Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

PWYLLGOR CYMANFA GERDDOROL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PWYLLGOR CYMANFA GERDDOROL YR ANNIBYNWYR YN MON. DAETII rhai o aelodau pwyllgor y gymanfa uchod at eu gilydd i Langefni Mai 9, er mwyn cael ychwaneg o ymdrafodaeth yn nghylch y gymanfa. Cafwyd pwyllgor llewyrchus; ond yr oedd yn ofidus genym na buasai mwy wedi dod at eu gilydd. Hyderwn y gwna y rhai oedd yn absenol gydolygu a'r hyn a benderfynwyd gan y rhai oedd yn bresenol, a chydweithredu o blaid cario y penderfyniadau i weithrediad. A gobeithiwn hefyd y gwna pawb eu goreu tuag at greu yspryd a selgerddorol drwy y sir. Pan yr ystyriom fod canu mawl i enw y Gorucliaf yn rhan mor bwysig o'i addoliad, ac yn waith ag sydd yn dwyn cymaint o fwynhad i'r meddwl dynol, y mae yn resyn na chai caniadaeth y cysegr fwy o'n meddwl a'n llafur. Penderfynwn gael cymanfa gerddorol eleni, ag y bydd ei hadgofion yn felus gan ugeiniau eto yn mken degau o flynyddoedd i ddod. Ae os cawn ein barbed, yr ydym yn sicr o'ichael felly, ond i bawb benderfynu gwneud ei oreu. Fe arloesa yr ewyllys i y ffordd i bob dyn at bob peth o'r bron. Y PENDERFYNIADAU. Llywyddwyd gan y Parch. R. R. Jones, New- bwrch. 1. Penderfynwyd fod y gymanfa i gael ei chynal yn Llanerchymedd, dydd Mawrth, Hydref 8fed, 1878. 2. Fod y tonau a ddewiswyd gyntaf i gael eu dysgu at y gymanfa, a'u bod i'w dySgu yn ol fel y maent wedi cael eu trefnu gan y Parch. E. C. Davies, Borth, oddieitlir un peth, sef nad yw y merched a'r meibion i ganu ar eu penau eu hunain, ond fod yr holl leisiau i gael eu canu yn" llawn, megis eu cyfansoddwyd yn wreiddiol. 3. Ein bod i gael y Parch. E. Stephens, Tany- marian yn arweinydd, gan obeithio y bydd yntau mor garedig a chydsynio a'n dymuniad. 4. Fod y sir i gael ei rhanu yn ddosbarthiadau, a bod pob dosbarth i ddewis rhyw un o'u plith eu hunain, neu ryw ddosbarth arall, i fod yn ymwelydd, ac fod y dosbarthiadau i gyfarfod a'u gilydd cyn y gymanfa (yr amser a'r lie i gael eu penodi eto) er mwyn ymarferiad. Rhenir y sir fel y canlyn:— 1. Dos. Caergybi; 2. Dos. Amlwch; 3. Dos. Beaumaris; 4. Dos. Llangefni. 1. Dos. Caergybi i gynwys ylleoeddcanlynol: —Caergybi (Tabernacl, a'r Tabernacl newydd), Tabor, Bodedeyrn, Llanfairneubwll, Rehoboth, Bryngwran, Llanddeusant, a Llanfachreth. 2. Dos. Amlwch i gynwys-Amlwch, Saron, Cemaes, Seion, Llanfeched, Silob, Llanerchy- medd. Hebron, a Peniel. 3. Dos. Beaumaris i gynwys—Beaumaris, Pen- traeth, Talwrn, Menai Bridge, Rhosfawr, a Moelfro. 4. Dos. Llangefni 1 gynwys-Llangefni, Rhos- ymeirch, Bodffordd, Capel Mawr, Hermon, Gwalchmai, Glanyrafon, Berea, Penymynydd, Cana, Llanfairyborth, Groeslon, Newbwrch, Dwyrain, a Brynsiencyn. T. GUUFFYDD, Ysgrifevgdd. BALA. Gymdeithas Lenyddol Gwyr Ieuainc y Blethod- istiaid.—Cynaliwyd cyfarfod cyboeddus blynydd- ol y gymdeithas uchod nos Iau, Mai 2, dan lyw- yddiaeth y Parch. Hugh Williams, M.A. Yr yin- geiswyr llwydlianus oeddynt Mri. R. Morris, Plasau; W. Evans, Post Office; J. Davies, etc Thos. Evans, Painter; J. Puelstone Jones; M. Jones; R. Jones, Pupil Teacher; E. Roberts, Grocer; a L. Lewis. Cafwyd eyfarfod gorgampus, ond gresyn na buasai yohwaneg o gefnogaeth yn cael ei roddi iddo gan yr holl enwadau yn gvffred- inol. Ymadawodd pawb wedi eu llwyr foddloni. —SYLWEDYDD. Cyfarfod Cystadleuol Eglwys Crist.