Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA UNDEBOL ANNIBYNWYR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA UNDEBOL ANNIBYNWYR BRYN. MAWR, BLAINA, A LLANELLI. Cynaliwyd y Cymanfa uchod am y tro cyntaf yn y cwr hwn o'r wlad ar y dyddiau Sadwrn, Sul, a Llun, Mai 18fed, 19fed, a'r 20fe.l. Yr oedd dis- gwyliadau mawr am daui, darpariadau helaeth wedi eu trefnu ar ei chyfer, ac y mae llwyr fodd- lonrwydd wedi cael ei adael ar ei hoi. Y gweinidogion dewisol gan y gwahanol eglwysi oedd y rhai canlynolRehoboth, Parchn. J. Ossian Davies, Llanelli, a T. P. Evans, Ceinewydd; Bethesda, Parchn. J. Evans, Caer- fyrddin, a T. P. Phillips, Llandyssul; Berea, Parchn. T. Davies, Siloa, Llanelli, a Dr. Rees, Abertawe; Siloam, Parchn. L. Probert, Porth- madog, a Dr. J. Thomas, Liverpool. Yr oeddynt yn pregethu yn y gwahanol eglwysi ar gylch-nos Sadwrn am 7, dydd Sul, a nos Lun. Am 2 dydd Llun yr oedd Cyfeillach Gyffredinol yn Behoboth, Brynmawr, fel man canolog a cyfleua i'r gwahan- ol eglwysi yaigynull. Cymerwyd y gadair gan Mr. Williams, Berea; a decbreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan Mr. Griffiths, Cendl. Ar ol anerchiad byr gan y gadeirydd, yr hwn a amlygai ei foddlonrwydd am y cyfarfodydd campus a gafwyd, ac am yr arwyddion a gaed o bresenoldeb Daw y dydd blaenorol. Hyderai y byddai dylanwadan da yn canlyn yna galwodd ar y brodyr canlynol i siarad. Parch. T. P. Evans, Ceinewydd, a sylwodd ei ei fod wedi siarad mewn cyfeillachau fel yma o'r blaen, a'i fod bob amser yn cael agor y cyfarfod- ydd, dichou er liiwyn bocl yn esiampl i'r rhai a ganlynent drwy fod yn fyr. Cymerodd yn destyn "Yr Addoliad leuluaidd." Yr oedd yu ofiii fod y wlad yn colli gafael ar yr addoliad touluaidd. Hawdd deall mewn teulu pa un a yw y weddi deuluaidd mewn bri ai peidio. Byddai weithiau yn lletya mewn annedd lie yr oedd yn hawdd deall fod y weddi yn sefydliad dyeithr-y plant yn edrych mor syn a phe bai perygl gerllaw; ond mewn tai lie mae'r weddi mewn arferiad, mae hyd y nod y ci a'r gath a'r anifeiliaid yu deall fod yr awr wedi dyfod i fod yn ddistaw. Credai ei bod yn bwysig nid yn unig i weddio ein hunain, ond i ddysgu'r plant i weddio bob nos a boreu. Weithiau bydd plentyn a fagwyd mewn ty crefyddol yn colli bias ar ol myned o swn yr aelwyd; ond dysger plentyn i weddio drosto ei hun prin y gall golli hyny. Darllenais un tro am ferch fach yn gofyti ilw mam, "Pa bryd y

Y PULPUD, Y LLWYFAN, Y WASG.