Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
iPtiflilitSittt. <Mai 9, yn Swyddfa y Cofrestrydd, Porthmadog, Mr. H. frtiiry, Tremftdog, A Miss J. Parry, Penlan Bach, Pwllheli. Mai 18, yn Beulah, Buallt, gan y Parch. D. A. Griffiths, y gweinidog, Mr. E. Price, olwynwr, Trefau, a Miss J. Jones, Argoed-y ddau ger y lie uchod. Yr ydym yn edmygu cref- yddwyr fel yr uchod yn priodi yn eu lleoedd o addoliad, ac nid fel plantos y dyddiau hyn yn rhedeg tua swyddfa y cyf- reithiwr, fel pe b'ai ef wedi ordeinio priodas.—J. A. D. Jtotootetfratt. Mai 1. Mrs. Edwards, priod Mr. David Edwards, Nantcaeisaf, yn 82 mlwydd oed. 0 her- wydd ei bod yn un mor barod ei chymwynas, yr oedd yn un a fawr gerid gan ei holl gymydogion. Ar ol iechyd da hyd ei hoes, daeth angau ati, drwy fysedd ysol y cancer ar ochr ei ffroen, ym- ledoedd cyn y diwedd dros ei boch, ei llygaid, a'i thalcen. Cafodd gladdedigaeth barchus yn myn- went Capel Siloh, ger Llanfaircaereinion, y dydd Linn canlynol, lie yr hunai amryw oanwyliaid iddi yn flaenorol. Heddwch i'w llwch. Mai 8, Charles Hughes, Pensingrug, Cellan, yn 24 mlwydd oed, ar ol hir gystudd. Claddwyd ef y dydd Mawrth canlynol yn mynwent Cellan. Hebryngwyd ef gan dyrfa luosog.-T. R., Drovers. MARWOLAETH ACHLADDEDIGAETH MRS. WATKINS (FOXES, GYNT.) 'Tarawyd trigolion Llanfaircaereinion a'r am- igylchoedd, boreu dydd Sadwrn yr llegcyfisol, a •sydynrwydd a dychryn taranfollt, drwy glywed :am farwolaeth sydyn Mrs. Watkins. Yr oedd yn (ei chynefinol iechyd boreu dydd Llun, ac yn eynorthwyo yn nhy ei mab, Mr. Edwin Hughes, yn y Foxes Hotel. Ond tarawyd hi yn sydyn gan an,v' wyldeb. Cyrchwyd meddygon, a dywedwyd ei bod 112 dioddef oddiwrth "Congestion of the brains.1' ^?u mewn poenau dirdynol y dyddiau cyntaf] ond nid oedd yn alluog i ymgan gair y dyddiau olaf. Ychydig o obaith a ddaliwyd am ei hadferiad, o'r awr y daeth y meddyg i'w golwg, hyd y boreu yr rhodctodd angeu y diffoddydd ar ein holl obeithion. Yr oedd Mrs. Watkins yn un o'r personau mwyaf adnabyddus, caredig a da ar lawer ystyr, ag oedd yn yr holl wlad yma; a dyma y rhesymau yn ddiau iddi hi gael y cladd- edigaeth lluosocaf ag yr oedd neb yn cofio yn Eglwys Mair yn y lie. Yr oedd yr Eglwys yn ]jaWD)—gwelais yno dri gweiDidog Ymneillduol, dau offeiriad, prif foceddigion y gymydogaeth, holl fasnachwyr y dref, lluaws mawr o dlodion, a'r dagrau ar eu gruddiau, a'r rheswm o hyny yn dra gwybyddus i bawb. Darllenodd y Parch. D. O. Jones, Meifod, ran o'r Gair, a gweddiodd y Parch. T. J. Humphreys, wrth y ty, a gwnaed dau' eithriad yn y gwasanaeth vn yr Eglwys ac wrth lany bedd, sef canu emyn. Genedigol oedd Mrs. Watkins, o'r Cock, Llan- brynmair. Miss Thomas ydoedd y pryd hyny. Priododd