Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"Gwerthir pob math o winoedd am y pris- iiiu iselaf yn B- £ s. D. y dwsin. Claret « ■<« <t « Rhine « « « « Moselle 4 C C4 44 Madeira Spanish, &c., &c.. Hefyd, y Whiskeys goreu am y prisiau iselaf. t, Gwnewch brawf aryreiddomni cyn prynu yn un lie arall. Cynelir Cyfarfod Chwarterol yr Annibyn- wyr yn nghapel Sion dyddiau Iau a Gwener. Y gynadledd am 10 y dydd cyntaf." Mae sobrwydd yn uchel iawn yn America mewn cymhariaeth i'r hyn ydyw yn y wlad hon, end gwelir hysbysiadau dirif yn nghol- ofnau eu neWyddiaduron Cymreig hwythau. Er enghraifft Y Llyfrgell Gristionogol," &c.; "Llyfr Hymnau y Trefnyddion Calfin- aidd," &c.; Yr hen Ystafelloedd Cwrw, maent yn a gored ddydd a nos, rhif Utica," &c.; Y tafarndy hynaf yn Phila- delphia—Gyou-y, cefnogwch Gymro Bydd Cymdeithas Ddirwestol Utica yn eadw ei gwyl flynyddol dydd Ll- a M-, pryd y bydd Mr. —— o G-, a Mr. —— o L- yno yn aieithio." Gallem feddwl yn sicr ei bod yn llawn bryd i bob newyddiadur sydd yn proffesu bod yn bleidwyr lhin wedd a chrefydd, a'i olygwyr yn bregethwyr yr efengyl, i gau eu colofnau yn erbyn hysbysiadau sydd mor niweidiol i bob daioni, dylent ymddidol a dyfod allan o'u canol hwynt, heb gyffwrdd a dim halogedig nac aflan, gan gasau hyd yn nod,hysbysiadau am ddiodydd meddwol. Mae'n debyg mai yr ateb fydd, eu bod yn talu yn dda. Wel, mae'n debyg ond gellid ateb hefyd i Judas gael tal da am wertbu ei Arglwydd, ond nid yw pecLod Judas yn cael son am dano fel pe ddim yn llai o herwydd y tal. Ciedwn hefyd y dylai diiwestwyr wrthod derbyn y papyrau sydd yn helaethu y fasnach feddwol ar bob llaw. v C i Yr eiddoch yn gywixy E. P. JONES. 4
EBENEZER, ABERTAWY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EBENEZER, ABERTAWY. CYNAMWYD Cyfarfod Chwarterol Undeb Gorlle- winol Morganwg yn y Capel uchod ar y dyddiau Mercher a Iau, Mai 24 a 23. Y noswaith gyntaf dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. D. Jones, B.A., Capel Seion a phregethwyd gan y Parchn. T. P. Evans, Ceinewydd; a J. Thomas, Bryn, Llanelli. Am 10-30 ddydd Iau, cynaliwyd y gynadledd o dan lywyddiaeth Dr. Rees, pan oedd yn bresenol y gweinidogion canlyDol, heblaw nifer luosog o ddiaconiaid ac aelodau eglwysi yr Undeb.:— Dr. Rees, D. Jones, B.A., B. Williams, Canaan; F. Samuel, W. Jenkins, Pentre; D. Jones, Cwm- bwrla: Daniels, Mynyddbach; R. Thomas, Glandwr; Davies, Jones, a Phillips, Treforis; Davies, Sketty; Davies, Mumbles; J. Thomas, Pontardulais; J. Thomas, Bryn, Llanelli; J. Edwards Jones, Brynaman; Jones, Penclawdd; Evans, Sciwen; Rees, Eglwysnewydd; Bevan, Waenarlwydd Rees, Cwmllynfell; Pritchard, Sciwen; Roberts, Castellnedd; Davies, Bethel; Stephens, Brynteg; Owens, Clydach; Owens, Fabians bay; a Jenkins, Llansamlet. Ar ol i Mr. Jenkins, Pentre, ddechreu trwy weddi, aethpwyd yn mlaen a gwaith y cyfarfod trwy i'r cadeirydd ofyn a oedd gan rai o'r gweinidogion rywbeth i osod o flaen y cyfarfod. 