Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CELT—Y CELTAU-CYMRY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CELT—Y CELTAU-CYMRY. DYWEDIB gan ieithyddion fod iaith y Celtau yn perthyn i'r dosbarth a elwir Indiaida-Ellmynig. Nid ydym yn gweled pa eisiau sydd i ddywedyd fel hyny, mwy na dywedyd bod yr Ellmynaeg yn perth- yn i'r Indiaeg-Celtaeg. Bu y Geltaeg un dydd arni ynhelaethach ei therfynau na r EUmynneg, se ymse mor annibynol a gwreiddiol a hithau. Cawn eiriau yn y Gymraeg—nn o'r ffurfiau presenol ar yr hen Geltaeg, sydd yn gydsain, ac yn gyf- ystyr & geiriau yn Sanscrit, hen iaith yr India, yr hon ei hun sydd wedi marw, ond yn byw yn ei merched, y Pali, y Bengali, y Marahsatta, ac amryw eraill; fel y mae yr hen iaith Rufeinig yn byw yn ei merched hithau, y Pfrancaeg, yr Eidalaeg, a'r Ysbaenaeg. Cawn roi ych. ydig siamptau o flaen ydarllenydd. Fel byn:- SANSCBIT. CYMBAEG. Bad Badd, baddu, baddon Badira Byddar Bru Brud,brudiwr Bud Gwybod, gwybydd Gan Geni Dad Dodi Da Hwda, Hwde Dala Dalen, dail Dara Daear, tir Dafao • Daif, deifio Harit Gwyrdd, werdd Har, hr Hwra, Hwre Hinl Gwamal Kan Can, cannu, gwyn Kar, kr Creu • Mar, mt. Marw Masa Mis Nida Nyth, nythu Nad Nad, nadu Nabes Naf, nef Nafa Newydd Tan Taenu Tanu Teneu Sara, staca Ser, seren Tif, tu Tyfu Tig Teg yjj CGwydd, gwyddor <_Gwyddai 0 gwybu Yfan Cleuanc, ifanc, iau, ieuaf Yu Ieuaw Vari Mor, forio Mad Medd, meddwi Gall cyrnfer a hyna o siamplau fod yn ddigon i ddangog perthynas y ddwy hen iaith hon a'u gilydd. Os bydd y darllen- ydd am gael chwaneg, troed i Dafodiadur Bopp, lie y ca lawer o siamplau eraill. Ond y mae llawer yn eisiau ynddo ag a allasent fod. Y mae llawer mwy o eiriau Gwyddelig ynddo nag sydd o rai Cymreig. Ni a gawn lawer o eiriau Cymraeg a Groeg yn tebygu i'w gilydd mewn sain ac ystyr. Fel hyn CYMBAEG. GROEG. Adwyth Ateo Angor Ancura Anog Anogo Aru Aro6 Byw Bioo Ba Bous Bugail Bucolos Cnoi Dacno Deigr, dagrau Dacruon Defod Diaita Dofl. Damao Fyny Ana Fory Aurion CYMBAEG. GROEG. Garan Geranos Glas Glaucos Gwarthol Aorter Meddal Atalos Neidio Atto Och, ochain Achos Tasgu Asceo Torth Artoa Wyf Eimi Adwaen Eiden Clyw Clywo Crafu Graffo Dant, deint Odontea Dwr 'Udor Dysgu Didasco Ebol, eboles Polos Rhochi Rhengcho Gan adael allan luaws o eiriau eraill heb eu henwi. Y mae y frawdoliaeth ieithol hon rhwng y Gymraeg a'r Rhufeinig yn nodedig o amlwg, megys yn y geiriau canlynol CYMBAEG. RHUFEINIG. Ac Ac At Ad Ariant, arian Argentum Aur Aurum Barf Barba Canu Cano Cipio Capio Cybydd Cupidus Cyfudd Cubitus Dysgu Disco Gwy (dwfr) Aqua Gwilio Vigilo,Salic-is-i Helyg Salix Llygorn Lucerna Marw Morior Newydd Novum Pysg Pisces Pysgotwr Piscator Pechu Pecco Pechadur Peccator Tramwy Trameo Tros Trans Y mae y rhifoedd 1, 2, 8, &c., yn cyd- gerdded yn unol yn yr hen ieithoedd yma ar y cyfan, fel y cawn weled wrth eu henwi :-Ena, Sanscrit; en, Groeg; un-us, un gwr, un-a, un wraig, un-um, un peth, Rhufeinig. J)ai, Sanscrit; duo, Groeg; duo, duee, Rhufeinig; dau, dwy, Cymraeg. Tri, Sanscrit; treis, tria, Groeg; tres, tria, Rhufeinig; tri, tair, Cymraeg. Catur, catfar, Sanscrit; tessares, Groeg quatuor, Rhufeinig; pedwar, Cymraeg. Pancan, Sanscrit; pente a pempe Groeg; quinque, Rhufeinig; pump, Cymraeg. Sas, csas, Sanscrit; lex, Groeg; sex, Rhufeinig; chwe, a chwech, Cymraeg. Saplan, Sans- crit; 