Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

J. R. A " W. N."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

J. R. A W. N." [GWYDDIR yn dda, nidyn unig gan frawdoliaeth plaid" y Tyst, ond gan y rhan fwyaf o ddar- llenwyr y CELT a'r CRONICL, am genfigen newydd W. N." yn erbyn y CRONICL a'i Olygydd. 'Un o bechodau mawr diweddaraf y CRONICL ydyw ei fod wedi gwneud ei oreu yn rhydd a fifyddlawn i gynoithwyo y CELT ar adeg ei gychwyniad, ac yr oedd ei wasanaeth ar y pryd yn un amserol, ac o gryn werth. Nid oes dim rhyw lawer o fisoedd er pan y darfu i W. N." roddi lIe uchel, ie, uchel iawn, i S. R. a J. R. yn ei Oriel enwog. Darfu iddo eu harddliwio yn ei ddulliau goreu. Yr oedd dipyn yn rhyfedd iddo eu lliwio mor gryf, ac mor brydferth, tra yr oedd yn gwybod eu bod mor ddrygionus. Ond newidiodd "W. N." ei liwiau a'i frwshiau ar ol iddo symud o'r Groeswen i lwyni Liverpool; eithr y mae egwyddor lywodraethol ei galon yr un o hyd. Gan mai ofer ydyw i J. R. gynyg na dysgwyl am ddim tegwck yn Swyddfa Tyst enwad W. N. a chan fod J. R. wedi bod mor ffyddlawn ei gynorthwyon i'r CELT, y mae yn deg iddo gael dweyd yehydig eiriau o hunan-amddiffyniad drwy gyfrwng y CELT. Y mae cenfigen a llid "W. N." mor boeth yn erbyn y CELT ag ydyw yn erbyn y CRONICL. Cyhoeddodd llwyth "Cell gudd y Tyst yr enllibiau bryntrf am gwmni y CELT ar adeg ei gychwyniad. Er eu bod yn rhai budron, yr oeddid am iddynt gael eu gollwng yn ddisylw i ebargoiiant, a chant fyned i dir angof, os na bydd i ddoniau Le'rpwl," orfodi cwmni y CELT a Gol. y CBONICL, i sefyll fel hunan- amdditlynwyr. Y mae cwmni y CELT wedi gwneud eu goreu er cael tegwch, a tbrwy hyny feithrin brawdgarwch a hwylysu cydweith- rediad; ond os bydd raid iddynt yrnladd am degwch, nid oes arnynt ddim o arswyd W. N." a'i frawdoliaeth. Y mae W. N." a'i gyf. o Le'r- pwl, Merthyr, a manau eraill, yn diwyd gyd-gyn- llwyn i geisio merthyru y CELT yn gystal a'r Cronicl. Gwnaeth y Cronicl ei oreu i hwylio cychwyniad, ac i hwylysu cerddediad y CELT, ac nid teg fyddai i'r CELT droi ei gefn, a myned o'r tu arall heibio, pan y mae "W. N." a'i blaid yn ymosod ar y Cronicl. Ymffrostia W. N." fod ei "drinraethau brawdol a boneddigaidd, gonest ac anmhleidiol, rhyddfrydig a duwiolfrydig ef wedi gwneuthur llawer iawn, yn y misoedd diweddaf, tuag at "buro" y Gronicl. Diolch i oludoedd grasol rhagluniaeth fawr y nefoedd am godi brawd mor ddoeth ac mor dduwiol, mor goeth ae mor eirwir, mor ddibwffio a distwffio, mor wylaidd ac mor gariadlawn, mor dawel ddi- nwyd ei ysbryd, ac mor dyner bur ei galon, i buro cyhoeddiadau a sefydliadau yr ENWAD." Llwyddiant i'w lafur dihafal fel gweinidog mawr etholedig, ac fel gwas bach hunan-ymroddedig gweinyddiaeth y dysgyblu a'r cosbi. Buasai yn hawdd iawn i J. R. fanylu a helaethu, ond dyma, mewn yehydig eiriau, ei hunan-amddiffyniad yn erbyn camliwiadau a difriaeth ei gyhuddwr. Yr ydys wedi dyoddef wythnosau dan athrod brawd- oliaeth y"GellGudd;" ond y mae yn groes i bob iawnder i "ddyoddef fellleidr neu lofrudd" dan gamddarluniadau cenfigen.