Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
1 ( £ PNTOPX
8 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y CAPE.—Y mad yn alar i ni ddeall fod y gwrthryfel yn erbyn Llywodraeth Pryd- y ain gan rai o'r brodorion yno yn 6ryfhau; a bod yr ymladd yn myned yn fwy fwy creulawn a Ilofruddiog. Pe gellid dyfod o hyd i wraidd yr holl lid a'r dial sydd yno, byddai lie i ofninad ydyw yr holl fai ddim yn gorwedd wrth ddrws y gwrthryfelwyr.
1 ( £ PNTOPX
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
1 ( £ PNTOPX<TIL Nodiadaii gan y Gol. 3 CeH-Celtau-Cymry 0 4 Balchder Cenedlaethol—Y Golofn Dclirwestol 5 Dolgellau-Capel Sul-Bangor-Merthyr 6 Peutrellyncymer Brynberian Talybont- Yr liybaroh John Elias o Fon."—Pont y bodkin—Llong ,w. 7 PEIF ERTHYGL- Y gwrthryfel yn Crete 8 Newyddion diweddaraf -9 Gohebiaethau 10 Bethesda-Ffestiniog 0 11 Y diweddar Daniel O'Connell a Disraeli-Yr Ymherawdwr Alexander .12 Ysgol Sabbathol Zoar—Moleidion Broydd Maldwyn—Dyffryn Towy 0 13 Manvolaethau, Barddoniaeth f4
JtoiiaJian gait gdrrL ;•'a…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JtoiiaJian gait gdrrL ;• a BwKDEISDrvEFI Silt DDINB YCLL—Drwg genym fod Mr, Watkin "Williams yn rhoddi i fyny ei sedd fel eu cynrych- iolydd. Y mae wedi bod yn ddadleuydd goleu galluog o blaid egwyddorion rhydd- frydiaeth, a glynodd wrthynt yn ddiymod drwy ei yrfa seneddol. Ymddengys fod rhai o'i etholwyr wedi archolli ei deimlad- au, drwy eu bod, fel yr oedd ef yn tybied, am gyfyngu ei ryddid, a llyfFetheirio ei freiniau fel seneddwr. Gobeithio na bydd i Ryddfrydwyr Bvvrdeisdren sir Ddinbych ddim ymrwygo nac ymraiiu yn nghylch nil bethau lies iddynt golli yr ymdrech yn nydd y frwydr. Da iawn genym eu bod wedi cyduno yn unfrydig ar fonedd- wr i ddyfod yn mlaen rei olynydd i Mr. Watkin Williams, sef Syr E. A. Cunliffe, Barwnig, o Acton Park, yr hwn sydd yn gymydog a gwladwr o ysbryd caruaid :1, ac o egwyddorion Rhyddf'rydig.' Y mae wedi derbyn eu gwahoddiad, ac y mae wedi cyhoeddi ei anerchiad at yr etholwyr, ac yr ydym yn ei chyhoeddi heb unrhyw dal, ond yn unig y boddhad o arnlygu ein dymuniad gwresog am lwyddiaut achos Rhyddfrydiaeth yn sir Ddinbycli: — AT ETHOLWYR BWRDEISDREFI SIR DDINBYGH. FONEDDIGION Mewn canlyniad i wdth Mr. Watkin Williams yn hysbysu ei fwriad i beidio cynyg ei hun i chwi am ail etpoliad-hysbysiad a achosodd ofid dwys a chyffredinol—darfu i Bwyllgor o Ddirprwywyr o Fwrdeisdrefi Dinbyoh, Ruthin, Holt, a Gwrec- sam. fy anrhydeddu i drwy fy ngwahodd i ddyfod yn Ymgeisydd Rhyddfrydig yn yr etlioliad nesaf. Yr wyf yn prysuro i ddweyd fy mod yn derbyn y gwahoddiad hwnw yn galonog, ac yn gosod fy ngwitsanaeth yn ewyllysjar at alwad y blaid Ryddfrydig. Gan fy mod o'r blaen wedi bod