Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

KvVNT AC YMA.

HIRWAUN. !

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HIRWAUN. -0-- Gwyl De a Chyfarfod Anrhegu. 27) Penderfynodd Cor Meibion Mr NVillam Davies, Cynon terrace, beth amser yn ol, i anrhegu Miss Jennet Davies, merch yr ar- weinydd, am gyfieilio iddynt fel parti, a dar- lun hairdd a honi ei hun wedi ei dynu gan lartist medrus, ac wedi ei fframio gan saer celfydd. Penod.wydi nos Fercher, Chwiefror sed, fel y noson fwyaf cyfleus i gyflwyno y darlun i Miss Davies. Fel rhagarweindad hapus i gyfarfod cyflwyniad y rhodd, pender- fynwyd mai dymunol fyddai cael cwpanaid o de melus a theiisen flasus. Methwyd penderfynu ar neb cymhwysach i barotoi y wledd na, Mr Morgan John, yr hwn am: ei deisen sydd bron mor enwog a Mr David Jones, Dowlais. Cyfranogodd rhai ugeiniau os nad canoedd, a ddaipariaeth Mr John, a llwyr foddlonwyd pawb gan yr arlwy. Yn ychwanegol at felusder yr a,rlwy, gwerth- fawrogid yn fawr wenu u a sirioldeb y merch- ed a'r gwragedd wasana,ethent wrth y byrdd- au. Yn yr hwyr caed1 gwleddi o natur arall, dan lywyddiaeth y doeth a'r doniol Mr D. Jones, ysgolfeistr. Wedi anerchiad y cadeirydd, canooÙi y COIr Meibion, "The Little Church.' Yna caJeid. deuawd ar y ber- doneg gan Lily Bishop a Katlte Williams. Yn nesaf can gan Mr John Richards; deu- awd gan. Mri. Evan Bevan a Wm. Jenkins; can gan, y Mr. David Davies, a thoor gan Mri. Rees Price a'i gyfeillion. Bu raid i'r rhai hyn ganu yr ailwaith, yr hyn a wnraethant fel y tro cyntaf, yn dyner a thoddiedig mwn.. Unawdau gaed yn nesaf gan Mr Thoma.s Roderick, a Mr Wm. Walters, a Miss Bird. Yna unawd ar y berdbneg gan Master J. Boynes. Ar ol deuawd gan y Mri. Thomas Roderick a Richard Price, daethpwyd at brif waith y cyfarfod, sef cyflwyno ei darlun i Miss Davies. Ymddiriedwyd y gorchwyl hwn i'r Parch. W. J. Williams, y gweinidog. Llongyfarchai y tad a'r fam ar eu llwyddiant yn codi merch mor fedrus a rhinweddol. Credai fod ganddo yntau hefyd law yn ei gvvneyd hi yn ferch dda. Canmolai y parti am anrhegu Miss Davies; a chredaii fod llwyddiant y parti1 i raddau mawr i'w briod'oli i'r ffaith fod; ganddynt un mor ddeheuig yn cyfeilio iddynt. Wedi darllen englynion, a rhoi cynghorion gwerthfawr i Miss Davies, cyflwynodd y darlun dros y parti. Cydtntabyddodd hithau yn ddiolchgar y rhodd trwy Mr Ben Thomas. Wedi i Mr David Evans, grocer, a Mr Daniel Davies siarad yn eu dull derbyndol arferol, galwodd y cadeiryidd, am anerchiad- au y beirdd Cododd pump i ddatgan eu teimladau yn eu ffordd farddol ddyddorol, sef y Mri. J. R. Williams, John Davies, Cwm- dar; 'Evan Bryant, Rees M. Rees, a J. W. Davies. Yn nesaf cafwyd anerchiad gan Mr Leon- ard ynr Saesneg. Dilynwyd ef gyda chan gan Mr William. Jenkins, Mr Ben Thomas a'i gyfeillion; a Mr Richard: Price. Diolchodd Mr W. R. Williams dros y parti i'r llywydd, ac it bawb oteddynt wedi cy- meryd rhan yn y gw ei thr edii a dau. Terfyn- wyd y cyfarfod dyddorol hwn trwy i'r Cor Meibion ganu "Farewell." Miss Davies oedd yn cyfeilio trwy y cyfarfod. Dymuniwn ninau longyfarch Miss Davies a,r ei gwaith yn codi yn y byd cerddorol, a gobe<ithiwn y caifF oes faith i wasanaethu ei botes a'i chenedl, ei gwladi a'i Duw. -:0:-

CWESTIYNAU AC ATEBION DIGRIF.

[No title]

NODION AM'E RI CAN AIDD.I

FFRAETHEBION.

TYWYSOG CYMRU YN DOD I G'…

HOREB, GER LLANDYSSUL.

[No title]

Advertising