1. Cynygiwyd gan Dr. Rees, ac eiliwyd ef gan Mr. Jones, B.A., a phasiwydyn unfrydol, i ddau benderfyniad oddiwrth y gynadledd hon sydd yn cynrycluoli 46 o eglwysi i gael eu hanfon i'r Anrliydeddus W. E. Gladstone, y cyntaf yn anghymeradwyo y llywodraeth i'r eithaf, mewn iaith gref a nerthol, am ei bod yn parhau i dreio llusgo y wlad yma i ryfel a Rwsia. Yr ail oedd yn wahanol ei ysbryd, sef bod diolchgarwch y gynadledd hon yn cael ei roddi i Mr. Gladstone ac eraill, am eu hymdrech a'u ifyddlondeb yn gwrthdystio yn erbyn myned i ryfel heb achos ac angen am dano &c. Cariwyd y ddau bender- fyniad uchod yn unol a gwresog. Cynygiodd Mr. Jones, Penclawdd, a phasiwyd heb wrthwynebiad, fod y Parch. L. Davies, Sketty, i fod yn gadeirydd y cyfundeb am y flwyddyn nesaf, yn lie yr hen drefa, fod gweini- dog pob capel y byddai y cyfarfod ynddo yn gadeirydd iddo. 3. Rhoddodd Mr, Jones, Cwmbwrla, rybydd y byddai yn y Cyfarfod Chwarterol nesaf yn cynyg fod y ddau Gyfundeb, Gorllewinol a'r Deheuol yn cael eu huno a'u gilydd er ei gryfhau; ac iddo fod yn fwy effeithiol nag ydyw yn y dyfodol. 4. Cynygiwyd gan Mr. Jones, Capel Seion, ac eiliwyd ef gan Mr. Roberts, Castellnedd, bender- fyniad o gydymdeimlad dwys a'r Parch. D. Morgans, Resolven, yn ei gystudd, yr hwn sydd wedi bod yn wael iawn ei iechyd er ys misoedd, ac heb fod yn fawr gwell eto; ac yn taer ddy- muno ar i holl weinidogion y Cyfundeb roddi eu presenoldeb yn y gymanfa sydd yn cael ei chynal yno er ei galonogi a'i gysuro yn ei adfyd. Yn nesaf daeth Mr. Bevan, Waenarlwydd yn mlaen a'r achos Seisnig sydd yn Waenarlwydd, ac am iddynt fel cynadledd i roddi eu cymer- adwyaeth i un Mr. Nash, sydd yn supple i gael ei ordeinio iddynt yn weinidog, ond siaradodd rhai yn erbyn Mr. Nash fel un [anghymhwys i'r swydd; a daethpwyd i'r penderfyniad nad oedd yn iawn i'r cyfundeb Cymreig i wneuthur dim pellach a'r achos o herwydd rhyw resymau neillduol oedd gan rai brodyr yn y cyfarfod ond cymeradwywyd Mr. Nash a'i gyfeillion i fyned a'u hachos i Glamorgan & Carmartbenshire Association sydd yn cael ei chynal yn Fabians bay ar yr 21ain o Gorphenaf nesaf, fel y man mwyaf priodol i drafod y mater. Wedi byny darllenodd y Parch. W. E. Jones, Treforis, papyr ar I I Ganiadaeth y Cysegr." Yr oedd y traethawd hwn yn un gwir alluog. Taflodd allan luaws o awgrymiadau, a phe bai y cantor- ion a'r eg.wysi ond eu cymeryd i fyny, ceid gwelliant buan yn y canu cynulleidfaol. Sylw- odd y dylasai canu y cysegr fod yn ganu o addoli; a dylasai y gweinidog a'r diaconiaid fod yn bresenol mor ami ag oedd yn bosibl yn yr ysgol ganu, a dau o leiaf 'i weddio yn eu cyfarfod. Hefyd y dylai yr arweinydd canu fod o gymeriad pur, a dylai y canu fod yn gydweddol a'r bregeth bob amser; eto dylai arddull y canu. cynulleidfaol gael mwy o expression mewn manau neillduol. Hefyd dylai Cymanfaoedd Cerddorol gael eu cynal drwy ein heglwysi; ac nid canu am wobr chwaith, ond canu hen anthemau cysegredig a'r chantio nefolaidd, &c. Hefyd gwnaeth sylw neillduol am y priodoldeb o gael un Llyfr Hymnau a Thonau, yn He llawer o honynt, fel sydd genym yn bresenol-fod hyny yn anfantais i gael canu da, ac unoliaeth