—GOL.] GEIRWIREDD A GONESTRWYDD. Y mae W. N." ac eraill yn dal i ysgrifenu yr hyn a welant yn dda am J. R. a'r Cronicl; ond y mae awdurdodau y Tyst wedi gwrthod fy ysgrifau i, ac nid af ar eu gofyn mwy. Yn y Tyst am Mai 17eg, y mae "W. N." yn gwadu ei waith yn bygwth yr Young Wales arnaf ar y ffordd yn Mon. Gan nad oedd yno neb ond ein dau, nid oes ond i bob un sefyll ar ei gymeriad am onest- rwydd, a gadael i'r mater gael ei benderfynu yn y dydd mawr. Cyhudda W. N." fi o newid ysgrifau. Addefaf fy mod wedi ceisio gwneud rhai ysgrifau yn fyr- ach, eglurach, ac esmwythach; ac nid oes Gol. yn y deyrnas heb wneud hyny. Anaml y byddaf yn derbyn ysgrif heb fod llythyr cyfrinachol yn dymuno am i mi wneud hyn. Y mae genyf yn fy meddiant lawer o lythyrau yn cyfeirio at W. N."—rhai o Le'rpwl; ac ni fynwn eu cyhoeddi heb esmwythau llawer arnynt. Byddaf yn gadael meddyliau allan heb ganiatad yr awdwyr, am y tybiwyf eu bod yn rhy chwerw; ac nid wyf yn cofio am neb yn cwyno eithr ni byddaf yn chwanegu meddyliau, oddieithr er egluro, heb ganiatad yr .awdwr. Rhydd "W. N." yn y Tyst engraifft o'm gwaith yn chwanegu. Yr oeddwn wedi clywed am dani er's hir amser, a bod ymorfoleddu mawr uwch ei phen; ae y mae yn dda genyf ei gweled. Awdwr y llythyr yw Mr. Humphrey Griffitbs- un o'm cymydogion agosaf. Gwr gwreiddiol, llawn synwyr ac athrylith; ond heb gael manteis- ion pan yn ieuanc i ddysgu bod mor gyfarwydd IS ysgrifenu, ey fansodcU, a llytbyrenu, Dyma ei dystiolaeth ef ei hun am y llythyr y cyfeiria W. N." ato :— "ANWYL SYR,—Fy meddyliau i am Orotiicl Canol y Mis sydd yn y llythyr olaf. Ysgrifenais y cyntaf fel y medrwn a'm llaw fy hun. Estynais ef i J. R. pan oeddyn fy nh$yn treulio prydnawn, a dywedais y buasai yn dda genyf grybwyll am argraffwaith rhagorol llanciauFfestiniog, a'r ysgrif ar 'Ysgolion Merched,' a gair rhagor am gan yr 'Hen wr a'r byd yn canu ffarwel.' Da chwi, J. R., chwaneg- wch yehydig eiriau am y pethau hyny. Rhoddaf finau fy euw wrtho; ac felly y bu. Anfonwn ami ddarn i'r Cronicl pe cawn ryw un i roddi fy meddyliau ar bapyr. Mount, Conwy. HUMPHREY GRIFFITHS." Nid wyf yn sicr pa un ai myfi neu arall gopiodd ysgrif olaf Mr. Griffiths; ond yr oedd ei danfon i'r swyddfa ar du cefn ei lawysgrif ef yn engraifft ae yn brawf o onestrwydd. Y mae bod" W. N." wedi medru cael yr hen ysgrif fechan hono o swyddfa yr argraffydd, a'i fod wedi ei chadw mor ofalus i'w dangos i'w gyfeillion, yn dipyn o gymorth i adnabod dirgelion ei ysbryd, a nod- weddau ei gymeriad. J. R. Trogwy a'r Gollegfa yn ein nesaf.

HEBRON, LLEYN.