a Mr. Hughes y Foxes Hotel, Llanfair, ac yn mhen blynyidau claddodd Mr. Hughes, a phriododd a Mr. Thomas Watkins, Llanfair. Yr oedd wedi retirio yn awr o'r Hotel, ac yn byw yn un o'r tai prydferthaf yn LJa ifair, wedi iddynt eu hunain ei adeiladu. Ondgyda bod pob plyfyn yn eile yn eu ty cysurus, wele notice to quit gan angeu, gan adael priod ac un plentyn bychan, heblaw ei phlant o'i gwr cyntaf, i alaru ar ei hoi, pan. nad oedd hiwedi cyrhaeddond 48 ml. oed. Yr oedd Mrs. Watkins wedi aelodi ei hun gyda y Wesleyaid er pan y daeth i Llanfair, ond yr oedd yn meddu parch diwywiant. i Robertses o Lanbrynmair er mwyn yr amser gynt. Teimla y Wesleyaid yn Llanfair golled fawr ar ei hoi. Yr oedd yn hynod haelfrydig at yr achos. Ar- ferai roi te i'r Ysgol Sul unwaith bob blwyddyn., Yr oedd yn rheolaidd yn myned allan i gasglu at y genadaeth gyda gwraig y gweinidog er's llawer o flynyddoedd ac nid oedd neb mwy eu ffyddlon- deb a'u llwyddiant yn casglu at y capel newydd bwriadedig na hi. Yr oedd holl Eglwyswyr y wlad yma, o'r offeiriad i lawr, yn rhoi eu haur yn haelionus iddi hi. Bydd yn chwith i ni ar ei hoi. Nodded Duw dros ei phriod a'i phlant. Huned hithau yn dawel byd ganiad yr udgorn.—GYFAILL. Jlai 15, Mrs. M. Edwards, Cambrian House, Llanwrtyd, yn 88 mI. oed. Claddwyd ei rhan farwol y Sadwrn camlynot wrth gapel Salim, claddfa ei theulti. Pregethwyd gan- y Parch Nicholas, Bontnewydd-ar-wyl. Gadawodd briod a 5 o blant mewn colled a galar. Cafodd hir hychdod; treuliodd ei Berth a'i chyfansoddiad ar ffurf y darfodedigaetli, hen elyn twyllodrus i laweroedd. Adwaenem hi er yn blentyn, a gallwn dyatio yn ddiweniaeth fod hanfodion ac elfenau gwraig rinweddol yn ddadblygedig yn ei chymeriad, megys doethineb. pwyll, sirioldeb, yn ddiabsen, yn ddarbodus dros ei theulu, gair da gan ei chydnabod, &c., a chan y gwirionedd ei hnn. Yr oedd yn aelod Bedyddwyr yn y lie. Der- byniodd garedigrwydd mawr gan gyfeillion y tu allan i'w thealu. Ni chollant eu gwobr. Amddiffyn dwyfol fyddo dros ei phlant a'i phriod. Mae hi uwch cyrhaedd saeth un gelyn mwy. Yn iachboedbellach i'r byd—anwadal, W'i wedi dychwelyd, I fldn oer f edd y ddaear fud A'r eifen iyw i'r eilfyd. J. ANTWN DAVIES Mai 14, yn 75 ml, oed, David Thomas. Station Terrace, Llanbedr. Adhabyddid ef yn gyflredin wrth yr enw Dafydd Glover. Bu farw ar.ol byr gystudd, a chafodd ei weddillion eu hebrwng gan dyrfa luosog y dydd Sadwrn oanlynol i Mai 10, yn Beuremouth, Mrs. Jones, mamaeth ffydpHawu a chydymaith yn nheulu y diweddar J. W. Harden, Yaw., Bamwr yn Llysoedd y Man-ddyledion am 40 ml. Mae ei fiyddlondeb a'i gonestrwydd wedi gadael coffadwriaeth dy- munol ar ei hoi. Yr oedd Mrs. Jones yn unig chwaer i Gwilym Gwenffrwd.