-Nos Ian, Mai 2il, cynaliwyd cyfarfod hynod o ddyddorol mewn cysylltiad a Chymdeithas Ddadleuol Gwyr Ieuainc Eglwys Cfist (The Bala Church Debating Society.) Llywyddwyd yn fedrus a deheuig gan y Parch. R Jones, Rector, Llanycil. Y peth cyntafar y rhaglen oedd anerehiad gan y llywydd; ond ystyriai fod yno ddigon o ddefnyddiau cyfar- fod adeiladol a buddiol heb ei anerchiad ef, ac felly galwodd ar y beirdd i anerch y eyfarfod, a daeth Mri. Richard Roberts, Arenig St., a J. Roberts, Castle St., yn mlaen. Wedi hyny, daeth yr hen frawd arabedd Dewi Meirion i ddarllen ei feirn- iadaeth ar y penillion i Lyn Tegid," a dyfam- odd y wobr i Mr. Robert Roberts, Arenig St. Yna cafwyd cystadleuaeth mewn adrodd Joel ii. 1—12; goreu, Mr. Owen Davies. Yna cafwyd beirniad- aeth y Parch. M. Jones, Curad, ar y traethodau, "Dyledswydd Plant tung at eu Rhieni; goreu, Robert Roberts, Arenig Street. Cystadleuaeth mewn darllen difyfyr; goreu, G. Jones, Tailor, cafwyd can a chydgan, "Pistyll y Pentref," gan Mr. J. Roberts, Castle St., a'i gyf. Yn nesaf, beirniadaeth Dewi Meirion ar yr englynion i Gloch y Llan goreu, R. Roberts, Arenig St. Wedi cael cystadleuaeth mewn sillebu, yn mha un yr oedd R. Ellis yn oreu, ac R Roberts yn ail, cafwyd beirniadaeth Mr. Williams, Vicarage, Llanuwchllyn, ar y traethodau, Sacrament Swper yr Arglwydd." Gwnaed y ddwy wobr yn un,arhanwyd hi yn gyfartal rhwng Mri. John Roberts, Castle St., ac R. Ellis, Yn nesaf, cys- tadleuaeth canu, Cwymp Llewelyn; goreu, Mr. C. Evans. Beirniadaeth Cadben Anwyl, Eryl Aran, ar y pencil drawing o "Hen Eglwys enwog Llanycil; goreu, 0. Richards. Wedi hyuy., caf- wyd beirniadaeth Dewi Meirion ar y penillion i'r "Ysgol Sul; goreu Mr. J. Roberts, Castle -St.; ail, Richard Roberts, Arenig St. Yn nesaf, caf- wyd cystadleuaeth mewn areithio byrfyfyr ar yr "Eclipse;" ac mor wired a bod yr eclipse ar y lleuad, yr oedd felly ar yr ymgeiswyr hefyd, oud dyfarnwyd y wobr i Mr. Richard Roberts, Arenig St. Yn nesaf, cafwyd cystadleuaeth mewn adrodd, Ing Gethsemane goreu, Mr. Richard Roberts, Arenig St. Yna datganu pedwarawd, Mae Brenhiniaeth (allan o Gantawd Tywysog Cymru," gan Owain Alaw); goreu, Mr. Ellis Roberts, High St., a'i gyf. Wedi hyny, cafwyd beirniadaeth y Parch. T. Morgan, Llanfur, ar y traethawd, Y Llyfr Gweddi Cyffredin, a'i ragor- oldeb;" goreu, Mr. John Roberts, Castle St. Wedi canu yr Anthem Genedlaethol," a thalu y diolchiadau arferol i'r llywydd, y beirniaid, a'r ysgrifenydd llafurus, Mr. John Roberts, Castle St., terfynwyd y cyfarfod. Ar ol y cyfarfod, cyfranogodd oddeutu 40 o frodyr a chwiorydd o swper rhagorol, yr hwn a barotowyd gan Mrs. Mary Roberts, Tegid, St., a Mrs. Margaret Lewis, Frydan Road; a gallwn ddwyn tystiolaeth ei fod yn swper rhagorol, ac wedi ei drefnu yn y modd mwyaf chwaethus a deheuig. Dymunwn o galon hir oes i'r Gymdeithas rag- orol hon i gynyddu mewn nerth, ac i chwanegu ei haelodau, fel y byddo iddi ddyfod yn allu pwysig yn y dref, ac y byddo i'w dylanwad gael ei deimlo. Carasem weled yr ieuenctyd yn cymeryd mwy o ddyddordeb yn y sefydliad, gan bi fod wedi ei fwriadu yn'benaf er eu budd a'u lies hwy.