Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
I.i Œ 111tiU9shtb.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
I. i Œ 111tiU9shtb. Nodiadau gany Gol. 3 Dyledswydd Rhyddfrydwyr-Oyfandir Affrica 4 lawn ymarferiad a moddion moesol—Arian Tramor a Seisnig 5 Y. Golofn Ddirwestol 6 Ebenezer—Aberdare—Ffestiniog 7 PKIF ERTHYGL- Y Rhyfel—O'mHawyren.8 Newyddion Cymreig 9 Y Pulpud, Y Llwyfan, Y Wasg-Cymanfa Undebol Brynmawr, Blaina, a Llanelli 10 Mertbyr-Penygroes-Eistedclfod Llanbryn- mair.11 Grweithwyr Le'rpwl a Rbyfel-Oyfarfodydc1 Mis Mai 12 Birkenhead—Bangor—Rhesycae 13 Priodasau, Marwolaethau — Barddoniaeth— Hysbysiadau .14
gan 12 dkd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
gan 12 dkd. BHYDDID Y W.A.sG.-Argoel o niwed i ryddid gwladol a chrefyddol, ydyw fod llywodraeth gref a duwiolfrydig Germani yn trefnu mesurau er cyfyngu rhyddid y wasg, ac er llyfetheirio rhyddymresymiad mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Y mae perygl i lywodraethau eraill geisio dilyn siampl, a rhodio yn flordd Germani; ond gobeithio ei bod yn rhy bell o'r dydd iddynt allu llwyddo. Cynllun a chynyg- iad ydyw i geisio gwasgu y byd yn ei ol i gaethiwed a gorthrwm yr oesau tywyll; ac y mae yn anbawdd iawn dirnad paham y mae y Tywysog Bismark, ar ol iddo eangu cymaint ar gylch y bleidlais, yn gwrth-weithio ei gynlluniau ei hunan, drwy geisio nychu nerth a dylanwad rhydd-ymresyiuiad. Yr ydym yn credu fod y wasg weithiau, drwy ei chamddar- luniadau a'i chroesesboniadau, yn achosi llawer o ddyryswch ac o annhegwch ond er y cyfan, gwell genym iddi gael bod yn rhydd, na chael ei llyffetheirio gan Bis- markiaid a Beaconsneldiaid yr oes.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYNGES RHYFEL NEWYDD.—Y mae y Czarewitch, sef etifedd gorsedd Rwssia, npwydd agor trysorfa yn ei balas ymer- odrol yn St. Petersburg; ac y mae yn erfyn yn daer a doniol am gyfraniadau (gwir- fochlol! !) er galluogi llywodraeth llwssia i brynu neu adeiladu llynges ryfel—gwib- longau rhyfel, i wyllt bwylio ar hyd ac ar led y moroedd, er dyrysu eu rbydd-far- siandiaeth. Gobeithio y daw yr amser yn fuan, pan y goddefir i ryfel-longau y byd gyd-huno yn dawel yn ngwaelodion y mor, yn lie noflo yn feiddgar ar wyneb y tonau; ond gobeithio hefyd y bydd i drugaredd, os bydd yn ei gallu, achub y mor-lywyddiod a'u magnelwyr a'a torped- o wyr o lynclyn colledigaeth. PAGANIAID LLUNDAIN.-Adroddir fod dwy fil a haner, (2500), o bobl yn byw mewn cylch bychan o dai yn nghwr de- heuol Llundain; ac nad oes ond rhyw chwech ugain a deg, neu ryw un o bob ugain o honynt, yn arfer cyrchu i unrhyw Ie o addoliad. Y mae mewn parth arall o Lundain, felin ýd fawr lie y mae cant o weithwyr, ac nad oes ond pump o'r cant yn myned i addoli. Petli rhyfedd na fedrid cael rhyw oruchwyliaeth efeng- ylaidd yn ninas fawr Llundain i ddiwygio y fath baganiaid.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TREULIAU LLYSOEDD CYFRAITIL—-Y mae cyfreithio hirfaith a dyrys newydd fod gvda golwg ar Destament, neu Lyth- vjyrnun, rhyw ben wr o'r enw Bagot. Nid oes dim a fynom ni ar hyn o bryd a manylion y prawf. Diameu fod y bar- gyfreithwyr yn ddoniol fel arferol; a dichon fod gwendidau neu. golliadau yn perthyn i'r hen Destamentwr. Ond y wers bwysicaf i ni o banes y prawf ydyw, fod trauly gyfraitb, heb gyfrif gwerth yr amser, a phwys y pryder, a llawer o bethau eraill, yn £25,000, neu bum' mil ar hug- ain o bunau. Gwell i bawb wneud eu goreu i geisio cadw allan o lysoedd" gog- onedd,us eyfraith y wlad.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DUKE OF WESTMINSTER.