Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

DYLEDSWYDD RHYDDFRYDWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYLEDSWYDD RHYDD- FRYDWYR. MAE y baco, diod feddwol, strikes, dysgu rhyfel, segurswyddwyr, a'r ballot yn anafu ein gwlad. Wrth gymeryd arm roddi ei Haw ar lygaid arglwyddi a stiwardiaid, y mae y ballot wedi rhoddi ei Haw ar lygaid y cyhoedd. Y mae pleidleisio yn gyhoeddus yn weithredo ddyledswydd i gael ei gwneud gerbron dynion a Duw; ac y mae lie i ofni fod y dosbarth sydd yn rhoddi pwys ar egwyddorion, ac yn cofio am lygad Duw, yn anaml; ac nid oes dim yn cydweddu yn well a Thoriaeth a thwyll na thywyU- wch y ballot. Y mae ein gwlad wedi teimlo hyny er ei galar; y mae y dafarn, a'r Eglwys, segurswyddwyr a strike, wedi ymbriodi o blaid Toriaeth, a hyny wedi dwyn ein gwlad i geulan dinystr. Yr unig waredigaeth fyddai etholiad gyffredinol, a gwneud y blaid Ryddfrydol gynil a diwyg- iadol yn ddigon cryf i drechu yr luddew a'i deulu. Y mae etholiad yn rhwym o ddyfod yn mben dwy flynedd, a gall ddyfod yn mhen ycbydig fisoedd. Yr hyn a rydd hawl i bleideb dros y tref- ydd yw, 1. Bod yn 21 oed. Bod yn ein ty flwyddyn cyn Gorph. 31, o flaen yr ethol- iad, wedi talu ein tretbi at gynal y tlodion, a'r dreth wedi ei thalu oedd yn ddyledus Gorph. 20. 2. Bod yn llawn oed, yn lletya mewn rhan o. dy, a thalu yn ol £ 10 y flwyddyn am ystafelloedd heb eu dodrefnu. Dros y siroedd. 1. Bod yn llawn oed. Meddianu ty neu dir gwerth £ 5 y flwyddyn. Byw yn y Ile, neu dderbyn Y,5 oddiwrtho am y chwe' mis terfynol y Gorph. o flaen yr etholiad. 2. Bod yn llawn oed. Trethiad at gynal y tlodion £ 12. Bod yn y lie 12 mis cyn y Gorph. 31 o flaen yr etholiad, ac wedi talu y dreth hyd Gorph. 20. Os bydd rhyw un yn meddu y naill neu y Hall o'r pethau uchod heb y bleideb, ac awydd ei chael, bydded iddo roddi gwybod- aeth i gasglwr trethoedd y tlodion. Mae yn swydd Gaernarfon yr hyn a elwir, "Cymdeithas Rhyddfrydwyr." Eu prif amcan yw edrych ar ol pleidebau, yn ol cynllun Birmingham. Buom yn rhai o'u cyfarfodydd. Ofnem eu bod fel cymdeith- asau yn gyffredinol yn meddwl gormod am yr organization, a rhy fach am y gwaith. Nid yr un pethau a atebant y dyben yn Nghymru ac yn Birmingham. Ai tybed nad yw y rheolau yn rhy fanwl, anhawdd eu deall, ac anhawdd i'w gweithio allan ? Gormod o gynllunio am swyddogion pwyll- gorau cyffredinol a gweithiol-ysgrifenwyr, casglwyr, a thrysorwyr; a pheidio symud ond yn ol rheolau Dymunem lwydd- iant i'r gymdeithas hon i roddi pleidebau yn nwylaw y rhai ydynt yn eu hawlio; ond yr ydym yn dadleu yn y modd difrif- olaf, yn enw gwleidyddiaeth a chrefydd, am i bob un ofalu drosto ei hun am fod ganddo bleideb erbyn y daw galwad. Gwrandawed ar resymau, edryched ar ffeithiau, a phenderfyned drosto ei hun i bwy y rhydd ei bleideb. Os yw yn tybied yn fuddiol i grefftau, masnachau, darllawyr, offeiriaid, rhyfelwyr, a segurwyr ladd pob masnach arall, a llethu pob egwyddor o iawnder, rhodded ei