Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Llanelli a'r Cylch.

Y 3ded

Ymweliad Lleufer-

.Af arwolcletJr..

Trengholiad.

Damwain Druenus.

Cwmafon a'r Cylch.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cwmafon a'r Cylch. GAN YMDEITHYDD. MR GOL.—Yn fy nodiadau yr wythnos ddiweddaf, crybwyllais fod claddu mawr yn ein cymydogaeth. Blin genym hys- bysu yr wythnos hon mai ar gynydd mae y marwolaethau. Yr wythnos hon, bu farw dau ddyn canol oed, ar ol byr gys- tudd, sef James Blight a James Stanford, -y bl ienaf yn weithiwr copr, ar olaf o ran hyny hefyd, ond yn ddiweddar yn labrwr yn nglofa pyllau Maesteg, ac yn teithio gyda'r tren hwyr a boreu at ei orchwylion. Claddwyd y ddau dydd Sad- wrn; ac er fod y tywydd yn anffafrio', daeth torf aruthrol yn Hghyd i dalu y gymwynas olaf iddynt, a chawsant ang- laddau anrhydeddus. Yr oedd y ddau yn wyr priod, a theuluoedd ganddyut, a chyd- ymdeimlir a'u gweddwon a'r perthynasau oil yn eu gaiar gan drigolion y lie. o Yr wythnos ddiweddaf, llosgodd plentyn pum' miwydd ced Oliver Me. Neil, Cross Row, yn arswydus, drwy ryw anffawd. nes y collodd y bychan ei fywyd. Dywedir mai chwareu o gylch y tan ydoedd, a chy merodd y tan afael yn ei ddillad ac ym. ddergys rad oedd ei rieni yn y ty pan ddygwyddodd yr anffuwd. Llosgodd mor arw, a chafodd gymaint o ofn, nes y bu yn ^ngeo iddo Mae hon yn wers eto 1 deu- .¡uJedJ ein gw.lad. Nos Lun, Ionawr 26ain, bu y Parch E., T. Jones, UaneLi, ya darlithio ar y testyn Pobl Armenia,' yn nghapel Bethel (B.), Pontr-hydyfen. Cymerwyd y gadair gae y boneddwr haelionus a charedig Mr Thos. Davies, Waen Tymaen. Fe glywais fod y darlithiwr wedi gwneyd ei waith yn gan moiadwy, a Uanwyd y gadair yn odidog. Trodd yroll allan yn llwyddianus. 0 Y Sul wythnos i'r diwed iaf, cynaliodd Ysgol Sul Tabor ei chyfarfod pen chwar- ter,' pan y cafwyd adroddiadau dylanwado a chanu swynol. Hysbyswyd im' fod yrl oil a wnawd yno yn foddhaus a llwyddian- us. 0 Mae y cwestiwn o leoliad yr ysgolion wedi cael syiw mawr, medde nhw,' gan aelodau y bwrdd. Hyn a wyddom, nad yw yn symud dim yn ei flaen. Deallwn fod hyd yn nod aelodau y Bwrdd Ysgol yn rhanol ar gwestiwn y lleoliad. Honai un o honynt yn ddiweddar mai gwell fuas- ai ail adeiladu ysgolion Penycae, tra yr haerai ereill mai ar faes y depot y bydd y lleoliad. 