'epta, Groeg; septem, Rhufeinig; saith, Cymraeg. Asian, Sanscrit; octo, Groeg; octo, Rhufeinig; ivyth, Cymraeg. Naf an, Sanscrit; ennea, Groeg; novem, Rhufeinig; naw, Cymraeg. Dasan, Sanscrit; deca, Groeg; decem, Rhufeinig; dec, deg, Cy- mraeg. Y mae sillau olaf amryw o eiriau Cym- raeg yn y rhif lluosog, yn tebygu i sillau olaf llawer o eiriau Groeg a Rhufeinig yn y rhif hwnw, ac yn cael eu ffurfio ar yr un egwyddor. Fel yma:— Ai Groeg, ae Rhufeinig, au Cymraeg. Er siampl:- Oeltes, Celtai, Groeg; delta, Celtce, Rhufeinig; Celt, Celtau, Cymreig. Mousa, Mousai, Groeg; Musa,mus-ce, Rhuf- ♦einig; canyddes, canyddesau, Cymreig. Ni chydgerdd Iluosogion Cymraeg ond yn y dull yna a sillau olaf lluos- ogion y Groegiaid. Cydgerddant mewn un dull yn mhellach ag eiddo y Rhuf- einiaid mewn sillau olaf geiriau lluos- og yn terfynu yn i, megys magister, magistr-i, R.; meistr, meistr-i, C.; dominus, domin-i, R.; arglwydd, ar. glwydd-i, C. Ni ehydgerddant hwythau ddim pellach gyda sillau olaf geiriau llu- osog. Y mae afreoleidd-dra dirfawr, bum agos a dweyd anfeidrol, yn sillau olaf geiriau Cymraeg yn y rhif lluosog, pan y cesglir sillau olaf y lleill i bump a chwech dull. Y mae yr atreolwch hwn yn dangos na chafodd yr iaith ei hun erioed ei dysgu mewn ffordd lythyregol (grammatical), ond ei dysgu ar siarad, a hwnw yn afreol- us ac anghywir. Beth arall yw rhoi dau derfyniad neu ddau an diweddol i eiriau lluosog yn wahanol i'r Rhufeiniaid, megys yn y gair hwn, pullus. Pulli meddant hwy, a ninau yn dweyd ebol, ebolion. Pa beth yw yr on yna a chwanegir at yr i, y terfyniad priodol P Rhyw ddyn neu gy- mydogaeth wyllt a gymerodd yn eu pen i chwanegu on at yr i, a chan nad oedd un gramadegwr yn gwylio yr iaith, i geryddu yr afreoleidd-dra, aeth yn arferiad penes quem arbitrium est," ys dywed- odd yr hen Horat wyllt. Yr arferiad hwn sydd yn feistr llwyr bellach, ac arosed felly o ran dim a wnaf fi i aflonyddu arno. Tebygwn ei bod yn yr ystyriaethau hyn vr iaith fwyaf afreolaidd yn y byd, a'r an- hawddaf i ddyeithriaid ei dysgu yn briodol. Y mae yr hen iaith Geltaidd yn mhell o ffordd oddiwrth eiddo Sem, fab Heber," a'r rhai a hanasant o honi. Dichon fod y ddau frawd Japheth a Sem yn gweithio encyd oddiwrth eu gilydd wrth y ddinas a'r twr, ac felly yn amser y gwasgariad iddynt fethu cael hamdden i fenthyca fawr un gan y llall, ond brysio i ffoi o'r lie gyntaf y gallent. Er hyny, ni a darawn wrth ambell i air Semig a Chelt- ig sydd i fesur yn gydseiniol, ac o'r un ystyr, er nad agos cymaint a'r rhai a en- wyd eisoes, megys.Aor, Hebraeg; gwawr, wawr, Cymraeg; at, Hebraeg ti, Cym- raeg nu, talfyriad o anach-nu, Hebraeg; ni, nyni, Cymraeg; em, heb y nodau Masoraidd, am, Hebraeg; mam, Cymraeg. Gwna plentyn yn ddiau ddweyd am neu em ar ei fam yn rhwyddach, ac felly. yn gynt na m-am. Felly y mae iaith Sem, fab Heber," yn fwy naturiol na'r Geltig. Yr oedd yr hen Roegiaid a'r Rhufeiniaid yn greulon pan y dysgwylient i'w plant sugno alw pater, a meter, neu mater ar eu tad a'u mam. Eto:- HEBBAEG. CYMBAEG. Hu, heb y nodau, hefa Efe, efo Col Cwbl Colah Colli r< i u ("Goleuo &ohh Datguddio {Sto7.on Gamed Awydd local Gallu Iolel Wyl, wylaw lored Waered Lefi Lew Luach, heb y nodau, lefech Llech Luang, heb y nodau, J^Llyncu lefang ^Llwnc Muth, heb y nodau, ( Metb, meth- mefeth t u, marw Hoi, holoh Uchel-u Mar, moreer Chwerw-i Igeesh, gees Agos-au