Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

ODDIWRTH EIN GOHEBYDD CYFFREDINOL.

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

CELT-Y CELTAU-CYMRY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

wrth weled colli ein cenedl o'r gwledydd lie y bu yn trigianu unwaith, heb ddim yn aros ond rhai o'i geiriau. Tarawn wrthynt yn Ffrainc ac Itali, ar lan y Mor Du a glenydd y Danube fawr. Y Celt- iaid biau y Halcan, yr enw ar y mynydd- oedd lie y darfu i lawer o'r Rwssiaid sythu a marw yn y rhew a than yr eira wrth eu croesi i gyfarfod a'r Tyrciaid amser byr yn ol. Yn Bulgaria ni a gawn "Tir Newydd a Ciliau Isa" mewn Cymraeg eglur. I'r un iaith y perthyn Trenova (Trenewydd') yn Servia, a Beucesci a Caracol (Cacrau yolcii), yn Wallachia, ar Ian yr un afon gref. Mor dda fuasai genym glywed fod Salmau, a hymnau, ac odlau ysprydol" o fawl i Grist yn cael eu cannogylch y Mor Asoph a'r" Mor Du, yn Servia a Bulgaria, a glan y Marmora, yn yr hen Geltaeg, a bod yr haul yn dysgleirio ar gysegroedd Cristionogol Celtaidd yn N ghaercystenyn- oblegid buont hwy yn cyrchu y ffordd yna ys llawer dydd— yn lie ar minarets temlau Islam Ond nid oes genym ond cwyno. Ni ddaw ddoe byth yn ol. Yr wyf yn mawr obeithio y bydd i'r CELT ieuane sydd newydd dd'od i'r Bala, ac sydd oddiyno yn meddwl teithio y wlad yn rhagorach na llawer o'i hynafiaid, ac y bydd yn hoff ganddo, yn ol ei fedr, i roi addysg a phob cymhelliad at dda. Os gwna ofalu at ei ddyledswydd ei hun gyda phob heddychlonrwydd, heb ymyraeth a busnes pobl eraill, a pheri tymherau a tbafod drwg, mi a'i canmolaf wrth bawb a welaf. G-an ddymuno ei lwyddiant, a'ch llwyddiant chwithau, anwyl Olygydd, a llwyddiant yr holl Geltau yn N ghymru ac yn mhob gwlad arall, y gorphwysaf, Yr eiddoch, S. LL.