Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

-''''' .----.------,--------.------..---Llanelli…

Pwnc Goleuni a Thrafnidtol…

--------------..-------' YNYSBOETH.

[No title]

Advertising

-------.-..----_.----| NCDION…

DAU A DWY.

-:0:-:--ANGEL GETHSEMANE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-:0: ANGEL GETHSEMANE. [Pryddest y Tlws Arian Canol Aur yn Eisteddfod Llanbrynmair.] Angel Gethsemane angel yr Ardd Pa beth yw dy enw, Angel hardd ? Wyt un o'r angylion, o nefol fri, Sy' heb enw, o hyd, ar ein daear ni; Ond ym myd yr engyl, ar flaen y rheng, Hawdd dy adnabod o ddeuddeg lleng. Ai Gabriel? neu Michael ? neu Uriel fawr ? Ym mhlith arcb-angylion, ti wyt eu cawr Am i ti ddilyn Elleiniog Nef Ar hyd glynoedd dyfna'i ddyoddefaint Ef b Mor ostyngedig wyt, Angel mawr, A'th draed ar barthau isaf y llawr Ai mesur 11am Cariad Dwyfol yw'th waith ? Dilyn, a'th hediad, Anfeidrol daith ? Cynefin it' siglo dy edyn byw 0 amgylch pinaclau Gorsedd Duw- Heno, i nerthu yr Iesu hardd, Gwesgaist dy hunan i gongl mewn gardd. n Flaenor ardderchog gosgordd-lu Brenin Gogoniant! fel c.yfaill cu- Mor ffyddlon yn Ei ddarostyngiad Ef Mor barod mor ufydd i wrando'i lef Pan glywaist o'r nefoedd weddi Mab Duw Yn tori'n ddolefain lleddf ar dy glyw, Ar amnaid o Orsedd y Cwmwl Gwyn, Gadewaist dy delyn, a'i thanau'n gryn Disgynaist hcibio y lloer a'i llu, I ardd Gethsemane unig, ddll. Daethai angel arall i encil Hedd, Ond lliw yr afagddu oedd ar ei wedd Un ofyddin y Pwll ydoedd, heb ymdroi, I ymgyrch Calfaria yn ymgrynhoi. Dadlenai i'r lesu gynwys yr Awr,' Fel rhol, mewn llyth'renau duon, mawr. Yntau ddarllenai y rhestr hir, Yng ngoleu ei hollwybodaeth clir 'Roedd cysgod y Groes ar Ei lwybr yn ) fwy trwm Na chvsgod coed olewydd gwaelod y cwm Drychiolaeth y Groes dros Ei enaid ddring, Z- Fel hunllef, i'w wasgu i ddyfnder ing Nes syrth Rhosyn Saron ar wellt yr ardd, A'i wedd ar y barug. Tra'r ellyll chwardd. Z, Ond rhwygaist ti'r wybren, didoaist ei chrib, Felmaehiad mellten neu seren wib Llewyrch dy wyneb, Archangel gwyn, Roes oleu y nef ar gilfachau'r glyn; A'th olwg a darfodd yr angel hyil, Fel gwenau Gwawr hawddgar yn gwasgar Gwyll. Mor effro i'th ddyledswydd tra 'roedd y byd- Ond y gelynion—yn cysgu i gyd Cymdeithion ffyddlonaf yr Athraw mawr Bendryment, yn methu gwylio un awr Ond ti ni roist hun i dy lygaid tan, ¡ Tra'n gweled mewn perygl dy Arglwydd ¡ gldn. Mor dyner y codaist y Sanctaidd Ben Oddiar v llwydrew, a'th asgell wen Yn gwyntio hoen bywyd i'w ffroenau Ef- Oedd lawn o berarogl bJodau'r nef. Sychaist chwys gwaedlyd oddiar Ei ael A thywel tvnerach na gwen yr haul; Rhoist gusan o fel ar ei farmor rudd, Tra syrthiai y deigryn o'th lygad prudd Sibrydaist gysuron, gan godi'th fys, Uwch lleuad a ser, tua'r Nefol Lys,— Lie caech, cyn nos arall, yn lion gydgwrdd, Yn ngogoniant y Tad, o gylch y bwrdd Iddo bu'th eiriau fel gwin cwpan serch, Cyn yfed gwaddod Y Cwpan erch. Er heb dystion effro, ond ser a lloer,— Ac er fod cusanau y chwa yn oer,- Yn dy gymdeitbas, trawsfudwyd Ef Megys i ganol Hen Deulu'r Net; Rhwng manblu'th adenydd, Angel mad, Teimlai gynesrwydd mynwes Ei Dad. Os c-wrddaf di rywdro'n y Nefal Gaer, Diolchaf bryd hyny, Archangel claer, Am y rhan a gymeraist yn y drefn I adfer pechadur yn ol drachefn. Fel y ddau gerub oedd, gyda pharch, ) A'u trem ar y porphor ar gauad yr arch, Chwenychit edrych,'heb ddeallyn llawn. I mewn i gyfrinion cymod mewn lawn. Byth nid anghofi noson yr Ardd, Pan frichodd cydynau y Person Hardd. Gwelaist darth angau yn codi o'i boen, Fel dechreu aberthiad yr Addfwyn Oen Adseiniaist ruddfanau y Fynwes fawr, Oedd ddigon trwmlwythog i grynu'r llawr Gwelaist ddefnynau y chwys a'r gwaed Yn disgyn fel perlau yn Uwch Ei draed Onid gwaed-ddafn nsialwyd gan rew 'r nos hon Ydyw'r gem rhuddgoch addurna'th fron ? Ac oni chostrelaist y dafnau drud Fu'n ernes o bryniad euog fyd ? Am dy ffyddlondeb cei fythol fyw Nerthaist' dy Gi-oiiri-, rhoist help llaw i Dduw A'r Gwr Gofidus, er maint Ei loes, Gerddodd, fel Arwr, holl fiordd y Groes Neidiaist i adwy yr Ardd. mewn pryd, Ac felly gwaredaist Waredwr byd, I AB IIEVIN. Aberdar. — "7(â' '\WJ

-.----...-.. ---Y FAM AT BACHGEN.

--------.-----.-----GLOFAOL.…

jTreharris, r

Adolygiad.

i ICymdeithas Ddarbcdol Deheudir…

---:0:---Caersaiem, Fontyfcerem.

: 0:--BRYNSEfOX (M.C.)., TRECYNON.

[No title]