-ARANFAB. Cau y tafarnau ar y Sabbath.—Ar nos Wener, y lOfed o'r mis hwn, cynaliwyd cyfarfod cyhoedd- us yn llysdy y sir, yn y dief hon, mewn unrleb a'r Gynadledd Ddirwestol a gynaliwyd yn Nolgellau yn Hydref diweddaf, o barth i enill y wlad i bleidio bill Mr. Wilson, sydd bellach er's tro o flaen y senedd, er cael cyfraith i gau y tafarndai ar y Sabbath. Llywyddwyd y cyfarfod gan 0. RICHARDS, YSW., M.D., VRONHEULOG. Cynrychiolid y Gynadledd gan y Parchn. D. Griffiths, Dolgellau, a Samuel Owen, Festiniog; a phasiwyd y penderfyniadau canlynol yn un- frydol. Cynygiwyd gan y Parch. J. Lewis, B.A., a chefnogwyd gan y Parch. D. Griffiths:- That this meeting is of opinion that the sale of intoxicating liquors on the Lord s Day is produc- tive of a large amount of drunkenness, irreligion, pauperism and crime among the people, and inasmuch as it.is enacted, that other trades shall not be persued on that day, that it is both unfair and impolitic that such rate should be sanctioned as at present by laws of the realm; that there- fore all houses licensed for the sale of the said liquors should be closed during the whole of the Lord's Day, excepting for the accommodation of Bona Fide Travellers." Cynygiwyd gan y Parch. R. Jones. Periglor, Llanycil, a chefnogwyd. gan y Parch. Samuel Owen,— 2. "That this meeting is of opinion that it would be disirable to have a house to house canvass through the whole of North Wales, with the view of ascertaining the feeling of the people in connection with Mr. Willson's Sunday Closing Bill." Cynygiwyd gan y Parch. D. Edwards, a chefn- ogwyd gan y Parch. Evan Peters,— 1 3. "That a petition in favour of Mr. Wilson's Bill for the closing of all Public Houses on the Lord's Day be signed by the Chairman on behalf of this meeting, and forwarded to S. Hol- land., Esq., M.P., for presentation to Parliament." Cafwyd cyfarfod da, er nad oedd mor lluosog ag y buasid yn dymuno. Mae pob arwyddion y cymerir y peth i fyny yn wesog yn y rhan hon o'r wlad. Cafodd yr ysgrifenydd y cydymdeimtad mwyaf gan y rhai hyny y bu yn yujweled â liwy, trwy eu cyfraniadau helaerh at yr amean. Ar ol cynyg a chtfnogi diolchgai wcu y cyfaifod i'r Cadeirydd a'r cynry-hio'wyr, dibenwyd trwy y weddi apostolaidd gan y Parch. R. Jones, Llan- ycil. MERTHYR TYDFIL. Y Pregethwr Teithiol o. hwyngwril."—Tra- ddodwyd darlith ar v testnn uchod gan y Parch. R. Evans, Troedyrhiw, yn Adulam, nos Lun, Mai 6ed. Cafwyd darlith ragorol, a chynulliad Iluosog. Cymerwyd y gadair gan Mr. W. L. Daniel. Yr oedd yr e!w oddivvrtU y ddariith i gynorthwyo eglwys Adulam, yr hon sydd dan faich trwin o ddyled. Mae yr eglwys hon, fel pob eglwys arall sydd yn y dref, yu teimlo i raudau mawr yn her- wydd marweidd-dra masnach a sefyljfa bresenol y gweithleydd yu y dref. Mae y frawdoliaeth yn Aduiam, er hyuy, er mai ychydig ydynt, yn hynod ymdrechgar, ac yn haeddu cynorthwy. Cofadail y diweddar Mr. Hosier Beynqn (Asaph Glan Tafj.