Os nad yw yn ddigon gwyneb- agored i roddi ei e:JW ar waelod ei ysgrif, tebyg iawn nad yw yn ddigon gwyneb- agored i sefyll ar un o groesffyrdd Penrbiwceibr, i ddweyd gair dros lesu Grist. 4 Ni alwyd seiat ar ol y ddwy noson gyntaf.' Pe buasid wedi galw seiat ar ol y ddwy noson gyntaf, a fuasai 4 Gwran- dawr' wedi aros ar of, tybed ? Bydded hysbys i Gwrandawr' nad ydym fel 'organisers prysur' erioed wedi honi ein bod yn Hywio'r lie yn grefyddoif yn wleidyddol, ac yn addysgol. Yr wyf am i Gwrandawr ddeoll hefyd na fu y 1 generals' yn consultio o gwbt, ac ni fu gan y generals' law yn newid trefn y gwasanaeth nos Iau. Hyderaf y bydd hyn yn ddigon i arQY hoeddi pawb fod y 4 generals wedi darp?xu ar gyfer y cenadwr. Penrhiwceibr. H. C. ROBERTS.
Family Notices
j Yn Barnstape bu farw pliemtyni yn ddasymr wth ar 01 llynicu pytaten. boeth.