Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

BHESYCAE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

gyffredinol, er troi Ilawer -o'i ffyrdd cyfeiliorn- us at yr Arglwydd. Cyflwyixo trowd.—Gwahoddwyd penaethiaid capel Moriah, gan C. S. Mainwaring, 1 sw., i giniawa i Lloetljwryd Hall, dydd Mawrth, y 23 O Ebrill, pryd y cyllwynwyd iddo y trotoel arian, gyda pha un y gosododd gareg sylfaen y capel i lawr. Ac wedi'r cyflwyuiad, eatyn- odd y boneddwr gwladgarol rodd hardd i'r tryaorydd tuag at (IdYleti dyled y capel. Fe ddylai brodyr Amiibynol dalu y diolchgarwch gwresocaf i Mr. Mainwariug am ei gymortb, er hyrwyddo yr achos ieuanc yn mlaen. BRENIG. A LLANGWM. Dinmael,—Bu Mr. J. Watkins, Tre'rddol, yma yn darlitliio ar y "Bobl ag sydd yn dda Eanddynt ryfel," nos Wener, y 26 o Ebrill. Darlith ragurol, a'r darlithydd yn ei hwyliau goreu. Greayn na cheid cyfres o ddarlithiau gan, Mr. Watkins ar ryw faterion dyddorol oraill. Y mae digon yn y "clap sydd ar ei ysgwyddau DRILL HALL, COEDUON. Cynaliwyd eisteddfod yn y lie uchod LInn y Pasg, Ebrill 22ain, dan lywyddiaeth J. Jeremiah, Yaw., (c< al manager). Beirniad y Farddoniaeth a'r Traethodau,- Parch. W. Thomas (Is-lwyn). Beirniad y Garddotiaeth, kreithio, a'r adroddiadau,—Mr. J. Cledan Williams, Rhymni. Enillwyd ar y darnau batddonol gan Mr. P.. Davies, Penmain, a Cilwynug, Treorkey; y traethawd gan Mr. p. Reea> Einygddu. Ni chawsom enwau y buddugwyr ar y darllen a'r areithio. Solo, "Dyffryn Clwyd." Goreu, Miss Lewis, Coeduon. Unrhy w gan. Goieu, Llew Gwent. Tiio ar anthem, "Mor hawddgar, yw dy bebyll," (Dr. Parry.) Goreu, Llew Gwent a'i gyf.; a thii o Pengarn, (UR chawsom moenwan y rliai hyn eto. Cystadleuaeth y don "Bedd- I{..lört," (Stephen a Jones). Goreu, Coeduon, (Inn arweiuiad Llew Gwent. Canu y prif ddarn, authem "Deuwch i'r dyfroedd," (Eos Llechyd). Goreu, Blackwood United, dan a we niad Llew Gweut. Yr elw at y ddyled sydd yn aros ar gapel y Bedyddwyr; a da K#nym ddeall eu bod wedi cael elw da dros ben, a chyfrif marweidd-dr.i masnach yn y lie, ar yr adeg bresenol. Yr oedd yn wir ddrwg genym ddeall fod y bardd anrhydedd- us Islwyn yn glaf yn ei wely; a thiwy hyny yn methu bod yn bresenol i ddarlen ei feirn- ladaeth. Gobeithio y caiff adferiad buan o'i lesgedd. UN O'R COED. LLITH 0 TREDERIAR. Tyladi y Ile.- Mae sefyllfa weithfaol y lie hwn, fel lleoedd eraill, we li cynyrclm dyoddef- garwch mawr, yn mhob ystyr, mwy felly nac a deimlwyd yma er cychwyniad yr olwynion gweithfaol cyntaf. Mae hyny i'w briodoli i arafwch masnach--dim galwad. Y fath ddystawrwydd sydd i'w glywed y dyddiau a'r misoedd gorphenol tua chymydogaeth y gweithiau tan; o'r hwn le y mae amryw ganoedd yn ymddybynu am eu bywioliaeth. 0 na ddeuai rhywbeth i gynyrfu y tawal-for hwn unwaith yn ychwaneg, fel y byddai i'r trueiniaid dyoddefedig gael testyn can o fawl i Frenin nef, am y rhagorfraint i ddiwallu eu cylla anghenus. Strike yn y pyllau newyddion.