Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CELT-Y CELTAU-CYMRY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CELT-Y CELTAU-CYMRY. GWNA. hen ysgrifenwyr, megys Caesar, Livy, Justin, a Diodorus, ddarlunio y Celtau yn gorfforol a moesol, ond ni wnant bob amsfer gyd-ddywedyd. Dywedent eu bod yn ddynion o faintioli mawr, o bryd teg, o wallt coch, a golwg lem arnynt; yn p-allu goddef oerfel a gwlaw yn dda, ond nid gwres a syched. Dywedant hefyd eu bod yn wag-ogoneddgar, ac yn ymffrost- gar, bod eu swn yn uchel, a'u bod yn an- oddef o lywodraeth, a'u bod yn gwerylgar a'u gilydd. (Cofied y darllenydd y sylw hwn). Yr oedd eu rhuthr cyntaf mewn rhyfel yn ofnadwy, ond os unwaith y troid hwynt yn ol, &ent ar wasgar yn anhrefnus, ac anhawdd oedd eu cael i drefn eilwaith. Dyna lie y gwahaniaethent oddiwrth yr ben Rufeiniaid. Yn eu hymgyrchoedd rbyfelgar, cafodd y rhai hyn lawer cilgwth- iad cas, fel y ceir yn hanes eu rhyfeloedd a'r Galwys, y Prydeiniaid, a'r Carthagiaid, ynnghydag eraill. Ond ar ol eu trechu un tro, edrychent i'r achos o'r colliant, gwylient rhagddo y tro nesaf, a mynent orchfygu yn y diwedd. Hono yw y genedl sydd yn gorchfygu yr hon sydd yn trechu yn y diwedd, nid yr un a drecho yn y decbreu. Dyna lie y gwahaniaethent y rill ii feiniai d-ir Celtiaid. Wrth ysgrifenu am y Celtiaid, y mae yn d'od yn naturiol i holi a oeddent yn grefyddol. Nid oes genym fawr i'w ddy- wedyd. mewn atebiad i'r cwestiwn hwn. Yn ol y tystiolaethau sydd am danynt, ni a'u cawn yn cydnabod Duw, ac un Duw. Nid oedd eilunod na delwau ganddynt. Dangosent bob croesder ac anmharch i eil- unod a duwiau y gwledydd yr ymosodent ■arnynt fel y cawn yn eu gwaith yn yspeilio temlau Macedonia, a'u bwriad i anrheithio Delphos, trigle oracl enwog Apollo. ddolent Dduw mewn gellioedd, fel y sylwyd eisoes, megys y gwnelai llawer o genedloedd eraill, fel y darllenwn yn yr Hen Destament. (Gwel Deut. xii. 3. 2 Br en. xviii. 4). Ond ni ddarfu iddynt oil gadw at y symledd hwn yn eu haddol- iad, canys ni a gawn i'r Galwys (Gauls), gydag amser, gymeryd at dduwiau yr Ellmyn a chenedloedd eraill. Dywed Diodorus bethau anhygoel am y Celtau ag a breswylient nesaf i'r Gogledd at Scythia, sef eu bod yn bwyta cnawd dyn- ion fel y Brythoniaid ag a breswylient yn Erin, sef yr Iwerddon. Ond nid oes un sicrwydd fod yrEriniaid, na'r bobl agos i'r Scythiaid, yn bwyta dynion. Dywedir hefyd fod y Derwyddon yn aberthu dyn- ion, ond dylem gymeryd y traddodiad hwn yn ochelus, er na byddent pe yn gwneuthur hyny yn gwahaniaethu oddi- wrth lawer o genedloedd y byd. Ni a gawn. yr luddewon rai yn tynu eu plant drwy y tan i Moloch, erfod Duw wedi gwahardd yn gaeth arnynt na wnelent y fath ffieidd-dra. Am y cromlechi sydd yn ein gwlad, ac mewn gwledydd eraill, nid oes genym fawrneu ddlm i'w ddweyd gyda sicrwydd, am nad yw y rhai sydd wedi ysgrifenu ar- nynt yn cyd-ddywedyd. Dengys hyn nad oes gwybodaeth am danynt. Yna pa ddyben siarad am beth nas gwyddir ? Y mae gan un gystal hawl a'r Hall i siarad, a siarad y ddau mor ddiwerth a'u gilydd. Am gyniferoweddilliono honynt ag a welodd yr ysgrifenydd, nid oes ol morth- wyl na gaing arnynt. Wrth eu gweled felly, betb bynag oedd eu dyben, nid all lai na meddwl am y peth a ddywedodd Duw wrth