Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

iclrÎDb,tg,î1t. Mai 11, yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Llanuwchllyn, gan weinidog y lie, David Jones, Tyceryg, Waun, a Miss Ellen Thomas, Nantllyn, Llanuwchllyn, ger Bala. Mai 4, yn Swyddfa y Cofrestrydd, Bala, Mr. H. Davies, Maesgadfa, a Miss A. Jones, Llan- gWlll, ger Bala. Mai 4, yn Swyddfa y Cofrestrydd, Bala, Mr. J. Roberts, Tai'rfelin, a Miss M. Evans, Hafod-yr- esgob Isaf, ger y Bala. Mai 15, yn Eglwys Llanycil, gan y Rector, Mr. E. Ellis, Bull Hotel, Bala, a Miss J. Roberts, White Lion Hotel, Bala. Mai 10, yn nghapel y Methodistiaid, Bala, gan y Parch. E. Peters, Mr. J. Jones, Tyrnawr, ger y Ba)a, a Miss E. Evans, Brynbedwog. Mai 15, yn nghapel yr Amiibynwyr, Bala, gan y Parch. Proff. M. D Jones, Mr. E. Evans, Pant- yffynon, a Miss A. Williams, N. P. Bank, Bala, gynt o Ddolgellau. llliirliiolitctlrau. Mai 6, yn 32 ml. oed, Mrs. F. A. Jones, priod Mr. Jones, Dolwen, Llanerfyl. Ei hafiechyd ydoedd water on the brain. Dyoddefodd ychydig ddyddiau o boenau arteithiol. Bhvyddyn i'r .dyddiau y bu farw fu hyd eu bywyd priodasol. Cadawodd eneth fechan ar ol, gyda phriod galar- ius. Yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr yn Beulah. "Ei haul a fachludodd a hi eto yn ddydd.—"Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef."—'• Mor anchwyliadwy yw ei farnau ef, a'i ffyrdd mor anolrheiniadwy ydynt." Y dyd.ù Iau canlynol, ymgasglodd torf fawr i gludo yr hyn oedd farwol i hen fynwent Erfyl. Gwein- yddwyd wrth y ty gan y brodyr 0. Evans, Foel, a W. Roberts, Penybontfawr, yn nodedig o deimladwy ac elfeitliiol, ac yn y Llan gan Offeir- iad y Plwyf. Wrth edrych ar y galarwyr yn cefnu ar y beddrod y naill ar ol y Hall, sibrydai geiriau Paxton Hood yn ein clustiau. "Farewell, but not an eternal farewell." Mi a'i hadgy- fodaf yn y dydd diweddaf." Ebrill 6, yn 69 -ml. oed, Margaret Thomas, priod Mr. Josuah Thomas, 'Rallt, plwyf Llan- newydd, ger Caerfyrddin. Claddwyd eigweddill- ion marwol yn meddrod y teulu, yn mynwent Eglwys y Plwyf uchod, Ebrill 10. Cynhaliwyd gwasanaeth wrth y ty cyn cychwyn gan y Parch. W. Thomas, Bwlcbnewydd, lie y bu yr ymad- awedig yn aelod diargyhoedd uwchlaw 45 o flynyddau. Bu yn afiach am y 13 mlynedd diweddaf o'i hoes.. Cafodd ei tharo gan y parlys cf,ir wythnos cyn ei marwolaeth, yr hyn fu yn ang^u iddi. Dyj^unir ar i'r Drych a'r TVasg gofnodi yr uchod er tnwyn ei dau fab, Thomas, a Henry M. Thomas, a<? eraill o'r perthynasau sydd yn y Taleithiau JTnedig. Marwolaeth a Chladdedigaeth Captain John D. Lloyd, etifeJ4 Allt-yr-Odyn, Llandysnl. Bu farw y boneddv,Tr ieuanc hwn ar y dydd laf o Fai, 1878, yn ei balas ei hun, yn 28 oed. Er's tua blwyddyn yn ol y daeth yina i ym- sefydlu. Tebyg fod liawer o'n darllenwyr yn cofio'r helynt yn nghylch Jjlwynrhydowen pan y trowyd y gynulleicjfa allan o'i haddoldy. Ond bernir yn gyffredin mai nid efe yn bersonol fu a. Haw yn y gwaith. Beth bynag am hyny, dyma fe wedi cael ei symud pan yn gymharol ieuanc. Colled fawr i gymydogaeth yw colli boneddwr o gyfoeth a dylanwad—dyn yn rhanu eiarian yn ei ardal a'i gymydogaeth ei hun. Ni chawsom fawr o braiof ar y boneddwr ieuanc hwn, gan na fu yn aros yma ond ychydig. Yr oedd wedi gwario mwy na haner ei ystad cyn hyny, a hyny mae yn ddigon tebyg am bethau hollol ddiles; ac mae yn anhawdd iawn gwybod ar hyn 0 bryd. eiddo pwy fydd y gweddill o honi. Nid oes un etifedd ar ei ol: gadawodd un chwaer; ond nid oes sicrwydd eto a gaiff hi feddianu dim o honi ai peidio. Tebyg ei fod wedi rhedeg yn rhy bell i afael gwyr Llundain, gan mai ei oruchwyliwr (un o honynt) sydd yma yn trefnu pob peth. Trueni fod hen deulu re n' parchns Allt-yr-Odyn yn darfod, pa rai sydd wedi bod yn enwog am eu haelioni a'u dylanwad o blaid llesiant cyffreciinol yr ardal. Claddwyd efy dydd Mercher canlynol yn Mangor-ar-deifi, ben gladdfa'r teulu. TJN. O'B ABDAL..

fiarbbouiiwtlt.

Advertising