—Mae hon wedi teIfynu, a diolch am hyny, wedi bod allan am wyth wytlmos, ond heb enill y gronyn lleiaf, eithr yn hytrach colled ddir- fawr,wedi ychwanegu eu tylodi. Gwell ydyw penderfynu pnb, peth yn anllibynol ar y wenwynes farwol hon, oblecyd ar bob adeg y gwnaeth ei hymddangosiad yn pin gweith- ydd yn ddieithriad o'r bron, gwenwyno yn ^wol a wna bobpeth o'i deutu. ilnnanoldiib. --Mae tuedd ymddyrcbafu ynom oawb, ond fod ein gwrthrychau yn amrywio, Am uurfiau neu eu cyfryngau, trwy ba rai i gyrhaedd y nod hwnw yn gwahaniaetliu yn fawr. Tybia rhai dynion bychain nad yw wahaniaeth yn y byd pa fodd i enwogi eu hunain ger bron dynion, ond cael hyny rhyw- fodd. Mae eu tuedd ymddyrchawl gymaint, fel y dt ylliant eu cymeriadau yn ddaruau man, os gallant trwy hyny wneyd eu hunain yn ddynion enwog am unwaith yn eu hoes. 0 ynfydion, onite ] Bydded i'r cyfiyw ym- guddio gan gywilyddo wyddfod dynion, ac na cliodant eu pen i aflonyddu arnom mwyach. MEILLIONYDD. CEFNMAES, MYDROILYN. Dydd Iau, Ebrill 18, oddeutu tri o'r gloch y boreu, dychrynwyd gweision y ffermdy uchod, wrth ganfod eu ystafell wely, yn oleini tanbaid. Rliuthrasant allan yn ddychryn- edig, pan ddeallasant mai'r ysgubordy oedd yn aberth i'r fllam. Galwyd ar y teulu a'r cymydogion cyfagos; a' chyn fawr o amser, yr oedd yno lawer mewn ymdrech egniol yn cfeisio Hadd angerddolrwydd y fflam. Ar ol tair awr o ymdrech galed, Uwyddasant i ladd yr elfen ddinystriol, ac i'w atal rhag difrodi y tai oedd yn gysylltiedig a'r ysgubordy. Yr oedd yr ysgubordy yn adeilad mawreddog, ac yn ddwy lofft 6 uwchder. Yr oedd ynddi amryw machines perthynol i'r fferm, a llawer o bethau drudfawr eraill; ond aeth y cyfan yn aberth i'r tail. Yr oedd y golled yn fawr iawn. Ond dywedir nad oedd yn golled i gyd i'r perchenog, oblegyd yr oedd wedi yswirio. Ni wyddis pa fodd y cymerodd yr ysgubordy dan, ond bernir i'r weithred anfad gymeryd lie yn fwriadol. Olynias. h BEULAH, LLANERFYL. Nos Fawrtb, Ebrill 23, cynaliodd cantorion y He hwn gyngherdd, yn nghapel newydd Beulah, dan lywyddiaeth y Parch. C. Evans, Diosg, yr hwn i ddechreu a anerchodd y cyfarfod yn fyw; ac wedi hyny 4 alwodd ar Mr. E. Hughes, Pentrelludw i ganu. 2. Can gan Mr. John Jones, Dolau. 3. Anerch- iad gan Mr. D. Peate, Glanllyn, Llanbryn- mair. 4. Can gan y plant, dan arweinyddiaeth Derwenog. 5. Can gan Mr. H. Howell, Llanerfyl. 6. Can gan Mr. E. Francis. 7. Can gan Derwenog a'r plant. 8. Anerchiad gan J. Jones, Dolwen. 9. Can, "Gwnewch bob peth yn Gymraeg," gan Mr. E. Hughes, Pentrelludw. 10. Cydgan gan y plant. 11. Can gan Mr. John Jones, a chydgan gan y plant. 12. Can gan Mr. E. Hughes. 13. Can, "Y train," gan Derwenog, 14. Can gan Mr. H. Howell. 15. Can gan E. Francis. 16. Can gan Mr. J. Jones, Dolau, a chydgan gan y plant. 17. Can gan y plant, dan arweiniad Derwenog. Elid i mewn trwy dalu ychydig, i'r dyben o gael awrlais newydd i'r capel. Cafwyd cyfarfod da a dyddorol; a haeddai ardalwyr Beulah y ganmoliaeth uchaf am eu hymdrech a'u sel i dalu am bobpeth yn nglyn a'r capel wrth fyn'd yn mlaen. Da genym weled fod ol liafur ac ymdrech, y tal- entog a'r galluog Derwenog, i'w weled yn amlwg ar ieuenetyd y lie; fel ac yr.oedd eu clywed yn canu mor dda yn ystod y cyfarfod, yn brawf o'i ddysgyblaeth. GOMER AB GOMER. GWYNFE. Saif y lie uchod ar gwr uchaf plwyf Llan- gadog. Y mae oddeutu 6 milltir o hyd a 3 o led ac y mae y boblogaeth yn rhif 600. Y mae yu cael ei amgylchynu ar y gogledd, gan fynydd Trich ng, o ba un y mae y BlgWI, y rhan uchaf ar ben pa un y bu rhyfel ofnadwy yn amser Cromwell; ac y mae olion o hyny i'w canfod yn bresenol. Ar yr ochr ddwy- reinioliddo y rhed yr afon