ynddo, yn ein cynulleidfaoedd. Dyna ychydig o'r awgrymiadau rhagorol a gawsom ar Ganiadaeth y Cysegr. Ar y diwedd siaradodd amryw frodyr ar faterion y papyr, mewn modd o ganmoliaeth iddo, a phasiwyd iddo gael ei gy- hoeddi mewn ryw ffurf neu gilydd. j Hefyd, penderfynwyd i gyflwyno i sylw yr Undeb Cynulleidfaol nesaf yn Llandilo y priodol- deb o gael un llyfr hymnau a thonau yn perthyn i'n henwad, a d'od allan ac ef o dan nawdd yr Undeb. Yna terfynwyd y gynadledd. Cafwyd cyfarfodydd pregethu yn y prydnawn a'r hwyr. Dechreuwyd gan y Parchn. Bevan, Waenarlwydd, a W. Pritchard, Sciwen, yn hynod effeithiol, a phregethwyd gan Rees, Eglwys Newydd Roberts, Castellnedd; Evans, Sciwen; Rees, Cwmllynfell; Jenkins, Llansamlet; a Thomas, Pontardulais. Yr oedd Mr. Rees wedi cael pwnc i bregethu arno, sef Bod i'r aelodau gynorthwyo y weinidogaeth trwy siarada'rgwran- dawyr." Cymerodd y wraig o Samaria fel testyn y bregeth, a phregethodd yn fendigedig. Gobeith- io y bydd llawer o wrandawyr y bregeth yn gwn- euthur yr un fath a'r wraig hon. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol yn mhob ystyr. Yr efengyl yn cael ei pbregethu gan y gweision mewn gwres, nerth, a dylanwad, fel y dywedir fod y cyfarfod hwn yn tra rhagori ar ei flaenor- iaid. Gobeithio y gwna les dirfawr i'r eglwys y cynaliwyd ef, ac i holl eglwysi y dref. Rhoddodd eglwys Ebenezer giniaw a the i'r oil o'r gweinidogion a'r aelodau oedd rhy bell iddynt fyned adref; a diolchwyd yn gynes i'r boneddig- esau a fu yn gwasanaethu y byrddau. Yr oedd pawb ar eu goreu yn ceisio cael pobpeth i derfyn- iad hapus; a gellir, gyda phriodoldeb, ddweycl ar ddiwedd yr wyl hon, "Mai da yw i ni fod yno, bod yr Arglwydd gyda ni, ac yn ein bendithio." W. D.
ABERDAR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERDAR. Cyfarfod dros heddwoh ac yn erbyn rhy fel.— Cynaliwyd cyfarfod pwysig o'r natur hyn yn Aberdar, dydd Iau, y 23ain o'r mis hwn. Cynaliwyd cynadledd gan gynrychiolwyr y dosbarth gweithiol am 11 o'r gloch y bore yn Temperance Hall. Mae yn debyg na ddaeth cymaint yn nghyd o gynrychiolwyr, ac oedd yn cael eu disgwyl. Yr oedd hyny i'w briodoli i'r hys- bysrwydd aeth allan na allasai H. Richard, Ysw.,A.S., ïe, ein baelod Anrhydeddus, fod yn bresenol. Er hyny, yr oedd yno gynrychiol- wyr o Merthyr, Aberdar, Cwm Rhondda, a Glyn Nedd, ac yr oeddynt yn cynrychioli 40, 300 o bersonau, a'r rhai hyny i gyd, ond 25, dros heddwch. Hawyr bach, beth allai fod mewn golwg gan y pump ar hugain hyn. Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr yn y Temperance Hall. Ac yn absenoldeb H. Richard, A.S., etholwyd D. Davies, Ysw., Maesyffynon i'r gadair. Sylwai y cadeirydd parchus wrth agor y cyfarfod fod yn dda ganddo mai y gweithwyr o honynt eu hunaiii oedd wedi symud yn mlaen i gael y cyfarfod 6 CY hwn. Dywedai fod yn ddrwg ganddo nad oedd Mr. Richard yn gallu bod yn bresenol, fel yr oedd yn cael ei ddysgwyl, ond yr oedd yn credu fod yno lawer yn gwybod y rheswm am hyny, sef, fod y Ty yn debyg o ranu y nos hono ar gynygiad pwysig Lord Harting- ton, a'i