Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

DYLEDSWYDD RHYDDFRYDWYR.

CYFANDIR AFFRICA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFANDIR AFFRICA. LLYN NYASSA. YN y blynyddoedd 1858-9, cawn Dr. Livingstone, ei frawd, Mr. Charles Living- stone, Dr. Kirk, a Mr. Thornton, yn nghyda lluaws eraill llai cyhoeddus, yn mordwyo afon fawr y Zambesi ar fwrdd agerlong fechan, yr hon a anfonasid iddynt o Loegr, er hwylysu eu gwaith o chwilio y wlad a sefyllfa y trigolion, ac agor mas- nach rhwng y penaethiaid ag Ewropiaid. Enw y llong oedd Ma-Robert, yr un enw ag oedd gan yr AffVicaniaid ar Mrs. Livingstone, sefmam Robert, yr hwn oedd ei mab hynaf, Gwnaethant lawer ber. daith i fyny ac i lawr ar hyd yr afon hon, ond Iled anhywaith y trodd y Ma-Robert allan, yn gymaint felly fel ag y darfu Livingstone roddi enw arall arni cyn bir, sef yr Asthmatic; a gweithiodd o hyny allan yn deilwng o'i henw Pan oedd y llong ar droion yn gollwng llawer o ddwfr i fewn i'r caban, ty biai y brodorion mai creaduriaid deurywiog yw y Seison, yn gallu byw ar y tir neu yn y dwfr fel y dewisont. Golygfa bur ddyeithr oedd yr agerlong i'r afonfeirch a'r efeinc, a gwnaeth yr olaf ruthr herfeiddiol tuag ati fwy nag unwaith, ond pan o fewn ychydig latheni iddi, tro- ent yn ol, gan gredu, mae yn dra thebyg, wrth weled ei symudiadau cyflym, a pwftVpwff yr ager, ei bod yn fath o fwyst- fil newydd, a'i fod fel liwythau yn lladd a llarpio bwystfilod llai. Diau fod ellaith yr olygfa ar y trigolion yn drydanol; o ran hyny, mae gweled dyn gwyn am y tro cyntaf yn fwy nas gall yr Affricaniad ddal. Dywed Du. Chaillti, yn haues ei deithiau mewn cwr arall o'r cyfandir, fod y pres- wylwyr mewn manau yn ff'oi rhagddo am eu bywyd, gan dystio wrfch eu cyfeillion eu bod wedi gweled ysbryd. Dywed Liv- ingstone hefyd fod rhywbeth mor ddych- rynllyd o wrthun yn yinddangosiad Ewropiad i'r dynion dnon, fel y gwnai llawer o honynt ffoi rhagddo mewn dych- ryn ac weithiau ymleda y dychryn hwn dros y creaduriaid direswm-y cwn a. fro- ant yn gynt na'u cynffonau, a'r ieir gan ysgrechain a ehedant i benau y tai, gan adael eu cywion i ymdaraw fel y gallont. Gwnaeth Livingstone gynyg fwy nag unwaith i fyned i fyny ar hyd afon Shire' yr hon sydd yn tarddu o lyn Nyassa, ac yn rhedeg i'r Zambesi, ond gan nad yw yr afon yn fordwyol i'w tharddle oblegid y cwympiadau sydd arni, bu raid iddo ef a'i bobl wneud y gweddill o'r daith ar eu traed. Pan o fewn taith diwrnod i'r llyn, dywedodd y brodorion wrtho fod ganddo o leiaf waith dau fis yn rhagor i deithio ar lan yr afon cyn cyrhaedd ei amcan, a bod y Shire yn llifo allan o'r Hyn rhwng creig- iau unionsyth, y rhai sydd yn ymgodi i'r cymylau. Ell hamcan oedd llwfrhau yr anturiaethwr, a pheri iddo droi yn ol. Pan glywodd y Makololo, sef gweision Livingstone, y newydd hwn, dywedasant wrtho, Gadewch i ni fyned yn ol i'r llong, ofer yw i ni geisio chwilio am y llyn." "Na, na," meddai yntau, ni a awn i weled y creigiau rbyfeddol hyny beth bynag." "Wei," meddent hwythau, ar ol eu gweled hwynt bydd arnoch eis- ieu gweled rhywbeth arall wed'yn." Gwir iawn yr oeddent wedi deall eu meistr yn hollol. Rhywbeth arall wed'yn" oedd arwyddair ei fywyd ef; wedi gorch- fygu un anhawsder, rhaid oedd dechreu ar un arall. Dranoeth i'r ymddyddan uchod, sef Medi 10, 1859, cafodd Livingstone y fraint o sefyll ar lan llyn Nyassa, ac ar- dderchog iddo oedd yr olygfa. Dywed ei bod o ran ffurf yn ymdebygu i Itali, ond fod blaen yr esgid yn gwynebu'r Dwyrain ac nid y Gorllewin. Ei hyd yw 210, a'i lied 26 o filldiroedd. Ceir eyflawnder o bysgod yn ei d&yfroedd, a brithir ei lanau gan C, bentrefi bychain, y rbai a breswylir gan ddynion cryfion a gweithgar, ond an.