—Nos Wener diweddaf, cyfarfu y pwyllgor oedd wedi ymgymeryd a'r gorchwyl o wneud i fyny SWill o anan i gael cofadail i'r cerddor gahuog a'r Cristion gloew Mr. Rosser Beynon. Cynaliwyd eisteddfod a chynghordll yn Moithyr er ys yciiydig amser yn ol i'r perwyl yma, ac y mae gan y trysorydd 30 gini mewn Haw oddiar hyny. Gwahoddwyd rhyw chwech o sculptors i anfon tenders i fewn i'r pwyllgor erbyu nos Wener diweddaf, ac ymddengys" mai tender Mr. George Morgan, Brecon Road, oedd y mwyaf derbyniol ganddynt; ac felly, y mae ef i ddechreu ar y gwaith heb oedi. Prin y meddyliais y bu- asai cyfeillion yr ymadawedig, yn nglyn a meib y gan yn Merthyr a Dowlais, yn ^mlbudloni ar mor lleied o swm er cael cofadail i un oedd wedi gwneud cymaint dros ganiadaeth yn mhob ystyr, yn neillduol caniadaeth y cysegr, yn y cymydog- aethau hyn; ond dichon fod modd cyfrif am hyn, sef fod sefyllfa pethau mewn ystyr fasnachol mor isel yn y lie er ys cymaint o amser. Credwn fod y pwyllgor wedi gwneud yr oil a allent yn ngwyn- eb yr aingylchiadau. Darlleniadau Geiniog Penyrincline, ger Merthyr. —Cynaliwyd un o'r eyfarfoclydd hyn nos Lun, Mai 6ed, yn ysgoldý Penyrincline, pryd y cymer- wycl y gadair gan Mr. J. R. Davies, Glebeland, Merthyr. Wedi cael anerchiad byr ac i bwrpas gan y cadeirydd, galwyd ar y cauturion a'r adrodd- wyr yn ol y programme. Cafwyd cyfarfod rhag- orol drwyddo. Wedi talu diolciigarwch i'r cad- eirydd, aeth pawb adref wedi eu liwyr foddloni. Cangen o Ysgol Sabhathol Soar, Merthyr, yw Ysgol Penyrincline, ac ymddengys ei bod yn myned yn mlaen yn hynod lwyddianus o dan ofal rhyw nifer o athrawon sydd yn myned i fyny yno bob Sabbath o Soar. Y mae y brawd ieuanc William Davies yn haeddu canmoliaeth am ei ymdrech a'i lafur gyda'r canu yn y lie. Etholiad Uchel-Gionstabl.—Dydd Llun diwedd- af, yn yr Hedd-lys, cyflwynodd Mr. T. J. Dyke, yr Uchel-Gwnstabl am y llwyddyn ddiweddaf, nifer o foneddigion i sylw y faine fel rhai cymwys i wasanaethu y swydd uchod am y flwyddyn ddyfodol. Penodwyd Mr. Williams, Taff Vale Brewery, i'r swydd anrhydeddua. GOHEBYDD. GLANDWR, PENFRO, A'R AMGYLCHOEDD. Cymanfa Ysgolion—Dydd Mercher, yr 8fed cyftsol, cynaliodd Ysgolion Sabbathol Glandwr, Hebron, Nebo, a Moriah, eu cymanfa Ysgolion, yn Nebo. Trefn y gymanfa ydoedd fel y canlyn: —Canu ton gynulleidfaol, gan yr holl gynulltidfa. Yna adroddodd Ysgol Nebo Esaiah xxxv. A dechreuodd y Parch. 0. R Owen, Glandwr, drwy weddi. Canodd Nebo Many send the skies," a "Galargan y Gohebydd," (gau Parrv), ac adrodd- odd benod o holwyddoreg Dr. Rees, Caer. Holwyd gan y Parch. J. Davies, Moriah. Ysgol Glandwr ydoedd y nesaf; a chanodd "Deuwch" atat" fi," ac adroddodd Mat. xvi. Holwyd gan y Parch. S. Evans, Hebron. Y nesaf peth ydoedd, cael haner awr o seibiant, i fwynhau awel iach y lie, ac ymborth danteithiol. Yn y prydnawn, canodd Hebron, "Mor fawr ydyw'r dyfnder." ac adroddodd Phil. ii. Holwyd gan y Parch. 0. R. Owen, Glandwr. Yna canodd Moriah, Mor hawddgar yw dy bebyll," ac ad- roddodd Exodus xx. Holwyd gan y Parch. S. Evans, Hebron. Oanwyd too gynulleidfaol gan yr holl dorf; a therfynwyd gan y Parch. J. Davies, Moriah. Cafwyd hin ddymuuol iawn, a chymanfa bleserus. O'm rhan fy hun, carwn gael mwy o ganu yn y gymanfa. Credwyf y dylai pob Ysgol gael canu dwy Anthem o leiaf— un cyn ac wedi adrodd. Hyderaf mai felly y bydd ym y dyfodol. CfiiiKoa.