Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

. Cristionogaeth a Machiavel-I…

..-..---.......-........■Cwmfii…

;ABERDAR—SIBRYDION.I j^

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ABERDAR—SIBRYDION. I Sibrydir fod achwynion parhaus yn y Gadlys am fod y gwaith mor arat yno, ac yn y pentref holir yn fynych, Beth sydd wedi dod or hwter ? Sibrydir tod aniryw yn myned i fyny o Aberdar I Lundain yr wythnos hon, i'r Eis- teddfod gynelir gan y Cymry yno, er gwaethaf y frech wen. Sibrydir fod y gwrthwynebiad yn erbyn yr I Electric Tramway yn lleihau bob dydd. ond | bydd rhialtwch cwrdd CarnieJ iiall ar ggf am hir amser. Doniol, os nad cywilydduS, oedd gweled rhyw haner dwsin o hen goesau duon y T.V. R yn croci detain yn erbyn dym- uniadau'r werin, ac yn gorfod ymadael o'r r cyfarfod dan sen y llu oedd yno. | Sibrydir. fod y Sosialiaid yn cynyddu yn Aberaman, ac fod yno gangen gref yn cyf- arlod yn rheolaidd. Nid oes cadI nad yw Sosialiaetii er lies i bawb. tra na cherir ailan eithafion credoau rai o'i phroffeswyr nwydwyllt. Sibrydir fod rhai o'r merehed fu yn difyru eu hunain ar yr la ar lyn y Pare yn dra di- gywilydd, ac yn destyn siarad yr edrychwyr. Ond dichon mai yr achos nm hyny yw nad yn fynych y cant gyfle i arddangos eu campau. Sibrydir nad yw rhagolygon y fasnach lo mor obeithiol ag oeddynt ddiwedd y flwyddyn, ac fod y cwymp diwcddaf, yn nghyd ag arafwch rhai o'r pyllau, yn gwar- antu y fath dybiaeth. ) Sibrydir fod prinder y tai anedd yn y dref a'r cylch yn rhoi mantais i luaws o landlord- iaid gormesgar i godi rhent y cyfryw i eithaf- bwynt sydd tuhwnt i bob rheswm a dynol- iaeth. Pa ryfedd, ynte, i rywun o Drecynon gyfansoddi cyfrol, ychydig flynyddau yn ol, ar 'A aiff perchenogion tai i'r nefoedd ?' Sibrydid yr wythnos ddiweddaf fod dwy o ferched harddaf Abernant ar fin priodi, ond y mae tad parchus un o honynt wedi penderfynu atal i'w eneth gylymu ei hun a gwr sydd ddeng mlynedd yn hynach na hi. Sibrydir fod amryw famau wedi liwyddo i 'basio' eu merched yn ddiweddar, ac i rai o honynt droi allan yn fatches da, Nid oedd y rhai hyn gan' milldir o Aberdar. TWM TELYN. -0:-

CYFARFOD MISOL MWNWYR ! DOSBARTH…

-:0:-CYNRYCHIOLAETH UNIONGYRCHOL…

MYNEGWYR.I

TRECYNON A'R CYLCH.

-.0 :------, NODION MIN Y…

I NODION AMERICANAlDli!

Family Notices

--,-..-'0:-SARONj YNYSHIR,…

--0-- - TYLORSTOWN.

-0--MERTHYR TYDFIL.