Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

---... YR WYTHNOS.

Y "GENINEN": IONAV, R.

1 -:o: 1 CYMDEITHAS GORAWL…

-:0.:-j CANLYNIAD ATAL GWEITHIO.…

HAWLIO DROS £ 70,000.

AT AELODAU CRONFA GYNORTH-WYOL…

-0-. Y DARFODEDIGAETH.

-:0:-BARGOED.

HEN iVALlER CARE DIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HEN iVALlER CARE DIG. -v- Hen Gymeriad Nodedig yn ei Fedd. Y dydd o'r blaen, yn Nghwm Aberdar, bu farw William Griffiths, getnedigol o Llwyd- coed, yn 67 mlwydd oed. Pan oedd yn gweithio fel glowr yn Ysguborwen, yr oedd telpyn mawr o lo ynr angenrheidiol i'w ddan- fon i Arddangosfa Paris. Er yn gweithio yn galed drwy'r dydd yn Ysgubonven, gofyn- wyd iddo gan y diweddar Mr Pugh, goruch- wyliwr Glofa Llwydcoed, perthynol i Gwm- ni'r Gadiys, idori telpyn addas, gan yr adna- byddid ef fel gweithiwr cymhwys a galluog. Cyflawnodd y gorchwyl hwn drwy weithio wrtho bob nos am dri mis cyfan. Yn her- wydd y llafur caled hwn,, heb orphwysdra, yn ddiau, y collodd ei iechydi, a chyda: hyny un o'i lygaid. Ar ol gwella., cychwynodd i weithio eto fel halier air y wyneb, dan Gwm- ni'r Gadlys, i dori telpyn addas, gan yr adna- ei garedigrwydd i'r ceffylau, ac ni ddefnydd- iodd chwip erioad, a chawsai dd'igon o waith allan: o honynt drwy eiriau cymhelliadol a chwibanu. Gan yr adnabyddid ef mor dda, mynych y temtid ef i gael gwydryn i ormod- edd, pryd y clywid ef yn dweyd wrth y ceffylau, "Nawr, Napier a Turpin, edrych- wch mas am eich hunain, gan fod genych bobo ddau lygad, a dim ond un gyda mi i edrych fy hunan." Yr oedd y ceffylau yn gwybod beth oedd eu gwaith gystal ag yr ad- nabyddent ei lais. Er efallai wedi cael gwydriad dros ben, ni ddygwyddtodd un damw-ain iddo ef na'i geffylau. Perchid yr hen halier yn fawr gan bawb. Cafodd ang- laddi fawr. Yn ystod ei afiechyd, gwelid ei eisieu yn ddirfawr gan "Napier," yr hwn pan yn rhydd a redai yn fynych i ddrws ei feistr, "Will Jack," fel ei gelwid. Gwerthwyd "Turpin" beth amser yn ol, ac yr oedd ar- wyddion amlwg fod Will Jack a Turpin yn gweled eisieu eu gilydd. -:0:-

MOUNTAIN ASH.

Advertising