Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

BANGOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BANGOR. Y MAE i bobpeth ei dynmr, ac i bob dygwvdd- p iad pwysig ei ddydd; nid prin engreifftiau er dangos goruchaflaetli y gwael ar y gwych, pan y mae y cyntaf yn amserol a'r olaf heb fod. f.-l mai amseroldeb peth yn hytrach na'i wir worth aydd yn sicrhau ei dderbynind. Ys d\wed yr Archfardd a edmygir mor gyffrcdinol- "The cow doth sinQ' as sweetly as the lark, When neither is attended; and I think The nightingale, if she should sing by day When every goose is cackling, would be thought No better a musician than the wrerd, How many things by season season d are To their right praise and true perfection." Ni chymerem lawer am ddweyd mai fel hyn y dylai fod, nac ychwaith y caiff fod yn hir, ond amlwg yw mai fel hyn y mae; ac nid oes un gangen a all ddwyn gwell prawf o hyn na'r eiddo CEKDDORIAETH. Y mae hon fel merch anufudd, wedi cael ei tbaflu allan a'i diystyru bob yn ail, a'i chofleidio a'i moli filoedd o weithiau. er y dydd ei ganwyd i'r byd ar aelwyd Jabal gynt. Nis gwyddom a yw yn ddarostyngedig i'r cyfryw driniaethau tu allan i gylch ein byd ni ai peidio. Gwyddom ei bod i'w chael fel y brif elfen yn mwyniant y Wynfa lån, a gwyddom fod yr angylion syrthiedig yn hdni eu bawl vnddi, oblegyd y mae un o'u nifer wedi ei benodi i ofafu ant dani, a elwir Cythraul y canu;" ond gallwn dynu casgliad teg nad yw teulu y fagddu yn gerddorion, neu buasent yn gosod un a mwy o harmony yn ei gyfansoddiad i ofalu am y gangen hon. Dichon na bu yn banes ein cenedl, adeg pan y bn cerddoriaeth mewn uwch bri nag y mae yn awr. Bu amser pan nad oedd uchelgais cerddor- ol ein gwlad yn ymddyrchafu yn uwch na chanu cyniill eidfti ol-a buasai yn fendithiol i lawer cyn- ulleidfa pe buasai wedi aros yn y fan bono hyd y dydd beddyw-ond wrth ymestyn at berffeith- rwydd, daeth y cauu corawl i sylw drwy Gyrnru, yn enwedig yn y De; daeth yn funn i fod yn brif atdyniad, ac i dderbyn prif wobrau ein Heistedd- fodau; pentyrid yn domenau wrth ei draed ar- weinffyn, awdfynegion, ewpanau euraidd, a chor- onau. ac o'r diwedd, wele bobl dda Ffestiniog ar ei osod i eistedd yn eu prif gadeiriau. Tra yn edmygu eu sol gerddorol, eto nis gallwn weled y priodoldeb o roddi ca/lair i arweinydd c6r, os nad awgrymiad caredig yw, iddo orphwys am dymor a pheidio eu blino mwy. Wel, beth sydd a fyno y sylwadau uchod a Bangor? Meddwl yr oeddwn, cyn cychwyn i grwydro, wneud sylw byr ar y teimlad cerddorol, a safle cerddoriaeth yn y ddi- nas; ond ymataliaf gyda dweyd fod yma Undeb Corawl na raid iddo blygu ei ben, pan enwer c6rau Gwynedd a Gwent; ac yr oedd digon o'r ysbryd hwn yn mhobl Ebenezer ryw bythefnos yn ol i dynu dau Bencerdd byd-enwog i Gyng- herdd y Band of Hope," er nad oedd bwn yn agos y peth a welwyd yn nglyn a'r Gymdeitbas fuddiol, ond ddadfeiliedig bon. Ond er y cyfan, mewn cerddoriaeth offerynol y mae Bangor yn gyfoethog, hon sydd yn llifo dros ymylon ei llestri pres, yn rhaiadrau rhamantus i glustiau y trigolion. Ni cheir yma ddim llai na thair sein- dorf, yr olaf o ba rai sydd yn awr yn cael ei ffurfio o weithwyr Porth y Penrhyn, ag ydynt yn ymddangos yn benderfynol o feistroli y gelfyddyd o chwythu, oblegyd nid ydynt yn llonydd na dydd na noa, Llwyddiant iddynt medd eich GOHBBYDD.

BTRKENTTEAD.

CONGL YR EFRYDYDD.