Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

L HWNT AC YMA. -0--

CADWEN AUR 0 DAIR AR DDEG…

-:0:-HOLIADAU DIFYRUS. o—«

1 MOUNTAIN ASH.!

CWMGWRACH-MARWOLAETH.

[No title]

1 HIRWAUN. --'0--

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

1 HIRWAUN. -0-- Cyfarfod Anrhiegu. Arweinydd Canu. -0-- 's Nos Fercher, Chwefror i2fed, 1902, yd- oeddl y nosvvaith y daiethlwyd cyngherdd am- ry wiol o ganu, adrodid, ac. areithio. Ym- Z" ei gaglodd tyrfa fawr yn nghyd er gweled un hoff ac anwyl gan eglwys; Ramoth, Hirwafuin, yn cael ei anrhegu aim lafur ugaiÍn mlynedd. Cadeirydd1, Mr Owen George, Bryncynon. Cyfeilydd, Mr Abraham Watkins, A.C. Aethpwydl'trwy y rhaglen ganlynol: Ara.eth agoriadol gan, y cadeirydd—dydd- orol iawn. Pianoforte sola gan Emiah M. Phillips; sola gan Richie Evans, "Dacw Gymru yn y Golwg" can gan W. Watkins, "Hen gadair freichidu, fy mam"; solo gan M. Gweni Edwards;, "Y frwydr fawr"; can eto, William Jenkins, "Hen Wlad y Cyman- faoedd"; dluett gan D. Harts a W. Watkins, "Y ddeilen ar y lliff"; airaeth. gan Mr Jenkin Morgan, Berthlwydi Farm, a,r Hanes Mr S. T. Davies fel arweinyd,d canu; adraddiad gan David Thomas, "Gwron y Conomah"; can: gan Mag. Evans, "Yn Nyffryn, Clwyd"; a,raleth gan, Mr Thomas Jones, Mr Powell & Co., manager; testyn ei araeth ydoedd "Y Cwrddi, Well Done"; solo, gan Morgan Evans, "Udgenwch yr Udgorn"; solo gan b W. Watkins, "Y llanciau dewrion"; solo gan W. Jenkins, "Y dyfal done a dor y gareg" duett gan W. R. Williams a'i gyfaill tY "Brythonwyr. Yma darllenodd v cadeirydd yr anerchiad cyflwynedig fel v canlyn: Anerchiad Cyflwynedig i Mr Samuel Thomas Davies gan Eglwys y Bedyddwyr Ramoth, Hirwaun. Anwyl Frawd,— Teimhvn fod adeg eich. rhoddiad i fyny arweinyddiaieth y canu yn yr eglwys hon yn achlysur cymhwys i ni ddatgani ein diolch- garweh i chwi am eich g,wasana,eth gwerth- fawr yn y gorphenol, a'n bairn uchel am eich cymhwysdferaui at y swydd bwysig hono ac at eich gwasanaeth mewn cylchoedd ereill ydych wedi) lanw er mantais gyffredinol yr eglwys, ac er' clod! i, chwi eich hunan. Mae yr ugain mlyneddi ydych wedi dreul- 10 fel, arweinydd y gan wedi rhoddi mantais ii chwi ddiadblygu eich galluoedd fel cerddlor, ac wedi lean gosod: ninau dan trwym- edigaeth barhaus i'ch cydnabod, yn barchus am y llafur cariadl hirfaith hwnw o'r eidd- och. Yr oedd,, ac y mae, eich ffyddlondeb i ymbresenoli yin) holl gyfarfodydd, yr eglwys, dch cymeriad dilychwinaidd a diargyhoedd fel dyn a, Christion, wedi bodi ac yn parhau i fod yn achas o foddlonrwydd cyffredinol y frawdoliaeth yn y lie hwn. Da genym hefyd fod yn alluog i gyfeirio gydag edmygedd at eich defnyddioldeb mewn cyfeiriadau ereill. Yr ydych wedi gwasanaethu fel ysgrifenydd ac athraw yn yr YsgDI Sul ,a,c: ni chawsom erioed le i fedd- wl fod gwneyd unrhyw beth fedirech yn or- modi yneich gplwg er boddlonrwydd: y frawdoliaeth a llwydidiant yr Achos. Gyda.'r traethiadl bychan hwn o'n barn, am eich gwahanol raigoriaethau a'n mawrygiad o'ch gwasanaeth, dymunwn arnoch i dderbyn o'n dwylaw yr 'anerchiadi' hWlIl, yn nghyd a'r darluniau cydroddedig o honoch chwi a'ch anwyl wraig, gan obeithio y rhodidant i chwi a hithau y boddlonrwydd, o wybod. "Na fu eich llafur yn ofer yn yr Arglwydidi hyd yn nod1 yn y byd hwn." Arwyddwyd diros yr eglwys gan-- I b Diaconiaid-—Ebenezer Watkins, Thomas Jones, Owen George, John Edwards, Jenkin Morgan, Samuel Jones, Richard Evans, John Parry. Trysorydd, Rees Jones. Ysgrifenydd, Gomer Bryant. --0-- Wediil ei ddarllen, cyflwynodd Mr Owen George, Bryncynon,, yir anerchiad goreuedig ac hardd i Mr S. T. Da,vies, dros yr eglwys. Wedyn galwyd air ddwyi Fam Israel henaf fel aelodau yn yr egl'wys i gyfiWyno y ddau ddar- lun prydferth—iu|n gan Ann Dl. Davies, o ddarlun S. T. Davies, a diolchai yr hen fam am fod yr eglwys wedi ei hanrhydeddtu i gyf- lwyno hwn ar ram yr eglwys i S. T. Davies. Yna galwyd ar Margaret Young i roddi i Mrs. S. T. Davies ei. darlun dros: yr eghvys. Cydnafoyddodd S. T. Davies, dros ei wraig ac efe ei hun, yn ddiolchgair, gan addaw bod yn ffyddlon i wneyd ei ran fechan eto yn yr eglwys er Hwyddiant a daioni yr Achos Bedyddiedig. Galwodd y cadeirydd am anerchiadau y beirdd. Codiodd pedwar i ddatgan eu teim- ladau yn eu ffordd farddol, dyddorol, sef Mri. Thomas Jones (Powell & Co.'s man- ager), John R. Williams, Abraham Watkins, A.C., a Thomas Davies. Can gan D. Harts, "Can am bobl Hir- waun." Diolehodd Mr Owen George i bawb am eu. gwasanaeth. Wedi rhoddi 'vote' o ddtiolchgarweh i'r cadeirydd: am lywyddu mor ddoniol, terfyn- wyd y cyfarfod1 dyddbroI hwrn trwy i'r Ramoth Male Voice ganu "O mor ber," dan lywyddiaetb medrus a galluog Mr Rees Jones. Dymunwn o gailon hir oes i'r ddau gael bywyd1 hir i fwynhau golygfeydd y calonau gwresog sydd y tu ol i'r holl yn ymlygu ei barch iddynt, ac y cant bleser mawr i was- anaethu eu hoes a'u cenedl ydyw dymun- iad- Plentyn Ramoth.

[No title]

BETH DDYWED PROPHWYD Y ! TYWYDD.

:o : BOERIAID YN DIANC MEWN…

CYMD'EITHAS YR IAITH CYMRAEG.…

[No title]

Advertising