yn aelod o Dy y Cyffredin, ac hefyd wedi cymeryd rhan ymar- ferol mawa cwestiynau gwleidyddol yn y sir hon, uid wyf yn barnu fod angen am i mi ar yr achlys- ur hwn wneuthur unrhyw ddatganiad maith o fy syniadau gwleidyddol. Prin y mae eisieu i mi ddywedyd y rhoddaf fy nghefnogaeth fwyaf gwresog i Fesur Mr. Osborne Morgan ar y Cladd- feydd; ae i fesur a fyddo yn amcanu cyfartalu yr Etholfraint yn y Siroedd a'r Bwrdeisdrefi—mesur yr wyf yn ystyried sydd o bwysigrwydd union- gyrehol i fuddianau cyffredinol y wlad. Mewn perthynas i Ddeddfwriaeth Ddirwestol, heb rwymo fy hun wrth unrhyw un o'r mesurau sydd: yn awr o flaen y senedd, mi a ymdrechaf roddi fy nghefnogaeth i unrhyw fesur ymarferol; a rydd lywodraeth wirioneddol a sylweddol ar y fasnach mewn diodydd meddwol i'r rhai hyny, sydd yn gorfod dioddef mwyaf oddiwrth ei gan- lyniadau niweidiol, sef y Trethdalwyr. Nid yw y cwestiwn yn nghylch perthynas yr, Eglwys a'r Wladwriaeth ar hyn o bryd o naen yr etholwyr fel rhan o wleidyddiaeth ymarferol; ond, megys llaweroedd eraill sydd fel fy hunan yn aelodau o'r Eglwys, credaf mai yr unig bender- fyniad boddbaol y gellir dyfod iddo ydyw gwahanu y naill oddi wrth. y Hall. Ar yr adeg bresenol, y mae Gwladweiniaeth Dramor y wlad hon yn bwne o'r pwysigrwydd a'r difrifwclj mwyai; ond tra yn credu fod genym .gyhuddiadau trymion i'w dwyn yn erbyn Gwein- yddiaeth Arglwydd Beaconsfield, fel y rhai sydd yn gyfrifol am y wladweiniaeth hono, anmhosibl a fyddai i mi drafod y cwestiwn yn briodol o fewn terfynau yr anerchiad hwn. Pan ddel yr amser, bydd yn dda genyf eich cyfarch yn fanwl ar y cwestiwn. Yr oil sydd yn aros i mi i'w chwanegu ydyw, os anrhydeddwoh fi drwy fy nychwelyd yn aelod. i'ch j cynrychioli yn y senedd, yr ymdrechaf nnan hyd eithaf fy ngallu i gyflawni yn ffyddlawn yr holl ddyledswyddau a berthyn i'ch cynrychiolydd. Ydwyf, Foneddigion, Eich ufudd was, R. A. CUNLIFFE. Pare Acton, Gwrexsain. Ebrill 20fed, 1878. Y mae addewidion y Barwnig o Acton Pare yn bur foddhaol, a gobeithio y caiff ei ethol yn anrhydeddus; ond cofied y lihyddfrydwyr y bydd y frwydr yn boeth, a diclion yn dyn iawn. Y mae yr ymgeis- ydd Oeidwadol yn uchel-foneddwr o gryn ddylanwad; ac y mae yn sicr y bydd i'w gefnogwyr wneutbur pob ymdrecb a fedr- ant, drwy drais a thrwy deg, ar ei ran. O'r braidd y cafodd Mr. Watkin Williams y blaen arno yn yr etholiad diweddaf.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EHTDDFIIYNWYE MALDWYN.—Da gen- ym eu bod yn gosod eu bryd ar ryddhau yr hen Geidwadwr G. W. W. Wynn o'i otalon swyddol fel cynrychiolydd y sir yn y senedd. Hen frawd go dawel ydyw Mr. Wynn; ond y mae wedi bod yn Dori o'r ysgol dynaf; ac y mae ei boll ogwyddiad- au a'i holl bleidebau wedi bod yn erbyn cynlluniau Uhyddfrydiaeth. D yweclir fod v dy:i newydd sydd mewn golwg yn Ehyddfrydvvr a diwygiwr o eigion ei galon, a bod ganddo alluoedd i egluro ac am- ddiffyn ei egwyddorion, ac ymroad diymod i'w dilyn.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
