Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

---. HANES MIRWAUN WRGANT1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HANES MIRWAUN WRGANT 1 O'R GANRIF GYNTAF HYD YN BRESENOL. GAN "N I WAETH PWY." (Parhad). Y mae yn syndod meddwl y fath gynydd masnachol a lluosogrwydd y bobl yn yr ardaloedd hyn yn ystod y tri ugain mlynedd diweddaf. Nid oedd holl boblogaeth Mor- j ganwg yn 1806 ond 7,000; trayn 1891 y rhifai 693,000, a pharhau i gynyddu ya gyflym y mae masnach a thrigolion y sir hon o hyd. Meithder o'r gogledd i'r dehau ar gyfar- taledd ydyw cant a deg ar hugaui o filldir- j oedd, a'r lledred o'r dwyrain i'r gorllewin ydyw tri ugain a phump o filldiroedd wyneb-fesur, neu bum' miliwn, dau gant a chwech o filoedd, a naw cant erw o ddaear, « ba un y mae yn ymddangos, yn ol yr adroddiadau (reports) fod 900,000 oerwi yn wrteithiol, ia 2,400,000 yn borfelaeth (pas- turage), a gadawiad o 1,700,000 erwi mewn cyflwr afrad, o ba un yn ol yr adroddiad 1 mae 700,000 o erwi wedi eu dw n yn gyf- I addas i amaethwriaeth. (Y crybwylliad hanesiol cyntaf am y Waun-hir a gawn yn gynar yn yr unfed ganrif ar ddeg.) Yr oedd Hirwaun yr amser hwnw yn cael ei gyfrif yn gyrhaeddadwy o Blaengwrach, ger Rhyd- ygroes, hyd o fewn ychydig i Misgin, set oddeutu deg milldir o hydred, wrth dair o ledred. Yn y flwyddyn 1638 daeth arglwyddi Sir Benfro i honi eu hawl o'r Waun Hir, a llwyddasant yn rbanol yn eu hamcan. Yn y flwyddyn 1785. pryd hyn yr oedd y cyntaf Axdalydd Bute oddeutu deuriaw mlwydd oed, a'i dad John, Iarli y Bute, wnaeth ddwyn yn rnlaen ei hawl o'r holl Waun Hir, a rhoddwyd allan orchymyn ar i fod i'r holl ffermwyr ag oedd yn by," ar y Waun Hir i ymadael o'u haneddleoedd, pa rai oedd yn bymtheg ar hugain mewn nifer. A hyn fu yn achosiad a barodd i ddalt o't plwyfolion ddyfod allan ar ran y bobl, sef Samuel Rees o'r Werfa, a Rees Phillips o'r Cwm, i ymgyfreithio yn erbyn yr ardalydd. Cymerodd y prawf le yn Henffordd (Hereford) yn ngwanwyn 1790, pryd y profwyd yn llawn hawlfraint sefydlog y plwyfolion i'r Waun Hir. Ac oddiar hyny hyd at y flwyddyn 1869 y mae y Waun Hir wedi parhau yn rhyddfaes berchenogaeth gan y plwyfolion. Yn y flwyddyn 1858, cy- merwyd meddiant o ddeg ar hugain o erwi o'r ddaear hon i gael mynwent gyhoeddus at wasanaeth y plwyfolion hefyd meddianwyd gan Fwrdd iechyd Aberdar naw a deugain o erwi o'r ddaear, rw droi i fod /n Bare Cyhoeddus, ya hwn gatodd ei agor yn y flwyddyn 1869; ac yn yr un flwyddyn, daeth ar ran y llywodraeth wladol ddir- prwywyr y ddaear, i'r amcan J ranu y Waan Hir rhwng tirfeddianwyr y plwyf, pa rai sydd wedi ei wneyd yn gylchynedig a gwr- teithiedig.

Gwaith Haiarn Enwo2 Hirwaun.…

SEISNIGEI DDI O'R EISTEDDFOD.I…

I -:0:--YNYSYBWL.

NODJON MTN Y FFORDD. -0r-

-:0:-AWGRYMIADAU T'EULUOL.…

— :00:----,--- »1 YSMALION.…

Advertising