Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

' MERTHYR TYDFIL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MERTHYR TYDFIL. "Saingar" am y tro olof.-Ni feddyliais am foment y buasai y cyfaill yma yn cwyno am i mi anfon ychydig eiriau i'r CELT y dydd o'r blaen mewn perthynas i Bwyllgor Anghydflurfiol Merthyr, Aberdar, a Dowlais." Ni fuasai angen Merthyr, Aberdar, a Dowlais." Ni fuasai angen i mi ddweyd gair ar y pwnc, oni bai fod yr hyn a ysgrifenai efe yn cyffeu mai "ycbydig bersonau ymyrgar" sydd yn cyfansoddi y pwyllgor uchod. Teimlais fel un o aelodau y pwyllgor ei bod yn ddyledswydd arnaf fynegu i ddarllenwyr y CELT fod aelodau y pwyllgor yma yn rhifo canoedd, ac yn eu plith holl weinidogion Anghydffurfiol y fwrdeisdref, a lluaws mawr o leygwyr o salie a dylanwad, a'r boneddwr parchus T. Williams, Ysw., U. H., Gwaelodygarth, yn gadeirydd ac mai nid ychydig bersonau ymyrgar," fel y dyw- ed ef ydynt. Gan fy mod wedi hysbysu y gwir- ionedd mewn perthynas i'r cwestiwn yma, ni bydd a wnelwyf ft a Samgar" yn mhellach: ond derbynied yr awgrymiad yma yn garedig, pan yn anfon ei gynyrchion i'r wasg o hyn allan, gofaled ysgrifenu y gwir, a dim ond y gwir. Hyd yn nod pe byddai eich gofod yn caniatau, ni fydd dim a ddywedir yn mhellach ganddo ef na minau ar y mater hwn o un dyddordeb i ddarllenwyr lluosog y CBLT. Llys yr heddgeidwaid.—Dydd Mercher diwedd- af gwysiwyd Mr. Thos. Thomas, Ironmonger, High st., Merthyr, i ymddangos o flaen Mr. Bishop, Y.H., am wneuthur ymosodiad ar Christ- opher Pulmnn, Town Crier. Ymddengys i Mr. Thomas.o gaa Pulman fyned. allgla o siop gyfagos perlhynol i Mr. Thomas, ac iddo yntau wrthod myned ar ei gais, a'r canlyniad fu iddo wtliio Pulman ar draws rhyw wraig oodd yn sefyll yn ymyl, nes i'r wraig ag yntflu syrthio i'r llawr. Dedfrydwyd ef i dalu 20s. a'r costau. Cantata Joseph.—Nos Iau diweddaf, Mai 2Bain, yn Bethel, capel y Bedyddwyr Seisuig yn George Town, gwnaeth cor Ainon, o dan arweiniad Mr. John Jones, berfi.rmio y cantata uchod, yn cael ei gyuorthwyo gan luaws. o gyfeillion o'r lie. Cy- .merwyd y gadair gan W. Harris, Ysw., ieu. Undeb yr Ysgoiion Sabbathol Scisrtig, Merthyr. — Cynaliwydcynadledd perthynol i'r Undeb uchod prydnawn dydd fau, yn Hope Chapel, pryd y cy- merwyd y gadair gan Mr. George James, y cadeir- ydd am y flwyddYll bresenol. Darllenu-yd amryw bapyrau ar faterion cysylltiedig a'r Ysgol Sab- bathol, gan Mr. R. Jones, Abermorlais School Mr. Rhys Dayies, Courtland Terrace a Mr. E. Watkins, Penydaran. Yna aed i gael te i ysgoldy Market Square, pryd y cyfranogodd tua 200 o'r danteithion oedd wedi eu parotoi. Am 7 o'r gloch cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus drachefn yn Hope Chapel,, o dan lywyddiaeth y Parch T. Evans, pryd y gwasanaethodd Miss Scott ar yr organ. Cafwyd cyfarfod dyddorol ac adeiladol iawn. Gweithjeydd Pit/mouth, ac Alternant. —Taenwyd y newydd dymunol drwy'r He er's ychydig ddydd- iau yn ol, fod y gweithfeydd uchod wedi eu gwertliu i gwmui o Scotch ond yruddengys erbyu yma nad oes gwirionedd yn y dywediad. Ym- ddan^osodd llytbyr oddiwrth Mr. W. Simons, Cyfreithiwr, yn y Western Mail, yn dweyd nad oelld y gweithfeydd wedi eu gwertliu; ac mai y fiaith fod y shareholders mwyaf y ewmnj presenol wedi prynu lluaws o'r shares lleiaf i'w meddiaut eu hunain yn ystod yr wythnosau diweddaf yma roditodd vent i'r stori am werthiad y gweithfeydd. Byddai yn llawen iawn genym ddeall eu bod wedi eu gwerihu.i ryw gwmni a fuasai yn debvg o'u hailgychwyn, a byddai yn Ilawenach f,ytli gan y miloedd hyny sydd yn ardal Merthyr yn dyoddef yn herwydd eu bod yn sefyll. Braidd yr un fath y mae pethau yn parbau yn y dref mewn ystyr fasnachol, trwy fod y ddau waith mawr sydd yma, sef Plymouth a Cyfarthfa, wedi sefyll, ac hyd yn hyn nid oes un argoel y cant eu hailgychwyn ychwaith. GOHEBVDD. PENYGROES. Temlyddiaeth Dda. Mae y sefydliad daionus yma wedi bod yn hynod flodeuog yn y pentref hwn rai blynyddau yn ol; ond erbyn hyn mae wedi coili tir dipyn gyda rhif, sol, a gweithgar- wch. Ond penderfynodd yr ycbydig sydd yma gael cyfarfod llenyddol, ac fei caed hefyd rhyw lun. Yr oeddym wedi nodi beirniaid da a galluog i ddyfod yina i feirniadu, ac fe ddaeth l'hai o honynt; ond drwg yw dweyd na ddaeth gwaith iddynt ond ychydig, ac ni ellir dweyd mewn un modd ein bod wedi cael cyfarfod da. Ond gobeithiaf y gwnawn fel Temlwyr Da pan yn bwriadu cael cyfarfod llenyddol eto, ofalu am ddynion cymwys yn bwyllgor, ac ysgrifenyddion a fydd yn deall ychydig ar y gwaith beth bynag, yn hytrach nag i'r cyfarfod fyned i gymaint o anrhefn eto. A. B. D.

EISTEDDFOD LLANBRYNMAIR.

[No title]

CYMANFA UNDEBOL ANNIBYNWYR…