Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

.---" YR WYTHNOS. i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR WYTHNOS. i -{)-- Cymerodd 44 o danau le yn Llundain yn I ystod yr wythnos. I Ni ddaeth Mawrth i fewn fel llew elenf, I. ond dichon fod ystormydd gerllaw. Y mae Arglwydd Rosebery wedi addaw derbyn rhyddid' Maidstone. I Y mae 'goods guard' yn Nghaerdydd o'r enw Sharp yn hawlio £ 30.000 o'r Chancery, ac hysbysir yn awr fod pob tebygoirwydd y ca hwynt. Y mae diaconiaid rhai eglwysi yn y Rhondda o'r farn fod ymweled a'r chwareu- dai (theatres) yn niweidiol i foesau pobl ieuainc. A barnu oddiwrth luosogrwydd y gwledd- oedd gynelid ar Ddydd Gwyl Dewi, y rhai a. gynyddant yn barhaus ar hyd a lied y wlad, y mae poblogrwydd yr wyl yn ddiau ar gynydd. Yn Mhontypridd y mae y tai mor brin, fel y mae rhagor na dau deulu yn fynych yn gorfJd byw mewn pump ystafell. I ddatblu Gwyl Dewi, cyneJir ciniaw mewn gwestdy yn Nghaerffili dydd Mercher, ac fel y canlyn y gwahoddir rhai yno Dewch, lenorion a meibion y gan, I giniaw flynyddol y 'widw fach lan Ddechreu yr wythnos, cafodd Mr Thos. Richards, Y.H., ysgrifenydd Ffederasiwn Glowyr Deheudir Cymru, ei anrhegu a thys- teb fel arwydd o barch y glowyr iddo am ei ffyddlondeb a'i weithgarwch fel goruchwyl- iwr i'r glowyr yn Ebbw Vale a'r cylch. Yn dra sydyn, yn ei bresvvylfod yn Bangor, dydd Llun, bn farw y Parchedig Ddr John Hughes, y pregethwr Wesleyaidd enwog, yn 56 mlwydd oed. Yn America, y mae y Tywysog Henry -brawd Ymherawdwr Germani, yn cael croesaw calonog annghyffredin lie bynag yr elo, a chynaliwyd gwledd fawr un noson, pryd yr oedd yr Arlywydd Roosvelt ac enwogion ereill yn bresenol. Yn mrawdlys Kent, dydd Iau, cafodd Harold Apted, y llanc 19 oed a laddodd y ferch ieuanc Frances O'Rourke, 7 oed, yn Tunbridge Wells, ei ddedfrydu i gael ei grogi. n Dynevor, ger Castellnedd, y dydd o'r blaen, tra yr oedd glowr o'r enw Thomas Richards yn croesi rheilffcrdd y G.W.R., tarawyd ef i lawr gan agerbeiriant, a lladd- wyd ef yn y fan < Cymerwyd mab De Wet yn garcharor ar faes y rhyfel yn ystod yr wythnos, a chafodd y Boeriaid golledion trymion anarferol. Bydd Tywysog Cymru yn tori tywarchen gyntaf y doc newydd yn Mryste dydd Mer- cher, yr hon sydd i gostio £ 2,000,000. Fe fydd trens rhad yn rhedeg yno o bob cyfeir- lad, a dysgwylir bydd yno dorfeydd lawer. Tra yr oedd Mr Eloyd, perchenog y Rail- way Hotel, Bangor, yn pysgota ar Lyn Coron, Mon, gyda gwr o'r enw Owen Davies, o Bangor, dymchwelodd y bad, a boddodd Davies, ond llwyddwyd i gael Mr Lloyd i'r tir mewn cyflwr truenus. Dydd Iau, Chwefror 28ain, a adnabyddid fel Majuua Day,' cymerwyd dros 6qo o'r Boeriaid yn garcharorion, miloedd lawer o anifeiliaid, &c., heblaw amryvy arweinwyr iiijlwrol y Boeriaid, a mab De Wet. Am achub cadben Hong mewn mor garw, cafodd Lance-corporal Taylor, yn Ramsgate, dydd Mercher, ei anrhegu a phvrs yn cyn- wys £ 68 yn nghyd a bathodyn aur. Mewn cyfarfod o'r Cymmrodoiion yn Llundain, dydd Mercher, hysbysid fod yn { Lerpwl 430 o Gymry yn mwynhau yr enw I' soniarus-—John Jones Y mae plaid wleidyddol newydd wedi cychwyn dan yr enw, The New Liberal League,' a'i llywydd ydyw Arglwydd Rose- bery. Proffwydir dyfodol mawr i'r blaid. Hysbysir mai tua 250 o hotels sydd yn New York, ond yn Llundain ceir fod dwbl y nifer hwnw. Yn Nhy y Cyffredin, dydd Mercher, daeth mesur Ysgotaidd yn mlaen am ail ddarllen- iad, yr hwn a ddarparai fod y tafarndai i'w cau yn gynt yn yr hwyr, ond taflwyd ef allan ganfwyafrif pleidleisiau yn