PENILLION
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENILLION Ar ol Edward, mab Mr. a Mrs. E. Davies, Builder, Oak street, Croesyswallt, yr hwn a fu farw Tachwedd 21ain, 1877, yn chwech mlwydd oed. O! fy awen cwyd dy edyn, I Croesoswallt dos am dro, Yn Oak street cei wel'd arwyddion Fod un anwyl yn y gro; Ocheneidiau'r tad hiraethlawn, Dagrau'r fam a'i gwelw wedd, Mewn mudandod sy'n Ilefaru:- Edward bach sydd yn ei fedd." Mynych iawn y sylweddolir Geiriau'r Beibl am ein Ior, .1 Fod ei lwybrau yn y dyfroedd Cryf, a'i ffyrdd ef yn y mdr Pa'm oedd raid i'r bachgen yma Mor foreuol rodio glyn Cysgod angau ? sydd ddirgelwch, Ond" cawn wybod ar 01 hyn." Dyma'r Isboniad fedraf rodcli:- Rhy nefolaidd ydoedd ef, Aros yma'n hwy, ac felly, Fe'i trawsblanwyd yn y nef; Os diwreiddiwyd y tlws rosyn Dyfai'n ngardd y teulu byn, Planwyd ef mewn nefol hafdy, Fry yn ngwlad yr engyl gwyn. Am laweroedd o ieuenetyd Yn ein gwlad, difrifol ffaith, Yw eu bod yn foreu arfer Geiriau sydd yn warth i'n iaith; Ond o enau'r bachgen yma Ni ddaeth geiriau cas erioed, Duwiolfrydedd lanwai'i galon, Er nad oedd ond chwech mlwydd oed. Rhyw ychydig cyn ei farw D'wedai wrth ei fam a'i dad, Ei fod am gael arddel enw Iesu Grist ei Geidwad mad," Ac aelodwyd ef mewn eglwys Orfoleddus, eglwys iach, Nid mewn eglwys filwriaethus Yr aelodwyd Edward bach. Chwi rieni sydd mewn galar Ar ol colli'ch plentyn mad, Peidiwch wylo, sychwch ddagrau, Y mae Edward mewn gwell gwlad, 0 fy lor! bydd nodded iddynt, Yn neiliduol cofia'rfam, Ac addasa hwynt i'r nefoedd At eu plentyn bach dinam. Coleg y Bala. D. GWENFFRWD EVANS. "YR IESU AR LAN Y FFYNON." BUDDUGOL YN EHYMNEY, CALAN 1878. CANAAN anwyl, cysegredig Yw ei hen ffynhonau hi, Gwlad disgyniad bendigedig, Cusan nef i'n daear ni, Gwlad bu Ffynon fawr y Bywyd," Ar lan ffynon Jacob gynt, Gwlad bu anadliadau engyl, Yn santeiddio naws ei gwynt; Edrycher acw ar y dyfroedd gloewon, Dan gysgod Iesu'n berwi yn y ffynon. Teimlai'r wraig rhyw nefol swynion Yn ei eiriau denol Ef, Ac o'r braidd na wybu'r ffynon, Mai efe oedd ffynon nef Pan ofynai am ei dyfroedd, Braidd nad oedd ei dwfr yn fyw, Eto'r wraig ni adnabyddai DDUW yn ddyn a dyn yn DDUW Tra'i henaid yn ei syched bron a threngu, Ni chlywai swn y dyfroedd yn yr Iesu. Issu anwyl, yn ei flinder, Caed ei eiriau fel y gwin, Yn ei syched, mewn addfwynder Tanoddddafnonefolrin Fe] dros ymyl yr Addewid l'r Samariadyddes hon, A dechreuodd hwnw darddu Drwy Samaria'n .dèm .ar ¿tõn, A tharddu byth yn hanes meibion dynion, Elioof o'r Iesu mwyn ar lan y Ffynon." t
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