fod yntau am fod yn ei Ie i roddi ei vote gydag ef. Yna darllenodd y cadeirydd lythyr oddiwrth Mr. Richard ei hun yn cadarnhau yr hyn a awgrymwyd ganddo ef. Dywedai y cadeirydd ei fod ef gartref, ac na fuasai yn siarad llawer, fod ganddo brograme wrth ei law o siaradwyr galluog. Yna cynygiwyd gan weithiwr, Fod y cyf- arfod hwn yn hollol anghymeradwyo y cwrs mae y llywodraeth bresenol wedi ddilyn, ei bod, yn ol ein barn, wedi ymwrthod a llwybrau heddwch, ac wedi mabwysiadu mesurau olynol, y rhai y mae. eu tueddiad uniongyrchol i osod y wlad ar fin rhyfel dychrynllyd. Yna cafwyd araeth alluog iawn gan C. H. James, Ysw., Merthyf. Pasiwyd amryw o benderfyniadau eraill gyda golwg ar ddyledswydd y wladwriaeth, ac anogaeth ar y llywodiaeth i wrandaw ar lais y wlad. Cymerem ormod o ofod y CELT i ddyfynu y penderfyniadau a'r areithiau, yr oeddynt i gyd yn frwdfrydig iawn. Yr oedd y cyfarfod drwyddo yn un hynod o gynhyrfus, ond er hyny, ofnwn yn wir na wna" ddim mwy o effaith ar Arglwydd Beaconsfield na "dwr ar gefn hwyaden." GOHEBYDD. FFESTINIOG. Pwyllgor Rhyddfrydol.-Nos Iau, y 23ain cyf., cynaliwyd cyfarfod mewn cysylltiad a'r pwyllgor uchod yn ysgoldy Dolgaregddu. Pasiwyd ei bod yn bryd i ni, yn y gymydogaeth hon, ddechreu gweithio, ac ymnno yn y gofeb genedlaethol at Mr. Gladstone o blaid heddwah, a nodwyd ar bersonau i ymgymeryd a'r gvtfaith heb oedi. Catt y Tafarndai ar y Sabbath.-Yr un nos- waith, cynaliwyd cyfarfod yn yr Assembly Room, mewn cysylltiad a'r achos pwysig hwn. Llywydd D. LI. Lloyd, Ysw., U.H., Plasmeini. Cafwyd anerchiadau gwych gan y Parchedigion canlynol: —P. Howells, J. Roberts, D. Marriott, S. Owens, a J. Davies, M.A. Ni chaniata amser i ni ddy- fynu dim o'u hanerchiadau. Cyfarfod Llenyddol.—Nos Wener, y 24ain cyf., cynaliwyd Cyfarfod Llenyddol Undebol Tabernacl a Bethesda. Cymerwyd y gadair gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A. Clywsom fod y ddwy ysgol yn rhifo yn agos i 800. Haeddai y naill yu ogystal a'r llall ganmoliaeth uchel am ddysgu allan gymaint o air Duw. Pur ychydig oedd wedi ymgeisio ar y farddoniaeth, &c. Y ger- ddoriaeth heb fod i fynu a safon disgwyliadau. Gwobrwywyd mewn llyfrau yn unig werth £17. Cymaufa Undebol Annibynwyr BlodaiCr Oes, a gynhaliwyd yn Jerusalem, prydnawn Sadwrn ac am chwech. Llywydd, y Parch. P. Howells. Holwr y Parch. E. James, Nefyn. Holwyd y Plant am ddau o'r gloch, yn hanes Joseph, a "Dadl Hyfryd," gan Mri. E. R. E. a J. Ellis. Yr oedd MrjJames mewn hwyl anarferol, a'r ateb yn wir dda. Yn nghyfarfod chwech o'r gloch, cafwyd datganiad Cantata Joseph," gan yr holl gorau, yn cael eu harwain gan awdwr y Cantata, Mr. H. Davies, Garth, Ruabon. Cyfarfod Blynyddol.-Nos Wener, y 24 icyf., cynaliodd y Bedyddwyr eu cyfarfod blynyddol yn yr Assembly Room. Cafwyd gwasanaeth y Parch. T. Thomas, Caergybi, J. Jones, Llanberis, J. Jones (Mathetas). Mae yr enwad hwn yn myned ar gynydd yn gyflym, ac y maent wrth y gorch- wyl yn adgyweirio eu haddoldy. Cafwyd gweini- dogaeth dda, acarwyddion eglur o bresenoldeb Duw. TEEBOS MANOP,