Sawdde; yr hon afon sydd yn ei wahanu oddiwrth blwyf Llitii. ddeusant. Ar ei ddeheu y saif y Mynydd Du; ac ar y gorllewin iddo, y mae plwyf Llandilo. Y mae Gwynfe wedi bod ac yn bod, yn lI. enwog iawn. Y mae wedi rhoddi magwrfa i lawer o bregethwyr enwog, megys y Parchn. J. M. Bowen, Pendarran; John Thomas, Croesoawallt, &c.; ac y mae y rhai canlynol yn awr yn parotoi ar gyfer y weinidogaeth: sef Mri. G. Griffiths, a D. Lloyd Williams, Coleg Aberhonddu; D. Williams, Coleg Caev- fyrddin; a W. Griffith, o Goleg Plymouth, yr hwn sydd yn myned yn genadwr Felly chwi welwch nad ydyw Gwynfe ynolmewn codi pregethwyr, os ydyw yn ol mewn pethau eraill. Amaethwyr ydyw y rhan fwyaf o'r preawyl- wyr, oddigerth ycbydigweithwyr a chrefftwyr. Y mae dwy eglwys Annibynol weithgar yma, a gwedd lewyrchus iawn arnynt, dan weinidogaeth y Parch. W. Thomas. A theg yw crybwyll hefyd fod yma un Eglwys Sefyd- ledig, dan ofal y Parch. D. Lewis Rowland, yr hwn er's ychydig amser sydd yn wael iawn ei iechyd; ond gobeithio y ca adferiad. Cynaliwyd arholiad blynyddol yr yagol ddyddict eleni, ar.y laf o Fai. Yr arholwyr eleni (a phob blwyddyn am hyny) oeddynt y Parch. Shadrach Prys, H.M.I., Caejfyrddin, a Mr. D. Hamer, cynorthwywr iddo. Ai hol- wyd y plant mewn darllen, ysgrifenu, gram- adegu, daearyddiaeth, &c., &c., ac aethant drwy eu gwaith yn ganmoladwy iawn. Y mae yr yagol yn amLydedd i Messrs Beriah Evans, C.M., a Jno. Williams, P.T. Go- beithio y bydd iddi barhau felly. Nid af i ymhelaethu y tro hwn; ond os caniata eich gofod, cewch air yn awr ac yn y man. Yr eiddoch, &c., LLANC. NIWBWRCH. Nos Fawrth, Ebrill 23, darlithiwyd yma ar "Martin Luther," gan yr hybarch Ddr. HI"t's, Caer. Cadeirydd ydoedd T. Jones, Ysw., Caellechau, yr hwn a wnaeth ei waith yn fedius. Daeth tyrfa luosog yn nghyd. Caf- wyd darlith fendigedig. Yr elw i fynedat draul adgyweiriad capel yr Annibynwyr. cy Gohebydd. CYFARFOD CHWARTEROL MON. Cynaliwyd y cyfarf d hwn yn Hebron, Maenaddfwyn, Ebi ill 29 a'r 30, payJ y daeth yn nghyd luaws mawr o weinidogion, pregeth- wyr a diaconiaid. Am 2 o'r gloch, dydd Llun, cafwyd cynhadledd i ymdt in â gwahanol fater- ion perthynol i'r Cyfundeb. Am 6, dechreu- wyd gan y Parch. E. Jones, Llanbedrog; a phregethodd y Parchn. E. E. Davies, Meiiai Bridge; a J. Rowland*, Beaumaris. Am 10, dydd Mawrth, dechreuodd y Parch. W. V. Davifep, Moelfrol; a phregethodd y Parchn. T. Gruffydd, Bryngwrau; a R. P. Williams, Waenfawr. Am 2, dechreuodd Mr. R. Hughes, Maelog; a phregethodd y Parchu. E. Jones, Llanbedrog; ac R. R. Jones, Niw- bwrch. Am 6, dechreuodd Mr. W. Hughes, Brynsiencyn; a phregethwyd gan y Parchn. E. W, Lewis, Rhosymeirch; a J. Owen, Llan- gefni. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, a'r weinidogaeth yn cael ei thraddodi mewn nei th. Hyderwn y bydd y II fihvyth yn sancteidd- rwydd, a'r diwedd yn fywyd tragywyddol. Yr oedd y cyfarfod hwn yn "gyfarfod Jubili" i'r eglwys yn Hebron. Yn nghyfar- fod yr hwyr, rhoddodd un o'r brodyr adrodd- iad o'r llafur a'r llwyddiant cysylltiedig a'r casglu; a siaradwyd yn mhellach ar y mater gan Mr. J. Evans, Coedanna; Parchn. T. Giuffydd, R. R. Jones, W. V. Davies, a J. Owen. Teimlwn yn llawen i weled yr eglwys hon mewn gwedd mor adfywiol. Bydded iddi fyned yn mlaen gan fod tir eto heb ei fedd- ianu.