Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

COLEG YALE.

Y GOLOFN DDIEWESTOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

cymeriadau rhagorol hyn; ac mewn llawer o amgylchiadau, y mae diotwyr a chyfeddachr wyr, a hyd yn nod meddwon yn ami, yn teimlo fod presenoldeb dirwestwr selog a phrof- vdig yn anrhydedd i'w cymdeithas. Ac weith- iau ymffrostiant, gan addef, Er nad ydw i fy hun yn ddirwestwr, fe fuasai yn ddigon da i mi fod ystalwm, ond yr wy'n sicr nad oes dim un dirwestwr yn eich capel chwi yn well os haner qystal a'r rhai sydd yn tin capel ni; ac yna enwant y rhai profedig er ys oes yn eu capel, ac ymddiriedant fwy iddynt na neb arall; ac ni chlywsom neb eto ya rhoddi mwy o glod i rywun am ei fod yn yfwr pethau meddwol. Pan fyddis yn gorfod addef fod yn nghymeriad y gwr linellau dysglaer, a thalentau o radd uchel, gallu i fod yn ddefnyddiol mewn llawer cyfeiriad pwysig, eto, ond ar ddiwedd y cwbl yn yw lianes ei ddiota, fel yr ond ar ddiwedd banes gorchestion Naaman y Syriad. Nid yw ychwanegu dim at eu nerth. Byddai yn dda gan filoedd pe byddai i'w cyfeillion daflu yr i ffordd, a theimlant y byddai yn gam hir ynddynt at berffeithrwydd; a dysgwyl yn amyneddgar am hyny y mae y ffyddloniaid dirwestol yn mhob man trwy'r wlad. Y maent yn fwy pryderus o angenrheidrwydd am weled y bobl y teimlant fod gwir werth ynddynt; y dynion sydd yn gallu arwain dynion, a chy- nhyrfu pobloedd i weithio gyda pha beth bynag yr ymaflant hwy ynddo; y dynion ag y mae yn dda ganddynt gael cydweithio a hwynt yn mhob mudiad arall erlles eu gwlad. Y mae dirwestwyr goreu y deyrnas yn dysg- wyl am gael y cewri hyny i daro yn erbyn diota a chyfeddach-yr arferiad swyngyfar- eddol sy'n gyru miloedd i'r trobwll diymwared. Yr ydym yn dysgwyl y cawn fyw i weled angylion yr eglwysi yn gorchymyn i'r fasnach ieddwol fel Satan, Dos yn fy ol i, rhwystr ydwyt ti i mi." Nid ydym yn hen, a chyn myned ynhen, dysgwyliwn gael gweled holl weinidogion yr efengyl wedi tynu oddiwrth y fasnach feddwol bob mymryn o'r gefnogaeth a roddant iddi yn awr. Y mae y tafarriwyr a'u cwsmeriaid yn teimlo eu hunain yn ddyogel iawn ac yn gryf iawn mewn dadl a'u gelynion dirwestol tra y gallant gyfeirio at y fath res hir 9 enwogion mewn safle uchel a pharch mawr yn llenwi pulpudau y gwahanol enwad- au crefyddol, a'r rhes hir ddysglaer hono yn ddiotwyr-y cwsmeriaid mwyaf anrhydeddus yn y trade, Pa reswm iddynt hwy gymeryd eu haflonyddu gan y penboethiaid dirwestol pn mae y fath fintai o wyr enwog ar eu llyfr- au. H Pwy mae'r 'totals yma yn tybied eu bod? Yda nhw gystal 'sleigion a a a —:—, a ——, a &c.? Yda nhw gystal pregethwyr a Mr. a Mr. ——, a Mr. a Mr. a Mr. &c., &c.f (rhes hir iawn o wyr enwog yn yr Eglwys Gristionogol)? Be' mae'r scrubliaid hyn yn gaboli, yda nhw, y pethau sychion, ddinj fit i ddatod carai