Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

DIFYRION ENGLYNOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DIFYRION ENGLYNOL. -0- MR. GOL.Meddylials y buasai llu o feirdd yn dod i ateb cais Brynfab yn y DAR- IAN, araf iawn y maent yn dod. Ond diolch i Brynfab am agor y drws i'r Difyrion Englynol, ac i Cerddgnog ac Ap loan am ei ateb mor anrhydeddus. Dyma fel y can odd dau fardd ar fwrdd y Great Eastern, yn hafan Aberdaugleddyf flynyddau yn ol: Parodol yw Peredur—i nyddu Cynghaneddion prysur; Dyn hyglod a dawn eglur Yn dirwyn pill 'deryn pur. GWILYM MAI. Ateb. Ba-rddonwr heb urdd anian-ydyw per, Nid parod ei gyngan 'Ond Gwilym gyflym ei gan Yw enaid y gerdd ei hunan. I PEREDUR. Dyma englynion rhagorol, ond nis gwn yn y 1-1 foyd pwy yw eu hawdwyr Y CEILIOG. .Aderyn balch yn deyrn byw—yw'r ceiliog, j Er coledd ei gydryw; A'i ber lais, boreuol yw, vGalwedydd cyn gwawl ydyw. Hir ei uon-dewr, 'spardunawl—yw'r ceiliog, Gwylydd balch hardd bluawl; Y wawr fyw, rhydd i'w lor fawl Yn ei ganiad blygeiniawl. Y MOCHYN. Trwm glustog, folog, filyn—hir ei drwyn, Pir ei droed yw'r mochyn; Oer ei roch, garw'i wrychyn, Hefyd dda gigfwyd i ddyn. Y mochyn ni fyn er a fo—fw feistr Y fost o'l ystwytho Ond er certh, drafferth am dro, Wedi 'i ladd, fe dal iddo. Dyma fel y canodd un Dafydd Lewis i Huw Puw, o Feirionydd, am ei fedrusrwydd yn y gamp o neidio Hynod oedd dy naid ddedwydd—a hybarch Huw Puw o Feirionydd Tair Hath haner hyfder, hydd, Heb gel o'r man bwygilydd. Naid gyfan hoewlan, hwylus—naid Gymreig, Naid Cymra mwyn grymus Naid rhy ddofn i wyr ofnus, Naid brif i'w neidio heb rus. Ond dyma naid ofnadwy eto. Dywedir i Einion, ar ol ymbil am help ei Angharad, neidio dros Abernedwydd,'yr honsydd afon ddofn a llydan yn Ngogledd Cymru. Ebe y bardd: Neidiais a gyrais heb un gorwydd—danaf, Wei, dyna feistrolrwydd; Naid fawr, lliw gwawr, yn ei gwydd, Ar naid dros Abernedwydd. SUT MAE Y HARDD ? Hynach a hynach o hyd,-er estyn Ryw ystod fy mywyd Hynach wyf, hynach hefyd Fyddaf tra byddaf mewn byd. Hen ydwyf, hyn ni wedir—myn'd yn hen Wedi myn'd sy gywir Byw yn hen, wedi byw'n hir, Ac yn iach, p'am grwgnechir ? ELIS OWEN. CANTORION Y DAFARN. Weis sain, cynhes sy'n canu-at yfed Mewn tafarn o'm deutu A chynhwrf twrf yn tyrfu, Hynod y ddaw i y nad ddu. Yna rhwygant yn rhegi-sain amlwg Swn ymladd i'm chwerwi; 'Fewn un awr ni fynwn i Wyr llidiog i'm tra!lodi. OGWEN FARDD. Yr oedd Bardd Nantglyn yn cael ei boeni yn fynvch gan Wil Ysceifiog, ond cafodd ergyd lied drwm ganddo o'r diwedd yn yr englyn canlynol Wil aflan, laban, wlybwr—Wil wantan, Wil wynt, hunan-ffrostiwr; Wil fardd, ond Wil fawr ddwndwr, Wil baw'r d 1. Wil berw dwr. Yr oedd Alaw Goch a'i law a'i galon gyda'r Eistaddfodau, ac yn noddydd mawr o'r beirdd. Fel hyn y canodd i ymholi am Hwfa Mon Ymofyn wyf o hyd am Hwfa—Mon I'm hanedd i wledda; Gwyr dyn, fe gaiff y gwr da z7> Le tawel i letya. 3.fae yn debyg i Nicander gael lie dan gron- glwyd Ynyscynon pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdar, 1861, a dyma fel y canodd Cefais dy, llety gwych, lion—bwyd a bir, Heb arbedu ddigon A mawl o hyfrydawl fron, Canaf i I nyscynon. Pan fethodd Eben Fardd a dod i un o Eis- teddfodau Aberdar, anfonodd yr englyn can- lynol i Alaw Goch Alaw Goch hwyl ag iechyd—a ddalio I'w dilyn trwy'i fywyd Ein Halaw yw'n Hanwylyd, Cymro gar Cymry i gyd. Nid llawer a ganodd Alaw Goch wedi Eis- teddfod anffodus y Cymry yn Nghastellnedd, ond canodd yr englyn canlynol yno wrth weled chwareuad > delyn Y delyn, y dalent, a'r dwylaw—oil A allant sy'n gweithiaw; Swn ei thon a'i si ni thaw, 0 olud gwlad, medd Alaw. Canodd Dewi Wyn o Essyllt yr englyn hwn i Glan Cunllo. Yr oedd Cunllo yn ddyn tal, ond yn lied deneu, ac yn hynod o farfog. Cunllo sy fardd yn llawn can' llath—ei hyd, Mae'n hwy na Goliath Ond main ddigon, fel cynffon cath, Dyn fel corcyn dan flew cwrcath. Yr eiddoch, GWILYM NEDD.

--Bryntroedgam, ger Cwmafon,,…

TEMLYDDIAETH.

Y Fasnach Alcan.

Seven Sisters Prize Drawing

YNYSYBWL—MARWOLAETH.

CWMAFON.I

NODION MIN Y FFORDD.

NODION 0 RHYMNI.I ---0----"

CWMAFON.

LLANELLI.

TYCROES.