Moses am yr allor: "Pan gottech dy forthwyl arni ti a'i halogaist hi," Exod. xx. 25. Ond yn adfeilion Stone-henge ar wastadedd Salisbury, yn Wiltshire, ceir olion celfyddyd yn rhai o'r meini sythion a'r meini a orphwysent ar- nynt. Pa beth oedd dyben yr adeilad mawr hwn nid oes neb heddyw a all ddweyd. Yn ol Diodorus Sicalus, tai y Prydeiniaid yn yr haf oeddent dai tlodion o goed a chyrs; yn y gauaf llechent mewn ogofau a thyllau Ond Diodorus sydd yn dywedyd hyn. Ni chawn, mor bell yr wyf yn cofio, fod Julius Caesar yn dywed- yd hyny, a bu efe yn gynefin a rhanau helaeth o'r wlad. Sylwyd eisoes fod y Celtau wedi bod yn eang eu terfynau, ond ni chawn fod un dywysogaeth neu frenhiniaeth o'u heiddo yn aros, un math o lywodraeth annibynol o'u heiddo i'w chael yn un parth o'r byd. Nid oes dim tua'r Mor Du, nac ar lenydd y Danube, ar un ochr neu y llall iddi, dim tua Jutland a'r afon Elbe, dim yn Itali na'r Yspaen, na dim yn Efrainc, fel Celtcm, na Brydain Fawr, na'r Iwerddon, na Chel- yddon, er fod ffurfiau o'r hen Geltaeg yn cael eu siarad yn y tair gwlad; a phrudd i ni yw na buasai yn rhyw wlad lywodraeth Geltaidd yn aros. Ond er hyny, dichon nad oes cymaint o achos i ni i gwyno ag a feddyliem. Nid oes neb o'r teyrnasoedd henafol mawrion y darllenwn am danynt yn aros. B'le y mae yr Aifft, gwlad y Pharaoaid ? B'le Assuria, Babylonia, a Media ? Nid oes un o honynt yn aros os na enwn Persia. Y mae enw hono yn aros, er nad y Persia sydd heddyw oedd Persia Darius Hystaspes mewn llawer ystyr. I'r ffaeledigaeth hyn y mae yn rhaid bod rhyw achos. Dichon fod yr ystyriaethau canlynol yn rhan o'r rhesym- au dros eumethiant:— ..I 1. Eu cynhenau a'u gilydd. Yn lie y I cyfanu a chryfhau y llywodraeth, ac edrych am y fantais gyffredinol, cynhenu a dadleu a'u gilydd y byddent. Y mae hyn yn nod arnynt yn mhob gwlad lie y buont yn an- ymddibynol, ac yn nod arnynt y dydd heddyw pan heb lywodraeth yn y byd o'u heiddo eu hunain. Y mae y duedd anghy- fanus ac anlwcus hon yn parhau yn mlaen, a pbarhau i lawr hyd ein hamser ni. Dar- llener y newyddiaduron Cymreig, a thyna un o'r petbau amiycaf a welwn ynddynt yw cynhenau a dadleuon. Yn mron nad esgusodem Geltiaid paganaidd am eu hymrafaelion, ond beth a wneir o'r Celt- iaid sydd a Christionogaeth ganddynt, ac yn ei chydnabod gymaint ag y gwneir yn Nghymru, yr Iwerddon, a Ffrainc, ac eto, sydd mor ymrysongar a'u gilydd ? Gallwn ofyn, Pa gymdeithas sydd rhwng Crist a'r Belial" hwn o gynen ? 2. Llywodraeth man dywysogion yn lie unbenaeth neu weriniaeth gyffredinol. Byddai y pethau bychain a dirmygedig hyn yn cenfigenu ac eiddigeddu wrth eu gilydd, ac ymladd a'u gilydd yn ddiddar- fod; ac yn lie uno, a chadarnhau, a llwyddo y genedl, byddent fel cynifer o felldithion byw yn ei rhanu, a'i gwanychu, a'i lladd. Darllener hanes Cymru, a cheir prawf ddigon o wirionedd y sylw hwn. Gan fod ynddynt gymaint o yspryd atynt eu hunain, byddent yn ddiymddiried a -bradychus i'w gilydd, fel y cawn yn hanes Caradog, un o'r rhyfelwyr penaf a feddodd y Prydeiniaid, na neb eraill o'r Celtau, a gwr, yr hwn pan yn garcharor yn Rhufain, a dynodd sylw ac a enillodd barch Claud- ius Caesar, yr ymherawdwr. Gwedi cael ei orchfygu gan y Rhufeiniaid, cymerodd loches gyda Cartismandua, brenhines y Brigantiaid. Yn lie ei drin gyda pharch a charedigrwydd fel ffoadur urddasol, rhoddes ef mewn cadwypi, gan ei roi i fyny i'r Rhufeiniaid. Gwna y weithred gywilyddus yma enw y frenhines hon yn adgas. Oni buasai y bradychiad anheil- wng hwn, y tebygolrwydd y yw buasai Car- adog gydag amser yn trechu y gelynion. 