HYSBYSIADAU. CYMANFA SIR GAERFYRDDIN. Cyneliryr uchod eleni yn Llanymddyfri ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Mai 28ain a'r 29ain. Cynadledd y dydd cyntaf am 11-30. Uno y ddaU Gyfundeb, neu eu rhanu yn fwy cyfartal, yn ngbyda phethau cyffredin eraill. i fod o dan sylw. Am 2-30, Cyfarfod Cyffredinol, pryd y traddodir anerchiadau byrion gan y gweicidogion ac eraill oddiar Rhuf xii. 11. Yn yr hwyr a thranoeth, y gwasanaeth yn ol yr amser a'r drefn arferol. Bydd yn dda genym weled pawb a allant o'r gwahanol eglwysi, yn gystal a'r gweinidogion, yn bresenol ar yr achlysur. W. GIBBON. Y GYMANFA DDE-ORLLEW- INOL. CYNELIR yr uchod yn Ffynonbedr, Meh. 5ed C a'r 6ed. Cynaledd am lleg y 5ed. Cad- eirydd, Parch. J. Davies, Moriah. Pregethu am 2 a 6; a'r ail ddydd 7, 10, 2, 6. Bydd cerbydau yn St. Clears i gyfarfod a'r tren 9 ddydd Mercher. Bydd cerhydau yn St. Conwil i gwrdd a'r tren 9.5 er mantais i weinidogion sir Aberteifi. Frodyr, dewcb yn llu. Anfonwch air cyn hyny. E. JONES. UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG, 1878. CYNELIR Cyfarfodvdd Blynyddol yr Undeb C eleni yn LLANDILO, ar y dyddiau Mawrth, Mercher, a Iau, Awst 6, 7, a'r 8. Rhoddwn wahoddiad calonog i weinidogion a lleygwyr ein henwad i'r wylhon. Taer erfyniwn ar bawb fwriadant ddyfod a chael lie i letya, ein hysbysu cyn neu ar yr 20fed o Orphenaf. Nid yw y Pwyllgor Lleol yn addaw darparu llety ar gyfer neb a esgeulusant wneud hyn. Dros y Pwyllgor Lleol, W. R. DAVIES, Gweinidog, Mount Pleas- ant Villa, Nr. Llandilo. T. POWELL, Carreg-Cenen House, Llan- dilo, Ysgrifenydd. aYMANFA ANNIBYNWYR MEIRION, 1878. GYNELIR y Gymanfa hon eleni yn NHRAWS- FTNYDD, Iau a Gwener, Mehefin 13eg a'r 14eg, pryd y pregethir gan y Parchn. R. Williams (Hwfa Mon); E. H. Evans, Caernarfon; D. S. Davies, Bangor; H. Jones, Birkenhead, ac eraill. Cynelir y gynhadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf, a bydd yn dda genym weled yn bresenol gymaint ag a all o'r frawdoliaeth. IECHYD rBfiiWBU iiMii.rm-fjiin Mae y Feddyginiaeth Deuluol hon Vw rhestru yn •mMith angenrhidiau mwyaf anhebyorol bywyd. Mae y Pelenau enwog hyn yn puro'r gwaed, ac y maent yn gweithredu yn effeithiol iawn, ond yn dyneraryr Iau, Ystumog, a'r Lwynau, Hefyd yr YMYSGAROEDD, gan ddwyn i drefn. a rhoddi nerth i'r FFYNONELLAU HYN 0 FYWYD. Cymeradwyir hwynt yn hyderus yn mhob amgylchiad ag y mae y cyfansoddiad wedi ei ddyrysu, neu ei wanhau, gan nad beth fydd yr achos. Maent yn feddyginiaeth effeithiol i ddol- uriau Merched o bob oedran, ac fel MEDDYG- INIAETH GYFFREDINOL Y TEULU, nid oes ei rhagorach. Mae ei effeithiau treiddiol a gwellhaol yn lldna- byddus drwy'r byd. I wellhau Coosau drwg, Bronau drwg, Hen Ddoluriau, Briwiau, a Chorn- wydydd, y mae yn feddyginiaeth ddifeth. Os rhwbir ef yn effeithiol ar y gwddf a'r frest, fel halltu cig, y mae yn gwellhau DOLUR o WD DF, Diphtheria, Bronchitis, Peswch, Anwyd, ac hyd yn nod y FOGFA. Nid ydys yn gwybod ei fod un amser yn methu gwellhau Chwydd Chwarenol, Casgl- iadau, Piles, Fistula, Y Droedwst a'r Gymalwst, A phob math o AFIECHYD AR Y CROEN. ¡. Mae y Pelenau a'r Eli yncael eu ywerlhu gan boi ywcrilwyr ModdionMeddyQiniaeth drw/ir byd,