V SYE ROGER Ticn.noRNE.—Ddydd Linn y Pasg, ymgynnllodd torf aruthrol, fel arferol, i Hyde Park, i arnlygu eu cydym- deimlad a Syr Soger, y,"Giai[ua.nt," yr hwn sydd yn awr mewn car char dan y ddedfryd ei fod yn dwyllwr o'r enw Arthur Orton. Yr oedd Dr. Kenealy a Mr* Guildford ac eraill yn tystio yn yr iaith gryfaffodprawfy "Claimant" condemn- iedig wedi bod drwyddo oil ynun nodedig o annheg; bod yr achos wedi cael ei mg- faraii gan y Barnwyr a'u cefnogwyr yn y dull a'r ysbryd mwyaf unochrog. Yr oedd y dorf yn urillais yn cefnogi barn a thyst- iolaeth Dr. Kenealy a'i gyfeillion; aC yr oeddynt yn barnu, ac yn dweyd, pe gellid cael pleidlais deg, y byddai i dri o bob pedwar o ddeiliaiddiragiarn Lloegr gon- demnio y prawf fel un annheg. Y mae y farn hono wedi parhau i fyned yn gryfach a dyfnach o hyd drwy holl rediad y pedair blynedd ar ol y prawf; ac yn wir, y mae yn llawn bryd i awdurdodau ein I lysoedd cyfraith, naill ai cau; geneuau J)r. Kenealy a Mr. Onslow, neu blygu yn foneddigaidd 1 gondemnio annhegweh erlynwyr Syr E-oger, a'i ollwng ar unwaith ya rhydd o'i gaethiwed. > ¡ r
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AMERICA A PHWNC Y DW:YRA.iN.- Y ,mae pryder dwys trwy lawer o gylchoedd pwysicaf yr Unol Daleithiaa gyda golwg ar y dyryswch aV anghydfod sydd yn berwi rhwng Lloegr a Rwssia; nid yn gymaint am eu bod yn meddwl yn uchel am elegweh yr un o'r ddwy wlad, ond am eu bod yn credu y byddai i ryfel rhyng- ddynt ddyrysu mordwyaeth y byd; ac felly, andwyo canghenau pwysfawr o'i gydfasnachaeth.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYS Y VATJ.CAN.—Dywedir fod y "teimladail dedwyddaf yn ilynu rhwng .Y-u y Llywodraeth Lloegr a Llys y'Ptib. Nid ydym yn rhyfeddu. Ilawer at hyny, oblegid y 0 y mae ynddynt lawer iawn o'r un ysbryd ac o'r un gwaed, o'r un gred ac o'r un god; ac y maenf yn medru cydweithio yn o dda er cyd-ddyrchafu eu hurddas a'u grasau apbstolaidd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ESAOBAETH SCOTLAND.—Y. mae esgob- ion Protestanaidd Scotland—-Dr. Eden, Dr.Wordsworth, Dr. Cottrill, Dr. Juther, Dr. Wilson, Dr Jermyn, a Dr Mackarness, newydd gyhoeddi ardystiad cryf, mai iddynt hwy, yn ol deddfau apostolaidd, y perthyna hen esgobaethau Scotland. Y maent yn selog iawn yn erbyn jj'r Pab o Eufain gael sefydlu unrhyw esgobaeth mewn unrhyw barth o Scotland. Nid ydynt yn foddlawn i unrhyw offeiriad Pabaidd gael rhoddi ei droed i lawr ar hen ddaear Brotjestanaidd Scotland.