—Yr oedd ei araeth gref ddoniol o blaid rhyddid cref- yddol, a'i ganmoliaeth gynes i egniadau Ymneillduwyr o blaid crefydd ac addysg, ddydd Llun, Mai 20, wrth osod i lawr gareg sylfaen ysgoldy helaeth mewn cys- ylltiad a'r eglwys Gynulleidfaol Seisnig yn y Wyddgrug, nid yn unig 'yn aclios o lawenydd cryf i'r rhai oeddynt yn ei gwrando, ond dylanwada yn helaeth er addysg i holl foneddigion y deyrnas.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CARTHEEOSYDD LLUNDAUS1".—Y mae gwrtaith, neu "Sewage," dinas Llundain yn dros chwech ugain mil o filoedd o alwyni bob dydd. Y mae yr holl wrtaith yma yn cael ei olchi ymaith drwy garth- ffosydd drudfawr a heintus, nid i'r iir, ond i'r crfon.. Y mae yn cael ei arllwys i'r afoll Thamesryw ddeng milldir islaw y ddinas, prin deuddeg milldir islaw pont .Llundain. Y mae bron un ran o dair o lif yr afon yn Sewage, mewn gair, gellir galw yr hen afon Thames yn GARTIIFFOS agored fawr o'r elfenau gwaethaf er gwen- wyno y dwfr a'r awyr. Y mae llygriad y dwfr yn annarluniadwy. Araf iawn yr ymdreigla y gwrtaith yn ei fiaen-prin haner milldir bob dydd; a thrwy fod y carthfFosydd o hyd yn ymarllwys i'r afon, y mae yn myned yn fwvfwy budr ac afiach o hyd. Y mae poblogaeth y ddinas yn awr dros bedair miliwn, sef 4,225,000; ac yn ol rheol ei chynydd, bydd ei phoblog- aeth yn mhen hauer can' mlynedd-dros ddeng mil o filoedd, os na bydd i heintiau yrafonwenwyno ymaitbei phreswylwyr a'i gwneud yn angbyfanedd. Y mae yn ddychrynadwy i feddwl am afon Llundain fel rhyw Garthffos fawr ofnadwy, lawn o bliiau marwolaeth. KIIAID i awdurdodau Llundain astudio rhy w drefn newydd lai heintus a mwy buddiol, neu ynte bydd dyddiau eu dinas fawr enwog ar fyrder wedi eu rhifo. Cleddir ei phreswylwyr yn nghanol dirgeledigaethau gwenwynig ysgarthion ei charthfi'osydd; a'u byrddau swyddol ddylai gael y fraint o orwedd isaf yn ngwaelodion mynwent llygredlg- aethau ei budreddi.
AT EI GRASUSAF FAWRHYDI Y…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ANERCHIAD CENEDLAETHOL I'H FREN- IIINES AR FATElt HEDDWCH.—Derbyn- iasom y Gofeb ganlynol, yn ngliyda Chylchlyrhyr oddiwrth Ysgrifenydd y mudiad, yn erfyn arnom alw sylw y dar- llenwyr ati; a chan,ein bod yn hollol gy- meradwyo yr amcan, ac yn awyddus am weled heddwch yn cael. ei sefydlu etc ar seiliau cedyrn rhwng teyrnasoedd byd, nis gallwn wneud yn well na'i gosod yma, gan erfyn ar i bawb fydd yn caru Ilea ei wlad, achos heddwch, a llwyddiant crefydd ei harwyddo. Deallwn fod deuddeng mil o gopiau o'r Gofeb wedi eu hanfon i wa- hanol Gapeli ac Eglwysi y Dywysogaeth, fel na fydd achos i neb fod heb gyfle i ddangos eu hoehr. AT EI GRASUSAF FAWRHYDI Y FRENHINES. i Y Gofeb ostyngedig lion, o eiddo ei DetU laid ufudd a thru-tlicyrngarol yn Nhg* ivgsogccetJi Cymru, A DDENGYS, Ein bod, o dan yr AMGYLCHIADAU PRES. EJSTOL, yn ANGHYMERADWYORIIYFEJJ rhwng PjtYDAiN FAWR a UWSSIA fel peth AX- GIIYEIAWN a WALW am dano. Ein bod yn ystyried CYNNADLEDD o'r GALTJUOEDD LWROPAIDD Y MODDION MWYAE EFFETTIIIOL i sicrhau yfath drefn- iad ar y CWESIHWN DWYREINIOL aga ddiogela HEDDWCH PARHATJS a'n bod yn ostyngedig erfyn ar i'w Mawrhydi wneud a alio er IIYRWYDDO Y rroRDD I YMGYP- ARFYDlHAD prydlawn y cyfryw GYXNAD- LEDD, ac nad ydym yn credu fod un achos cyliawn yn lluddias hyny. Pan ymgynulla y Gynnadledd bono, yr ydym yn erfyn ar fod i ddylanwad Pryd- ain Fawr gael ei egnio ynddi er dwyn yn mlaen, a diogelu ar seiliau cedyrn, ryddid ac. iawn-lywodraethiad Tiriogaethau Crist- ionogol Twrci, yn ogystal a Thalaeth Montenegro, a tljrigolion y rhai yr ydym o'n calon yn cydymdeimlo yn ddwys. A bydd i'w Deiliaid ufudd a thejrn- garol ddeisyf yn barhaus.