bleideb iddynt hwy; ond os myn gynildeb, sobrwydd, heddwch, rhyddid, a llwyddiant masnachol a chref- yddol, rhodded ei bleideb i bleidwyr y pethau hyn. Dymuniad Y CELT yw i bob etholwr ddarllen ac ymholi pa egwyddorion sy'n dwyn gyda hwy fendithion gwladol a chrefyddol, a bod yn hollol barod erbyn yr etholiad mynu sicrwydd pa beth yw egwyddorion yr ymgeisydd a broffesa bleidio vhyddid a diwygiad, ac edrych a yw ei fywyd wedi bod yn gyson a'i broffes. Ond pe cai y CELT ei lfordd ddyddiau yr etholiad, ni oddefai orfodi neb i bleidgeisio, na llusgo neb i'r bleidfan. Dirwyai bob stiward gwladol neu grefyddol a wnaent hyny. Os deuai llai o bleidebau yn mlaen, pa golled fyddai hyny? Deuai pob un sydd yn ystyried pwys yr ymddiritdaeth rodd- wyd iddo; ac y mae 120 yn gystal mwyaf- rif ar gant ag ydyw 1,200 ar fil-ateba y naill yr un dyben a'r llall; ac yn wir, byddai genym fwy o ymddiried mewn 120 a ddaethant i'r bleidfan o'u bodd, nac mewn 1,200 a lusgid yno; a dymunem i i bob un a welid yno ac arwydd diod, neu arogl diod feddwol arno, golli ei bleideb a phob ty a werthai ddiod feddwol o fewn milldir i'r lie, golli ei drwydded. Ond ofn- wn nad dyma yr hyn a geir tra bydd y Toriaid mewn awdurdod; o ganlyniad, nid oes ond gwneud ein goreu yn mhob ffordd gyfreithlon i fyned a'r awdurdod oddi- arnynt, cyn yr a ein gwlad yn ail Dwrci. Goddefer i ni chwanegu fod swyddogion stikes mor wir o fod yn Doriaid, a'u lles eu hunain ganddynt mewn golwg, a bod Beaconsfield felly. Maent naill ai heb ddeall egwyddorion rhyddfa&nach, neu y maent yn eu bradychu. Bu deddfau i atal rhyddfasnach mewn bara. Eu hamcan oed cadw pris y tir i fyny, a newynu y gweith- wyr; ond eu diddymu gododd brisiau tir- oedd, ac a lenwodd fyrddau gweithwyr d bara iacb. Cymera segurswyddwyr strikes arnynt mai eu hamcan yw cadw cyflogau gweithwyr i fyny; ond tynu cyflogau i lawr y maent. Cyfyngant ar gyflogau gweithwyr Prydain, drwy, ar un llaw, atal anturiaethau, a pheri i'r aur lechu yn y banciau, a rhoddi mantais ar y llaw arall i eraill gymeryd eu cyflogau oddiarnynt, Credwn y buasai gweithwyr Prydain heddyw mewn mwy o Iawnder nag erioed oni buasai segur-swyddwyr, strikes, medd- wdod, y drais offeiriadol, a rhyfeloedd. Ni all neb wneud mwy o niwaid i rydd- frydiaeth, na'r rhai ydynt yn Doriaid yn y cylchoedd agosaf atynt, ac yn Ryddfry. wyr yn y cylchoedd pell. Bu y rhai hyn yn hyned yn etholiad 1868. Dadieuent am ryddid yn y senedd, ond yr oeddynt yn ddigon Toriaidd gartref i ddymuno rhoddi ffon y gynadledd ar gefnau, cau drysau cyfarfodydd a chymanfaoedd yn erbyn y rhai na phlygent iddynt, a gwrth- od eu cyfarfod i weddio a phreg-ethu A chredwn mai dyma un o'r pethau drodd yr etholiadau mewn rhanau o Gymru yn erbyn Gladstone a'r Khyddfrydwyr yn 1873, sef etholiad cyntaf y baliot, Y mae Pharis- eaeth Rhyddfrydwyr yn eu pwyllgorau a'u cynadleddau gwladol a ehrefyddol wedi achosi niwaid arswydus i achos gogoneddus Rhyddfrydiaeth. J. R.

CYFANDIR AFFRICA.