1 Megys yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon,' &c., yw hi parthed ad- eiladu ein hysgolion. Y mae Penycae yn fan ftafriol iawn gan drigolion y He fel lie i'n hysgolion. Buasai maes y depot yn wrthodedig gan y boblogaeth pe yn eu gal u. Yr olaf, yn ol ein barn ni, yw'r maes mwyaf dinystriol i iechyd ein plant. Dios mai magwrfa ydyw i ddoluriau ond, Mr Gol., gwell im' dewi ar bynyna, rhag ofn i mi ddamsang ar gyrn yr upper tens ar y cwestiwn- Hyn sydd wir, fod g>wir angen gwell ysgolion na'r presenol i'n plant a'n hathrawon. o Mae'r frawdoHaeth Fethodistaidd yn Salem yn hynod lwyddianus yn dewis eu pregethwyr Sul arol Sul. Er ei bod ond eglwys fechan wan, a newydd gychwvn, y mae yn mynu cewri yr enwad i wasan- aetiiu iddi. Y Sul diweddaf, bu Mabon yn pregethu i'r eglwys grybwylledig, a dywed- ir wrthyf ei fod yn ei hwyliau goreu. Y mae y boneddwr Mabon at home bob amser pan yn dyfod i Gwmafon, am ei fod wedi treulio boreuddydd ei oes yn y Cwm; y mae yr Afaniaid bob amser yn rhoddi derbyniad tywysogaidd iddo i'w plith. Edrychai yn gamp, siriol fel arfer, yn ad- nabod j- swb o gvdweithwyr boreu ei oes. Eiddunwn iddo hir oes, a llwyddiart I parhaus. o Fe glywais sibrwd yr wythnos ddiwedd- af fod ein Gorsaf Heddgeictwadol wedi ei symud o Ty'r Owen Row, i Victoria Ter- race. Cyfaddefwn fod angen gwell ty i wyr y botymau gwynion yn y cwm, ac yn ddios fod y trethdalwyr yn eithaf boddlon i hyny Ond y cwastiwn sydd yn cael ei ofyn yw, ai Victoria Terrace ywy lie mwyaf f7; ug. canolog, cyfleus, a manteisio! i'n swyd Jog- ion gartrefu er gwasanaethu y cyhuedd yn gyffredinol ? Eto clywais lu yn ateb, nage.' Ac yn wir, yr ydym yn cydsynio a hwy yn eu hatebiadau. Pwy sydd yo gyfrifol am hyn ? Nid ydym yn gallu dweyd yr un iot yn erbyn yr heddgeidwaid am hyn; ond credwn y gallasai rhai swyddogion ddewis gwell man i'r orsaf nahr hon a ddewiswyd, ac yn fwy cyfleus a manteisiol iddynt i gyfiawni eu swyddog- aeth. Dywedai un hen wag wrthyf fel hyn Paham na fuasent yn myned a'r Station i Gwmclais, neu i ben y Foel ?' I' 4 Byddai hyny yr un cystal a'r lie presen 01,' meddai un arall wrthyf. Anfoddlon- rwydd mawr sydd am hyn yn mhlith y Cwmafoniaid. Ar waen Tymaen y dylasai yr orsaf fod, a dyma'r fan fwyaf manteis- iol i'n heddgeidwaid wasanaethu y cy- hoedd, am mai y fan hono yw yr un fwyaf cyfleus. Dywedodd gwr profiadol wrthyf mai Maes y Waen (He mae Salem) fyddai y spot glanaf, mwyaf prydferth a manteis- iol i'r Police Station. Credwn nad yw y boneddwr filldir, ie haner modfedd o'i le wrth ddweyd hyny hefyd. Hyn a ddy- wedaf, fed yn Hawn btyd bellach i'r trigolion o Waen Tymaen i ddeffroi o'u cysgadrwydd, a gwaeddi yn gryf ac yn groch yn erbyn llawer o bethau yn y He. Yn ngwaelod y cjvm y mae pob peth man. teisiol Police Station, Post Office, a lawr fu y Surgery gynt, a llawer o bethau ereill; ac i lawr yna y mae Jerusalem a'r Jerusa- Jemiaid- Mae yn llawn bryd beiiach i symud pethau, a goreu po gynted. Diau y byddaf yn traethu ar y pethau hyn eto ar fyrder. =— —————;

V PARCH J. SPINTHER JAMES,…

NODION 0 FERTHYR.

Yr Hen a'r Newydd.

Advertising