3. Diffyg dysg. Fel y sylwyd yn barod, cymaint o ddysg ag oedd yn bod yn eu gwlad, gan y Derwyddon yr oedd, ac nid yn mhlith y genedl. Yr oedd cyfyngu dysgeidiaeth i un llwyth neu ddosbarth o'r bobl yn gamgymeriad mawr, ac yn un o'r rhesymau dros aflwydd, a ffaeledigaeth, a marwolaeth y Cylt. Marw. y mae y Celtiaid fel Celtiaid yn mhob gwlad. Y mae dysgeidiaeth yn allu, yn allu mawr at barhau bywyd pob cenedl, a phan na chyrhaeddodd y Cylt y gallu hwn, rhaid oedd iddynt golli y dydd a marw. Yr ydym yn cael y Celtiaid yn marw yn mhob gwlad lie y buont-yn Brydain Fawr fel mewn gwledydd eraill. Y maent wedi diffodd yn Nghernyw (Cornwall), yn Ynys Manaw, yn diffodd bob dydd yn Ucheldiroedd Scotland, yn yr Iwerddon, ac yn Nghymru. Y mae parch yn ddy- ledus i'r Tywysog Llewelyn, ac i Owen C, Glyndyfrdwy gwedi hyny, am eu hymroad i adenill anymddibyniaeth eu cenedl, ond yr oedd yn rhy ddiweddar, oesau yn rhy ddiweddar. Yn amser, Hengiat a'i gyd- frodoridn, gallesid a dylesid trechu yr estroniaid hyn. Y mae darostyngiad y Prydeiniaid gan y dyeithriaid hyn, a'u difancpll o'r herwydd, yn lie bod yn des- tun cwyn iddynt yn destun dirmyg arnynt yn hytrach. Yr oedd yn gywilydd i'r Prydeiniaid trwy eu diddimder, eu han- wyliadwriaeth, a'u cynhenau, adael i'r dyfodiaid hyn i aros yn eu gwlad, a chydag amser myned yn feistri yn y tir. Oedd, yr oedd yn gywilydd ddarfod i ynysaid o genedl adael i ychydig gantoedd o estron- iaid i'w trechu. Gallasent roi mis o rybudd iddynt i ymadael, gyda sicrwydd iddynt os na byddent gwedi myned yn mhen y mis, y torid eu penau ymaith i gyd yn yr un prydnawn, heb gymaint ag un i ddychwelyd'i Saxony i adrodd yr hanes. Ond ni wnaed byny; a'r Saxoniaid hyn sydd bellach yn meistroli arnom, ac yn lledu tros y ddaear. Clod iddynt hwy yw hyny, ond gwarth y Prydeiniaid. Ond y mae a fyno Ehagluniaeth a hyn. Hi a wel fwy o yni, a phenderfyniad, ac unoliaeth yn y genedl hono, yn hytrach yn y gymysgedd o genhedloedd, o Belgau, Celtiaid, Rhufeiniaid, Saxoniaid, a Dan- wys, ag sydd yn byw yn Lloegr dan yr enw Saeson, ac felly bod mwy o allu i fyned rhag blaen yn y genedl gymysghon, C, t3 a mwy o gymhwysder i lywodraethu nac yn yr un Geltaidd yn unig. Ni a welwn hefyd fod Rhagluniaeth yn galw yn ol ran o felldith Babel, sef cymysgiad ac amlhad ieithoedd dynion, trwy leihau nifer ieith- oedd y cenhedloedd. Melldith flin oedd hon, un o'r melldithion chwerwaf allan. Ac yr ydym gyda hiraeth yn gorfod medd- wl fod ein iaith ni a'r hen Geltaeg yn mhob ffurf arni yn un o'r rhai a gollir. Iaith yr Eisteddfodau ydyw, Oes y byd i'r iaith Gymraeg." Faint fydd oes y byd nis gwyddom, ond yn ol y nerthoedd sydd ar waith yn awr, ni bydd oes ein iaith ni eto ond bechan. Nid oes genym yn Nghymru ond pedair sir y gallwn eu galw yn siroedd Cymreig pur-Aberteifi, Meir- ion, Caernarfon, a Mon. Y mae y lleill i gyd a Saesoneg ynddynt, rhai a mwy a rhai a llai, Yr ydym yn teimlo yn athrist