esgidiau y fath ddynion .'r rhai hyn." Diolchent am resymau ysgrythyrol o'u plaid, neu resymau athronydd- ol; ond ba waeth ganddynt hwy lie yr elo ysgrythyr ac athroniaeth ond iddynt hwy gael dweyd wrth eu cwsmeriaid, t. Wyddoch chwi pwy fu yma. heddyw P Mr. o Mi todd yn dda gan i weld e. Dyma'r tro cyntaf i mi ei weled er's blynyddoedd. Arosodd gyda ai i ginio, ac wedi cael gwydriad neu ddau o sherry, cychwynodd yn frysiog tua .—— Mae hyn yn fwy o werth i'r tafarnwr nag a feddyliai neb ar yr olwg gyntaf. Teimlant fod cadw ty a gwirod i'r fath wyr enwog In swydd anrhydeddus. Mae'r ewsmeriaid, wrth gwrs, yn siarad llawer iawn uwchben eu ewpanau am ddynion cyhoeddus, a champ fawr y tafarnwr yw cael dweyd wrthynt, Yn y ty hwn y bu y gwr hwnw y tro diweddaf y bu yn y dref ton, ac yr oedd Mr. —— a Mr. ——— gyclag of, a dyma lie y buont yn ymgom- ie drwy'r prydnawn; yr oeddan nhw yn ddon- iol, faswn i byth yn blino arnyn nhw." Y mae'r cwsmeriaid yn teimlo yn hapus ryfeddol eu bod ar yr un ochr a'r enwogion hyny, ac y mae'r tafainwyr yn teimlo fod ymweliadau y rhai hyny yn cynal i fyny respectability eu tai a'u masnach. Y mae llawer o honynt yn rhoddi pobpeth i bregetliwyr ani ddim, h.y., os byddant yn rhai enwog, onide bydd yn rhaid iddynt dalu fel pechaduriaid eraill. Y tal yn eu golwg hwy am eu trafferth yw y moral support a enillant i'w ty oddiwrth ym- weliadau y fath wyr parchus. Y mae un esiampl gref o'r fath hyny yn fwy o nerth i ffydd a Hogell v tafarnwr nag y gall cant o areithiau dirwestol fod yn eu herbyn. Ni obeithi wn fod y dydd yn ymyl pan na bvddwn wrth frwydro u'r fasnach ac a'r arfer- ion sydd yn gymaint o orthrwm a llygredd yn ein gwlad, yn teimlo ar yr un pryd ein bod yn gorfod milwrio yn erbyn grym dylanwad esiampl ddrwg rhai o'r dynion goreu ar lawer cyfrif yn ein golwg; yn y wlad. Yn wir, y y mae cryn iesur o'r boon hon wedi cael ei symud eisoes. Y mae y rhai sydd yn y dos- barth uchod mewn Itawer ffordd yn dangos eu bod yn dymuno llwyddiant eu brodyr sydd yn llafurio yn selog gyda'r pwnc dirwestol. Ac er nad ydynt hwy eto wedi dyfod alom, y mae y ffaith eu bod yn cyfaddef mat achos da yw yr achos dirwestol, mai yn mhlaid y gwirionedd y mae yn brwydro, y mae hyn yn gwneud llawer o les, yn tynu llawer o'r gwenwyn o'r cwyr, ac yn ein calonogi yn fawr fod dynion o'r fath yn dymuno ein llwyddiant. Diolch am gy- maint a hyna. Daliwn i ddysgwyl y deuant yn gwbl oil cynhir; yna gallwn benderfynu y bydd tyrfa yn eu canlyn o'r set fawr ac o lawr y capel, a'r dydd hwnw y bydd barn a llosgfa ar y fasnach feddwol a'r ategion sy'n ei dal yn y byd. Bydd y CELT yn ffyddlon i'r achos dirwest- ol, yn gofnodydd cyson o bob eyfarfod pwysig 0 a fydd ar ddirwest yn mhlith y Cymry. An- foner pob peth o'r fath yn fyr ac eglur, a phob ysgrif ar y pwnc, i 4, Brynteg Trracee, Bangor.