erbyn. Methodd Mr Balfour fod yn ei le ddech- reu yr wythnos, yn Nhy y Cyffredin, yn herwydd afiechyd. Ofnir y bydd i orsaf Glandwi, Abertawe, ar linell y G.W.R., gael oi dinystrio yH her- wydd y fan sydd yn barhaus yn y ddaear odditani. Hysbysir fod amryw dlodion yn y tlotdai wedi byw dros gant oed, ond nad oes hanes am gynifet ag un millionaire' wedi byw i'r oedran hwnw. 0 Holborn i Hampstead a Highgate, yn Llundain, y mae y tramcars yn rhedeg ddydd a nos yn ddiarbed. Cafwyd hin dymherus yn ystod yr wyth- nos, gyda chawodydd o wlaw, a diflanodd y rhew yn llwyr. Bwriada y Midland Railway wario mil- oedd lawer o bunau i ledu y llinell rhwng Ynysgeinion a gorsaf y Glais yn Nyffryn Abertawe. Hysbysir fod y fasnach mewn dur yn cyffro, yn nghyd a'r eiddo mewn alcan. Dydd Sul, yr oedd yr hen Bab o Rufain yn 92 mlwydd oed. --0- Yn iestri Calf aria, Porth, nts Wener diweddaf, gwrandawyd anerchiad ar "Benod yn Hanes Addysg y Rhondda," gan Mr. W. G. Howell, clerc Bwrdd Addysg Ystradyfodwg. Canmolir y ddarlith fel un gynwysfawr a dyddorol. Llywyddwyd gan Dr. Ivor Davies, Forth. ioldeb mawr y byrddau Yma, mewn lluniaru a lleddfu amgylchiadau y bobl, wedi dyfod i'r amlwg yn y fath fodd, fel y mae yn anmhosibl i neb ag sydd yn gallu darllen a meddwl ych- ydig drosto ei hunan, lai na gweled y priodoldeb o osod cynrychiolwyr union- gyrehol Ilafur i eistedd yn fwyafrif ar y gwahanolfyrddau hyn. Gweithwyr ydynt mwyafrif etholwyr pob tref, peu- tref, a dinas. Felly, dywedaf, mai wy ddylasent- gael y gynrychiolaeth luos- ocaf ar ein byrddau lleol. Yn ngwyneb hyn, gadewcli i mi sylwi ar y cwrs y mae Cynghor Llarur Aberdar wedi gymeryd mewn cysylltiad a'r etholiad nesaf. Gwahoddwyd yr adranau a'r cymdeithasau unedig i benderfynu pa "Wards" yr oeddynt am gynyg (y mae pump yn dyfod yn agored), ac i enwi y personau mwyaf cymwys i gyn- ryckioli y gweithwyr fel ymgeiswyr. wyr. Fel y mae yn hysbys i'r darllen- wyr, ni enwyd neb ar gyfer Ward 1, enwyd un ar gyfer Ward 2, tri ar gyfer Ward 3, un ar gyfer Ward 4, a dau ar gyfer Ward 5..Wedi gosod y gwahanol bersonau o flaen y cyfarfod, dewiswyd y rhai dros Wards 2, 4, a 5 yn unfrydol heb wrthwynebiad; ond trwy yehydig o fwyafrif wedi ail voto, y penderfynwyd ar Mr. Berry i sefyll dros Ward 4. Gwelir wrth hyn fod y Cynghor wedi gwneyd yn eitliaf gonest a diduedd mor belled, ac yn wir felly yr oedd tystiol- aeth pawb wrth derfynu'r cyfarfod. Yr wyf yn egluro gwaith y Cynghor yn y cyfarfod diweddaf, o herwydd fod rhai dynion rhagfarnlyd yn myjied ar hyd y lie ac yn taenu celwyddau am y nifer oedd yn bresenol. Yr oedd pymtheg o adranau yn cael eu cynryehioli, pa rai oedd yn gynwysedig o bob glofa yn Aberdar (gydag eithrio Fforchaman," yr hon obeithir a ymuna yn fuan), a bron pob dosbarth o weithwyr undebol ereill. Mewn cysylltiad a Ward 5, yr oedd arwyddion amlwg o ymddiriedaeth yn nhewisiad Mr. Davies, y cadeirydd. Cafodd ei enwi rai o'r glofeydd mwyaf yn y Ward, a phan hysbyswyd i'r cyfarfod y byddai yn cael ei wrth- wynebu o herwydd ei fod yn llwyrym- wrthodwr, cynyrchwyd chwerthiniad cyffredinol. Gan mai efe yw yr unig un sydd yn cael ei noddi yn sylweddol gan y Cynghor, y mae yn ddyledswydd ar bob gweithiwr i fod yn barod i weithio drosto, mewn pleidleisio, a chymeradwyaeth gySredinol.—Yr eidd- och,

DINAS—GWAHODDIAD BTJGEIL-!…

: 0: CAPCOCH.

--0"'-MERTHYR TLDFIL AR DDYDD…

- CYFARFOD MISOL DOSBARTH…

--:0: CYNRYCHIOLAETH LAFUR-

-:0:-Gwledd yn St. James's…

Y Gyngherdd.

Advertising

Dosbarth Aberdare.

Cwmdar.

Advertising